You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Profion Protein C-Adweithiol i Lywio Rhagnodi
Gwrthfiotigau ar gyfer Gwaethygiadau Clefyd
Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD)
Mae dros filiwn o bobl yn y DU wedi'u heffeithio
gan COPD, sef cyflwr ar yr ysgyfaint sy'n
gysylltiedig ag ysmygu a llygryddion
amgylcheddol eraill.
Yn aml, mae pobl sy'n byw â'r cyflwr yn profi
gwaethygiadau, neu fflamychiadau, a phan fydd
hyn yn digwydd, rhagnodir gwrthfiotigau i dri o
bob pedwar claf. Fodd bynnag, nid heintiau
bacteriol sy'n achosi dwy ran o dair o'r
fflamychiadau hyn, ac yn aml, nid yw
gwrthfiotigau o unrhyw fudd i'r claf.
Darparwyr gofal sylfaenol sy'n gyfrifol am y rhan
fwyaf o bresgripsiynau gwrthfiotig, ac mae'r nifer
uchaf o bresgripsiynau o'r fath yn cael eu rhoi gan
feddygon teulu.
Mae rheswm dros gredu y gellid osgoi llawer o'r
presgripsiynau hyn. Gall defnydd diangen o
wrthfiotigau achosi ymwrthedd gwrthficrobaidd,
mae'n gwastraffu adnoddau, mae'n gallu achosi
effeithiau niweidiol, ac mae'n effeithio'n negyddol
ar ficrobïom cleifion.
PACE https://youtu.be/AtZ7bnbpoNk
Mae prawf pigiad bys yn gallu mesur faint o
brotein C-adweithiol (CRP) sy'n bresennol - sef
dynodwr llid sy'n cynyddu'n gyflym yn y gwaed
mewn ymateb i heintiau difrifol. Mae'n
ymddangos nad yw triniaeth wrthfiotig o lawer o
fudd i bobl sy'n profi fflamychiad COPD ac sydd â
lefel isel o brotein C-adweithiol yn eu gwaed.
Dangosodd y tîm fod defnyddio prawf gwaed
pigiad bys ar gyfer protein C-adweithiol yn arwain
at 20% yn llai o bobl yn defnyddio gwrthfiotigau
ar gyfer fflamychiadau COPD.
Mae'n bwysig nodi na chafodd y gostyngiad hwn
yn y defnydd o wrthfiotigau effaith negyddol ar
wellhad cleifion yn ystod y pythefnos cyntaf ar ôl
eu hymgynghoriad yn eu meddygfa, nac ar eu lles
neu eu defnydd o wasanaethau gofal iechyd dros
y chwe mis dilynol.
WP4. Sgrinio, atal a diagnosismewn gofal
sylfaenol
Ymgysylltu â grwpiau risg uchel mewn diagnosis
cynnar o ganser yr ysgyfaint
Mae pobl sydd â risg uchel o gael canser yr
ysgyfaint - sef ysmygwyr presennol/ cyn
ysmygwyr, dros 40 oed, â chydafiachedd difrifol
yn yr ysgyfaint (h.y. clefyd rhwystrol cronig yr
ysgyfaint) ac sy'n byw mewn ardaloedd
difreintiedig iawn - yn fwy tebygol o ohirio
cyflwyno symptomau.
Nod yr astudiaeth ansoddol hon oedd deall y
dylanwadau ar gyflwyniad cynnar â symptomau
canser yr ysgyfaint mewn unigolion risg uchel a
dewisiadau o ran ymyriadau.
Defnyddiodd yr ymchwilwyr gyfweliadau
ansoddol lled-strwythuredig a grwpiau ffocws ag
unigolion risg uchel a nodwyd mewn saith practis
meddyg teulu mewn ardaloedd o amddifadedd
economaidd-gymdeithasol, a rhanddeiliaid lleol
(gweithwyr proffesiynol gofal iechyd a
phartneriaid cymunedol) i archwilio canfyddiadau
o symptomau yn ymwneud â'r ysgyfaint ac
ymddygiad o ran ceisio cymorth, a dewisiadau o
ran ymyriadau i hyrwyddo cyflwyno'n gynnar â
symptomau canser yr ysgyfaint.
Daethant i'r casgliad bod diffyg hawl canfyddedig
i wasanaethau iechyd, a bywydau cymhleth, yn
hwyluso osgoi adnabod a chyflwyno symptomau
canser yr ysgyfaint.
