10.07.2015 Views

Chwefror - Tafod Elai

Chwefror - Tafod Elai

Chwefror - Tafod Elai

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

tafod eláieCHWEFROR2013Rhif 274Pris 80cCymod Wedi’r Canrifoedd!Un o’r brwydrau pwysicaf yn ystod y Rhyfel Can Mlyneddoedd yr un gafodd ei hymladd ar eangderau gogledd Ffrainc yn1346. Yn ystod brwydr Crecy cafodd byddin Ffrainc eichoncro. Mae’n debyg bod cyfraniad saethwyr Llantrisantgyda’u bwâu hir dan arweiniad y Tywysog Du wedi bod ynallweddol yn y fuddugoliaeth honno.Yn nhref Crecy-en-Ponthieu, sydd tua 50 milltir i’r de oCalais, mae’r trigolion wedi adeiladu tŵr sy’n edrych drosfeysydd y frwydr ac yn egluro’n fanwl yr hyn ddigwyddodd.Mae cyfraniad bwawyr Llantrisant yn cael ei gofnodi yno.Beth sy a wnelo hyn â Llantrisant heddiw?Wel, mae cynlluniau ar y gweill i efeillio Llantrisant â Crecyac i’r perwyl hwnnw bydd Côr Meibion Llantrisant yn ymweldâ’r ardal yn ystod mis Mai. Byddan nhw’n ymweld â Crecy acyn cynnal cyngerdd yn Eglwys Gadeiriol Abbeville, tref ar aberafon Somme.Y gobaith yw y bydd trafodaethau swyddogol yn cael eucynnal yn ystod yr ymweliad a fydd yn arwain at weld gefeillioswyddogol rhwng y ddwy dref.O.N. Yn ôl coel gwlad, mae’r arferiad o godi dau fys at rywunyn tarddu o’r arwyddion y byddai bwawyr Llantrisant yn eucyfeirio at eu gwrthwynebwyr Ffrengig i ddangos bod y ddaufys roedden nhw’n eu defnyddio i dynnu llinyn y bwa yngweithio’n iawn ac yn barod amdanyn nhw.Hyderir na fydd cyfeiriad at hyn yn y trafodaethau! Hir oesi’r entente cordiale a pharhaed brawdgarwch!Cyngerdd Nadolig Ysgol LlanhariPerfformiodd ein plant cynradd yn eu sioe Nadolig gyntaf fisRhagfyr, ‘Stori’r Geni’. Wrth i’r rhieni gyrraedd yn llawncyffro, canodd Megan Thomas o Flwyddyn 10 garolau’rNadolig ar y delyn. Yna, aeth y mamau a’r tadau ati i eisteddyn y neuadd i fwynhau mins pei a gwin poeth a weinwyd ganddisgyblion Arlwyo Blwyddyn 12 cyn dechrau’r perfformiad.Canodd y plant yn wych ac roedd eu hymddygiad ar y llwyfanyn glodwiw. Rydyn ni fel staff yn falch iawn ohonynt.Y Fari Lwyd, Clwb y Dwrlyn, ym merw Tafarn y King’sDewch â rhaw!Diolch yn fawr i rieni a chyfeillion Ysgol Gynradd GymraegTonyrefail fu wrthi’n clirio llwybrau a Stryd yr Ysgol ei hun ermwyn eu gwneud yn ddiogel i’r plant fynd i’r ysgol. Adegllunio’r pwt hwn mae’r gorchwyl wedi’i gyflawni ddwywaithyn barod – gobeithio nad ‘Tri chynnig i Gymro’ fydd hi yn yrachos hwn. Gan fod ein garej ni gyferbyn â’r ysgol, dw i’narbennig o ddiolchgar i chi!Côr Ysgol Gynradd Garth OlwgLlongyfarchiadau i gôr yr ysgol am berfformio mor arbennigyn Neuadd Dewi Sant cyn y Nadolig.w w w . t a f e l a i . c o m

4 Tafod Elái Chwefror2013Hel Calennig yn Efail IsafGruffudd, mabHolly ac Alun (Pentyrch)Llyr ap Rhodri mab Rhodriac Alé Bowen (Creigiau)Gwenno Huws yn siarad gyda’rplant am eu gwaith fel awdures ynYsgol CreigiauGlanhau’r Eira yn Ysgol LlantrisantPriodas Aled Rogers ac AnnaMacDonald, CreigiauGwraig Mike Hayes, Prifathro Ysgol Coed y Gof, oeddwedi ei enwebu i dderbyn Dwynwen Menter CaerdyddCyngerdd Y Tri Tenor a Chôr y Mochyn Du,Capel Bethlehem, Gwaelod y Garth

