Carers News 3 Sep 2017 (Cymraeg)
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
NEWYDDION

GOFALYDDION

Rhifyn 3 Medi 2017

Croeso i drydydd rhifyn cylchlythyr gofalyddion yng Nghaerffili. Rydym wrth ein

bodd bod pobl fel petaen nhw’n dal i fwynhau’r cylchlythyr a’r gweithgareddau a’r

digwyddiadau. Rydym wrthi’n brysur o hyd yn trefnu pethau, yn cwrdd â gofalyddion

hen a newydd a’u cefnogi, sef ein prif nod. Fel bob amser, cysylltwch â ni trwy anfon

neges e-bost at gofalyddion@caerffili.gov.uk neu cewch y newyddion diweddaraf

ar Facebook (rhaid anfon neges i gael eich ychwanegu at y grŵ p), ar Twitter (@

CarerCaerphilly) neu ar ein gwefan http://www.caerffili.gov.uk/Gwasanaethau/

Gwasanaethau-i-oedolion a- phobl-hyn.

Rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi bod gennym bedwar tocyn i ofalwyr ar gyfer pob

un o gemau rygbi rhyngwladol yr hydref (ac eithrio Seland Newydd). Byddwn yn

tynnu enwau’r gofalyddion lwcus allan o het ar ôl 5pm ar 6 Hydref 2017, felly rhowch

wybod inni trwy anfon neges e-bost, neges testun, ffonio neu bostio os hoffech inni

eich cynnwys yn y raffl. Byddem yn dwlu clywed oddi wrth ofalwyr newydd hefyd, felly

cofiwch gysylltu!We’d love to hear from new carers too, so please get in touch!

Diweddariad ar Ddigwyddiadau

a Gweithgareddau

Aeth ugain ohonom i daflu peli yng

ngwres mis Gorffennaf, yn ystod noson

bowlio deg. Mae cynnig gwych ar gael

lle cewch chwarae dwy gêm a chael

diod a dysgl i’w rhannu rhwng dau

– hyn oll am £10. Cawsom gymaint

o hwyl ac o ganlyniad mae noson

arall wedi cael ei threfnu. Darllenwch

ymlaen i gael y manylion.

Hefyd cawsom ddiwrnod hyfryd yn Ynys

y Barri yn ôl ym mis Mai, er gwaetha’r

gwynt, felly rydym wedi trefnu trip arall

i lan y môr ym mis Awst. Ceir mwy o

fanylion yn yr adran nesaf.

Bu Wythnos Gofalyddion yn llwyddiant

ysgubol, gyda diwrnod hwyl i’r teulu,

diwrnod gwybodaeth ac ail-lansio

cerdyn argyfwng gofalyddion.

I gael mwy o wybodaeth am y cylchlythyr hwn, gallwch gysylltu â Hayley Smith

ar rif ffôn 01495 233218 / 07808 779367 neu ar e-bost:

gofalyddion@caerffili.gov.uk. Byddwn wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.

13937
Digwyddiadau a

Gweithgareddau i ddod

Dydd Mercher 23 Awst 2017 - trip diwrnod i Borthcawl.

Dydd Llun 4 Medi 2017 rhwng 4pm a 7pm.

Digwyddiad gardd agored yn Llys Trevelyan, Parc

Lansbury, Caerffili CF83 1RQ. Dewch draw am

ddanteithion a Lluniaeth a gweld sut y gall gardd

gymunedol weithio a siarad â’r trefnwyr ynghylch sut y

gallech chi sefydlu cynllun eich hun.

Dydd Mercher 6 Medi 2017 yn nhafarn New Forge,

Oakdale o 1pm – Te prynhawn. Cysylltwch i archebu lle.

Dydd Mercher 13 Medi 2017 yng nghaffi Coffee 37,

Ystrad Mynach o 12:30pm – Te prynhawn. Cysylltwch

i archebu lle.

Dydd Iau 14 Medi 2017 – Bowlio deg yn

Nantgarw. Rydym wedi archebu 20 o leoedd

ar gyfer dwy gêm, diod yr un a dysgl i’w

rhannu rhwng dau. Bowlio’n dechrau am

6pm, cwrdd am 5:45pm i archebu bwyd a

diodydd. Rhowch wybod os hoffech ddod.

