Hanes Robin Gwyndaf am Sant Swithin a saint eraill y glaw
Hanes Robin Gwyndaf am Sant Swithin a saint eraill y glaw
Hanes Robin Gwyndaf am Sant Swithin a saint eraill y glaw
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Llên a Llafar Bro Hiraethog (36)

Colofn Robin Gwyndaf

Y SWITHIN A CHEWYDD Y GLAW

Os bydd hi'n glawio ar ddydd Gwyl Sant Swithin, sef y 15ed o Orffcnnaf, bydd

yn glawio am ddeugain niwrnod.

(Papur Bro Y Bedol, Mawrth 1983, 9)

Dyma, wrth gwrs, un o'r coelion tywydd mwyaf adnabyddus. Cyfeirir at enw'r Sant

yng Nghymru, fel arfer, wrth y ffurf Swiddin, neu Swithin (gan ynganu'r 'th' yn 'th'). I

gyfeirio at Ŵyl y Sant, neu'r cyfnod, defnyddir y fannod 'y' (e.e., 'Os deil hi'n braf tan

ar ôl y Swithin ...'). Mewn rhai rhannau o'r wlad, e.e. Gwynedd, defnyddir hefyd y

ffurf dafodieithol hyfryd 'Switan'.

Mynegwyd y goel yn y rhigymau a ganlyn, a dichon fod eraill ar gael gyda man

amrywiadau:

Gwlaw ar Ddydd San Swithin,

Deugain ddaw i ddilyn.

Os glaw fydd Ddydd Gwyl Switan,

Glaw ddeugain niwrnod cyfan.

Os bydd dŵr ar ruddiau Swiddin,

Deugain dydd o ddwr fydd wedyn.

Os bydd gwen ar wyneb Swiddin,

Deugain dydd o wres a ganlyn.

Mae'n bosibl mai ychwanegiad diweddarach at y goel wreiddiol yw'r cyfeiriad yn ail

ran y pennill uchod at wres, er bod yr un goel yn cael ei mynegi mewn pennill tebyg

o'r Alban:

Saint Swithin't day if ye do rain,

For forty days it will remain.

Saint Swithin's day and ye be fair,

For forty days twill rain nae mair.

Esgob Caer-wynt (Winchester) oedd Swithin, neu Swithinus, fel y cyfeirir ato yn

Lladin. Urddwyd ef yn y flwyddyn 852 a bu'n esgob hyd ei farw yn 862. Ar yr ail o

Orffennaf y bu hynny, a deil Eglwys Rufain i ddathlu ei wyl ar y dyddiad hwn. Yn

gyffredinol, fodd bynnag, dyddiad dydd Gwyl Sant Swithin yw'r 15fed o Orffennaf, a

cheir traddodiad diddorol sy'n gais i egluro paham y dethlir ei ŵyl ar yr union

ddyddiad hwn a sut hefyd y cysylltwyd y goel am y deugain niwrnod o wlaw a Sant

Swithin.

Yn ôl yr hanes dymuniad Swithin oedd cael ei gladdu yn y fynwent agored, yn

hytrach nag yng nghangell yr eglwys, fel yr oedd hi'n arferiad gydag esgobion a

mawrion eraill. Cyfeirir at hyn, er enghraifft, gan yr Esgob Hall yn ei 'Bregeth ar

Abraham yn prynu Ogof Machpelah yn lle beddrod'. Meddai'r Esgob: 'Dewisodd
Swithin gael ei gladdu yn y fynwent lle y byddai i wlith a gwlaw y nef wlychu ei

orweddfa, a lle gallai fforddolion dderbyn gwers ar wacter y byd wrth edrych ar ei

wely ...'

Ond pan ganoneiddiwyd Swithin yn sant gan Eglwys Rufain ymhen canrif a mwy,

tybiwyd na ddylid gadael corff gŵr mor enwog yn y gladdfa gyffredin, ac fe

benderfynwyd ei symud i gor yr Eglwys a'i osod mewn ysgrin ysblennydd wedi'i

pharatoi'n arbennig iddo gan y Brenin Egbert.

