06.08.2015 Views

yr Athro

athro mai 15

athro mai 15

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Rhifyn 2, Mai 15 Pris: £1Cylchgrawn Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymruyr AthroDaeth aelodau UCAC ynghyd ar 17-18 Ebrill yngNgwesty’r Metropole, Llandrindod ar gyfer yGynhadledd Flynyddol.Roedd mwy o siaradwyr gwadd, cyfarfodyddymylol a sesiynau trafod nag erioed o’r blaen - gangynnwys dosbarth yoga – cewch ddarllenamdanynt yn y tudalennau sy’n dilyn.“Diolch yn fawr am gynhadledd wych - roeddpopeth drosodd yn rhy fuan!”Pasiwyd 33 o benderfyniadau – ar bynciau megis:• adolygu trefniadau cyllido ysgolion a cholegauAddysg Bellach• sicrhau bod Awdurdodau Lleol, ysgolion a cholegauAddysg Bellach yn gwneud pob arbediad posib cynystyried torri swyddi• creu cyfundrefn cefnogi ysgolion am faterion Iechyda Diogelwch i’w ddarparu fel rhan o Gytundeb LefelGwasanaeth• gweithredu’r arfer cyfeiriedig o gyfyngu arsylwigwersi i uchafswm o dri sesiwn y flwyddyn• galw ar Awdurdodau Lleol i dalu cyfraniad y cyflogwrtuag at gostau’r ddarpariaeth a gynigir gan y cynllun‘Mynediad at Waith’Penderfyniadau’r Gynhadledd fydd yn gosod sail argyfer gwaith ymgyrchu’r undeb dros y flwyddyn i ddod,ac mae modd lawrlwytho copi o’r penderfyniadau arwefan UCAC: www.ucac.cymruGwiriwch Gwiriwch GwiriwchYdych chi wedi derbyn eich Adroddiad Blynyddol ganTeachers’ Pensions am eich gwasanaeth yn y CynllunPensiwn hyd 31 Mawrth 2014? Os ydych wedi cofrestruar lein efo Teachers’ Pensions ni fyddwch yn derbyn copipapur ond yn cael mynediad at eich adroddiaddiweddaraf ar lein.Bob blwyddyn rydym yn cael ymholiadau gan aelodausy’n cynllunio i ymddeol am beth i’w wneud am gyfnodauo wasanaeth sy’n ymddangos ‘ar goll’. Os yw’ch slipiaucyflog/ P60 am y cyfnodau hyn ar gael gennych maegobaith y gellir gwneud rhywbeth, ond mae’n debyg nafydd hynny’n wir yn y dyfodol.Mae’n hanfodol felly bod pawb yn mynd i’r arferiad owirio’r Adroddiad Pensiwn yn flynyddol. Bydd hynny’nfwyfwy pwysig dan y Cynllun Pensiwn Newydd fel yreglurwyd yn y cyflwyniadau sirol y tymor diwethaf.t2 Lles athrawon t3 Nabod eich Undeb t4-7 Cynhadledd

Dylai iechyd a lles athrawon fod ynflaenoriaeth yn ein polisi addysg cenedlaetholRoeddwn yn falch iawn o dderbyn gwahoddiad i ddysgu sesiwnyoga yng nghynhadledd diweddar UCAC yn Llandrindod. Felmerch i athrawes, cefais fy magu’n gwylio Mam yn gweithio wrthfwrdd y gegin am oriau gyda’r nos ac roedd hynny yn ystod yr80au a’r 90au. Bellach mae 91% o aelodau UCAC yn teimlo fodeu llwyth gwaith yn ormodol a 68% yn methu â chanfodcydbwysedd rhesymol rhwng bywyd a gwaith.O fy mhersbectif i fel athrawes yoga, mae’r ffigurau yma yn drist acyn beryglus. Nid yn unig i iechyd a lles athrawon unigol sydd yndioddef, ond hefyd i iechyd a lles pawb sy’n rhan o gymunedunrhyw ysgol ble mae lefelau uchel o bryder a straen.Fel yr eglurai Dr Haim Ginott yn ei lyfr ‘Teacher and Child...’;“As a teacher, I have come to the frightening conclusion thatI am the decisive element in the classroom. It is my personalapproach that creates the climate. It is my daily mood thatmakes the weather.”Os ydych chi’n cytuno â’r datganiad yma, mae hi’n hynoddebygol felly fod y straen mae athrawon yn ei deimlo yn caeleffaith ar eu dosbarthiadau a chymuned ehangach yr ysgol.Mae effeithiau hir dymor straen ar iechyd corfforol, meddyliol acemosiynol yn hysbys i bawb bellach ac mae’n restr hir acannymunol. Felly sut all yoga