10.07.2015 Views

Llysieulyfr Martha Jones

Llysieulyfr Martha Jones

Llysieulyfr Martha Jones

SHOW MORE
SHOW LESS
• No tags were found...

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Yn ystod mis Gorffennaf 2010derbyniodd ArchifdyMeirionnydd ddogfenanghyffredin a thra diddorol olaw boneddiges o FlaenauFfestiniog. Tra'n taclusocwpwrdd yn nhy ei chefnder,daeth Valmai Roberts, HeolGlynllifon ar draws blwch pren.Roedd ynddo lyfr ysgrifennutrwchus. Gorchuddiwyd ytudalennau rhwng ei gloriau agysgrifen copr plêt cain. Mesuraiddeg modfedd o hyd wrth wythmodfedd o led a thrwch ohanner modfedd. Ei gynnwysoedd traethawd ar lysiaumeddyginiaethol, eu rhinweddau amanylion sut i'w paratoi.Ganwyd yr awdures, Martha Jones ynLlangian, nid nepell o Abersoch ym MhenLlŷn ar y 13 o Ebrill, 1855. Ymfudodd eirhieni, Hugh ac Ellen Morris ac ymsefydluym Mlaenau Ffestiniog. Yn y cyfnodhwnnw roedd atyniad gwaith yn y chwareliyn denu llawer o bobl ledled GogleddCymru i'r dref. Wedi priodi John GriffithJones, mab Griffith Jones, Tre'r Ddôl feymgartrefodd y pâr ifanc yn 18 Sgwâr yParc yn y dref. Treuliodd y gweddill o'ihoes yn byw y drws nesaf i'w rhieni. Buiddi hi a'i gŵr dair merch a deg o feibion.Yr oedd enw Martha Jones yn drachyfarwydd i drigolion bro Ffestiniogoherwydd ei medrusrwydd fel llysieuwraig.Arferai baratoi moddion, yn ffisig ac yn eli,i gleifion mewn oes nad oedd llawer oddarpariaeth meddygol ar gyfer y werinboblyn y cyfnod. I rai na allent fforddiotalu i feddyg yr unig ateb oedd troi atfeddyg y plwyf ac yr oedd gwasanaeth addarperid ganddynt dan oruchwyliaethgwarcheidwaid yr Undeb yn gyfyngedig acyn aml o safon isel. Felly roedd gwrageddcyfarwydd yn chwarae rhan bwysig mewnLlysieulyfr Martha JonesMartha Jonesgweini ar eu cymdogion, rhai felbydwragedd, eraill felllysieuwyr. Arferai Mrs Jonesadael poteli o ffisig a blychau oeli ar fur yng nghefn ei chartrefi'r chwarelwyr eu casglu ar eutaith i'r bone. Roedd hefyd ynuchel ei pharch fel gwraig 'oeddyn agos i'w lle'. Ni ellir rhagoriar eiriau'r teyrnged iddi yn YRhedegydd, Ionawr 11, 1945:Perthynnai i Martha Joneshynodion arbennig iawn, ac felei chyfenw yn yr efengylderbyniodd i'w thy Geidwad ybyd. Meddai stôr o gynghoriongwerthfawr a fu'n gysur i'w chydfforddolion,a phwy ŵyr y golled, onidyw y rhai hyn wedi eu trysori ar gof achadw.Drwy graffter ei gor-wyres yn adnabodgwerth y llawysgrif mae'r dymuniad yn ydeyrnged wedi'i gyflawni a'r wybodaethwedi ei ddiogelu. Haedda'r llyfr astudiaetham nifer o resymau, y pennaf efallai oeddceisio darganfod ffynhonnell neuffynonellau'r wybodaeth. Er ceisiodarganfod patrwm arbennig cymharwyd ycynnwys a chynnwys deuddeg olysieulyfrau eraill, saith wedi'i cyhoeddi yngynnar yn y 19 eg ganrif a chynt, a thrimodern a gyhoeddwyd yn yr 20 ,ed ganrif.Ceir tri yn y Gymraeg, sef Llyfr DailDoctor David Thomas Jones, Llanllyfni, YLlysieulyfr Teuluol Edward Griffith,Abertawe a Rhys Price Cwmllynfell, aLlysieuaeth Feddygol, Thomas ParryGlangors, Tregarth yn boblogaidd. Ymhlifhy cyfrolau Saesneg a ddewiswyd ceir GreteHerbal, John Gerarde (1597), Herbal,Nicholas Culpepper (1649) a FamilyHerbal Syr John Hill (1745). Ynychwanegol, edrychwyd ar ddau glasur oran olaf y 19 eg ganrif a dechrau'r 20 fed .

