Jesus College Prospectus - Welsh Version (2022)
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Dysgu yng Ngholeg yr Iesu

Ôl-raddedigion

Mae ein 290 o ôl-raddedigion yn rhan hollbwysig o

gymuned y Coleg ac yn dod o amrywiaeth eang

o gefndiroedd: mae rhai yn dychwelyd wedi eu cyrsiau

israddedig, eraill yn dod o brifysgolion eraill y DU, ac

mae llawer yn ymuno â ni o gefndiroedd a diwylliannau

rhyngwladol amrywiol.

Mae ein ôl-raddedigion yn astudio ystod eang o gyrsiau uwch

dros nifer o feysydd pwnc, o gyrsiau Meistr a addysgir dros

flwyddyn o hyd i ddoethuriaethau tair neu bedair blynedd

o hyd (a elwir yn DPhil), yn seiliedig ar ymchwil personol a

gwreiddiol. Rydym hefyd yn derbyn rhai graddedigion bob

blwyddyn i ddilyn cyrsiau israddedig, yn aml mewn llai na’r

amser arferol, ar gyfer ail radd israddedig.

Darganfyddwch fwy am wneud cais i Goleg yr Iesu ar gyfer

astudiaethau ôl-raddedig.

Pam dewis Coleg yr Iesu?

Felly, beth allwn ni ei gynnig i chi os oes gennych chi

ddiddordeb mewn gradd ôl-raddedig yng Ngholeg yr Iesu?

Yn gyntaf, rydym wedi ymrwymo i gynnig cefnogaeth o’r radd

flaenaf ar gyfer eich astudiaethau, trwy ryngweithio rheolaidd

gyda’n Cymrodorion.

Mae cyfadran neu adran prifysgol ôl-raddedig yn gyfrifol am

oruchwylio cynnydd academaidd, penodi goruchwyliwr a

threfnu darlithoedd a dosbarthiadau. Mae ein graddedigion yn

cael eu cyfeirio at Gynghorydd Coleg, sydd fel arfer yn un o’n

Cymrodorion a, chyn belled ag y bo modd, maent yn gweithio

mewn maes tebyg. Mae Cynghorwyr Coleg yn darparu

cefnogaeth academaidd gyffredinol a chyswllt

personol o fewn y Coleg.

Ôl-raddedigion yn mynd i Theatr Sheldonian

ar gyfer eu seremoni raddio.

Yr Uwch-Fwrdd yn y Neuadd.

Mae Arun Joseph yn astudio ar gyfer

DPhil mewn Niwrowyddorau Clinigol.

Mae’r Pennaeth a’r Cyfarwyddwr Academaidd (sydd â

chyfrifoldeb arbennig dros ôl-raddedigion yn y Coleg) hefyd

yn trefnu cyfarfod cynnydd byr blynyddol gyda phob myfyriwr.

Rydym yn creu cyfleoedd trwy gydol y flwyddyn er mwyn i

ôl-raddedigion gwrdd â staff academaidd y Coleg, gan gynnwys

sgyrsiau poblogaidd pob tymor, a chiniawau a fynychir gan ein

hacademyddion, graddedigion a’u gwesteion. Yn Adeilad Cheng

Yu Tung newydd, rydym yn cynnig llety ar gyfer glasfyfyrwyr

ôl-raddedig, ystafell astudio ôl-raddedig, caffi, mannau addysgu

arbennig ac ystafell aml-ffydd. Mae Canolfan Ddigidol yr

adeilad yn hwyluso cyfleoedd ymchwil rhyngddisgyblaethol

ac yn cynnig cyfle i ôl-raddedigion ddefnyddio’r technolegau

digidol diweddaraf i arddangos eu hymchwil.

Mae ein cymuned MCR yn glos

ac yn gyfeillgar.

Dathlu graddio yn y Cwad Cyntaf.

8 9

Pynciau

Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr ôl-raddedig i

astudio graddau ym mwyafrif y prif bynciau. Bydd blaenoriaeth

yn cael ei roi fel arfer i’r myfyrwyr y mae eu diddordebau

ymchwil yn gysylltiedig ag ymchwil Cymrodorion y Coleg. Am

restr lawn o gyrsiau graddedig sydd ar gael yng Ngholeg yr

Iesu, gweler gwefan y Brifysgol yma.

Ysgoloriaethau, dyfarniadau, gwobrau a grantiau

Rydym yn cynnig hyd at ddeg Ysgoloriaeth Ôl-raddedig pob

blwyddyn i’r rhai yn eu blwyddyn gyntaf a thu hwnt, i wobrwyo

rhagoriaeth academaidd. Mae hefyd rhai ysgoloriaethau a

ariennir yn llawn ac ysgoloriaethau Clarendon wedi’u cydariannu

mewn rhai meysydd pwnc. Rydym yn cefnogi ein holl

ôl-raddedigion gyda Lwfans Ymchwil hael yn flynyddol i’w

cynorthwyo i fynychu cynadleddau a theithio ar gyfer ymchwil.

Gall ôl-raddedigion hefyd fynnu Grant Llyfr pob blwyddyn,

a gwneud cais i’r Coleg am gymorth ariannol os ydynt yn

wynebu anhawster ariannol sydd heb ei ragweld. Ar ben hynny,

mae ystod eang o grantiau diwylliannol, chwaraeon a theithio

ar gael.

Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am ein hastudiaethau

ôl-raddedig ar ein gwefan yma.