28.11.2014 Views

Cyfarchion y Tymor! - Clybiau Plant Cymru: Kid's Clubs

Cyfarchion y Tymor! - Clybiau Plant Cymru: Kid's Clubs

Cyfarchion y Tymor! - Clybiau Plant Cymru: Kid's Clubs

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Y Bont

Gaeaf 2008

Rhifyn 28

ISSN 1464-4282

www.clybiauplantcymru.org

Cyfarchion

y Tymor!

Yn y rhifyn hwn

• Isafswm Cyfl og Cenedlaethol

• Newid i’r system fudd-daliadau

• Ffocws Rhanbarthol

• Hyfforddiant

• Ariannu

• Gweithgareddau Nadolig

a mwy!

Cwmni cyfyngedig drwy warant 4296436

Elusen Gofrestredig 1093260

Yn gweithio mewn partneriaeth â

Rhifyn 28 Gaeaf 2008

Yn y rhifyn hwn

Isafswm Cyfl og Cenedlaethol.2

Newidiadau i’r system fudddaliadau..................................3

Ffocws ar Orllewin Cymru......4

Ffocws ar Ogledd Cymru.......5

Ffocws ar Dde Ddwyrain

Cymru.....................................6

Hyffrorddiant...........................7

Ariannu ................................10

Bwrdd Ymddiriedolwyr..........11

Gweithgareddau Nadolig......12

Cwmni cyfyngedig drwy warant 4296436

Elusen Gofrestredig 1093260

Swyddfa Gofrestredig:

Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs,

Tŷ’r Bont, Ffordd yr Orsaf, Llanisien,

Caerdydd. CF14 5UW

Ffôn: 029 2074 1000 Ffacs: 029 2074 1047

E-bost: info@clybiauplantcymru.org

Y We: www.clybiauplantcymru.org

Newyddion

Brys!

Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn codi

Diweddarwyd y graddfeydd isafswm cyfl og o Hydref 1af parthed

y bobl ganlynol: gweithwyr oed 22 a throsodd - £5.73 yr awr;

gweithwyr oed 18-21 - £4.77 yr awr; gweithwyr oed 16-17 -

£3.53 yr awr.

Gair gan y Comisiynydd Plant

“Mae plant a phobl ifanc yn haeddu cyfl eusterau o safon uchel yn

eu cymunedau, a thros y blynyddoedd y mae Clybiau Plant Cymru

Kids’ Clubs wedi rhoi cefnogaeth amhrisiadwy i nifer o brosiectau

ar draws Cymru i’r pwrpas o sefydlu clybiau gofal plant all-ysgol.

“Mae pobl ifanc yn aml yn dweud wrthyf y byddent yn hoffi mwy

o leoedd i fynd i gyfarfod â’u ffrindiau. Mae’n dda gen i weld bod

eu lleisiau’n cael eu clywed a bod, bellach, ymrwymiad newydd

i sefydlu mwy o glybiau all-ysgol i’n plant a’n pobl ifanc. Bydd y

clybiau hyn yn darparu, ar gyfer pobl ifanc, amgylchedd croesawgar

a hwyliog y gallant gymdeithasu ynddo. Yn ychwanegol gall rhieni

a gwarcheidwaid fod yn dawel eu meddwl y bydd modd i’w plant

fwynhau’r cyfl eoedd a gynigir mewn amgylchedd diogel.”

Keith Towler,

Comisiynydd Plant Cymru

Newidiadau yn y

system fudd-daliadau

perthnasol i rieni,

a’u heffaith

ar ddarpariaethau

gofal-plant

Mae pobl sy’n medru gweithio

a derbyn cyflog yn well eu byd

yn ariannol ac yn nhermau eu

hiechyd a’u lles. Cael rhieni i

fod mewn gwaith taledig yw’r

ffordd orau i helpu i’w codi,

ynghyd â’u plant, o afael tlodi,

a dyma sydd wrth wraidd

strategaeth tlodi plant yr

Adran Gwaith a Phensiynau,

‘Working for Children’. Mae

plentyn rhiant sengl sy’n

gweithio rhan amser yn dair

gwaith llai tebygol o fod yn

byw mewn tlodi, a mwy na

phum gwaith yn llai tebygol o

fod mewn tlodi os yw’r rhiant

yn gweithio’n llawn amser.

O fi s Tachwedd eleni bydd rhai

newidiadau i’r system fudddaliadau

i rieni sy’n derbyn

Cymhorthdal Incwm unwaith y

bydd eu plentyn ieuengaf wed

cyrraedd 12 mlwydd oed. Dros

y tair blynedd nesaf bydd oed y

plentyn ieuengaf yn lleihau, ac

ni fydd modd i rieni sy’n derbyn

Cymhorthdal Incwm o ganlyniad

i oedran eu plant yn unig, wneud

hynny bellach. Bydd modd i

rieni a effeithir gan hyn wneud

cais am fudd-daliadau eraill os

ydynt yn analluog i ddod o hyd

i waith, a’r prif fudd-dal fydd ar

gael iddynt fydd y Lwfans Ceisio

Gwaith. Y Lwfans Ceisio Gwaith

yw’r prif fudd-dal ar gyfer pobl

nad ydynt mewn cyfl ogaeth, ond

er mwyn ei dderbyn mae’n rhaid

i’r hawlwyr fod ar gael ac wrthi’n

ceisio gwaith. Hefyd, o Hydref

2009 ymlaen

cyfl wynir budddâl

newydd

ar gyfer pobl

na fu modd

iddynt i weithio

yn fl aenorol

o h e r w y d d

afi echyd neu

a n a b l e d d .