helpu?Mae yoga yn ymarfer holistig sydd yn cyfuno ymarferion corfforol,anadlu, myfyrio ac ymlacio sydd yn cael effaith bositif ar ein gallu iddelio gyda straen. Drwy ymarfer yoga byddwch yn datblygu set od ŵls y gallwch alw arnynt yn ôl yr angen i ymateb i ba bynnagsefyllfa sydd yn eich wynebu, a thros amser byddwch yn dod iddeall fod yna gryfder gynhenid ym mhob un ohonom a all oroesiunrhyw her.Un o gonglfeini ymarfer yoga yw ymwybyddiaeth ofalgar, neu‘mindfulness’, sef y gallu i fyw yn y presennol a dysgu sut i ymdrinyn uniongyrchol â’n profiadau bob dydd. Mae’r gallu i wneud hynynom oll, a gall yoga ein helpu i ail ddarganfod hynny.Mae llawer o drafod wedi bod yn ddiweddar am effeithiolrwyddyoga fel techneg i helpu plant a phobl ifanc i ddelio gyda phwysaugwaith ysgol, a dwi’n llwyr gefnogol o’r datblygiadau cyffrous hyn.Ond gyda geiriau Dr Ginott yn adlais yn fy mhen, nid yw yoga iblant yn ddigonol. Os nad yw’r un cyfleon yn cael eu rhoi iathrawon, yna mae’r awyrgylch o straen a phwysau yn parhau.Mae felly’n glir i mi y dylai iechyd a lles athrawon fod yn flaenoriaethyn ein polisi addysg cenedlaethol.Mae yoga yn ymarfer a all gael ei addasu i fod o fudd i bawb bethbynnag fo’u lefel ffitrwydd a iechyd. Mae yna ddegau o arddulliauyoga i’w cael – o rai tyner i rai corfforol heriol. Felly, os ydych chi’nberson sydd wedi rhoi cynnig ar ddosbarth yoga neu ddau acwedi dod i’r casgliad nad yw’n addas i chi, yna dwi’n eich annog ichwilio eto.Bwrdd GolygyddolLlywydd Cenedlaethol: Ioan Rhys JonesIs-Lywydd: Gareth MorganYsgrifennydd Cyffredinol: Elaine EdwardsCydlynydd Yr Athro: Swyddogion UCACNid yw cynnwys Yr Athro o angenrheidrwydd yn farn swyddogol UCAC.Os hoffech gyfrannu at y cylchgrawn hwn, mae croeso i chi anfon unrhyw syniadauneu erthyglau at: Prif Swyddfa UCAC, Ffordd Penglais, Aberystwyth SY23 2EUFfôn: 01970 639950, ucac@athrawon.com, www.ucac.cymruCroesewir hefyd unrhyw awgrymiadau, syniadau neu sylwadau am Yr Athro.Os nad ydych chi’n si ŵr ble iddechrau chwilio, neu os hoffechchi drafod ymhellach sut i gyflwynoyoga i’ch ysgol yn ehangach, maecroeso mawr i chi gysylltu â mi. Maeyoga wedi cael effaith drawsnewidiolar fy iechyd a’m lles i, ac yn enwedigar fy ngallu i ddelio gyda straen aheriau bywyd - hoffwn eich gweldchithau’n cael yr un profiad.Am ragor o wybodaeth:www.laurakaradog.com@yoga_laura)Tâl aelodaeth 2015-16Dyma'r newidiadau i dâl aelodaeth UCAC ofis Medi 2015.Categori aelodaeth Tâl blynyddol Tâl misolLlawn amser £195 £16.25Rhan amser 0.7-0.9 £162 £13.50Rhan amser 0.4-0.6 £129 £10.75Rhan amser 0.3 neu lai £108 £9.00Blwyddyn galendr gyntaf o addysguAM DDIMAil flwyddyn galendr o addysguHANNER PRIS2Ffôn 01970 639950 ucac@athrawon.com www.ucac.cymru AthrawonCymru

Nabod eich UndebMae’r golofn hon yn rhoi cyfle i chi ddod i adnabod rhai o aelodaublaenllaw UCAC. Yn y rhifyn hwn, cyflwynwn un o aelodau’r AdranGydraddoldeb, adran bwysig o fewn yr undeb sy’n trafod materioncydraddoldeb o fewn y byd addysg.Enw: Lisa Lewis JonesSwydd: Athrawes yn Ysgol Gynradd Gymraeg PontardaweRôl o fewn yr undeb: Aelod o’r Adran GydraddoldebPam ymuno â’r Adran Gydraddoldeb?Mae’n rhaid imi gyfaddef, am y rhan fwyaf o’m nawmlynedd ar hugain, ‘doedd bod yn aelod o UCAC ynmeddwl rhyw lawer imi.Ond, torrodd fy lwc ac yn sydyn, roeddwn yn falch bodarbenigedd a phrofiad UCAC yn gefn i mi ar adeg owasgedd gwaith mawr. Dechreuais feddwl - beth oeddgwaith yr undeb? Beth yn gwmws roeddynt yn ei