Pennod o atgofion Janet D. Roberts, O Ben Ll?
Pennod o atgofion Janet D. Roberts, O Ben Ll?
Pennod o atgofion Janet D. Roberts, O Ben Ll?
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Rhagor o atgofion am ddyddiau ysgol a chartref

(y print trwm yn dynodi deunydd Llên Natur wedi ei gynnwys yn y prif

cronfeydd data priodol)

Ychydig o gof sydd gennyf am ddyddiau cynnar ysgol, ond gwn i mi gychwyn yn

ysgol Sarn Bach, Llŷn, pan oeddwn yn bum mlwydd oed, yn y flwyddyn 1909.

Pump oedd yr oed penodedig i bawb ddechrau, ac nid oedd neb o dan bump i gael

mynediad o gwbwl. Crybwyllais eisoes y 'galeri' oedd yn ystafell y babanod ac yn

ystafell y dosbarth cyntaf ac ail. Ar y gwastad yn y ddwy ystafell yr oedd desgiau

hirion, a sgriw mawr ar dalcen y darn i ysgrifennu arno i'w codi a'u gostwng fel y

byddai'r angen.

Yn y 'galeri' yr eisteddem i gael gwers ganu, adrodd a gwrando stori, ac yn y

desgiau di-gefn i wneud pob gwaith arall. Yr oedd rhigol ar hyd y desgiau i ddal

cerrig nadd, pensil neu'r pin ysgrifennu, a hefyd rhyw wyth o dyllau crynion tua

troedfedd oddi wrth ei gilydd i ddal poteli inc. O dan y ddesg yr oedd silff i gadw

llyfr neu gopi, a dyma le hawdd iawn i daro llaw dan y pot inc a gwneud llanastr

mawr.

Llech mewn ffram bren a cherrig nadd oedd ein hoffer ysgrifennu cyntaf.

Lle i wneud llechi ysgol oedd hen Ffatri Wlan Pen-y-groes ar y cychwyn.

Doctor Evan Roberts, tad y doctoriaid Roberts Pen-y-groes, a gychwynnodd y

ffatri lechi yma, a dyna pam y'i gelwir yn Injan Doctor hyd heddiw. Bu gwneud

llechi ysgol ar raddfa llai, yn Nhy Gwyn a Dolwenith, Llanllyfni, ond

Glanmorfa, Caernarfon a ddaeth yn brif ffynhonnell llechi ysgolion Sir

Gaernarfon. O ffyrm E.J. Arnold & Son Leeds, y deuai crynswth

angenrheidiau ysgolion ddechrau'r ganrif, a gwelid Arnold Leeds ar bob copi.

pensil a phren mesur.

Ar foreau oerion yn y gaeaf tasg caled iawn oedd ysgrifennu ar lechen oer.

Rhaid oedd cael dwr i lanhau'r llechi mewn potel a thwll yn y corcyn i ychydig

ddiferion o ddwr ddisgyn ar y llechen. Byddem wrth ein bodd yn cael mynd o

amgylch y dosbarth i rannu'r dwr. Rhaid oedd dod a chadach bychan o'n

cartref yn 'glwt llnau llechen'. Os poerai rhywun ar ei lechen a'r athro neu'r

athrawes yn digwydd ei weld, ceryddid ef yn llym.

Wrth son am foreau oerion, caf fy atgoffa am wahanol ffyrdd yr athrawon i

geisio'n cael i gadw'n gynnes. Ar ôl y gwasanaeth boreol gyda'r prifathro, dychwelai
pawb i'w ystafell ei hun a sefyll gan guro breichiau a dwylo ar draws y frest ar

unwaith, er mwyn cyflymu dipyn ar gylchrediad y gwaed. Caem 'drill' neu ymarfer

corff hefyd efo 'dym bels', dau bren caled esmwyth ar ffurf casgen a charn yn y

canol o un lwmp i'r llall. Caem ddau ohonynt, un ymhob haw, a gafael yn y earn,

ymestyn y breichiau fel y byddai'r athrawes yn gorchymyn: "Ymlaen, un, dau, i'r

ochr, un dau, i fyny un, dau" a tharo y 'dym bels' ar dri, byddem wrth ein bodd yn

clywed clec y taro. Byddai'r breichiau yn gwneud yr ymarferion hefyd heb y 'dym

bels', a phlygu lawr i gyffwrdd blaenau'r traed. Dyna ymarfer corfforol plant ysgol

ddechrau'r ganrif, y fath wahaniaeth sydd yn ein hysgolion modern heddiw, gyda'r

holl gyfarpar sydd yn yr ystafelloedd ymarfer corff ar gyfer chwaraeon ac

ymarferiadau yn saith ac wyth degau'r ganrif hon.