Mae’r Lwfans

Cyfl ogaeth a

Chefnogaeth

newydd yn

cynnig mwy

o gefnogaeth

i edrych am

waith sydd

yn addas i’r

unigolyn (am

fwy o fanylion ar y newidiadau hyn,

gweler gwefan JobCentrePlus,

sef www.jobcentreplus.gov.uk

os gwelwch yn dda.

Un o’r prif bethau’n sy’n rhwystro

pobl rhag gweithio, yn aml, yw

gofal plant addas o ran lleoliad,

cost ac ansawdd. Mae Clybiau

Plant Cymru Kids Clubs yn

gweithio gyda’r Fenter Ysgolion

Bro yn y mwyafrif o siroedd er

mwyn cynyddu’r niferoedd o

glybiau gofal plant sy’n darparu

ar gyfer plant a phobl ifanc oed 7-

9, ac yn cynnig gweithgareddau

addas ar eu cyfer. Tra bo’r

clybiau newydd hyn ar gyfer

plant hŷn yn cael eu datblygu

efallai y bydd modd i glybiau

sy’n bodoli eisoes helpu rhieni i

ddod o hyd i glybiau gofal-plant

addas drwy edrych ar yr angen

yn lleol, a newid y meini prawf

mynediad i dderbyn plant 12

mlwydd oed. Byddai’n rhaid i

unrhyw weithgareddau a gynigir

fod yn addas ar gyfer y grŵp

oed hwn, yn ogystal â darparu

man tawel i wneud gwaith

cartref. Mae syniadau ar gyfer

gweithgareddau i blant hŷn ar

gael ar ein wefan yn y pecyn

‘Parth Glasoed’ yn yr adran

aelodau.

Dylid cofi o y gall rhieni plant hyd

at 14 blwydd oed (a 16 ar gyfer

plant anabl) barhau i wneud cais

am yr elfen ofal plant o’r Credyd

Treth Teuluoedd sy’n Gweithio.

2 Y Bont Y Bont 3

Gorllewin Cymru

Gogledd Cymru

Bu i Glwb Gwyliau’r Santes Fair

redeg clwb gwyliau llwyddiannus

â grant o’r Prosiect Clybiau Plant,

a sicrhaodd marchnata cadarn a

chynllunio da hyfywedd dyddiol.

Ymhlith y gweithgareddau yr oedd

ymweliadau â Kiddies Kingdom,

y Tŵr Gynnau a gweithdai gyda

Silent World, trafod nadroedd

a chorynnod, crefft greadigol

a chreu mygiau. Roedd y clwb

yma’n llwyddiannus gyda’i gais

am grant, ac fe’i wobrwywyd â’r

swm o £4,700 gan Arian i Bawb

am brosiect ail gylchu, ‘Going

Green‘.

Mae Clwb Ôl-Ysgol Aberllydan

yn parhau i brofi llwyddiant

mawr gyda’u grant Arian i Bawb

ar gyfer sesiynau hwyl corfforol

a gweithdai sgiliau syrcas.

Mae hyfforddwr ffi trwydd yn

mynychu’r clwb bob dydd Iau

am awr, ac mae’r plant a’r staff

yn cymryd rhan drwy gael hwyl

wrth ymarfer eu cyrff. Bydd hyn

yn parhau drwy’r ddau dymor

nesaf. Da iawn chi, Aberllydan.

Comisiynydd Plant Cymru’n Mynd i

Glwb Ôl-Ysgol!

Fel rhan o’i daith ‘Amser i Siarad – Amser i Wrando’, ymwelodd

Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, â Chlwb Ar Ôl-Ysgol

y Bont, Pontyberem. Soniodd y plant wrtho am bob peth oedd

yn digwydd yn eu clwb, am ysgol a gwaith cartref, tra’n chware

amrywiol gemau. Roddodd Mr Towler iddynt beli, pensiliau a

deunydd darllen ar waith Swyddfa’r Comisynydd. Ceir rhagor o

wybodaeth ar www.childcom.org.uk

Chwarae Mynediad Agored

Mynychodd sawl clwb gwyliau y

sesiynau hyn dros yr haf, mewn

dolen bartneriaeth a drefnwyd ar

y cyd rhwng Cyngor Sir Benfro a

Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.

Mwynhawyd y sesiynau yn llwyr

gan y clybiau i gyd. Golygodd y

fenter hefyd bod niferoedd uwch

yn mynychu’r clybiau gwyliau

- am iddynt gael eu cynnal am

ddim - gan felly chwyddo’r incwm.

Cafodd Mynediad Agored cael

ei redeg eto yn ystod yr hanner

tymor ac roedd clybiau’n dangos

diddordeb yn eu mynychu yn

gynnar iawn.

Gobeithio iddynt

Mae Awdurdod Lleol Sir Wrecsam

mewn perthynas gontract â Clybiau

Plant Cymru Kids’ Clubs i’r pwrpas

o ddatblygu gofal plant yn elfen o

Ysgolion Bro. Blaenoriaeth Wrecsam

ar gyfer y fl wyddyn ariannol nesaf yw

datblygu’r ddarpariaeth ôl-ysgol i bobl

ifanc o oed ysgol uwchradd ac mae’r

cynllunio’n mynd rhagddo ar hyn o

bryd. Mae’r broses o ymgynghori

â’r bobl ifanc i gasglu ynghyd eu

safbwyntiau wedi digwydd yn barod,

a chynhaliwyd un ymgynghoriad

o’r fath yng Nghanolfan Ebeneser,

Cefn Mawr, gyda disgyblion o Ysgol

Uwchradd Rhiwabon. Teimlwyd

bod Ebeneser yn lleoliad delfrydol

ar gyfer clwb ôl-ysgol, yn enwedig

i’r plant a’r bobl ifanc o ardal Cefn

Mawr, gan i’w bws ysgol eu gollwng

wrth fynedfa’r ganolfan.

