Llinell Amser / A Line Through Time
Llinell Amser: darganfyddiadau archaeolegol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ystod y gwaith o osod piblinell nwy Aberdaugleddau i Aberhonddu -------------------------------------------------------------------------------------------------------------------- A Line Through Time: archaeological discoveries in the Brecon Beacons National Park during the installation of the Milford Haven to Brecon gas pipeline
Llinell Amser: darganfyddiadau archaeolegol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ystod y gwaith o osod piblinell nwy Aberdaugleddau i Aberhonddu

A Line Through Time: archaeological discoveries in the Brecon Beacons National Park during the installation of the Milford Haven to Brecon gas pipeline
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Brecon Beacons National Park

Llinell Amser: darganfyddiadau archaeolegol

ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ystod y gwaith

o osod piblinell nwy Aberdaugleddau i Aberhonddu

A Line Through Time: archaeological discoveries

in the Brecon Beacons National Park during the installation

of the Milford Haven to Brecon gas pipeline

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Llinell Amser: darganfyddiadau archaeolegol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

yn ystod y gwaith o osod piblinell nwy Aberdaugleddau i Aberhonddu

Ynglŷn â’r prosiect

About the project

Yn yr oes bresennol, mae Parc Cenedlaethol

Bannau Brycheiniog yn cynnwys tirwedd

gyfarwydd o dir pori yr ucheldir a phentrefi

a threfi yr iseldir, ond mae hanes cudd o dan

y wyneb gyfarwydd hon. Roedd archaeolegwyr

yn gallu dod â pheth o’r hanes cudd hwn i’r golwg yn

2005–7 pan adeiladodd y Grid Cenedlaethol biblinell nwy

316km o ran hyd rhwng Aberdaugleddau (Sir Benfro) a

Tirley (Swydd Gaerloyw). Mae’r llyfryn hwn yn grynodeb

o’r prif ddarganfyddiadau archaeolegol a wnaed ar

hyd y rhan o’r biblinell honno sydd wedi’i lleoli ym Mharc

Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan gynnwys hefyd

dystiolaeth o weddill y biblinell, a thu hwnt.

Ar dudalen 28 mae rhestr o’r termau archaeolegol sy’n

cael eu defnyddio (mae’r rhain mewn llythrennau italig

yn y testun), ac ar dudalen 29 mae rhestr o’r safleoedd

y sonnir amdanynt yn y testun ynghyd â dolenni at

wefannau diddorol. Yn y llyfryn, mae awgrymiadau

ynglŷn â dod o hyd i ragor o wybodaeth, neu gwestiynau

yr hoffech chi feddwl amdanynt o bosibl. Mae’r

adrannau hyn wedi’u hysgrifennu mewn ysgrifen borffor.

Today, the Brecon Beacons National Park contains

a familiar landscape of upland grazing and

lowland villages and towns, but beneath this

familiar surface lies a hidden history. Archaeologists

were able to unearth some of this hidden history during

2005–7 when National Grid constructed a 316km-long

gas pipeline between Milford Haven (Pembrokeshire) and

Tirley (Gloucestershire). This booklet summarises the main

archaeological discoveries made along the Brecon Beacons

National Park section of that pipeline, supplemented with

evidence from the remainder of the pipeline and beyond.

Page 28 has a glossary of archaeological terms used (these

are in italics in the text) whilst Page 29 has a list of the sites

mentioned in the text and links to websites of interest. Within

the booklet, there are suggestions for finding out more, or

questions you might like to think about. These sections are

written in purple.

Please note, the remains at these sites are no longer visible and

not all are on publicly accessible land.

Sylwch: nid yw’r gweddillion yn y safleoedd hyn yn

weladwy bellach, ac nid ydynt i gyd ar dir y mae’r

cyhoedd yn cael mynd arno.

Cyfranwyr

Testun gan Jonathan Hart. Adluniadau a darluniau eraill (ac eithrio lle nodir)

gan Daniel Bashford ac Aleksandra Osinska. Dylunio gan Jonathan Hart,

Aleksandra Osinska a Lucy Martin.

Argraffwyd gan Modus Print Ltd

Hawlfraint: © Cotswold Archaeology 2016

Building 11, Kemble Enterprise Park, Cirencester, Gloucestershire GL7 6BQ

Cedwir pob hawl. Ni chaniateir ail-greu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i

gadw ar system atgynhyrchu neu ei drawsgludo mewn unrhyw fodd neu trwy

ddull electronig, mecanyddol, llungopïo, sganio, recordio neu unrhyw ddull

arall heb ganiatâd Cotswold Archaeology

Contributors

Text by Jonathan Hart. Reconstruction drawings and other illustrations

(except where noted) by Daniel Bashford and Aleksandra Osinska. Design

by Jonathan Hart, Aleksandra Osinska and Lucy Martin.

Printed by Modus Print Ltd

Copyright © Cotswold Archaeology 2016

Building 11, Kemble Enterprise Park, Cirencester, Gloucestershire GL7 6BQ

All rights reserved. No part of this publication may be reproduced, stored in

a retrieval system, or transmitted in any form or by any means, electronic,

mechanical, photocopied, scanned, recorded by any other method without

the permission of Cotswold Archaeology

Cotswold

Archaeology

PARC CENEDLAETHOL

BANNAU BRYCHEINIOG

BRECON BEACONS

NATIONAL PARK
A Line Through Time: archaeological discoveries in the Brecon Beacons National Park

during the installation of the Milford Haven to Brecon gas pipeline

1

Arrow

Irfon

Gwy / Wye

Cothi

Tywi / Towy

Gelli Gandryll/

Hay-on-Wye

Llandeilo

Llanymddyfri/

Llandovery

Myddfai

Mynydd Myddfai

Llywel

Trecastell/

Trecastle

Maescar

Penpont &

Llanfihangel

Yscir

Aberhonddu/

Brecon

PARC CENEDLAETHOL BANNAU BRYCHEINIOG

BRECON BEACONS NATIONAL PARK

Llynfi

Talgarth

Llyn Syfaddan/

Llangors Lake

Wysg / Usk

Crug Hywel/

Crickhowell

Llwchwr / Loughor

Y Fenni/

Abergavenny

Taf / Taff

Tawe

Nedd / Neath

Cynon

Rhymni /

Rhymney

Aberdulais

Rhondda Fach

Felindre

Afan

Ffin Parc Cenedlaethol

Bannau Brycheiniog

Brecon Beacons National

Park boundary

0

25km

FIGURE TITLE

Pipeline sites

more / A Ogwr

Map sy’n dangos y safleoedd y sonnir amdanynt yn y testun

A Rhondda Fawr

Map showing CARDIFFsites mentioned in the text

Cirencester 01285 771022

Milton Keynes 01908 218320
2 Pryd wnaeth hyn ddigwydd? Llinell amser archeolegol

Palaeolithig (Hen Oes y Cerrig: 500,000–10,000 CC)

Roedd Cymru wedi’i gorchuddio â llenni iâ, ond daeth anifeiliaid yn ystod cyfnodau mwy cynnes, ac yna daeth helwyr. Darganfu

archaeolegwyr a oedd yn gweithio ar hyd y biblinell wrth iddi groesi’r Parc ddau offeryn fflint a oedd wedi cael eu gollwng gan

helwyr Paleolithig dros 10,000 o flynyddoedd yn ôl.

Palaeolithic (Old Stone Age: 500,000–10,000 BC)

Wales was covered by ice sheets but during warmer spells animals visited, followed by hunters. Archaeologists working along

the pipeline as it crossed the Park discovered two flint tools which had been dropped by Palaeolithic hunters over 10,000

years ago.

Mesolithig (Oes Ganol y Cerrig:

10,000–4000 CC)

Pan enciliodd y llenni iâ o’r diwedd, cafodd

y tir ei gytrefu gan blanhigion ac anifeiliaid,

ac wedyn daeth grwpiau bach o

helwyr-gasglwyr a oedd yn byw mewn

gwersylloedd dros dro.

Neolithig (Oes Newydd y Cerrig:

4000–2400 CC)

Yn y pen draw, cafodd y rhan fwyaf o’r tir ei

orchuddio gan goetir collddail. Ymysg y

coed hyn, creodd y ffermwyr cyntaf

lennyrch bach ar gyfer aneddiadau mwy

parhaol a oedd ag un neu ddau o dai.

Yr Oes Efydd (2400–700 CC)

Wrth i ffermio ddod yn fwy cyffredin, cafodd

y coetir ei glirio’n raddol, gan greu tirwedd o

gaeau bach a phorfeydd agored. Roedd y

boblogaeth gynyddol yn byw mewn pentrefi

bach a oedd yn cynnwys un neu ddau o

deuluoedd.

Mesolithic (Middle Stone Age:

10,000–4000 BC)

When the ice sheets finally retreated,

plants and animals colonised the land,

followed by small groups of

hunter-gatherers living in temporary

camps.

Neolithic (New Stone Age:

4000–2400 BC)

Eventually, most of the land became

covered by deciduous woodland. Within

this, the first farmers made small clearings

for more permanent settlements of one or

two houses.

Bronze Age (2400–700 BC)

As farming became more widespread,

woodland was gradually cleared, creating a

landscape of small fields and open pastures.

The growing population lived in small

villages of one or two families.

PALAEOLITHIG MESOLITHIG NEOLITHIG YR OES EFYDD YR OES HAEARN

RHUFEINIG

-BRYDEINIG CANOLOESOL ÔL-GANOLOESOL MODERN

PALAEOLITHIC MESOLITHIC NEOLITHIC BRONZE AGE IRON AGE ROMAN MEDIEVAL POST-MEDIEVAL MODERN
When did it happen? An archaeological timeline

3

Yr Oes Haearn (700 CC–43 OC)

Wrth i’r boblogaeth dyfu, daeth pentrefi yn

rhai mwy parhaol, a daeth

amaethyddiaeth yn weithgaredd mwy

dwys. Cafodd bryngaerau eu hadeiladu,

ac mae’n bosibl fod y rhain wedi’u

defnyddio i amddiffyn neu i greu argraff,

neu’n ganolfannau gweinyddol.

Iron Age (700 BC–AD 43)

As the population grew, villages became

more permanent and agriculture

intensified. Hillforts were constructed, and

these may have been used for defence, for

show or as administrative centres.

Rhufeinig-Brydeinig (43 OC–410

OC)

Ar ôl i’r Rhufeiniad oresgyn Prydain yn AD 43,

lledaenodd y fyddin Rufeinig tua’r gorllewin

a’r gogledd, gan adeiladu caerau a oedd

wedi’u cysylltu â ffyrdd. Cafodd trefi eu

sefydlu’n ganolfannau gweinyddiaeth a

masnach, ond roedd bywyd mwyafrif y bobl

yn debyg iawn i fywyd yn ystod Oes yr

Haearn.

Romano-British (AD 43–AD 410)

After the Roman invasion of Britain in AD

43, the Roman army spread west and

north, building forts linked by roads.

Towns were established as administrative

and trading centres but most people lived

much as they had done in the Iron Age.

Canoloesol (410 OC–1500 OC)

Wedi i’r Rhufeiniaid adael Prydain, aeth

y trefi a’r ffyrdd yn adfeilion. Yn y cyfnod

canoloesol, tyfodd y trefi eto; roedd y

dirwedd hon yn un amaethyddol, â

ffermydd, pentrefi a mynachlogydd.

