Cynllun Parcio Cyfnod y Nadolig - Cyngor Gwynedd
Cynllun Parcio Cyfnod y Nadolig - Cyngor Gwynedd
Cynllun Parcio Cyfnod y Nadolig - Cyngor Gwynedd
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
ADRODDIAD I’R CABINET

30 Hydref 2012

Aelod Cabinet: Cyng John Wynn Jones, Aelod Cabinet Economi a

Cyng Gareth Roberts, Aelod Cabinet Amgylchedd

Pwnc: Cefnogi Canol Trefi : Parcio am Ddim Nadolig 2012

Swyddog cyswllt: Llyr B. Jones, Uwch Reolwr Economi a Chymuned

Y penderfyniad a geisir/pwrpas yr adroddiad

Cymeradwyo’r bwriad o gynnig a hyrwyddo cynllun parcio am ddim ym

meysydd parcio talu ag arddangos y Cyngor rhwng ac yn cynnwys 15

Rhagfyr a 26 Rhagfyr 2012, er mwyn cefnogi busnesau canol trefi

Bod y trefniadau i’w gweithredu law yn llaw gydag ymgyrch siopa lleol

sydd yn cael ei gweithredu gan yr Adran Economi a Chymuned.

Bod £40,000 o gyllideb y Cynllun Strategol yn cael ei ymrwymo i ariannu'r

trefniant.

Barn yr aelod lleol

Ddim yn fater lleol

Cyflwyniad

Mae ardaloedd canol trefi yn wynebu nifer o sialensau, yn arbennig o

fewn yr hinsawdd ariannol bresennol. Mae angen cadw canol trefi yn

lleoliadau deinamig a diddorol er mwyn gwarchod dyfodol busnesau

lleol, tra hefyd yn denu trigolion lleol ac ymwelwyr i’r stryd fawr.

Mae ymrwymiad tuag at fesurau bywiocau a gwella delwedd canol trefi

wedi ei gynnwys yng Nghynllun Strategol y Cyngor ar gyfer 2012/13. Mae

pecyn o ymyraethau wedi ei datblygu i geisio cynyddu masnach, cadw’r

budd yn lleol a chefnogi canol trefi. Mae cynnig cyfnod o barcio am

ddim yn un o’r camau sydd yn allweddol i’r rhaglen.
Fel rhan o’i ymdrechion i gefnogi busnesau’r Sir, mae Cyngor Gwynedd

wedi darparu parcio am ddim ym meysydd parcio talu ac arddangos a

reolir gan y Cyngor dros gyfnod y Nadolig y 4 mlynedd diwethaf. Y nôd

yw annog trigolion i siopa yn lleol a gwneud y mwyaf o’r amrywiaeth

anrhegion a nwyddau sydd gan Gwynedd i’w gynnig, a thrwy hynny

gynyddu masnach.

Mae mwy a mwy o bobl yn gweld y budd o siopa yn lleol ac mae’r

Cyngor yn ystyried fod y Nadolig yn amser perffaith i gefnogi busnesau

lleol, sef y siopau a busnesau bychain sydd yn gonglfeini i economi

Gwynedd.

Rhesymau dros argymell y penderfyniad

Mae’r Cyngor wedi datblygu pecyn o ymyraethau er mwyn cefnogi

canol trefi, a chynyddu gweithgareddau economaidd o fewn yr

ardaloedd pwysig yma. Fe ystyrir fod y cynllun parcio am ddim yn

agwedd bwysig o’r pecyn ehangach.

Mae’r Cyngor yn ymwybodol fod yr hinsawdd ariannol yn gyfnod heriol

dros ben i siopau a busnesau bychain y Sir. Mabwysiadwyd trefniadau

parcio am ddim dros gyfnod y Nadolig er mwyn annog mwy o bobl i

ymweld â chanol trefi lleol, a chefnogi busnesau lleol yn ystod y cyfnod

allweddol yma.

Mabwysiadwyd trefniadau parcio am ddim dros y blynyddoedd diwethaf

ar sail sefyllfa yr economi ac fel eithriadau blynyddol yn hytrach na

threfniant parhaol. Ond, gan nad ydi’r economi wedi gweld twf dros y

blynyddoedd diwethaf, argymhellir bod y Cyngor yn gweithredu'r cynllun

mewn ymdrech i hyrwyddo gwerthiannau siopau bach a gwarchod

busnesau’r Sir.