6 Tafod Elái Chwefror2013Bethlehem,Gwaelod-y-garthTrefn yr Oedfaon (ar y Sul am 10:30a.m. oni nodir yn wahanol) :Mis Chwefror 2013:3ydd Parchedig Gareth Reynolds10fed Oedfa Gymun - Parchedig R.Alun Evans (Gweinidog)17eg Parchedig Dafydd Andrew Jones24ain Parchedig R. Alun Evans(Gweinidog)Mis Mawrth 2013:1af Cwrdd Gweddi Dydd Gŵyl Dewiam 9:30 a.m. [Sylwer]3ydd Gwasanaeth Gŵyl Dewi10fed Oedfa Gymun - Parchedig R.Alun Evans (Gweinidog)17eg Parchedig Cynwil Williams24ain Parchedig R. Alun Evans(Gweinidog)31ain Parchedig Jeff WilliamsYdy, mae bwrlwm y Nadolig drosodderbyn hyn, ond parhau am amser yn y cofa wna’r oedfaon a’r mynychddigwyddiadau a gynhaliwyd ymMethlehem, ac yn enw Bethlehem oddiallan i’r adeilad.Cafwyd y wledd arferol o ganu carolau,o gyflwyniad gan y plant (diolchHeulwen) a’r ieuenctid, y Plygain, yrymweld â Chartref Dyffryn Ffrwd, yNaw Llith a’r mins peis.Tarwch ambell i bregeth i mewn ynogystal, ac fe gewch ragflas yn unig obrysurdeb a dyfalbarhad yr aelodau achyfeillion yr eglwys yn cyfranogi iwneud dathlu’r Ŵyl yn bleser a mwynhadeto eleni.Yn ystod mis Rhagfyr hefydcynhaliwyd Cyngerdd Mawreddog i godiarian at yr elusen leol a ddewisiwyd i’wchefnogi am eleni, sef Ambiwlans AwyrCymru.Cafwyd gwledd o ganu yng nghwmni’r3 Tenor, sef Aled Hall, Alun Jenkins aRhys Meirion, Côr y Mochyn Du danfaton gofalus Marian Evans, ynghyd âCartin Dafydd, Rhodri Gomer a DelwynSion (Llun tudalen 4).Diolch i’r criw o bobl ifanc sy’n perthyni’r eglwys am drefnu’r Cyngerdd asicrhau llwyddiant ar y noson. Bydd yrAmbiwlans Awyr yn sicr ar ei hennill o’rherwydd.Digwyddiad arall o bwys yn ystod yrwythnosau diweddar oedd ethol pedwardiacon newydd i’r rhengoedd, a mawryw’n llongyfarchion a’n dymuniadau da iEirlys Davies (Pentyrch), Rhian Huws aGeraint Huws (Mynydd Caerffili) [mam amab – y cyntaf yn hanes Bethlehem siwro fod, a digwyddiad digon anarferol ynYSGOL GYNRADDGYMRAEGTONYREFAILYmddeoliadHoffwn longyfarch Mr Alan Fussell ar eiymddeoliad o Ysgol Gynradd GymraegTonyrefail, lle y bu’n ofalwr am bron iugain o flynyddoedd. Cyflwynwydanrheg a chardiau iddo gan y plant mewngwasanaeth arbennig. Dymunwnymddeoliad hir a dedwydd iddo.CroesoHoffwn estyn croeso cynnes i Mr WayneHolland, gofalwr newydd yr ysgol ac iMr Aled Hughes â fydd yn gweithio felathro yn yr adran iau. Croeso i’r tîm!unrhyw fan yng Nghymru fentraf i], aHuw Lloyd (Radur).O edrych ymlaen at weddill y gaeaf a’rgwanwyn, byddwn yn cynnal CwrddGweddi ar Ddydd Gŵyl Dewi Sant, achyfle bryd hynny i unrhyw un droi imewn am ysbaid i gynnig cyfraniad arlafar neu ar gân, neu hyd yn oed ifyfyrio’n dawel, a hynny am 9:30 a.m. ary 1af o Fawrth.Mae’r Cymdeithasau a’r Cyfarfodyddyn ystod yr wythnos wedi ail-afael yn eugweithgareddau wedi’r Ŵyl, a’r CwrddMerched ar gerdded, Cymdeithas DrwsAgored yn llenydda, ac Academi’r Garthyn dilyn yr Hen Destament, ond mewnffordd ddifyr a gwahanol, ac mae’r cyfanyn digwydd o fewn terfynau Bethlehem,ac mae ‘na groeso o hyd i unrhyw unymuno am weddill y tymor, neu hyd ynoed i gael blasu’r cwmni am un waith ynunig.Mae Bethlehem eisioes wedi dathlu 140mlwydd oed yr adeilad presennol yn ystod2012, sy’n gwneud eleni felly yn 141mlwydd oed. Oes ‘na rhywun chwantdathlu hynny hefyd tybed? Ynteu gwelldisgwyl tan 2022 a’r 150!Cofiwch y cynhelir Ysgol Sul i’r plantbob Sul heblaw am wyliau Ysgol a hynnyi gyd fynd ac amser yr oedfa am 10:30a.m.Cofiwch hefyd am wefan Bethlehemsydd i’w chanfod ar www.gwebethlehem.orgYmwelwch yn gyson â’rsafle i chwi gael y newyddion diweddarafam hynt a helynt yr eglwys a’i phobl.Hefyd mae gan Bethlehem gyfri trydar( t w i t t e r ) . D i l y n w c h n i a r@gwebethlehem.Os oes chwant troi i mewn i oedfarhywbryd yn y dyfodol, bydd croesotwymgalon yn eich disgwyl bob amserym Methlehem, Gwaelod-y-garth.Llongyfarchiadau!Llongyfarchiadau i Mrs Bethan Fletchera’i gŵr Nick ar enedigaeth eu mab bach,Harri Rhys.Bydd Miss Angharad Grant yn addysgudosbarth Blwyddyn 3 a 4 tra bod MrsFletcher ar gyfnod mamolaeth.Gwersi nofioMae blwyddyn 3 a 4 wedi dechraumynychu gwersi nofio bob bore Mercher,maent wrth eu boddau hyd yn hyn!Twrnament pêl-droedAeth criw o ferched blwyddyn 5 a 6 igynrychioli’r ysgol yn nhwrnament pêldroed7 bob ochr yng NghanolfanChwaraeon y Rhondda. Rhoddodd ymerched ymdrech ardderchog yn erbyn ytimau lleol eraill a chipion nhw'r trydyddsafle yn rownd gynderfynol y twrnament- campus!CRACh-Ffair NadoligCynhaliwyd Ffair Nadolig llwyddiannusyn yr ysgol, gyda chefnogaeth gref o rienia ffrindiau'n bresennol. Hoffwn ddiolchyn fawr iawn i aelodau’r GymdeithasRieni am drefnu ac i'r busnesau lleol a'rrhieni a gyfrannodd tuag at y raffl a'rstondinau. Roedd y stondinau creucrefftau Nadolig yn boblogaidd iawn.Diolch i ddisgyblion Blynyddoedd 5 a 6am helpu gyda’r stondinau a’r gwaithparatoi.Cyngherddau NadoligCafwyd nifer o gyngherddau amrywiol,lliwgar a llwyddiannus gan yr adrannau.Braf oedd gweld cymaint o rieni’ncefnogi. Hoffem ddiolch i’r holl blant ameu gwaith caled, roeddent wir ynhaeddu’r partïon Nadolig!Cinio NadoligDiolch yn fawr iawn i staff y gegin amginio Nadolig bendigedig unwaith eto.Roedd pawb wedi mwynhau - ynenwedig y staff!Horrible HistoriesFel rhan o thema’r Tuduriaid, aethdisgyblion yr Adran Iau i’r TheatrNewydd yng Nghaerdydd i weld sioeHorrible Histories. Roedd yr awyrgylchyn wych yn y theatr gyda phawb wrth euboddau yn chwerthin a joio.Ymweliad Siôn CornBu plant y dosbarth meithrin ar ymweliadi Barc Gweldig Dâr i weld Siôn Corn,cyn diwedd y tymor. Roedd y plant wedimwynhau sgwrsio yn Gymraeg gyda SiônCorn a derbyn eu anrhegion!Roedd yna wirioni a hen edrych ymlaenat ddiwedd y tymor yn yr ysgol hefyd.Diolch i’r Gymdeithas Rhieni roeddanrheg arbennig i bob plentyn gan yr henSiôn Corn.