Cafodd cestyll eu hadeiladu mewn

lleoliadau fel croesfannau afonydd.

Medieval (AD 410–AD 1500)

When the Romans left Britain, towns and

roads fell into disrepair. The medieval

period saw the re-growth of towns; the

landscape was agricultural, with farms,

villages and monasteries. Castles were built

at locations such as river crossings.

Ôl-ganoloesol a modern (1500 OC–yr oes bresennol)

Wrth i ddiwydiannaeth a gwelliannau amaethyddol ddatblygu, daeth y cyfnod canoloesol i ben.

Cynyddodd y boblogaeth yn gyflym, yn arbennig mewn trefi, a dyfodd yn fwy ac yn fwy.

Post-Medieval and modern (AD 1500–present day)

The growth of industrialisation and agricultural improvements marked the end of the medieval

period. The population grew rapidly, particularly in towns, which grew ever larger.
4

Llinell Amser: darganfyddiadau archaeolegol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

yn ystod y gwaith o osod piblinell nwy Aberdaugleddau i Aberhonddu

Gwladychu’r tir: Helwyr-gasglwyr

Mesolithig 10,000–4000 CC

A land colonised: Mesolithic huntergatherers

10,000–4000 BC

Roedd y llenni iâ olaf wedi encilio o Gymru erbyn

10,000 CC. Cafodd y tir agored newydd ei gytrefu gan

blanhigion tan i goetir ddatblygu. Roedd hwn yn darparu cynefin

i anifeiliaid a chyfle ar gyfer grwpiau bach o bobl a oedd yn byw

drwy hela, pysgota a chasglu bwyd planhigion gwyllt a physgod

cregyn: gelwir y ffordd hon o fyw yn ‘hela a chasglu’.

Mae yna helwyr-gasglwyr mewn rhai rhannau o’r byd hyd

heddiw. Ewch ati i ganfod rhagor am un o’r grwpiau hyn ac

edrychwch ar y gwahaniaethau a’r pethau sy’n debyg rhwng eu

bywyd nhw a’ch bywyd chi.

Roedd lefelau’r môr yn is oherwydd roedd llawer o

ddŵr y môr wedi’i rewi o hyd yn y llenni iâ a oedd

wrthi’n encilio. Roedd hyn yn golygu bod pobl yn gallu cerdded

i Brydain o gyfandir Ewrop, fel y mae heddiw, gan groesi tir sydd

erbyn hyn wedi’i orchuddio gan y Sianel a Môr y Gogledd, sef byd

boddedig, coll (1).

Gan edrych ar y map gyferbyn, a allwch chi weld sut mae’r

byd coll hwn yn cymharu â wyneb y tir fel y mae heddiw?

Cafodd y tir ei wladychu gan grwpiau bach o

deuluoedd a oedd yn dilyn y bwyd a oedd ar gael

yn ôl y tymhorau. Gwnaethant adeiladu gwersylloedd lle

roeddent yn aros am gyfnod rhwng rhai dyddiau a rhai misoedd,

gan ddibynnu ar yr hyn roeddent yn ei gasglu. Ychydig iawn o

olion y mae’r ffordd hon o fyw yn eu gadael i archaeolegwyr ddod

ar eu traws, ond mae’r ffaith bod fflintiau Mesolithig wedi cael eu

canfod yn dystiolaeth fod yr helwyr-gasglwyr hyn wedi dod i’r Parc.

Byddai’r fflintiau hyn wedi’u cysylltu â choesau pren i greu offer ar

gyfer hela, pysgota, casglu planhigion a pharatoi bwyd (2).

Sut rydym yn gwybod pa mor bell yn ôl oedd

hyn? Roedd plisgyn cneuen gyll a gafodd ei ganfod ar hyd y

biblinell wedi cael ei losgi mewn tân, a chanfuwyd drwy ddull

radiocarbon ei fod yn dyddio o’r cyfnod Mesolithig. Byddai

cnau cyll wedi cael eu casglu yn hwyr yn yr haf i’w bwyta gyda

bwydydd eraill, ac mae’n debyg bod yr enghraifft hon o gneuen

gyll wedi cael ei thaflu i dân y gwersyll yn ystod pryd o fwyd.

The last ice sheets had retreated from Wales by 10,000

BC. The newly exposed land was colonised by plants until

woodland developed. This provided a habitat for animals and

the opportunity for small groups of people who lived by hunting,

fishing and collecting wild plant foods and shellfish, a lifestyle

known as hunting and gathering. Hunter-gatherers still exist in

some parts of the world.

Why not find out about one of these groups and look at the

differences and similarities between their lives and your own.

Sea levels were lower because much of the sea water

was still locked in the retreating ice sheets. This meant

that people could walk to Britain from what is now continental

Europe, crossing land now covered by the English Channel and

the North Sea, a submerged lost world (1).

Looking at the map opposite, can you work out how this lost

world compares to the present day land surface?

The land was colonised by small family groups following

seasonally available food. They built camps which were

occupied for a few days to a few months depending on what they

were collecting. This sort of lifestyle leaves few traces behind for

archaeologists to find, but the discovery of Mesolithic flints proved

that these hunter-gatherers had visited the Park. These flints would

have been joined to wooden handles to produce tools for hunting,

fishing, gathering plants and food preparation (2).

How do we know how long ago this was? A hazelnut

shell found along the pipeline had been burnt in a fire and was

radiocarbon dated to the Mesolithic period. Hazelnuts would have

been gathered in late summer to accompany other foods and this

example was probably cast into the campfire during a meal.

PALAEOLITHIG MESOLITHIG NEOLITHIG YR OES EFYDD YR OES HAEARN RHUFEINIG-BRYDEINIG CANOLOESOL ÔL-GANOLOESOL MODERN

PALAEOLITHIC MESOLITHIC NEOLITHIC BRONZE AGE IRON AGE ROMAN MEDIEVAL POST-MEDIEVAL MODERN
A Line Through Time: archaeological discoveries in the Brecon Beacons National Park

during the installation of the Milford Haven to Brecon gas pipeline

5

© Elaine Jaimieson

Pysgota

Fishing

Hela

Hunting

Casglu planhigion

Plant gathering

Map sy’n dangos wyneb y tir yn y cyfnod Mesolithig (gan

ddilyn Leary, J. 2015 Surviving sea-level rise after the last

Ice Age. London: Bloomsbury (Debates in Archaeology

series)) (yr arfordir modern wedi’i amlinellu mewn oren)

2

A map showing the land surface during the Mesolithic

period (after Leary, J. 2015 Surviving sea-level rise

after the last Ice Age. London: Bloomsbury (Debates

in Archaeology series)) (modern coastline outlined in

orange)

Offer fflint Mesolithig (gan ddilyn Clarke, D. 1976

“Mesolithic Europe: the economic basis” yn Sieveking,

G. de G., Longworth, I. H. ac Eilson, K. E. (gol.)

Problems in Economic and Social Archaeology)

1

Gwaywffon bysgota

Fishing spear

Saeth adfachog

Barbed arrowhead

Cryman cynaeafu

Harvesting sickle

Mesolithic flint tools (after Clarke, D. 1976 “Mesolithic

Europe: the economic basis” in Sieveking, G. de G.,

Longworth, I. H. and Eilson, K. E. (ed.) Problems in

Economic and Social Archaeology)
6

Llinell Amser: darganfyddiadau archaeolegol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

yn ystod y gwaith o osod piblinell nwy Aberdaugleddau i Aberhonddu

Bywyd yn y Goedwig Wyllt Fawr: Ffermwyr

Neolithig 4000–2400 CC

Yn nwyrain rhanbarth Môr y Canoldir y darganfuwyd

bod modd ffermio rhai planhigion ac anifeiliaid, sef

syniad a ledaenodd ar draws Ewrop, gan gyrraedd

Prydain tua 4000 CC. Er i ffordd o fyw yr helwyr-gasglwyr

barhau mewn rhai cymunedau, mabwysiadodd eraill y ffordd

newydd hon o fyw. Roedd coetir aeddfed, sef y Goedwig Wyllt

Fawr, yn gorchuddio rhan helaeth o Brydain a chreodd y ffermwyr

Neolithig hyn lennyrch bach ynddi i dyfu grawnfwydydd ac i ffermio

gwartheg, defaid/geifr a moch. Dangosir un llannerch o’r fath yn y

llun gyferbyn, ac mae wedi’i chreu drwy dorri coed i lawr â bwyeill

fflint (1).

Cafodd y tai cyntaf (2) eu hadeiladu gan y ffermwyr

hyn gan fod angen iddynt ymsefydlu mewn un man i

ofalu am eu cnydau. Mae un o’r tai hyn i’w gweld yn Aberysgir

erbyn hyn ar ffurf sylfeini tyllau pyst ar gyfer adeilad sgwâr a fyddai

wedi’i adeiladu â ffrâm o goed mawr i cynnal waliau plethwaith a

dwb a tho gwellt. Mae’n debyg bod tai o’r fath yn eiddo i un teulu

ac mae’n bosibl eu bod yn cynnwys ystafell ar wahân i ddiogelu

anifeiliaid dros nos. Byddai teuluoedd eraill wedi byw mewn

llennyrch eraill ac roedd dwysedd y boblogaeth yn isel iawn o hyd.

Cafodd caeau bach eu creu er mwyn tyfu

grawnfwydydd gan gynnwys haidd a gwenith (3). Roedd

y rhain yn cael eu defnyddio i wneud bara ac uwd, ac ar gyfer

bwyd anifeiliaid a gwellt gwely. Mewn mannau eraill câi gwartheg

(4) a defaid/geifr eu corlannu tra bo moch (5) yn crwydro’r coetir.

Roedd cŵn (6), a gafodd eu dofi am y tro cyntaf yn y cyfnod

Mesolithig, yn gymdeithion i bobl yn ogystal â chael eu defnyddio i

gorlannu, hela a gwarchod.

Roedd bwydydd planhigion gwyllt yn dal yn bwysig ac

roedd anifeiliaid fel ceirw yn cael eu hela (7). Roedd

y gweithgareddau dyddiol eraill yn cynnwys naddu offer fflint (8),

paratoi croen anifeiliaid i greu dillad, bagiau a blancedi (9) a llenwi

llestri crochenwaith (sef datblygiad technolegol newydd) â bwyd a

diod i’w coginio a’u storio (10). Roedd gwleddoedd yn rhan bwysig

o ddathliadau, wrth i anifeiliaid a oedd wedi’u hela gael eu rhostio

dros danau’r gwersylloedd (11).

A allwch chi awgrymu bwydlen ar gyfer pryd sy’n cynnwys

y bwyd yr oedd y bobl hyn yn ei ffermio a’i gasglu? Cofiwch: nid

oedd siwgr yn bodoli, ond roedd pobl yn defnyddio mêl i felysu

bwyd yn ei le.

Life in the Great Wildwood: Neolithic

farmers 4000–2400 BC

The discovery that some plants and animals could

be farmed was made in the eastern Mediterranean,

an idea that spread across Europe, reaching Britain

around 4000 BC. Whilst the hunter-gatherer way of life

continued for some communities, others adopted this new lifestyle.