wneudmewn swyddfa braf ar lan y môr gyda’r rhent wedi ei daluo’m cyfraniadau misol i? Ie, cyfraniad oedd yn codi’n gysona dw i’n si ŵr allwn ni ddod o hyd i rhywbeth i’w brynu gyda’m £16 y mis?Felly, dyma fwrw ati o ddifri. Derbyniais wahoddiad UCAC i fod ar yr Adran Gydraddoldeb.Mynychais fy nghyfarfod cyntaf eleni ym mis Chwefror. Cnewyllyn bychan o aelodau’r undebsydd mewn Adran, ond fe’m synnwyd gyda chymaint oedd eu profiadau, eu gwybodaetha’u brwdfrydedd am y pwnc. Dyma bobl oedd wedi mynychu cyfarfodydd a gweithdai acholadu gwybodaeth er lles pob aelod. Wrth gwrs, gan fy mod bob amser yn uchel fynghloch, manteisiais ar y cyfle i gyfrannu a mynegi barn.Pam mentro i’r Gynhadledd Flynyddol?Er mawr syndod i mi, fe’m gwahoddwyd i gyflwyno cynnig yn y Gynhadledd Flynyddol ynLlandrindod. Wrth gwrs, doeddwn erioed wedi mynychu un o’r rhain a heb syniad yn y bydpa fath bethau oedd yn digwydd fan’na!Roedd rhaid magu digon o blwc ac es ati gydag arddeliad. Fe’m synnwyd gydaphroffesiynoldeb y prosesau; gyda difrifoldeb y siaradwyr am eu maes a deallusrwydd yrathrawon cyffredin am eu pwnc. Gwelais cymaint oedd pobl fel chi a fi wedi bod yn gweithioer mwyn gwella safle athrawon ac i amddiffyn safonau addysg.Cymeradwywyd fy nghynnig a fydd ymhen hir a hwyr yn gwella strwythur ariannu adnoddaua darpariaeth ychwanegol drwy ‘Mynediad at Waith’, i bobl gydag anabledd – fel fi.Wrth agosáu at fy negfed mlynedd ar hugain, byddwn yn annog athrawon ifanc i chwaraerhan ymarferol yng ngwaith yr undeb. Mae profiad yn dangos dyna’r lle i amddiffyn, iddatblygu cysyniadau ac i ddylanwadu…….nid yn yr ystafell athrawon!Os hoffech chi dynnu sylw Adran Cydraddoldeb UCAC at faterion yn ymwneud âchydraddoldeb yn eich gweithle, neu os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannuat drafodaethau’r Adran, mae croeso i chi gysylltu â ni: 01970 639 950 neuucac@athrawon.comFfôn 01970 639950 ucac@athrawon.com www.ucac.cymru @AthrawonCymru 3

CYNHADLEDD FLYNYDDOL UCAC 2015“Uchafbwynt y Gynhadledd i mi oedd araith Elaine Edwards- trueni na allai’r holl aelodau ei chlywed!”Do, cafwyd ymateb eithriadol o gadarnhaol i araith yrYsgrifennydd Cyffredinol, Elaine Edwards, yng NghynhadleddUCAC eleni. Yn ystod yr araith soniodd am bwysigrwydd bodyn aelod o’r Undeb gan gyfeirio at yr egwyddorion sydd yngreiddiol i UCAC ers 1940:• darparu cymorth cyfreithiol a phroffesiynol o’r safon uchaf;• diogelu a gwella amodau gwaith aelodau;• hyrwyddo buddiannau aelodau;• sicrhau cyfundrefn addysg annibynnol i Gymru;• codi a chynnal safonau addysgol;• hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant Cymraeg.Wrth dalu teyrnged i sylfaenwyr UCAC rhoddodd ystyriaeth irôl yr aelodau presennol a phwysigrwydd prosesaudemocrataidd undebol i sicrhau bod llais yr aelod yn llywiobarn yr undeb. ‘Ar adeg pan mae Cymru’n wynebunewidiadau pellgyrhaeddol allai newid byd addysg am ygorau, mae llais a barn yr aelod mor bwysig ag erioed.’Wrth roi croeso gofalus i Adroddiad Donaldson pwysleisioddyr Ysgrifennydd Cyffredinol yr angen i ‘ystyried’, ‘i godicwestiynau’ ac ‘i leisio barn ar ran y proffesiwn’. MaeDonaldson yn cynnig cyfleoedd ac, er y llwyth gwaithaffwysol sydd yn llethu athrawon a darlithwyr ar hyn o bryd,mae’n holl bwysig bod aelodau UCAC yn ystyried yrargymhellion a chymryd rôl allweddol wrth ffurfio’rCwricwlwm newydd.Croesawyd yr ystyriaeth a roddwyd i lwyth gwaith a’r effaithandwyol mae’r pwysau hwnnw’n ei gael ar