CYNHADLEDD FLYNYDDOL UCAC 2015“Uchafbwynt y Gynhadledd i mi oedd araith Elaine Edwards- trueni na allai’r holl aelodau ei chlywed!”Do, cafwyd ymateb eithriadol o gadarnhaol i araith yrYsgrifennydd Cyffredinol, Elaine Edwards, yng NghynhadleddUCAC eleni. Yn ystod yr araith soniodd am bwysigrwydd bodyn aelod o’r Undeb gan gyfeirio at yr egwyddorion sydd yngreiddiol i UCAC ers 1940:• darparu cymorth cyfreithiol a phroffesiynol o’r safon uchaf;• diogelu a gwella amodau gwaith aelodau;• hyrwyddo buddiannau aelodau;• sicrhau cyfundrefn addysg annibynnol i Gymru;• codi a chynnal safonau addysgol;• hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant Cymraeg.Wrth dalu teyrnged i sylfaenwyr UCAC rhoddodd ystyriaeth irôl yr aelodau presennol a phwysigrwydd prosesaudemocrataidd undebol i sicrhau bod llais yr aelod yn llywiobarn yr undeb. ‘Ar adeg pan mae Cymru’n wynebunewidiadau pellgyrhaeddol allai newid byd addysg am ygorau, mae llais a barn yr aelod mor bwysig ag erioed.’Wrth roi croeso gofalus i Adroddiad Donaldson pwysleisioddyr Ysgrifennydd Cyffredinol yr angen i ‘ystyried’, ‘i godicwestiynau’ ac ‘i leisio barn ar ran y proffesiwn’. MaeDonaldson yn cynnig cyfleoedd ac, er y llwyth gwaithaffwysol sydd yn llethu athrawon a darlithwyr ar hyn o bryd,mae’n holl bwysig bod aelodau UCAC yn ystyried yrargymhellion a chymryd rôl allweddol wrth ffurfio’rCwricwlwm newydd.Croesawyd yr ystyriaeth a roddwyd i lwyth gwaith a’r effaithandwyol mae’r pwysau hwnnw’n ei gael ar fywyd teuluol ariechyd corff a meddwl ac ar unrhyw obaith o gaelcydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. “Dyw e ddim ynormodiaith i ddweud bod hi’n argyfwng; bod straengalwedigaethol yn norm; bod gormod o bobl yn disgwylgormod o bethe, a bod llawer o’r pethau hynny’n cael dimeffaith o werth ar ddeilliannau plant a phobl ifanc.”Cytunodd y cynadleddwyr bod y sefyllfa’n un argyfyngus abod angen i bob aelod ymgyrchu fel rhan o’r undeb:• trwy gynnal a mynychu cyfarfodydd undebol i drafodllwyth gwaith• trwy drafod llwyth gwaith yn agored mewn ysgol a choleg• trwy ddwyn pwysau ar ein gwleidyddion i fynd i’r afael âphryderon llwyth gwaithClywodd y cynadleddwyr nad cais afresymol yw ‘mynnu’rhawl i fwynhau bywyd teuluol a mwynhau eich swydd’.Mae’n hawl sylfaenol, statudol, ddylai fod yn ddisgwyliediggan bob athro a darlithydd.Wrth gloi, pwysleisiodd Elaine bod ‘UCAC yn undeb cryf sy’nbrwydro i’r carn dros aelodau ac yn driw i egwyddorioncadarn sydd wedi llifo trwy wythiennau’n Undeb ers trichwarter canrif’.Diolch i’r holl sefydliadau a chwmnïau ddaeth âstondin i Gynhadledd UCAC:• British Heart Foundation Cymru• Cwmni Merigo• Cyngor Llyfrau Cymru• Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru• Cymdeithas yr Iaith• Fforwm Hanes Cymru• Into Film Cymru• Stiwdiobox• Stonewall Cymru• Teacher Support Cymru• Tenovus• Urdd Gobaith CymruElaine EdwardsCafwyd gwledd o adloniant gyda’rhwyr yng nghwmni’r WelshWhisperer a Gwilym Bowen Rhys.Roedd y cyfuniad o hiwmor yn set yWelsh Whisperer a dawn gerddorolwerinol Gwilym Bowen Rhys yngyfuniad perffaith ar ôl diwrnod hir odrafod a myfyrio. Os nad ydych chiwedi profi hiwmor a cherddoriaeth yWelsh Whisperer, beth am fynd i’wweld yn perfformio yn un o wyliauCymru dros yr haf?Ewch i’w dudalen Facebook amrestr o ddigwyddiadau:https://www.facebook.com/WelshWhisperer?fref=ts4Ffôn 01970 639950 ucac@athrawon.com www.ucac.cymru AthrawonCymru
