Strategaeth-gisda- 2019-2023 Cymraeg
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
STRATEGAETH GISDA
2019—2023
CYSYLLTWCH GYDA NI
01286 671153
01286 671182
gisda@gisda.co.uk
gisda.co.uk
22–23 Y Maes, Caernarfon,
Gwynedd LL55 2NA
DILYNWCH NI
/gisdacyf
@gisdacyf
Rhif Elusen Gofrestredig: 1068325 | Rhif y Cwmni Cyfyngedig: 24845775
EIN NOD
DARPARU CYFLEOEDD A
CHEFNOGAETH I BOBL IFANC
Strategaeth GISDA 2019—2023
Strategaeth GISDA 2019—2023 | 3
AMCANION A NODAU STRATEGOL GISDA
EIN AMCAN
EIN NODAU STRATEGOL
CEFNOGAETH A CHYFLEOEDD I BOBL IFANC
DIGARTREF A BREGUS DRWY DDARPARU:
››
llety a gwasanaethau cefnogol;
››
gweithgareddau creadigol ac artistig;
LLAIS
GISDA yn sicrhau bod llais pobl ifanc
digartref a bregus yn ganolog i bopeth.
››
gweithgareddau therapiwtig, hamdden ac
addysgiadol;
››
cyngor a gwybodaeth;
››
hyfforddiant, cyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth;
i roi cymorth iddynt datblygu hyder, gwydnwch,
sgiliau byw yn annibynnol, sgiliau cyflogaeth a
chyfranogi yn llawn mewn cymdeithas yn rhydd o
unrhyw anfantais.
LLETY
GISDA yn gwmni sydd yn ymateb i
anghenion llety a chefnogaeth pobl ifanc
digartref a bregus.
I GYFLAWNI HYN BYDDWN YN SICRHAU:
››
llywodraethiant o ansawdd uchel;
››
diwylliant lle bydd staff yn cael eu cefnogi a
gwerthfawrogi am eu gwaith;
CEFNOGAETH A CHYFLEOEDD
GISDA yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc
digartref a bregus drwy weithgareddau
creadigol, artistig, therapiwtig, hamdden
ac addysgiadol.
››
adnoddau i flaenoriaethu ‘Model Fi’ sef dull o
weithio’n effeithiol gyda phobl ifanc.
Bydd llywodraethiant a diwylliant yn cael eu
monitro’n flynyddol fel rhan o adroddiad blynyddol
y cwmni.
CYMUNED
GISDA yn gwmni sydd yn cyfranogi a
chwarae ei ran yn y gymuned er budd pobl
ifanc digartref a bregus.
BYDDWN YN GWNEUD HYNNY DRWY
FUDDSODDI AC YMRWYMO I GYFLAWNI’R
PUM NOD STRATEGOL A’I NODIR.
CYNALIADWYEDD
GISDA yn datblygu cynlluniau, mentrau
cymdeithasol a meithrin partneriaethau i
sicrhau cynaliadwyedd y cwmni.
Strategaeth GISDA 2019—2023 4
NOD STRATEGOL 1
LLAIS
GISDA yn sicrhau bod llais pobl ifanc
digartref a bregus yn ganolog i bopeth.
1.1 Bod yn lais cryf a dylanwadol yn lleol a chenedlaethol ar ran pobl
ifanc. Byddwn yn dylanwadu ar bolisïau a deddfwriaeth perthnasol sydd
yn ymwneud gyda phobl ifanc gan ymateb yn amserol i ymgynghoriadau
perthnasol all effeithio pobl ifanc. Byddem yn anelu i sicrhau bod cydgynhyrchu
a chyfranogi yn rhan ganolog o’n gwaith.
1.2 Annog ac ymbweru pobl ifanc i ddeall eu hawliau a bod yn lais cryf i eraill
wrth ddylanwadu ar bolisïau a deddfwriaethau perthnasol.
1.3 Sefydlu ffordd o ymgynghori’n llwyddiannus gan sicrhau ein bod yn
gwrando, clywed, rhesymegu a thrafod syniadau.
1.4 Codi ymwybyddiaeth o anghenion ychwanegol unigolion digartref a
bregus a bod yn lais cryf drostynt pe na bai eu rhiant yn gallu.
Sut bydd llwyddiant yn edrych?
››
Cynrychiolaeth rheolaidd gan GISDA yng nghyfarfod TPAS Cymru i ddysgu a
datblygu cyfranogi a chydgynhyrchu o fewn GISDA.
››
Grŵp Theatr Fforwm GISDA rheolaidd yn fforwm i bobl ifanc allu lleisio eu
barn mewn dull creadigol.
››
Ymgynghori a thrafod efo pobl ifanc yn digwydd cyn gyrru pob cais grant
gan GISDA.