Cyhoeddwyd cyfrol swmpus BenjaminMartin a Thomas Castle, sef British FloraMedica yn 1877 a chyhoeddwyd campwaithWilliam Fernie, sef Herbal Simples yn1914. Mae Griffith a Price yn yrhagymadrodd i'w gwaith yn mynegi eudyled i'r tri llyfr Saesneg anodwyd, gan ychwaneguiddynt 'at hynny (gynnwys)lawer oddi ar sylw agwybodaeth brofiadol'.Mae'r sylw hwn yn addasi waith Martha Jonesoherwydd mae'n amlwg fodllawer o wybodaeth yndeillio o nifer o destunau.Mae ffrwyth profiad hefydyn y testun a phwy a ŵyrnad oedd traddodiad llafarwedi chwarae ei ran. Unnodwedd llysieulyfrau'ngyffredinol yw fod yr awduron yndefnyddio llysieuyn penodol i drinanhwylderau pur wahanol i'w gilydd. Erhynny, y mae nifer o'r llysiau adnabyddusyn cael eu defnyddio i'r un pwrpas.Rhennir yr ysgrif yn ddwy ran, y cyntafyn un dudalen ar ddeg o restr enwauCymraeg a Saesneg, sef 289 o lysiau. Mae'rail ran yn trafod rhinweddau 258 ohonynt.Manylir ar y man y maent yn tyfu, y rhano'r planhigyn sydd i'w ddefnyddio, dail,blodau ac ati, a thymor eu blodeuo. Rhoddircyfarwyddid sut i'w paratoi, rhai mewnbrandi, eraill mewn eli. Fel ym mhob maesmae ymwybyddiaeth o ddiffygion ynogystal a rhinweddau'n hanfodol. Mae MrsJones yn rhybuddio rhag defnyddio rhai o'rllysiau er enghraifft: y bele dir (ffa'r moch,hyosyamus* niger) 'mae physigwyr yn eiarfer....ond mae yn enbyd iawn i nebarall...gan ei fod yn dra gwenwynig'.Eto parthed cegid (conium maculatum)'ond i'w i ymgymryd ag ef ond gan ycywrain yn unig, sef y physigwyr'. 'Doeddpabi coch yr yd (papaver somniferrum) i'wgymryd 'ond gyda mawr ofal o lawgywrain'. Ei gamddefnyddio i lawer un'wrth ei gymryd a gysgodd heb ddeffroFfa'r moch (Hyoscamus niger)byth”. Er i wragedd Rhufain ei ddefnyddio ibrydferthu eu hunain, gwenwyn marwol ywy gedowrach (atropa belladonna).Rhagnodwyd dau o'r llysiau uchod ganfeddygon hyd at saithdegau'r 20 fed ganrif.Yn y drafodaeth ceir nifer o sylwadautrawiadol, a rhai geiriau Cymraeganghyfarwydd. Ceir ambell ibrociad i'r meddygon megisparthed yr helygen wen (salixalba) iddynt yn eu culni ofeddwl: 'cadw'n ddirgel rhag i'rwerin wybod ei rhinweddau'.Roedd potel ffisig y meddyg ynfwy poblogaidd na thabledi hydat ail ran yr 20 fed ganrif. Un o'rrhai mwyaf poblogaidd oeddcymysgedd sodiwm salisylad atwaew, boed yn codi o'rcymalau neu glwyf y bladur,lymbego, ac yn ei hanfod sylwedd yrhelygen salicilin, oedd salisylad, Mae'nperthyn yn agos i asbirin a wnaethgyfraniad amhrisiadwy i gysuro'r werin ynei phoen. Mae cyfeiriad at yr arfer oddarogan newid tywydd drwy archwilio'rysgallen wen (carlina aucalis). Mae i'rllysieuyn hwn le arbennig mewn llêngwerin llysiau. Yn ôl y traddodiadymosododd pla ar fyddin yr ymherodr Siarla darlunnir ef yn penlinio i weddio amgymorth. Daeth yr Archangel Gabriel i'wgynorthwyo ac anelodd ef saeth a lanioddar blanhigyn wrth draed yr ymherodr, fellyyn datguddio'r feddyginiaeth.Un o bennaf werthoedd llyfr MarthaJones yw'r enwau Cymraeg a'r Saesneg. O'rdau gant pum deg ag wyth o lysiau nid yw'rterm Cymraeg am gant a deuddeg ohonyntrhwng cloriau Llyfr Dail D. T. Jones nagyng nghyfrol Griffith a Price. Mae niferfach ohonynt yng ngwaith Thomas Parry.Gellir olrhain rhai o'r enwau i EiriadurCymraeg a Lladin Thomas Wiliems, yclerigwr feddyg o Drefriw, a gyhoeddwyd1604-07. Gresyn iddo gael ei ddwyn o flaeny llys am rybuddio'r hen Syr John Wynne igadw i ffwrdd o'r Ty Cyffredin ar achlysurBrad y Powdr Gwyn! Cyfeiria E. Stanton