CYNHADLEDD FLYNYDDOL UCAC 2015Pwy fydd Llywydd Cenedlaethol UCAC ar gyfer 2015-16?Yn enedigol o Gastell Nedd, mynychodd Gareth Morgan YsgolGynradd Gymraeg Castell Nedd, cyn symud ymlaen i Ysgol GyfunYstalyfera. Mae Gareth yn ystyried ei hun yn ffodus iawn o fod wediderbyn addysg cyfrwng Cymraeg ac mae’n ddiolchgar i’w rieni am eugweledigaeth a’u hymroddiad i addysg Gymraeg yn yr ardal.Astudiodd ieithoedd tramor ym Mhrifysgol Surrey, gan ganolbwyntio’nbenodol ar Almaeneg a Swedeg. Ar ôl treulio cyfnodau yn gweithiomewn amryw o swyddi yn y sector gyhoeddus a’r sector breifat yngNghymru, yr Almaen a Sweden, penderfynodd droi ei olygon at fod ynathro dosbarth. Wedi dysgu mewn ysgol yn Hull am flwyddyn, cafoddei benodi yn athro yn Ysgol Gyfun Ystalyfera.Cafodd ei recriwtio i fod yn aelod o UCAC gan Derec Stockley,cynrychiolydd ysgol UCAC yn Ysgol Gyfun Ystalyfera ar y pryd.Ymhen pen dim, ar ôl i Derec Stockley adael yr ysgol am yrfa gydaCBAC, daeth Gareth yn gynrychiolydd ysgol ac yn ddiweddarach ynYsgrifennydd Sir yn Nghastell-nedd Port Talbot.Bydd Gareth yn cychwyn ar ei gyfnod fel Llywydd CenedlaetholUCAC ym mis Medi 2015.Ioan Rhys Jones, Llywydd presennol yr undeb yn cyflwyno'r fedal i GarethMorgan fydd yn cychwyn ar ei flwyddyn lywyddol ym mis Medi 2015Dyma ddetholiad o’i araith yn ystod y Gynhadledd:Mae dod yn Lywydd Cenedlaethol UCAC eleni yn fraint mawr gan ei fodyn gyfnod pwysig iawn i athrawon yng Nghymru.Yr ydym ar drothwy etholiad cyffredinol San Steffan ac er fod addysg ynfater sydd wedi’i ddatganoli i Gymru ers sawl blwyddyn, mae’r pleidiauyn dal i ddefnyddio addysg i ddwyn perswâd ar bobl Cymru i fwrwpleidlais y naill blaid neu’r llall. Pa bynnag liw fydd y Llywodraeth ar ôl 7Mai, neu pha bynnag gyfuniad o liwiau fydd yn llywodraethu, un pethsydd yn sicr – bydd yna bolisïau newydd ym myd addysg. Os byddparhad i’r polisïau llymder yn San Steffan, bydd hyn yn effeithio’n fawr araddysg ein pobl ifanc, ar ysgolion ac ar fywydau personol athrawon.Yn y cyd-destun hyn, mae’n gyfnod arbennig o gyffrous wrth i’rgwleidyddion ddadlau dros addysg. Er yr oedi, dwi’n si ŵr yn y pendraw, y bydd cyfrifoldeb dros gyflogau ac amodau gwaith yn cael eutrosglwyddo i Gymru. Fel undeb, mae hyn i’w groesawu oherwydd, fel ygwyddom, un o’n hegwyddorion ni fel undeb yw sefydlu cyfundrefnaddysg annibynnol i Gymru. Mae hefyd yn gyfrifoldeb i ni sicrhau ycyflogau ac amodau gwaith gorau posib i’n aelodau.Er mwyn tawelu pryderon rhai o’n haelodau, mae’n bwysig ein bod ni felundeb yn gweithio gyda gwleidyddion Cymru i sicrhau dosraniad tegcyllid fformiwla Barnett o Lundain. Mae’n bwysig fod gwleidyddionCymru yn sicrhau cyflog na fydd yn waeth na’r hyn mae athrawoneisoes yn eu derbyn. Tra fod Cymru yn rhan o’r Deyrnas Unedig, ac yntalu trethu i Lundain ac yn derbyn gwariant