Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Mae pobl hefyd yn

taflu sbwriel. Mae ein

llyn yn llawn o bacedi

creision a chaniau pop.

Mae’n well i ni

droi yn ôl Cai.

Mae hyn yn

siomedig iawn.

Mae angen i bobl

ddilyn y rheolau.

Hei wydd, gawn ni barhau

ar y llwybr os gweli yn dda?

Rydw i ar dennyn

a fydden ni byth yn

dychryn yr anifeiliaid.

O’r gorau.

Rydych chi yn

amlwg yn dilyn y

Cod Cefn Gwlad.

Ac mae Ceri yn rhoi y

sbwriel yn y bin bob tro ac

yn dda iawn am ail-gylchu.

Da iawn Cai. Dydw i ddim yn

siwr beth ddywedaist wrth

yr hen wydd gas yna, ond

mae’n amlwg yn dy hoffi di.

Cofiwch chi blant i ddilyn y Cod

Cefn Gwlad wrth fynd allan am dro.

Geirfa

amddiffyn - to protect

Cod Cefn Gwlad -

Countryside Code

dychryn - to frighten

gwydd/gwyddau - goose/geese

llwybr cyhoeddus -

public footpath

parchu - to respect

parhau - to continue

pigo - peck

tennyn - lead

ŵyn - lambs

ymosod - attack

Beth am i chi ddysgu mwy am beth yw’r cod a sut

i barchu, diogelu a mwynhau yn yr awyr agored?

Stori: Eurgain Haf

Lluniau: Dafydd Morris

11