fywyd teuluol ariechyd corff a meddwl ac ar unrhyw obaith o gaelcydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. “Dyw e ddim ynormodiaith i ddweud bod hi’n argyfwng; bod straengalwedigaethol yn norm; bod gormod o bobl yn disgwylgormod o bethe, a bod llawer o’r pethau hynny’n cael dimeffaith o werth ar ddeilliannau plant a phobl ifanc.”Cytunodd y cynadleddwyr bod y sefyllfa’n un argyfyngus abod angen i bob aelod ymgyrchu fel rhan o’r undeb:• trwy gynnal a mynychu cyfarfodydd undebol i drafodllwyth gwaith• trwy drafod llwyth gwaith yn agored mewn ysgol a choleg• trwy ddwyn pwysau ar ein gwleidyddion i fynd i’r afael âphryderon llwyth gwaithClywodd y cynadleddwyr nad cais afresymol yw ‘mynnu’rhawl i fwynhau bywyd teuluol a mwynhau eich swydd’.Mae’n hawl sylfaenol, statudol, ddylai fod yn ddisgwyliediggan bob athro a darlithydd.Wrth gloi, pwysleisiodd Elaine bod ‘UCAC yn undeb cryf sy’nbrwydro i’r carn dros aelodau ac yn driw i egwyddorioncadarn sydd wedi llifo trwy wythiennau’n Undeb ers trichwarter canrif’.Diolch i’r holl sefydliadau a chwmnïau ddaeth âstondin i Gynhadledd UCAC:• British Heart Foundation Cymru• Cwmni Merigo• Cyngor Llyfrau Cymru• Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru• Cymdeithas yr Iaith• Fforwm Hanes Cymru• Into Film Cymru• Stiwdiobox• Stonewall Cymru• Teacher Support Cymru• Tenovus• Urdd Gobaith CymruElaine EdwardsCafwyd gwledd o adloniant gyda’rhwyr yng nghwmni’r WelshWhisperer a Gwilym Bowen Rhys.Roedd y cyfuniad o hiwmor yn set yWelsh Whisperer a dawn gerddorolwerinol Gwilym Bowen Rhys yngyfuniad perffaith ar ôl diwrnod hir odrafod a myfyrio. Os nad ydych chiwedi profi hiwmor a cherddoriaeth yWelsh Whisperer, beth am fynd i’wweld yn perfformio yn un o wyliauCymru dros yr haf?Ewch i’w dudalen Facebook amrestr o ddigwyddiadau:https://www.facebook.com/WelshWhisperer?fref=ts4Ffôn 01970 639950 ucac@athrawon.com www.ucac.cymru AthrawonCymru

CYNHADLEDD FLYNYDDOL UCAC 2015Pwy fydd Llywydd Cenedlaethol UCAC ar gyfer 2015-16?Yn enedigol o Gastell Nedd, mynychodd Gareth Morgan YsgolGynradd Gymraeg Castell Nedd, cyn symud ymlaen i Ysgol GyfunYstalyfera. Mae Gareth yn ystyried ei hun yn ffodus iawn o fod wediderbyn addysg cyfrwng Cymraeg ac mae’n ddiolchgar i’w rieni am eugweledigaeth a’u hymroddiad i addysg Gymraeg yn yr ardal.Astudiodd ieithoedd tramor ym Mhrifysgol Surrey, gan ganolbwyntio’nbenodol ar Almaeneg a Swedeg. Ar ôl treulio cyfnodau yn gweithiomewn amryw o swyddi yn y sector gyhoeddus a’r sector breifat yngNghymru, yr Almaen a Sweden, penderfynodd droi ei olygon at fod ynathro dosbarth. Wedi dysgu mewn ysgol yn Hull am flwyddyn, cafoddei benodi yn athro yn Ysgol Gyfun Ystalyfera.Cafodd ei recriwtio i fod yn aelod o UCAC gan Derec Stockley,cynrychiolydd ysgol UCAC yn Ysgol Gyfun Ystalyfera ar y pryd.Ymhen pen dim, ar ôl i Derec Stockley adael yr ysgol am yrfa gydaCBAC, daeth Gareth yn gynrychiolydd ysgol ac yn ddiweddarach ynYsgrifennydd Sir yn Nghastell-nedd Port Talbot.Bydd Gareth yn cychwyn ar ei gyfnod fel Llywydd CenedlaetholUCAC ym mis Medi 2015.Ioan Rhys Jones, Llywydd presennol yr undeb yn cyflwyno'r fedal i GarethMorgan fydd yn cychwyn ar ei flwyddyn lywyddol ym mis Medi 2015Dyma ddetholiad o’i araith yn ystod y Gynhadledd:Mae dod yn Lywydd Cenedlaethol UCAC eleni yn fraint mawr gan ei fodyn gyfnod pwysig iawn i athrawon yng Nghymru.Yr ydym ar drothwy etholiad cyffredinol San Steffan ac er fod addysg ynfater sydd