Y dyddiad a bennwyd ar gyfer symud y corff oedd y 15fed o Orffer.naf, 971, ond ar

yr union ddiwrnod hwnnw gwlawiodd mor drwm - a pharhau i wlawio am 40 niwrnod

- fel na fedrcn nhw symud y corff hyd nes y peidiodd y gwlaw!

Traddodiad arall, yn arbennig yn Nyfcd, yw mai ar y 15fed o Orffennaf y dechreuodd

y Dilyw, ac fe gofiwn i hwnnw barhau am 40 niwrnod a deugain nos (Gen. VII, 12).

Er mai â Sant Swithin o Loegr yr ydym ni yng Nghymru ers canrifoedd bellach yn

cysylltu'r goel am 40 niwrnod o wlaw, yr oedd gennym ninnau gynt ein sant gwlaw

ein hunain. Dau yn wir.

Yr amlycaf ohonynt, yn arbennig yn ne Cymru, oedd Cewydd ap Caw, neu, fel y

cyfeirid ato mewn rhai rhannau o'r wlad, megis Morgannwg: 'Hen Gewydd y Gwlaw'.

Sant o'r 6ed ganrif oedd ef a chysylltir ei enw, er enghraifft, a Llangewydd, ger Pen-ybont

ar Ogwr, Morgannwg, ac eglwys Aberedw a Diserth, Maesyfed. Yr oedd yn fab i

Gaw o Brydyn (Pictland). Gorfodwyd ei deulu i adael eu tiriogaeth yn yr hen Ogledd

a dod i Gymru i fyw.

Dethlid ei ŵyl yntau tua'r un adeg a Sant Swithin, sef ar y laf neu'r 2il o Orffennaf

mewn rhai rhannau o'r wlad, ac ar y 15fed o Orffennaf mewn rhannau eraill. Y mae'r

amrywiaeth yn y dyddiadau (fel rhwng yr 2il a'r 15fed o Orffennaf gyda Sant Swithin)

yn deillio, o bosibl, o'r ansicrwydd a gafwyd yn sgil y newid o'r Hen Gyfrif (Calendr

Julian) i'r Cyfrif Newydd (Calendr Gregorian) yn 1752 - yn yr un modd ag y mae

Cwm Gwaun a'r cylch, yn Sir Benfro, hyd heddiw yn parhau i ddathlu'r Hen Galan

neu Galan Hen (ar 12-13 Ionawr).

Ceir o leiaf un rhigwm Cymraeg sy'n awgrymu i'r ŵyl (yn gysylltiedig a Sant Swithin

neu Sant Cewydd) gael ei dathlu ar un adeg ar yr 2il o Orffennaf, sef, mae'n debyg, y

dyddiad yn ôl y Cyfrif Newydd:

Yr ail o Orffennaf os gwlaw fydd yn disgyn,

Bydd gwlaw am fis cyfan rhyw chydig yn dilyn.

Cyfeirir at Gewydd a'r goel am y 40 niwrnod o wlaw, e.e., gan Lewis Glyn Cothi, y

bardd o'r 15fed ganrif. Mewn cywydd marwnad i Morgan ap Syr Dafydd Gam (gwr o

Beutyn a gladdwyd yn Llan-faes, Aberhonddu) dywed y bydd Gwlad Frychan (sef

Brycheiniog) yn wylo ar ei ôl am 40 niwrnod, a'r dagrau fel 'aweddwr', hynny yw,

'dwr glan, rhedegog'.

Gwlad Frychan am Forgan fydd

Ail i gawod Gwyl Gewydd;

Deugain niau dafnau dŵr
Ar ruddiau yw'r awyddwr:

Deugain mlvnedd i heddiw

Yr ŵyl y beirdd ar ôl y byw.

Y sant gwlaw arall ydoedd Sant Pedr, ac ymddcngys mai ef, yn hytrach na Chcwydd,

oedd y sant gwlaw amlycaf yng ngogledd Cymru. Dethlid ei ŵyl (yn ôl yr Hen Gyfrif)

ar yr 11eg o Orffennaf.

