26.11.2012 Views

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig - Fersiwn PDF 1.8Mb

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig - Fersiwn PDF 1.8Mb

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig - Fersiwn PDF 1.8Mb

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Tabl Cynnwys

CRYNODEB.........................................................................................................................................................4

SEFYLLFA BRESENNOL .................................................................................................................................9

1 WRECSAM.................................................................................................................................................9

1.1 DAEARYDDIAETH......................................................................................................................................9

1.2 DIWYDIANT AC ECONOMI ..........................................................................................................................9

1.3 POBLOGAETH..........................................................................................................................................10

1.4 TREFNIADAETH Y CYNGOR......................................................................................................................10

2 CASGLU SBWRIEL................................................................................................................................14

2.1 GOFYNION DEDDFWRIAETHOL.................................................................................................................14

2.2 AROLWG O'R TREFNIADAU PRESENNOL ...................................................................................................14

2.2.1 GWASTRAFF CARTREF .....................................................................................................................14

2.2.2 GWASTRAFF MASNACH ....................................................................................................................20

2.2.3 GWASTRAFF ARALL..........................................................................................................................20

2.2.4 TAFLU SBWRIEL, GOLLWNG SBWRIEL A CHERBYDAU A ADAWYD .........................................................22

2.2.5 BETH SY'N DIGWYDD I SBWRIEL WRECSAM? ......................................................................................23

ADDYSG GWASTRAFF........................................................................................................................................24

2.4 BETH SYDD YN EIN SBWRIEL?..................................................................................................................24

2.5 CYMHARU PERFFORMIAD........................................................................................................................25

NODAU'R DYFODOL......................................................................................................................................28

3 PAM NEWID?..........................................................................................................................................28

3.1 CYNALADWYEDD....................................................................................................................................28

3.2 CREU GWASTRAFF...................................................................................................................................28

3.3 COSTAU AMGYLCHEDDOL AC ECONOMAIDD CLADDU SBWRIEL...............................................................29

3.4 DEDDFWRIAETH ......................................................................................................................................31

3.5 POLISI CYNLLUNIO ..................................................................................................................................33

3.6 TARGEDAU .......................................................................................ERROR! BOOKMARK NOT DEFINED.

3.6.1 CYFARWYDDYD CLADDU SBWRIEL....................................................................................................36

3.6.2 POLISI LLYWODRAETH CYNULLIAD CYMRU .......................................................................................36

3.6.3 PECYNNU GWASTRAFF ....................................................................................................................39

3.6.4 BETH MAE'N EI OLYGU I FWRDEISTREF SIROL WRECSAM? ..................................................................39

3.7 CYFYNGIADAU ARIANNOL A CHYTUNDEBOL...........................................................................................39

3.8 GOBEITHION Y GYMUNED .......................................................................................................................41

3.8.1 DATA A GASGLWYD O'R HOLIADUR STRATEGAETH GWASTRAFF “DELIO Â'N SBWRIEL” .................44

3.8.2 AROLWG Y PANEL DINASYDDION 10 – AWST 2003........................................................................47

3.9 GALW'R FARCHNAD.................................................................................................................................50

4 NODAU RHEOLI GWASTRAFF CYNGOR BWRDEISTREF SIROL WRECSAM .....................52

4.1 YR HYN A GYFLAWNWYD MOR BELLED ..................................................................................................52

4.2 YR HYN Y MAE ANGEN EI WNEUD............................................................................................................52

4.3 BETH SY'N FLAENORIAETH?....................................................................................................................52

4.4 NODAU CYNGOR BWRDEISTREF SIROL WRECSAM ...................................................................................53

4.5 POLISÏAU RHEOLI GWASTRAFF DINESIG CYNGOR BWRDEISTREF SIROL WRECSAM.................................53

CYFLAWNI EIN NODAU................................................................................................................................55

5 SUT ALLWN GYFLAWNI EIN NODAU? ...........................................................................................55

1

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

5.1 LLEIHAU GWASTRAFF .............................................................................................................................55

5.1.1 PA OPSIYNAU SYDD GENNYM AR GYFER LLEIHAU GWASTRAFF? .........................................................56

5.1.2 GWERTHUSO OPSIYNAU ..................................................................................................................57

5.1.3 BETH FWRIADWN EI WNEUD? ..........................................................................................................59

5.2 AILGYLCHU ............................................................................................................................................61

