Jesus College Prospectus - Welsh Version (2022)
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Bywyd yng Ngholeg yr Iesu

Iechyd a lles

Mae Rhydychen yn lle rhagorol ac yn llawn cyfleoedd i

gyflawni eich potensial. Er hynny, nid yw’n anghyffredin

i rai anghenion lles godi yn ystod cyfnod myfyriwr yn

Rhydychen.

Yn y Coleg ac ar draws y Brifysgol, rydym yn cymryd ein rôl o

hyrwyddo lles ein holl fyfyrwyr o ddifrif, ac yn darparu ystod

eang o wasanaethau cymorth lles i sicrhau bod eich amser

yma yn ffrwythlon a phleserus, ac y gallwch ymdopi yma.

Mae myfyrwyr yn cofrestru gyda phractis meddygol GIG

lleol, sy’n darparu dau Feddyg Coleg sy’n cynnal meddygfa yn

y Coleg ddwywaith yr wythnos yn ystod y tymor, a hefyd yn

gweld myfyrwyr yn eu meddygfa arferol ac mewn argyfwng.

Mae ein Nyrs Coleg yn cynnal meddygfa yn y Coleg o ddydd

Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor ar gyfer ymgynghori a

materion meddygol mân.

Mae ein Swyddog Lles, Pennaeth, Cyfarwyddwr Academaidd,

Rheolwr Gwasanaethau Academaidd, Cymrawd Lles, Is-

Ddeon, Caplan a Chynghorwyr y Coleg ar gael i siarad am

unrhyw broblem sydd gennych, ac mae Gwasanaeth Cwnsela’r

Brifysgol yn cynnig cymorth arbenigol lle bo hyn yn briodol.

Mae gan y JCR a’r MCR eu swyddogion lles a systemau

cymorth cyfoedion eu hunain, ac mae pawb yn y Coleg yn

cydweithio i sicrhau bod unrhyw broblemau sy’n codi yn cael

eu datrys mewn modd amserol a chefnogol.

“Os ydych chi’n fyfyriwr yng Ngholeg yr Iesu sydd

eisiau siarad gyda rhywun a fydd yn gwrando arnoch

chi mewn preifatrwydd, gallwch siarad gydag un o

gefnogwyr cyfoedion y Coleg. Yn yr un modd, mae

rhestr ddiddiwedd o bobl a gwasanaethau gallwch

siarad â hwy, a nod y rhwydwaith lles yw sicrhau nad

ydych chi byth yn teimlo bod eich pryderon wedi mynd

heb eu clywed.”

Hygyrchedd

Mae gennym nifer o fyfyrwyr sydd yn astudio yng Ngholeg yr

Iesu gydag anableddau neu anghenion unigol gwahanol. Anogir

yn gryf i ymgeiswyr ag anableddau i gysylltu â ni i drafod llety

addas, addasiadau posib i gyfleusterau academaidd a chymorth

astudio, cyn gwneud cais a hefyd cyn cymryd lle. Mae hefyd yn

bwysig cysylltu ag adran neu gyfadran berthnasol y Brifysgol.

Mae gwybodaeth bellach am ein darpariaeth ar gyfer

myfyrwyr efo anghenion unigol ar gael yma. Mae Gwasanaeth

Cynghori Anabledd y Brifysgol hefyd yn darparu ystod eang

o wybodaeth a chyngor ar faterion anabledd ac yn hwyluso

cefnogaeth i’r rhai sydd, er enghraifft, gyda namau synhwyraidd

neu symudedd, cyflyrau iechyd hirdymor, anawsterau dysgu

penodol, cyflyrau ar y sbectrwm awtistig neu anawsterau

iechyd meddwl.

Dathliadau

graddio.

Mae ystod eang o

gefnogaeth iechyd a lles ar

gyfer myfyrwyr.

Cyfleoedd cyfartal ac amrywiaeth

Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth galon ein hethos

a’n cenhadaeth academaidd. Fel Coleg, rydym yn ategu

gwerthoedd cynwysoldeb, cydraddoldeb, amrywiaeth a

chyfleoedd i bawb. Mae gennym Bwyllgor Cydraddoldeb ac

Amrywiaeth sy’n cynnwys aelodau o bob rhan o’r Coleg a

Chymrawd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, sy’n goruchwylio

pob agwedd o sut mae cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi’u

gwreiddio ym mywyd y Coleg. Mae gan ein JCR a’n MCR

gynrychiolwyr cydraddoldeb myfyrwyr.

Rydym yn ymdrechu i fod yn gynhwysol yn ein hymchwil,

addysgu, cymorth addysgu, derbyniadau, arferion a

gweithgareddau ar gyfer staff a myfyrwyr ac rydym yn

benderfynol o wneud ein cymuned yn fwy amrywiol pob

blwyddyn.

Gallwn ddarllen mwy am ein polisi cydraddoldeb ac

amrywiaeth, datganiadau a gweithgareddau yma.

Yr Athro Patricia Daley,

Cymrawd Cydraddoldeb ac

Amrywiaeth Coleg yr Iesu.

12 13

Llun gan

Bill Knight.