››
Bwrdd pobl ifanc wedi sefydlu i roi gofod penodol i bobl ifanc trafod a lleisio
barn a fydd yn cael ei adrodd yn rheolaidd i Fwrdd a Thîm Rheoli GISDA a’r
bobl ifanc yn derbyn adborth ganddynt.
NOD STRATEGOL 2
LLETY
GISDA yn gwmni sydd yn ymateb i
anghenion llety a chefnogaeth pobl
ifanc digartref a bregus.
2.1 Arbenigo mewn gwasanaethau sydd yn darparu llety a chefnogaeth i
bobl ifanc digartref a bregus gan ffocysu ar ddarparu gwasanaethau ataliol,
priodol ac o ansawdd i leihau digartrefedd ymysg pobl ifanc digartref a
bregus.
2.2 Sicrhau gweithlu sydd wedi cymhwyso neu wedi derbyn yr hyfforddiant
priodol i wasanaethu pobl ifanc yn unol â chynllun hyfforddiant GISDA.
2.3 Sicrhau adnoddau priodol a chynllunio hir dymor o fewn ein cynlluniau
busnes a strategaeth codi arian.
2.4 Arbenigo mewn sicrhau canlyniadau da i bobl ifanc digartref a bregus gan
sicrhau ein bod yn datblygu gwasanaethau holistig a hyblyg sydd yn benodol
i’r unigolyn a sydd yn seiliedig ar dystiolaeth ac ymchwil ei fod yn ddull
llwyddiannus o weithio.
2.5 Mabwysiadu egwyddorion ‘model fi’ GISDA sef model therapiwtig PIE
(‘Psychologically Informed Environment’) gan sicrhau ei fod yn treiddio
drwy’r cwmni.
Sut bydd llwyddiant yn edrych?
››
Cynllun datblygu llety a chlirdeb am ein cyfrifoldebau o’i gymharu a’r
Cymdeithasau Tai.
››
Llety o’r ansawdd gorau posibl i bobl ifanc yn adlewyrchu egwyddorion
Model ‘Fi’.
››
Staff hyderus gyda’r sgiliau pridodol i’w gwaith a matrix hyfforddiant,
adolygu a monitro cadarn wedi sefydlu o fewn GISDA.
››
Targedau mesuradwy sy’n ein galluogi i hunan asesu ac adlewyrchu a
chraffu ansawdd.
Strategaeth GISDA 2019—2023 5
››
GISDA yn parhau i ennill tendrau a grantiau perthnasol i sicrhau ein bod yn
gallu gweithredu’r strategaeth yn llwyddiannus.
››
Adborth bositif gan y bobl ifanc a thystiolaeth bod y Bwrdd a Tim Rheoli yn
ymateb i unrhyw bryder neu adborth adeiladol.
››
Gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl ifanc digartref a bregus.
NOD STRATEGOL 3
CEFNOGAETH A
CHYFLEOEDD
GISDA yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc
digartref a bregus drwy weithgareddau
creadigol, artistig, therapiwtig, hamdden
ac addysgiadol.
3.1 Darparu cyfleoedd cyfartal i bobl ifanc digartref a bregus i’w cynorthwyo
i gyrraedd eu llawn potensial gan gydnabod yr angen am adnoddau
ychwanegol i gyflawni hynny.
3.2 Arfogi ac ymbweru pobl ifanc i gredu yn eu breuddwydion a’u uchelgais.
3.3 Cydweithio gydag awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus ac asiantaethau
eraill i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc bregus a digartref.
3.4 Hwyluso mynediad at wasanaethau sydd yn cyfrannu at addysg, iechyd,
lles a datblygiad pobl ifanc.
3.5 Sicrhau bod GISDA yn flaengar ym maes pobl ifanc.
3.6 Sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cyfle i ddeall a dysgu unrhyw newid
angenrheidiol yn y byd digidol a thechnolegol.
Sut bydd llwyddiant yn edrych?
››
Denu’r adnoddau priodol i wireddu hyn a fod gennym nifer o astudiaethau
achos positif.
››
Prosbectws o’r hyfforddiant ac addysg amgen y gall GISDA ei gynnig wedi
datblygu.
››
Cydweithio positif gyda phartneriaid er budd anghenion pobl ifanc digartref
a bregus.
››
Pobl ifanc mewn addysg neu waith ac yn byw yn annibynnol
››
Cydweithio’n llwyddiannus gyda busnesau lleol i adnabod cyfleoedd gwaith
i bobl ifanc.
››
System casglu data a thystiolaeth effeithiol i fesur effaith ein cefnogaeth
wrth symud pobl ifanc yn eu blaen.