Yr oedd gan wledydd eraill yn Ewrop hwythau eu seintiau gwlaw, a'u gwyliau'n cael

eu dathlu ym misoedd Mehefin a Gorffennaf. E.e. yn Ffrainc: Sant Medrad (8 Meh.),

a Sant Gervais a Sant Protais (19 Meh.), yn Yr Almaen: Y Saith Gysgadur (27 Meh.),

yng Ngwlad Belg: Sant Godelieve (6 Gorll.).

Ond y cwestiwn i'w ofyn yn awr yw: pam y gred hon mewn seintiau gwlaw yr adeg

hon o'r flwyddyn? Anodd ateb cwcstiwn o'r fath ar ei ben, ond mentraf awgrymu

gymaint a hyn: mai'r prif reswm oedd ofn. Cysylltwyd y seintiau a gwlaw oherwydd y

dethlid eu gwyliau ar yr union adeg o'r flwyddyn yr oedd gan bobl fwyaf o ofn cael

gwlaw cyson, rhag iddo ddifetha'r cynhaeaf. Tystir i hyn, er enghriafft, mewn nifer o

rigymau. Rhoddid croeso arbennig i wlaw ym mis Mai:

Gwlaw ym Mai sy'n fara drwy'r flwyddyn.

Daw cawodydd mis Mai fel y llanw a'r trai.

Mai gwlybyrog ganddo cair

Llwythi llawn o yd a gwair.

Roedd peth gwlaw yn dderbyniol hefyd ym mis Mehefin:

Gwlaw Mehefin, cynnydd yr egin.

Mis Mehefin, gwych os daw

Peth yn sych a pheth yn wlaw.

Ond o ddiwedd Mehefin ymlaen y gobaith oedd ain gyfnod go dda o dywydd braf:

Tes Gorffennaf, ydau brasaf.

Y mae tymhestl Gorffennaf

Yn ddrwg ar les cynhaeaf;

Cyweiriwch wair a chludwch,

Rhag ofn gwlaw, nac oedwch.

Awst os ceir yn anian sych

Wna i Gymro ganu'n wych.

Mis Awst os bydd yn hindda

Ni wna niwed i'r cynhaea.
Anodd iawn i ni heddiw yw amgyffred mor hanfodol bwysig i'n cyndadau gynt oedd

cael hindda i gywain y gwair a'r yd. Mewn cyfnodau o dlodi roedd colledion ar adeg y

cynhaeaf yn golledion drwy'r flwyddyn.

Cofiaf pan oeddwn yn blentyn glywed fy Modryb Maggie (Mrs Margaret Jones), Plas

Nant, Llangwm, yn son am 'Y Weirglodd Wlaw' ar dir y ffarm. Ni feiddient gynt,

meddai hi, dorri'r gwair yn y weirglodd hon hyd nes y byddai amaethwyr eraill yr

ardal wedi cael eu gwair hwy i ddiddosrwydd, oherwydd y gred oedd: pan dorrid y

gwair yn y Weirglodd Wlaw, roedd y gwlaw yn siwr o ddod!

Ond pam 40 niwrnod? Haws ateb y cwestiwn hwn. Gwyddom fod rhai rhifau (3, 7 a

12, er enghraifft) yn rhifau ag iddynt arwyddocad arbennig iawn mewn llên gwerin.

Felly, y rhif 40. Cyfeiriwyd eisoes at y 40 niwrnod o Ddilyw, ond cofiwn hefyd mai

am 40 niwrnod y bu Sodom a Gomora yn llosgi; am 40 mlynedd y bu'r Israeliaid yn

yr Anialwch; am 40 niwrnod a 40 nos y bu'r Iesu yn cael ei demtio gan Ddiafol; ac

mewn rhai gwledydd, megis Iwerddon, un dull o gosbi drwgweithredwyr gynt oedd

peri iddyn nhw orfod aros yn noeth mewn dŵr oer am 40 niwrnod!

Papur Bro Y Bedol, Mawrth 1983, 9