Hanes Robin Gwyndaf am Sant Swithin a saint eraill y glaw
Hanes Robin Gwyndaf am Sant Swithin a saint eraill y glaw
Hanes Robin Gwyndaf am Sant Swithin a saint eraill y glaw
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Swithin gael ei gladdu yn y fynwent lle y byddai i wlith a gwlaw y nef wlychu ei

orweddfa, a lle gallai fforddolion dderbyn gwers ar wacter y byd wrth edrych ar ei

wely ...'

Ond pan ganoneiddiwyd Swithin yn sant gan Eglwys Rufain ymhen canrif a mwy,

tybiwyd na ddylid gadael corff gŵr mor enwog yn y gladdfa gyffredin, ac fe

benderfynwyd ei symud i gor yr Eglwys a'i osod mewn ysgrin ysblennydd wedi'i

pharatoi'n arbennig iddo gan y Brenin Egbert.

Y dyddiad a bennwyd ar gyfer symud y corff oedd y 15fed o Orffer.naf, 971, ond ar

yr union ddiwrnod hwnnw gwlawiodd mor drwm - a pharhau i wlawio am 40 niwrnod

- fel na fedrcn nhw symud y corff hyd nes y peidiodd y gwlaw!

Traddodiad arall, yn arbennig yn Nyfcd, yw mai ar y 15fed o Orffennaf y dechreuodd

y Dilyw, ac fe gofiwn i hwnnw barhau am 40 niwrnod a deugain nos (Gen. VII, 12).

Er mai â Sant Swithin o Loegr yr ydym ni yng Nghymru ers canrifoedd bellach yn

cysylltu'r goel am 40 niwrnod o wlaw, yr oedd gennym ninnau gynt ein sant gwlaw

ein hunain. Dau yn wir.

Yr amlycaf ohonynt, yn arbennig yn ne Cymru, oedd Cewydd ap Caw, neu, fel y

cyfeirid ato mewn rhai rhannau o'r wlad, megis Morgannwg: 'Hen Gewydd y Gwlaw'.

Sant o'r 6ed ganrif oedd ef a chysylltir ei enw, er enghraifft, a Llangewydd, ger Pen-ybont

ar Ogwr, Morgannwg, ac eglwys Aberedw a Diserth, Maesyfed. Yr oedd yn fab i

Gaw o Brydyn (Pictland). Gorfodwyd ei deulu i adael eu tiriogaeth yn yr hen Ogledd

a dod i Gymru i fyw.

Dethlid ei ŵyl yntau tua'r un adeg a Sant Swithin, sef ar y laf neu'r 2il o Orffennaf

mewn rhai rhannau o'r wlad, ac ar y 15fed o Orffennaf mewn rhannau eraill. Y mae'r

amrywiaeth yn y dyddiadau (fel rhwng yr 2il a'r 15fed o Orffennaf gyda Sant Swithin)

yn deillio, o bosibl, o'r ansicrwydd a gafwyd yn sgil y newid o'r Hen Gyfrif (Calendr

Julian) i'r Cyfrif Newydd (Calendr Gregorian) yn 1752 - yn yr un modd ag y mae

Cwm Gwaun a'r cylch, yn Sir Benfro, hyd heddiw yn parhau i ddathlu'r Hen Galan

neu Galan Hen (ar 12-13 Ionawr).

Ceir o leiaf un rhigwm Cymraeg sy'n awgrymu i'r ŵyl (yn gysylltiedig a Sant Swithin

neu Sant Cewydd) gael ei dathlu ar un adeg ar yr 2il o Orffennaf, sef, mae'n debyg, y

dyddiad yn ôl y Cyfrif Newydd:

Yr ail o Orffennaf os gwlaw fydd yn disgyn,

Bydd gwlaw am fis cyfan rhyw chydig yn dilyn.

Cyfeirir at Gewydd a'r goel am y 40 niwrnod o wlaw, e.e., gan Lewis Glyn Cothi, y

bardd o'r 15fed ganrif. Mewn cywydd marwnad i Morgan ap Syr Dafydd Gam (gwr o

Beutyn a gladdwyd yn Llan-faes, Aberhonddu) dywed y bydd Gwlad Frychan (sef

Brycheiniog) yn wylo ar ei ôl am 40 niwrnod, a'r dagrau fel 'aweddwr', hynny yw,

'dwr glan, rhedegog'.

Gwlad Frychan am Forgan fydd

Ail i gawod Gwyl Gewydd;

Deugain niau dafnau dŵr