12.07.2015 Views

Mai - Tafod Elai

Mai - Tafod Elai

Mai - Tafod Elai

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Tafod Elái Mai 2013 3GWAELOD YGARTH AFFYNNON TAFGohebydd Lleol: June HuwsPriodasPriodwyd Laura Evans a Lee Pinney ynddiweddar. Mae Laura yn ferch i John aHazel Evans, Ty Llwyd, Gwaelod-y-garthac mae Lee yn wreiddiol o Cwm, yngNgwent. Mae Lee yn gweithio i GyngorSir Caerffili a Laura yn gweithio i GyngorGofal Cymru. Mae’r ddau wediymgartrefu yn Llanbradach. Dymyniadaugorau iddynt ar gyfer y dyfodol.HyrwyddwrDwyieithrwydd ColegMorgannwgGyda chymorth ariannol mae ColegMorgannwg wedi penodi HyrwyddwrDwyieithrwydd newydd. Bydd y swyddognewydd, sef Jamie Bevan o FerthyrTudful, yn gyfrifol am ehangu a datblygudarpariaeth Gymraeg y coleg ar draws y trichampws. Bydd Jamie wedi ei leoli arGampws newydd Nantgarw ond fe fyddhefyd yn gweithio yng ngholeg Aberdâra’r Rhondda.Efallai bydd rhai ohonoch yn nabodJamie am ei waith gyda Menter Merthyr aChymdeithas yr Iaith. Mae e hefyd ynparhau gyda’i waith fel tiwtor Cymraeg iOedolion gyda Chanolfan CiOMorgannwg.Meddai Jamie: ‘Dwi wirioneddol ynedrych ymlaen at fy swydd newydd. Maeproblem gyda phobol ifanc yn gadaelysgolion cyfrwng Cymraeg a’r Gymraegyn cael ei gadael tu ôl iddynt. Dwi’nedrych ymlaen at gael rôl mewn newid ytueddiad hwnna. Mae gyda’r colegauaddysg bellach rôl bwysig i chwarae wrthnewid agweddau pobol ifanc tuag at yrIaith yn ogystal ag hyfforddi gweithluoeddCymraeg y dyfodol.’Dros y misoedd nesaf fe fydd modiwlauCymraeg yn cael eu cyflwyno yn ogystalag ehangu ar y ddarpariaeth ddwyieithogar gyrsiau’r coleg. Fe fydd hefyd cymorthpellach i staff a myfyrwyr sydd amddefnyddio’u Cymraeg ac i’r rheini syddam fagu hyder a gwella’u sgiliauieithyddol.Mae Jamie yn gwahodd unrhyw un syddam gysylltu, staff, myfyrwyr, darparfyfyrwyr a’r cyhoedd, sydd ag unrhywymholiadau parthed y Gymraeg a CholegMorgannwg i gysylltu â fe, naill ai trwy e-bostJ.Bevan@morgannwg.ac.uk neu trwyffonio’r coleg ar 01443 662800TONYREFAILGohebydd Lleol:Helen Prosser671577/prosserh@btinternet.comPen-blwydd Hapus yn 90 oedY mis diwethaf, buom yn dymuno penblwyddhapus i DJ Davies yn 90 oed. Ymis yma mae’n ben-blwydd arbennig arun arall o ddarllenwyr Y Tafod, sefMarian Llywellyn. Ar ôl cyfnod yn yrysbyty eleni, mae Marian wedi gwella’ndda a chael cyfle i ddathlu pen-blwyddarbennig mewn o leiaf tri dathliad –gyda’i theulu, gyda’i chyfeillion agyda’i chyd-aelodau o Bwyllgor CodiArian Ymchwil Cansyr Tonyrefail.Marian yw ysgrifennydd y pwyllgorhwn ers blynyddoedd mawr. Diolch ichi am eich gwaith pwysig a phenblwyddhapus oddi wrth ddarllenwyrTafod Elái.Marian gyda’i chyfaill JayneCylch Meithrin TonyrefailMae’r Cylch Meithrin yn ffynnu ac wediymestyn ei oriau agor i bum diwrnod yrwythnos. Oherwydd hyn, mae’r sesiwnTi a Fi wedi newid ei amser i 12.30pm-2.30pm bob dydd Gwener, gyda chinioiach yn cael ei weini am 1pm.Mae’r staff a’r plant wedi bod wrthi’nbrysur yn codi arian - £30 ar ddiwrnod yTrwynau Coch a dros £200 ar DdiwrnodHwyl a Sbri’r Pasg.Nos Lun, 18fed o Fawrth, daeth DrEmyr Lloyd-Evans i siarad â ni am eiwaith yn adran y Biowyddorau ymMhrifysgol Caerdydd. Mae e'n gweithioar lysosomau, rhan o beirianwaithailgylchu y gell, a'r clefydau sy'ndigwydd pan fo nam ar y lysosom.Mae'r grwp yma o tua 50 o glefydau,gan fwyaf yn rhai niwrolegol, yn lledbrin, ond efallai y rhai mwyaf enwog ywclefyd Gaucher a chlefyd Niemann-Pick. Esboniodd Emyr sut roedd rhai o'rsymptomau o'r clefydau yma yn debygiawn i glefydau Parkinson a AltzheimersPONTYPRIDDGohebydd Lleol:Jayne ReesMerched y WawrDelyth Rhisiart yw siaradwraig wadd MisMai. Dewch i wrando arni yn trafod‘Digartrefedd’ yn Festri Capel Sardis nosIau Mai 9fed am 7.30p.m.Angen cadw’n ystwyth? Fe ddaw MariRhys atom unwaith eto i wneud ioga-nosIau Mehefin 13egOes mwy o fagiau llaw ‘da chi??Clwb LlyfrauByddwn yn cwrdd yng Nghlwb y Bont nosFawrth Mai 14 eg am 8.00p.m. Dewch idrafod y llyfrau Saesneg y buoch yndarllen yn ddiweddar.Y gyfrol dan sylw ym mis Mehefin ywnofel Gwen Parrott ‘Cyw Melyn y Fall’-nos Fawrth Mehefin 18fed am 8.00Babi newyddGanwyd mab i Rhianydda’i gwr Nicky- croeso mawri Jimmy Maguire. Maent ynb y w y m M e d w a s .Llongyfarchiadau hefyd imamgu a thadcu, Gaynor aTrevor Evans, LanwoodRoad, Graigwen.Y Gymdeithas WyddonolLlongyfarchiadauDymuniadau gorau i Lowri Mared a MarcReal. Priodwyd y ddau yng NghastellCaerffili ar un o’r diwrnodau oeraf ymMis Mawrth ond cafwyd diwrnodardderchog er gwaetha’ tywydd.Unigferch Delyth a Graham Davies, Cilfynyddyw Lowri a mae Marc yn fab i Tony aChris Real, Tonteg. Brawd Marc, Richardoedd ei was a’r morynion oedd LowriMair Jones, Marged Haf Wyatt a RhianMorgan. Y criw i gyd yn gyn ddisgyblionRhydfelen a Llanhari. Aethant ar eu mismel i Wlad yr Ia a maent wedi ymgartrefuyn Grangetown, Caerdydd.a sut gallai triniaethau i'r clefydaulysosom fod yn ffordd o ddatblyguffyrdd o drin y clefydau eraill yma.Soniodd hefyd am y posibilrwydd oddatblygu triniaethau i'r diciâu syddddim yn dibynnu ar gwrthfiotig - testunamserol iawn! Roedd diddordeb mawrgen i glywed am y gwaith a wnaed areffeithiau llesol y cemegyn circuminsydd yn bresennol yn y sbeis twrmeric -cynhwysyn pwysig mewn llawer cyri.Felly mae'n swyddogol, gall cyri fod yndda i chi!

4 Tafod Elái Mai 2013CREIGIAUGohebydd Lleol:Nia Williams029 20890979Adran Bro TafMae Daniel Jones, Iestyn Jones, AledRobbins a Josh Morgan wedi bod ynllwyddiannus iawn gyda adran Bro Tafeto eleni. Byddant yn cystadluyn Eisteddfod yr Urdd, Boncath yn ycystadlaethau dawnsio gwerin grŵp,clocsio grŵp, cân actol a grŵp llefaru.Fe dalodd yr holl ymarferion ar eucanfed. Diolch i'r athrawon am euhamser a'u hymroddiad. Pob lwc bawb!Gwnewch eich gorau a joiwch! Byddwnyn dilyn eich hanes tua'r gorllewin!Dr. Catrin MiddletonLlongyfarchiadau gwresog Catrin arennill dy ddoethuriaeth o BrifysgolNottingham. Nid ar chwarae bach daethy teitl yna i'th ran. Y Dr Middletoncyntaf yn y teulu, ynte? Maes ymchwilCatrin oedd ceisio canfod prawfdeiagnostig cynnar i gancr yr afu. Maebellach yn parhau efo'i hastudiaeth ynLlundain. Gwaith hynod bwysig, hynodddylanwadol. Pob dymuniad da i ti i'rdyfodol.Geni BrynLlongyfarchiadau mawr i Alun aCarly Thomas, Llansamlet arenedigaeth eu babi bach cyntaf!Ganwyd Bryn Lewis Arthur ar 19Mawrth 2013. Cefnder bach i Casi,Nel, Caitlin a Deiniol. Cliws ynfan'na? Wel - mae e'n ŵyr bach iDr Don a Trish Thomas hefyd -mam-gu a thad-cu balch iawn!Croeso i'r byd Bryn!Pen-blwydd priodas ruddemhapusLlongyfarchion Wynff a Meira arddathlu deugain mlynedd o fywydpriodasol ar y 23ain o Ebrill!Lluniau hyfryd ar Facebook - brafgweld y teulu i gyd yn mwynhau'rdathliad!Crys Rhyngwladol Grav yn codi £400i Ysbyty Plant CymruGenedigaethau PentyrchLlongyfarchiadau i Siân aJohn ar enedigaeth yrefeilliaid Ela ac Owen, yngwmni i Nansi fach.Llongyfarchiadau i Saraac Aled Davies arenedigaeth Elis Morgan.Neuadd y Dref, LlantrisantCafodd Crys Grav ei gyflwyno gan deulu Jim Parcnest ac feddywedodd: ‘Pan oedd fy mab, Bedwyr, yn ei flwyddyn olafyn Ysgol Gynradd Y Dderwen, Caerfyrddin, fe ennilloddgystadleuaeth arlunio ar raglen deledu Miri Mawr. Y wobroedd y crys rhyngwladol a wisgodd Grav yn ei ail gêm drosGymru, sef y gêm yn erbyn Lloegr, Chwefror 1975. DaethGrav i’r stiwdio i gyflwyno’r crys i Bedwyr. Ar ôl gwerthu’rcrys yn Eisteddfod Y Mochyn yn Mawrth eleni, dymuniadBedwyr yw rhoi’r elw i Ysbyty Plant Cymru’.Codwyd £400 yn yr arwerthiant, ac fe fydd crys Grav yncael ei arddangos gyda balchder yn ei gartref newydd sef YMochyn Du yng Nghaerdydd.Yn y llun: Huw Llywelyn Davies (Yr Arwerthwr a LlywyddEisteddfod Y Mochyn Du), Jim Parcnest a Gareth Huws o’rMochyn Du yn cyflwyno’r siec am £400 i Jasmine Ahearn oApel Arch Noa / Ysbyty Plant Cymru.