NOD STRATEGOL 4
CYMUNED
GISDA yn gwmni sydd yn cyfranogi a
chwarae ei ran yn y gymuned er budd
pobl ifanc digartref a bregus.
4.1 Sicrhau bod staff GISDA yn edrych am gyfleoedd o fewn y gymuned i
sicrhau integreiddio llwyddiannus.
4.2 Rhwydweithio a chydweithio gyda digwyddiadau pwysig yng nghalendr
blwyddyn cymdeithas gan sicrhau bod cyfleoedd i bobl ifanc cymryd rhan.
4.3 Cynnig amrediad o gyfleoedd gwirfoddoli yn cynnwys profiadau gwaith
i ddisgyblion ysgol, lleoliadau ymarferol i academyddion a myfyrwyr a
chyfleoedd gwirfoddoli i unigolion sydd eisiau cyfle i ddatblygu sgiliau neu
eisiau rhoi eu hamser o’u gwirfodd.
4.4 Ymrwymo i chwarae ein rhan i wella’r amgylchedd ac ystyried
ceneldaethau’r dyfodol gyda phob penderfyniad.
4.5 Ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a Deddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) wrth gynllunio bob prosiect
newydd neu wrth newid unrhyw bolisi neu weithdrefn.
4.6 Meithrin dealltwriaeth a chodi ymwybyddiaeth o anghenion pobl ifanc
digartref a bregus gyda’r gymuned.
Strategaeth GISDA 2019—2023 6
4.7 Cyfranogi mewn hybu’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig o fewn ein
cymunedauCalendr Blwyddyn Cymunedol GISDA wedi sefydlu ac yn codi
ymwybyddiaeth a marchnata gwaith GISDA.
Sut bydd llwyddiant yn edrych?
››
GISDA yn cynnig cyfleoedd i unigolion sydd eisiau gwaith.
››
Cynorthwyo i integreiddio pobl ifanc i ddarpariaethau sydd ar gael ar draws
y gymuned.
››
Trafod ac ymgynghori cyson o fewn y gymuned ac ymateb i unrhyw
bryderon neu adborth adeiladol.
››
Ymrwymo i wneud ein gorau i’r amgylchedd a chyrraedd marc ansawdd
amgylcheddol fel dull o fonitro ein ymrwymiad.
››
Hyrwyddo cyfraddoldeb ac amrywiaeth o fewn pob agwedd o’n gwaith.
››
Cynllun gweithredu gydag amserlen ar Nodau Llesiant GISDA wedi sefydlu
ac yn cael ei fonitro yn flynyddol.
››
GISDA yn parhau i fod yn gwmni sydd yn gweithredu yn y gymuned a
darparu gwasnaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
NOD STRATEGOL 5
CYNALIADWYEDD
GISDA yn datblygu cynlluniau, mentrau
cymdeithasol a meithrin partneriaethau
i sicrhau cynaliadwyedd y cwmni.
5.1 Sicrhau bod incwm cyson i ariannu’r strategaeth.
5.2 Denu gweithlu sydd gyda’r gallu a sgiliau i fod yn arloesol a meddwl
ymlaen.
5.3 Datblygu diwylliant rhagweithiol yn hytrach nag adweithiol. Bod yn
ymwybodol o strategaethau a blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.
5.4 Ystyried uchafu a rhannu adnoddau, cydweithio, uno, partneriethu h.y.
beth bynnag sydd ei angen i gynnal ein gwasanaethau er budd anghenion
pobl ifanc digartref a bregus.
5.5 Mynd gam ymhellach na chefnogi pobl ifanc drwy greu cyfleoedd gwaith
ar eu cyfer a bod yn rhan mawr o ddod o diweithdra ymysg pobl ifanc i ben
erbyn 2023.
5.6 Dablygu cynlluniau i ddod ag incwm i’r cwmni ac edrych ar arall gyfeirio
mewn rhai meysydd.
Sut bydd llwyddiant yn edrych?
››
Strategaeth codi arian penodol wedi datblygu i yrru strategaeth a
blaenoriaethau’r cwmni ymlaen.
››
Gweithlu digonol gan GISDA i weithredu holl gynlluniau’r cwmni gyda
chynllun llesiant yn y gwaith wedi sefydlu i annog staff i ofalu am eu hunain .
››
Cynlluniau mentrus ac arloesol yn cael eu datblygu
››
Neilltuo gofod ac amser priodol i ddatblygu cynlluniau a’u rhoi ar waith.
› › Cynyddu incwm anghyfyngedig y cwmni i sicrhau adnoddau digonol i
weithredu’r strategaeth.