Mae gan ymyriadau yn y gymuned y potensial i
rymuso poblogaethau difreintiedig i geisio
cymorth meddygol ar gyfer symptomau'r
ysgyfaint.
Roedd yr astudiaeth hon yn wahanol o ran
ymgysylltu â phoblogaeth risg uchel er mwyn cael
dealltwriaeth fanwl o'r dylanwadau cyd-destunol
ehangach mewn perthynas â chyflwyno symptom
canser yr ysgyfaint.
Cafodd canfyddiadau'r astudiaeth hon sylw yn
adroddiad Cynghrair Canser yr Ysgyfaint y DU
McCutchan G, Hiscock J, Hood K, Murchie P, Neal
R, Newton G, Thomas S, Thomas AM, Brain K.
Engaging high-risk groups in early lung cancer
diagnosis: a qualitative study of symptom
presentation and intervention preferences
amongst the UK?s most deprived communities.
BMJ Open 2019;9:e025902.
http:/ / dx.doi.org/ 10.1136/ bmjopen-2018-025902
Ymyriadau ymddygiadol ar gyfer rhoi'r gorau i
ysmygu ymhlith ysmygwyr h?n o gefndiroedd
difreintiedig
Ysmygu yw prif achos marwolaethau a chlefydau
ledled y byd ac mae data'n dangos bod tua 7.4
miliwn o oedolion sy'n ysmygu sigaréts yn y DU.
Mae 26 y cant o ysmygwyr yn y DU yn 50 oed
neu'n h?n; mae'r unigolion hyn yn tueddu i fod â
hanes hirsefydlog o ysmygu, yn aml maent yn dod
o gymunedau difreintiedig ac maent yn
boblogaeth sy'n debygol o fod yn gymwys ar gyfer
sgrinio'r ysgyfaint yn y dyfodol.
Mae'r cysylltiadau rhwng y nifer o bobl sy'n
ysmygu, gr? p economaidd-gymdeithasol ac
amrywiaeth o ganlyniadau clefydau cronig, gan
gynnwys canser yr ysgyfaint, wedi hen sefydlu,
gyda chyfraddau ysmygu uwch a mwy o achosion
o ganser yr ysgyfaint a marwolaethau ymhlith
pobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig.
Yr adolygiad systematig hwn yw'r cyntaf i
archwilio dylanwad ymyriadau ymddygiadol er
mwyn rhoi'r gorau i ysmygu ymhlith poblogaeth
h?n, ddifreintiedig.
Mae'n dangos y potensial ar gyfer ymyriadau
aml-ddull pwrpasol i roi'r gorau i ysmygu ar gyfer
ysmygwyr h?n, difreintiedig, y gellir eu sefydlu
mewn cymunedau difreintiedig.
Gyda'r posibilrwydd o sgrinio ar gyfer canser yr
ysgyfaint yn cael ei weithredu yn y DU ac yn
Ewrop yn y dyfodol agos, mae'r ymchwil hwn yn
ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth o ran
ymyriadau rhoi'r gorau i ysmygu addawol ar gyfer
poblogaethau h?n, difreintiedig a fydd yn elwa
fwyaf ar sgrinio'r ysgyfaint a chymorth integredig i
roi'r gorau i ysmygu.
Smith P, Poole R, Mann M, Nelson A, Moore G,
Brain K. Systematic review of behavioural smoking
cessation interventions for older smokers from
deprived backgrounds. BMJ Open
2019;9:e032727.
http:/ / dx.doi.org/ 10.1136/ bmjopen-2019-032727
WP5. Gofal brys, gofal heb ei drefnu a gofal
cyn mynd i'r ysbyty
Analgesia Cyflym ar gyfer Amhariad ar y Glun cyn
Cyrraedd yr Ysbyty (RAPID): canfyddiadau
astudiaeth ddichonoldeb ar hap
Mae torasgwrn clun yn anaf cyffredin, poenus
iawn, sy'n effeithio'n arbennig ar bobl oedrannus
sy'n agored i niwed.
Mae torri clun yn arwain at fwy o dderbyniadau i
wardiau trawma orthopedig nag unrhyw anaf arall,
ac mae cleifion mewnol yn aros yn yr ysbyty am
21 diwrnod ar gyfartaledd, sy'n cyfrif am 2.5% o'r
16