Darpariaeth newydd ar gyfer

plant oed uwchradd yn

Wrecsam

Mae cyfl euster gofal plant ôl-ysgol

newydd ar gyfer pobl ifanc oed

uwchradd wedi ei ddatblygu yn ardal

Cefn Mawr, Wrecsam ar gyfer pobl

ifanc sy’n byw yn ardal Cefn Mawr ac

sy’n mynychu’r Ysgolion Uwchradd

Sefydlwyd grŵp llywio gan staff

Partneriaeth Gymunedol Dyffryn

Dyfrdwy, Rheolydd Busnes Ysgol

Uwchradd Rhiwabon, staff Biwro

Gwybodaeth Plant Wrecsam, a staff

Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs er

mwyn sefydlu grŵp llywio i yrru’r

syniad yn ei fl aen. Y mae bellach

wedi cynyddu yn ei lwyddiant,

a’r canlyniad fu agor darpariaeth

newydd ar gyfer plant a phobl ifanc

ar ddechrau’r tymor ysgol newydd

ym mis Medi. Mae mwy na 20 o

blant yn ei mynychu’n rheolaidd.

Maen nhw’n mwynhau cymryd rhan

yn y gweithgareddau a gynigir,

sy’n cynnwys gemau cyfrifi adurol,

teclynnau Wii, gorsafoedd chwarae,

a chrefftau.

Mae eto’n ddyddiau

cynnar ar y cynllun, ond cafodd

gychwyn da eisoes, ac mae pob

disgwyl iddo fynd o nerth i nerth.

Clybiau Cymraeg Conwy

Bydd Clybiau Conwy’n ymgymryd â’r her

o gynyddu’r defnydd o’r iaith Gymraeg

mewn clybiau. Bu modd i Clybiau Plant

Cymru Kids’ Clubs, â chymorth ariannu

o’r awdurdod lleol, brynu adnoddau

Cymraeg i helpu clybiau yn eu

defnydd o’r Gymraeg o ddydd i ddydd.

Rydym hefyd yn cydweithio ag Adran

Oedolion Bwrdd yr Iaith Gymraeg,

sy’n darparu dosbarthiadau Cymraeg

ar lefelau dechreuol a chanolradd,

ynghyd â gweithgareddau thematig

drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd ein

clybiau Cymraeg yn derbyn crynoddisg

dwyieithog yn dwyn yr enw ‘Erwlas’,

sef gêm ryngweithiol sy’n annog plant

i gymryd yr awenau i sicrhau dyfodol

cymunedau drwy edrych ar ffyrdd

ecolegol o’u cynnal.

Mae Clwb Plant Bethel yn glwb ôl-ysgol a gwyliau, sydd ar agor i blant yn yr

ardal. Y mae’n gyfundrefn nid-er-elw, sydd wedi ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a

Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), ac mae’n aelod o Clybiau Plant Cymru

Kids’ Clubs.

Cafodd Clwb Plant Bethel ymweliad gan Ymddiriedolaeth Adar Gogledd Cymru a 4 o’u

tylluanod hardd.

fod yn offerynnau marchnata da

lleol. Dechreuodd y prosiect ar Dysgodd y plant bopeth am

iddynt yn nhermau presenoldeb

ddechrau’r tymor ym mis Medi eleni, sut roedd y tylluanod yn byw

yn ystod wythnos hanner tymor

ac mae’n cynnig i bobl ifanc y cyfl e i yn eu cynefi noedd, ble maen

sydd, gan amlaf, yn un o ddistaw.

gymryd rhan mewn gweithgareddau nhw’n byw, beth maen nhw’n

heriol a chyffrous yng Nghanolfan

eu bwyta a.y.b.. Fe wnaethant

ddysgu pam roedd yn rhaid i’r

Ebeneser, a redir gan Bartneriaeth

Ymddiriedolaeth edrych ar eu

Gymunedol Glyn Dyfrdwy, gan roi i hôl, sut y cafodd rhai eu hachub,

rieni’r cyfl e i weithio neu hyfforddi. beth i’w wneud os dônt ar draws

Mae’r clwb eisoes yn cael ei ddefnyddio

Parth Natur ar waith Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Rydym am i bawb fwynhau

aderyn ysglyfaethus sydd wedi ei

Clubs wedi sicrhau ariannu gan eu hunain yng nghanol y baw,

gan bobl ifanc Ysgol Rhiwabon, Ysgol anafu, a gwnaethant ddysgu am

yn yr Ardd Fotaneg

Morgan Llwyd ac Ysgol Dinas Brân yn rywogaethau mewn perygl.

y Loteri Fawr er mwyn galluogi wrth wneud cacenni mwd a’r

Llangollen, Sir Ddinbych. Mae cymaint

plant a phobl ifanc sy’n mynychu mynd ar ‘grwydr grawnwin!!!

