TBV Newsletter August 2016
TBV Quarterly Newsletter August 2016
TBV Quarterly Newsletter August 2016
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Cwrdd â’r Aelod

Peter Carless - Xanthe Studios

Dylunio Ffres. Cod Cain. Marchnata

Deallus.

Ni yw Xanthe Studios.

Mae Xanthe Studios yn stiwdio dylunio gwe brofiadol

wedi ei leoli yn Aberbargoed gyda hoffter o frandio,

dylunio, a datblygu. Ein cenhadaeth yw, yn syml:

rydym yn ymdrechu i sicrhau atebion digidol sy’n

canolbwyntio ar y defnyddiwr i helpu cleientiaid

gyfathrebu'n glir ar-lein ac ychwanegu gwerth at eu

busnes. P'un a ydych angen gwefan un-dudalen, ateb

e-fasnach hyblyg, neu hunaniaeth weledol ar gyfer eich

busnes, gallwn eich helpu.

Sefydlwyd Xanthe Studios gan y Cyfarwyddwr Technegol Peter Carless yn ôl yn 2014; sydd wedi magu dros bum mlynedd o brofiad diwydiant yn

gweithio ar gyfer tai meddalwedd ac asiantaethau’r we, ac ar brosiectau ar gyfer y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig i: y BBC, y GIG, Dreigiau

Gwent Casnewydd a Rygbi Ospreys.

Ym Mehefin 2016, lansiwyd ein gwefan newydd sy'n crynhoi'r hyn yr ydym yn darparu; gwefannau effeithiol wedi eu crefftio yn broffesiynol sy'n

perfformio o gael eu lansio ac yn gweithio'n ddi-dor ar draws dyfeisiau lluosog.

Os hoffech adolygu eich gwefan neu yn awyddus i gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes, cysylltwch â hello@xanthestudios.co.uk

Hosbis Dewi Sant

Ras Gartref 10km Gofal Hosbis Dewi Sant

Pont-y-pŵl wedi codi dros £ 24,400

Mae rhedwyr, cefnogwyr a noddwyr Ras Gartref 10km

Gofal Hosbis Dewi Sant Pont-y-pŵl 10k wedi codi swm

aruthrol o dros £ 24,400 i gefnogi gwasanaethau hosbis

yn ein cymuned.

Cymerodd 545 o gyfranogwyr ran ar 28 Chwefror, yn

cynnwys 10 aelod o brif noddwr Johnsey Estates (UK)

Ltd, a gododd cyfanswm o £7,000.

Dywedodd y Rheolwr Marchnata yn Johnsey Estates,

Gemma Johnsey-Plumley “Rydym i gyd wedi mwynhau

gweithio gyda Gofal Hosbis Dewi Sant a chodi

arian at achos mor deilwng."

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Digwyddiad Christine Vorres "Roedd Tîm Johnsey wedi ymrwymo yn llwyr i’n cefnogi ac mae eu cefnogaeth

wedi cymryd y cyfanswm a godwyd yn y ras 10k dros £20k am y tro cyntaf. Rhagwelom y byddem yn codi £15,000 o bosibl

eleni ond rydym wedi codi bron £10,000 yn fwy sy'n wych ar gyfer ein cleifion. Hefyd yn noddi'r digwyddiad oedd y cwmnïau lleol

Kama Mortgages a Designer Print, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt. Byddem hefyd yn hoffi estyn ein diolch i'r holl redwyr

gwych a gododd arian nawdd. Rydym wrth ein bodd gyda'r gefnogaeth a gawn gan fusnesau lleol."

Mae Gofal Hosbis Dewi Sant yn darparu gwasanaethau hosbis am ddim ledled de ddwyrain Cymru i gleifion gydag afiechydon sy'n cyfyngu ar

fywyd. Gweler rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau a ddarperir yn stdavidshospicecare.org.

Mae ras Gartref 10km nesaf Pont-y-pŵl ar Ddydd Sul 26 Chwefror 2017 am 10am. Mae’n cychwyn ac y gorffen ym Mharc Pont-y-pŵl. Gellir

cofrestru nawr: stdavidshospicecare.org/event-details/pontypool-10k/ neu ffoniwch 01633 851051.

Rydym yn chwilio am bartneriaid ar gyfer 2017 - Os hoffai eich cwmni fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, cysylltwch â Christine ar y rhif uchod.

TUD 6