You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
CYNHADLEDD FLYNYDDOL UCAC 2015Er bod safiad a gweledigaeth Dr Siân Wyn Siencyn ynhysbys i drwch ei chynulleidfa yn y Gynhadledd cyn hyn,roedd yn braf cael ein atgoffa mor greiddiol yw profiadau’rBlynyddoedd Cynnar yn natblygiad ac addysg pob plentyn.Yn ystod ei chyflwyniad didwyll a bywiog bu iddi fanylu ar yrheriau sy’n wynebu addysg yn y Blynyddoedd Cynnar ydyddiau hyn.Fel un sydd wedi bod yn aelod o banel Llywodraeth Cymruar Hawliau Plant nid yw’n syndod bod ganddi deimladaucryf am y modd mae tlodi ac effeithiau tlodi yn cyfyngu arbrofiadau plant yng Nghymru. Nid yw tlodi o reidrwydd yngyfyngedig i brinder arian, gall hefyd fod yn brindergwasanaethau sydd ar adegau yr un mor broblemus yngnghefn gwlad ag yn yr ardaloedd trefol.Amlinellodd rai o gasgliadau yr Archwiliad Annibynnoldiweddar i’r Cyfnod Sylfaen. Yn sicr, mae’r FframwaithLlythrennedd a Rhifedd wedi gorffurfioli profiadau plant yn yCyfnod Sylfaen ac mae newidiadau yn nisgwyliadauLlywodraeth Cymru yn profi’n fygythiad i’r Cyfnod Sylfaen.Mae’r cyfyngiadau cyllidol cyfredol yn bygwth lleihauniferoedd y staff yn y dosbarthiadau, ond amlygodd yrArchwiliad bod eisoes cryn amrywiaeth yn y defnydd o’rstaff sydd ar gael hefyd. Yn y sector Gymraeg mae yna herbellach o ganfod staff cymwys sy’n siarad Cymraeg ynrhugl.Bu i Dr Siân Wyn Siencyn gyfeirio, fel y gwnaeth Yr athroJohn Furlong yn gynharach yn y dydd, at y gorbwyso syddar ‘sut’ i wneud pethau ar draul y ‘pam’ yn yr hyfforddiant arAddysg yn y Blynyddoedd Cynnar - Dr Siân Wyn Siencyngyfer y Cyfnod Sylfaen. Arweiniodd hyn at drafodaethfywiog ar y ddiffyg dirnadaeth o ran rhai penaethiaid aswyddogion Awdurdodau a Chonsortia o athroniaeth,strwythur a disgwyliadau’r Cyfnod Sylfaen.Neges glo Dr Siân Wyn Siencyn yn sicr oedd fod yn rhaid iymarferwyr y Cyfnod Sylfaen sefyll eu tir a chwffio eu corneler mwyn y plant. Arweiniodd hyn at gwestiwn y LlywyddCenedlaethol ‘a oes lle i gael Gr ŵp Dylanwadu o fewn yrUndeb i warchod ac ymladd dros fuddiannau acegwyddorion y Cyfnod Sylfaen?’.Philip Blaker – Pennaeth Dros Dro Cymwysterau CymruI gloi gweithgareddau prynhawn dydd Gwener cafwydanerchiad gan Philip Blaker, Pennaeth dros-droCymwysterau Cymru. Clywyd ganddo fel mae’r corffannibynnol newydd hwn yn gobeithio dechrau apwyntiopersonau i lenwi hyd at 60 o swyddi i fod yn weithredol ofis Medi, 2015 ymlaen.Dywedodd wrth y cynadleddwyr y credai fod gangymwysterau rôl ym myd addysg fel mesurwr ac felanogwr ond na allai cymwysterau wella addysg.Clywyd ganddo mai amcanion cymwysterau Cymrufyddai bod yn effeithiol o ran diwallu anghenion rhesymoldysgwyr yng Nghymru ahyrwyddo hyder ymysg ycyhoedd o ran cymwysterau asystem gymwysterau Cymru.Pasiwyd dau gynnig yn unfrydolyn y Gynhadledd - i sicrhaubod y corff CymwysterauCymru newydd yn gwblannibynnol o LywodraethCymru ac yn gweithredu’ngyfan gwbl ddwyieithog. I weld rhestr llawn o’rpenderfyniadau, ewch i wefan UCAC: www.ucac.cymruTaflenni Gwybodaeth UCACwedi’u diweddaru ac ar gael arwww.ucac.cymru:• Defnydd Diogel a Chyfrifol o E-dechnoleg• Mamolaeth a Thadolaeth• Oriau Cyfeiriedig• Rheolau Cyflenwi: Gweithredu Prin Gyflenwi• Straen Galwedigaethol• Tasgau Gweinyddol, Clerigol a Threfniadol6Ffôn 01970 639950 ucac@athrawon.com www.ucac.cymru AthrawonCymru