Amcangyfrifir fod y cynnig parcio am ddim dros y cyfnod yma yn arwain

at ostyngiad o £40,000 mewn incwm i gyllideb meysydd parcio'r Cyngor.

Er mwyn cynnig consesiwn parcio cyfnod y Nadolig felly, byddai angen

sicrhau trefniant i ddigolledu cyllideb meysydd parcio'r Adran Reoleiddio.

Ar hyn o bryd mae’r Adran Rheoleiddio yn cynnal adolygiad o drefniadau

a ffioedd y Gwasanaeth Parcio. Fel rhan o’r gwaith, bydd ystyriaeth

bellach yn cael ei roi i drefniadau parcio cyfnod y Nadolig i’r dyfodol.

Am eleni, felly, argymhellir fod £40,000 o gyllideb y Cynllun Strategol yn

cael ei ymrwymo i ariannu'r trefniant.
Fe ystyrir yr ymrwymiad yma yn fuddsoddiad i gefnogi canol trefi drwy

annog prynwyr i siopau yng nghanolfannau Gwynedd gan gyfrannu at

hyfywdra’r stryd fawr. Mae’r cynllun parcio hefyd yn plethu gyda phecyn

ehangach eraill sydd ar waith fel rhan o gynllun datblygol Bywiocau a

Gwella Delwedd Canol Trefi, gan gynnwys :

• Comisiynu astudiaeth capasiti manwerthu fel sail ar gyfer ystyried

datblygu polisïau cynllunio i resymoli ardaloedd stryd fawr

• Ymchwilio i gyfleoedd o wneud defnydd o adeiladau gwag, drwy

gynllun Menter Siopau Gwag. Rhagwelir y bydd y cynllun yn

targedu eiddo gwag, yn cynnig cymorth i’w adfer, a chynnig

cefnogaeth i unigolion sydd â’r awydd i fentro mewn byd busnes

• Gwella Delwedd Canol Trefi. Gosodwyd hysbysebion yn y wasg leol

yn ddiweddar yn gwahodd ceisiadau gan berchnogion eiddo

gwag; ynghyd â chynigion gan grwpiau busnes mewn perthynas â

chynlluniau bychan i wella delwedd canol trefi

• Pecyn Datblygu Sector Manwerthu, sydd yn cynnig cymorth drwy

drefnu arolygon busnes annibynnol, cyngor i fusnes a chynllun grant

• Marchnata a hyrwyddo canol trefi fel cyrchfannau siopau.

Wrth ymgymryd â’r ymyraethau hyn, mae’r Cyngor yn cyd-weithio gyda

phartneriaid a grwpiau busnes, a rhagwelir eu bod yn cyfrannu at yr

angen i geisio ail-ganfod eu pwrpas fel prif ganolfannau gwaith a

gwasanaethau, a’u delwedd fel mannau bywiog a deiniadol i drigolion

ac ymwelwyr.

Ystyriaethau perthnasol

Dros y blynyddoedd diwethaf, penderfynwyd i weithredu trefniadau

cynllun parcio am ddim wrth ystyried amgylchiadau o flwyddyn i

flwyddyn. Serch hynny, mae adborth gan fusnesau i’r cynllun yn bositif

iawn, ac mae’n ymddangos fod gryn gefnogaeth i’r cynllun ymysg y

sector fusnes ar draws y Sir.

Fel rhan o’r trefniant, fe ganiateir parcio am ddim am gyfnod penodol

cyn y Nadolig ym meysydd parcio ag arddangos y Cyngor gyda’r nod o

ddenu mwy o siopwyr i ganol trefi. Fodd bynnag, lleisiwyd pryderon

llynedd fod rhai meysydd parcio yn cael eu defnyddio drwy’r dydd gan

weithwyr lleol, gan leihau nifer o fannau parcio ar gael i siopwyr, a thrwy

hynny danseilio’r nod.

Ymddengys felly fod angen adnabod mesurau ychwanegol er mwyn

lleihau achosion o’r fath eleni. Byddai modd addasu’r trefniadau drwy

gyfyngu’r cyfnod parcio am ddim tan ar ôl, dyweder, 10:30 y bore, ond
mae pryderon y gallai hynny arwain at ansicrwydd ar brydiau, ac y gallai

unrhyw anghydfod wrth orfodi amseroedd o’r fath danseilio cefnogaeth

i’r cynllun. O ganlyniad, awgrymir y gellir ceisio ymateb i’r sefyllfa drwy

gyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth o’r pryderon ac annog gweithwyr i

ddefnyddio mannau parcio arferol.