Strategaeth GISDA 2019—2023 7
GWERTHOEDD GISDA
MAE GISDA YN CREDU MEWN
POBL IFANC, WAETH BETH FO’U
HAMGYLCHIADAU, EU RHYW,
EU HIL, EU HANABLEDD NA’U
HYMDDYGIAD.
Credwn mewn pobl ifanc sydd wedi eu cam-drin, pobl ifanc digartref a bregus
a phobl ifanc heb gefnogaeth teulu. Byddwn yn eu cefnogi, yn sefyll yn gadarn
drostynt ac yn ceisio sicrhau bob cyfle fel y gallant gyrraedd eu potensial
mewn bywyd. Ein nod yw gwella ansawdd bywyd a gwneud gwahaniaeth i
fywydau pobl ifanc yn ein cymdeithas.
GONESTRWYDD
Rydym yn darparu gwasanaeth gonest a diffuant i bobol ifanc bob amser.
PARCH
Rydym yn parchu’r unigolyn, parchu ei deimladau, credo a’i hawliau
GWRANDO A CHLYWED
Rydym yn ymrwymo i wrando a chlywed llais y person ifanc gan gymryd pob
cam posibl i eirioli ar ei ran. Byddwn yn cymryd pob cam posibl i ymateb i
lais y person ifanc a cheisio cwrdd ag unrhyw angen os yn bosibl.
HYRWYDDO CYFLE CYFARTAL
A PHARCHU AMRYWIAETH
Mae GISDA yn parchu unrhyw wahaniaeth ymysg staff, gwirfoddolwyr a’r
defnyddwyr gwasanaeth ac yn parchu’r amrywiaeth.
YMBWERU A GALLUOGI
Byddwn yn ymrwymo i sicrhau bod pob defnyddwyr gwasanaeth yn cael y
cyfle i ennill y sgiliau angenrheidiol i’w ymbweru a’u galluogi i fyw bywyd
annibynnol. Ein nod yw cynyddu gwydnwch a hyder pobl ifanc i sicrhau eu
bod wedi’u harfogi gyda’r strategaethau i ymdopi gyda heriau bywyd.
YR AMGYLCHEDD
Rydym hefyd fel cwmni yn awyddus i fod mor gyfeillgar â phosibl
tuag at yr amgylchedd. Mae gennym gòd ymarfer sydd yn nodi ein ym
rwymedigaeth tuag at hyn.
Strategaeth GISDA 2019—2023 8
NODAU LLESIANT GISDA
GISDA SY’N GYFRIFOL AR
AR LEFEL FYD EANG
GISDA LEWYRCHUS
BYWIOG LLE MAE’R
GISDA GYDA DIWYLLIANT
GYMRAEG YN FFYNNU
GISDA GYDNERTH
GISDA SY’N RHAN O
G YM U N ED C Y D LY N U S
G ISDA I ACHACH
GISDA SY’N FWY
C YFA RTAL
GISDA LEWYRCHUS
Creu cyfleoedd cyffrous i baratoi pobl ifanc a
chyfrannu at leihau amddifadedd ymysg pobl ifanc.
Fe wnawn hynny drwy hyrwyddo cyflogadwyedd a
gyrfa i bob person ifanc.
GISDA GYDNERTH
Arfogi ac ymbweru’r genhedlaeth nesaf gyda’r
sgiliau a’r gwydnwch i wynebu heriau bywyd.
GISDA IACHACH
Gwneud defnydd o safonau Iechyd Cyhoeddus
Cymru i sicrhau cwmni sydd yn hybu iechyd a lles
staff a phobl ifanc a mabwysiadu’r egwyddor ‘5
ffordd at les’.
GISDA SY’N RHAN O GYMUNED CYDLYNUS
Mabwysiadu egwyddorion cymunedol gan gymryd
y cyfrifoldeb cyffredinol mewn integreiddioo pobl
ifanc i’r gymuned a sicrhau lle i’r gymuned o fewn
GISDA.
GISDA GYDA DIWYLLIANT BYWIOG LLE
MAE’R GYMRAEG YN FFYNNU
Cynorthwyo ac ymbweru staff a pobl ifanc i
ddatblygu eu hyder i gyfrannu’n y Gymraeg.
GISDA SY’N GYFRIFOL AR LEFEL FYD EANG
Ymrwymo i chwarae ein rhan i leihau ein ôl troed
carbon a gweithredu ein polisïau amgylcheddol.
GISDA SY’N FWY CYFARTAL
Gweithredu polisïau cyfleoedd cyfartal ym mhob
rhan o’n gwaith gan ymdrechu i ddileu unrhyw
rwystrau ar ffordd pobl ifanc.
Strategaeth GISDA 2019—2023 9
Strategaeth GISDA 2019—2023 10
Strategaeth GISDA 2019—2023 11