wedi’i ddatganoli i Gymru ers sawl blwyddyn, mae’r pleidiauyn dal i ddefnyddio addysg i ddwyn perswâd ar bobl Cymru i fwrwpleidlais y naill blaid neu’r llall. Pa bynnag liw fydd y Llywodraeth ar ôl 7Mai, neu pha bynnag gyfuniad o liwiau fydd yn llywodraethu, un pethsydd yn sicr – bydd yna bolisïau newydd ym myd addysg. Os byddparhad i’r polisïau llymder yn San Steffan, bydd hyn yn effeithio’n fawr araddysg ein pobl ifanc, ar ysgolion ac ar fywydau personol athrawon.Yn y cyd-destun hyn, mae’n gyfnod arbennig o gyffrous wrth i’rgwleidyddion ddadlau dros addysg. Er yr oedi, dwi’n si ŵr yn y pendraw, y bydd cyfrifoldeb dros gyflogau ac amodau gwaith yn cael eutrosglwyddo i Gymru. Fel undeb, mae hyn i’w groesawu oherwydd, fel ygwyddom, un o’n hegwyddorion ni fel undeb yw sefydlu cyfundrefnaddysg annibynnol i Gymru. Mae hefyd yn gyfrifoldeb i ni sicrhau ycyflogau ac amodau gwaith gorau posib i’n aelodau.Er mwyn tawelu pryderon rhai o’n haelodau, mae’n bwysig ein bod ni felundeb yn gweithio gyda gwleidyddion Cymru i sicrhau dosraniad tegcyllid fformiwla Barnett o Lundain. Mae’n bwysig fod gwleidyddionCymru yn sicrhau cyflog na fydd yn waeth na’r hyn mae athrawoneisoes yn eu derbyn. Tra fod Cymru yn rhan o’r Deyrnas Unedig, ac yntalu trethu i Lundain ac yn derbyn gwariant yn ôl o San Steffan, dylaihwn fod yn rhan o’r ‘fargen’ ar gyfer athrawon Cymru.Mae’r newidiadau cyflog ac amodau gwaith i athrawon, yn gyffredinol,yn sgil polisïau Llywodraeth San Steffan dros y blynyddoedd diwethaf,ond yn ragflas o’r hyn sydd ar y gorwel: ansicrwydd am yr ystodcyflogau; ansicrwydd am gyflogau cludadwy a rhewi cyflogau yn ysector gyhoeddus. Mae rhain oll i’w gweld yng Nghymru eisoes.A beth am fynd am dro dros y ffin?Academïau; ysgolion sylfaen; anwybyddu cytundebau cyflog ac amodaugwaith cenedlaethol; cyflogi a diswyddo athrawon yn fympwyol.Beth fydd nesaf? System addysg breifat i bob diben? Ysgolion ârhyddid llwyr yn y farchnad addysg?Mae hyn oll yn wrthun i ni yng Nghymru. Nid yn unig nad ydym niathrawon, ond dwi ddim yn credu fod rhieni, gwleidyddion na’r cyhoeddyn gyffredinol, am i system addysg Cymru ddilyn yr un patrwm.“Yr allwedd i godi safonau yw rhyddhau creadigrwyddathrawon,” medd yr Athro John FurlongMae wedi bod yn gyfnod o newid parhaus ym myd addysgCymru, a hynny bron yn ddi-dor ers diwedd yr 80au. Ynddiweddar cyhoeddwyd adroddiadau a fydd yn ddylanwadol acyn llywio addysg yng Nghymru am y blynyddoedd a’r degawdau iddod. Un o’r rhain yw adroddiad Yr Athro John Furlong arhyfforddiant cychwynnol athrawon sef - Addysgu Athrawon Yfory.Tipyn o fraint, felly, oedd croesawu’r Athro Furlong i Landrindod i’ncynhadledd eleni.Yn ei anerchiad bu’n trafod y sefyllfa bresennol a’r argymhellion ynei adroddiad i wella’r sefyllfa. Cychwynnodd ei araith trwy nodi ‘fodhyfforddiant cychwynnol athrawon yng Nghymru yn ddigonol adim gwell.’ Ychwanegodd bod ‘codi safonau ein hysgolion yngolygu buddsoddi yn y proffesiwn,’ - ni allai unrhyw un o’rcynadleddwyr anghytuno â hyn. Braf oedd deall fod Furlong aDonaldson yn canu o’r ‘un llyfr emynau,’ fel petai, a bod y ddwyadroddiad yn cadarnhau ei gilydd. Nododd eu bod fel panel wrthlunio’r adroddiad wedi edrych ar arfer dda trwy’r byd yn grwn acer mwyn codi safonau bod yn rhaid rhoi rôl gryfach i ysgolion a rôlgliriach i brifysgolion yn y broses o hyfforddi athrawon. Un prydermawr a leisiodd, ac un y dylem ei ystyried fel addysgwyr - ac ynwir fel Undeb - oedd