â 24 ohonynt wedi bod yn mynychu’n Daeth Ymddiriedolaeth Adar

clybiau gwyliau yng Ngorllewin Os ydych yng Ngheredigion,

ddyddiol er mwyn cael cymryd rhan

Gogledd Cymru yn elusen

gofrestredig yn 2000, mewn

Cymru i gael dydd hwyl yng Sir Gaerfyrddin neu Sir Benfro

mewn ystod eang o weithgareddau

ymateb i’r angen brys am sefydliad i achub adar gwyllt ysglyfaethus yng Ngogledd

Ngardd Fotaneg Cymru. - gofynnwch i’ch Swyddog

ar ddiwedd eu diwrnod ysgol. Cymru ac Eryri. Prif nodau’r elusen yw achub adar ysglyfaethus sydd wedi eu hanafu,

Datblygu am

Datblygwyd y cyfl euster gan staff o ymweld ag ysgolion i gyfl wyno sgyrsiau addysgol gyda’u tylluanod, a magu tylluanod

Bartneriaeth Glyn Dyfrdwy, Rheolydd sy’n brin ac mewn perygl.Mae Ymddiriedolaeth Gogledd Cymru wedi ei lleoli ym Mharc

Y thema fydd gweithio gyda’r w y b o d a e t h

Staff ysgol uwchradd, rhai aelodau Fferm Bodafon yn Llandudno.

amgylchedd, a defnyddir bellach.

staff Clybiau Plant Cymru Kids’

gweithgareddau o’r pecyn Parth

Clubs a’r Gwasanaeth Gwybodaeth Mae’r llun grŵp uchod yn dangos y plant gydag Emma Barton - yr Arweinydd

Natur.

i Deuluoedd. Prosiect Peilot oedd Clwb, Gwenan Haf Parry - Cynorthwy-ydd yn y Clwb, a Bill o‘r Ymddiriedolaeth

hwn, ond gobeithir ei ddyblygu mewn gydag un o’r tylluanod.

rhannau eraill o Gymru.

4 Y Bont Y Bont 5

De Ddwyrain Cymru

Hyfforddiant

Chwedlau Tylwyth Teg

yng Nghasnewydd!

Cynhaliwyd Cychwyn Cadarn,

Genesis a’r Gwasanaeth

Gwybodaeth i Deuluoedd Ddydd

Chwedlau Tylwyth Teg yng

Nghanolfan Casnewydd ym mis

Hydref. Mynychwyd y digwyddiad

gan gryn dipyn o rieni a phlant o bob

rhan o Gasnewydd. Mynychwyd

y digwyddiad yn ogystal gan y

Cynghorydd Noel Trigg, Maer

Casnewydd, a lansiodd Genesis

2 a’r Gwasanaeth Gwybodaeth

i Deuluoedd newydd. Cafodd

pawb ddiwrnod da, ac roedd rhai

o’r gwisgoedd yn arbennig!

Mwynhawyd parti Calan

Gaea’ gwych gan blant a staff

Clwb Gwyliau Pandas yn sir

Casnewydd yn ystod wythnos

hanner tymor. Mae clwb Pandas,

sydd wedi tyfu o lond dyrnaid o

blant i lenwad llawn, mewn dwy

fl ynedd, yn un o’n llwyddiannau

mawr.

Roedd y parti hefyd yn llwyddiant

mawr, a phwy ddaeth i ymweld

ond Mr T Ricks, clown hynod o

boblogaidd ymysg y plant a’r

staff!

Gwasanaeth

Gwybodaeth

i Deuluoedd

Caerffili

Mae gwasanaeth gwell

i deuluoedd lleol wedi ei

gwneud hi hyd yn oed yn

haws bellach i ddod i wybod

am ofal-plant yn lleol, a hyn o’ch cartref eich hun ac yn eich amser

eich hun! Ar godi’r ffôn, neu ar gliciad llygoden, o ganlyniad i lansiad

y gwasanaeth estynedig hwn, cynigir arweiniad a chyngor i rieni

a gofalwyr am ddim. Gallwch, yn ogystal, alw draw i’n canolfan

taro-i-mewn neu gysylltu â ni drwy e-bost neu’r post cyffredin. Ac

nid dyna’r unig newid! Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth Plant, a

lansiwyd yn 2004, yn mynd yn hŷn, ac mae’r newid yn yr enw i

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn adlewyrchiad o natur

ehangach y wybodaeth y mae’n ei darparu ar gyfer plant, pobl

ifanc, rhieni a phobl broffesiynol.

Ar y diwrnod lansio ar Hydref 23ain, aeth y gwasanaeth ar daith,

o’r Tuneful Tots yn Llyfrgell Caerffi li, i brosiect y Mamau Ifanc yn

y Coed-duon, gan gyrraedd ei benllanw yn Ysgol Gynradd Tyn y

Wern a Chlwb Ôl-Ysgol Tigers, a chan ddarparu sesiynau stori a

chwarae ar hyd y ffordd.

Mae’r lansiad swyddogol yn dathlu’r holl waith caled a wnaed i

ddatblygu’r gwasanaeth i bobl leol ac i wneud y wybodaeth sydd

ar gael i deuluoedd a phobl ifanc mor hygyrch â phosibl. Bydd y

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd hefyd yn cynnig ystod o

wybodaeth ynglŷn ag iechyd teuluol, cefnogaeth deuluol ac all-

gyrraedd at rieni er mwyn eu cyfeirio at wasanaethau, cefnogaeth

a gwybodaeth arbenigol, gan gynnig cyngor ar leoliadau Addysg

y Blynyddoedd Cynnar a gwybodaeth am weithio a hyfforddi yn y

maes gofal plant.

Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn cynnig cyngor

cyfrinachol, diduedd, am ddim drwy’r blynyddoedd - plant bychain,

y blynyddoedd ysgol, a phobl ifanc hyd at 25 mlwydd oed. Pa

un ai ydych yn rhiant sy’n dewis meithrinfa neu weithgaredd i

fabanod, neu’n berson ifanc sy’n edrych am glwb ieuenctid neu

wybodaeth am iechyd a lles, gallwn gynorthwyo!