Mature woodland, the Great Wildwood, now blanketed much of

Britain and these Neolithic farmers created small clearings within

this to grow cereals and farm cattle, sheep/goats and pigs. One

such clearing is shown opposite and has been made by felling

trees with flint axes (1).

The earliest houses (2) were built by these farmers

who needed to be more settled in order to tend their

crops. An example at Yscir survived as the posthole foundations

for a square building that would have been built with a frame of

large timbers supporting wattle and daub walls and a thatched

roof. Such houses probably belonged to a single family and may

have included a separate room to protect animals overnight.

Other families would have occupied other clearings and the

overall population density was still very low.

Small fields were created to grow cereals including

barley and wheat (3). These were used to make bread and

porridge, and for animal fodder and bedding straw. Other areas

penned cattle (4) and sheep/goats whilst pigs (5) roamed the

woodland. Dogs (6), first domesticated during the Mesolithic

period, provided companionship as well as being used for herding,

hunting and guarding.

Wild plant foods remained important and game such

as deer was hunted (7). Other day to day activities included

knapping flint tools (8), preparing animal skins for clothing, bags

and blankets (9) and filling pottery vessels (a new technological

development) with food and drink for cooking and storage (10).

Celebrations were marked by feasts, with hunted game roasted

over campfires (11).

Can you suggest a dinner menu based on the food that these

people farmed and gathered? Remember, sugar did not exist, but

people used honey as a sweetener instead.

PALAEOLITHIG MESOLITHIG NEOLITHIG YR OES EFYDD YR OES HAEARN RHUFEINIG-BRYDEINIG CANOLOESOL ÔL-GANOLOESOL MODERN

PALAEOLITHIC MESOLITHIC NEOLITHIC BRONZE AGE IRON AGE ROMAN MEDIEVAL POST-MEDIEVAL MODERN
A Line Through Time: archaeological discoveries in the Brecon Beacons National Park

during the installation of the Milford Haven to Brecon gas pipeline

7

5

7

2

1

3 6

4

8

11

9

10

Pen bwyell garreg Neolithig a ganfuwyd ar hyd y bibell yn

Yscir (y wyneb wedi cael ei ailddefnyddio wedyn i naddu

mwy o gelfi fflint)

Neolithic stone axe-head found along the pipeline at

Yscir (surface subsequently re-used to flake off more flint

tools)
8

Llinell Amser: darganfyddiadau archaeolegol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

yn ystod y gwaith o osod piblinell nwy Aberdaugleddau i Aberhonddu

Y gweithwyr metel cyntaf: pobl yr Oes

Efydd 2400–700 CC

Yn yr Oes Efydd y dechreuodd pobl weithio â

metel. Fel yn achos ffermio, lledaenodd yr arfer o weithio â metel

ar draws Ewrop i Brydain. Roedd y gwrthrychau Copr ac Efydd

cyntaf yn hynod brin a dim ond pethau i’w harddangos gan

arweinwyr oeddent (gweler t. 22-23) neu i’w defnyddio mewn

seremonïau. Yn raddol, daeth gwaith metel yn fwy cyffredin wrth

i offer gael eu creu mewn pentrefi, efallai gan weithwyr metel

medrus (1) a fyddai’n teithio o bentref i bentref.

Daeth yr hinsawdd yn fwy sych a rhai graddau’n

gynhesach na’r hinsawdd bresennol. Golygai hyn fod

modd ffermio mwy o ardaloedd, ac roedd cnydau’n cael eu

tyfu yn ardaloedd yr ucheldir, lle na fyddent yn goroesi yn yr oes

bresennol. Roedd hyn yn cynnal boblogaeth gynyddol a châi’r

coetir ei glirio’n raddol nes bod ychydig iawn ohono ar ôl, ac

eithrio ar hyd ochrau cymoedd a oedd yn rhy serth i’w ffermio (2).

Yn y dirwedd hon yr oedd y coed wedi’u clirio ohoni,

parhaodd y bobl i fyw drwy ffermio. Roedd grawnfwydydd

yn cael eu tyfu mewn caeau bach (3) tra bo’r glaswelltiroedd (4)

helaeth yn cael eu pori gan ddefaid a gwartheg. Mae’n debyg

fod pentrefi bach yn gyffredin ar draws y dirwedd hon, pob un

ohonynt yn cynnwys rhai teuluoedd a oedd yn byw mewn tai

crwn (5).

Cymharwch y dirwedd hon â thirwedd y cyfnod Neolithig,

a meddyliwch am ba un sydd fwyaf tebyg i’r dirwedd heddiw.

Y broses hon o ffermio’n dod yn fwy cyffredin yw’r

effaith fawr gyntaf a gafodd bodau dynol ar yr

amgylchedd. Roedd clirio’r coetir yn creu mwy o dir fferm, ond

roedd yn galluogi dŵr glaw i dynnu priddoedd oddi ar wyneb y

tir, gan olygu eu bod yn llai ffrwythlon ac achosi rhai dyfrffyrdd i

lenwi â silt. Er hynny, yr Oes Efydd yw’r cyfnod pan ddechreuodd

mwyafrif y boblogaeth ddibynnu ar fwydydd a oedd wedi’u

ffermio.

O ble y daw’r bwyd rydych chi’n ei fwyta? A yw’n cael ei

gasglu mewn mannau gwyllt, yn cael ei ffermio, yn cael ei dyfu

mewn gardd neu randir, neu’n cael ei greu mewn ffatrïoedd?

The first metalworkers: Bronze Age people

2400–700 BC

The Bronze Age saw the arrival of metalworking. Like

farming, this spread gradually across Europe to Britain. The

first Copper and Bronze objects were extremely rare and were

only used for display by leaders (see p. 22-23) or in ceremonies.

Gradually, metalwork became more widespread with tools being

made in villages, perhaps by skilled metalworkers (1) travelling

from village to village.

The climate became drier and a few degrees warmer

than today. This allowed more areas to be farmed, and crops

were grown on upland areas where today they would not survive.

This supported a growing population and the woodland was

gradually cleared until little remained, except along valley sides

too steep to farm (2).

Within this cleared landscape people continued to live

by farming. Cereals were grown in small fields (3) whilst the

extensive grasslands (4) were grazed by sheep and cattle. Small

villages were probably widespread across this landscape, each

consisting of a few families living within roundhouses (5).

Compare this landscape with that of the Neolithic period and

think about which is most similar to that of today.

This expansion of farming represents the first significant

human impact upon the environment. Clearing the

woodland created more farmland, but allowed rainwater to strip

soils from the land surface, making them less fertile and causing

some waterways to silt up. Nonetheless, the Bronze Age represents

the time from which the majority of the population relied on

farmed foods.

Where does the food you eat come from? Is it gathered in

the wild, farmed, grown in a garden or allotment or created in

factories?

PALAEOLITHIG MESOLITHIG NEOLITHIG

PALAEOLITHIC MESOLITHIC NEOLITHIC

YR OES EFYDD

BRONZE AGE

YR OES HAEARN RHUFEINIG-BRYDEINIG CANOLOESOL ÔL-GANOLOESOL MODERN

IRON AGE ROMANO-BRITISH MEDIEVAL POST-MEDIEVAL MODERN
A Line Through Time: archaeological discoveries in the Brecon Beacons National Park

during the installation of the Milford Haven to Brecon gas pipeline

9

2

4

3

5

1
10

Llinell Amser: darganfyddiadau archaeolegol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

yn ystod y gwaith o osod piblinell nwy Aberdaugleddau i Aberhonddu

Mannau coginio, sawnau neu fannau

golchi? Dirgelwch archaeolegol

Darganfyddiadau annisgwyl a wnaed ar hyd y biblinell

oedd safleoedd o leiaf bedwar deg o ‘dwmpathau

llosg’. Fel arfer, mae’r twmpathau isel hyn o gerrig sydd wedi hollti

â thân yn mesur hyd at 15m o led a 0.4m o uchder. Cafwyd hyd i un

ohonynt yn y rhan o’r biblinell sydd yn y Parc, ac mae’r ffotograffau

gyferbyn yn dangos enghraifft o dwmpath sydd wedi aros yn

debycach i’w ffurf wreiddiol, o’r biblinell ger Aberdaugleddau (1).

Mae proses o ddyddio â radiocarbon yn dangos

bod mwyafrif y twmpathau llosg yn dyddio o’r Oes

Efydd. Roeddent i’w cael fel arfer ar hyd nentydd (2) ac roedd

ganddynt aelwydydd (3) a chafnau dŵr (4). Roedd gan rai ohonynt

dyllau pyst (5) ar gyfer ategu strwythurau pren. Roedd dŵr o’r nant

yn cael ei ddal yn y cafn ac yn cael ei gynhesu drwy ychwanegu

cerrig poeth o’r aelwyd ato. Câi’r cerrig hyn eu hailddefnyddio ond

roeddent yn hollti yn y diwedd, pan fyddent yn cael eu gwaredu,

gan greu’r twmpath llosg.

Mae’r dystiolaeth bresennol yn awgrymu bod mwyafrif

y twmpathau wedi’u lleoli i ffwrdd o’r mannau lle roedd

pobl yn byw; felly pam y gwnaed ymdrechion o’r fath

i gynhyrchu dŵr poeth yn bell o’r cartref? Mae hwn yn

gwestiwn y mae archaeolegwyr yn dal yn ceisio’i ateb. Mae tair o’r

damcaniaethau mwyaf poblogaidd wedi’u nodi isod.

Gan ddarllen drwyddynt, a oes un ddamcaniaeth yn eich

argyhoeddi mwy na’r rhai eraill, neu a allwch chi feddwl am

ddamcaniaethau eich hun?

Mannau coginio: mae arbrofion wedi dangos bod modd berwi

cig mewn cafnau gan ddefnyddio cerrig poeth i gynhesu’r dŵr. Os

oedd pobl yn gwneud hyn ger y twmpathau, byddem yn disgwyl

dod o hyd i esgyrn anifeiliaid wedi’u taflu o’r neilltu, ond ychydig

iawn sy’n cael eu canfod. Gallai hyn fod oherwydd bod y priddoedd

asidig ger y nentydd wedi erydu’r esgyrn, neu gallai awgrymu nad

oedd neb byth yn coginio yno.

Mannau golchi: efallai y câi’r dŵr poeth ei ddefnyddio i olchi

pobl a dillad. Yn aml, bydd pobl yn yr oes bresennol nad yw dŵr

tap ar gael iddynt yn defnyddio afonydd oherwydd hynny, ac mae

mannau golchi o’r fath hefyd yn galluogi pobl i gwrdd a chyfnewid

newyddion a straeon.

Sawnau: posibilrwydd arall yw bod y cafnau wedi’u gorchuddio â

strwythur ysgafn er mwyn creu sawna. Mae sawnau (6) wedi cael

eu defnyddio gan Americanwyr Brodorol i lanhau’r corff ac yn ystod

defodau newid byd, fel seremonïau dod i oed, gan fod eistedd

mewn sawna poeth iawn yn brawf o ddycnwch!