Roberts yn ei gyflwyniad i'w argraffiad oLysieulyfr William Salesbury at gymwynasyr awdur yn bathu enwau Cymraeg ilysiau.O ran diddordeb, edrychwyd am ytermau yn y ddau eiriadur safonol modern.Nid oedd pymtheg wedi'i cynnwys yngNgeiriadur Prifysgol Cymru ac roedd trideg un ar goll o Eiriadur yr Academi.Dichon mai penderfyniad y geiriadurwrysgolhaig o'r Blaenau a'i gydweithiwr oeddhepgor geiriau na ddefnyddir bellach sy'ngyfrifol am yr olaf.Nid enwau'r llysiau yw'r unig ryfeddodond mae nifer o dermau dieithr am glefydauyn y testun. Rydym yn gyfarwydd a llosgeira (llawer ohonom yn llythrennol!) ondnid yw y gibwst yn taro cloch. Tybed panifer o'r darllenwyr sy'n dioddef o'rfadronedd, sef y bendro; yndioddef o'r gwyntglwyf, sef y felanneu disgyniad yr eisteddfod, sefymwthiad allan rhan isaf y rectwmdrwy'r anws? Mae'r gair rhesglenam ganser yn y geg yn ddiddorol.Ymddengys fod y clwyf drwg,siffilis, wedi cyrraedd yr henwladac mae'r cyfeiriad ato fel clwyfgynffon yn awgrymiadol! I'rSaeson y Frech Ffrengig oedd acmewn adwaith 'The EnglishDisease' oedd dewis y Ffrancwyr.Mewn gwirionedd daeth y clefydyn gyntaf i'r Eidal gydadychweliad llongwyr ChristopherColumbus wedi darganfodAmerica. Yn ei dro galwyd yclefyd hwn yn frech sawl gwlad.Rhestrir amrediad eang oglefydau i'w trin a llysiau gan ywraig ddiwylliedig hon. Yn gyfangwblrhestrir saith deg chwech ohonynt gangynnwys rhai pur anghyffredin, megisbrathiad ci cynddeiriog (y gynddaredd) a'chlwyf y cleddyf Bleddyn', sef anhwylder yddueg. Tybed a oes rhyw ddarllenwrgwybodus ag eglurhad am 'cleddyfBleddyn’? Argymhellir nifer o'r llysiau idrin rhai clefydau nad oedd triniaethfeddygol iddynt yn y cyfnod hwnnw, rhaimegis parlys, y frech wen, (a diystyrubrechu i'w atal), y pla ac ati. Mae ynddofeddyglyn i lesmeirio pen tost hyd yn oedsy'n dilyn cyfathrach rhy agos a'r henheiddyn.Y ddau gyflwr a ymddangosodd amlaf ogryn nifer oedd y cryd melyn gyda chynifera phedwar deg llysieuyn i'w drin. Nodwydchwech deg wyth i'w defnyddio i wella'rdyfrglwyf. Disgrifir y clefyd hwn fel diffygrhyddhau dŵr o'r corff. Nid yw byseddcochion (digitalis purpurea) yn cael ei le i'rpwrpas hwn. Er hynny dyma'r dail a oeddfwyaf adnabyddus i annog troethlif. Yn ôlyr hanes bu i hen wraig gyfarwydd yn yrAmwythig ddatgelu ei gyfrinach i DoctorWilliam Withering, meddyg o Birminghamar ddiwedd y 18fed ganrif. Bu llawer oddyfalu pam nad oedd yneffeithiol ym mhob achos o'rdyfrglwyf. Gyda gwelldealltwriaeth sylweddolwyd eifod yn llwyddo mewn afiechydy galon ond nid dyfrglwyf oeddyn codi o anhwylder yr iauneu'r arennau Er hynnyargymhellwyd hwy i dringraean neu garreg yn y bledren,aflwydd a flinodd llawer o'nhenwogion, yn eu plith y PêrGaniedydd a Thomas JonesDinbych.Rhoddir amlygrwydd iglefydau benywod, yn arbenniganhwylderau'r clwyf misol.Mae dewis o wyth ar hugainllysieuyn i liniaru gorfislif,menorrhagia, ac un arhugain i gywiro diffygmislif, amenorrhea. Pwysleisir mai mewnachosion o ddiffyg hormonau ydefnyddiwyd y llysiau hyn i geisio annogmislif. Mae Martha Jones yn rhybuddio ynerbyn defnyddio dau neu dri llysieuyn eraillam eu bod yn gallu peri erthyliad. Ceirdeuddeg o gynghorion i drin y diferlifgwyn, lewcorrhea. Mae'r term 'mammog'yn amlwg yn y gwaith. Gall y term hwn fod(Plantago maritima)