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (01443) 863232 www.

caerphilly.gov.uk/fi s neu e-bostiwch fi s@caerphilly.gov.uk

Clwb Hwyl Llywelyn oedd y cyntaf i gymryd

rhan mewn sesiwn Bod Ynddi Hi am Fwyd

yn Sir Ddinbych dros wyliau’r haf. Cymerodd

pymtheg o blant ran yn y gweithgaredd, ac

roeddent i gyd yn frwdfrydig iawn, yn holi

cwestiynau ac yn cymryd rhan. Roedd yr holl

blant yn awyddus iawn i wneud byrbryd iach

iddynt eu hunain, a gwnaethant hyd yn oed

ystyried yr Uwch-Weithiwr Chwarae, Martine,

wrth rannu’r salad ffrwyth. Gan eu bod yn

awyddus iawn i fwyta eu byrbrydau iach, a

chan i’r gweithgaredd ddigwydd cyn amser

cinio’r plant, gobeithio nad aeth gormod o’u

pryd yn wastraff!

Her Nadolig Llawn

o gwmpas y Byd!

Ellwch chi ddweud “Nadolig Llawen”

mewn gwahanol ieithoedd wrth bob

person yn eich clwb?

Nadolig Llawen

Joyeux Noel

Milad Majid

Gledileg Jol

Maligayan

Feliz Natal

Feliz Navidad

Sawadee Pee

NEWYDDION!

C A ydych wedi cwblhau’r cwrs Tystysgrif

mewn Gwaith Chwarae, ond yn ddiweddar wedi

colli dyddiad cau allanol diweddaraf CACHE?

A

Os felly, mae’n hynny’n …

…Newyddion Da!

Anoga Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs fyfyrwyr

i gyfl wyno unrhyw aseiniadau YN AWR fel gellir

cyfl wyno eu henwau ar gyfer asesiad allanol mis

Chwefror CACHE.

Dowch yn eich blaen, mae’r gallu ynoch - cysylltwch

â’ch Hyfforddwr i’ch llywio drwyddo!!!

6 Y Bont Y Bont 7

Prosiect Clybiau Plant

Y Prosiect Clybiau Plant yn chwyddo Clybiau

Gofal Plant All-Ysgol

Daeth gweithgareddau’r Prosiect Clybiau Plant i ben, wedi 3 blynedd, ar

Fedi’r 30ain. Yn ystod yr adeg hon, rydym wedi rhoi grantiau gwerth £1.4

miliwn i ddechrau 116 o glybiau newydd, i gynnal clybiau sy’n bodoli’n

barod, i gymorthdalu ffi oedd yn achos rhieni sy’n analluog i’w talu, ac i

ariannu gweithwyr help llaw ac un-i-un i blant ag anghenion arbennig.

Enillodd 4,800 o weithwyr chwarae newydd a chyfredol fudd o’r

cyrsiau hyfforddi di-dâl canlynol:

Blas ar Chware

Cyfl wyniad i Waith Chwarae

Cymorth Cyntaf

Amddiffyn Plant

Hylendid Bwyd

Iechyd a Diogelwch

Hyrwyddo Ymddygiad Positif

Herc, Cam a Naid

Chwarae Teg

Tystysgrif Lefel 2 CACHE mewn Gwaith Chwarae

Diploma Lefel 3 CACHE mewn Gwaith Chwarae

Gwobr Lefel 3 CACHE mewn Gwaith Chwarae ar gyfer Gweithwyr

y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant (Gwobr Drosiannol)

Sgiliau Busnes (7 Pwnc)

Mynychodd nifer o’r 4,800 o

gyfranogwyr y prosiect fwy nag un

cwrs, gan roi cyfanswm o 8,200 o

gyrsiau i gyd.

Mae cynnwys a deunydd y cyrsiau

wedi eu hadolygu yn seiliedig ar y

profi ad o gyfl wyno’r cyrsiau hyn i

gannoedd o weithwyr chwarae.

Bydd modd i Clybiau Plant Cymru

Kids’ Clubs barhau i ddarparu’r

cyrsiau hyn lle ceir ariannu ar eu

cyfer.

Yn ychwanegol at grantiau

a hyfforddiant, cynhyrchodd

y prosiect amrywiaeth o

gyhoeddiadau ac adnoddau a fydd

yn cefnogi ansawdd ac arloesedd

mewn gofal plant all-ysgol am

fl ynyddoedd i ddod.

Mae ein llyfr, Clybiau Plant

- Datrysiadau, yn disgrifi o

canlyniadau astudiaeth y prosiect

o glybiau arbennig ac arloesol.

Pwrpas yr astudiaeth oedd

bwydo’r gwneuthurwyr polisi a

chefnogi clybiau yng Nghymru

yn eu hymdrechion i fod â’r

ddarpariaeth orau ar gyfer plant

a’u teuluoedd. Rydym wedi

cofnodi’r profi adau o sefydlu 16 o

glybiau arbennig ac arloesol, ac

wedi disgrifi o enghreifftiau eraill

o arferion arloesol a da o glybiau

sy’n bodoli’n barod ledled Cymru.

Gellwch lawrlwytho’r llyfr am ddim

o’n gwefan.

Mae’r pecynnau adnodd Parth yn

cynnwys syniadau ymarferol ar

gyfer gweithgareddau, gemau, celf

a chrefft, a mwy. Ynddynt dowch

o hyd i weithgareddau ar natur a

gwahanol ddiwylliannau, ac maent

yn cynnwys syniadau ar gyfer plant

hŷn a phobl ifanc. Datblygwyd y

Clybiau Plant

- Datrysiadau

yn dangos arloesedd ac arferion da mewn clybiau gofal plant

Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs,

Tŷ’r Bont, Ffordd yr Orsaf,

Llanisien, Caerdydd. CF14 5UW.