yn ôl o San Steffan, dylaihwn fod yn rhan o’r ‘fargen’ ar gyfer athrawon Cymru.Mae’r newidiadau cyflog ac amodau gwaith i athrawon, yn gyffredinol,yn sgil polisïau Llywodraeth San Steffan dros y blynyddoedd diwethaf,ond yn ragflas o’r hyn sydd ar y gorwel: ansicrwydd am yr ystodcyflogau; ansicrwydd am gyflogau cludadwy a rhewi cyflogau yn ysector gyhoeddus. Mae rhain oll i’w gweld yng Nghymru eisoes.A beth am fynd am dro dros y ffin?Academïau; ysgolion sylfaen; anwybyddu cytundebau cyflog ac amodaugwaith cenedlaethol; cyflogi a diswyddo athrawon yn fympwyol.Beth fydd nesaf? System addysg breifat i bob diben? Ysgolion ârhyddid llwyr yn y farchnad addysg?Mae hyn oll yn wrthun i ni yng Nghymru. Nid yn unig nad ydym niathrawon, ond dwi ddim yn credu fod rhieni, gwleidyddion na’r cyhoeddyn gyffredinol, am i system addysg Cymru ddilyn yr un patrwm.“Yr allwedd i godi safonau yw rhyddhau creadigrwyddathrawon,” medd yr Athro John FurlongMae wedi bod yn gyfnod o newid parhaus ym myd addysgCymru, a hynny bron yn ddi-dor ers diwedd yr 80au. Ynddiweddar cyhoeddwyd adroddiadau a fydd yn ddylanwadol acyn llywio addysg yng Nghymru am y blynyddoedd a’r degawdau iddod. Un o’r rhain yw adroddiad Yr Athro John Furlong arhyfforddiant cychwynnol athrawon sef - Addysgu Athrawon Yfory.Tipyn o fraint, felly, oedd croesawu’r Athro Furlong i Landrindod i’ncynhadledd eleni.Yn ei anerchiad bu’n trafod y sefyllfa bresennol a’r argymhellion ynei adroddiad i wella’r sefyllfa. Cychwynnodd ei araith trwy nodi ‘fodhyfforddiant cychwynnol athrawon yng Nghymru yn ddigonol adim gwell.’ Ychwanegodd bod ‘codi safonau ein hysgolion yngolygu buddsoddi yn y proffesiwn,’ - ni allai unrhyw un o’rcynadleddwyr anghytuno â hyn. Braf oedd deall fod Furlong aDonaldson yn canu o’r ‘un llyfr emynau,’ fel petai, a bod y ddwyadroddiad yn cadarnhau ei gilydd. Nododd eu bod fel panel wrthlunio’r adroddiad wedi edrych ar arfer dda trwy’r byd yn grwn acer mwyn codi safonau bod yn rhaid rhoi rôl gryfach i ysgolion a rôlgliriach i brifysgolion yn y broses o hyfforddi athrawon. Un prydermawr a leisiodd, ac un y dylem ei ystyried fel addysgwyr - ac ynwir fel Undeb - oedd na theimlai fod ‘neb ynarwain y meddwl am addysg yng Nghymru.’Mae hyn, dywedodd yn bur wahanol i brofiadaua gafodd mewn gwledydd eraill. Mae hyn ynneges clir i’n gwleidyddion, ein academyddiona’n haddysgwyr ar bob lefel.Ymysg y prif bwyntiau eraill a nododd o’i adroddiad oedd:• angen gweithdrefnau achredu newydd ar gyfer hyfforddiantathrawon• rôl newydd i Estyn - newid o arolygu i wella ansawdd• newid cwrs hyfforddi o 3 i 4 blynedd a bod dwy flynedd yncael ei dreulio yn astudio prif bwnc• sefydlu pum canolfan ragoriaeth Hyfforddiant CychwynnolAthrawon ar draws CymruTybiaf y bydd adroddiad yr Athro Furlong yn cael ei derbyn yngyffredinol gan y proffesiwn, mae’n cynnig ffordd gadarnhaolymlaen. Wrth gloi, ac er mawr ryddhad, pwysleisiodd nad oeddgwella addysg yng Nghymru yn rhywbeth a ellir ei wneud drosnos, ond y byddai’n broses hir o gydweithio ar draws y proffesiwn.Ffôn 01970 639950 ucac@athrawon.com www.ucac.cymru @AthrawonCymru 5