Tafod Elái Chwefror2013 7Cymdeithas WyddonolCylch Caerdyddwww.mentercaerdydd.org029 20 689888Rhaglen Hyfforddiant trwy gyfrwng yGymraegMae Menter Caerd ydd , me wnpartneriaeth â Chyngor Caerdydd wedicydlynu rhaglen o gyrsiau hyfforddiantcyfrwng Cymraeg ar gyfer unigolionsy’n gweithio, sy’n astudio neu’ngobeithio dilyn gyrfaoedd ym meysyddgofal plant, addysg, chwarae neu waithieuenctid. Mae nifer o’r cyrsiau’ncynning achrediad Lefel 2, neudystysgrif/gymhwyster gan GyrffCenedlaethol a bydd y ffioedd cofrestruyn amrwyio o £30 i £80. Mae’rcyrsiau’n cynnwys Hylendid Bwyd,Amddiffyn Plant, Iechyd a Diogelwch,Hyrwyddo Ymddygiad Positif, CymorthCyntaf, Gweithio gyda Anableddau,Dyfarnu Rygbi URC a mwy, ac ar gael ibawb. Mae’r rhaglen lawn ar gael i’wlawrlwytho o wefan y Fenter –mentercaerdydd.org. Am fwy owybodaeth neu i dderbyn y wybodaethy n e l e c t r o n e g c y s y l l t wc h a gangharad@mentercaerdydd.org. Mae’rholl gyrsiau’n cael eu cynnal mewnpartneriaeth â Chyngor Caerdydd.Arddangosfa ‘Byw yn y Ddinas’ –Stori CaerdyddOs hoffech weld arddangosfa o fywydCymraeg y ddinas, ddoe a heddiw betham alw mewn i Stori Caerdydd, Yr HenLyfrgell ar yr Aes i weld arddangosfanewydd Menter Caerdydd ‘Byw yn yDdinas’. Bydd yr arddangosfa’n agor arFawrth y 1af ac yn parhau yn yr HenLyfrgell am 3 mis. Bydd yr arddangosfarhyngweithiol yn cynnwys lluniau,ystadegau, hanes y Gymraeg yn ygymuned, gwaith Menter Caerdydd aTafwyl, twf addysg yn y ddinas, 30mlynedd ers sefydlu Clwb Ifor Bach,clybiau chwaraeon, ffilmiau byrion allawer mwy. Mae bwriad i gynnalgweithdai a digwyddiadau i gyd-fyndâ’r arddangosfa a bydd y wybodaeth igyda i’w gael ar wefan Menter Caerdyda byddwn yn siwr o gynnwys ywybodaeth yma ar dudalennau’rDinesydd. Os am fwy o wybodaeth amarddanfosfa Stori Caerdydd ‘Byw yn yD d i n a s ’ c y s y l l t w c h âllinoswilliams@mentercaerdydd.orgCôr Plant CaerdyddMae Menter Caerdydd wedi dewis 80 oblant i fod yn rhan o Gôr PlantCaerdydd - côr Cymraeg newydd sy’ndechrau yng Nghaerdydd y mis Ionawrhwn. Cynhaliwyd clyweliadau agored idros 1000 o blant mewn 12 o ysgolionyn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr 2012cyn dewis yr 80 terfynol ar gyfer y Côr.Bydd y côr, dan arweiniad Mrs MarianEvans, yn cynnwys plant o flynyddoedd5 a 6 o bob ysgol gynradd Gymraeg yny ddinas. Bwriad y côr newydd fydddatblygu a dysgu sgiliau corawl, lleisiol,perfformio a chynnig cyfleoeddcymdeithasu gyda phlant o ysgoliongwahanol. Bydd y côr yn cwrdd ynfestri Capel Salem, Treganna, bob NosLun rhwng 4.30pm a 5.30pm ac yndechrau Nos Lun, Ionawr 21. Am fwy owybodaeth, neu os hoffech drefnuperfformiad gan Gôr Plant Caerdydd,p e i d i w c h o e d i c y s y l l t u âleanne@mentercaerdydd.org neuffoniwch 2068 9888.Twitter, Facebook a You TubeCofiwch bod gan y Fenter gyfrifonTwitter, Facebook a You Tube, a rydymyn diweddaru’r tudalennau’n aml, fellymae’n ffordd hawdd i glywed am yr hollnewyddion diweddaraf.Cwis y Mochyn DuBydd cwis yn cael ei gynnal Nos Sul,Chwefror 24 yn y Mochyn Du am 8pm.£1 y person. Mae croeso cynnes i bawb!Cofiwch bod y cwis ar Nos Sul olaf bobmis!Diolch yn fawr AwelHoffwn ddymuno pob hwyl i AwelDavies sydd yn ffarwelio a ni gyd yn yFenter ddiwedd mis Chwefror wrth iddiddechrau swydd newydd gydaChomisynydd y Gymraeg. Ers dechraugyda’r Fenter, mae Awel wedi datblygurhaglen gynhwysfawr a phoblogaidd ogyrsiau a dosbarthiadau i oedoliong y d a ’ r d y d d a n o s , t r e f n ugweithgareddau gwyliau i blant cynradda gofalu am gwis misol y Mochyn Du!Pob lwc i ti Awel a chofia gadw mewmcysylltiad!Yng nghyfarfod olaf 2012 (Rhagfyr3ydd) daeth Dr Hefin Jones atom i sônam ei gyfrifoldebau a’i obeithion yn eiswydd newydd, Deon y Coleg CymraegCenedlaethol. Cawsom hanes sefydlu’rColeg Ffederal a’r rhagolygon hyd yma.Yn sicr ddigon, dyma gyfnod cyffrousyn hanes addysg uwch yng Nghymru,dechreauadau mentrus ac adeiladwaitharloesol yn gwneud defnydd dychmyguso fanteision technoleg sy’n diddymu, iraddau helaeth, ddibyniaeth ar gyfleoddaddysg yn gaeth i leoliadau penodol.Mae’r cyfan o’r newyddion da hyn arwww.colegcymraeg.ac.uk a rhwngcloriau cyhoeddiad deniadol. Maepedair adran i’r ddapariaeth bynciol, yneu plith Y Gwyddorau sy’n cynnysa s t u d i a e t h a u d a e a r y d d i a e t h ,cyfrifiadureg, bioleg, biocemeg,amgylchedd, amaeth, mathemateg,ffiseg, peirianneg, cemeg.Mae’r fenter wedi cychwyn a’rarwyddion cynnar yn galonogol. O hynymlaen bydd cynnydd yn dibynnu arymateb ysgolion a disgyblion uwchraddCymru.Yng nghyfarfod cyntaf 2013 (Ionawr21ain) cawsom gwmni yr AthroEmeritws Gareth Roberts o Fangor. MaeGareth yn hen law ar drafod testun eianerchiad i ni, P o b l o ge iddioG wyd d o n i a e t h – yn e n we d i gmathemateg , disgyblaeth ei arbenigedd.Canolbwyntiodd ar fywyd a gwaithRobert Recorde (1530-1588) a aned ynNinbych – y – Pysgod lle maeamgueddfa newydd i’w anrhydeddu.Erbyn heddiw mae Recorde ynadnabyddus am greu’r arwydd = iddynodi ‘hafal i’, dwy linell gyflin sy’nhirach yn y gwreiddiol na’r ffurffgyfarwydd i ni. Ond aeth Gareth â ni ardaith adnabod y dyn a ymgyrchodd ynddygn i ddwyn cyfaredd mathemateg i’rwerin ac eraill, yn destun dileit adifyrrwch yn ogystal â bod ynddisgyblaeth weithredol ar gyfermasnach a diwydiant. Gwaetha’r modd,i lawer heddiw ac erstalwm, y weddweithredol, anniddorol a orfu. Mae llyfrGareth, Mae Pawb yn Cyfrif, agyhoeddwyd yn 2012, yn ceisiogwyrdroi hyn. Soniodd am ei brofiad ogeisio ennill sylw cyhoeddwyr Cymraegi fentro gyda’i lyfr. Sawl sylw beiddgar.Yn y drafodaeth eglurodd yr Athro ynsyml sut y gellir cyflwyno mathemateger mwyn porthi’r meddwl. Beth yw trisaith? – cwestiwn caeëdig gydag unateb, 21 NEU Os 21 yw’r ateb pagwestiwn/gwestiynau a holwyd?