na theimlai fod ‘neb ynarwain y meddwl am addysg yng Nghymru.’Mae hyn, dywedodd yn bur wahanol i brofiadaua gafodd mewn gwledydd eraill. Mae hyn ynneges clir i’n gwleidyddion, ein academyddiona’n haddysgwyr ar bob lefel.Ymysg y prif bwyntiau eraill a nododd o’i adroddiad oedd:• angen gweithdrefnau achredu newydd ar gyfer hyfforddiantathrawon• rôl newydd i Estyn - newid o arolygu i wella ansawdd• newid cwrs hyfforddi o 3 i 4 blynedd a bod dwy flynedd yncael ei dreulio yn astudio prif bwnc• sefydlu pum canolfan ragoriaeth Hyfforddiant CychwynnolAthrawon ar draws CymruTybiaf y bydd adroddiad yr Athro Furlong yn cael ei derbyn yngyffredinol gan y proffesiwn, mae’n cynnig ffordd gadarnhaolymlaen. Wrth gloi, ac er mawr ryddhad, pwysleisiodd nad oeddgwella addysg yng Nghymru yn rhywbeth a ellir ei wneud drosnos, ond y byddai’n broses hir o gydweithio ar draws y proffesiwn.Ffôn 01970 639950 ucac@athrawon.com www.ucac.cymru @AthrawonCymru 5

CYNHADLEDD FLYNYDDOL UCAC 2015Er bod safiad a gweledigaeth Dr Siân Wyn Siencyn ynhysbys i drwch ei chynulleidfa yn y Gynhadledd cyn hyn,roedd yn braf cael ein atgoffa mor greiddiol yw profiadau’rBlynyddoedd Cynnar yn natblygiad ac addysg pob plentyn.Yn ystod ei chyflwyniad didwyll a bywiog bu iddi fanylu ar yrheriau sy’n wynebu addysg yn y Blynyddoedd Cynnar ydyddiau hyn.Fel un sydd wedi bod yn aelod o banel Llywodraeth Cymruar Hawliau Plant nid yw’n syndod bod ganddi deimladaucryf am y modd mae tlodi ac effeithiau tlodi yn cyfyngu arbrofiadau plant yng Nghymru. Nid yw tlodi o reidrwydd yngyfyngedig i brinder arian, gall hefyd fod yn brindergwasanaethau sydd ar adegau yr un mor broblemus yngnghefn gwlad ag yn yr ardaloedd trefol.Amlinellodd rai o gasgliadau yr Archwiliad Annibynnoldiweddar i’r Cyfnod Sylfaen. Yn sicr, mae’r FframwaithLlythrennedd a Rhifedd wedi gorffurfioli profiadau plant yn yCyfnod Sylfaen ac mae newidiadau yn nisgwyliadauLlywodraeth Cymru yn profi’n fygythiad i’r Cyfnod Sylfaen.Mae’r cyfyngiadau cyllidol cyfredol yn bygwth lleihauniferoedd y staff yn y dosbarthiadau, ond amlygodd yrArchwiliad bod eisoes cryn amrywiaeth yn y defnydd o’rstaff sydd ar gael hefyd. Yn y sector Gymraeg mae yna herbellach o ganfod staff cymwys sy’n siarad Cymraeg ynrhugl.Bu i Dr Siân Wyn Siencyn gyfeirio, fel y gwnaeth Yr athroJohn Furlong yn gynharach yn y dydd, at y gorbwyso syddar ‘sut’ i wneud pethau ar draul y ‘pam’ yn yr hyfforddiant arAddysg yn y Blynyddoedd Cynnar - Dr Siân Wyn Siencyngyfer y Cyfnod Sylfaen. Arweiniodd hyn at drafodaethfywiog ar y ddiffyg dirnadaeth o ran rhai penaethiaid aswyddogion Awdurdodau a Chonsortia o athroniaeth,strwythur a disgwyliadau’r Cyfnod Sylfaen.Neges glo Dr Siân Wyn Siencyn yn sicr oedd fod yn rhaid iymarferwyr y Cyfnod Sylfaen sefyll eu tir a chwffio eu corneler mwyn y plant. Arweiniodd hyn at gwestiwn y LlywyddCenedlaethol ‘a oes lle i gael Gr ŵp Dylanwadu o fewn yrUndeb i warchod ac ymladd dros fuddiannau acegwyddorion y Cyfnod Sylfaen?’