Byddai rhai ohonom yn lwcus i gael par o fenig gwlan i ddod i'r ysgol, rhai

lliwgar iawn hefyd. Gofalai mam y byddai gennym bar o'r pethau a elwid yn

'myffatis', sef darnau wedi eu gwau yn grwn fel dechrau menig, rhyw dair i bedair

modfedd o hyd, a'u gwisgo am y garddyrnau, gan y credai'r oes honno fod cadw'r

garddwrn yn gynnes yn bwysig, ac wrth gwrs yr oeddynt gennym drwy'r dydd, heb

angen eu tynnu o gwbwl.

Byddai gennym ni'r genethod 'muff, cylch crwn o ffwr yn hongian wrth

ddarn o gord am y gwddf, a rhoem ein llaw i mewn o bob ochr iddo i'w cadw'n

gynnes. Ambell waith byddem yn lwcus i gael ei wisgo yn yr ystafell, ond y rhan

amlaf ei adael yn y cyntedd oedd raid. Yr oedd pob math o 'muffs' ar gael, rhai

'ermine' gwyn a chynffonnau bychain duon arnynt, ond mwy cyffredin oedd y

rhai o groen cwningen neu groen twrch daear. Byddai fy nhad yn glanhau a

chrafu crwyn cwningod a thyrchod daear, a'u hoelio yn dynn i sychu ar gefn

drws un o'r adeiladau allanol, a byddai fy mam yn eu defnyddio i wneud 'muff'

neu sliperi i ni.

Hosanau gwlan wedi eu gwau gartref neu rhai o ffatri wlan a wisgid gan bawb.

Esgidiau trymion, cryfion a hoelion wedi eu curo i'r gwadnau, sbarblis fel y galwem

hwy, a rhai bechgyn yn gwisgo clocsiau ambell waith. Ffyrdd geirwon iawn oedd yn

y cyfnod hwnnw, heb son am ffyrdd tarmac, felly rhaid oedd cael y math yma o

esgid i gerdded y ffyrdd caregog.

Trowsusau penglin a wisgai'r bechgyn, crysbas a belt o'r tu ôl iddo, a choler 'India

rubber' wen, un digon anghyffyrddus mae'n siwr ond hwylus iawn i'w glanhau.

Ffrogiau o wlanen ffatri oedd gan y rhan fwyaf o'r genethod a bratiau o liain neu

gotwm gwyn a ffrilen ar y gwddf a bon y llewys.
Ar wahan i gofio dyddiau ysgol mae gennyf gof am hen drol isel, hir a merlyn

bychan yn ei thynnu, trol gwerthu llestri a chasglu carpiau.

Eiddo Sioni Croli o Bwllheli oedd y drol yma, 'J. Crawley Esq. Rag and bone

merchant' oedd yr ysgrifen ar ei hochr. Ym mhen blaen y drol gorffwysai sacheidiau

o garpiau wedi eu casglu o dy i dy. Yn narn ôl trol Sioni byddai pob math o lestri o

bob lliw a Hun, llestri te, dysglau, powliau, potiau llaeth a phedyll pobi, sydd mor

brin heddiw. Yn wir nefoedd o le i ferched oedd sefyll wrth y drol yn edmygu'r

gwahanol lestri.

Y pris amdanynt oedd hyn a hyn o bwysi o garpiau, ac ambell waith byddai'n

rhaid rhoi ychydig geiniogau gyda'r carpiau i wneud y pris i fyny, dro arall byddai

rhyw ychydig geiniogau o newid, a cheid cwpan neu blat i unioni'r diffyg.

Cerbyd arall a ddeuai o gwmpas oedd cerbyd y dyn gwerthu penwaig.

Clywem ef yn galw "penwaig ffresh" neu "benwaig ffresh newydd ddod o'r

môr," o bell ffordd, a gwragedd y tai yn brysio gyda phres a phlat o dan eu

ffedog i brynu.