Tafod Elái Mai 2013 5LLANTRISANTGROESFAENMEISGYNGohebydd y Mis:Siân CadiforCymdeithas Gymraeg Llantrisant.Erbyn hyn mae dyddiad taith yGymdeithas i Gaerfyrddin wedi eibenderfynu, sef dydd Sadwrn, Mai’r11eg. Os hoffech chi ymuno gyda nhwcysylltwch â’ch cynrychiolydd lleol.Penblwydd HapusLlongyfarchiadau i Alan James,Portreeve Close, Llantrisant, a ddathloddbenblwydd arbennig iawn ddiwedd misEbrill!Pwll nofio LlantrisantMae’r pwll nofio yng NghanolfanHamdden Llantrisant wedi ail-agor erspythefnos, ar ôl cael ei adnewyddu felrhan o’r gwaith ar y Ganolfan. Mae ynaraglen lawn o wersi a gweithgareddau, argyfer yr hen a’r ifanc. Hefyd gallteuluoedd a phlant o dan 16 oed gofrestruar gyfer defnyddio’r pwll yn rhad ac amddim.Gwellhad buanDymunwn wellhad buan i GwendaVoisey o Donysguboriau a dorrodd eibraich dde mewn dau fan wrth gwympoyn ddiweddar.Posteri dwyieithogCafodd Geraint Price berswâd o’r diweddar Ganolfan Iechyd Maenor Meisgyn iosod posteri gwybodaeth dwyieithog ardraws y Ganolfan. Hoffai i fynychwyr –yn enwedig rhai â phlant sy’n cael gwersio unrhyw fath yna, wneud pwynt olongyfarch y sefydliad a’r rheolwr ar yposteri Cymraeg, o safbwynt tegwch i’riaith, ac o safbwynt iechyd a diogelwch.Mae’n diolch yn bersonol i’r rheolwr amwrando o’r diwedd.Neuadd y Dref Llantrisant.Efallai bod rhai o’n darllenwyr wediclywed cyfweliad gyda’n hanesydd lleolni, ac un o Ryddfreinwyr Llantrisant,Dean Powell, ar Radio Cymru ynddiweddar, lle roedd yn sôn amddatblygiad diddorol yn yr Hen Dref.Mae gan Ymddiriedolaeth TrefLlantrisant gynlluniau uchelgeisiolgwerth £750,000 i adnewyddu ac adfer yrhen Neuadd y Dref i sut yr edrychai ynwreiddiol, gan greu canolfan i arddangoshanes a threftadaeth y dref.Cafodd y neuadd ei hail-adeiladu yn1773 ar seiliau canoloesol, ac ers hynnymae wedi cael ei defnyddio fel llys barn,Gwasanaeth ArbennigM a e E g l w y s i B e d y d d w y rCymraeg Bedyddwyr DwyrainMorgannwg yn uno bob mis i gynnalGwasanaeth ar y cyd er mwyn i boblddod i adnabod ei gilydd yn well ac ermwyn i’r eglwysi llai gael cynulleidfacarchar ac ysgol.Bwriad yr Ymddiriedolaeth, sydd wediysgwyddo’r gwaith o ofalu am y neuaddar ran Rhyddfreinwyr Llantrisant, ywtrawsnewid y neuadd i fod yn ganolfangelfyddydol ac addysgiadol, a all ddenuymwelwyr i’r dref ac i’r ardal ehangach,yn ogystal â chynnig cyfleusterau i’rtrigolion lleol.Yn ddiweddar derbyniodd yr ymgyrchgrant dechreuol o £58,800 gan GronfaTreftadaeth y Loteri. Bydd y grantdatblygu hwn yn helpu tuag at y camnesaf, sef cyflwyno cais arall am swm oarian sylweddol a fyddai’n galluogi’rYmddiriedolaeth i ddwyn y maen i’r wal.Oes Gafr Eto?Pan ymgartrefodd tair gafr Gymreig yngnghysgod Twr y Gigfran ar safle CastellLlantrisant y llynedd, nhw oedd ytrigolion cyntaf i fyw yno ers saith canmlynedd! Nawr maen nhw wedidychwelyd i’r Castell am chwe mis, felrhan o gynllun lleol i glirio a rheoli’rtyfiant o’i amgylch. Mae gan y geifr eulloches eu hunain ar y safle, ac maegwirfoddolwyr lleol yn gofalu amdanyntyn ddyddiol, gyda dwr a bwydychwanegol. Bwriad Cyngor RhonddaCynon Taf yw sicrhau bod y castell, lle yrhonnir i’r Brenin Edward yr Ail gael eigarcharu, yn llecyn deniadol y gallymwelwyr a thrigolion lleol ei fwynhauheb or-dyfiant o’i amgylch i’w guddio.Efallai bydd y geifr yn rhan o’r atyniad!Gwellhad buanEin dymuniadau gorau i Siân LlewelynBarnes o Feisgyn. Fe fu Siân yn yr ysbytyyn derbyn llawdriniaeth ar ei hysgwydd,ac mae wedi bod yn broses hir a phoenusers hynny wrth iddi dderbyn therapicyson. Gobeithio bydd hi’n gwella’nfuan.Newyddion mis MehefinAnfonwch eich cyfraniadau ar gyfercolofn mis Mehefin at Eurof James –ffriddycwm@tiscali.co.ukGILFACHGOCHGohebydd Lleol:Betsi Griffithsmwy niferus. Tro Moreia Hendreforganoedd hi, nos Lun Ebrill 16ed,i estyn croeso ac roedd y capel bachbron yn llawn. Y pregethwr oedd yParch Eifion Wynne Dowlais. Wedi gairgan y Llywydd Beverley Jones,Tabernacl Merthyr, cafwyd gair o groesoar ran Moreia gan Mair Thomas.Cymerwyd y rhannau arweiniol gan KathRickard, Capel Rhondda Trehopcyn, aRosa Hunt a fydd yn cael ei sefydlu’nweinidog ar Gapel Salem Tonteg Fehefin8ed. Wedi’r bregeth gan y Parch EifionWynne cafwyd y fendith gan MaryWatkins, Heol y Felin Trecynon.Wedi’r oedfa cafwyd paned a sgwrs achyfle i siarad â hen gyfeillion ac i ddod iadnabod cyfeillion newydd. Roeddcynyrchiolwyr o 15 o gapeli yn ycyfarfod ac edrychwn ymlaen at ycyfarfod nesaf ac i’r Cwrdd Sefydlu ynSalem Tonteg.Dathlu 100Gwnaeth Eva Edwards dathlu ei chanfedpenblwydd ar Ebrill 10 gyda theulu affrindiau. Mae Eva wedi byw ers rhaiblynyddoedd nawr gyda Gwyneth (eihunig blentyn) yn y Stryd Fawr. Bu Evayn aelod ffyddlon o Fyddin yrIachawdwriaeth ac yn mynychugwasanaethau bob dydd Sul lan hyd nesdwy flynedd yn ôl. Llongyfarchiadaumawr Eva.Clwb RygbiGyda’r tymor oer a gwlyb ar fin dod iben, braf i’ch hysbysu am lwyddiant ytîm ieuenctid, enillwyr y cwpan “MeritTable” nos Fercher Ebrill 23 ymMhenygraig yn erbyn Ystrad Rhondda.Bu’r Ieuenctid yn fuddugol o 17 pwynt i6 mewn gêm hynod o gyffrous.Mae tîm y menywod wedi cael tymorllwyddiannus gyda 5 o’r chwaraewyr ynaelod o garfan y Gleision ac 1 yn aelod ogarfan Dwyrain Cymru. Bu GemmaHallett (capten tîm menywod Cymru)wrthi yn ddiweddar yn cynnal sesiwnhyfforddi.Mae’r tîm cyntaf, ar hyn o bryd yn y6ed safle yng nghyngrair 1 y Dwyraingyda 3 gêm ar ôl i chwarae– digondymunol wrth ystyried fod y chwaraewyryn brin oherwydd anafiadau acoblygiadau gwaith. Gobeithio bydddigon o’r ieuenctid dawnus ar gael tymornesaf i ymuno.