.Philip Blaker – Pennaeth Dros Dro Cymwysterau CymruI gloi gweithgareddau prynhawn dydd Gwener cafwydanerchiad gan Philip Blaker, Pennaeth dros-droCymwysterau Cymru. Clywyd ganddo fel mae’r corffannibynnol newydd hwn yn gobeithio dechrau apwyntiopersonau i lenwi hyd at 60 o swyddi i fod yn weithredol ofis Medi, 2015 ymlaen.Dywedodd wrth y cynadleddwyr y credai fod gangymwysterau rôl ym myd addysg fel mesurwr ac felanogwr ond na allai cymwysterau wella addysg.Clywyd ganddo mai amcanion cymwysterau Cymrufyddai bod yn effeithiol o ran diwallu anghenion rhesymoldysgwyr yng Nghymru ahyrwyddo hyder ymysg ycyhoedd o ran cymwysterau asystem gymwysterau Cymru.Pasiwyd dau gynnig yn unfrydolyn y Gynhadledd - i sicrhaubod y corff CymwysterauCymru newydd yn gwblannibynnol o LywodraethCymru ac yn gweithredu’ngyfan gwbl ddwyieithog. I weld rhestr llawn o’rpenderfyniadau, ewch i wefan UCAC: www.ucac.cymruTaflenni Gwybodaeth UCACwedi’u diweddaru ac ar gael arwww.ucac.cymru:• Defnydd Diogel a Chyfrifol o E-dechnoleg• Mamolaeth a Thadolaeth• Oriau Cyfeiriedig• Rheolau Cyflenwi: Gweithredu Prin Gyflenwi• Straen Galwedigaethol• Tasgau Gweinyddol, Clerigol a Threfniadol6Ffôn 01970 639950 ucac@athrawon.com www.ucac.cymru AthrawonCymru

CYNHADLEDD FLYNYDDOL UCAC 2015Pwnc llosg: Ffioedd Cofrestru Cyngor y Gweithlu AddysgAr brynhawn Gwener y Gynhadledd cafwyd cyflwyniad ganHayden Llewellyn, Prif Weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg.Daeth Cyngor y Gweithlu Addysg i rym ar 1 Ebrill 2015 o danDdeddf Addysg (Cymru) 2014 pan ddisodlwyd CyngorAddysgu Cyffredinol Cymru. Mi fydd y corff hwn yn parhau igofrestru athrawon cymwysedig ond mi fydd hi’n ofynnol i’rgweithwyr canlynol hefyd gael eu cofrestru yn ogystal ymhen yddwy flynedd nesaf:• Darlithwyr Addysg Bellach (Ebrill 2015)• Gweithwyr cymorth dysgu ysgolion (Ebrill 2016)• Gweithwyr cymorth dysgu Addysg Bellach (Ebrill 2016)• Gweithwyr ieuenctid (Ebrill 2017)• Gweithwyr dysgu yn y gweithle (Ebrill 2017)Dywedodd Mr Llewellyn mai prif amcanion y corff hwn yngNghymru fydd:• cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu• cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymysgathrawon ac eraill sy’n cefnogi’r gwaith o addysgu a dysgu• cynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd a diogelu llesdysgwyr, rhieni a’r cyhoeddUn mater sydd yn bwnc llosg cyson yn ôl Mr Llewellyn yw’r fficofrestru. Dywedodd fod ffi cofrestru ar gyfer 2015-16 wedi eibennu sef £45 ar gyferathrawon ysgol, £45 ar gyferdarlithwyr AB (â chymhorthdalrhannol), ond nodwyd nadoedd ffi cofrestru ar gyfer2016-17 wedi ei gadarnhaueto gan Weinidogion Cymru.I gloi’r cyflwyniad amlinelloddMr Llewellyn yr heriau fydd ynwynebu Cyngor y GweithluAddysg yn y dyfodol aphwysleisiodd bwysigrwyddrôl ymarferwyr a’r undebauyng ngwaith y cyngor. Yn ei farn ef y prif heriau oedd:• Ymestyn y cylch gwaith i fod yn fwy cymeradwy âChynghorau Addysgu Cyffredinol a chyrff proffesiynol eraill• Integreiddio’r grwpiau newydd a fydd yncofrestru o’r newydd• Gweithio gyda’r Llywodraeth• Cydweithio gyda rhanddeiliaid, yn enwedigcofrestreion a’r undebau• Cyfyngiadau ariannolMae UCAC yn parhau i frwydro'n ffyrnig dros gydbwysedd bywyd a gwaith ein haelodau, ac mae neges UCAC yn glir iLywodraeth Cymru:• Peidiwch disgwyl i safonau godi os na fydd llwyth gwaith yn gostwng• Mae llwyth gwaith yn peryglu safonau ac yn peryglu iechyd staffBeth allwch chi wneud i helpu UCAC i gynnal y momentwm?