Cooking places, saunas or washing

places? An archaeological puzzle

An unexpected discovery along the pipeline was the

presence of at least forty burnt mounds. These are low

mounds of burnt stones, typically 1–15m wide and 0.4m high.

One was found within the Park section of the pipeline, and the

photographs opposite show a better-preserved example from the

pipeline near Milford Haven (1).

Radiocarbon dating shows that most burnt mounds

were Bronze Age in date. They were usually alongside

streams (2) and had hearths (3) and water troughs (4). Some

had postholes (5) for supporting wooden structures. Water from

the stream was held in the trough and was heated by adding hot

stones from the hearth. These stones were re-used but eventually

cracked, at which point they were cast aside, creating the burnt

mound.

Most mounds were located away from where people

lived, so why were such efforts made to produce hot

water far from home? This is a question that archaeologists

are still trying to answer. Three of the most popular theories are

suggested below.

Reading them through, do you find one theory more

convincing than the others, or can you think of theories of your

own?

Cooking places: experiments have shown that meat can be

boiled in troughs using hot stones. If this was done at the mounds,

we would expect to find discarded animal bones but few are ever

found. This could be because the acidic soils near the streams

have eaten away the bones, or might suggest that cooking had

never taken place.

Washing places: perhaps the hot water was used for washing

people and clothes. People today without access to running water

often use rivers for these reasons and such washing places also

allow people to swap news and gossip.

Saunas: another possibility is that the troughs were covered by

light structures to provide saunas. Saunas (6) have been used

by Native Americans both to clean the body and during rites of

passage, such as coming of age ceremonies, since sitting in a very

hot sauna is a test of endurance!

PALAEOLITHIG MESOLITHIG NEOLITHIG

PALAEOLITHIC MESOLITHIC NEOLITHIC

YR OES EFYDD

BRONZE AGE

YR OES HAEARN RHUFEINIG-BRYDEINIG CANOLOESOL ÔL-GANOLOESOL MODERN

IRON AGE ROMANO-BRITISH MEDIEVAL POST-MEDIEVAL MODERN
A Line Through Time: archaeological discoveries in the Brecon Beacons National Park

during the installation of the Milford Haven to Brecon gas pipeline

11

6

Ail-greu llun o chwysty Americanaidd Brodorol

Reconstruction drawing of a Native American sweat lodge

5

2

3

4

1
12

Llinell Amser: darganfyddiadau archaeolegol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

yn ystod y gwaith o osod piblinell nwy Aberdaugleddau i Aberhonddu

Bywyd mewn tŷ crwn: anheddiad o’r Oes

Haearn 700 CC–43 OC

Life inside a roundhouse: Iron Age

settlement 700 BC–AD 43

Yn ystod yr Oes Efydd a’r Oes Haearn, roedd bron

pawb yn byw mewn tai crwn. Roedd y rhain yn adeiladau

sylweddol a oedd yn gartrefi cynnes a chlyd. Mae’r dudalen hon

yn dangos enghraifft o dŷ crwn arferol o’r Oes Haearn, sy’n debyg

i’r rhai a gafodd eu canfod y tu mewn i’r Parc yn Aberysgir a

Mynydd Myddfai.

Efallai nad yw’r adeilad ei hun yn gyfarwydd i chi, ond

edrychwch ar yr hyn sy’n digwydd y tu mewn; a allwch chi sylwi

ar unrhyw weithgareddau rydych yn eu hadnabod o’ch cartref

eich hun?

Mae’r tŷ crwn hwn wedi’i adeiladu drwy osod pyst

pren mawr (1) mewn tyllau. Mae’r rhain yn cynnal pwysau’r

to gwellt (2), ac mae’r waliau wedi’u gwneud o blethwaith a

dwb (3), sef deunyddiau sy’n inswleiddwyr effeithlon. Ar sail yr

enghreifftiau a gafodd eu canfod yn y Parc, byddai diamedr y tŷ

rhwng 9m ac 11m, gan greu rhwng 64 a 95 metr sgwâr o le i fyw

ynddo. Gellir cymharu hyn â thŷ modern ym Mhrydain â thair llofft,

sy’n darparu 88 metr sgwâr o le i fyw ynddo (ffynhonnell: Sefydliad

Brenhinol Penseiri Prydain).

Dewch o hyd i ardal fawr yn yr awyr agored a mesurwch

gylch sydd 11m o led. Dyma faint o le a fyddai y tu mewn i’ch

tŷ pe baech wedi byw yn yr Oes Haearn, felly ceisiwch ddychmygu

ble y byddwch chi wedi coginio, bwyta a chysgu.

Fel arfer, roedd bwlch y drws (4) yn wynebu’r de yn

fras, gan adael i olau dydd ddod i mewn am y cyfnod

hiraf. Byddai golau i’w gael hefyd o’r tân ar aelwyd agored (5)

a oedd yn cael ei ddefnyddio i roi cynhesrwydd ac i goginio.

Byddai’r celfi wedi cynnwys silffoedd storio (6), gwlâu (7) a

mannau i eistedd (8). Byddai’r teulu wedi ymlacio gyda’r nos, gan

baratoi bwyd a’i fwyta (9), atgyweirio offer (10) a dweud storïau

yng ngoleuni’r tân.

During the Bronze and Iron Age periods, almost

everyone lived in circular houses known as

roundhouses. These were substantial buildings providing

warm, welcoming homes. This page shows a typical Iron Age

example, similar to those found within the Park at Yscir and

Mynydd Myddfai.

The building itself might be unfamiliar, but look at what

is happening inside and see if you can spot any activities you

recognise from your own home.

2

7

3

PALAEOLITHIG MESOLITHIG NEOLITHIG YR OES EFYDD YR OES HAEARN RHUFEINIG-BRYDEINIG CANOLOESOL ÔL-GANOLOESOL MODERN

PALAEOLITHIC MESOLITHIC NEOLITHIC BRONZE AGE IRON AGE ROMAN MEDIEVAL POST-MEDIEVAL MODERN
A Line Through Time: archaeological discoveries in the Brecon Beacons National Park

during the installation of the Milford Haven to Brecon gas pipeline

13

This roundhouse has been built by setting large

timber posts (1) into holes. These support the weight of

the thatched roof (2), and the walls are made from wattle and

daub (3), materials which provide efficient insulation. Based on

examples found in the Park, the house would have been 9m–11m

in diameter, giving a living area of 64–95 square metres. This

compares to a modern three-bedroom house in Britain that

provides a living area of 88 square metres (source: Royal Institute

of British Architects). Find a large space outside and measure

out a circle 11m wide. This would have been the space inside your

house if you lived in the Iron Age, so try and imagine where you

would have cooked, eaten and slept.

The doorway (4) usually faced broadly south, allowing

daylight in for the longest period of time. Other light

would have come from a fire on an open hearth (5) which was

used for warmth and cooking. Furniture would have included

storage shelves (6), beds (7) and seating (8). The family would

have relaxed in the evening, preparing and eating food (9),

mending tools (10) and telling stories in the glow of the fire.

1

6

10

4

5

8

9
14

Llinell Amser: darganfyddiadau archaeolegol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

yn ystod y gwaith o osod piblinell nwy Aberdaugleddau i Aberhonddu

O helwyr i ffermwyr: bwyd drwy amser

Yn ystod y rhan fwyaf o hanes bodau dynol, sef cyfnod o

gannoedd o filoedd o flynyddoedd, roedd bwyd yn cael

ei gasglu a’i hela. Dim ond ar ôl i bobl ddechrau ffermio oddeutu

4000 CC y gallent ddechrau rheoli eu cyflenwad bwyd o ddifrif. Roedd

hyn yn ei dro yn annog datblygiad aneddiadau sefydlog mewn tirwedd

o gaeau, sef patrwm rydym yn gyfarwydd ag ef heddiw. Mae’r llinell

amser isod yn dangos sut y digwyddodd y newid hwn.

Palaeolithig a Mesolithig

Roedd helwyr-gasglwyr yn dibynnu ar ddod o hyd i fwyd mewn

amgylchedd naturiol. Roeddent yn hela, yn pysgota, ac yn casglu

dail, gwreiddiau, ffrwythau, cnau ac aeron yn y coetir. Roedd llawer

o’r bwydydd hyn ar gael yn dymhorol yn unig, ac felly roedd pobl

yn dilyn y bwyd a oedd ar gael, yn hytrach na byw mewn pentrefi

parhaol.

Neolithig

Creodd y ffermwyr cyntaf lennyrch yn y Goedwig Wyllt er mwyn creu

caeau bach ar gyfer grawnfwydydd ac i wartheg, defaid a geifr bori

ynddynt. Byddai moch yn crwydro drwy’r Goedwig Wyllt, a oedd yn

dal yn gyfan ac yn rhydd o effaith datblygiad dynol i raddau helaeth,

ac roedd yn dal yn ffynhonnell o fwyd gwyllt.

Palaeolithic and Mesolithic

Hunter-gatherers relied on finding food in a natural environment.

They hunted, fished and collected leaves, roots, fruit, nuts and berries

in the woodland. Many of these foods were only available seasonally,

so people followed the available food, rather than living in permanent

villages.

Neolithic

The first farmers made clearings in the Wildwood to create small

fields for cereals and to graze cattle, sheep and goats. Pigs roamed

the Wildwood which was still largely intact and unaffected by human

development and still provided a source of wild food.
A Line Through Time: archaeological discoveries in the Brecon Beacons National Park

during the installation of the Milford Haven to Brecon gas pipeline

15

From hunters to farmers: food through time

For most of human history, a period of hundreds of thousands of

years, food was gathered and hunted. Only with the introduction

of farming in 4000 BC could people start to take active control of their

food supply. This in turn encouraged the development of fixed

settlements within a landscape of fields, a pattern we are familiar

with today. The timeline below shows how this change occurred.

Yr Oes Efydd a’r Oes Haearn

Wrth i’r hinsawdd gynhesu, daeth ffermio’n fwy cyffredin a chynyddodd

y boblogaeth. Am y tro cyntaf erioed, roedd bodau dynol yn cael effaith

amlwg ar yr amgylchedd: cafodd y Goedwig Wyllt ei chlirio ac roedd

hyn yn galluogi dŵr glaw i dynnu pridd ffrwythlon oddi ar ardaloedd yr

ucheldir, gan achosi i nentydd ac afonydd lenwi â silt ac i briddoedd

amaethyddol wanhau.

Rhufeinig a chanoloesol

Roedd mwyafrif y bobl yn byw o hyd mewn ffermydd a phentrefi

ond roedd poblogaeth drefol gynyddol, yn ogystal â gofynion o ran

treth gan y wladwriaeth a’r eglwys, yn golygu bod rhaid i ffermwyr

gynhyrchu mwy nag yr oedd ei angen arnynt. I alluogi hyn, cafodd

bridiau anifeiliaid a grawnfwydydd mwy cynhyrchiol eu datblygu ac

roedd technegau ffermio newydd yn cael eu defnyddio. Roedd y rhain

yn cynnwys defnyddio ffyrnau sychu, cylchdroi cnydau, ac amaethu â

gwrym a rhych.

Bronze Age and Iron Age

As the climate warmed, farming expanded and the population grew. For

the first time ever, humans had a noticeable impact on the environment:

the Wildwood was cleared and this allowed rainwater to strip upland

areas of fertile soil, causing streams and rivers to silt up and agricultural

soils to become impoverished.