Ymddengys hefyd fod cyfleoedd ychwanegol i feithrin cysylltiadau gyda

siamberi masnach a grwpiau busnes lleol fel rhan o’r trefniadau hyrwyddo

a marchnata.

Fel rhan o drefniadau ar gyfer Nadolig 2012, argymhellir hefyd fod gwaith

pellach yn cael ei wneud er mwyn ceisio monitro effaith y cynllun ar yr

ardaloedd masnachol a busnesau cysylltiedig. Bwriedir datblygu’r

manylion mewn ymgynghoriad gydag Uned Gwybodaeth ac Ymchwil y

Cyngor, ond gobeithir y byddai modd ymgorffori’r canlynol i gynllun

monitro:

- Arolwg defnyddwyr meysydd parcio yn ystod y cyfnod (gan

gynnwys patrwm gwariant a rhesymau ymweld)

- Arolwg defnyddwyr / cerddwyr ardaloedd masnachol

- Holiaduron busnesau i geisio gwybodaeth a barn am effaith y

cynllun (i’w drefnu ar ddiwedd y cyfnod).

Mae profiadau dros y blynyddoedd diwethaf hefyd wedi amlygu

pwysigrwydd cynllun parcio am ddim fel rhan annatod o ymgyrch

ehangach i geisio hyrwyddo siopa’n lleol dros gyfnod y Nadolig. O

safbwynt yr agweddau hyrwyddo, credir fod cyfle i adeiladu ar

lwyddiannau blaenorol a datblygu agweddau newydd i’r dyfodol. Fodd

bynnag, rhagwelir y byddai angen ystyried unrhyw gynlluniau datblygol tu

hwnt i 2012/13 yng nghyd-destun adolygiad Cynlluniau Strategol y

Cyngor.

Camau nesaf ac amserlen

Bydd cymeradwyo’r argymhellion yn ein caniatáu i fwrw ymlaen i

gadarnhau trefniadau arfaethedig yn syth.
Barn y swyddogion statudol

Y Prif Weithredwr:

Mae'r ddarpariaeth parcio am ddim dros y Nadolig wedi bod yn

rhywbeth gweddol gyson dros y blynyddoedd diwethaf ac mae

ymrwymiad clir yn y Cynllun Strategol y mae'r Cyngor newydd ei

fabwysiadu ynglŷn â chanol trefi. Gan fod arolwg yr Adran Rheoleiddio ar

waith, mae'n synhwyrol cynnig y ddarpariaeth am eleni er mwyn gallu

asesu'r darlun yn llawn o ran prisiau parcio yn dilyn yr adolygiad. Mae

digon o adnoddau unwaith ac am byth i fedru ariannu hwn os mai dyna

yw dymuniad y Cabinet.

Y Swyddog Monitro:

Mae’r adroddiad yn nodi’r gwahanol ystyriaethau y bydd gofyn i’r

Cabinet eu trafod wrth ddod i benderfyniad ac nid oes unrhyw faterion

ychwanegol o briodoldeb yn codi.

Y Pennaeth Cyllid:

Argymhellir ymrwymo £40,000 unwaith eto allan o gyllideb y Cynllun

Strategol er mwyn ariannu’r trefniant ‘Parcio am Ddim’ rhwng 15 a 27

Rhagfyr i gefnogi busnesau canol trefi Gwynedd.

Mae’r cynllun yma’n ddilyniant o’r gweithredu dros y pedair blynedd

diwethaf i geisio cefnogi busnesau lleol yng Ngwynedd dros gyfnod y

Nadolig, yn arbennig mewn amgylchiadau economaidd heriol iawn, ac i

redeg law yn llaw gyda’r ymgyrch Siopa Lleol.

Rwy’n croesawu’r bwriad i fonitro effaith y cynllun ar yr ardaloedd

masnachol a busnesau cysylltiedig (i’r gorau o’n gallu), gan gynnwys

arolwg o ddefnyddwyr y meysydd parcio yn ystod y cyfnod ‘Parcio am

Ddim’.