Ffôn: 029 2074 1000 Ffacs: 029 2074 1047

E-bost: info@clybiauplantcymru.org Y We: www.clybiauplantcymru.org

Cwmni cyfyngedig drwy warant 4296436. Elusen Gofrestredig 1093260.

pecyn Parth Marchnata i gefnogi

rheolwyr a gweithwyr chwarae wrth

iddynt ddatblygu eu clybiau. Mae’r

pecynnau ar gael i’w lawrlwytho

o adran aelodau’r wefan. Mae’n

bosibl fod copïau’n dal ar gael

i glybiau cymwys. Cysylltwch

â’ch swyddog datblygu os am

wybodaeth bellach.

Hefyd, cynhyrchodd y prosiect

arfaethiaduron - mawr maint

A1, posteri lliw llawn wedi eu

lamineiddio - a anfonwyd i glybiau

ym mis Medi.

Gobeithio y cewch yr adnoddau

hyn i gyd o gymorth i chi.

Rhan-ariennir y prosiect hwn gan yr

Undeb Ewropeaidd drwy

Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae perchnogion cwmni

gofal plant Sir Benfro, Happy

Days (Cymru) Cyf. wedi eu

dewis i fynd drwodd i gam olaf

Gwobrwyon Meithrinfeydd 2008

am Ddatblygiad Busnesau

cylchgrawn ‘Nursery Manager

Today’. Mae’r partneriaid,

Debbie Forrest a Helen Mathias

yn rhedeg 5 lleoliad gofal-dydd ar

draws Sir Benfro, gan gynnwys

3 chlwb ôl-ysgol.

Bu’r busnes, sydd wedi bod

yn weithredol am 10 mlynedd,

mewn un lleoliad yn unig, ond

cafwyd datblygu ac ehangu

4 safl e ychwanegol yn y tair

blynedd diwethaf. Ag un safl e’n

rhan o Ganolfan Integredig i

Blant cyntaf sir Benfro, ac un yn

rhan o barc hamdden a gwyliau

aml-fi lwin newydd sbon Y Garreg

Las, mae’r perchnogion wedi

profi eu gallu i weithio’n amlasiantaethol.

Mae’r cwmni wedi

cyfl awni nifer o gampau eraill

gan gynnwys sicrwydd ansawdd

Cylchoedd Chwarae Cyn-Ysgol

Cymru, pob gwobrwyon Gradd

1 Estyn, gwobr efydd hylendid

bwyd, y feithrinfa ddydd gyntaf

yng Nghymru i ennill statws

Ysgolion Iach, a hefyd ennill lle

ymhlith buddugwyr Gwobrwyon

Busnes Sir Benfro.

Dywed y perchnogion eu bod yn

parhau i anelu at well ansawdd,

a’u bod yn edrych ar yr holl ffyrdd

y gallant gynorthwyo rhieni’r

dyddiau hyn a’u bywydau teuluol

prysur.

A ydych chi wedi derbyn,

neu gael eich enwebu am

wobr? Rhowch wybod i ni!

Anfonwch eich llythyrau

a’ch ffotograffau atom

yn: Newyddlen, Clybiau

Plant Cymru Kids’ Clubs,

Tŷ’r Bont, Ffordd yr Orsaf,

Llanisien, Caerdydd. CF14

5UW neu ebostiwch

info@clybiauplantcymru.org

Llwyddiant Llon!

Mae pentrefperyglon yn ganolfan

addysg ryngweithiol sydd wedi ei

adeiladu i’r pwrpas, ac mae wedi

ei wobrwyo am ei waith. Ei nod

yw addysgu plant, pobl ifanc a

chymunedau eraill ar draws Gogledd

Cymru ar sut i osgoi risgiau ac aros

yn ddiogel. Targed pentrefperyglon,

a leolir yn Sir y Ffl int, ac sy’n

gwasanaethu pob rhan o Ogledd

Cymru, yw dysgu pob plentyn ym

Mlynyddoedd 5 a 6 ysgolion cynradd

am ddiogelwch a sgiliau bywyd, a

hynny drwy gyfrwng taith wedi ei

chynllunio ar hyd yr adeilad. Y mae’r

ganolfan, fodd bynnag, yn croesawu

nifer o grwpiau eraill yn ogystal, a

gall gynnig tripiau i grwpiau oed

cymysg, rhwng 4 ac 11 blwydd oed

yn ystod gwyliau’r ysgol.

Mae cynllun canolfan pentrefperyglon

o’r ansawdd uchaf; rhoddir sylw i

fanylion, ac y mae’n gwbl hygyrch,

dwyieithog a rhyngweithiol.

Mae’r sefyllfaoedd yn cwmpasu’r

holl amgylcheddau y gallai plant

ganfod eu hunain mewn risg

ynddynt. Maent yn cynnwys tŷ â

chegin ynddo, ystafell ymolchi a

gardd, safl e adeiladu, parc, is-orsaf

drydan, lôn gefn dywyll, gorsaf

fysiau, cerbyd a thrac trên, fferm,

mynydd, cronfa ddŵr, traeth a dŵr,

heol ac arni groesfan pelican, y

rhyngrwyd, ffôn symudol, siop ac

efelychydd gyrru. Mae’r rhain i gyd

wedi eu hadeiladu mewn ffordd

realistig, ond tebyg i set ffi lm.

Mae’r taith ddiogelwch gan weithwyr

sesiynol sydd wedi eu hyfforddi i

safon uchel. Mae pentrefperyglon

wedi croesawu 18000 o ymwelwyr

drwy ei ddrysau ers dechrau

2006, ac mae’n edrych ymlaen at

groesawu llawer mwy yn ystod y

fl wyddyn i ddod.