Roman and medieval

Most people still lived in farms and villages but a growing urban

population, as well as tax demands by the state and church, meant

that famers had to produce more than they needed to live on. To allow

this, more productive cereal and animal breeds were developed and

new farming techniques were used. These included using drying ovens

and the use of crop rotation and ridge and furrow cultivation.
16

Llinell Amser: darganfyddiadau archaeolegol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

yn ystod y gwaith o osod piblinell nwy Aberdaugleddau i Aberhonddu

Ail-greu amgylchedd y gorffennol:

enghraifft Mynydd Myddfai

Reconstructing the past environment: the

example of Mynydd Myddfai

Erbyn hyn, mynydd sydd wedi’i orchuddio â mawn yw

Mynydd Myddfai. Mae’r mawn yn gwneud y pridd yn asidig

ac nid oes dim cnydau’n cael eu tyfu yno bellach, ond roedd

gweddillion hynafol a oedd wedi’u cuddio o dan y mawn yn

dangos nad felly y bu erioed. Daethpwyd o hyd i anheddiad o

dai crwn o’r Oes Haearn ar y mynydd ynghyd â gweddillion llosg

bwyd a choed tanwydd. Ar draws rhannau eraill o’r mynydd,

ymchwiliwyd i haenlinau pridd hynafol, a elwir yn ‘briddoedd

claddedig’, pan aeth archaeolegwyr ati i gloddio tyllau prawf

ar hyd y llwybr (gweler y ffotograff ar y clawr). Yn ychwanegol

at hynny, cafodd creiddiau eu gwthio i mewn i’r ddaear mewn

cyfres o leoliadau er mwyn casglu paill i’w ddadansoddi o dan y

microsgop.

Roedd y dystiolaeth archaeolegol yn dangos nad

oedd Mynydd Myddfai wedi’i orchuddio â mawn pan

gafodd yr anheddiad Oes Haearn ei sefydlu. Yn yr

Oes Haearn, roedd y priddoedd ar Fynydd Myddfai yn ddigon

da i alluogi’r pobl i dyfu grawnfwydydd. Rydym yn gwybod hyn

oherwydd daethom o hyd i weddillion grawnfwydydd a oedd

wedi’u llosgi mewn tanau (1), yn ogystal â phaill a ddaeth o’r

grawnfwydydd. Ni ddaethpwyd o hyd i ddim esgyrn anifeiliaid, ond

mae’n debyg fod y rhain wedi’u herydu gan asidedd y mawn gan

fod paill gwellt a gafodd ei ganfod yn y priddoedd o’r Oes Haearn

yn dangos bod porfeydd helaeth yno i wartheg a defaid.

Dechreuodd y mawnogydd ddatblygu yn hwyr yn hanes

yr anheddiad, a gall hynny fod wedi achosi iddo gael

ei adael wrth i ffrwythlondeb y pridd ddirywio. Erbyn

cyfnod y Rhufeiniaid, roedd y mynydd wedi’i orchuddio â mawn

ar y cyfan, gan olygu mai dim ond porfa ucheldirol y gallai fod, a

dyna y bu’r mynydd hyd heddiw.

Mynydd Myddfai today is a peat-covered

mountain. The peat makes the soil acidic and today no crops

are grown, but ancient remains hidden beneath the peat showed

that this was not always the case. An Iron Age roundhouse

settlement was found on the mountain and preserved the

charred remains of food and fuelwood. Across other parts of

the mountain, ancient soil horizons known as buried soils were

investigated when archaeologists dug test pits along the route (see

cover photograph). In addition, cores were driven into the ground

at a series of locations to recover pollen for analysis under the

microscope.

The archaeological evidence showed that Mynydd

Myddfai was not covered in peat when the Iron Age

settlement was established. In the Iron Age the soils on

Mynydd Myddfai were good enough to allow the people to grow

cereals. We know this because we found the remains of cereals

which had been burnt in fires (1), as well as pollen which came

from the cereals. No animal bones were found, but these were

probably eaten away by the acidity from the peat since grass

pollen found within the Iron Age soils indicates that extensive

grazing was present for cattle and sheep.

The peat bogs started to form late in the life of the

settlement, and may have caused it to be abandoned

as soil fertility declined. By the Roman period, the mountain

was largely covered in peat, making it suitable only for upland

grazing, which is how it remains today.

Gwenith a haidd

Spelt and barley

PALAEOLITHIG MESOLITHIG NEOLITHIG YR OES EFYDD YR OES HAEARN RHUFEINIG-BRYDEINIG CANOLOESOL ÔL-GANOLOESOL MODERN

PALAEOLITHIC MESOLITHIC NEOLITHIC BRONZE AGE IRON AGE ROMAN MEDIEVAL POST-MEDIEVAL MODERN
A Line Through Time: archaeological discoveries in the Brecon Beacons National Park

during the installation of the Milford Haven to Brecon gas pipeline

17

Darn o hanner uchaf maen melin Rhufeinig

a ganfuwyd ar hyd y bibell yng Nghas-wis Sir

Benfro: byddai wedi cylchdroi’n llorweddol ar

garreg arall, gan falu’r grawn i gynhyrchu blawd

Grawn wedi llosgi (roedd ychydig o’r grawn

yn y ffwrn sychu’n llosgi’n aml)

Charred cereal grains (a few grains within

the drying oven often got burnt)

Fragment of the top half of a Roman

quernstone found along the pipeline at Wiston,

Pembrokeshire: this would have rotated

horizontally on another stone, grinding the cereal

grains to produce flour

Pwll tân

Fire pit

Ffliw

Flue

Sylfaen garreg ffwrn sychu cnwd

Stone foundation of a crop-drying oven

1

Archwilio grawnfwydydd llosg o dan ficrosgop

Examining burnt cereal grains under a microscope
18

Llinell Amser: darganfyddiadau archaeolegol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

yn ystod y gwaith o osod piblinell nwy Aberdaugleddau i Aberhonddu

Bywyd a’r byd a ddaw: mynwent o’r Oes

Efydd ym Mannau Brycheiniog

Yn ogystal â’r pentrefi yr oedd pobl yn byw ynddynt,

daeth archaeolegwyr o hyd i weddillion mynwentydd

lle roeddent yn cael eu claddu. Daethpwyd o hyd i fynwent

yn y Parc ym Mhen-pont a Llanfihangel, ar ochr bryn sy’n edrych

dros afonydd Wysg a Chamlais (1). Rydym yn gwybod o safleoedd

eraill o’r Oes Efydd fod dŵr wedi’i gysylltu â’r byd a ddaw, efallai’n

llwybr i’r isfyd, ac felly mae’n debyg bod y fynwent wedi’i lleoli

oherwydd yr olygfa hon.

Sut rydym yn gwybod mai mynwent oedd hon? Daeth

archaeolegwyr o hyd i ddeuddeg o feddau bach a oedd yn

cynnwys esgyrn a oedd wedi cael eu llosgi (amlosgi) ar goelcerth

angladdol (llwyfan pren dros goelcerth). Mae lliw esgyrn sydd

wedi’u hamlosgi rhwng gwyn a llwyd ac mae’r esgyrn yn

dameidiog iawn. Oherwydd hynny, gall fod yn anodd bod yn sicr

mai esgyrn dynol ydynt a gwybod a oeddent yn perthyn i oedolyn

neu blentyn, neu o ddyn neu fenyw. Er hynny, yn y fynwent hon

roedd yr holl esgyrn yr oedd modd eu hadnabod yn esgyrn dynol.

Pwy oedd wedi’u claddu yma? Roedd mwyafrif y beddau’n

cynnwys gweddillion un person, ond roedd dau fedd yn cynnwys

nifer o unigolion. Daethpwyd o hyd i weddillion pedwar ar ddeg o

bobl i gyd. Roedd un bedd a oedd yn cynnwys gweddillion menyw

hefyd yn cynnwys oedolyn arall a phlentyn rhwng 12 a 14 oed.

Nid ydym yn gwybod ai dyn neu fenyw oedd yr oedolyn

arall, ond pam, yn eich barn chi, y gallai’r bobl hyn fod wedi

cael eu claddu gyda’i gilydd?

Sut olwg oedd ar y beddau? Tyllau syml oeddent, a oedd

weithiau wedi’u hymylu â cherrig (2). Roedd yr esgyrn llosg yn

cael eu gosod yn y beddau hyn ynghyd â lludw o’r goelcerth

angladdol, naill ai’n rhydd neu mewn bagiau sydd wedi pydru yn

y cyfamser. Ar safleoedd eraill, câi’r esgyrn eu gosod mewn llestri

crochenwaith, a elwir yn yrnau, y daethpwyd o hyd i enghreifftiau

ohonynt ger Aberdaugleddau (3).

Gan nad oedd dim o’r beddau’n cyffwrdd ei gilydd, mae’n

debyg bod rhyw fath o arwydd wedi’i roi arnynt: sut y gallai hyn

fod wedi’i wneud, yn eich barn chi? (Mae cliw ar y tudalennau a

ganlyn).

Life and afterlife: a Bronze Age cemetery

in the Brecon Beacons

As well as the villages in which people lived,

archaeologists also found the remains of cemeteries

where they were buried. One was found within the Park at

Penpont and Llanfihangel, upon a hillside overlooking the Rivers

Usk and Cwm Camlais (1). We know from other Bronze Age sites

that water was associated with the afterlife, perhaps as a route to

the underworld, so the cemetery was probably located because of

this view.

How do we know that this was a cemetery? Archaeologists

found twelve small graves containing bone that had been burnt

(cremated) on a funeral pyre (a wooden platform over a bonfire).

Cremated bone is white to grey in colour and very fragmented, so

it can be difficult to be sure that it is human, and whether it came

from an adult or child or from a man or woman. However, within

this cemetery all of the identifiable bone was human.

Who was buried here? Most of the graves contained the

remains of one person, but two contained several individuals.

Overall, the remains of fourteen people were found. One grave

containing the remains of a woman also contained another adult

and a child aged 12–14.

We don’t know whether the other adult was a man or a

woman, but why do you think these people might have been buried

together?

What did the graves look like? They were simple pits,

sometimes lined with stones (2). The burnt bone was placed into

these graves along with ash from the funeral pyre, either loose or

in bags which have since decayed. On other sites, the bone was

placed in pottery vessels, called urns, examples of which were

found near Milford Haven (3).

Since none of the graves touched another, they were

probably marked in some way: how do you think this might have

been done? (There is a clue on the following pages).