6 Tafod Elái Mai 2013Bethlehem,Gwaelod-y-garthTrefn yr Oedfaon (ar y Sul am 10:30a.m. oni nodir yn wahanol) :Mis Mai 20135ed Oedfa Ardal – Aelodau Radyr12fed Oedfa Gymun - Parchedig R.Alun Evans (Gweinidog)19eg Oedfa Cymorth Cristnogol26ain Parchedig R. Alun Evans(Gweinidog)Mis Mehefin 20132il Parchedig Aled Edwards9fed Oedfa Gymun - Parchedig R.Alun Evans (Gweinidog)16eg Parchedig Dewi Myrddin Hughes23ain Parchedig R. Alun Evans(Gweinidog)30ain Parchedig Derwyn Morris Jones“Daw haul a’i hud-wialen” ym mis Maiyn ol T Arfon Williams, ond i ni ymMethlehem, ac mewn llawer Bethlehemarall ar hyd a lled Cymru, mis CymorthCristnogol ydi mis Mai yn ddiwahan. Afydd eleni’n ddim gwahanol.Bydd criw o’r aelodau yn crwydrostrydoedd Gwaelod-y-garth yn dosbarthu(gwaith gweddol hawdd), a chasglu (ddimmor hawdd) amlenni Cymorth Cristnogol,gan ofyn yn garedig i’r trigolion a ydyntyn dymuno cefnogi ymdrechion diflino’relusen i greu cymdeithas decach i bawbtrwy’r byd i gyd.Mae’r ymateb ar stepan y drws yn gallubod yn gymysglyd iawn, rhai wrth reswmwedi paratoi, a’r amlen yn llawn ac wediei selio’n barod, eraill yn awgrymu nadoes newid ganddynt, rhai yn gwrthod arhai yn gwrthod hyd yn oed agor y drws!Ond dal ati o flwyddyn i flwyddyn fyddhanes y casglwyr, gan sicrhau fod y negesyn cael ei hail-adrodd, a wynebcyhoeddus Bethlehem yr un mor daer bethbynnag yr ymateb.Cynhelir Oedfa Cymorth Cristnogol Sul y19eg o Fai, a byddwn bryd hynny yndilyn oedfa a fydd yn cael ei rhannu ardraws Cymru benbaladr.Mae’n fwriad hefyd cynnal Bore Coffiyn y Festri fore Sadwrn y 25ain o Fai(rhwng 10 a 12 o’r gloch), er buddCymorth Cristnogol, gan ddefnyddiohynny i agor y drws i’r pentrefwyr syddyn ymwybodol o’r adeilad ond heb erioeddeimlo’r gwres sydd o’i fewn.Fel arfer, ar adegau o ofyn, maeBethlehem a’i haelodau eisioes wediymateb i Apel Syria Cymorth Cristnogolgan obeithio y bydd clustiau’rgwleidyddion yn clywed y gri amgymorth, a’r dyhead i roi terfyn ar yrymladd a’r lladd sy’n dinistrio cymdeithasa gwareiddiad.TONTEGGohebydd Lleol:Gill WilliamsGenedigaeth ŵyr bachCroeso mawr i Elis Morgan, mab bachAled a Sara Davies sy'n byw ynNhreganna ond yn hannu o Donteg aPhentyrch. Ganed Elis, ddydd sul, Ebrill14eg a phawb yn gwneud yn dda.Llongyfarchiadau i'r rhieni balch, ac wrthgwrs i Elwyn a Carys, Y Dell, (aGwyneth, Pentyrch) ar ddod yn nain adadcu (a mamgu) am y tro cyntaf, maentar ben eu digon.Yn ystod y mis hefyd bydd Holiadur yncael ei ddosbarthu i’r aelodau i ofyn ameu barn ynglyn ac addoli ym Methlehem.Awgrym y Gweithgor Addoli oedd hyn,gan geisio sicrhau fod awgrymiadau amle’r plant a’r bobl ifanc, yn ogystal â’raelodau hŷn yn yr oedfaon yn cael euhystyried.Bydd yr Holiadur yn gofyn barn am ydefnydd o’r dechnoleg ddiweddaraf mewnoedfa, awgrym sut i wella gwefan y capel,parodrwydd i fod o gymorth gydagwahanol weithgareddau, ac hefyd sutmae estyn llaw i gymell mwy o drigoliony Gwaelod i gynnwys y capel fel rhan o’ucylchoedd a’u pentref.Bydd yn sicr yn ddiddorol cael adbortho’r fath wrth baratoi i symyd ymlaen ibennod newydd arall yn hanes Bethlehem.Daeth tymor arall yn hanes “DrwsAgored” i ben yn ystod mis Ebrill, aphawb wedi mwynhau trin a thrafodWaldo, ac wedi dod i’w adnabod dipyn ynwell ers mis Medi diwethaf. O fis Medinesaf ymlaen bydd “Drws Agored” yndilyn gwaith Ann Griffiths ac eraill oemynwyr Cymru (gan roi pwyslais efallaiar y merched eraill fu’n cyfansoddiemynau?).Os oes chwant troi i mewn i oedfarhywbryd yn y dyfodol, bydd croeso yneich disgwyl bob amser ym Methlehem,Gwaelod-y-garth. Cofiwch y cynhelirYsgol Sul i’r plant bob Sul heblaw amwyliau Ysgol a hynny i gyd fynd ac amseryr oedfa am 10:30 a.m.Cofiwch hefyd am wefan Bethlehem syddi’w chanfod ar www.gwe-bethlehem.orgYmwelwch yn gyson â’r safle i chwi gaely newyddion diweddaraf am hynt a helyntyr eglwys a’i phobl. Hefyd mae ganBethlehem gyfri trydar (twitter).Dilynwch ni ar @gwebethlehem.PENTYRCHGohebydd Lleol:Marian WynneClwb y DwrlynFrank Lincoln oedd y siaradwr yngnghyfarfod mis Ebrill, Clwb y Dwrlyn adaeth tyrfa gref i wrando arno. Gan dynnuar ei brofiad hir ym myd darlledu, ei waithfel cyflwynydd cyngherddau, a’iwybodaeth eang o fyd yr opera, sonioddam rai troeon trwstan yn y meysydd yma.Yn gymysg â’r straeon cafwyd cyfle hefydi wrando ar rai o’i hoff gantorion gydagair neu ddau am gefndir pob un. Diolchyn fawr Frank am noson o ddiddanwchpur.Penblwydd HapusLlongyfarchiadau i Dewi Hughes arddathlu penblwydd arbennig ynddiweddar. ‘Roedd y deisen adderbyniodd yn gampwaith, ynadlewyrchu diddordeb Dewi mewncerdded a dringo’r mynyddoedd.GenedigaethauLlongyfarchiadau i Siân a John arenedigaeth yr efeilliaid Ela ac Owen, yngwmni i Nansi fach. Mae Nain a Tad-cu,Gwyneth a John Williams yn mynd i fodyn brysur iawn.Llongyfarchiadau hefyd i Sara ac AledDavies ar enedigaeth Elis Morgan, ŵyrcyntaf i Gwyneth Lewis, Pentyrch a Carysac Elwyn Davies, Tonteg.Priodasau RuddemFel y gwelwch mae sawl pâr wedimwynhau dathlu deugain mlynedd ofywyd priodasol yn ddiweddar.Aeth Yvonne a Gareth Williams ardaith i Awstralia i ddathlu eu priodasruddem cyn dod nôl i gyd –ddathlu gyda’rteulu ym Mhortiwgal.Mae’n siwr i Judith a Ken Evans gaelamser da yn ninas rhamantus Paris wrthiddynt hwythau ddathlu a dihangoddCarol a Penri Williams rhag yr oerfel ifwynhau’r haul a dathlu yn Gran Canaria.Llongyfarchiadau iddynt i gyd.Merched y WawrUn o brosiectau Gill Griffiths, y llywyddcenedlaethol, yw rhoi cyfleoedd iddysgwyr Cymraeg ymarfer mewnsefyllfa anffurfiol a dyna a ddigwyddoddyng nghyfarfod Merched y Wawr ymMethlehem, Gwaelod y Garth, ym misEbrill. ‘Roedd criw da o ddysgwyr, euhathrawon ac aelodau Merched y Wawrwedi dod at ei gilydd i sgwrsio drosbaned a bara brith. Yn ogystal clywsomam yr ymgyrch i sefydlu canolfangymunedol Gymraeg y Mimosa yn YBarri gan Kay Holder, enillydd dysgwr yflwyddyn 2011. Felly, os ydych yn YBarri, galwch yno am baned a sgwrs.