8 Tafod Elái Chwefror2013

Tafod Elái Chwefror2013 9EFAIL ISAFGohebydd Lleol:Loreen WilliamsGwellhad BuanDymunwn yn dda i John Jones, Nant yFelin a dreuliodd rai dyddiau yn yr ysbytycyn y Nadolig.DyweddïoLlongyfarchiadau gwresog i Gareth Eyresa Catrin Lewis ar eu dyweddïad. MabDave a Rhian Eyres, Heol Iscoed ywGareth ac mae Catrin yn hanu o Bencoedger Penybont ar Ogwr.Merched y WawrFe ddaeth aelodau Cangen y Garth ynghydi ganolfan y Tabernacl nos Fercher,Rhagfyr 12fed a chawsom nosonardderchog yng nghwmni Ann Mears oGaerdydd. Bu Ann yn dangos inni sut idrefnu blodau ar gyfer y Nadolig/ gwnaethdorch hongian ar y drws ffrynt a threfniantunigryw wedi ei osod mewn parsel. Roeddy trefniadau bach unigol i’w gosod ar ybwrdd cinio yn ddeniadol iawn ond ytrefniant olaf un a osododd Ann mewnllestr tal oedd yr un a swynodd y merched.Daeth y cyfarfod i ben gyda phaned a minspei.Croesawu’r Flwyddyn NewyddYn ôl eu harfer bellach, daeth criw da oblant a’u rhieni i’n cyfarch ar Fore’r Calanym mhentref Efail Isaf. Gan fod yr arfer ogasglu Calennig yn prysur ddiflannu hydyn oed o’n hardaloedd Cymreiciaf, mae’nhyfryd gweld y plant a’u rheini’n cadw’rhen draddodiad yn fyw.Y Côr NewyddYng nghyfarfod cyntaf y côr eleni,dewiswyd enw i’r Côr. Penderfynwyd, ganein bod yn cyfarfod yn yr Efail Isaf, ar yrenw “Côr yr Einion.” Felly os ydych amymuno â Chôr yr Einion dewch i Ganolfany Tabernacl bob nos Iau am chwarter wedisaith. Byddwn yn falch i groesawu aelodaunewydd yn enwedig chwi denoriaid.Parti’r EfailTraddodiad arall sydd yn cael eiboblogeiddio yn ddiweddar yw’r arfer oganu plygain. Does neb, rwy’n siŵr yngwneud mwy o ymdrech i adfywio’r grefftna Pharti’r Efail. Bu aelodau’r parti’n canuyn Sain Ffagan adeg y Nadolig, yn EglwysPentyrch gyda Chlwb y Dwrlyn, ac yngNghapeli Gwaelod y Garth a Chaerffiliganol fis Ionawr.Y TABERNACLGweithgareddau’r NadoligBu llewyrch unwaith eto ar ddathliadau’rNadolig yn Y Tabernacl. CafwydGwasanaeth graenus iawn gan blant yrYsgol Sul, fore Sul, Rhagfyr 16eg. Roeddy capel yn orlawn. Cafodd y plant fynd iNeuadd y Pentre ar ôl yr oedfa i gael partia chael cyfarfod Siôn Corn. Tro teulu Twmoedd hi ar y Sul canlynol a chawsom oedfaddiddorol o dan lywyddiaeth LowriRoberts. Geraint Rees lywiodd yr OedfaNoswyl y Nadolig a daeth amryw o bartïonac unigolion i berfformio eitemau. Cafwydoedfa gofiadwy a chyfle i bawb gyfarch eigilydd a chroesawu’r Nadolig. Cynhaliwydcyngerdd blynyddol gan Gôr Godre’rGarth nos Sul y 9fed o Ragfyr. Ygwesteion oedd Côr y Cwm o’r Rhondda,a chafwyd canu gwefreiddiol gan y ddaugôr.PriodasLlongyfarchiadau i Anna MacDonald acAled Rogers ar eu priodas yng nghapel yTabernacl ar Ragfyr 31ain.Merched y CapelCynhaliwyd cyfarfod cyntaf y flwyddynhon o aelodau Merched y Capel yn YGanolfan ar ddydd Mercher, y nawfed oIonawr i drefnu rhaglen y tymor. Cafwydtrafodaeth frwd a chyfle i ddathlu penblwyddarbennig un o’r aelodau gydaphaned a theisen. Y cyfarfod nesaf fyddymweliad â Neuadd Dewi Sant i wrando argyngerdd gan Gerddorfa Symffoni’r ColegCerdd a Drama ddydd Mawrth, Chwefror5ed am 1 o’r gloch. Bydd cyfle i gyfarfodam hanner dydd am ginio yn y Neuadd.Cofio GwynethGyda gofid y clywsom ar Ragfyr 15fed amfarwolaeth annhymig Gwyneth MorusJones. Roedd Gwyneth wedi byw bywydllawn a gweithgar. Roedd yn amlwg ymmyd addysg a’r Eisteddfod. Bu’n LlywyddCenedlaethol Merched y Wawr, yngadeirydd a llywydd UCAC. Roedd hefydyn selog iawn ym myd crefydd ac ynddarpar lywydd Undeb yr Annibynwyr acwedi teithio i bellafoedd byd igynrychioli’r undeb. Roedd y tyrfaoedd addaeth ynghyd i Gapel y Tabernacl,Porthaethwy i’r Gwasanaeth Coffa yntystio i’r parch a oedd gan bobl led ledCymru tuag at Gwyneth.I aelodau hŷn Y Tabernacl, Efail Isaf,cofiwn amdani a’i gŵr Edward ynghyd âMair a Penri Jôs, ac Eirian ac Ann, wrthgwrs, yn chwistrellu bywyd newydd achwa o Gymreictod i’n heglwys ynchwedegau’r ganrif ddiwethaf. Cofiwn ynannwyl am Gwyneth ac estynnwn eincydymdeimlad diffuant i Edward, Awen aRhun a’r teulu.Trefn yr Oedfaon ar gyfer misChwefrorChwefror 3ydd Oedfa Gymun o dan ofalein GweinidogChwefror 10fed Y Parchedig AledEdwardsChwefror 17eg Mr Keith RowlandsChwefror 24ain Mrs Elenid JonesPONTYPRIDDGohebydd Lleol:Jayne ReesMerched y WawrJill Evans, Aelod Senedd Ewrop ywgwestai’r gangen mis yma. Sylwer ar ydyddiad newydd sef nos Iau, Chwefror14eg am 7.30 p.m. yn festri CapelSardis.Croeso i’r BabisGanwyd Celt ym mis Rhagfyr i EmmaO’Brian a Bedwyr Harries, HillsideView, Graigwen. Brawd bach newydd iWil. Llongyfarchiadau!Ym mis Ionawr fe gyrhaeddoddTomos Hywel - ail fab i Kate ac EmyrWyn Francis a brawd i Wil. Ŵyr bachnewydd i Dave a Margaret, ParcProspect. Dymuniadau gorau!Grŵp NewyddMae’r grŵp o Bontypridd ‘Y Rwtsh’wedi cael tipyn o gyhoeddusrwydd ynddiweddar. Cai Morgan a CarwynGeraint yw’r aelodau. Y ddau ohonyntyn gyn ddisgyblion Ysgol Evan James aRhydfelen. Byddant yn rhyddhau E.P.mis yma a dewiswyd un o’r caneuon argyfer ‘Trac yr Wythnos’ rhaglen radioCaryl a Daf mis diwethaf. Pob lwc bois!Clwb LlyfrauGohiriwyd cyfarfod mis diwethaf fellybyddwn yn trafod dau lyfr y tro nesafsef ‘Knock em cold, Kid’ gan ElaineMorgan a chyfrol Jerry Hunter‘Gwreiddyn Chwerw’.Dewch i’w trafod nos Fawrth,Chwefror 12fed yng Nghlwb y Bont am8.00p.m.Newyddion tristBu farw Ivona Evans ym mis Ionawr.Buodd hi a’i diweddar ŵr , Bryn yn bywy m M ho nt yp ridd a m ni fer oflynyddoedd. Buodd Bryn yn ddirprwybennaeth Ysgol Pont Sion Norton cynymddeol ac wedyn symud i ardalLlanelli.Sêr yr eiraDo, fe ddaeth yr eira ym mis Ionawr acar gais rhaglenni ‘Pnawn Da’ a ‘Heno’am lunie’r gwylwyr gwelwyd Gruff a’ichwaer Betsan yn gwneud dyn eira ynngardd mamgu a thadcu- Myfanwy aGareth Lloyd yn Y Parade.Buodd Guto, Cerys a Sioned yn brysurhefyd - roedd yn edrych fel petai eu dyneira nhw yn eistedd ar gefn fan!!