Dydd Mercher 20 Medi 2017

yn nhafarn Farmers Arms,

Rhymni am 12.30pm – cinio yn

y dafarn gyfeillgar sydd newydd

ei hailwampio. Cysylltwch â ni i

archebu lle.

Dydd Mercher 27 Medi 2017

yng Nghanolfan Garddio

Caerffili am 12:30pm – Te

prynhawn. Dewch i gael te

prynhawn gyda ni ac efallai

gwneud rhywfaint o siopa ar

yr un pryd! Cysylltwch â ni i

archebu lle.
Dydd Sul 1 Hydref 2017 yn Llancaiach Fawr rhwng

11am a 12:30pm - rali ceir clasurol i ofalwyr.

Dylai unrhyw un sy’n hoffi ceir clasurol ddod draw

i weld casgliad o’r hen ffefrynnau ac i sgwrsio

â’r perchnogion. Ceir lluniaeth am ddim trwy

garedigrwydd Llancaiach Fawr. Rhowch wybod

inni os hoffech ddod, er mwyn inni gael syniad o

niferoedd.

Dydd Gwener 24 Tachwedd 2017 – Nodyn i’r

dyddiadur ar gyfer Diwrnod Hawliau Gofalwyr.

Gobeithio y daw cynifer o bobl i’r digwyddiad hwn

eleni ag y daeth y llynedd, ac y bydd llawn cymaint

o hwyl.

Dydd Sadwrn 9 Rhagfyr 2017 am 2pm yn Sefydliad

y Glowyr, Coed Duon – Amser Panto! Dewch i weld

‘Jac a’r Goeden Ffa’ – y si yw mai’r hen ffefryn

Owen Money fydd y seren! Cysylltwch i archebu lle.

Dydd Mawrth 12 Rhagfyr 2017 am 7pm tan yn

hwyr – Dawns Nadolig i Ofalyddion yng ngwesty

Maes Manor, Coed Duon. Mae’r digwyddiad hwn

am ddim i ofalwyr a’r rhai y gofalir amdanynt, dros

18 oed yn unig oherwydd y lleoliad a’r adloniant.

Mae croeso i ofalwyr ddod â ffrindiau,

ond bydd rhaid iddyn nhw brynu eu

tocynnau eu hunain. Y pris yw £22.50,

sy’n cynnwys adloniant a phryd tri chwrs.

Rhowch wybod inni os hoffech ddod.

Dydd Iau, 14 Rhagfyr 2017 -Taith siopa

Nadolig i Cheltenham. Stop gyntaf i

godi teithwyr am 8:30 am, gan adael

Cheltenham Am 4:30 pm. E-bostiwch neu

ffoniwch i archebu lle - y cyntaf i’r felin

gaiff falu!

Dydd Iau 15 Chwefror 2018 am 2:30pm

yn y New Theatre, Caerdydd – sioe gerdd

The Sound of Music! Fydd eich bryniau’n

fyw? Yn y bôn, ydych chi’n 16, bron yn

17? Beth yw rhai o’ch hoff bethau? Sut

mae datrys problem fel Maria? Dewch

gyda ni i ddod o hyd i’r atebion wrth inni

ail-fyw ein plentyndod yn gwylio un o’r

sioeau cerdd mwyaf bythgofiadwy. Nifer

gyfyngedig o docynnau sydd ar gael, felly

cysylltwch â ni os hoffech ddod.

Telir am yr holl weithgareddau hyn er

mwyn dangos ein gwerthfawrogiad o

ofalwyr a’u holl waith caled. Lle bo’n

bosibl, byddwn yn ceisio sicrhau y

bydd pawb sy’n dangos diddordeb yn

cael y cyfle i fynd i un digwyddiad neu

weithgaredd o leiaf.