5.2.1 BETH YW EIN HOPSIYNAU AR GYFER CYRRAEDD EIN TARGEDAU AILGYLCHU?.....................................61

5.2.2 BETH YW EIN BWRIADAU? ...............................................................................................................67

5.3 COMPOSTIO ............................................................................................................................................70

5.3.1 BETH YW EIN HOPSIYNAU AR GYFER CYRRAEDD EIN TARGEDAU COMPOSTIO? ....................................71

5.3.2 COMPOSTIO CYMUNEDOL ...............................................................................................................72

5.3.3 CANOLFANNAU AILGYLCHU GWASTRAFF Y CARTREF .........................................................................72

5.3.4 CASGLU O YMYL Y FFORDD .............................................................................................................73

5.3.5 MARCHNADOED .............................................................................................................................74

5.3.6 MATHAU O GOMPOSTIO ..................................................................................................................74

5.3.7 BETH YW EIN BWRIADAU? ...............................................................................................................76

5.4 RHEOLI GWASTRAFF SY'N WEDDILL .......................................................................................................77

5.4.1 BETH YW EIN HOPSIYNAU? ..............................................................................................................77

5.4.2 BETH YW EIN BWRIADAU? ...............................................................................................................83

5.5 GWASTRAFF CARTREF ARALL .................................................................................................................83

5.5.1 BETH YW EIN HOPSIYNAU A BETH ALLWN EI WNEUD?........................................................................84

5.6 GWASTRAFF DINESIG ARALL...................................................................................................................86

5.6.1 BETH YW EIN HOPSIYNAU A BETH ALLWN EI WNEUD?........................................................................86

PERI IDDO DDIGWYDD.................................................................................................................................89

6 YMWYBYDDIAETH O WASTRAFF...................................................................................................89

6.1 YMGYRCHOEDD CENEDLAETHOL............................................................................................................89

6.1.1 ECO-YSGOLION..............................................................................................................................91

6.2 YMGYRCHOEDD LLEOL...........................................................................................................................92

6.2.1 SWYDDOGION ADDYSG....................................................................................................................92

6.2.2 AILGYLCHU GYDA MICHAEL! ..........................................................................................................93

6.2.3 GORFODAETH ................................................................................................................................93

6.3 CYNLLUN GWEITHREDU .........................................................................................................................94

7 ISADEILEDD ...........................................................................................................................................95

7.1 YR ANGEN AM GYFLEUSTERAU NEWYDD ................................................................................................95

7.1.1 LLYWODRAETH CYNULLIAD CYMRU .................................................................................................95

7.2 DARPARU CYFLEUSTERAU NEWYDD .......................................................................................................96

7.2.1 CANOLFANNAU AILGYLCHU CYMDOGAETHAU..............................................................................97

7.2.2 CANOLFANNAU AILGYLCHU GWASTRAFF Y CARTREF .........................................................................96

7.2.3 TRIN A CHAEL GWARED AR WASTRAFF ..............................................................................................97

7.3 RHEOLEIDDIO A CHYFLEUSTERAU GWASTRAFF.......................................................................................97

7.4 PERTHYNAS Â'R CYNLLUN DATBLYGU UNEDOL ......................................................................................97

7.5 CLUDO GWASTRAFF................................................................................................................................98

8 RHAGLEN CYMRU AR GYFER GWELLA (GWERTH GORAU) ...............................................100

8.1 TARGEDAU PERFFORMIAD GWERTH GORAU..........................................................................................100

9 ADNODDAU...........................................................................................................................................102

9.1 CYFALAF ..............................................................................................................................................102

9.2 COSTAU CYNNAL ..................................................................................................................................102

9.3 AMSER STAFF Y CYNGOR ......................................................................................................................104

9.4 PWY FYDD YN TALU AMDANO?.............................................................................................................104

9.4.1 LLYWODRAETH CYNULLIAD CYMRU ...............................................................................................104

9.4.2 TRETH Y CYNGOR .........................................................................................................................104

9.4.3 TALIADAU UNIONGYRCHOL AM GASGLU GWASTRAFF ......................................................................105

10 CYNLLUN AILGYLCHU.....................................................................................................................106

2

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

10.1 STRATEGAETH AILGYLCHU ..............................................................................................................106

10.1.1 AROLWG ......................................................................................................................................107

10.1.2 GOFYNION CYFREITHIOL HANFODOL.............................................................................................107

11 CYNLLUN SBWRIEL...........................................................................................................................110