yn cael ei ddefnyddio am y groth neu amlysieuyn, y feidiog Iwyd, (artemesiavulgaris) ag iddo enw da i drin nifer oglefydau'r rhyw deg. Mae cynghorion atwella cur pen, peswch, crygni, diffyg anadlac amrywiaeth o achosion o waedu.Ni fyddai unrhyw drafodaeth yn gyflawnheb son am glwyf y marchogion, clwyfcyffredin pan oedd y ceffyl yn un o brifgyfryngau cludiant.Prif achos marwolaethau ym Mhrydainyn y 19 ganrif a rhan gyntaf yr 20 fe oedd ydicau. Bu farw mab i Martha Jones ohono ahanner peint o lefrith poeth bedwar bore'n olynol a gollwng naw neu ddeg owns owaed o wythien. Ynadisgyn i ddwr oerbob bore am fis ac wedyn ddwywaith ynyr wythnos bymtheg mis.Mae'r driniaeth hon yn adlewyrchucyngor John Wesle at y clefyd yn ei BrifFeddyginiaeth, sef-Bwriwch eich hun dros eich pen i ddwfroer, bob dydd dros ugain niwrnod achedwch tano gyhyd a bo bosibl.Mae enw Lladin y clefyd, hydrophobia,Martha Jones gyda Valmai Roberts ar ei glingresynai yn fawr nad oedd yn gwybodmewn pryd am rinwedd 'pelydr Ysbaen' idrin y clefyd. Ysgrifennodd-Mi wn iddo wneuthur lles nid bychan i fymab dan y clwyf hwnnw, pe cawsai ef yngynharach buasai yn ei iachau ond y clwyfa'i dygai i borth y bedd ac iddo ydisgynnodd.Mae yn y llawysgrif bedwar deg pump olysiau nad ydynt yn yr un o ddeuddeg olysieulyfrau a gymharwyd â hi. Er fod nifero'r llysiau yn cael yr un defnydd yn ymwyafrif ohonynt mae llawer mwy yn caeldefnydd arbenigol gan unigolyn. Mae dewiso ddau blanhigyn i drin y gynddaredd, sefllyriad y mor (plantago maritima) neullysiau 'r dryw (hepatica). Roedd defod i'wdilyn-Cymysgu llysiau 'r dryw a phupur du achymryd dram, sylwer, ohono mewnwedi ei sefydlu drwy gam-dealltwriaeth,oherwydd nid ofn dwr yw ei nodwedd, ynhytrach methu llyncu dŵr oherwyddamhariad ar gyhyrau'r llwnc yw'r achos.Nid digon gan yr awdures gofnodimeddyginiaethau i fodau dynol ond maeganddi nifer o gynghorion i drin anifeiliaid,gwartheg, ceffylau, defaid a moch. Mae trinclafr ar ddefaid yn amlwg ac i geffylau maemeddyginiaeth i'r euon, (ysgyfeinwst).Ceisiwyd rhoi cipolwg ar gynnwys yddogfen hon mewn pwt o erthygl. Dichon ybydd cyfle i wneud mwy o gyfiawnder a'rtrysor hwn yn y dyfodol. Nid oes unrhywamheuaeth y byddai Martha Jones ynamenio geiriau'r Salmydd-Y mae efe yn dyfrhau y bryniau o 'iystafelloedd; y ddaear a ddigonir offrwyth dy weithredoedd. Y mae ynperi i’r gwellt dyfu i 'r anifeiliaid, allysiau i wasanaeth dyn.