Ysgol GynraddGymunedolGymraegLlantrisantTrip Blwyddyn 2Aeth disgyblion o Flwyddyn 2 iGanolfan Addysgiadol Cilfynydd ym misChwefror. Bu’r plant yn mwynhau bodyn yr awyr agored yn chwilota! Buont yndysgu am bwysigrwydd ailgylchu acarbed dŵr a’r modd y gallant hwy helpuyn y tŷ ac yn yr ysgol. Da iawn chi!Trip Blynyddoedd Cynnar y CyfnodSylfaenGan mai’r thema yn y Cyfnod Sylfaen ytymor hwn yw ‘Cymru’, aeth disgyblionBlynyddoedd Cynnar y Cyfnod Sylfaenar drip i Sain Ffagan. Roedd hi’nddiwrnod braf gyda phob un yn mwynhauymdrochi ei hunan yn ein hanes ni. Brafoedd gweld y plant yn cwestiynu’r rhai afu’n gweithio yn Sain Ffagan ynsynhwyrol ac yn gwrtais.Ymweliad PC JonesBu P.C. Siân Jones yn ymweld â’r ysgol idrafod gwahanol bethau gyda disgybliono’r Cyfnod Sylfaen. Gwrandawodd yplant o’r dosbarthiadau Meithrin a’rDerbyn yn astud arni wrth iddi gyflwynoy math o waith y mae’r heddlu yn eiwneud. Caswant gyfle i wisgo gwahanolddillad ac hetiau – un neu ddau o’r plantyn awyddus i fod yn blismon neu’nblismones pan yn hŷn!Trip Blwyddyn 6 i’r EglwysEr mwyn dysgu mwy am stori’r Pasg,aeth disgyblion o Flwyddyn 6 i EglwysBethel ym Mhontyclun. Cawsant gyfle iweld pobl yn actio rhannau’r stori a bu’rprofiad yn un gwerth chweil gyda phobun yn mwynhau ac wedi elwa o’r profiad.EisteddfodEr mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewicynhaliwyd Eisteddfod yr ysgol ynogystal â gwneud amrywiolweithgareddau yn seiliedig arni yn ystodyr wythnos. Llongyfarchiadau mawr ibob un a gymrodd rhan yn einhesiteddfod ysgol ar Fawrth 1af. Cafwyddiwrnod o fwynhau gyda rhai yn adrodd,canu a dawnsio. Aeth y rhai a fu’nfuddugol i Ysgol Llanhari i gystadlu ynyr Eisteddfod Gylch. Wedi bore ogystadlu brwd, daeth pob un nôl i’r ysgolyn gyffrous i rannu eu newyddion da eubod nhw’n mynd i’r Eisteddfod Sir ymMhorthcawl. Ym Mhorthcawl, diddanoddy disgyblion y gynulleidfa a’r beirniad ynyr Eisteddfod Sir ac o ganlyniad maentwedi llwyddo mewn sawl cystadleuaeth igyrraedd Eisteddfod yr Urdd yn SirTafod Elái Mai 2013 7Adran Chwaraeonyr UrddHelenw@urdd.org0797600 3358Mae gan adran chwaraeon yr Urdd nifer oglybiau cymunedol, sydd yn rhedeg ynardal Taf. Mae croeso i unrhyw unfynychu’r clybiau yma i gadw’n heini,gwneud ffrindiau newydd a chymdeithasutrwy gyfrwng y Gymraeg:Gymnasteg yn Ysgol Garth OlwgBob Nos Iau4yp-4.45yp: derbyn i flwyddyn 14.45yp tan 5.45yp: blwyddyn 2 i 5Pris £2.50TenisYm Mharc Pontypridd bob nos Lun5.30yp tan 6.30yp Blwyddyn 3- 6Ac hefyd ar gyrtiau Tenis Fynnon DafBob Nos Fawrth5yp - 6yp Blwyddyn 3-6 Pris £2.50Aml Gamp - Cymysgedd o wahanolchwaraeonTrefforest bob nos Iau 5yp tan 6ypBlwyddyn 1-4 Pris £2AthletauYsgol Uwchradd Garth OlwgBob nos Fercher 4.45 tan 5.45,Blwyddyn 3-6 Pris £2Plantos Heini TafI Blant 0-4 oed. Clwb wythnosol i hybudatblygiad corfforol eich plentyn a maguhyder mewn awyrgylch gyfeillgar. £3 ysesiwn. Rhaid i rieni aros gyda’r plant.Yn Gym Fusion, PontyclunPob bore Iau 10yb tan 11.30. Pris £3Benfro. Dymunwn pob hwyl i bawb!Myfyrwyr newyddCroeso mawr i’n myfyrwyr newydd.Bydd Miss Enfys Owen yn Nosbarth 3 ynaddysgu plant Derbyn, bydd MissAngharad Wright yn Nosbarth 4 ynaddysgu plant Derbyn a Blwyddyn 1 abydd Mr Zack Williams yn addysguBlwyddyn 4. Pob hwyl i’r tri ohonynt agobeithio y byddant yn mwynhau euhamser yn yr ysgol.TrawsgwladLlongyfarchiadau mawr i dîm trawsgwladyr ysgol fu’n cystadlu yn Llanhariddechrau mis Ebrill. Da iawn i chi gyd!Dyma ganlyniadau y gystadleuaeth tîm.Blynyddoedd 3 a 4 ~ Tîm y bechgyn yn1af. Tîm y merched yn 2ilBlwyddyn 5 ~ Tîm y bechgyn yn 1af.Tîm y merched yn 2ilBlwyddyn 6 ~Tîm y bechgyn yn 2il. TîmLlwyddiant ysgubolCwmni SelsigLlongyfarchiadau fil i *Dale Evans a'i gyd-aelodau o gast y sioe gerdd 'Jekyll &Hyde' a berfformiwyd gydag angerdd arlwyfan theatr y Parc a Dâr dros wythnosola mis Ebrill. Cynhyrchiad ardderchog -cystal os nad gwell nag unrhyw sioegaech chi ar lwyfannau'r West End! Daleoedd y Cyfarwyddwr Cerdd ond ynogystal roedd ganddo ran amlwg - sefSimon Stride - yn y cynhyrchiad. Do'n ierioed wedi gweld y sioe ar lwyfan o'rblaen - er yn gyfarwydd â rhai o'r caneuon- megis 'Take me as I am' a 'Once upon adream' a'r enwog 'This is themoment' felly roedd yn brofiad gwychclywed y caneuon yn eu cyd-destun.Sefydlwyd Cwmni Selsig 'nôl ym 1948gan garedigion cerdd a drama top yRhondda. Fe'i ffurfiwyd yn ardalBlaenrhondda ac fe benderfynwyd ar yrenw 'Selsig' - (dim byd i wneud â sosejysfel y sicrhaodd Dale fi!) oherwydd bodyna afonig fechan yn yr ardal o'r enwGlanselsig, yng Nghwm Selsig ger CraigSelsig! Tybed all rhywun fy ngoleuo ardarddiad yr enw? Pob llwyddiant i'rCwmni yn y dyfodol ac os fethoch chigyfle i fwynhau'r sioe yma gellwchymweld â gwefan y Cwmni -www.selsig.net - neu eu dilyn arFacebook er mwyn dal y cynhyrchiadnesa ac i brofi pytiau o hollberfformiadau'r gorffennol.*Dale - uwch athro yn ysgol gynraddTreorci - ond wedi treulio tri mis ar gwrsSabothol yn dysgu Cymraeg ymMhrifysgol Morgannwg y Gwanwyn yma- a bellach yn Gymro i'r carn - werth eigl yw e d yn s i a r a d C ymr a e g.Llongyfarchiadau!y merched yn 1af.Dyma ganlyniadau cystadlaethau yrunigolion.Blynyddoedd 3 a 4 Bechgyn1af ~ Jack Clay. 2il ~ Tomi Booth.3ydd ~ Gruff MorganBlwyddyn 5 Bechgyn1af ~ Gethin Evans 2il ~ Dylan Edwards3ydd ~ Siôn PariBlwyddyn 5 Merched3ydd ~ Ela PorterBlwyddyn 6 Bechygyn3ydd ~ Rhys MorganBlwyddyn 6 Merched1af ~ Lili Gaskin3ydd ~ Grace Daunter

Tafod Elái Mai 2013 9EFAIL ISAFGohebydd Lleol:Loreen WilliamsPen-blwyddLlongyfarchion gwresog i Cliff Hewitt,Penywaun a ddathlodd ben-blwyddarbennig iawn yn ystod mis Ebrill.Yn yr YsbytyBu John Jones, Nantyfelin yn yr ysbytyeto yn ddiweddar yn derbyn triniaeth.Bregus iawn mae iechyd John a’i wraigAudrey wedi bod yn ddiweddar.Dymunwn adferiad iechyd buan iddynt.Marathon LlundainLlongyfarchiadau mawr i Hefin Gruffydd,Nantcelyn ar ei orchest yn rhedegMarathon Llundain ar ei gynnig cyntaf.Cwblhaodd y dasg mewn amser da iawn odair awr 38 munud, gan godi swm o arianteilwng iawn i’r elusen Dolen Cymru.Y TABERNACLGenedigaethauLlongyfarchiadau i Trish a Don Thomas arddod yn fam-gu a thad-cu unwaith eto.Ganwyd mab bach, Bryn Lewis Arthur iAlun a Carly.Llongyfarchion i Carys ac ElwynDavies, Tonteg ar eu statws newydd ynNain a Thad-cu i Elis Morgan, mab bachcyntaf i Aled a Sara.Merched y CapelFore Mawrth, Ebrill 16eg fe deithioddnifer fach o’r Merched i AmgueddfaPontypridd gerllaw’r hen bont enwog.Cawsom ein croesawu gan Mr BrianDavies ac fe eglurodd fod yr amgueddfawedi ei lleoli yn hen gapel y Tabernacl.Roedd nenfwd yr adeilad yn eithriadol obrydferth a’r organ bib hardd yn dal i gaelei chwarae mewn cyngherddau achlysurol.Mae’r amgueddfa yn llawn creiriau alluniau sy’n portreadu hanes y dref a’rardaloedd cyfagos. Tywyswyd ni wedyn iweld yr hen bont a adeiladwyd ganWilliam Edwards yn y ddeunawfed ganrif.Cafodd bedwar cynnig ar y dasg o’ihadeiladu gan i’r ddwy bont gyntaf gael eudinistrio gan lifogydd. Cwympodd ydrydedd bont dan ei phwysau’i hun. Feymlwybron ni wedyn i BarcYnysangharad, Parc a grëwyd yn gofeb arôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Soniodd Brian amwaith enwog Cwmni Brown Lenox a oeddgerllaw’r parc. Gwaith creu cadwyni asefydlwyd yn 1818 a gynhyrchoddgadwyni haearn gorau’r byd ar gyferangori llongau. Daeth ein taith i bengerllaw Cofeb Evan James a James James,cyfansoddwr ein Hanthem Genedlaethol.Gwaith y cerflunydd William GoscombeJohn yw’r gofeb a chafodd ei gosod yn yParc yn 1930.Arddangosfaffotograffau – ‘MenterIaith Rhondda CynonTaf mewn llun’Ydych chi am wybod mwy am waith agwasanaethau Menter Iaith RhonddaCynon Taf neu â diddordeb yn yr iaithGymraeg a phwysigrwydd defnyddio’rGymraeg yn y gymuned?Dewch lawr i Ganolfan Dysgu GydolOes Garth Olwg rhwng Mai 13eg –Mehefin 31ain lle fydd arddangosfa of fo t o g r a f fa u ’r F e n t e r d r o s yblynyddoedd diwethaf yn y galeri yn yprif fynedfa.Cyfle gwych i chi gael cip olwg ar waithgwerthfawr yr elusen.Llyfrgell Pentre’rEglwysEin taith nesaf fydd ymweliad âPhenrhys yn y Rhondda ddydd Llun, Mai13eg a bydd Cennard Davies wrth law i’ntywys a’n goleuo am hanes yr ardal.CyngerddCynhelir cyngerdd yng Nghapel yTabernacl nos Fawrth, Ebrill 30ain amhanner awr wedi saith. Cymerir rhan ganYsgol Gynradd Castellau, Ysgol GynraddMaes y bryn a Chôr y Einion. Cyflwynirelw’r gyngerdd i gronfa leol CymorthCristnogol.Trefn yr Oedfaon ar gyfer mis Mai.Mai 5ed. Oedfa Gymun o dan ofal einGweinidog.Mai 12fed. Oedfa Cymorth Cristnogol.Mai 19eg. Elenid Jones.Mai 26ain. Allan James.Dydd Mawrth, Mai 28ain*Oherwydd diffyg lle a galw uchel byddrhaid ffonio swyddfa’r Fenter i fwcio lle yn yLlyfrgell yma’n unig Swyddfa: 01443 40757Llawr Cyntaf, 9 Y Stryd Fawr,Pontypridd. CF37 1QJ01443 407570www.menteriaith.org11:00-12:00ypLlyfrgell Aberdâr Dydd Mercher, Mai 29ain 11:00-12:00ypLlyfrgell Treorci Dydd Iau, Mai 30ain 11:00-12:00ypLlyfrgell Hirwaun Dydd Iau, Mai 30ain 2:30-3:30ypLlyfrgell Pontyclun Dydd Gwener, 31ain 11:00-12:00ypCynhaliwyd noson wych yng Ngwesty'rVillage, Caerdydd yr ail ar bymtheg oEbrill lle daeth tua 200 o bobol ynghyd iwrando ar Iolo Williams yn traddodi arFywyd Gwyllt Cymru. Rhan o ymgyrchSesiynau Stori a Chreu i blant yn yGymraeg! – Hanner tymor mis Mai2013 – AM DDIM!Os ydych chi’n edrych am rywbethgwahanol i wneud dros wyliau hannertymor dewch i wrando ar stori a gwneudychydig o gelf a chrefft yng nghwmnistaff Menter Iaith Rhondda Cynon Taf.Cyfle i blant ddefnyddio’r iaithGymraeg tu allan i’r ystafell ddosbarth achreu rhywbeth arbennig i fynd adref!Gweler lleoliadau, dyddiadau acamseroedd sesiynau llyfrgelloedd yrardal yma isod.(*Mae’r sesiynau yma yn addas i blantoed Cynradd – Croeso i bawb! – Rhaid ibob plentyn ddod gyda oedolyn)Am fwy o fanylion cysylltwch â CatrinReynolds (Swyddog GweithgareddauTeuluol Menter Iaith Rhondda CynonTaf ar 01443 407570 neu e-bostiwch:catrinreynolds@menteriaith.orgSialens Kilimanjaro - 20fed - 29ain o Fedi, 2013codi arian Iolo, Shân Cothi a Cheryl Jonesoedd y noson - codi arian ar gyferymchwil cancr. Ond nid trwy ddarlithio agwerthu tocynnau raffl y bydd y glewionyma yn codi pres - o'u blaenau mae sialensaruthrol. Byddant yn rhan o grwp oddringwyr glew fydd yn taclo MynyddKilimanjaro yn Nhanzania fis Medi elenier mwyn codi ymwybyddiaeth o waith diflinoysbyty Felindre, Caerdydd. Codiymwybyddiaeth a chodi arian wrth gwrs.Os am gefnogi gellwch ymweld â gwefanysbyty Felindre sefw w w . v e l i n d r e f u n d r a i s i n g . c o m /trekofalifetime neu i gefnogi tâm Shânsy'n casglu arian er mwyn hyrwyddo'rymchwil i gancr y pancreas - yr elusenamserjustintime - trwy ymweld âwww.justgiving.com/Kili-AngelsDiolch Iolo am noson arbennig ogofiadwy. Dewisodd rhyw ugain osleidiau - lluniau o'i hoff blanhigion, hoffgreaduriaid, hoff adar ac fe gawson berlauwrth iddo adrodd straeon am ei brofiadaua rhannu o'i wybodaeth faith. Pob lwc ar ydaith - pob lwc gyda chodi arian! Dewchyn ôl yn saff i adrodd yr hanes!