11.1 GWERTHUSO....................................................................................................................................110

11.2 GWAITH ...........................................................................................................................................112

11.3 ADDYSG...........................................................................................................................................113

12 CASGLIAD.............................................................................................................................................114

GWYBODAETH GEFNOGOL......................................................................................................................115

13 CYFEIRIADAU......................................................................................................................................115

13.1 DEDDFWRIAETH EWROPEAIDD.........................................................................................................115

13.1.1 CYFARWYDDIADAU Y CYFEIRIWYD ATYNT YN ATODIAD D ................................................................115

13.2 DEDDFWRIAETH Y DU .....................................................................................................................115

13.3 DOGFENNAU LLYWODRAETH CYNULLIAD CYMRU..........................................................................115

13.4 CYFFREDINOL ..................................................................................................................................116

13.5 LLYFRYDDIAETH..............................................................................................................................116

14 CYSYLLTIADAU ..................................................................................................................................118

14.1 LLYWODRAETH CYNULLIAD CYMRU...............................................................................................118

14.2 LLYWODRAETH Y DU ......................................................................................................................118

14.3 ASIANTAETHAU'R LLYWODRAETH...................................................................................................118

14.4 ELUSENNAU, GRWPIAU A SEFYDLIADAU CYMUNEDOL ....................................................................118

15 BYRFODDAU............................................................................ERROR! BOOKMARK NOT DEFINED.

15.1 RHESTR TERMAU .............................................................................................................................122

ATODIADAU...................................................................................................................................................132

Atodiad A: Sefyllfa Bresennol: Ystadegau Wrecsam

Atodiad B: Arolwg Sbwriel Annibynnol

Atodiad C: Gwerthuso Opisynau – Ynni o Gyfleusterau Gwastraff

3

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

CRYNODEB

Beth yw gwastraff dinesig?

Gwastraff yw sbwriel – popeth a daflwn i ffwrdd – ystyriwn y sbwriel a daflwn i ffwrdd fel

gwastraffu adnoddau. Gwastraff dinesig yw’r gwastraff a gesglir gan neu ar ran yr Awdurdod

– Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Gwastraff dinesig yw’r sbwriel y mae awdurdod yn

gyfrifol am ei reoli, gan gynnwys biniau domestig, glanhau strydoedd, peth gwastraff

masnachol a manwerthu, gwastraff parciau a gerddi, gwastraff ysgolion, fly tipping a cheir

sydd wedi eu gadael.

Cynhyrchasom fwy na 83 mil tunnell o wastraff yn y Fwrdeistref yn ystod y flwyddyn

ariannol 2002/2003, hynny yw mwy na thunnell a hanner fesul cartref o fewn un flwyddyn.

Ar hyn o bryd, mae’r gwastraff yn cynyddu oddeutu 3% bob blwyddyn; golyga hyn y bydd

gennym ddwbl y gwastraff sydd gennym heddiw erbyn 2050!

Pam cael strategaeth gwastraff?

Gwaredir oddeutu 90% o’r gwastraff a gynhyrchwn mewn twll yn y ddaear; ni ystyrir hwn i

fod yn ddewis rheoli gwastraff dichonol bellach. Mae angen newid y ffordd y rheolwn ein

gwastraff felly; ac mae sawl rheswm dros hyn.

� Rhaid i ni fod yn fwy cynaliadwy. Mae cynaladwyedd yn ymwneud â bodloni

ein hanghenion heb atal cenedlaethau i ddod rhag bodloni eu hanghenion nhw.

Nid yw taflu gwastraff i’r tir yn gynaliadwy gan ein bod yn rhedeg allan o

safleoedd claddu priodol ac rydym yn gwastraffu adnoddau gwerthfawr y gellid

eu hailbrosesu.

� Mae swm y gwastraff a daflwn yn cynyddu. Yn genedlaethol, mae’r gwastraff

a gynhyrchwn yn tyfu oddeutu 3% y flwyddyn. Ni all y twf hwn barhau

oherwydd y costau economaidd ac amgylcheddol.

� Costau amgylcheddol ac economaidd claddu sbwriel. Disgwylir i’r gost o

gladdu sbwriel gynyddu’n gyflym yn y 10 mlynedd nesaf; mae hyn yn rhannol

oherwydd y dreth claddu sbwriel amgylcheddol a orfodir gan y Llywodraeth.

Mae safleoedd claddu sbwriel yn fygythiad i’r amgylchedd wrth ryddhau hylifau

(trwytholch) a nwyon, methan yn bennaf, wrth i’n gwastraff bydru.

