Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig - Fersiwn PDF 1.8Mb
Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig - Fersiwn PDF 1.8Mb
Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig - Fersiwn PDF 1.8Mb
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

� Diogelu amwynderau lleol;

� Diogelu cynefinoedd a rhywogaethau;

� Lleihau effeithiau cludiant.

Asesiad Cylch Bywyd

Ffordd o werthuso mewnbynnau a gollyngiadau sy’n perthyn i bywyd cyfan

cynnyrch, o gael y defnyddiau craidd hyd at wneud, dosbarthu, gwerthu,

defnyddio, ailddefnyddio, cynnal a chadw, ailgylchu a rheoli’r gwastraff yn y pen

draw. Gellir ystyried effeithiau amgylcheddol a chostau. Mae dadansoddiad

cylch bywyd yn cyfeirio at gasglu data i greu rhestr ar gyfer asesiad cylch bywyd.

Egwyddor Agosrwydd

Golyga’r egwyddor hon (o ran gwastraff) y dylid trin neu gael gwared ar wastraff

mor agos i’r lle y cynhyrchwyd ef â phosibl er mwyn lleihau’r pellter y mae’r

gwastraff yn cael ei symud.

Eco Gynllun

Mae’r diwydiant adeiladu wedi bwrw ati i ddatblygu defnyddiau a dulliau sy’n

lleihau’r defnydd o adnoddau a mwyhau’r cyfle i ailddefnyddio ac ailgylchu

defnyddiau adeiladu. Rhaid i ddiwydiannau eraill ystyried y defnyddiau a

ddefnyddir wrth ddatblygu eu cynnyrch er mwyn gostwng nifer y defnyddiau

sydd eu hangen i wneud y cynnyrch. Dylai gwneuthurwyr sicrhau bod y

defnyddiau a ddefnyddir yn hawdd eu hadnabod a bod modd eu hadfer yn hawdd.

Dylai dulliau gwneud sicrhau bod mwy o ddefnyddiau’n cael eu hadfer.

Asesiad Effaith ar Iechyd

Mae’r asesiad hwn yn ffactor pwysig wrth benderfynu ar effeithiau positif a

negyddol ar iechyd wrth weithredu polisïau, strategaethau neu ddatblygiadau

eraill. Gallai goblygiad iechyd gael effaith ar y boblogaeth gyfan neu gyfran

benodol ohoni.

Mae asesiad effaith ar iechyd yn ffordd o adnabod ffyrdd o ddiogelu a/neu wella

iechyd pobl. Cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru gyfarwyddyd ym mis

Tachwedd 1999 o’r enw, “Datblygu Effaith ar Iechyd Yng Nghymru”. Mae’r

Cynulliad yn ymroddedig i wella iechyd y wlad ac mae’n annog cyrff eraill i

wneud yr un peth.

Mae’r asesiad hwn yn defnyddio cyfuniad o ddulliau i wneud barn am effaith

bosibl ar iechyd oherwydd proses neu benderfyniad penodol. Rhaid i awdurdodau

lleol sicrhau nad ydynt yn anwybyddu goblygiadau iechyd. Mae iechyd a lles yn

rhan annatod o ddatblygiad cynaliadwy.

34