Atebion Cwis yr Urdd1. Triongl coch, gwyn a gwyrdd2. Ifan ab Owen Edwards3. Llangrannog a Glanllyn4. Canwio, dringo, bowlio deg,cartio sgio5. Boncath, Sir Benfro10 Tafod Elái Mai 2013Newyddion oAcapelaMae nifer o gyngherddau wedi’u trefnu ynystod mis Mai a Mehefin. Mae tocynnau argael o Acapela neu gan staff ‘MeddygfaPentyrch’ sydd yma rhwng 8.30-10 bob boreLlun-Gwener. Byddai’n braf gweld trigolionyr ardal yn mynychu’r digwyddiadau. Os oesgrwpiau o 6 neu fwy eisiau dod i un o’rnosweithiau cysylltwch ag Acapela.Nos Sul Mai 12eg, 7.30 -Acapela, PentyrchAl Lewis - Dewch ifwynhau noson yngnghwmni Al Lewis a’rband.Tocynnau ar gael o'r wefan,www.acapela.co.uk neu amddim i bobl sy'n mynd i weld Al Lewis yn y'Glee Club' Caerdydd (Ebrill 29ain)Cyfle hefyd i glywed ‘Ellie Makes Music’yn lansio ei sengl newydd yn ystod y noson.Nos Wener Mai 24ain, 7.30 -Acapela, Pentyrch, CF15 9QDRhys Taylor a'i 'RT Dixieband'- Dewch i fwynhau noson ogerddoriaeth Dixieland yng nghwmni RhysTaylor a'i RT Dixieband. Diben yr 'RTDixieband' yw dechrau band jazztraddodiadol sy'n perfformio cerddoriaethGymraeg mewn arddull jazz traddodiadol /dixieland. Mae repertoire Cymraeg y bandyn cynnwys caneuon traddodiadol, emynau achaneuon poblogaidd o'r degawdau diwethaf.Tocynnau ar gael o Acapela neu o'r wefan:www.acapela.co.ukNos Sadwrn, Mai 25ain 7.30 - Acapela,Richard James a'r Band: Un o gyfansoddwyrgwerin gorau Prydain, i’w glywed ynrheolaidd ar BBC R2Tocynnau ar gael o Acapela neu o'r wefan:www.acapela.co.ukNos Wener, 7fed Mehefin7.30 - Acapela, Catrin Finchyn perfformio 'AmrywiadauGoldberg' gan JS BachTocynnau ar gael o Acapelaneu : www.acapela.co.ukNos Sadwrn, 8fed Mehefin7.30 - AcapelaNoson yng nghwmniGwyneth Glyn & TauseefA k h t a r ( P r o s i e c tCerddoriaeth Wo mexrhwng Cymru a'r India)Tocynnau o Acapela neu o'r wefan:www.acapela.co.ukNos Sul, 9fed Mehefin 7.30 - Acapela,Cyfle i glywed 'ALAW', band gwerinnewydd (acordion, ffidl a gitar) yn cynnwysOli Wilson-Dickson, Dylan Fowler a JamieSmith. Cariad at alawon hyfryd sydd wrthwraidd y grŵp newydd yma. Tocynnau argael o'r wefan: www.acapela.co.ukCLWB NAINI gydag ELINORBENNETT Dydd Sul 12 Mai am 10.30Cân a stori i blant bachYn y gyfres o gyflwyniadau byrion, bydd ydelynores, ELINOR BENNETT yn canucaneuon gwerin a hwiangerddi traddodiadolCymraeg gyda phlant ifanc o dan 6 oed.Bydd llawer o’r caneuon yn rhai addysgodd Elinor gan ei Nain ei hun pan oeddyn blentyn bach, a rhai eraill yn dod allan ohen gasgliadau o hwiangerddi a chaneuonplant.Cadw’r caneuon yn fyw ydi‘r nôd acefallai fod rhai o’r caneuon heb fod yn caeleu canu heddiw, ond fe hoffai Elinor eucyflwyno i’w hwyrion a’u hwyresau a’ucyfeillion gydag ambell stori.Tua 30 - 40 munud fydd hyd pob sesiwn,ac anogir y plant i ymuno yn yr hwyl trwyganu, dawnsio a gwrando.C O R N E LY P L A N T

