Strategaeth-gisda- 2019-2023 Cymraeg
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
››
GISDA yn parhau i ennill tendrau a grantiau perthnasol i sicrhau ein bod yn
gallu gweithredu’r strategaeth yn llwyddiannus.
››
Adborth bositif gan y bobl ifanc a thystiolaeth bod y Bwrdd a Tim Rheoli yn
ymateb i unrhyw bryder neu adborth adeiladol.
››
Gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl ifanc digartref a bregus.
NOD STRATEGOL 3
CEFNOGAETH A
CHYFLEOEDD
GISDA yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc
digartref a bregus drwy weithgareddau
creadigol, artistig, therapiwtig, hamdden
ac addysgiadol.
3.1 Darparu cyfleoedd cyfartal i bobl ifanc digartref a bregus i’w cynorthwyo
i gyrraedd eu llawn potensial gan gydnabod yr angen am adnoddau
ychwanegol i gyflawni hynny.
3.2 Arfogi ac ymbweru pobl ifanc i gredu yn eu breuddwydion a’u uchelgais.
3.3 Cydweithio gydag awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus ac asiantaethau
eraill i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc bregus a digartref.
3.4 Hwyluso mynediad at wasanaethau sydd yn cyfrannu at addysg, iechyd,
lles a datblygiad pobl ifanc.
3.5 Sicrhau bod GISDA yn flaengar ym maes pobl ifanc.
3.6 Sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cyfle i ddeall a dysgu unrhyw newid
angenrheidiol yn y byd digidol a thechnolegol.
Sut bydd llwyddiant yn edrych?
››
Denu’r adnoddau priodol i wireddu hyn a fod gennym nifer o astudiaethau
achos positif.
››
Prosbectws o’r hyfforddiant ac addysg amgen y gall GISDA ei gynnig wedi
datblygu.
››
Cydweithio positif gyda phartneriaid er budd anghenion pobl ifanc digartref
a bregus.
››
Pobl ifanc mewn addysg neu waith ac yn byw yn annibynnol
››
Cydweithio’n llwyddiannus gyda busnesau lleol i adnabod cyfleoedd gwaith
i bobl ifanc.
››
System casglu data a thystiolaeth effeithiol i fesur effaith ein cefnogaeth
wrth symud pobl ifanc yn eu blaen.
NOD STRATEGOL 4
CYMUNED
GISDA yn gwmni sydd yn cyfranogi a
chwarae ei ran yn y gymuned er budd
pobl ifanc digartref a bregus.
4.1 Sicrhau bod staff GISDA yn edrych am gyfleoedd o fewn y gymuned i
sicrhau integreiddio llwyddiannus.
4.2 Rhwydweithio a chydweithio gyda digwyddiadau pwysig yng nghalendr
blwyddyn cymdeithas gan sicrhau bod cyfleoedd i bobl ifanc cymryd rhan.
4.3 Cynnig amrediad o gyfleoedd gwirfoddoli yn cynnwys profiadau gwaith
i ddisgyblion ysgol, lleoliadau ymarferol i academyddion a myfyrwyr a
chyfleoedd gwirfoddoli i unigolion sydd eisiau cyfle i ddatblygu sgiliau neu
eisiau rhoi eu hamser o’u gwirfodd.
4.4 Ymrwymo i chwarae ein rhan i wella’r amgylchedd ac ystyried
ceneldaethau’r dyfodol gyda phob penderfyniad.
4.5 Ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a Deddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) wrth gynllunio bob prosiect
newydd neu wrth newid unrhyw bolisi neu weithdrefn.
4.6 Meithrin dealltwriaeth a chodi ymwybyddiaeth o anghenion pobl ifanc
digartref a bregus gyda’r gymuned.
Strategaeth GISDA 2019—2023 6