8 Y Bont Y Bont 9

Newyddion Ariannu

Bwrdd Newydd

PLANT MEWN ANGEN

– PEDWAR DYDDIAD

CAU!

Ail-ymddangosodd apêl deledu

Plant mewn Angen ar nos

Wener, Tachwedd 14eg, ac

rwy’n siŵr bod nifer o glybiau

wedi trefnu digwyddiadau codi

arian ar gyfer yr achos da hwn.

Ond a ydych wedi meddwl am

wneud cais am grant Plant

mewn Angen ar gyfer eich clwb

chi?!

Y dyddiad cau nesaf ar gyfer

ceisiadau ar grant yw Ionawr

15ed 2009, felly mae gennych

beth amser cyn y Nadolig i

weithio ar eich cais.

Fel Ariannwr, Datganiad

Cenhadol Plant mewn Angen yw

“i newid mewn ffordd gadarnhaol

fywydau plant a phobl ifanc dan

anfantais yn y DU”,

Mae gan Blant mewn Angen

BEDWAR dyddiad cau ar hyd y

fl wyddyn.

Ionawr 15fed 2009

Gwobrwyir erbyn diwedd mis

Ebrill.

Ebrill 15fed 2009

Gwobrwyir erbyn diwedd mis

Gorffennaf.

Gorffennaf 15fed 2009

Gwobrwyir erbyn diwedd mis

Hydref.

Hydref 15fed 2009

Gwobrwyir erbyn diwedd mis

Ionawr.

Dylai ceisiadau ganolbwyntio ar

y plant, a’r buddiannau a ddaw

i’r plant. Lle bo’n bosibl dylai’r

cais ddangos eich bod wedi

ystyried safbwyntiau’r plant.

Wrth geisio am y grant, a fyddech

gystal â sicrhau eich bod yn

cynnwys yr holl wybodaeth

y gofynnir amdani, ac mae’n

bwysig, hefyd, i sicrhau bod eich

costau blaenamcan mor gywir â

phosib.

Am arweiniad llawn ac am weld

ffurflen gais, ewch i’r wefan

www.bbc.co.uk/pudsey/grants

Os am gymorth i gwblhau eich

cais, cysylltwch â’ch Swyddog

Datblygu lleol.

Cynhaliodd Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs ei Gyfarfod Cyffredinol

Blynyddol yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod, ar Hydref 23ain 2008.

Diolch i’r holl glybiau a anfonodd eu ffurfl enni pleidlais ddirprwy i ddatgan eu penderfyniad ar

gyfansoddiad y Bwrdd Ymddiriedolwyr ar gyfer y fl wyddyn i ddod. Mae’n bleser gan Clybiau Plant

Cymru Kids’ Clubs gyhoeddi ei Fwrdd Ymddiriedolwyr newydd fel a ganlyn:

I gynrychioli De Ddwyrain Cymru

Isobel Yacomen (Victoria After School Club, Torfaen)

Karen Maylin (Overmonnow Kids Club, Sir Fynwy)

Susan Driscoll (Busy Bees Blaenafon, Torfaen)

I gynrychioli Gorllewin Cymru

Caroline Roberts (Clwb Llangeler, Sir Gaerfyrddin)

I gynrychioli Gogledd Cymru

Alison Jones (Perth y Terfyn, Sir y Fflint)

Ron Davies (Clwb Friends, Ysgol Iau Acton)

Ymddiriedolwyr a Gyfetholwyd

Grainne McDonagh

Stephen Lambert

Diane Daniel (o Ionawr 1af 2009)

Diolch i bawb a safodd i gael eu hethol eleni, a’r rhai hynny

sydd wedi gorffen eu tymor ar ein Bwrdd Ymddiriedolwyr

eleni – rydym yn wirioneddol ddiolchgar am eich holl

gefnogaeth ac ymrwymiad i Clybiau Plant Cymru Kids’

Clubs. Gobeithiwn weld pob un o’r Ymddiriedolwyr

newydd yn y cyfarfod cyntaf ar Ragfyr 11eg yng Ngwesty’r

Metropole, Llandrindod.

Mae seddau ETO i’w

llenwi!

Y mae rhai lleoedd gwag yn dal ar

gael er mwyn i ragor o’n haelodglybiau

gael eu cynrychioli ar

Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Mae’r

lleoedd canlynol yn wag:

2 lle gwag yn Ne Ddwyrain

Cymru

2 lle gwag yn Ngorllewin Cymru

2 lle gwasg yng Ngogledd Cymru

Os ydych â diddordeb mewn

dod yn Ymddiriedolwr Clybiau

Plant Cymru Kids’ Clubs am y

fl wyddyn 2008/9, yna cysylltwch

â’r Rheolydd Gweinyddiaeth ar;

029 2074 1000 neu anfonwch

ebost at: recruitment@clybiaupla

ntcymru.org

A ydych yn derbyn ein bwletin

e-ariannu misol? Os nad

ydych, cysylltwch â ni gan

roi eich cyfeiriad e-bost,

ac fe’i hanfonnir atoch yn

uniongyrchol.

Dylid anfon y manylion i: memb

ership@clybiauplantcymru.org

PEIDIWCH Â METHU’R

DYDDIADAU CAU PWYSIG

Llongyfarchiadau i’r clybiau

canlynol yn Sir Gaerfyrddin a oedd

yn llwyddiannus yn ddiweddar yn

eu hymgais i sicrhau ariannu grant

gan Gymdeithas Gwasanaethau

Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin:

Clwb Y Felin,

Clwb Sbri Ni a

Clwb Ôl-Ysgol San Paul

Hefyd, roedd Clwb Gwyliau

Plant Y Bedol, Clwb Hwyl a

Sbri Betws a Chlwb Ôl-Ysgol Y

Ddwylan oll yn llwyddiannus yn

eu ceisiadau am grantiau Arian

i Bawb.