Tafod Elái Mai 2013CC R O E S A I RLDyma gyfle arall i chiennill Tocyn Llyfrau11www.mentercaerdydd.org029 20 689888www.tafwyl.orgMae gwefan newydd Tafwyl nawr yn fyw gydagwybodaeth am yr Ŵyl yn y Castell ar 15 Mehefina gweithgareddau’r wythnos. Cofiwch hefyd bodmodd dilyn Tafwyl ar Twitter a Facebook am ynewyddion diweddaraf!Howard Marks – Tocynnau ar werth nawrPrin nad oes angen cyflwyniad i’r gŵr hwn o KenfigHill ger Pen-y-bont ar Ogwr, sydd heb os yn mynd ifod yn un o uchafbwyntiau ffair Tafwyl eleni. Ynddiweddar mae Howard Marks wedi teithio gwyliaudros y byd yn sôn am ei fywyd, a bydd yn bleser eigroesawu yn ôl i Gymru lle bydd y comedïwr DanielGlyn yn sgwrsio ag o yng Ngŵyl Tafwyl y 15fed oFehefin yng Nghastell Caerdydd. Mae’r tocynnau,sy’n £5, ar gael nawr ar wefan Menter Caerdydd –mentercaerdydd.org. Trefnir mewn cydweithrediad âLlenyddiaeth Cymru.1 1 1 2 3 4 5 66 78 910 11 12 1213 1214 15 1617 16 1918 19 20 2125 2223 24‘Bake off’ TafwylCastell Caerdydd / 15.06.06Hoffi pobi? Mwynhau rhaglen Great BritishBake Off? Beth am gystadlu yn Bake Off cyntafTafwyl? Bydd tri categori ar gyfer cystadlu:1) O dan 11: Pobi ac Addurno 6 o Gacennau Bach(£2 i gystadlu)2) O dan 16: Pobi ac Addurno 6 Cupcake (£2 igystadlu)3) Oedolion: Pobi ac Addurno Cacen Sbwng 2 haenneu fwy (£3 i gystadlu)Bydd angen i chi ddod â’ch cacennau i’r Castellerbyn 11am ar ddiwrnod Tafwyl. Cofrestrwch igystadlu ar wefan Menter Caerdyddwww.mentercaerdydd.org cyn Dydd Llun, Mehefiny 3ydd.Cyrsiau Hyfforddiant i OedolionBydd y cyrsiau hyfforddiant isod yn cael eu cynnalcyn diwedd tymor yr haf. Am fwy o fanylion ewch iwefan Menter Caerdydd neu cysylltwch agAngharad Thomas angharad@mentercaerdydd.org /2068 9888Iaith ar Waith yn y Dosbarth (21 a 28.06 a 05.07).Cwrs 3 diwrnod i wella Sgiliau ac YmwybyddiaethIeithyddol ar gyfer cynorthwywyr dosbarth.Proffesiynoldeb yn y Gweithle (27.06)Cwrs diwrnod i gynorthwyr dosbarth fydd yncanolbwyntio ar ddisgwyliadau yn y gweithle felagweddau cadarnhaol, ymddygiad a sgiliau priodol.Cwis y Mochyn DuBydd cwis yn cael ei gynnal Nos Sul, Mai 26 yn yMochyn Du am 8pm. £1 y person. Mae croesocynnes i bawb! Cofiwch bod y cwis ar Nos Sul olafbob mis!Holiadur Gwasanaethau Menter CaerdyddDiolch yn fawr iawn i bawb sydd eisioes wedi llenwiein holidaur diweddar am wasanaethau a22 25Ar Draws1. Tynnu o’r wraidd (10)8. Ymaflyd (7)9. Chwaraewr rygbi rhwng daubrop (5)10. Lan (4)11. Hurtyn (4)12. Ciwb Chwarae (3)14. Fel dafad fach (6)15. Difater (6)18. Twll i gordyn (3)20. Llinell (4)21. Dihiryn (4)23. Dafad fach (5)24. Arswydus (7)25. Chwenychiadau (10)I Lawr1. Pren pigog (7)2. Dotio (4)3. Rhan o gylch (6 )gweithgareddau’r Fenter. Mae dalcyfle i chi ymateb a chyfrannu drwylenwi’r arolwg ar ein gwefan.H a n n e r T y m o r S u l g w y nCofiwch gadw llygad ar wefanMenter Caerdydd am wybodaethlawn am weithgareddau hannertymor! Byddwn yn cynnal CynlluniauGofal, sesiynau Bwrlwm, MiriMeithrin a llawer mwy...4. Lleihau mewn gwerth (8)5. Cyflwr da’r corf (5)6. Yn perthyn i’w brodor cyntaf (11)7. Y cyflwr o fod yn llawn gras (4)13. Cilio o’r golwg (8)16. Rhannau o bennod y Beibl (7)17. Gwatwareg (6)19. Adeilad i drin gwlan (5)22. Yn hytrach na (4)Atebion i: Croesair Col34, Pen Bryn Hendy, Yr Encil,Meisgyn, Pontyclun. CF72 8QXerbyn 20 Mai 2013Atebion Ebrill1 D A N A D 3 A M L E N 6B T C U I OD E W I S U N D O N O GI Y E DD O I EO R D E I N I O 11 C O E DG N 12 O C E UD E L I O B L A S UB I O M E 16 EO E D I 18 C A D W R A E THN A E 25 N T R OD O L E N N U I A CH O LO W W S A O22 T R E I O 23 A N A LL U

12 Tafod Elái Mai 2013YsgolGynraddGymraegGarth OlwgTaith afon Taf Blwyddyn 5 Mrs Daviesgan Huw GriffithsFel rhan o’n thema Troi a Llifo aeth eindosbarth i ddilyn cwrs yr Afon Taf mewnbws mini lan i Fannau Brycheiniog.Cerddon ni lan at darddiad yr Afon Taf arddechrau Pen-y-Fan. Roedd y lle yn bertiawn. Gwelon ni geffylau gwyllt yn pori’ndawel ac yn heddychlon ar y glaswellt.Hefyd gwelon ni llednant, nentydd,rhaeadrau bach a mawr a dyfroedd gwyllt.Roedd rhostiron del a gwelon ni’r fyddinyn ymarfer.Wedyn teithion ni lawr i gronfa ddŵrCoed Taf Fawr. Dysgon ni bod y cronfaddŵr wedi cael ei chreu gan ddyn fellydoedd e ddim yn naturiol.Ar ôl hynny fe aethon ni lawr i Goed-y-Cwm. Roedd yna safle trin dŵr fyna.Roedd yn drewi fel pŵ!! Ar ôl hynny feaethon ni nôl i’r bws. Wedyn cerddon nii’r parc i fwyta ein bwyd.Wedyn fe gerddon ni nôl i’r bws agyrron ni i Bontypridd. Cyrhaeddon niBontypridd ac fe welon ni’r bont. Roeddyr afon yn llifo’n llawer mwy araf. Syllonni ar y bont am ddeng munud.Wedyn fe deithion ni i Fae Caerdydd.Gwelon ni’r ‘barrage’ a’r bont newydd.Chwaraeon ni am ugain munud. Edrychonni ar yr aber. O’r diwedd roedd yr AfonTaf wedi gorffen ei thaith. JOIAIS I MASDRAW!!!!Traws GwladLlongyfarchiadau i bawb a fu'n cystadluyn rasus Traws Gwlad yr Urdd. Bu'r ysgolyn llwyddiannus iawn.MarathonDiolch o galon i bawb sydd wedi noddiMr Gruffydd ar gyfer Marathon Llundain.Casglwyd eisoes £2,077.05 i DolenCymru. Cafodd Mr Gruffydd amseranhygoel o 3 awr 38 munud.CwisLlongyfarchiadau mawr i dim 1 GarthOlwg ar ennill rownd rhanbartholcystadleuaeth gwybodaeth gyffredinol yQuiz Club.Athletau Dan DoLlongyfarchiadau i dîm Garth Olwg arennill cystadleuaeth Athletau dan Do ySir.Cwis LlyfrauLlongyfarchiadau i dîm Blwyddyn 3 a 4 arennill Cwis Llyfrau y Sir. Byddant yn awryn cystadlu yn y rownd Genedlaethol agynhelir yn Aberystwyth ym mis Mehefin.YSGOL CREIGIAUCroeso nôl i Mrs Glenda Griffith! MaeMrs Griffith wedi bod ffwrdd ar gyfnodmamolaeth – brâf cael ei chwmni unwaitheto.Mae’n dymor newydd ac mae’n argoeli ifod yn un prysur a chyffrous iawn.Mae’r tîm rygbi eisioes wedi bod yncystadlu yn nhwrnament yr Urdd ganlwyddo i gyrraedd y rownd gyn-derfynol.Llongyfarchiadau iddyn nhw! Roeddentyn chwarae yn eu cit newydd. Diolch i Dr.Nick Stallard am ei gwneud hi’n bosib i nifuddsoddi yn y cit newydd. Roedd y boisyn edrych yn smart iawn!Mae’r tîm pêl-droed wrthi’n ymarfer ynbrysur hefyd. Fe fu gêm gyfeillgarrhyngddynt ag Ysgol GynraddTonysguboriau yn ddiweddar. Cafwydllawer o hwyl. Chwaraewyd dwy gêm,gyda’r tîm yn colli un ac yn dod yngyfartal yn yr ail. Da iawn bois!Mae’n amser prysur yng ngardd yr ysgolar hyn o bryd gyda llawer o blannu’nmynd ymlaen. Mae disgyblion Bl.5 wrtheu boddau’n cael helpu.Mae thema newydd gan bob dosbarth ytymor yma gyda nifer o dripiau wedi eutrefnu. Mae Dosbarth 2 yn mynd i GastellCoch ac mae Dosbarthiadau 3 a 4 ynmynd i Fosg a Synagog. Fe aeth Dosbarth5/6 i Fae Caerdydd ar ddechrau’r tymor felrhan o’u thema Daearyddol. Fe groesonnhw’r Bae draw i Benarth a nôl ar gwch,defnyddio olwyn fetr i fesur perimedrau,cyn cael cynllunio a chreu adeiladau 3Dallan i glai. Diwrnod gwych!Pêl-rwydDiolch yn fawr iawn i Tracy OatridgebancHSBC am wneud match funding,sydd wedi ein galluogi ni i brynugwisgoedd newydd i'r tîm pêl-rwyd.Diolch hefyd i Mrs Watts am archebu’rffrogiau. Pob hwyl i’r plant sydd ar findechrau cynghrair pêl-rwyd Ysgolion yclwstwr.Meithrin / DerbynMae`r dosbarthiadau Meithrin a Derbynyn mwynhau`r thema newydd sefArweinwyr Cymunedau. Mae`r dosbarthMeithrin wedi bod am dro i`r pentrefi ddysgu am yr ardal leol. Roedden nhwwrth eu bodd yn ymweld a Jen yn CuttingCorner, y plismon, y pobydd, y siopwraigyn Flower Power a gweld y Swyddfa Bost,Optegydd a`r Golchdy.Mae nifer o siaradwyr wedi rhannugwybodaeth am eu swyddi e.e. yLlyfrgellydd, nyrs, a morwr o`r Llynges.Mae nifer o ymweliadau eraill wedi eutrefnu hefyd. Diolch i bawb am fod morbarod i ddod i siarad gyda`r plant.YSGOL GYNRADDGYMRAEGTONYREFAILLlongyfarchiadau!Llongyfarchiadau i Mrs Donna Davies a’igŵr James ar enedigaeth eu mab bach,Oliver James.CroesoCroeso mawr i Miss Rebecca Gatt a MrAled Power i’r ysgol. Mae’r ddau ynfyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. ByddMiss Gatt yn addysgu blwyddyn 4 a byddMr Power yn addysgu blwyddyn 2.Hoffwn estyn croeso cynnes i’r ddau.Traws gwlad yr UrddBu aelodau o Flynyddoedd 3-6 yncynrychioli’r ysgol yn ystod cystadleuaethtraws gwlad yr Urdd. Llongyfarchiadau ibawb a fu'n cystadlu, yn enwedig i KeeleyAdams o flwyddyn 5 am ennill ras ymerched (BL 5 a 6). Roedd hi’n ddiwrnodllwyddiannus iawn i’r ysgol wrth i dîmmerched blwyddyn 5 a 6 ddod yn gyntafa’r bechgyn yn drydydd. Diolch i’r hollddisgyblion wnaeth gymryd rhan.Pêl-fasgedRoedd blwyddyn 5 a 6 yn drist iawn wrthffarwelio a Missy Lender o'r RhonddaRebels ar ddiwedd tymor y gwanwyn.Mae Missy wedi bod yn dysgu sgiliau pêlfasged i'r dosbarth ers dau dymor.Twrnament pêl-droedAeth criw o ddisgyblion blwyddyn 4, 5 a 6i gynrychioli’r ysgol yn nhwrnament pêldroed7 bob ochr yng NghanolfanGymunedol, Gilfach Goch. Rhoddoddbawb ymdrech ardderchog yn erbyn ytimau lleol eraill a chipion nhw'r wobrgyntaf - campus!Gweithdy Masnach DegDaeth Mr Emyr Williams a Miss EllyJones o siop SUSSED ym Mhorthcawl igynnal gweithdai masnach deg, cyffrous iflynyddoedd 3-6. Mwynhawyd yn fawr.Her DarllenMae nifer o ddisgyblion wedi bod ynbrysur iawn wrth gymryd rhan mewn herdarllen a gafodd ei lawnsio gan RhCT ihyrwyddo a dathlu darllen yn yr ysgol acyn y cartref. Roedd ‘gwobr’ o 500 milltiram bob 10 munud o ddarllen ac roedd ymilltiroedd yn cael eu casglu mewnpasbort arbennig oedd yn dangos faintoedd wedi ei ddarllen yn ogystal â dilyntaith yr unigolyn. Roedd angen teithio33,000 milltir i deithio o amgylch y byd igyd! Cafodd pob plentyn dystysgrif achyfle i nodi ei h/enw ar gerdyn post a bodyn rhan o raffl fawr er mwyn ceisio ennillgwobr i’r ysgol. Llongyfarchiadau mawr ibawb a gwblhaodd yr her!