10 Tafod Elái Chwefror2013TONYREFAILGohebydd Lleol:Helen Prosser671577/prosserh@btinternet.comBrysia wella!Da iawn clywed bod Arwel Clements, disgybl blwyddyn 8 ynYsgol Llanhari, yn gwella ar ôl derbyn llawdriniaeth yn YsbytyTreforys yng nghanol yr eira mawr . Mae pawb yn gobeithiobyddi di’n holliach cyn bo hir Arwel. Brysia wella!C O R N E LY P L A N TDydd Gŵyl DewiYng Nghymru, rydym ni yn arfer dathlu DyddGwyl Dewi ar Fawrth y cyntaf bob blwyddyn, sefdiwrnod i gofio an Dewi Sant, nawddsantCymru.Rydym yn gwisgo Cennin Pedr ac yn bwyta cawlcennin a chig oen Cymreig ar y diwrnod hwn.Lliwich y llun.Mae mis Ionawr wedi bodyn oer iawn ac mae’rplentyn bach yma wedigwisgo côt fawr, cap, sgarffa menyg, ond allwch chisylwi ar 6 peth gwahanol yny ddau lun? Rhowch gylch og w m p a s y p e t h a ugwahanol.

Taith trwy DdeSbaenNid dyma’r llyfr Cymraeg cyntaf am Sbaen.Mae Roger Boore ei hun wedi cyhoeddi daulyfr arall, un am ddwyrain y wlad ac unarall am y berfeddwlad, a cheir ambell lyfrCymraeg arall am y wlad. Yn Saesneg,cafwyd clasur Jan Morris, Sbaen.I’r rhan fwyaf o bobl, y Costa Del Solyw’r Sbaen y gwyddant amdani, gan lanioym maes awyr Malaga a rhuthro fel cenfainto foch i ‘fwynhau’ haul Torremolinos neuMarbella, heb sylweddoli bod goludoedd ohanes – a hefyd o olygfeydd naturiol – yn ycefn gwlad. Nid ‘teithiwr talog’ felly moRoger Boore. Mae’n academydd wrth reddf,ac yn llenor galluog (fel y tystia’i gyfrolunigryw, Ymerodraeth y Cymry, nachafodd y sylw a haeddai).Diau bod teithwyr o Gymru yn fwycyfarwydd â dinasoedd gogleddol felBarcelona neu Bilbo (dibynna’r sillafiad arba ferswn ieithyddol a ddewisir), neu hydyn oed lwybr y pererinion i Santiago deCompostela, ond mae’n werth mynd iAndalucia hefyd, sef pwnc creiddiol ygyfrol bresennol. Yno gwelwn olion ygwareiddiad Mwslimaidd, a ddisodlwydgan Gristnogaeth, wrth gwrs. Gwelwn ytyndra a fu yn hanes y wlad ryfeddol acamlochrog hon. Byddai’n dda petai rhai o’rgenfaint a grybwyllwyd eisoes yn gweldolion y gwaed (trosiadol) ar furiauadeiladau dinasoedd fel Córdoba, Sevilla aGranada.Rhaid cyfaddef mai twrist yw Roger a’iwraig yn y parthau hyn, a chawn glywed ameu helyntion yn chwilio am westai ar hydffyrdd sydd bellach yn unffordd, ond o leiafmaent yn ymwybodol iawn o’r difrod y maetorfeydd o ymwelwyr yn ei wneud wrthdrampio ar hyd y parthau ‘cysegredig’ hyn:breuddwyd aml un ohonom yw cael llefyddfel hyn i ni’n hunain, ond hunanoldebcynhenid sy’n peri inni alw pawb arall yndwrist a ninnau’n hollol unigryw.Rhan fwyaf ffrwythlon (ond creulonhefyd) y gyfrol oedd y rhan a ganolbwyntiaiar y Rhyfel Cartref, ac yn arbenning arhanes marwolath erchyll Lorca.Mae hwn yn llyfr gwerth ei ddarllen, paun a fyddwch yn mynd i dde Sbaen neubeidio. Efallai y byddai ychydig o luniau’nei fywiogi – oni bai bod y rheini’n swnio’nrhy dwristaidd: wedi’r cwbwl, darluniotrwy eiriau a wna Roger Boore.John Rowlands[Adolygiad gan yr Athro John Rowlandsoddi ar www.gwales.com trwy ganiatâdCyngor Llyfrau Cymru.]Taith trwy Dde Sbaen gan Roger BooreGwasg y Dref Wen Pris £4.99Tafod EláiCChwefror2013C R O E S A I RL1 1 2 3 4 5 6 67 8 910 1112 11 13Ar Draws1. Eira (2)3. Tyrfa (2)4. Twyllo (5)10. Gwyrddlas (5)11. Brodor o’r Aifft (7)12. Lle i orffwys ar sedd (8)13. Hwyl (4)15. Disg gramaffon (6)17. Tanwydd i gerbyd (6)19. Had o’r dwyrain (4)20. Ymyl ffenestr neu lun (8)23. Dyma (7)24. Dal adar (5)25. Math o goeden (5)26. Gwenith, haidd ac ati (2)27. Plisg (2)I Lawr2. Diffuant(5)3. Mulaith (8)5. Serchu (4)6. Un sy’n anafu (7)7. Prawf llym (11)8. Whilber (5)16 17 1415 16 1724 1812 1319 18 20 2122 2523 24Dyma gyfle arall i chiennill Tocyn Llyfrau34 25 26 27239. Llechweddau craig (11)14. Campwr (8)16. Tamaid (7)18. Anrhydedd (5)21. Cymhwyso (5)22. Bryn (4)11Enillydd croesair Rhagfyr:Mrs Rhian Lloyd Jones, TontegAtebion i: Croesair Col34, Pen Bryn Hendy, Yr Encil,Meisgyn, Pontyclun. CF72 8QXerbyn 19 Chwefror2013Atebion RhagfyrD A T O D 3 4 B R I G OI A A M H U R A DG O F Y N A A 8 R IA O F E L U N D O DL E D I O E 11 Y DO O N E N T Y DD LN A G E P A 17 U N I G16 C G W A G L E E A20 E N 18 W 18 I G I A NC N A I F 25 A R F EN M E L I R I A DO D LL E CH F A 23 O IT L O T Y 30 S O N I G

