12.07.2015 Views

Arfer orau mewn darllen ac ysgrifennu disgyblion 7 i 14 oed - Estyn

Arfer orau mewn darllen ac ysgrifennu disgyblion 7 i 14 oed - Estyn

Arfer orau mewn darllen ac ysgrifennu disgyblion 7 i 14 oed - Estyn

SHOW MORE
SHOW LESS
• No tags were found...

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Astudiaeth achos 19CefndirMae gan un awdurdod lleol strategaeth llythrennedd tymor hir, clir iawn aweithredwyd yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Mae aelodau etholedig wedicymeradwyo cyllid ychwanegol sylweddol i ddatblygu a chynnal safonau llythrennedduchel. Mae’r cyllid hwn yn ei gwneud yn bosibl i ysgolion weithredu rhaglenni tymorhir i hybu gwelliant. Er enghraifft, mae wedi galluogi’r awdurdod i wella rhaglengwella darllen ac ysgrifennu mewn ysgolion cynradd sydd, dros lawer o flynyddoedd,wedi cyflawni safonau eithriadol o uchel.StrategaethMae’r tîm cynghori llythrennedd profiadol iawn yn rhoi cyngor a hyfforddiant oansawdd uchel i ysgolion sy’n cynnwys:• cymorth parhaus gan gynnwys gwersi arddangos, a rhannu addysgu a hyfforddimewn rhyw 10 ysgol gynradd bob tymor;• hyfforddiant a chymorth ar gyfer ystod dda o raglenni dal i fyny a chyflymullythrennedd i ddisgyblion 6-14 oed sy’n tangyflawni ym mwyafrif helaeth ysgolioncynradd ac uwchradd yr awdurdod;• cwrs hyfforddi wyth diwrnod ar gyfer cydlynwyr iaith ysgolion cynradd sy’ncynnwys modiwlau ar ddarllen cynnar, datblygu medrau darllen uwch yngnghyfnod allweddol 2, ysgrifennu cynnar, ymestyn medrau ysgrifennu yngnghyfnod allweddol 2, defnyddio drama yn yr ystafell ddosbarth, asesu, monitroac arfarnu a rheoli pwnc;• hyforddiant a chymorth ysgol rheolaidd ar gyfer rhwydweithiau sefydledig o staffsy’n chwarae rhan allweddol yn rhoi strategaeth lythrennedd yr awdurdod arwaith, gan gynnwys uwch reolwyr sy’n gyfrifol am lythrennedd mewn ysgolionuwchradd, penaethiaid ysgolion cynradd, cydlynwyr llythrennedd, penaethiaidadran ysgolion uwchradd ac arweinwyr pwnc ysgolion cynradd, tiwtoriaid cyflymullythrennedd a chynorthwywyr cymorth dysgu.Y ffactorau sy’n cyfrannu at lwyddiant gwaith yr awdurdod yw defnyddio data’nbenodol ar gyfer darllen ac ysgrifennu er mwyn targedu cymorth at ysgolion agrwpiau o ddisgyblion nad ydynt yn cyflawni’n dda. Mae ymchwil ofalus i fentraullythrennedd llwyddiannus yn Ewrop a mannau eraill wedi llywio rhaglenni hyfforddi.Dros nifer o flynyddoedd, bu’r awdurdod hefyd yn gweithio’n systematig gydarhwydweithiau o bersonél allweddol i roi mentrau ar waith.CanlyniadYn ystod y 10 mlynedd diwethaf, bu canlyniadau mewn Saesneg yng nghyfnodauallweddol 1 a 2 yn gyson yn dda iawn ac mae safonau yng nghyfnod allweddol 3 yngwella. Mae staff cynghori’n rhoi cefnogaeth o safon i ysgolion, er enghraifft, wrthddarparu hyfforddiant mewn addysgu medrau darllen ac ysgrifennu yng nghyfnodauallweddol 2 a 3. Mae’r awdurdod wedi nodi diffygion mewn ysgrifennu ac wedi rhoiblaenoriaeth i addysgu ac asesu ysgrifennu yn 2008.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!