Ysgol CreigiauTafod Elái Mai 2013 13Rhai o ddisgyblion Blwyddyn 5yn helpu yn yr ardd.Creu adeiladau 3Dallan o glai.Bois y tîm rygbi yn eu cit newyddgyda’u hyfforddwr Mr Balbini.Ysgol Garth OlwgMesur perimedrauyn y BaeTîm pêl-droed yr ysgol yn chwarae ynerbyn ysgol Tonysguboriau.Ysgol TonyrefailTîm Traws-gwlad llwyddianusGweithdy Masnach DegKeeley Adams, Bl5enillydd ras traws-gwladEnillwyr y Quiz ClubLlongyfarchiadau i dîmGarth Olwg ar ennillcystadleuaeth AthletauDan Do y Sir.Tîm Blwyddyn 3 a 4 aenillodd Cwis Llyfrau y SirGwisgoedd newyddy tîm pêl-rwyd.

14 Tafod Elái Mai 2013YsgolLlanhariY ChwechedMae 52 o fyfyrwyr y chweched dosbarthwedi cael cynigion o amryw o Brifysgolioneleni, gyda rhai yn derbyn cynnig oBrifysgolion safon uchel iawn. Mae CoryDavies wedi derbyn cynnig di-amod oBrifysgol Aberystwyth i astudioGwleidyddiaeth Rhwngwladol yn dilyn eiberfformiad cryf yn yr arholiadauysgoloriaeth. Llongyfarchiadau mawr iddofe, a phob dymuniad da i weddill ymyfyrwyr yn yr arholiadau allweddol i ddod.Llongyfarchiadau gwresog i Dewi Jones(Llanharan) o flwyddyn 13 ar ennill gwobrMyfyriwr y Flwyddyn (wedi noddi ganLwybrau dysgu 14 - 19 Penybont). MaeDewi yn astudio 2 bwnc lefel A yn YsgolLlanhari ac yn astudio safon uwch Ffilm yngNgholeg Penybont. Mae ennill y wobr ymayn dystiolaeth o'i waith caled a'i bresenoldebardderchog ar hyd y ddwy flynedd.C e r d d o r i o n ,d a w n s w y r a cactorion LlanhariYmfalchiwn arg a m p M e g a nGriffith Blwyddyn12 yn ennillc y s t a d l e u a e t hCantores Ifanc yFlwyddyn Dunravena gyflwynwyd ganGôr Meibion Maesteg yn ddiweddar.Braf oedd gweld Ifan Jenkin Bl 12 yn westaiar raglen gyntaf cyfres deledu newyddMargaret Williams nos Sadwrn. Felenghraifft o dalent newydd, addawol,cawsom flas o'i ddawn fel pianydd agwrando arno'n sgwrsio am ei brofiadaucerddorol.Mae Gwynfor Dafydd o Fl 10 ynymddangos ar raglen S4C Gwaith Cartrefar hyn o bryd.Llongyfarchiadau i Paige Jenkins Bl 10 arei llwyddiant yn ei harholiad Ballet Gradd6.Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i'rcystadleuwyr a ddaeth yn fuddugol ynEisteddfod Sir yr Urdd yn ddiweddar. SirBenfro a'r Genedlaethol amdani!Alys John - unawd merched dan 15Angharad Davies-unawd llinynnol dan 15Beca Ellis- unawd alaw werin dan 15Siwan Henderson- Unawd merched dan 19Parti Merched dan 15Ifan Jenkin – Unawd Piano dan 19Parti Llefaru 7.8.9. Parti llefaru 10-13Ymgom 10-13. Ymgom Ddigri 10 -13Rygbi 7 bob ochrDdydd Iau diwethaf chwaraeodd tîm rygbi7 bob ochr Bl.8 yr ysgol yn nhwrnamentysgolion Pontypridd. Enillon ni pob gêmond am un gêm gyfartal yn erbyn ysgolBryn Celynnog. Ar ddiwedd y dyddaethon ni ymlaen i’r ffeinal a chwaraeYsgol Gartholwg a’i curo nhw 64-0. Einprif sgorwyr oedd Iwan Griffith, DewiCross a Liam Bradford.Nofwraig dalentogMae Shauna HayesWithers, Bl.8 wedi caeltymor arbennig yn ypwll nofio. Bu’ncystadlu mewn sawlgala lefel 1 – sef y lefeluchaf posib a chafodd eidewis i gystadlu mewnpencampwriaethau ynJersey a Sheffield! Rydym yn eillongyfach ar ennill ei lle i gystadlu ym‘Mhencampwriaethau’r Haf’ eleni.Soniodd aderyn bach hefyd y bydd yn caelmynychu ‘gwersyll hyfforddi’ yngNghyprus y flwyddyn nesaf. Braf iawnShauna a phob hwyl i ti!Bydi am BythRydym yn hynod falch ein bod nawr wedicychwyn ein system BYDI rhwng yr adrangynradd ac uwchradd. Cyn y Pasg, daethdros 30 o ddisgyblion Blwyddyn 7 ac 8 i’radran gynradd er mwyn cwrdd â’r plant adod i’w hadnabod. Ein bwriad dros ytymor nesaf yw y bydd y BYDIs yn treulioamser yn yr adran gynradd yn chwaraegyda’r plant, yn eu cynorthwyo yn eugwaith ac yn eu cefnogi wrth iddyntlwyddo mewn amryw weithgareddau.Mae’r BYDIs yn barod wedi gwyliodisgyblion Cadi Cwningen a DewiDraenog yn ymarfer ar gyfer yr orymdaithhetiau Pasg! Maen nhw nawr yn ymarferyn brysur ar gyfer darllen storiau iddynt acyn edrych ymlaen yn arw at eu cefnogi yny mabolgampau ym mis Mehefin ac ar eudiwrnod graddio ym mis Gorffennaf!Y BydisShannon, Charlotte ac Eleri o Flwyddyn 8 ynhelpu Dilan, Sienna ac Olivia wrth adeiladu.CroesoHoffem estyn groeso cynnes i Miss EmmaRees sydd wedi ymuno â ni i wneudcyfnod mamolaeth fel cynorthwywraig ynnosbarth Cadi Cwningen.Croeso hefyd i Miss Emma Bird sydd yngweithio â disgyblion Cadi Cwningen.Mae Emma wrthi yn gweithio tuag at eilefel 3 ar ei chwrs CACHE.Geni MerchLlongyfarchiadau i Miss Carly Ryan,cynorthwy-wraig yn Nosbarth DewiDraenog, a’i phartner Barry ar enedigaetheu merch fach, Sadie.Llongyfarchiadau hefyd i Miss LeanaStansfield o’r Adran Wyddoniaeth a’Iphartner ar enedigaeth Mali.Gweithgareddau’r PasgRoedd neuadd yr ysgol yn llawn mamaucua thadau-cu Dosbarth Dewi Draenog aDosbarth Cadi Cwnignen ar gyfer eingorymdaith hetiau Pasg cyn y gwyliau.Cymdeithason nhw gyda phaned o de achacen cyn gwylio eu hwyrion ac wyresauyn arddangos eu hetiau bendigedig,lliwgar. Diolch i’r rhieni am eu cefnogaethwrth baratoi eu plant ar gyfer y diwrnodarbennig hwn.Trefnodd ‘Ffrindiau Llanhari’ helfawyau Pasg a disgo ar gyfer y plant yndilyn yr orymdaith. Roedd y plant wrth euboddau yn dilyn llwybr y bwni Pasg ac ynddiweddarach yn dawnsio, canu a chwaraeymysg y swigod uwch eu pennau yn ydisgo! Diolch i ‘Ffrindiau Llanhari’ amdrefnu eu digwyddiad llwyddiannus cyntafar gyfer y plant cynradd.Cywion bachYn rhan o’n thema ‘Ffrindiau’r Fferm’,rydym wedi buddsoddi mewn deorfa!Mae’r disgyblion yn hollol gyffrous ac ynedrych ymlaen at gael gwrdd â’r cywionbach! Mae hwn yn gyfle delfrydol i’rdisgyblion ddysgu am gylch bywyd iârmewn ffordd hwyl ac ymarferol a deallpwysigrwydd gofalu am anifeiliaidnewydd.