ATODIAD: Rhestr clefydau a nifer yllysiau i'w trinAnhunedd (3), anhwylderau'r llygaid(19), annwyd (2), calon guro (3), canser(2), carreg yn y bledren (17),chwysgyffur (16), clefyd melyn (40),clunwst (I), clwyf y marchogion (14),clwyfau (12), clymyn gwaedu (14), colic(11), crygni (4), cryndod (1), cur pen(17), cyfoglyn (4), cymalwst (8), defaid(3), diferlif gwyn (12), diffyg anadl (17),diffyg mislif (27), dolur gwddf(2), dolurrhydd (13), dyfrglwyf (68),eisglwyf(l),jfitiau (6), gorfislif'(26),gravel (28), gwaedlif (25),gwallgofrwydd (1), gwynt (19), haintarennau (1), hunllef(2), iselder ysbryd(6), llyngyr (19), man anhwylderau (20),man gyflyrau (29), parlys (8), peswch(25), pesychu gwaed (14), poenaumisglwyf (2), rheumatic (15), rhwymedd(11), scrojfula (5), siffilis (4), tan iddew(1), tostedd troethi (5), troethi gwaed (2),twymyn (5), y bendro (4),y ddannodd(2),y dicdu (7), y frech wen (2), y gosfa(2), y gynddaredd (2), y llechau ( l ) , ypas ( 2 ) , yr eryr ( 1 ) , ysgyrfi ( 1 9 )Dr Edward J Davies (DrEddie) Cerrigydrudion*Nodyn golygyddol Prosiect Llên Natur: Cadwyd ffurf yr enwau Linneaidd fel y bo yn yffynhonnell a ddefnyddid yma (Rhamant Bro 2012 Rhifyn 31) gyda phrif-lythyren fach i’r enwgenerig yn hytrach na’r prif-lythren fawr safonol.Cyhoeddwyd y fersiwn hon o’r ysgrif gyda chaniatad Golygydd Rhamant Bro, ArchifdyMeirionnydd a Dr Edward Davies.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!