� Deddfwriaeth newydd ac i ddod. Mae deddfwriaeth Ewropeaidd a

chenedlaethol yn newid i’n gorfodi i reoli’n gwastraff yn fwy cynaliadwy. Un o’r

prif ddarnau cyfraith yw’r Cyfarwyddyd Claddu Sbwriel a weithrdwyd yn 2002.

Bydd eisoes wedi cael effaith fawr ar y ffordd y rheolwn ein gwastraff.

� Polisi cynllunio. Mae polisi cynllunio cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yn ceisio

rheolaeth gwastraff fwy cynaliadwy. Lluniwyd polisïau ar yr holl lefelau sy’n

gofyn i ni ystyried a dadansoddi nifer o ffactorau wrth i ni gynllunio sut i reoli

gwastraff.

4

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

o y dewis amgylcheddol ymarferol gorau

o dewisiadau rheolaeth gwastraff cynaliadwy

o asesiad cylch bywyd

o yr egwyddor agosrwydd

o effaith ar iechyd

o hierarchaeth gwastraff

� Cyrraedd targedau’r Llywodraeth. Er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth a

gwneud rheoli gwastraff yn fwy cynaliadwy, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru

wedi gosod nifer o dargedau anodd i awdurdodau lleol. Ers haf 2002, mae

Wrecsam wedi cyflawni cryn dipyn wrth geisio cyrraedd y targedau hyn. Fodd

bynnag, mae angen rhagor o welliannau fel a welir isod.

Tunelli o’n gwastraff i’w ailgylchu neu ei gompostio er mwyn bodloni targedau’r Llywodraeth

O ystyried yr uchod, rhaid i ni OSTWNG swm y gwastraff a gynhyrchwn;

AILDDEFNYDDIO gwastraff lle’n bosibl; AILGYLCHU neu GOMPOSTIO cymaint o

wastraff â phosibl; ac ADFER cymaint o werth ag y gallwn o’r gwastraff sy’n weddill cyn

cael gwared arno. Pwrpas y Strategaeth hon yw archwilio’r ffordd orau o wneud hyn.

Er mwyn dod o hyd i atebion llwyddiannus i’r materion sy’n gysylltiedig â phrif elfennau

rheoli gwastraff dinesig, mae’r Awdurdod wedi nodi nifer o nodau allweddol:

1. Cadw at egwyddorion yr hierarchaeth gwastraff a rheoli gwastraff cynaliadwy a

defnyddio’r egwyddor agosrwydd a’r dewis amgylcheddol ymarferol gorau wrth

gynllunio systemau a chyfleusterau newydd i drin gwastraff.

5

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

2. Cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth rheoli gwastraff ac amgylcheddol bresennol ac i ddod

ac ymdrechu i gyrraedd yr holl dargedau cenedlaethol a lleol.

3. Parhau i gynnig y gwasanaeth gorau posibl i’n cwsmeriaid a pharhau i wella a darparu

gwerth gorau i drigolion Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

4. Cynnig gwell cyfle i drigolion gymryd rhan mewn rheoli gwastraff yn gynaliadwy.

Sut allwn gyflawni ein nodau?

Erys y cwestiwn sut y gallwn reoli gwastraff yn fwy cynaliadwy ym Mwrdeistref Sirol

Wrecsam â’r adnoddau sydd gennym.

Nid oes un ateb unigol i’r broblem o reoli gwastraff. Mae gan bob maes nodweddion

unigryw, cyfredol a hanesyddol, ac felly rhaid i bob maes ystyried cyfres o ddewisiadau rheoli

gwastraff sy’n cydweddu ag anghenion a gobeithion y maes hwnnw. Mae’r ddogfen hon yn

archwilio’r dewisiadau sy’n agored i ni, gan edrych ar:

� ffyrdd o annog y cyhoedd i ailfeddwl y ffordd maent yn rheoli eu sbwriel;

� gwahanol ffyrdd o gasglu sbwriel er mwyn cynyddu swm y gwastraff yr

ailgylchwn ac y compostiwn;

� dulliau eraill o drin a chael gwared ar ein gwastraff.

Ystyrir y dewisiadau hyn o ran effeithiau amgylcheddol, ymarferoldeb, dewis y cwsmer a

chostau, ynghyd ag o ran polisi rhanbarthol a chenedlaethol.

