Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Croeso

Helo ffrind!

Gobeithio i ti fwynhau dy hanner tymor. Diolch i’r darllenwyr sydd

wedi gyrru negeseuon ata i! Beth am i ti wneud yr un fath erbyn y

rhifyn nesaf o Bore da?

Mae gymaint o hwyl i’w gael yma unwaith eto – fel cartŵn Cai

Clustiau, stori Gwesty’r Ynys a phos Seren a Sbarc!

Wyt ti eisiau ennill wy Pasg siocled?! Tynna lun o Seren a Sbarc

a’i yrru at boreda@urdd.org erbyn 26 Mawrth 2021, am y cyfle i

ennill wy Pasg gyda dy ddyluniad di arno! Waw!

Beth am ddathlu Dydd Gŵyl Dewi a’r gwanwyn drwy greu cennin

pedr papur? Dos i dudalen 12 ar gyfer y Gornel Gelf.

Hwyl am y tro,

Mistar Urdd

Geirfa

gobeithio – hope

hanner tymor – half-term

darllenwyr – readers

negeseuon – messages

yr un fath – the same

rhifyn nesaf – next issue

gymaint – so much

hwyl – fun

unwaith eto – once again

cartŵn - cartoon

pos – puzzle

ennill – win

wy Pasg siocled – chocolate

Easter egg

tynna lun – draw a picture

gyrru – send

erbyn – by

mawrth - march

am y cyfle – for the chance

dyluniad – design

dathlu – celebrate

Dydd Gŵyl Dewi – St David’s Day

gwanwyn – spring

creu - create

Hawlfraint Urdd Gobaith Cymru yw’r holl gylchgrawn oni nodir yn wahanol. Paratowyd gyda chymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru

Golygydd: Branwen Rhys Dafydd Dylunydd: Meilyr Gwynn

Cysyllta â ni: boreda@urdd.org neu beth am ymweld â gwefan urdd.cymru/boreda

Cystadleuaeth

dylunio wy Pasg siocled Seren a Sbarc!

Dyma gyfle i ti ennill wy Pasg siocled

gyda dy ddyluniad di arno!

Diolch i gwmni Cathryn Cariad am

noddi’r gystadleuaeth.

Dyddiad cau:

26 Mawrth

2021

Am y cyfle i ennill, bydd angen i ti:

1. Dynnu llun o’r cymeriadau Seren a Sbarc

2. Gwneud yn siŵr fod y dyluniad yn ffitio tu fewn i’r siâp wy!

3. Gyrru dy ddyluniad at boreda@urdd.org erbyn 26 Mawrth 2021

Os oes angen help arnat ti, CLICIA YMA i lawrlwytho

amlinelliad o siâp wy!

Ewch draw i www.cathryncariad.com i

weld llond trol o siocledi anhygoel!

2

Competition! Design your own Seren a

Sbarc easter egg with Cathryn Cariad!

Closing date: 26 March 2021.