12 Tafod Elái Chwefror2013Ysgol DolauCôr yr YsgolMae’r côr wedi bod yn brysur unwaith etoeleni yn perfformio yn y gymuned. Buontyn y Clwb Rygbi ddydd Iau, Rhagfyr 6edyn perfformio i’r henoed cyn rhoi dauberfformiad ddydd Sadwrn yng NgŵylGoed Nadolig Llantrisant a Llanharan.Roeddent yn canu hefyd yng NgwasanaethNadolig yr ysgol ym Methel, Eglwys yBedyddwyr.Ail-Gylchu Siôn CornGofynnodd aelodau’r Cyngor Eco i blant astaff yr ysgol ddod â’u sbwriel er mwyncreu Siôn Corn allan o adnoddau ailgylchu.Fe wnaethant ddefnyddioamrywiaeth o bethau gan gynnwys potelillaeth, amlenni Nadolig, caniau cola,pacedi losin a llawer mwy. Cafodd yCyngor Eco lawer o hwyl yn creu'r gwaithcelf enfawr ac roedd y Siôn Corn ar ydiwedd yn wych!Plannu CoedRoedd plant y Clwb Garddio a’r CyngorEco wrth eu boddau yn plannu coed ar diryr ysgol. Gyda help mawr Mrs. Marsdena Mr. Waters, fe wnaethant lwyddo iblannu dros 100 o goed! Mae pawb ynedrych ymlaen at weld y coed yn tyfu.Diwrnodau SgiliauCafwyd diwrnodau llawn hwyl a sbri arHydref 22ain a 23ain gyda phawb ymMlynyddoedd 1 a 2 yn gwisgo fel bodauarall fydol (staff hefyd!). Nod y diwrnodauoedd datblygu sgiliau gwrando. Roeddpawb wedi mwynhau, yn enwedig ygweithgareddau ble’r oedd rhaid gwisgosbectol blacowt!Cafodd CA2 ddiwrnod sgiliau ddyddGwener y 7fed o Ragfyr. Yn ystod ydiwrnod dysgom sgiliau mudol mân sefsgiliau cydlynu symudiadau bychaingyda'r dwylo a'r llygaid.Roedd y disgyblion wrth eu boddau ynmynd yn eu grwpiau o un gweithgaredd i'rllall. Bwriad y dydd oedd cynnig cyfle igeisio gwella'r sgiliau hyn ac i gael hwyl!Sgiliau megis teipio, torri gyda siswrn,addurno clai, addurno cacennau, origami asialens ffa pob Mr Hopton, lle'r oedd rhaidi ddisgyblion geisio trosglwyddo cymainto ffa pob o un plât i’r llall yn defnyddioffyn coctel!Gwersi IwcaliliMae holl ddisgyblion CA2 wedi bod ynderbyn gwersi iwcalili yn ystod y tymordiwethaf ac mae’n braf iawn clywed ydisgyblion yn dechrau canu gwahanolganeuon ar yr offerynnau. Gobeithio ycawn ni’r fraint o glywed y perfformiadcyntaf erbyn diwedd y flwyddyn!Cyngherddau Nadolig‘Gnome Alone’ oedd perfformiad gwych yCyfnod Sylfaen Saesneg eleni. Stori amgorrach bach oedd yn sâl eisiau helpu SiônCorn dros yr ŵyl. Canodd y plant ganeuonhyfryd yn ogystal â dweud eu geiriau’nglir iawn. Roedd eu gwisgoedd lliwgar ynedrych yn ardderchog. Rydyn ni’n falchiawn o’n plant!Eleni, cyflwynodd yr Adran Gymraeg ysioe Nadolig ‘Sêr Cyw’ , gyda phawb yngwisgo fel cymeriadau o ‘Cyw’ S4C.Darganfod gwir ystyr y Nadolig aphwysigrwydd y seren oedd thema’rsioe . Mae pawb wedi gweithio’n galed iddysgu’r geiriau a llwyth o ganeuonnewydd ar gyfer y sioe. Diolch i’r rhieniam y gwisgoedd llachar a lliwgar oeddwedi cyfrannu at hwyl perfformiad ein sêrni!Rheilffordd Fynyddig AberhondduAr fore oer a rhewllyd, gwisgodd yDosbarth Derbyn yn eu dillad cynnes ameu taith hudol i weld Siôn Corn arReilffordd Fynyddig Aberhonddu.Cyrhaeddom ni Orsaf y Pant, a chael eincroesawu’n gynnes gan yr Orsaf Feistr asŵn cerddoriaeth Nadoligaidd yn ycefndir. Gyda chwiban enfawr pwffiodd yrinjan allan o’r orsaf yn llawn cyffro. Bantâ ni! Chwilion ni am Siôn Corn a’ihelpwyr wrth i ni ganu caneuon Nadolig.Wrth gyrraedd y copa, roedd pawb yngyffrous tu hwnt i weld Siôn Corn ynchwifio a’i fola mawr yn rownd fel pêl.Roedd yn rhaid i ni benderfynu os oeddenni wedi bod yn dda neu’n ddrwg yn ystody flwyddyn, ac wrth gwrs , plant da syddyn y Dosbarth Derbyn! Rhoddodd SiônCorn llond fag o anrhegion i ni a gofyn ini fynd i’r gwely’n gynnar NoswylNadolig. Roedd hi’n ddiwrnod bendigedigac roedd pawb yn edrych ymlaen at DdyddNadolig.Yn y cyfamser, aeth disgyblionBlynyddoedd 1 a 2 i weld Siôn Corn ymMharc Treftadaeth Y Rhondda. Roeddhi’n ddiwrnod hyfryd a’r plant yn gwenuac yn gyffrous iawn i ddarganfod SiônCorn yn grombil y ddaear, ag anrhegion di-ri o'i gwmpas.Hyfedredd SeicloCafodd disgyblion hyfforddiant seiclo’nddiogel yn ystod mis Tachwedd.Dechreuodd y cwrs ar iard yr ysgol cynsymud ymlaen at seiclo ar heolydd lleol.Roedd prawf ar ddiwedd y gwersi allongyfarchiadau i’r disgyblion a oedd ynllwyddiannus.Tuduriaid TrafferthusMae CS 2 wedi bod yn dysgu llawer offeithiau diddorol ac ysgytwol am yTuduriaid yn ystod y tymor hwn! Buodd yplant yn ymchwilio’r pwnc, a chael hwylyn cynllunio a pharatoi bwyd yr oes.Cawsom ddiwrnod y Tuduriaid arbennigpan ddaeth Meistr John i siarad â ni.Roedd y plant a’r staff wedi gwisgo yn eugwisgoedd arbennig a dysgu dawnsfeyddcyn gorffen y diwrnod gyda gwleddfendigedigBore Rhyng-genedlaetholDaeth mamau cu a thadau cu i ymunoâ'n harweinwyr digidol ym Mlwyddyn 6 iddysgu sgiliau newydd gyda’r ‘i-pad’.Roedd pedwar grŵp yn dysgu am appsgwahanol. Roedden nhw’n synnu atwybodaeth y disgyblion a’r gallu idrosglwyddo’r wybodaeth. Erbyn diweddy bore roedden nhw’n medru dylunio ynsteil David Hockney, gwella sgiliau iaith amathemateg, cynhyrchu ffilm feranimeiddiedig a defnyddio ‘coaches eye’.Roedd y plant wrth eu boddau yn rhannueu sgiliau a gwybodaeth ac yn ddiolchgari’w neiniau a theidiau am ddod.Prosiect ‘Saff’Buodd PC Daniels yn ymweld âBlwyddyn 6 yn ystod y tymor gydaPhrosiect ‘SAFF’. Nod y prosiect yw codiymw yb yddiaeth am ymdd ygiadanghymdeithasol a cham-drin cyffuriauayb.Newyddion Y G.R.ARoedd y Ffair Nadolig eleni yn llwyddiantysgubol. Roedd Siôn Corn wedi ymweld âni a phawb yn mwynhau’r bwrlwm a’rhwyl . Codwyd £950 !! Diolch enfawr i’rstaff a rhieni am eu help yn ystod ynoson. Bydd llu o weithgareddau eraill ynystod y flwyddyn nesaf .Owen Griffith JonesDip RSLHyfforddiant PianoAthro piano profiadol,proffesiynol gydag agweddbositif a chreadigol.Arholiadau ABRSM (Perfformiada Theori) neu am bleser yn unig– croeso i bob oedran.Cysylltwch a mi i drafod eichanghenion.3 Graig CottagesMiskin, PontyclunCF72 8JRPrif Ffon : 01443 229479Ffon Symudol : 07902 845329