• Mynychu eich cyfarfod sirol - byddwch yn derbyn llythyr a neges e-bost yn fuan yn cadarnhau dyddiad a lleoliad ac maeamserlen i'w weld ar wefan UCAC: www.ucac.cymru• Cynnal trafodaeth agored a sensitif am broblemau llwyth gwaith yn eich ysgol neu goleg• Cynnal un digwyddiad yn eich ysgol neu goleg e.e. ymgyrch anfon cerdyn post at eich Aelod Cynulliad (Cysylltwch agUCAC os hoffech dderbyn cyflenwad o gardiau post)Ffurflenni ymddeol CymraegMeddwl am ymddeol? Mae rhai o aelodau UCAC wedi dwyn ein sylw at y trafferthion o gael ffurflenni ymddeol Cymraeggan Teachers' Pensions. Mae UCAC wedi gweithredu ar hyn a derbyn yr ateb cyson nad oes galw am ffurflenni cyfrwngCymraeg. Ar ôl gweithredu pellach, mae Teachers' Pensions wedi ymddiheuro i UCAC a chadarnhau bod modd sicrhaubod ffurflenni cyfrwng Cymraeg ar gael. Pwyswn, felly, arnoch i ofyn am ffurflen Gymraeg yn unol â'ch hawliau achysylltu â ni os cewch esgusodion neu anhawster.Ffôn 01970 639950 ucac@athrawon.com www.ucac.cymru @AthrawonCymru 7

Adnoddau • Adnoddau • AdnoddauMae CBAC yn creu adnoddau digidol rhad ac am ddim o ansawdd uchel i gefnogi addysgu a dysgu’rcymwysterau. Ewch i wefan adnoddau CBAC http://adnoddau.cbac.co.uk i weld yr adnoddaurhyngweithiol sydd yno ar eich cyfer. Dyma rai enghreifftiau o adnoddau newydd sydd ar y wefan:Deunyddiau Asesu EnghreifftiolYchwanegol - TGAU Cymraeg IaithDeunyddiau asesu enghreifftiolychwanegol ar gyfer manyleb newyddTGAU Cymraeg Iaith. Noddwyd yradnoddau yma gan LywodraethCymru.O Ran a Diffodd y Sêr - TGAU CymraegNodiadau a gweithgareddaucefnogol ar gyfer addysguymgeiswyr fydd yn astudio’rnofelau O Ran a Diffodd y Sêrar gyfer y fanyleb TGAULlenyddiaeth Gymraeg fydd yncael ei addysgu o Fedi 2015.Bydd adnoddau tebyg ar gyfer y nofel Dim yn barod yn fuan.Noddwyd yr adnoddau yma gan Lywodraeth Cymru.TGAU Mathemateg/TGAU Mathemateg – RhifeddAdnoddau i gefnogiaddysgu’r manylebauMathemateg newydd i’whaddysgu’n gyntaf o fisMedi 2015. Mae’r unedauyn cynnwys adnoddaudigidol blaen dosbarth,adnoddau symudol ar gyferastudio unigol, gweithgareddau dosbarth cyfan y gellir euhargraffu a thaflenni gwaith.Dyma rai enghreifftiau o’r adnoddau sydd ar y gweill arhyn o bryd:Macro-Economeg– Adnodd ar gyfer Lefel Uwch,Macro-Economeg.Llenyddiaeth Gymraeg TGAU – Pecyn i gefnogi Uned 1Barddoniaeth – Y cerddi gosod newyddCymraeg Iaith Gyntaf TAG UG/U – nodiadau ar gyferathrawon sy’n paratoi i addysgu Uned 3, Adran B:Barddoniaeth yr Ugeinfed Ganrif a’r Unfed Ganrif ar Hugain.Mathemateg TGAU – Pôs y DyddAstudiaethau Busnes TAG ac UGDigwyddiadauMae Tîm Cefnogi’r Gymraeg Mewn Addysg yn trefnu cyfreso gynadleddau cenedlaethol eto eleni, yn dilyn eu llwyddiantysgubol dros y blynyddoedd diwethaf. Eleni cynhelir hwy yngNghanolfan Medrus, Prifysgol Aberystwyth ar ydyddiadau canlynol:Ymarferwyr Cymraeg Ail Iaith – 12 MehefinYmarferwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol – 22 MehefinYmarferwyr Cymraeg Iaith Gyntaf – 3 GorffennafAm fwy o wybodaeth ac i gofrestru, ewch ibit.do/cynadleddaucbacDilynwch adnoddau addysgol CBAC ar@adnoddau_cbacHysbysebion - Astudio’r Cyfryngau - CA4Adnodd i gefnogi addysguHysbysebu, fydd yn cael eiarholi yn Uned 1 Adran A argyfer 2015. Bydd yr unedhefyd yn ddefnyddiol ar gyferasesiad dan reolaeth yn yblynyddoedd dilynol.Mae’r uned yn cynnwysamryw o weithgareddauaddysgu a dysgu ar gyfer y dosbarth cyfan neu ar gyferastudiaeth unigol ac mae’r adnodd yn addas ar gyfercyflwyno’r pwnc neu ar gyfer adolygu.Dadansoddi BarddoniaethDieithr – Saesneg – CA5Sut ydych chi’n dadansoddibarddoniaeth? Sut ydych chi’ncymharu cerddi? Sut ydych chi’nmynegi eich dealltwriaeth mewnmodd rhesymegol? Bwriad yradnodd yma yw datblygu’r sgiliauhynny gan gynnig hyder iymgeiswyr wrth ddarllen, astudio acysgrifennu am farddoniaeth.8Ffôn 01970 639950 ucac@athrawon.com www.ucac.cymru AthrawonCymru

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!