PALAEOLITHIG MESOLITHIG NEOLITHIG

PALAEOLITHIC MESOLITHIC NEOLITHIC

YR OES EFYDD

BRONZE AGE

YR OES HAEARN RHUFEINIG-BRYDEINIG CANOLOESOL ÔL-GANOLOESOL MODERN

IRON AGE ROMANO-BRITISH MEDIEVAL POST-MEDIEVAL MODERN
A Line Through Time: archaeological discoveries in the Brecon Beacons National Park

during the installation of the Milford Haven to Brecon gas pipeline

19

Dyffryn

River valley

1

Archaeolegwyr yn datgloddio’r fynwent ym Mhen-pont a

Llanfihangel, gan wynebu’r gogledd a chwm afon Camlais

Archaeologists excavating the cemetery at Penpont and

Llanfihangel, looking north towards the Cwm Camlais river

valley

Bedd yn cynnwys menyw

Grave containing woman

2

Cynllun a golwg proffil o fedd wedi’i ymylu â cherrig, o Benpont

a Llanfihangel

Plan and profile view of a stone-lined grave from Penpont

and Llanfihangel

Gwedd cynllun

Plan view

N

Gwedd proffil

Profile view

3

Gweddillion amlosgedig o’r Oes Efydd mewn yrnau

crochenwaith. Sylwch ar y smotiau gwyn o esgyrn llosg sydd wedi

arllwys o un llestr sydd wedi cwympo ar ei ochr ac a wasgwyd gan

bwysau pridd y bedd (20cm a 30cm yw’r graddfeydd)

Bronze Age cremated remains within pottery urns. Note the

white flecks of burnt bone spilling from one vessel which has

tipped onto one side and been crushed by the weight of the

grave soil (scales are 20cm and 30cm)

0 0.5m

carreg

asgwrn wedi’i losgi

stone

cremated bone
20

Llinell Amser: darganfyddiadau archaeolegol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

yn ystod y gwaith o osod piblinell nwy Aberdaugleddau i Aberhonddu

Bywyd a’r byd a ddaw: marwolaeth yn yr

Oes Efydd

Rydym yn gwybod o weddillion a gafodd eu canfod

mewn mannau eraill fod agweddau at farwolaeth yn y

gorffennol yn wahanol i agweddau yn yr oes bresennol,

ac roedd y gwahaniad rhwng y meirw a’r byw yn llai

clir. Ar y tudalennau hyn, gwelwn yr hyn a allai fod wedi digwydd

yn dilyn marwolaeth y fenyw o’r Oes Efydd (1) a gafodd ei chladdu

yn y fynwent y gwnaethom edrych arni ar y tudalennau blaenorol.

Wrth i’r fenyw ddod yn nes at farwolaeth, mae’r

paratoadau ar gyfer ei thaith i’r byd nesaf yn cychwyn

(2). Mae coed tanwydd ar gyfer ei choelcerth amlosgi a bwyd ar

gyfer gwledd yn cael eu casglu a’u paratoi. Mae aelodau’r teulu

mewn pentrefi eraill yn cael eu gwahodd i’r angladd.

Pa baratoadau eraill y gallai fod wedi’u gwneud ar gyfer yr

angladd a’r seremoni?

Mae ei chorff yn cael ei gario i’r goelcerth angladdol

mewn gorymdaith (3). Mae seremoni’n cael ei chynnal tra bo’r

tân yn cael ei gynnau ac mae’r galarwyr yn gwylio’r fflamau’n

codi tuag at y corff. Yng ngolau’r goelcerth, mae’r galarwyr yn

gwledda ac yn rhannu storïau am y fenyw. Ar ôl rhai oriau, mae’r

corff wedi troi’n wasgariad o ddarnau bach o esgyrn sydd wedi

gwynnu ac sydd wedi’u cymysgu â lludw’r coed.

Mae’r esgyrn llosg yn cael eu casglu gan aelodau

agos o’r teulu (4). Mae rhai’n cael eu cludo i’r fynwent

deuluol ger yr afon. Mae twmpathau bach yn nodi beddau

cynharach lle mae hynafiaid a theulu’r fenyw farw wedi’u claddu,

ac mae’r galarwyr yn cerdded tuag at un o’r rhain. Mae un o’i

pherthnasau’n tyllu drwy’r twmpath bach i mewn i fedd sy’n bodoli

eisoes, gan ddatgelu pridd tywyll wedi’i gymysgu â darnau bach o

esgyrn dynol llosg. Dyma weddillion gŵr y fenyw ac un o’i phlant.

Ar ôl dweud rhai geiriau, mae merch hynaf y fenyw yn gosod

gweddillion ei mam yn y bedd. Mae’r ferch hefyd yn gosod un o’r

gleiniau a oedd gan ei mam, sydd wedi’i wneud o asgwrn anifail,

yn y bedd, ac efallai fod y galarwyr yn ychwanegu peth o’r bwyd

o’r wledd angladdol.

Ni chafodd pob un o esgyrn amlosgedig y fenyw ei

gladdu, ond nid ydym yn gwybod beth ddigwyddodd

i’r gweddill. A oeddent yn cael eu cadw yng nghartref y teulu?

A oeddent yn cael eu claddu mewn man arall? A oeddent yn cael

eu gwasgaru? Un posibilrwydd yw bod gweddillion hynafiaid yn

cael eu cadw fel y gellid dod â nhw allan ar achlysuron arbennig i

gymryd rhan ym mywyd y teulu.

Life and afterlife: death in the Bronze

Age

We know from remains found elsewhere that attitudes

to death in the past differed from today, and the

separation between the dead and the living was less

clear. On these pages, we see what might have happened

following the death of the Bronze Age woman (1) who was buried

in the cemetery we looked at on the previous pages.

As the woman approaches death, preparations for

her passing to the afterlife begin (2). Fuelwood for her

cremation pyre and food for a feast are collected and prepared.

Family members in other villages are invited to the funeral.

What other preparations might have been made for the

funeral and ceremony?

Her body is carried to the funeral pyre in a procession

(3). A ceremony is held whilst the fire is lit and the mourners

watch the flames rise towards the body. In the light of the pyre, the

mourners feast and exchange stories about the woman. After a

few hours, the body has turned to a scatter of small whitened bone

fragments mixed with the wood ash.

The cremated bone is collected by close family

members (4). Some is carried to the family cemetery overlooking

the river. Small mounds mark earlier graves holding the dead

woman’s ancestors and family, and the mourners make for one

of these. One of her relatives digs away the small mound into an

existing grave, exposing dark soil mixed with white flecks of burnt

human bone. These are the remains of the woman’s husband and

one of her children. After saying a few words, the woman’s eldest

daughter places her mother’s remains in the grave. The daughter

also places one of her mother’s beads, made from animal bone,

into the grave, and perhaps the mourners add some of the food

from the funeral feast.

Not all of the woman’s cremated bone was buried but

we don’t know what happened to the remainder. Was

it kept within the family home? Was it buried elsewhere? Was it

scattered? One possibility is that the remains of ancestors were

kept so that they could be brought out on special occasions to

participate in family life.

PALAEOLITHIG MESOLITHIG NEOLITHIG

PALAEOLITHIC MESOLITHIC NEOLITHIC

YR OES EFYDD

BRONZE AGE

YR OES HAEARN RHUFEINIG-BRYDEINIG CANOLOESOL ÔL-GANOLOESOL MODERN

IRON AGE ROMANO-BRITISH MEDIEVAL POST-MEDIEVAL MODERN
A Line Through Time: archaeological discoveries in the Brecon Beacons National Park

during the installation of the Milford Haven to Brecon gas pipeline

21

1 2

3 4
22

Llinell Amser: darganfyddiadau archaeolegol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

yn ystod y gwaith o osod piblinell nwy Aberdaugleddau i Aberhonddu

Bywyd a’r byd a ddaw: corff coll a

dirgelwch cynhanesyddol!

Life and afterlife: a missing body and a

prehistoric mystery!

Yn Nhrecastell, daeth archaeolegwyr o hyd i ffos gron

(1). Roedd y ffos yn mesur 9m o ran diamedr ac roedd wedi’i

lleoli ar ben bryn. Roedd ffosydd tebyg mewn mannau eraill yn

amgylchynu twmpathau claddu o’r Oes Efydd, ac felly, er na

oroesodd twmpath yma, nid oedd yn syndod i’r archaeolegwyr

eu bod wedi dod o hyd i dyllau maint bedd o dan y tir lle byddai’r

twmpath wedi’i leoli (2).

Yn rhyfedd iawn, nid oedd dim o’r tyllau hyn yn cynnwys

gweddillion dynol. Yn lle hynny, roedd un yn cynnwys halberd,

sef math prin o fwyell o’r Oes Efydd (3), gan gynnwys rhywfaint o’r

goes bren. Mae cerfiadau ar graig a wnaed yn yr Oes Efydd (4)

yn dangos bod y coesau hyn yn hir iawn (5). Canfuwyd drwy ddull

radiocarbon fod y goes bren yn dyddio o 2450–2200 CC, sef adeg

pan oedd y metelau cyntaf un yn cael eu cyflwyno. Mae’n debyg

bod yr halberd, a oedd yn rhy werthfawr i fod yn offeryn, yn cael ei

chario gan y pennaeth yn symbol o bŵer. Pan oedd yn newydd,

byddai pen y fwyell wedi disgleirio, gan atgoffa pobl o’r haul,

rhoddwr bywyd, ac o olau’r haul ar y dŵr, sef y llwybr i’r isfyd.

Pam roedd halberd werthfawr wedi’i chladdu yn hytrach

na chorff? Un posibilrwydd yw bod halberdau wedi mynd allan

o ffasiwn, efallai wrth i fetelau ddod yn fwy cyffredin, ac felly

cafodd yr halberd hon ei gosod i orffwys. Posibilrwydd arall yw ei

bod yno yn lle corff pennaeth a fu farw mewn man arall ond na

ddaethpwyd o hyd iddo erioed. Cyfnod o ryfela oedd hwn, ond

roedd hefyd yn gyfnod pan deithiodd rhai pobl pellteroedd mawr,

gan fasnachu mewn sgiliau a deunyddiau, ac i briodi.

A allwch chi feddwl am resymau pam efallai na ddaethpwyd

o hyd i gorff y pennaeth?

Sut olwg oedd ar y ffos gron? Efallai ei bod wedi

amgylchynu twmpath isel, ac roedd un o’r tyllau wedi bod yn

cynnal postyn mawr, sef polyn totem o bosibl. Byddai’r ffaith ei fod

wedi’i leoli ar ben bryn wedi golygu ei fod i’w weld o bell. Rydym

yn gwybod bod pobl yn cofio’r twmpath am gyfnod hir wedi i’r

halberd gael ei chladdu oherwydd, sawl canrif yn ddiweddarach,

cafodd gweddillion dau berson eu claddu ar hyd ymyl y twmpath.

A allai’r rhain fod yn ddisgynyddion i’r pennaeth a oedd yn

berchen ar yr halberd?

Pa mor bell yn ôl y gallwch olrhain hanes eich teulu?

At Trecastle archaeologists uncovered a circular ditch,

known as a ring-ditch (1). This was 9m in diameter and

located on a hilltop. Similar ditches elsewhere surrounded Bronze

Age burial mounds so, although no mound survived here, the

archaeologists were not surprised to find grave-sized pits beneath

where it would have been (2).

Surprisingly, none of these pits contained human

remains. Instead, one contained a halberd, a rare type of Bronze

Age axe (3), which included some of the wooden handle. Bronze

Age rock carvings (4) show that these handles were very long (5)

and the wooden handle was radiocarbon dated to 2450–2200

BC, a time when the very first metals were being introduced. Too

precious to have been a tool, the halberd was probably carried

by a chief as a symbol of power. When new, the axe-head would

have shone brightly, reminding people of the sun, the giver of life,

and of sunlight on water, the route to the underworld.