Croeso i Dîm Gogledd Cymru!

Hoffai Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs

groesawu Nicole Lovatt, sef Gweithiwr

Cefnogi newydd Sir Conwy. Bydd profi ad

Nicole o weithio mewn clwb ôl-ysgol yn

Abergele yn amhrisiadwy, gan fod ganddi

ddealltwriaeth dda o broses gofrestru

AGGCC, a chan ei bod yn gyfarwydd â

throeon clwb plant o ddydd i ddydd. Dros

yr ychydig wythnosau nesaf bydd Nicole a

minnau (Denise Jones – Swyddog Datblygu)

yn ymweld â’r holl glybiau i’r diweddaru ar y

digwyddiadau i ddod.

Newidiadau i staff Tîm Gorllewin

Cymru

Mae Tim Moss – Swyddog Datblygu Sir

Benfro, Claire Lewis - Gweithiwr Cefnogi

Castell-nedd Port Talbot, Glyn Ashton –

Gweinyddydd yn swyddfa Abertawe, a Joan

Wilks – Swyddog Hyfforddi, erbyn hyn wedi

gadael Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, a

hoffem ddiolch iddynt am eu gwaith caled, a

dymuno’n dda iddynt.

Hoffem hefyd longyfarch Sally Gillham yn ei rôl

newydd fel Swyddog Datblygu Ceredigion.

10 Y Bont Y Bont 11

Diwylliannau a’r Dolig

Yn methu â dod o hyd i syniadau newydd ar gyfer tymor y Nadolig? Pam na rowch chi gynnig ar

rai gweithgareddau Nadolig o’n pecyn Parth Diwylliant?

Ojo de Dios

Beth fyddwch eu hangen

dau bren lolipop

gwlân mewn gwahanol liwiau, e.e. coch, gwyrdd a gwyn

– lliwiau baner Cymru

siswrn

glud

Rhybudd Iechyd a Diogelwch

Gall plant iau fod angen mwy o help.

Beth i’w wneud

1. Gludiwch y prennau lolipop ar siâp croes, ac yna gadewch iddyn nhw sychu.

2. Marciwch y prennau, 1,2,3,4 (gan fynd o gwmpas y groes yn yr un drefn).

3. Dechreuwch ar rif 1, a, chan weithio i’r un cyfeiriad, lapiwch y gwlân o gwmpas y pren (1) ac yna ewch i rif

2, yna 3, ac yna 4, gan wneud hyn dro ar ôl tro.

4. Torrwch ddiwedd y darn o wlân i ffwrdd, a dechreuwch eto â lliw arall. Parhewch i newid y lliw tan fo’r groes

i gyd wedi ei gorchuddio. Diogelwch y pen drwy ei glymu o gwmpas y pren olaf.

5. Byddwch wedi gorffen pan fo’r prennau lolipop wedi eu gorchuddio i gyd.

Ffaith Ryfeddol

Ym Mecsico, gwnaed y llygad canolog ar enedigaeth plentyn. Bob blwyddyn ychwanegwyd tipyn o wlân

nyddu tan i’r plentyn gyrraedd 5 mlwydd oed. Yna roedd yr Ojo yn gyfl awn. Ym Molifi a gwnaed ‘Llygaid Duw’

i’w rhoi ar allor fel bod y duwiau’n gallu gwylio dros y bobl weddigar, a’u hamddiffyn.

Wycinanki

Beth fyddwch eu hangen

Papur

Siswrn

Rhybudd Iechyd a Diogelwch

Efallai y bydd angen mwy o help ar blant iau.

Beth i’w wneud:

1. Plygwch ddarn o bapur yn ei hanner.

2. Tynnwch ddyluniad syml ar y papur, e.e. siâp coeden

neu aderyn. Lliwiwch unrhyw ddarnau yr ydych

am eu torri allan, i’ch helpu.

3. Yn ofalus, torrwch allan eich dyluniad gan wneud yn

siŵr nad ydych yn torri drwy’r plyg, fel bod gennych, yn

y diwedd, adlewyrchiad union o’ch dyluniad.

4. Gellwch ei wneud allan o bapur gwneuthuro yn

hytrach na phapur gwyn, plaen, am ychydig o amrywiaeth.

5. Ceisiwch wneud plu eira, gan ddefnyddio techneg

debyg, ond trwy dorri darn cylch o bapur a’i blygu 3

gwaith neu 4.

Ffaith Ryfeddol

Celf gwerin draddodiadol o Wlad Pwyl yw Wycinanki.

Defnyddiwyd y toriadau papur gwerinol hyn gan

werinwyr y wlad yn y 19eg ganrif i addurno eu tai. Gan

amlaf byddent yn hongian yr addurniadau hyn ar waliau

gwyn ac ar hyd trawstiau nenfwd i wneud y tŷ’n fwy

siriol. Mae’r toriadau papur gan amlaf yn gymesur â

dyluniadau o fyd natur,

llawer o geiliogod a

siapau geometrig. Fe’u

defnyddir hefyd ar

gyfer achlysuron megis

Nadolig (efallai coeden

Nadolig gymesurol). Mae

ganddyn nhw haenau

hefyd weithiau (toriadau

o wahanol liwiau wedi eu

gosod un ar ben y llall)

i wneud dyluniad mwy

cymhleth.

12 Y Bont

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!