Mynydd Llangynidr, Brecknockshire - Royal Commission on the ...
Mynydd Llangynidr, Brecknockshire - Royal Commission on the ...
Mynydd Llangynidr, Brecknockshire - Royal Commission on the ...
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
<strong>Mynydd</strong> <strong>Llangynidr</strong> Upland Survey

UIP081

Produced for RCAHMW

Crynodeb Nad yw’n Dechnegol

Gwnaethpwyd arolygiad o ardal <strong>Mynydd</strong> <strong>Llangynidr</strong> o dan nawdd Menter Ucheldiroedd

gymorthedig y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hanesyddol Cymru (RCAHMW) rhwng Ebrill 2008

a Mawrth 2009.

Oddeutu 38 cilomedr sgwâr oedd maint yr ardal arolygu ac roedd yn cwmpasu crib i’r Gogledd o

Ferthyr Tudful ac i’r Gorllewin o Grucywel, gyda Chronfa Pontsticill yn ffin iddi i’r Gorllewin a’r

B4560 yn darparu’r ffin Ddwyreiniol. I’r de gorweddai terfyn y Parc Cenedlaethol, Comin Merthyr

a’r A465 (T) rhwng Cendl a Merthyr Tudful.

Cafwyd 660 o safleoedd o ganlyniad i’r arolygiad, ac o’r rhain yr oedd 121 wedi’u cofnodi ar y

NMR a 320 ar yr HER. Roedd gan yr ardaloedd dyffrynnog ddwysedd uwch o safleoedd na’r

llethrau uwch. Roedd hyn oherwydd bod llawer mwy o graig yn brigo y medrid ei defnyddio er

mwyn codi adeiladweithiau. Gwelwyd gweithgarwch diwydiannol mynych ôl-ganoloesol a modern

o amgylch ymylon yr ardal arolygu, yn arbennig yng Ngogledd-ddwyrain a De-orllewin yr ardal.

Ni chafodd y pantiau o waith dyn a gafwyd yn aml iawn yn y llethrau marian eu cofnodi bob

amser, oherwydd iddynt gael eu hadeiladu’n ddiweddar iawn ac am fod cymaint ohonynt yn

gyffredinol. Nodweddion ôl-ganoloesol neu fodern oedd y rhain a grëwyd gan dynnu cerrig rhydd

a’u pentyrru o amgylch y pant. Fel rheol yr oeddent oddeutu 1.5 medr ar eu traws ac 1 fedr o

ddyfnder, er bod eu siâp a’u maint yn amrywio’n sylweddol. Fe’u ceid yn aml mewn grwpiau,

weithiau bob yn ddau, ond yn ddigon mynych yn dod i gymaint â deg neu bymtheg. Mae’n

ymddangos bod y pantiau hyn yn llochesau bach neu dyllau ymochel, sy’n gysylltiedig â

hyfforddiant milwrol. Golyga’r ffaith fod cymaint o’r nodweddion hyn yn bresennol ledled yr ardal

na chawsant mo’u cynnwys yn y gronfa ddata derfynol.

Yn gyffredinol cafwyd y cerrig brig ar y llethrau uwch, ac arddangoswyd argaeledd calchfaen ar

gyfer adeiladu a phrosesau diwydiannol gan yr odynau calch a’r chwareli yn yr ardal arolygu.

Yn ystod yr arolygiad ni lwyddwyd i ganfod rhai safleoedd a gofnodir yn yr HER lleol

(Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys). Mewn rhai achosion, medrai hyn fod oherwydd bod

y cyfesurynnau yn anghywir. Mwy na thebyg y gellir priodoli methiannau eraill i ddod o hyd i

safleoedd i’r gorchudd trwchus o lystyfiant ar y llethrau is a’r ardaloedd eang o weunydd mawn a

chorsydd yn rhan ddeheuol yr ardal arolygu. Gallai’r tywydd fod yn ffactor yn ogystal, gydag eira

ysgafn yn cuddio rhai nodweddion o bryd i’w gilydd. Fodd bynnag, daethpwyd o hyd i lawer o

safleoedd newydd yn ogystal.

Yn gyffredinol, llwyddodd y prosiect yn y gwaith o greu cofnod cyflawn o’r adeiladweithiau

artiffisial o fewn yr ardal arolygu a chynhyrchu set o ddata a fydd yn cefnogi ymchwil yn y

dyfodol. Defnyddiwyd cryn dipyn ar GIS a bydd y trawsgrifiadau o’r ffotograffau o’r aer o’r

RCAHMW a’r data yn cyfrannu at brosiect sydd ar y gweill yn ArchaeoPhysica er mwyn datblygu

dulliau dadansoddol wedi’u seilio ar GIS o archwilio Ucheldiroedd Cymru.

Mawrth 2009

Page i

\\Harappa\projects\UIP081 <strong>Mynydd</strong> <strong>Llangynidr</strong>\Reporting\Draft Final\AP UIP081 <strong>Mynydd</strong> <strong>Llangynidr</strong> report

(Draft Final).doc

Copyright ArchaeoPhysica Ltd. 10/02/2009