Ar ddechrau'r ganrif 'roedd bri mawr ar y capel a'i ordinhadau; dyna ein man

cyfarfod. Methodistiaid Calfinaidd oedd fy rhieni a thrwythwyd ni'r plant yn y

Rhodd Mam, yr Holwyddoreg, yr Hyfforddwr a Gwerslyfrau yn yr Ysgol Sul ar

gyfer yr Arholiad Sirol ac Arholiad y Gymanfa Ganu. Cawsai'r Beibl le blaenllaw

iawn yn ein gweithgareddau, trysorem ei hanesion a byddai adnodau ar ein cof.

'Roedd cyfarfodydd llenyddol yn boblogaidd iawn ddechrau'r ganrif, a chofiaf rai

yng nghapel y Bwlch ac ym Mwlchtocyn ac mae Eisteddfod Bwlchtocyn mewn bri

heddiw. Mae gennyf raglen "Eisteddfod Cilan, Pasg 1912" wedi ei hargraffu ar

napcyn papur a border o flodau pine tlysion fel ffram o'i gylch. Ar y gwaelod ceir

hysbyseb "Stoc helaeth o Lestri Llaeth ac Arfau Amaethyddol gan Tom Owen, Shop

y Maes, Pwllheli".

Argraffwyd gan W. Llewelyn Ellis, High Street, Pwllheli.

Treuliem lawer o'n hamser yng ngweithdy'r crydd yn cael clem neu bedol ar ein

hesgidiau, yn lle'r hyn a gollwyd wrth gerdded a rhedeg hyd y ffyrdd geirwon. Caem

gerydd hefyd am eu rhyddhau, wrth gicio carreg pan yn chwarae 'Porch', chwarae

'London' meddai plant Dyffryn Nantlle. Rhoddai'r crydd glwt ar esgid yn bur ami

pan fyddai wedi gwisgo yn dwll ar y cefn, a phrin y gwyddech bod yno glwt gan

mor gelfydd y gwaith. Llawenydd i ni'r genethod oedd cael esgidiau yn botymu i

fyny'r goes a thrwyn lledr Morocco yn sgleinio arnynt, lledr Morocco yn golygu

"patent leather' heddiw.
Amgylchiad arall a gofiaf yn dda oedd ras gychod Abersoch, 'Regatta', a

gynhelid bob blwyddyn ac sy'n dal mewn bri heddiw. Unwaith erioed y bum yno,

tua'r flwyddyn 1909 neu 1910. Cofiaf y byrddau gwerthu, 'Cheap Jacks' fel y'i

gelwid. 'Rwy'n cofio hefyd am ddyn yn boddi yno, mab Carreg y Plas, Aberdaron,

ond y cof mwyaf byw sydd gennyf yw gweld mab bach fy chwaer hynaf, a oedd

ddwy flynedd yn iau na mi, yno mewn pram fawr a fy ffrog bince i amdano. 'Roedd

bechgyn bach yn gwisgo ffrogiau ar ddechrau'r ganrif nes cyrraedd pump neu

chwech oed. Ni wyddwn bod fy mam wedi rhoi'r ffrog bine i William ar 61 i mi

dyfu allan ohoni, ond gwn i mi grio a gwneud stwr a cheisio tynnu'r ffrog oddi arno,

nes oedd gan mam a fy chwaer gywilydd ohonof. [Gweler “Regetta” J. Owen Jones,

Crowrach, Bwlchtocyn yn y Dyddiadur]

Anodd iawn yw i bobl ieuainc y dyddiau yma ddirnad bywyd ddechrau'r ganrif,

heb drydan, heb set deledu, heb ystafell ymolchi, heb ddwr poeth ac oer yn y cartref,

heb wres canolog, a llawer mwy o foethusrwydd fel compiwtar, tap fideo a'r holl

offerynnau canu. Teimlad digon braf cofiweh yw bod wedi profi o fywyd hanner

cyntaf y ganrif a pharhau, yn yr ail hanner, i fwynhau ychydig o'r moethusrwydd a'r

gwelliannau am ychydig flynyddoedd eto mi obeithiaf.

Codwyd yr ysgrif hon o lyfryn Janet D. Roberts, O Ben Llŷn I Lle bu Lleu (Cyngor

Gwlad Gwnedd 1985)