Why was a valuable halberd buried instead of a

body? One possibility is that halberds went out of fashion,

perhaps as metals became more commonplace, so this one was

laid to rest. Another is that it stood in place for the body of a chief

who died elsewhere and was never found. This period saw warfare,

but it was also a time when some people travelled over long

distances, trading skills and materials and to marry.

Can you think of reasons that the chief’s body might not

have been found?

What did the ring-ditch look like? It may have surrounded

a low mound, and one of the pits had supported a large post,

perhaps a totem pole. Its hilltop location would have made

it visible from far away. We know that people remembered

the mound long after the halberd was buried because several

centuries later, the remains of two people were buried along the

mound’s edge. Could these have been the descendants of the

chief who owned the halberd?

How far back in time can you trace your family history?

PALAEOLITHIG MESOLITHIG NEOLITHIG

PALAEOLITHIC MESOLITHIC NEOLITHIC

YR OES EFYDD

BRONZE AGE

YR OES HAEARN RHUFEINIG-BRYDEINIG CANOLOESOL ÔL-GANOLOESOL MODERN

IRON AGE ROMANO-BRITISH MEDIEVAL POST-MEDIEVAL MODERN
A Line Through Time: archaeological discoveries in the Brecon Beacons National Park

during the installation of the Milford Haven to Brecon gas pipeline

23

Archaeolegwyr yn datgloddio’r ffos gron yn

Nhrecastell

Archaeologists excavating the ring-ditch at

Trecastle

2

1

Ffotograff o’r halberd: mae wedi troi’n wyrdd dros amser ond

byddai wedi disgleirio â lliw euraid yn wreiddiol

Photograph of the halberd: it has turned green with age but

would originally have shone a golden colour

3

Cerfiadau ar graig o’r Alpes-Maritimes yn Ffrainc, sy’n

dangos halberdau’n cael eu cario

Rock carvings from the Alpes-Maritimes, France, showing

halberds being carried

4 5

Adluniad o’r halberd ynghyd

â’i choes

A reconstruction drawing of the

halberd with its handle
24

Llinell Amser: darganfyddiadau archaeolegol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

yn ystod y gwaith o osod piblinell nwy Aberdaugleddau i Aberhonddu

Teithio a masnachu: ffyrdd, afonydd, a

sarnau

Travel and trade: roads, rivers and

trackways

Yn yr oes bresennol, rydym yn gyfarwydd â ffyrdd sy’n

ein galluogi i deithio’n ddidrafferth. Fodd bynnag, drwy’r

rhan fwyaf o hanes, nid yw pobl wedi adeiladu ffyrdd ac yn lle

hynny maent wedi teithio ar hyd llwybrau, sarnau, ac afonydd. Yn

y cyfnodau Mesolithig a Neolithig, roedd pobl yn symud o un lle

i’r llall yn eithaf aml a byddai llwybrau wedi para am gyfnod byr

yn unig, gan ddiflannu wrth i’r coetir aildyfu. O’r Oes Efydd, pan

ddaeth aneddiadau’n fwy parhaol, byddai sarnau wedi dod yn

llwybrau sefydlog, gan gael eu defnyddio am flynyddoedd.

Roedd afonydd fel traffyrdd cynhanesyddol, ac

roeddent yn galluogi pobl ac eitemau trwm i symud ar

gychod. Prin yw’r enghreifftiau o gychod cynhanesyddol, ond

cafodd y rhai y daethpwyd o hyd iddynt eu creu o foncyffion

wedi’u cafnu, neu o estyll wedi’u gwnïo at ei gilydd, ac rydym yn

gwybod bod modd defnyddio rhai o’r cychod i groesi moroedd.

Y fyddin Rufeinig a adeiladodd y ffyrdd palmantog

cyntaf ym Mhrydain. Gwnaethant adeiladu rhwydwaith

o ffyrdd a oedd yn cysylltu caerau (1). Yn ddiweddarach,

adeiladwyd y ffyrdd hyn rhwng trefi. Roedd y prif ffyrdd Rhufeinig

wedi’u hadeiladu’n dda gan ddefnyddio haenau o gerrig a silt,

a chan ddarparu wyneb galed a elwir yn fetlin. Mae’r ffotograff

gyferbyn yn dangos segment o ffordd Rufeinig yn y Parc (2), a

dangosir hefyd adluniad o’r gaer fach yn y Waun Ddu (3).

Nid oedd pob ffordd Rufeinig wedi’i hadeiladu’n

dda! Byddai ffermydd a phentrefi wedi’u cysylltu â’r prif

rwydwaith â sarnau baw. Byddai milwyr a oedd yn gwasanaethu

mewn allbyst bach yn ymdeithio ar hyd sarnau o’r fath nes iddynt

gyrraedd y prif ffordd a oedd â metlin arni. Roedd anifeiliaid yn

cael eu gyrru i’r farchnad ar hyd gyrlwybrau llawer ehangach, a

olygai fod modd symud gyrroedd cyfan ar yr un pryd.

Yn y cyfnod canoloesol, roedd ffyrdd Rhufeinig yn cael

eu defnyddio ond ni wnaed gwaith cynnal a chadw

arnynt yn aml. Daeth llawer ohonynt yn gaeëdig ac, mewn

rhai mannau, ardaloedd eang o dir yr oedd pobl yn ymlwybro

drwyddynt orau y gallent oedd ‘ffyrdd’ canoloesol mewn

gwirionedd, a dim ond wrth ddod yn nes at bentrefi a phontydd

y byddai’r rhain yn culhau. Yn ystod y chwyldro diwydiannol y

dychwelodd proses systematig o adeiladu ffyrdd a’u hatgyweirio,

gan fod angen cynyddol i weithwyr a deunyddiau symud o

amgylch y wlad. Dyma’r cyfnod hefyd pan oedd camlesi a

rheilffyrdd yn cael eu datblygu.

Today, we are familiar with roads which allow us to

travel easily. However, for most of history, people haven’t

built roads and instead travelled along paths, trackways and

rivers. During the Mesolithic and Neolithic periods, people were

fairly mobile and paths would have been short-lived, vanishing

as woodland regenerated. When settlement became more

permanent from the Bronze Age onwards, trackways would have

become stable routes, used over years.

Rivers were like prehistoric motorways and allowed

people and heavy items to move by boat. Examples

of prehistoric boats are rare, but those found were made from

hollowed tree trunks or from planks sewn together and we know

that some were capable of crossing seas.

The first paved roads in Britain were built by the Roman

army. They built a network of roads linking forts (1). Later, these

roads ran between towns. The main Roman roads were well made,

using layers of stone and silt, providing a hard surface called

metalling. The photograph opposite shows a segment of a Roman

road within the Park (2) and a reconstruction of the small fort at

Waun Ddu is also shown (3).

Not all Roman roads were well made! Farms and villages

would have been linked to the main network by dirt trackways.

Soldiers serving in small outposts would have marched along such

trackways until they reached the metalled main road. Animals

were driven to market along much broader droveways, which

allowed whole herds to be moved at once.

During the medieval period, Roman roads were used but

were not often maintained. Many became impassable and

in places medieval ‘roads’ were in fact broad areas of land where

people picked their way through as best they could, and these only

narrowed at the approaches to villages and bridges. Systematic

road building and repair returned during the industrial revolution

with the increasing need to move labourers and materials around

the country. This was the period that also saw the development of

canals and railways.
A Line Through Time: archaeological discoveries in the Brecon Beacons National Park

during the installation of the Milford Haven to Brecon gas pipeline

25

Llandeilo

Llandovery

Brecon Gaer

Cefn-Brynich

Pen y

Gaer

1

Map o’r prif gaerau a’r rhwydwaith ffyrdd

Rhufeinig yn y Parc (Burnham, B C a

Davies J L, 2010. Roman Frontiers in Wales

and the Marches (Aberystwyth: RCAHMW).

Map of the main Roman forts and road

network within the Park (Burnham, B C

and Davies J L, 2010. Roman Frontiers

in Wales and the Marches (Aberystwyth:

RCAHMW).

Abergavenny

Caer ategol

Auxiliary fort

Coelbren

Penydarren

Caer ategol

posib

Ffordd Rufeinig

Possible auxiliary

fort

Roman road

Ffordd Rufeinig

bosib

Possible Roman

road

Darn o ffordd Rufeinig a gafodd

ei ddatgloddio ar hyd y biblinell

A section of Roman road

excavated along the pipeline

2

© BBNP authority

3

Adluniad o’r gaer Rufeinig

fach (caer allbost fach) yn y

Waun Ddu

A reconstruction of the Roman

fortlet (a small outpost fort) at

Waun-Ddu
26

Llinell Amser: darganfyddiadau archaeolegol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

yn ystod y gwaith o osod piblinell nwy Aberdaugleddau i Aberhonddu

Dewch yn dditectif y dirwedd!

Nid tirwedd naturiol yw’r dirwedd o’n cwmpas, yn y parc

a thu hwnt, ond cynnyrch miloedd o flynyddoedd o

weithgareddau dynol. Mae hyn yn golygu y gallwch ddarllen

y dirwedd fel llyfr, os ydych yn gwybod beth rydych yn chwilio

amdano, gan ddatrys y cliwiau i ail-greu ei hanes. Mae’r darluniad

isod yn dangos rhai o’r pethau y gallech chi sylwi arnynt yn y Parc,

a gyferbyn mae rhestr o’r pethau hyn a phwyntiau am sylwi arnynt.

Become a landscape detective!

The landscape around us, both within the park and

beyond, is not a natural one, but is the product of

thousands of years of human activities. This means

that if you know what to look for, you can read the landscape

like a book, deciphering the clues to reconstruct its history. The

illustration below shows some of the things you might spot in the

Park and opposite is a list of what they are and points for spotting

them.
A Line Through Time: archaeological discoveries in the Brecon Beacons National Park

during the installation of the Milford Haven to Brecon gas pipeline

27

Twmpathau claddu o’r Oes Efydd: 10 pwynt (ceisiwch sylwi ar

dwmpathau gwelltog isel tua 10m ar eu traws a thua dwy fetr o

uchder, sy’n aml wedi’u lleoli ar ben bryniau).

Bronze Age burial mounds: 10 points (look out for low grassy

mounds around 10m across and a couple of metres high, often

located on hilltops).

Maen hir o’r Oes Efydd: 8 pwynt (cerrig ar eu pen eu hunain

wedi’u gosod am i fyny ac sydd fel arfer mor dal â pherson).

Bronze Age standing stone: 8 points (isolated stones

standing upright and usually the height of a person).

Caer Rufeinig neu wersyll ymdeithio/ymarfer: 9 pwynt

(ceisiwch sylwi ar gloddiau pridd isel wedi’u gosod mewn siâp

cerdyn chwarae anferth).

Roman fort or marching/practice camp: 9 points (look out for

low earth banks arranged in the shape of a gigantic playing

card).

Castell canoloesol: 6 phwynt (cestyll cerrig sydd i’w cael yn

aml ger croesfannau afonydd. Weithiau mae’r rhain ar

dwmpathau, sef ‘myntiau’, ac weithiau dim ond y mwnt sydd ar ôl).

