21.06.2022 Views

Jesus College Prospectus - Welsh Version (2022)

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Dysgu yng Ngholeg yr Iesu

Bywyd Academaidd

Mae ein ymrwymiad cryf i ragoriaeth academaidd yn cael

ei adlewyrchu yn y safon uchel o addysgu tiwtorial,

canlyniadau uchel cyson ein israddedigion yn eu arholiadau

prifysgol, a’r cyfleusterau academaidd o’r radd flaenaf yr ydym

yn eu darparu.

Mae gennym dros naw deg o staff academaidd sydd yn

arbenigwyr yn eu maes, wedi’u recriwtio o’r DU ac yn

rhyngwladol, ac yn addysgu ystod eang o gyrsiau a gynigir

yn Rhydychen yn y dyniaethau, y gwyddorau a’r gwyddorau

cymdeithasol.*

Mae Dr Alexandra Gajda

yn Gymrawd John Walsh mewn

Hanes ac yn Athro Cysylltiol

mewn Hanes. Mae’n Gymrawd

y Gymdeithas Hanes Frenhinol

ac yn Gymrawd Cymdeithas yr

Hynafiaethwyr. Mae hi’n gweithio

ar hanes gwleidyddol, crefyddol

a deallusol Prydain ac Ewrop

yn y cyfnod modern cynnar, ac yn ysgrifennu llyfr ar y

diwygiadau Tuduraidd a’r syniad o Senedd.

“Mae Cyfadran Hanes Rhydychen y mwyaf yn y DU, ac un o’r

cyfadrannau mwyaf yn y byd. Mae gan fyfyrwyr Rhydychen

ddewis heb ei ail o ran nifer y cyrsiau a gynigir, a gallant

deilwra’r radd i ddiwallu eu diddordebau unigol.”

Mae Shankar Srinivas yn

Gymrawd Zeitlyn a Thiwtor

mewn Meddygaeth, Uwch

Ymchwilydd y Wellcome Trust

ac Athro mewn Bioleg Datblygol

yn yr Adran Anatomeg Ffisioleg a

Geneteg.

“Astudiais yng Ngholeg Nizam

yn Hyderabad, India ac yna ym

Mhrifysgol Columbia yn Efrog Newydd. Cyn ymuno â Choleg

yr Iesu yn 2004, roeddwn yn Gymrawd Ôl-Ddoethurol yn y

Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Meddygol yn Llundain.

Rwyf yn dysgu Meddygaeth: Trefniad y Corff a Geneteg

Feddygol i israddedigion a Bioleg Datblygiadol Fertebriaid ar

lefel ôl-raddedig.”

Gallwch darganfod mwy am ein staff academaidd, eu

cefndiroedd, y meysydd y maent yn addysgu a’u diddordebau

ymchwil yma.

Mae gennym lyfrgell Coleg helaeth, sydd ar agor 24 awr

y dydd. Gellir benthyg bron i bob lyfr ar system hunanwasanaeth,

mae’r stoc yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd, ac

mae ein Llyfrgellydd bob amser yn hapus i ystyried ceisiadau

myfyrwyr am lyfrau newydd. Mae’r ystafelloedd darllen yn

cynnig amrywiaeth o fannau gwaith cyfforddus, gyda WiFi

drwyddi draw fel y gallwch gael mynediad i gatalogau llyfrgell,

cyfnodolion digidol ac e-lyfrau. Ar gyfer darllen mwy arbenigol,

mae Llyfrgell y Bodleian a Llyfrgell Gwyddoniaeth Radcliffe

funudau yn unig i ffwrdd ac maent ymhlith y llyfrgelloedd

gorau yn y byd.

Mae gennym adnoddau technoleg gwybodaeth arbennig a

mynediad WiFi ar hyd adeiladau’r Coleg i gyd. Mae ein tîm

TGCh yn darparu cyngor defnyddiol a datrys problemau fel y

bo angen.

“Yng Ngholeg yr Iesu, nid oes unrhyw ddau

ddiwrnod yr un peth. Un diwrnod efallai y

byddaf yn dadlau gydag ysgolheigion yn llyfrgell

y Gyfraith yn y coleg; y diwrnod nesaf byddaf

yn chwarae am ddyrchafiad yn nhîm pêldroed

y Coleg. Rydym yn gymuned fach ond un

ddeinamig”

Kush Patel, Myfyriwr Israddedig, Y Gyfraith

Cewch fwy o gipolwg ar brofiadau academaidd ein myfyrwyr

yma yng Ngholeg yr Iesu trwy ymweld â’n dudalen

Safbwyntiau Myfyrwyr ar wefan y Coleg. Gallwch hefyd

ddarganfod mwy yn Prosbectws Amgen ein israddedigion.

Mae ein rhaglenni Mynediad ac Allgymorth yn

cynnwys pob oedran, o ddisgyblion ysgol gynradd i

fyfyrwyr aeddfed.

Mynediad ac Allgymorth

Rydym am ddenu a dewis yr ymgeiswyr gorau yn seiliedig ar

eu potensial academaidd yn unig. Dylai addysg o’r radd flaenaf

Rhydychen fod ar gael i bawb sydd â’r gallu academaidd a’r

potensial i elwa ohoni. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod

bod llawer o waith ar ôl i wneud hyn yn realiti i holl ddarpar

fyfyrwyr y DU.

Dyma pam rydym yn cynnig a chefnogi ystod eang o

ymweliadau ysgol, rhaglenni allgymorth a gweithgareddau ar

gyfer darpar fyfyrwyr o ysgolion annethol y wladwriaeth ac

o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli o fewn ein hardaloedd

cyswllt yn Llundain ac ar draws Cymru.

Mae nifer o’n myfyrwyr yn gwirfoddoli i gefnogi ein mentrau

Mynediad ac Allgymorth ac yn eu gweld yn brofiadau gwerth

chweil. Wrth rannu profiadau eu hunain o wneud cais i ac

astudio yng Ngholeg yr Iesu, mae ein myfyrwyr yn allweddol

ar gyfer ein strategaeth Mynediad ac Allgymorth ac annog

pobl ifanc o gefndiroedd sydd wedi’u tangynrychioli i wneud

cais.

Darganfyddwch fwy am Fynediad ac Allgymorth yng Ngholeg

yr Iesu yma.

Yn 2020/21, cyrhaeddodd ein

tîm Mynediad ac Allgymorth:

10,000 o ddarpar

fyfyrwyr trwy

123

68%

400+

o ddigwyddiadau mynediad

mewnol ac allanol

o’r cefndiroedd mwyaf

difreintiedig

o bobl ifanc yn ein

hysgolion haf 2021 yn dod

o’n hardaloedd cyswllt

Dysgwyr Seren o flaen

Theatr Sheldonian.

Mae’r Coleg yn cefnogi rhaglen Thinking

Black Prize, mewn cydweithrediad â

Choleg Newydd, Rhydychen.

Gweinidog Addysg Cymru yn cwrdd â

dysgwyr yn ein Hysgol Haf Seren 2021.

*Noder bod rhai cyrsiau nad ydym yn derbyn myfyrwyr ar eu cyfer. Gallwch

4 ddod o hyd i’r pynciau israddedig rydym yn derbyn ceisiadau ar eu cyfer ar ein

5

gwefan neu drwy ymweld â gwefan Derbyniadau ganolog y Brifysgol. Mae Rhestr

Cyrsiau i Raddeidigion y Brifysgol i’w gweld ar y wefan Derbyniadau ganolog.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!