** Mwy o ddigwyddiadau i’w hychwanegu

yn ystod y flwyddyn. Byddwn yn rhoi

gwybod ichi yn ein cyfathrebiadau

a chylchlythyrau yn y dyfodol, ac yn

rhoi’r manylion ar y wefan: http://www.

caerphilly.gov.uk/Services/Servicesfor-adults-and-older-people/Caring-forsomeone?lang=cy-gb

Grwpiau Gofalyddion

I’ch atgoffa am ein grwpiau, sy’n dal i dyfu bob

mis, sef:

Caerffili

Bydd grŵ p cymorth i ofalwyr Caerffili’n cwrdd

ar ddydd Gwener cyntaf y mis rhwng 2pm a

3.30pm yn Llyfrgell Caerffili, Y Twyn, Caerffili

CF83 1JL. Dewch i gael dysglaid a bisgïen, er

mwyn cael sgwrs ag eraill sydd â phrofiad o rôl

gofalu.

Rhisga

Bydd grŵ p cymorth i ofalwyr Rhisga’n cwrdd

ar ail ddydd Iau’r mis rhwng 2pm a 3.30pm yn

Llyfrgell Rhisga, Uned B, Palas Rhisga, 75 Stryd

Tredegar, Rhisga NP11 6BW. Dewch i gael

dysglaid a bisgïen, er mwyn cael sgwrs ag eraill

sydd â phrofiad o rôl gofalu.

Rhymni

Bydd grŵ p cymorth i ofalwyr Rhymni’n cwrdd

ar drydydd dydd Mercher y mis rhwng 11am

a 12.30pm yn Llyfrgell Rhymni, Heol Fictoria,

Rhymni NP22 5NU. Dewch i gael dysglaid a

bisgïen, er mwyn cael sgwrs ag eraill sydd â

phrofiad o rôl gofalu.

Coed Duon

Bydd grŵ p cymorth i ofalwyr Coed Duon yn

cwrdd ar ddydd Mawrth olaf y mis rhwng 1pm a

2.30pm yn Ystafell Gyfarfod Markham, Sefydliad

y Glowyr Coed Duon, Stryd Fawr, Coed Duon,

NP12 1BB. Dewch i ymuno â ni, er mwyn cael

sgwrs ag eraill sydd â phrofiad o rôl gofalu.

D.S. Ni chynhelir y grwpiau yn ystod mis Rhagfyr

2017 oherwydd y ddawns i ofalwyr, ond byddan

nhw’n ail-ddechrau yn y flwyddyn newydd.

Adborth

Cawsom adborth hyfryd iawn y chwarter hwn, yn

ogystal â sylwadau adeiladol ynghylch y diffyg

gofalyddion gwryw sy’n dod i’r digwyddiadau a

hefyd y grwpiau cymorth. Rydym yn chwilio am

ffyrdd o wella bob amser, ac yn hapus i glywed

pethau da a phethau drwg gan ofalwyr. Rhowch

wybod beth yw’ch barn chi trwy ffonio, anfon

neges e-bost neu ddod i un o gyfarfodydd ein

grwpiau.

Yn benodol, hoffem wybod beth fyddai

gofalyddion yn hoffi ei weld oddi wrth y tîm yn y

blynyddoedd nesaf, felly gwerthfawrogwn unrhyw

adborth!

Gofalyddion Ifanc

Mae prosiect Gofalyddion Ifanc

Barnardo’s yn cynnig cymorth i

ofalyddion ifanc a gofalyddion sy’n

oedolion ifanc hyd at 25 oed ym

Mwrdeistref Caerffili.

I gysylltu â Barnardo’s, ffoniwch

01633 612712 neu anfon neges e-bost

at: caerservices@barnardos.org.uk I gael

rhagor o wybodaeth, ewch i’w gwefan:

www.barnardos.org.uk
Adnoddau

• Cerdyn argyfwng gofalyddion – cysylltwch trwy

anfon neges e-bost at gofalyddion@caerffili.gov.

uk neu ffonio 07808 779367 os hoffech gael un.

• Cynllun grantiau bach – mae gennym

swm bach o arian ar gael ar hyn o bryd i

gynorthwyo gofalyddion â’u rôl gofalu. Gall

gofalyddion wneud cais am arian ar gyfer

gwahanol bethau, fel offer i’r tŷ, gwersi gyrru,

gwyliau byr a help i ddysgu sgiliau newydd.