Ysgol Gynradd GymraegGarth OlwgTafod Elái Chwefror2013 13Ysgol y DolauYmweld â SiônCorn arReilffordd yBannauCyngor YsgolMwynheuodd y Cyngor Ysgol eu taith i Siop y Bont,Pontypridd i brynu llyfrau i'r ysgol.Gŵyl GerddRhCTCwrsSeiclo’nDdiogelLlongyfarchiadaui Nia Hughes aHollyChristopher ameu perfformiadyng NgwylGerdd RhCT ynEglwys GadeiriolLlandaf.Mali Fflur WilliamsLlongyfarchiadau i Mali arennill cystadleuaeth Brace'sBread i ddylunio cerdynNadoligCyngor Eco ynail-gylchu i greuSiôn CornGwersi FfrangegDiolch i Monsieur VincentGegaden am ddysgu Ffrangegi ddisgyblion blwyddyn 5 ytymor yma.Traws GwladL l o n g y f a r c h i a d a u iddisgyblion Blynyddoedd 5 a6 a fu'n cystadlu yngnghystadleuaethau TrawsGwlad y Sir a rhai De Cymru.Plant Mewn AngenDiolch i bawb a gododd arianar gyfer Plant Mewn Angeneleni. Codwyd £636.89.Ymweliad PC Sian JonesDiolch i PC Sian Jones amymweld a phlant Derbyn,Blwyddyn 1 a 2 yn ddiweddar.Trafodwyd ‘Pobl sy’n helpu’gyda’r plant. Roedd cyfle i unneu ddau wisgo fyny dyn heddluhefyd!Pêl-rwydLlongyfarchiadau i dîmpêl-rwyd yr ysgol ynnhwrnament yr Urdd. Feddaeth y tîm yn ail yn eugrŵp.

14 Tafod Elái Chwefror2013Ysgol LlanhariTaith yr Adran Fusnes i stadiwm C.P.D Dinas CaerdyddRoedd y bechgyn wrth eu bodd yn eistedd o amgylch y bwrddhanesyddol yn ystafell Cyfarwyddwyr C.P.D Dinas Caerdydd ynystod taith criw Busnes Bl.10 a 12 i'r stadiwm. Yma mae pobchwaraewyr yn arwyddo'i gytundeb â'r clwb. Cafodd y disgyblionbrofiad gwych wrth gael eu tywys i bob twll a chornel yn y clwb achlywed sut mae creu busnes llwyddiannus ym myd pêl-droed.Ychwanegiad annisgwyl i'r daith oedd cael arsylwi ar sesiwnhyfforddi'r tîm cyntaf, a gweld Craig Bellamy a'i gyfoedion ynymarfer ar y cae am fod y cae hyfforddi wedi rhewi - weithiaumae'r tywydd oer yn gweithio o'n plaid!Elusen Tŷ HafanElusen Blwyddyn 8 am eleni yw elusen Tŷ Hafan. Bydd pwyllgorelusennol y flwyddyn yn trefnu nifer o weithgareddau gydol yflwyddyn. Dechreuodd ein hymgyrch i godi arian eleni drwygynnal stondin gacennau, ac fe gawsom 100 o gacennau hyfrydgan y siop Greggs i'w gwerthu yn ystod yr amser egwyl. Diolch ynfawr i Greggs ac i'r pwyllgor am wneud y trefniadau.Rhys Rubery 8GLlangrannogYn ystod wythnos gyntaf mis Rhagfyr, aeth disgyblion Bl.8 ar euhymweliad blynyddol â Gwersyll Llangrannog. Roedd llawer oweithgareddau gwych i'w gwneud yno fel - dysgu sut i sgio,gwibgartio a rasio'ch ffrindiau i lawr y llethr, gyrru'r cwads, yceffylau neu'r trampolins! Fe gerddon ni i lawr i bentrefLlangrannog a chael hwyl ar y traeth cyn clywed hanes dant ycawr Bica sy'n sôn am y graig ryfedd ei siap sydd ynghanol ytraeth, a chamu i mewn i ogofau byd T.Llew Jones. Roedd ycabanau yn gyfforddus a'r bwyd yn hyfryd - cawson ni ginioNadolig yno! Roedd y SWOGS yn wych, yn cymryd rhan yn ygweithgareddau yn ystod y dydd ac yn helpu'r athrawon i drefnugweithgareddau'r nos, Fe wnes i fwynhau cael cyfle i ddod i'whadnabod. Diolch yn fawr i bawb ddaeth i Langrannog gyda ni -roedd yn wyliau i'w gofio!Rhian Clatworthy 8HStwnsh SadwrnCawson ni brofiad anhygoel ar y dydd Sadwrn cyn Nadolig pangafodd 6 ohonom ein gwahodd i gyd-gyflwyno'n fyw ar S4C!Faint ohonoch chi wnaeth ein gweld yn cael ein holi ac yn caelambell slepjan yn ein wynebau tybed? Y chwech lwcus gafoddflas ar y byd cyflwyno oedd Beca Harry, Beca Ellis, Ela Edwards,Courtney Edwards, Chloe Edmunds a Megan Cummings. Efallai ichi hefyd weld criw o fechgyn Bl.8 yn ymddangos ar y rhaglen yncreu dawns Haka newydd, ie, yr Haka Gymreig ar fore'r gêmrhwng Cymru a Seland Newydd ym mis Tachwedd. Efallai bodangen i chi ei dysgu i fois tîm rygbi Cymru er mwyn iddyn nhwgodi ofn ar y gelyn cyn Pencampwriaeth y 6 Gwlad?!Chloe Edmunds (8F)CerddoriaethLlongyfarchiadau i Dafydd Tudor, Blwyddyn 11. Yn ogystal âchael ei dderbyn i Gerddorfa Ieuenctid Cymru, mae hefyd wedicael ei dderbyn yn aelod o Gerddorfa Chwythbren IeuenctidCymru ar y basŵn. Y gamp lawn!Llongyfarchiadau i Hedydd Edge, Blwyddyn 13 ar gael ei derbynfel aelod wrth gefn i gerddorfa Ieuenctid Cymru ar y fiola.Arholiadau offerynnolLlongyfarchiadau i Carys Fowler ar ei gradd 7 ffidl yn ddiweddara Hedydd Edge am ennill gradd 8 anrhydedd ar y DelynGwasanaeth NadoligCynhaliwyd gwasanaeth Nadolig Ysgol Llanhari yn EglwysGatholig Meisgyn nos Lun yr 17eg o Ragfyr. Roeddwn i yn aelodo'r grwp llefaru iau ac fe wnes i fwynhau'r profiad o berfformio oflaen cynulleidfa mor fawr. Cafwyd perfformiadau cerddorol ganunigolion a grwpiau offerynnol, darlleniadau Beiblaidd ganunigolion o flynyddoedd amrywiol a pherfformiad gan gôr staff adisgyblion yr ysgol. Gwnaethpwyd casgliad o £200 tuag at yrelusen Tŷ Hafan ar ddiwedd y gwasanaeth. Roedd y gwasanaethyn ffordd hyfryd i orffen y tymor ac i greu teimlad Nadoligaidd ynbarod at y gwyliau.Courtney Edwards 8HDafydd TudorHedydd Edge

