Hanes Robin Gwyndaf am Sant Swithin a saint eraill y glaw
Hanes Robin Gwyndaf am Sant Swithin a saint eraill y glaw
Hanes Robin Gwyndaf am Sant Swithin a saint eraill y glaw
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Anodd iawn i ni heddiw yw amgyffred mor hanfodol bwysig i'n cyndadau gynt oedd

cael hindda i gywain y gwair a'r yd. Mewn cyfnodau o dlodi roedd colledion ar adeg y

cynhaeaf yn golledion drwy'r flwyddyn.

Cofiaf pan oeddwn yn blentyn glywed fy Modryb Maggie (Mrs Margaret Jones), Plas

Nant, Llangwm, yn son am 'Y Weirglodd Wlaw' ar dir y ffarm. Ni feiddient gynt,

meddai hi, dorri'r gwair yn y weirglodd hon hyd nes y byddai amaethwyr eraill yr

ardal wedi cael eu gwair hwy i ddiddosrwydd, oherwydd y gred oedd: pan dorrid y

gwair yn y Weirglodd Wlaw, roedd y gwlaw yn siwr o ddod!

Ond pam 40 niwrnod? Haws ateb y cwestiwn hwn. Gwyddom fod rhai rhifau (3, 7 a

12, er enghraifft) yn rhifau ag iddynt arwyddocad arbennig iawn mewn llên gwerin.

Felly, y rhif 40. Cyfeiriwyd eisoes at y 40 niwrnod o Ddilyw, ond cofiwn hefyd mai

am 40 niwrnod y bu Sodom a Gomora yn llosgi; am 40 mlynedd y bu'r Israeliaid yn

yr Anialwch; am 40 niwrnod a 40 nos y bu'r Iesu yn cael ei demtio gan Ddiafol; ac

mewn rhai gwledydd, megis Iwerddon, un dull o gosbi drwgweithredwyr gynt oedd

peri iddyn nhw orfod aros yn noeth mewn dŵr oer am 40 niwrnod!

Papur Bro Y Bedol, Mawrth 1983, 9