Cysylltwch i gael ffurflen gais.

Ryseitiau

Reis Eidalaidd gyda Chyw Iâr

Rwy’n dwlu ar y rysáit hon am mai un sosban

sydd angen arnoch, felly mae yna lai o lestri i’w

golchi. Gallwch hefyd ei haddasu ar gyfer llysieuwyr

(defnyddiwch unrhyw ffa, ond eu hychwanegu’n

agosach i’r diwedd, llysiau, Quorn neu rywbeth arall

yn lle cig), heb glwten trwy ddefnyddio pesto heb

glwten, neu heb stoc neu gynhyrchion llaeth trwy

ddefnyddio pesto figan a stoc heb gynhyrchion llaeth.

Cynhwysion

• 2 lwy fwrdd o olew olewydd

• 2 ffiled brest cyw iâr heb groen nac esgyrn, neu

4 clun heb esgyrn, wedi’u torri’n stribedi

• 1 winwnsyn coch, wedi’i dorri’n 8 darn

• 2 bupryn oren, wedi’u torri’n hanner, yr hadau

wedi’u tynnu ac wedi’u torri’n sleisys tew

• 1 clof o arlleg, wedi’i falu

• 100g o reis grawn hir

• Tun 400g o domatos wedi’u torri

• 300ml o stoc cyw iâr neu lysiau

• 4 llwy fwrdd o besto parod (Cewch hyd i jariau

oes hir ar y silffoedd gyda’r sawsiau pasta neu

botiau ffres mwy drud yn yr oergell)

Dull

1. Cynheswch y ffwrn i 200C/ 180C ffwrn

wyntyll/ marc nwy 6. Cynheswch yr olew

mewn padell fawr, fas sy’n addas i’r ffwrn,

ychwanegu’r cyw iâr a’i goginio am 3-4

munud nes ei fod yn lliw euraidd. Tynnwch y

cig o’r badell a’i roi naill ochr.

2. Ychwanegwch y winwnsyn a’r puprynnau, a’u

coginio am 3 munud neu nes eu bod yn lliw

euraidd. Rhowch y garlleg yn y badell a’i ffrio am

funud. Ychwanegwch y reis a throi’r cymysgedd,

yna ychwanegu a chymysgu’r tomatos, stoc a’r

cyw iâr a roddwyd i’r neilltu. Trowch y gwres i

fyny a berwch y cynhwysion cyn trosglwyddo’r

badell i’r ffwrn i’w coginio heb glawr am 20

munud. Ychwanegwch halen a phupur ac arllwys

y pesto dros y saig cyn ei gweini.

Pei Key Lime

Mae hon yn rysáit wych ar gyfer achlysur teuluol neu

swper i ffrindiau gan ei bod yn eithaf syml ond yn

edrych yn hyfryd. Ychwanegwch fwy neu lai o sudd a

chroen y leimiau, gan ddibynnu pa mor sur yr hoffech

i’r pwdin fod!

Cynhwysion

• 300g o fisgedi Hob Nobs, sinsir neu debyg

• 150g o fenyn wedi’i doddi

• 1 tun 397g o laeth cyddwys

• 3 melyn wy canolig

• sudd 4 leim, a’u crwyn wedi’u gratio’n fân

• 300ml o hufen dwbl

• 1 llwy fwrdd o siwgr eisin

• croen leim ychwanegol, i’w addurno

Dull

1. Cynheswch y ffwrn i 160C/ 140C ffwrn wyntyll/

marc nwy 3. Malwch y bisgedi’n friwsion mewn

prosesydd bwyd (neu drwy eu rhoi mewn bag

plastig cryf a’u bwrw â rholbren). Cymysgwch

y briwsion â’r menyn wedi’i doddi a gwasgu’r

cymysgedd i waelod ac ochrau tun tarten 22cm

â gwaelod rhydd. Pobwch yn y ffwrn am 10

munud cyn ei dynnu allan a’i adael i oeri.

