Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Cwrdd a’r Aelod

Accendo Accountants Ltd

Wedi'i leoli ar Stryd y Llew yng nghanol tref y

Fenni, mae Accendo Accountants yn bractis sydd

wedi’i gofrestru ag ACCA sy'n darparu cyfres

gynhwysfawr o wasanaethau i unigolion a

chwmnïau. O cyflogres a chadw llyfrau i gyfrifon

diwedd blwyddyn, trethiant a chynllunio busnes,

rydym yn cynnig gwasanaeth rhagweithiol

personol, cyfeillgar.

Accendo Accountants Ltd

together a brighter future

Gallwn weithio gyda chi o bell gan ddefnyddio ein meddalwedd cyfrifo a storio sy’n

seiliedig ar y cwmwl neu ymweld â'ch swyddfa yn ôl yr angen. Mae pob

gwasanaeth yn cael ei deilwra i gyd-fynd â'ch anghenion busnes chi.

Roedd gan y sylfaenydd, Quintin Scott, dros 20 mlynedd o brofiad mewn swyddi

Cyfarwyddwr Cyllid Manwerthu ac Eiddo Masnachol cyn sefydlu’r practis. Credwn fod hyn yn

rhoi Accendo Accountants mewn sefyllfa unigryw pan ddaw i ddeall anghenion a phrofiadau

ein cleientiaid.

Quintin Scott, Accendo Accountants Ltd

Llwyddiant blwyddyn gyntaf ar gyfer aelodau Llais Busnes

Torfaen, Solar Buddies

Rydym bellach yn ein pedwaredd flwyddyn o’n taith

gyda'r Solar Buddies ond rydym newydd gwblhau

ein blwyddyn gyntaf swyddogol o fasnachu, ac am

flwyddyn gyntaf! O fewn y 12 mis cyntaf, roedd y

manwerthwr stryd fawr JoJo Maman Bébé yn

ein cefnogi, ynghyd â dosbarthwyr yn

Awstralia a Sbaen yn helpu cael y cynnyrch i'r

farchnad. Ym mis Mawrth, roeddem yn falch i gael

ein cyhoeddi fel enillwyr y categori arloesi yng

Ngwobrau Twf Busnes De Cymru.

Daeth datblygu'r Solar Buddies o geisio dod o hyd i ateb i broblem y mae’r ddau ohonom wedi

cael gyda’n plant ein hunain pan ddaeth atynt yn defnyddio eli haul tra yn yr ysgol. Aethon ni

â’r broblem honno a cheisio gweithio allan beth fyddai'n gweddu ein plant a'n hanghenion fel

rhieni.

Mae cymryd syniad a’i wthio ymlaen i ddatblygiad yn rhywbeth y byddwn wastad yn falch

ohono ac mae wedi ein gyrru i barhau i hyrwyddo Solar Buddies ledled y DU ac yn

rhyngwladol.

Gallwch weld rhagor o wybodaeth am Solar Buddies ar

http://www.solarbuddies.co.uk

Kelli Aspland a Laura Griffin,

cyd-grewyr Solar Buddies

TUD 6