10.07.2015 Views

Llysieulyfr Martha Jones

Llysieulyfr Martha Jones

Llysieulyfr Martha Jones

SHOW MORE
SHOW LESS
• No tags were found...

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Cyhoeddwyd cyfrol swmpus BenjaminMartin a Thomas Castle, sef British FloraMedica yn 1877 a chyhoeddwyd campwaithWilliam Fernie, sef Herbal Simples yn1914. Mae Griffith a Price yn yrhagymadrodd i'w gwaith yn mynegi eudyled i'r tri llyfr Saesneg anodwyd, gan ychwaneguiddynt 'at hynny (gynnwys)lawer oddi ar sylw agwybodaeth brofiadol'.Mae'r sylw hwn yn addasi waith Martha Jonesoherwydd mae'n amlwg fodllawer o wybodaeth yndeillio o nifer o destunau.Mae ffrwyth profiad hefydyn y testun a phwy a ŵyrnad oedd traddodiad llafarwedi chwarae ei ran. Unnodwedd llysieulyfrau'ngyffredinol yw fod yr awduron yndefnyddio llysieuyn penodol i drinanhwylderau pur wahanol i'w gilydd. Erhynny, y mae nifer o'r llysiau adnabyddusyn cael eu defnyddio i'r un pwrpas.Rhennir yr ysgrif yn ddwy ran, y cyntafyn un dudalen ar ddeg o restr enwauCymraeg a Saesneg, sef 289 o lysiau. Mae'rail ran yn trafod rhinweddau 258 ohonynt.Manylir ar y man y maent yn tyfu, y rhano'r planhigyn sydd i'w ddefnyddio, dail,blodau ac ati, a thymor eu blodeuo. Rhoddircyfarwyddid sut i'w paratoi, rhai mewnbrandi, eraill mewn eli. Fel ym mhob maesmae ymwybyddiaeth o ddiffygion ynogystal a rhinweddau'n hanfodol. Mae MrsJones yn rhybuddio rhag defnyddio rhai o'rllysiau er enghraifft: y bele dir (ffa'r moch,hyosyamus* niger) 'mae physigwyr yn eiarfer....ond mae yn enbyd iawn i nebarall...gan ei fod yn dra gwenwynig'.Eto parthed cegid (conium maculatum)'ond i'w i ymgymryd ag ef ond gan ycywrain yn unig, sef y physigwyr'. 'Doeddpabi coch yr yd (papaver somniferrum) i'wgymryd 'ond gyda mawr ofal o lawgywrain'. Ei gamddefnyddio i lawer un'wrth ei gymryd a gysgodd heb ddeffroFfa'r moch (Hyoscamus niger)byth”. Er i wragedd Rhufain ei ddefnyddio ibrydferthu eu hunain, gwenwyn marwol ywy gedowrach (atropa belladonna).Rhagnodwyd dau o'r llysiau uchod ganfeddygon hyd at saithdegau'r 20 fed ganrif.Yn y drafodaeth ceir nifer o sylwadautrawiadol, a rhai geiriau Cymraeganghyfarwydd. Ceir ambell ibrociad i'r meddygon megisparthed yr helygen wen (salixalba) iddynt yn eu culni ofeddwl: 'cadw'n ddirgel rhag i'rwerin wybod ei rhinweddau'.Roedd potel ffisig y meddyg ynfwy poblogaidd na thabledi hydat ail ran yr 20 fed ganrif. Un o'rrhai mwyaf poblogaidd oeddcymysgedd sodiwm salisylad atwaew, boed yn codi o'rcymalau neu glwyf y bladur,lymbego, ac yn ei hanfod sylwedd yrhelygen salicilin, oedd salisylad, Mae'nperthyn yn agos i asbirin a wnaethgyfraniad amhrisiadwy i gysuro'r werin ynei phoen. Mae cyfeiriad at yr arfer oddarogan newid tywydd drwy archwilio'rysgallen wen (carlina aucalis). Mae i'rllysieuyn hwn le arbennig mewn llêngwerin llysiau. Yn ôl y traddodiadymosododd pla ar fyddin yr ymherodr Siarla darlunnir ef yn penlinio i weddio amgymorth. Daeth yr Archangel Gabriel i'wgynorthwyo ac anelodd ef saeth a lanioddar blanhigyn wrth draed yr ymherodr, fellyyn datguddio'r feddyginiaeth.Un o bennaf werthoedd llyfr MarthaJones yw'r enwau Cymraeg a'r Saesneg. O'rdau gant pum deg ag wyth o lysiau nid yw'rterm Cymraeg am gant a deuddeg ohonyntrhwng cloriau Llyfr Dail D. T. Jones nagyng nghyfrol Griffith a Price. Mae niferfach ohonynt yng ngwaith Thomas Parry.Gellir olrhain rhai o'r enwau i EiriadurCymraeg a Lladin Thomas Wiliems, yclerigwr feddyg o Drefriw, a gyhoeddwyd1604-07. Gresyn iddo gael ei ddwyn o flaeny llys am rybuddio'r hen Syr John Wynne igadw i ffwrdd o'r Ty Cyffredin ar achlysurBrad y Powdr Gwyn! Cyfeiria E. Stanton

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!