Wales vs Italy
The official matchday programme of the Welsh Rugby Union Wales vs Italy | Guinness Six Nations 2024 Saturday 16th March, 2024 | KO 2.15pm | Principality Stadium
The official matchday programme of the Welsh Rugby Union
Wales vs Italy | Guinness Six Nations 2024
Saturday 16th March, 2024 | KO 2.15pm | Principality Stadium
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
SATURDAY 16 MARCH 2024 | DYDD SADWRN 16 MAWRTH 2024

ymgyrch 2017 yn erbyn

Iwerddon yng Nghaerdydd

ac yn erbyn y Ffrancod

yn Brive.Chwaraeodd

yn y gystadleuaeth

ddiwethaf yn 2020 ond

mae hynny ar fin newid.

Mae gan Ioan Cunningham

gryfder mawr ymhlith y pac –

ac mae’r ddau ail reng Natalia

John a Gwen Crabb yn

dychwelyd i ychwanegu eu

profiad wedi iddyn nhw golli’r

WXV1 o ganlyniad i anafiadau.

Bydd ymgyrch Cymru ym

Mhencampwriaeth Chwe

Gwlad Guinness 2024 yn

dechrau wrth iddynt herio’r

Alban ym Mharc yr Arfau,

ddydd Sadwrn y 23ain o

Fawrth am 4.45pm.

Dywedodd Ioan Cunningham

Prif Hyfforddwr Cymru;

“Dyma’r garfan anoddaf

i mi ei dewis ers i’r gêm

droi’n broffesiynol yn 2022

ac ‘roedd llawer iawn o

drafod ymysg y tîm hyfforddi

cyn i’r 37 o enwau gael

eu dewis yn y pendraw.

“Y Bencampwriaeth eleni

fydd yr un fwyaf heriol

erioed – ond ry’n ni’n hynod

o gyffrous i weld rhai o’r

chwaraewyr newydd ac

i osod safonau newydd

i ni’n hunain hefyd.

“Roedd cefnogaeth cyhoedd

Cymru’n hwb anferth i ni’r

llynedd ac mae’r ffaith y

byddwn yn chwarae’r Eidal

yn Stadiwm Principality yng

ngêm olaf ein hymgyrch – yn

tynnu dŵr i’r dannedd. Wedi

dweud hynny – mae heriau a

sialensau mawr eraill yn ein

wynebu cyn hynny wrth gwrs.

“Ry’n ni wedi dewis

cymysgedd o brofiad ar y

lefel yma a thalent ifanc

sydd wedi creu argarff

arnom yn ystod y gemau o

dan 20 – ac yn enwedig yn

ystod yr Her Geltaidd - sydd

wedi cryfhau’n sylweddol

eleni. ‘Rwy’n edrych ymlaen

yn fawr at weld sut argraff

fydd y saith chwaraewr

sydd heb ennill cap eto

yn eu creu ar y garfan.

“Mae’r saith ohonyn nhw

wedi bod yn chwarae’n

gyson yn ddiweddar ac yn

haeddu eu cyfle. Mae Jenny

Hesketh a Cath Richards wedi

perfformio’n dda yn Uwch

Gynghrair Lloegr dros eu

clybiau, tra bo Molly Reardon,

Jenni Scoble, Gwennan

Hopkins, Mollie Wilkinson

a Sian Jones wedi codi eu

llaw yn yr Her Geltaidd.

“Fe chwaraeodd y rhan

fwyaf o’r garfan yn y WXV1

mas yn Seland Newydd – ac

‘roedd y profiad o gymryd

rhan mewn cystadleuaeth

oedd yn cynnwys chwe

thîm gorau’r byd, yn

hynod o werthfawr i ni.

“Braf o beth yw croesawu

Shona Wakley yn ôl i gorlan

y garfan. Mae’r ffaith ei

bod hi wedi ad-ennill ei

lle – wedi cyfnod hir mas

o’r garfan – yn brawf bod y

drws wastad ar agor os yw

perfformiadau chwaraewyr

yn haeddu hynny.

“Mae’r holl chwaraewyr,

staff a’r tîm hyfforddi yn

edrych ymlaen yn fawr at ein

hymgyrch yn y Chwe Gwlad.”

CARFAN CYMRU –

PENCAMPWRIAETH

CHWE GWLAD

GUINNESS 2024

BLAENWYR: Gwenllian Pyrs,

Abbey Constable, Carys

Phillips, Kelsey Jones, Molly

Reardon, Sisilia Tuipulotu,

Donna Rose, Jenni Scoble,

Abbie Fleming, Natalia

John, Gwen Crabb, Bryonie

King, Shona Wakley,

Alisha Butchers, Georgia

Evans, Alex Callender, Kate

Williams, Bethan Lewis,

Gwennan Hopkins

OLWYR: Jasmine Joyce, Nel

Metcalfe, Jenny Hesketh,

Courtney Keight, Kayleigh

Powell, Cath Richards, Lisa

Neumann, Amelia Tutt,

Hannah Jones (capten),

Kerin Lake, Hannah Bluck,

Carys Cox, Lleucu George,

Mollie Wilkinson, Niamh

Terry, Keira Bevan, Sian

Jones, Meg Davies.

MAE PUM CHWARAEWR

DATBLYGU: Hanna

Marshall, Seren Singleton,

Maisie Davies, Cadi-Lois

Davies ac Alaw Pyrs.

GEMAU GUINNESS

CYMRU YN Y

CHWE GWLAD

Dydd Sadwrn, 23 Mawrth

Parc yr Arfau Caerdydd

Cymru v Yr Alban

(CG 16:45)

Sadwrn, 30 Mawrth

Ashton Gate, Bryste

Lloegr v Cymru

(CG 16:45)

Dydd Sadwrn, 13 Ebrill

Parc Virgin Media, Corc

Iwerddon v Cymru

(CG 16:45)

Dydd Sul, 21 Ebrill

Parc yr Arfau Caerdydd

Cymru v Ffrainc

(CG 15:15)

Dydd Sadwrn, 27 Ebrill

Stadiwm Principality

Cymru v Yr Eidal

(CG 12:15)

GUINNESS SIX NATIONS 2024 | WALES V ITALY | CYMRU V YR EIDAL

/WELSHRUGBYUNION 95