Medieval castle: 6 points (stone castles often found near

river crossings. Sometimes these are on mounds, known as

mottes, and sometimes only the motte survives).

Bryngaer o’r Oes Haearn: 7 pwynt (mae’r rhain wedi’u lleoli ar

ben bryniau, er nad ydynt bob amser ar fryniau uchel iawn, ac

maent yn goroesi ar ffurf cloddiau a ffosydd sy’n amgylchynu

ardal gron neu hirgron ddegau o fetrau ar ei thraws).

Iron Age hillfort: 7 points (these are located on hilltops, although

not always on very high hills, and survive as banks and ditches

surrounding a circular or oval area tens of metres across).

Pentref modern â tharddiad canoloesol: 3 phwynt (mae mwyafrif ein

pentrefi’n dyddio o’r cyfnod canoloesol. Fel arfer, mae hen eglwys ger canol y

pentref yn dangos ei fod yn dyddio o’r cyfnod hwn. Gallai edrych y tu mewn i’r

eglwys roi cliwiau inni ynglŷn â pha mor hen yw, a hynny mewn arweinlyfr o

bosibl. Enillwch 5 pwynt ychwanegol am ganfod pryd y cafodd yr eglwys ei

hadeiladu!).

Modern village with medieval origins: 3 points (most of our villages date to

the medieval period. An old church near the centre usually shows that the

village began at this time. Looking inside the church might give clues as to how

old it is, perhaps within a guide book. Win an extra 5 points if you find out when

the church was built!).

Chwareli calchfaen o’r 18eg ganrif i’r 20fed ganrif: 4 pwynt (roedd

calchfaen yn cael ei gloddio yn ystod y chwyldro diwydiannol ac yn cael ei

brosesu i wneud deunyddiau adeiladu fel morter ac i ffrwythloni caeau.

Ceisiwch sylwi ar greithiau mawr ar ochrau bryniau, sy’n dangos clogwyni llwyd).

18th–20th-century lime quarries: 4 points (limestone was quarried during

the industrial revolution and processed to make building materials such as

mortar and to fertilise fields. Look out for big scars in hillsides, exposing grey

rock faces).

Corlannau defaid â waliau cerrig, nad ydynt yn cael eu defnyddio

bellach: 5 pwynt (roedd y rhain yn cael eu hadeiladu mewn ardaloedd ar yr

ucheldir i gorlannu defaid yn ystod cyfnodau fel wyna. Ceisiwch sylwi ar

waliau cerrig sychion wedi cwympo sy’n diffinio cyfres o ardaloedd bach siâp

sgwâr. Enillwch 5 pwynt ychwanegol am sylwi ar y fynedfa i unrhyw un o’r

corlannau unigol).

Disused stone-walled sheep folds: 5 points (these were built in upland

areas to pen sheep during times such as lambing. Look out for collapsed

drystone walls defining a series of small rectangular spaces. Win an extra 5

points for spotting the entrance to any of the individual folds).

Eich sgôr chi

Your score
28 Glossary

Geirfa

Isod mae rhestr o rai o’r termau sy’n cael eu

defnyddio yn y llyfryn hwn ynghyd â’u hystyr.

Ffwrn sychu cnydau: ffwrn fach, â sylfeini cerrig a tho a waliau clai, a oedd

yn cael ei defnyddio i sychu grawnfwydydd newydd eu cynaeafu i’w hatal

rhag egino tra oeddent yn cael eu storio. Roedd y rhain yn cael eu defnyddio

yn ystod yr Oes Haearn, y cyfnod Rhufeinig, y cyfnod canoloesol a’r cyfnod

ôl-ganoloesol.

Cylchdroi cnydau: system a oedd yn cael ei defnyddio yn y cyfnod

canoloesol pan fo cnydau gwahanol yn cael eu tyfu mewn unrhyw gae

penodol ar sail rota, er mwyn cynnal ffrwythlondeb y pridd.

Fflint: carreg galed sydd ag ymyl dorri finiog pan fo’n cael ei thorri. Roedd

fflint yn cael ei ddefnyddio i greu offer torri a thyllu drwy gydol cynhanes.

Gweler ‘naddu’.

Naddu: cyfres o drawiadau manwl â morthwyl i dorri tameidiau oddi ar

fflint, a oedd wedyn yn cael eu trimio i greu offer.

Microlithiau: offer torri bach iawn a wnaed â fflint a oedd yn cael eu

defnyddio yn y cyfnod Mesolithig ac a oedd yn cael eu gosod gyda’i gilydd ar

yr un goes.

Dyddio â Radiocarbon: techneg wyddonol sy’n mesur faint o Garbon

14 sydd mewn gwrthrych organig fel asgwrn, siarcol, neu bren. Mae popeth

byw organig yn amsugno Carbon 14 yn ystod ei oes, ond ar ôl marwolaeth

mae’n cael ei ryddhau gan ddilyn cyfradd sefydlog. Gellir defnyddio’r gyfradd

ryddhau hon fel cloc, gan olygu bod modd mesur oed gwrthrych.

Amaethu â gwrym a rhych: dull o aredig a oedd yn creu gwrymiau a

rhychau hir a ymestynnai ar draws caeau.

Gwersylloedd Ymarfer Rhufeinig: gwersylloedd bach a oedd yn cael

eu hadeiladu gan filwyr Rhufeinig a oedd yn cael eu hyfforddi i adeiladu

Gwersylloedd Ymdeithio tra oeddent ar ymgyrch. Câi Gwersylloedd Ymdeithio

eu hadeiladu pa bryd bynnag yr oedd uned o’r fyddin Rufeinig yn aros yn

rhywle am noson. Strwythurau dros dro oeddent ond maent weithiau i’w gweld

ar ffurf gwrthgloddiau bach.

Plethwaith a dwb: dull o orchuddio waliau. Mae strwythur gwiail yn cael

ei greu gan ddefnyddio coed hyblyg fel coed cyll sydd wedyn yn cael ei

orchuddio â dwb, wedi’i greu o faw a/neu â thail wedi’i gymysgu â gwellt.

Mae’r wal sy’n deillio o’r broses hon yn sychu’n galed, mae’n inswleiddiad da,

ac mae modd ei phaentio.

Dolenni defnyddiol

Adroddiadau ar safleoedd: Mae adroddiadau unigol wedi’u hysgrifennu

ar y safleoedd y cyfeirir atynt yn y testun ac mae modd eu darllen drwy wefan

Archwilio yn

http://www.cofiadurcahcymru.org.uk/arch/index_cym.html

Archaeoleg Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: mae modd

ymchwilio i gefndir archaeolegol ehangach y parc drwy fynd i wefan y parc yn:

http://www.bannaubrycheiniog.org/

Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr

http://www.geoparcyfforestfawr.org.uk/

Below is a list of some of the terms used in this

booklet and what they mean.

Crop drying oven: a small oven, with stone foundations and clay

walls and roof, used to dry freshly harvested cereals to prevent them from

germinating during storage. These were used during the Iron Age, Roman,

medieval and post-medieval periods.

Crop rotation: a system used in the medieval period where different crops

were grown in any one field on a rota basis to maintain soil fertility.

Flint: a hard stone which fractures to a sharp cutting edge. Flint was used

to create cutting and piercing tools throughout prehistory. See ‘knapping’.

Knapping: a series of precise hammer strokes used to flake fragments from

a flint which were then trimmed to create tools.

Microliths: very small flint cutting tools which were used during the

Mesolithic period and which were hafted together onto a single handle.

Radiocarbon dating: a scientific technique which measures the amount

of Carbon 14 within an organic object such as bone, charcoal or wood. All

organic lifeforms absorb Carbon 14 during their lifetime but this is released at

a steady rate following death, and this release rate acts like a clock, allowing

the age of the object to be measured.

Ridge and furrow cultivation: a method of ploughing which produced long

ridges and furrows stretching across fields.

Roman Practice Camps: small camps built by Roman soldiers training

to build Marching Camps when on campaign. Marching Camps were built

whenever a Roman army unit halted for the night. They were temporary

structures but are sometimes visible as slight earthworks.

Wattle and daub: a method for cladding walls. A wicker structure is

created using flexible wood such as hazel which is then clad in daub, created

from mud and/or dung mixed with straw. The resulting wall dries hard,

provides good insulation, and can be painted.

Useful Links

Site reports: The sites referred to in the text have been reported on

individually and can be viewed via the Archwilio website at

http://www.cofiadurcahcymru.org.uk/arch/

Brecon Beacons National Park archaeology: the wider archaeological

background of the park can be researched by accessing the park website at

http://www.breconbeacons.org/

Fforest Fawr UNESCO Global Geopark

http://www.fforestfawrgeopark.org.uk/

Gwefan Cotswold Archaeology:

http://www.cotswoldarchaeology.co.uk/

Cotswold Archaeology website:

http://www.cotswoldarchaeology.co.uk/
29

Safleoedd pwysig yn y Parc

Safle 1942, Myddfai. Gwrthgloddiau gwrym a rhych (t. 28).

Safle 37.05, Myddfai. Twmpath llosg (t.10–11).

Safle 38.04-38.08, Myddfai. Fflintiau a adawyd gan helwyr-gasglwyr

Mesolithig (t. 4-5 ac anheddiad o’r Oes Haearn (t. 12–13).

Safle 38.14, Llywel. Rhan o’r ffordd Rufeinig rhwng Caerllion a Sarn

Helen (t. 24–25).

Safle 38.17, Trecastell. Ffos gron o’r Oes Efydd ynghyd â halberd

(t. 22–23).

Safle 47.00, Pen-pont a Llanfihangel. Mynwent o’r Oes Efydd

(t. 18–21).

Safle 49.05, 50.01, 50.02 a 50.11, Aberysgir. Rhannau o ffyrdd

Rhufeinig ger Caer Rufeinig y Gaer (t. 24–25).

Safle 51.07, Aberysgir. Tyllau Neolithig sy’n cynnwys crochenwaith a

siarcol, adeilad Neolithig o bosibl (t. 6-7), ac anheddiad o dai crwn

o’r Oes Haearn (t. 12–13).

Significant sites within the Park

Site 1942, Myddfai. Ridge and furrow earthworks (p. 28).

Site 37.05, Myddfai. A burnt mound (p.10-11).

Site 38.04-38.08, Myddfai. Flints left by Mesolithic huntergatherers

(p. 4-5) and the remains of an Iron Age roundhouse

settlement (p. 12-13).

Site 38.14, Llywel. Part of the Roman road between Caerleon and

Sarn Helen (p. 24-25).

Site 38.17, Trecastle. A Bronze Age ring-ditch and halberd

(p. 22-23).

Site 47.00, Penpont and Llanfihangel. A Bronze Age cemetery

(p. 18-21).

Site 49.05, 50.01, 50.02 & 50.11, Yscir. Parts of Roman roads near

Brecon Gaer Roman Fort (p. 25-26).

Site 51.07, Yscir. Neolithic pits containing pottery and charcoal, a

possible Neolithic building (p. 6-7) and an Iron Age roundhouse

settlement (p. 12–13).
ISBN 9780993454523

90000 >

Cotswold

Archaeology

PARC CENEDLAETHOL

BANNAU BRYCHEINIOG

9 780993

454523

BRECON BEACONS

NATIONAL PARK