Ysgol GyfunGarth OlwgTafod Elái Mai 2013 15Ffisegwyr Garth Olwg yn tracioEiddo’r BBC.Dawns GreadigolLlongyfarchiadau i ferched blwyddyn 8Ysgol Gyfun Garth Olwg ar ddod yngyntaf yng nghystadleuaeth y DdawnsGreadigol yn yr Eisteddfod Sir ym misMawrth. Aelodau’r grŵp yw CarysBowen, Taome Edwards, Georgia Jenkinsa Jessica Davies. Dyma’r tro cyntaf i’rmerched gystadlu yn y gystadleuaeth hona derbyniodd y grŵp feirniadaeth addawoliawn! Pob lwc i chi yn yr EisteddfodGenedlaethol yn Sir Benfro!Gwaith BlasusEnillodd Megan Meadows 7H, TallisGriffith 7H ac Indeg Lacey 7H y wobr 1af,2ail a 3ydd yn y gystadleuaeth Gwaithcreadigol 3D ar gyfer Eisteddfod yr Urddeleni. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw!Mentoriaid CyfoedionMae menter gyffrousnewydd ar y gweill yngNgarth Olwg. Yn dilyntrafodaethau yn y CyngorYsgol am bob math o fwlian, hyfforddwydnifer o aelodau o flwyddyn 10, 11 a 12 ifod yn Fentoriaid Cyfoedion. Mae’r criwwedi creu fideo i ddangos i blant iau'rysgol yn esbonio beth yw eu rôl a’ucyfrifoldebau. Rydym yn edrych ymlaenat weld dylanwad eu gwaith!Noson GwobrwyoFe ddaeth disgyblion a chyn ddisgyblionat ei gilydd i ddathlu eu llwyddiannau ynein noson wobrwyo. Y gŵr gwadd oeddDr. Phil Ellis ac fe gyflwynodd ef sawlgwobr gan gynnwys tystysgrifau TGAU aLefel A a gwobrau arbennig fel gwobrgoffa Gwenan Brooks. Cyflwynwyd ywobr er cof am Athrawes Ffiseg yr Ysgol iAled Humphreys cyn ddisgybl yr Ysgol,am ddangos agwedd frwdfrydig tuag at ypwnc. Roedd hi’n noson arbennig iawn!Cychwynnodd y daith i’r “Celtic Manor”ym mis Hydref 2012, gyda phedwarpererin brwdfrydig fel rhan ogystadleuaeth flynyddol Cynllun AddysgPeirianneg Cymru (www.eesw.org.uk).Bwriad y cynllun yw denu mwy ofyfyrwyr disglair i astudio Peirianneg felpwnc yn y brifysgol, trwy gydweithio arbrosiect gyda chwmni peirianneg lleol adefnyddio adnoddau prifysgol.Aeth y pedwar ohonom ymlaen i’rgweithdy deuddydd ym MhrifysgolMorgannwg ym mis Rhagfyr. Yncydgerdded gyda ni oedd ein partnerDavid Williams, peiriannydd o’r BBC. Eintasg oedd ffeindio ffordd o dracio offerdrudfawr y peirianwyr a dynion camera asain ar hyd safleoedd y BBC yngNghymru. Roedd angen i ni’r pedwarpererin gwydn rannu’r gwaith a brwydoymlaen hyd fis Mawrth i greu dogfenbroffesiynol i gyflwyno i’r panelbeirniadu.O’r diwedd, pen y daith! Ystafelloeddcynadledda'r Celtic Manor, a’r cyflwyniadllafar i’r panel beirniadu. Trafodon ni eincynlluniau gyda’r panel am ugain munudac ateb cwestiynau lu. Roedd cyflearbennig ar y diwrnod i ni ymweld âstondinau Prifysgolion a chwmnïau, i holiam yrfaoedd a nawdd.Llongyfarchiadau i Liam Collins-Jones,Jacob Pahulo-Smith, Matthew James aJoshua Sayle ar eu hymdrech. Bydd yprofiad o fantais mawr iddyn nhw wrthgeisio am le yn y Brifysgol.Hoffai’r ysgol a’r disgyblion ddiolch ynfawr i David am ei waith caled ac i’rEESW am drefnu’r cwbl ers dros 20mlynedd bellach. Pob lwc i dîm 2014!Taith Gwlad Yr IaAm 1 o’r gloch y bore ar y 21ain oFawrth, cychwynnodd 41 o ddisgyblion a5 athro o Ysgol Gyfun Garth Olwg ar eutaith i Wlad yr Iâ. Ni chysgodd lawer oblant ar y bws na’r awyren felly roeddennhw’n flinedig iawn. Serch hyn, nid oeddyn broblem gan fod cyffro ac adrenalin yplant yn eu cadw ar ddihyn. Ar y diwrnodcyntaf aethon nhw i’r Blue Lagwn lleymlaciodd pawb yn y dŵr twym. Roeddyna arogl cryf o sylffwr yn yr awyr, ondroedd pawb yn mwynhau gormod i boeni!Ar yr ail ddiwrnod, roedd pawb wediblino’n lân, a chysgodd nifer ohonynt ar ybws. Roedd y tywydd yn oer ac ynwyntog, ond roedd golygfeydd rhaeadrGulfoss, y geiser a’r llosgfynydd ynddigon i atal y plant rhag cwyno gormod!Ar ddiwrnod olaf y daith, ymwelon nhw ârhagor o raeadrau, rhewlif enfawr a thraethhynod o wyntog! Am tua hanner awr wedideg y noson honno gwelodd y grŵp lwcusOleuadau’r Gogledd! Cafodd y plant eumesmereiddio gan y lliwiau estron. Roeddyr athrawon Daearyddiaeth bron â chriogyda’r cyffro! Wrth lwc, llwyddodd MrJones i ddal y cyfan ar gamera.TelynorionDdydd Sadwrn, Mawrth 23ain aeth dwydelynores o flwyddyn 7, sef Ella Jones-Isles a Morgan Evans ar gwrs TelynauMorgannwg yn Theatr Soar, Merthyr.Hefyd, buon nhw, a thair merch arall, sefRebeca a Carys Preddy a Caitlin Sparkesyn canu’r delyn ym Mhen-y-bont fel rhano ddathliadau i gofio’r telynor enwog JohnThomas.“First campus”Yn ystod yr wythnos ddiwethaf aethdisgyblion blwyddyn naw ar drip i’rBrifysgol Fetropolitan yng Nghaerdydd.Cafon nhw gyfle i ymweld â’r brifysgol achael cip olwg ar y math o gyrsiau sy’ncael eu cynnig ar y safle. Cafon nhwamser arbennig o dda. Dywedodd JackOsborne “Roedd y cwrs yn dda ac yn rhoiblas i ni ar gyfer ein dyfodol”.

16 Tafod Elái Mai 2013Penllanw'r tymor i BontypriddMae'r tymor yn dirwyn i ben i Glwb RygbiPontypridd ond gyda dwy gêm enfawr eto iddod a'r cyfle i hawlio'r dwbwl, sef cwpanSWALEC a choron Uwch Gynghrair Cymru.Beth bynnag fydd ffawd y tîm yn y ddwy gêmderfynnol hynny, mae'r tymor eisioes wedi bodyn un aruthrol o lwyddiannus. Hyd atbenwythnos olaf mis Ebrill dim ond un gêmroedd Ponty wedi ei cholli yn y gynghrair o'r unar-hugaina chwaraewyd, a sicrhawydbuddugoliaethau hefyd ym mhob rownd o'rcwpan i gyrraedd y rownd derfynnol.Enillwyd pob un gêm gartref a chwaraewyd ar faes Heol Sardis, gan ail hawlio i'r lleyr enw House Of Pain. Ymysg y buddugoliaethau mawr roedd y rheini yn erbyntimau proffesiynnol Leinster o'r Iwerddon a Leeds Carnegie o Loegr, hynny yngNghwpan Prydain ac Iwerddon.Mae hyfforddwyr Pontypridd, Dale McIntosh a Paul John, wedi bod yn garcus wrthlywio'r clwb trwy'r tymor hir a chaled, gan orffwys chwaraewyr a dibynnu ar gryfder ygarfan i gadw'r momentwm i fynd.Yn ystod y mis diwethaf cafwyd buddugoliaethau, ac yn fwy na hynny,berfformiadau hynod o lewyrchus yn erbyn timau fel Jersey, Caerdydd ddwywaith aBedwas.Yn awr mae'r holl ymdrech a'r llwyddiant sydd wedi gweld Ponty yn diweddu'rtymor dros ugain pwynt yn glir ar frig yr adran, yn dibynnu'n llwyr ar ddwy gem syddyn weddill.Ddydd Sadwrn 4ydd o Fai bydd Ponty yn herio Castell Nedd yn Stadiwm yMileniwm yn rownd derfynnol Cwpan SWALEC. Mae'r gêm yn cychwyn am 5:30pmac yn cael ei darlledu yn fyw ar S4C.Ddydd Sadwrn 18fed o Fai bydd Ponty yn chwarae yn rownd derfynnol gemau ailgyfle'rUwch Gynghrair - yr ornest hon fydd yn penderfynnu pwy fydd y pencampwyr.Ar Heol Sardis y caiff y gem ei chwarae, eto i'w dangos yn fyw ar S4C.Os am brofi cyffro penllanw'r tymor i Bontypridd, dewch lawr i Heol Sardis i wylio'rgemau mawr. Mae'r manylion i gyd ar wefan y clwb: www.ponty.netYsgol Llanhari(parhad o dudalen 14)Blwyddyn 9 yn y gweithleCafodd disgyblion Blwyddyn 9 ddiwrnodgwerth chweil yn ddiweddar yn ymweld â’rByd Gwaith fel rhan o’r rhaglen PartneriaethAddysg a Busnes. Cawsant ymweld âGwesty’r Vale (gan weld aelodau o dîmrygbi Cymru yn ymlacio ar ol y gêm fawr!),safle GEAS yn Nantgarw, Castell Cyfarthfaa Chanolfan Amgen Cymru Bryn Pica blebuon nhw ar safari ailgylchu mewn ‘jeep’!Blwyddyn 9 yng Nghanolfan AmgenCymru, Bryn PicaFfrindiau LlanhariCafwyd Noson Rasus hwyliog yng NghlwbRygbi Pontyclun nos Wener y 19eg o Ebrill.Hon oedd ail noson gymdeithasol FfrindiauLlanhari sef cymdeithas rhieni, athrawon aholl ffrindiau’r ysgol. Diolch i bawb amgefnogi.Gorfoleddu wrthennill rasYsgol Garth Olwg yng Ngwlad yr Iâparhad o dudalen 15Wrth ymyl rhaeadr Gulffoss

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!