Tafod Elái Chwefror2013 15Luke Fletcher, Nia Oatley Bl 12 , Gwynfor Dafydd Bl 10a Mrs Carys Lewis o’r Adran Saesneg.Disgyblion yn dadansoddi DNAAr y 27ain o Dachwedd, aeth dosbarth Bioleg blwyddyn 12 a 13 iTechniquest ym Mae Caerdydd i gymryd rhan mewn gweithdyDNA. Pwrpas y diwrnod oedd darganfod mwy o wybodaeth amDNA ac i wella’r sgiliau ymarferol sydd yn hanfodol ar gyferarholiadau ymarferol Safon Uwch ac ar gyfer gweithio yn ydiwydiant gwyddonol yn y dyfodol. Mwynheuon ni i gyd wrthddadansoddi DNA ein hunain ac roedd y canlyniadau yn ddiddoroliawn! (Roedd yna hyd yn oed siawns i ni fod fel plant mawr eto ynystod ein 10 munud o allu chwarae gyda’r gweithgareddau ymmhrif ran Techniquest!) Diolch yn fawr i Miss Stansfield amdrefnu’r diwrnod hwn i ni!Siwan Henderson 12 BYmweliad PC Siân JonesDiolch yn fawr i PC Siân Jones am ymweld â ni yn adran gynraddYsgol Llanhari yn ddiweddar yn rhan o’n thema ‘Calon einCymuned’. Siaradodd gyda phlant yr adran feithrin a derbyn amei swydd fel plismones a dangosodd ei gwisg a’r arfau y maeplismyn yn eu cario wrth weithio o ddydd i ddydd.Taith i weld Siôn CornAeth disgyblion adran gynradd Ysgol Llanahri i Barc TreftadaethCwm Rhondda ar daith gyfrinachol i weld Sion Corn a’i deganwyryn ei ogof dan ddaear. Roedd dechrau’r daith yn gyffrous wrth i’rplant chwilio am gliwiau er mwyn dod o hyd i Sion Corn. Dimond goleuadau ysgafn oedd yn goleuo’r llwybr anwastad onddaethon ni o hyd i’r ogof yn y diwedd! Pan gyrhaeddon ni’r ogof,galwon ni ar Sion Corn a dyma fe’n ymddangos o’r simdde!Cafodd pawb anrheg arbennig ganddo cyn gadael - diwrnod llawnhwyl!Cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Y RotariYn dilyn llwyddiant Tîm Siarad Cyhoeddus Cymraeg yr ysgol ynrownd derfynol cystadleuaeth Youth Speak y Rotari ym misTachwedd, daeth ail dîm o’r Ysgol i’r brig ym mis Rhagfyr.Saesneg oedd y cyfrwng y tro hwn, ac aelodau’r tîm yma oeddLuke Fletcher a Nia Oatley o Flwyddyn 12 ( sef dau siaradwr fu’nllwyddiannus yn y gystadleuaeth Gymraeg) ynghyd â GwynforDafydd o Flwyddyn 10. Testun y tim oedd ‘ Pa mor wiranrhydeddus yw ein cynrichiolwyr gwleidyddol heddiw?’ Wediparatoadau trylwyr (a chyfle munud olaf i fynd dros y cyflwyniadgyda Mrs Lewis ar ôl gweld pa mor uchel oedd safon eugwrthwynebwyr), roedd pawb ar bigau’r drain yn aros am ydyfarniad. Roeddynt ar ben eu digon o glywed ymhen hir a hwyrmai Ysgol Llanhari oedd wedi ennill y gystadleuaeth gan sicrhaulle yn y rownd derfynol! I goroni popeth, enillodd Gwynfor y‘Cadeirydd Gorau’ a Nia ‘r ‘Diolchiadau Gorau’. Noson arbennig iLanhari.Ymweliad Myfyrwyr y Gyfraith i Lysoedd MerthyrDiolch byth gadwodd y Barnwr a’r Ynadon ni’n rhydd ar ôldiwrnod gwerthfawr yn Llysoedd Merthyr! Gwelwydgwrandawiadau dedfrydu ple euog, rheithgor yn tyngu llw arddechrau achos a chael sgwrs addysgedig gan y Barnwr ei hun, a’rclerc, yn Llys y Goron.Ymwelwyd hefyd â’r Llys Ynadon, gan weld cyfiawnder yn caelei weinyddu drwy gyfrwng cysylltiad fideo. Gan na drodd rhaidiffynyddion fyny i wrando eu hachos (!) manteisiwyd ar y cyfle iweld y ddau ynad yn delio gydag achosion gyrru ac yswiriant.Hefyd cafwyd siawns i sgwrsio a chyfweld clerc y llys hwn,cyfreithiwr, swyddog prawf, ac yn arbennig (40 munud o lith!)cyfreithiwr Gwasanaeth Erlyn y Goron.10 mas o ddeg oedd sgôr pob myfyriwr, ond un (9!) am werth yprofiad. Y darpar ymarferwyr y gyfraith oedd Cory Davies, LukeTurton, Luke Fletcher, Darian James, Rhys Matthews, LaurenMinnett, Aleyshia Shaw a Jade Thomas-Rowlands.Gan Colin PariD i s g y b l i o nG w a s a n a e t h a uCyhoeddus Blwyddyn13 Llanhari, GarthOlwg, Plasmawr, CwmRhymni a Rhydywaunyn cydweithio arFannau Brycheiniog.Ysgol Llanhari yn eira mis Ionawr

16 Tafod Elái Chwefror2013Siom i Glwb Rygbi PontypriddSiom ddaeth i ran Clwb RygbiPontypridd yng Nghwpan Prydain acIwerddon wrth fethu ac ennill lle ynrowndiau terfynol y gystadleuaeth.Roedd hyn er i’r tîm brofi crynlwyddiant yn y gemau rhagbrofol, ynennill tair, un yn gyfartal a cholli dimond un.Roedd Pontypridd mewn grwp anodd,yn herio tri chlwb cwbwl broffesiynnol– Leinster o’r Iwerddon a LeedsCarnegie a Jersey o Loegr.Roedd y gamp o guro Leedsddwywaith ac ennill y gêm gartref ynerbyn tîm A Leinster yn brawf o alluPontypridd i gystadlu ar y lefel uchaf.Oddi cartref yn Jersey y cafwyd y gêmgyfartal.Teithiodd Pontypridd i Ddulyn ar ailbenwythnos mis Ionawr igwrdd unwaith eto âLeinster gan wybod ybyddai’n rhaid ennill y gêmi gynnal y gobaith o sicrhaulle yn rownd go-gynderfynol y Cwpan.Chwaraewyd y gêm arfaes Donnybrook ac roeddgan Leinster dîm arbennig ogryf yn cynnwys trichwaraewr rhyngwladol llawn a nifer ochawaraewyr oedd wedi cynrychioli timA Iwerddon a charfan gyntaf y dalaithWyddelig a goncrodd Ewrop y tymorblaenorol.Roedd yn gêm y gallai Ponty fod wediei hennill o ran yr amryw gyfleon agrewyd a’r pwysau roddwyd ar linell ytim cartref yn ystod yr ailhanner. Sgoriodd canolwrdawnus Leinster, BrendanM a c k e n , d d a u g a i styngedfennol bob ochor i’regwyl i gipio’r fuddugoliaethfodd bynnag.Wedi i’w gêm gartref ynerbyn Jersey gael ei gohiriooherwydd yr eira mawr ddyddSadwrn 19fed o Ionawr, rhaidoedd i Bontypridd droi eugolygon at y gêm rhwng Leeds aLeinster yr un diwrnod. Roedd angengem gyfartal ar y tîm o Iwerddon isicrhau’r safle uchaf fel pencampwyr ygrwp. Er i Leeds fynd ar y blaen amgyfnod hir, unwaith eto dangosoddLeinster eu grym a’u gallu i dynnu nol agorffen y gêm yn gyfartal 30 pwynt yrun.Dyna ddiwedd ar obeithion Ponty yngNghwpan Prydain ac Iwerddon ameleni, ond yn sicr gall y garfan fod ynfalch o’u hymdrechion a symud ymlaeni amddiffyn eu statws fel pencampwyrUwch Adran Cymru.Mae diweddglo cyffrous i’r tymorunwaith eto yn debygol. I ddilyn hyntClwb Rygbi Pontypridd, ymwelwch a’rwefan, www.ponty.net

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!