2. Rhowch y melynau wy mewn powlen fawr

a’u chwisgo am funud gyda chwisg trydan.

Ychwanegwch y llaeth cyddwys a chwisgo am 3

munud, yna ychwanegu croen a sudd y leimiau a

chwisgo eto am 3 munud. Arllwyswch y llenwad

i’r gwaelod wedi’i oeri a’i roi nôl yn y ffwrn am 15

munud. Gadewch i’r pwdin oeri cyn ei roi yn yr

oergell am o leiaf 3 awr, neu dros nos.

3. Pan fyddwch yn barod i’w weini, tynnwch y pwdin

o’r tun yn ofalus a’i roi ar blât. I’w addurno,

chwisgwch yr hufen a’r siwgr eisin gyda’i gilydd.

Rhowch yr hufen ar ben y pwdin gan ddefnyddio

llwy neu fag eisio a defnyddio’r croen leim

ychwanegol fel addurn.
Cysylltiadau Defnyddiol

Dyma rai dolenni defnyddiol a ddefnyddiwyd gennym y mis hwn; roeddem yn meddwl y byddai gennych

ddiddordeb ynddynt hefyd.

www.carersuk.org/wales

Carers Wales – llawer o wybodaeth a chyngor i ofalyddion ar bynciau gwahanol.

www.ctsew.org.uk

Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru – llawer o wybodaeth a chyngor lleol i ofalwyr.

www.alzheimers.org.uk

Cymdeithas Alzheimer’s – gwybodaeth i bobl â dementia. Mae cyfleuster ar y wefan i chwilio am wasanaethau lleol

(cliciwch ar “Local Information” ar ochr chwith y dudalen hafan).

http://www.wales.nhs.uk/

Dod o hyd i ddeintydd, optegydd, ymarferydd cyffredinol neu fferyllfa – os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer y

gwasanaethau hyn ac mae angen ichi wneud hynny, gallwch ddod o hyd iddyn nhw yma (cliciwch ar “Find Local

Services” ar yr ochr chwith, rhoi eich cod post a dewis y blwch perthnasol).

www.jointlyapp.com

Ap yw Jointly sy’n gwneud y gwaith o ofalu am rywun ychydig yn haws, yn llai o straen ac yn fwy trefnus o lawer

trwy wneud y gwaith o gyfathrebu a chydgysylltu rhwng y rhai sy’n rhannu’r gofal mor hawdd ag anfon neges

testun. Gallwch ddefnyddio Jointly yn unrhyw le.

www.youngcarerstoolkit.co.uk

Mae’r pecyn cymorth hwn i ofalwyr ifanc wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol ar draws meysydd iechyd, addysg

a’r gwasanaethau cymdeithasol, sy’n adnabod ac yn cysylltu â gofalyddion ifanc a gofalyddion sy’n oedolion ifanc.

www.stroke.org.uk

Mae oddeutu 7,000 o bobl yn cael strôc yng Nghymru bob blwyddyn, ac mae bron 65,000 o bobl yn byw gydag

effeithiau hirdymor strôc. Gwasanaeth hyblyg wedi’i deilwra yw’r Gwasanaeth Gwella ar ôl Strôc a luniwyd i

gynorthwyo’r rhai a oroesodd strôc, eu teuluoedd a’u gofalyddion gydag ymadferiad ar ôl strôc.

http://fibromyalgiasupportgroupsouthwales.com/

Grŵp cymorth i’r rhai sy’n dioddef o’r cyflwr hwn â phoen cronig. Maen nhw’n cynnig cyngor a chymorth i bawb,

gan gynnwys teuluoedd a gofalyddion. Mae lluniaeth ar gael ym mhob lleoliad. Rhoddir cyngor ar driniaethau a

meddyginiaethau newydd a’r ymchwil sy’n cael ei wneud. Ymarfer corff mewn cadeiriau. Ceir siaradwyr gwadd

pob tri mis a chylchlythyr chwarterol. Cynhelir cinio pob tri mis mewn gwahanol leoliadau.

Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais.

This publication is available in other languages and formats on request.