18.10.2016 Views

Llinell Amser / A Line Through Time

Llinell Amser: darganfyddiadau archaeolegol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ystod y gwaith o osod piblinell nwy Aberdaugleddau i Aberhonddu -------------------------------------------------------------------------------------------------------------------- A Line Through Time: archaeological discoveries in the Brecon Beacons National Park during the installation of the Milford Haven to Brecon gas pipeline

Llinell Amser: darganfyddiadau archaeolegol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ystod y gwaith o osod piblinell nwy Aberdaugleddau i Aberhonddu

A Line Through Time: archaeological discoveries in the Brecon Beacons National Park during the installation of the Milford Haven to Brecon gas pipeline

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

20

Llinell Amser: darganfyddiadau archaeolegol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

yn ystod y gwaith o osod piblinell nwy Aberdaugleddau i Aberhonddu

Bywyd a’r byd a ddaw: marwolaeth yn yr

Oes Efydd

Rydym yn gwybod o weddillion a gafodd eu canfod

mewn mannau eraill fod agweddau at farwolaeth yn y

gorffennol yn wahanol i agweddau yn yr oes bresennol,

ac roedd y gwahaniad rhwng y meirw a’r byw yn llai

clir. Ar y tudalennau hyn, gwelwn yr hyn a allai fod wedi digwydd

yn dilyn marwolaeth y fenyw o’r Oes Efydd (1) a gafodd ei chladdu

yn y fynwent y gwnaethom edrych arni ar y tudalennau blaenorol.

Wrth i’r fenyw ddod yn nes at farwolaeth, mae’r

paratoadau ar gyfer ei thaith i’r byd nesaf yn cychwyn

(2). Mae coed tanwydd ar gyfer ei choelcerth amlosgi a bwyd ar

gyfer gwledd yn cael eu casglu a’u paratoi. Mae aelodau’r teulu

mewn pentrefi eraill yn cael eu gwahodd i’r angladd.

Pa baratoadau eraill y gallai fod wedi’u gwneud ar gyfer yr

angladd a’r seremoni?

Mae ei chorff yn cael ei gario i’r goelcerth angladdol

mewn gorymdaith (3). Mae seremoni’n cael ei chynnal tra bo’r

tân yn cael ei gynnau ac mae’r galarwyr yn gwylio’r fflamau’n

codi tuag at y corff. Yng ngolau’r goelcerth, mae’r galarwyr yn

gwledda ac yn rhannu storïau am y fenyw. Ar ôl rhai oriau, mae’r

corff wedi troi’n wasgariad o ddarnau bach o esgyrn sydd wedi

gwynnu ac sydd wedi’u cymysgu â lludw’r coed.

Mae’r esgyrn llosg yn cael eu casglu gan aelodau

agos o’r teulu (4). Mae rhai’n cael eu cludo i’r fynwent

deuluol ger yr afon. Mae twmpathau bach yn nodi beddau

cynharach lle mae hynafiaid a theulu’r fenyw farw wedi’u claddu,

ac mae’r galarwyr yn cerdded tuag at un o’r rhain. Mae un o’i

pherthnasau’n tyllu drwy’r twmpath bach i mewn i fedd sy’n bodoli

eisoes, gan ddatgelu pridd tywyll wedi’i gymysgu â darnau bach o

esgyrn dynol llosg. Dyma weddillion gŵr y fenyw ac un o’i phlant.

Ar ôl dweud rhai geiriau, mae merch hynaf y fenyw yn gosod

gweddillion ei mam yn y bedd. Mae’r ferch hefyd yn gosod un o’r

gleiniau a oedd gan ei mam, sydd wedi’i wneud o asgwrn anifail,

yn y bedd, ac efallai fod y galarwyr yn ychwanegu peth o’r bwyd

o’r wledd angladdol.

Ni chafodd pob un o esgyrn amlosgedig y fenyw ei

gladdu, ond nid ydym yn gwybod beth ddigwyddodd

i’r gweddill. A oeddent yn cael eu cadw yng nghartref y teulu?

A oeddent yn cael eu claddu mewn man arall? A oeddent yn cael

eu gwasgaru? Un posibilrwydd yw bod gweddillion hynafiaid yn

cael eu cadw fel y gellid dod â nhw allan ar achlysuron arbennig i

gymryd rhan ym mywyd y teulu.

Life and afterlife: death in the Bronze

Age

We know from remains found elsewhere that attitudes

to death in the past differed from today, and the

separation between the dead and the living was less

clear. On these pages, we see what might have happened

following the death of the Bronze Age woman (1) who was buried

in the cemetery we looked at on the previous pages.

As the woman approaches death, preparations for

her passing to the afterlife begin (2). Fuelwood for her

cremation pyre and food for a feast are collected and prepared.

Family members in other villages are invited to the funeral.

What other preparations might have been made for the

funeral and ceremony?

Her body is carried to the funeral pyre in a procession

(3). A ceremony is held whilst the fire is lit and the mourners

watch the flames rise towards the body. In the light of the pyre, the

mourners feast and exchange stories about the woman. After a

few hours, the body has turned to a scatter of small whitened bone

fragments mixed with the wood ash.

The cremated bone is collected by close family

members (4). Some is carried to the family cemetery overlooking

the river. Small mounds mark earlier graves holding the dead

woman’s ancestors and family, and the mourners make for one

of these. One of her relatives digs away the small mound into an

existing grave, exposing dark soil mixed with white flecks of burnt

human bone. These are the remains of the woman’s husband and

one of her children. After saying a few words, the woman’s eldest

daughter places her mother’s remains in the grave. The daughter

also places one of her mother’s beads, made from animal bone,

into the grave, and perhaps the mourners add some of the food

from the funeral feast.

Not all of the woman’s cremated bone was buried but

we don’t know what happened to the remainder. Was

it kept within the family home? Was it buried elsewhere? Was it

scattered? One possibility is that the remains of ancestors were

kept so that they could be brought out on special occasions to

participate in family life.

PALAEOLITHIG MESOLITHIG NEOLITHIG

PALAEOLITHIC MESOLITHIC NEOLITHIC

YR OES EFYDD

BRONZE AGE

YR OES HAEARN RHUFEINIG-BRYDEINIG CANOLOESOL ÔL-GANOLOESOL MODERN

IRON AGE ROMANO-BRITISH MEDIEVAL POST-MEDIEVAL MODERN

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!