Beth ydym wedi ei gyflawni mor belled a beth fyddwn yn ei wneud yn y dyfodol?

Rydym eisioes wdi dechrau gwella’r ffordd y rheolwn ein gwastraff yn Wrecsam. Bu i’r

Cynllun Gwastraff a gynhyrchwyd yn 1996 a Chynllun Rheoli Gwastraff 1996/2000 osod y

sylfeini. Mae cyllid hanfodol o Gronfa Rheoli Gwastraff yn Gynaliadwy Llywodraeth

Cynulliad Cymru wedi’n caniatáu i wneud cynnydd sylweddol. Dechreuodd y cynllun

Ailgylchu gyda Michael ym mis Gorffennaf 2002.

� Rydym wedi cyflogi dau swyddog ailgylchu ac addysg i hybu gostwng gwastraff a

chychwyn ailgylchu a chompostio yn y Fwrdeistref Sirol.

� Rydym wedi cynnig unedau compostio gartref am bris isel a hyd yn hyn rydym

wedi gwerthu rhyw 2,500 bin (hyd at aeaf 2004).

� Cyflawnasom arbrawf llwyddiannus iawn o 6,000 tŷ, yn casglu pethau

ailgylchadwy a gwastraff gwyrdd yn uniongyrchol o gartrefi pobl. Mae hyn yn

fwy cyfleus i drigolion ac yn eu hannog felly i gymryd rhan yn y broses o reoli

gwastraff mewn ffordd gynaliadwy.

� We have initiated a scheme to install 30 Neighbourhood Recycling Centres across

the district. These are designed to complement the kerbside scheme and provide

facilities for recycling glass and other bulky materials close to residences.

� Rydym wedi dechrau rhaglen i wella ein canolfannau ailgylchu dinesig i gynnig

mwy o gyfle i wahanu gwastraff er mwyn ei ailgylchu.

6

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Mae’r mesurau hyn wedi’n helpu i bron ddyblu ein cyfradd ailgylchu/compostio ond mae’n

rhaid i ni wneud yn well na hyn er mwyn cyrraedd y targedau a osodwyd gan Lywodraeth

Cynulliad Cymru a chydymffurfio â deddfwriaeth Ewropeaidd. Felly, mae’r Awdurdod yn

bwriadu:

� parhau i hybu lleihau gwastraff, gan gynnwys cynnal y gwerthiannau o unedau

compostio gartref am bris isel.

� estyn y cynllun ailgylchu/compostio ymyl y ffordd i wasanaethu 50% o’r

Fwrdeistref Sirol erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2005.

� parhau i wella’r cyfleustra o ailgylchu a chompostio ar stepen drws trigolion drwy

greu mwy o ganolfannau ailgylchu cymunedol a pharhau i uwchraddio

canolfannau gwastraff domestig..

� bydd safleoedd gwastraff dinesig yn cael eu cynllunio i fwyhau ailgylchu; bydd

yn cynnwys casglu ac ailgylchu ar wahân o wastraff domestig peryglus, megis

paent, olew, tiwbiau fflworoleuol a batris.

� mae’r Awdurdod yn trafod gyda chontractor o’r sector preifat sy’n dymuno

darparu cyfleuster rheoli gwastraff integredig yn y Fwrdeistref Sirol. Credwn fod

hyn yn ddewis mwy cynaliadwy o ran rheoli gwastraff sy’n weddill ar ôl ailgylchu

a chompostio.

7

LLEIHAU

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Beth allwch chi ei wneud?

✔ Compostiwch eich gwastraff cegin a gardd gartref

✔ Cofrestrwch gyda’r Gwasanaeth Dewis Post er mwyn gostwng swm eich post diangen

✔ Prynwch nwyddau â llai o becynnu

✔ Prynwch dim ond beth sydd ei angen arnoch

✔ Dewiswch nwyddau ailddefnyddiadwy yn hytrach na thafladwy

AILDDEFNYDDIO

✔ Trwsiwch bethau sydd wedi torri yn lle eu taflu i ffwrdd

✔ Rhowch bethau dieisiau i siopau elusen neu arwerthiannau

✔ Rhowch ddodrefn a phethau fel oergelloedd diangen i grwpiau cymunedol

AILGYLCHWCH

✔ Cymerwch ran mewn cynlluniau ailgylchu yn eich ardal

✔ Caewch y gadwyn! Prynwch nwyddau wedi eu hailgylchu ac a ellir eu hailgylchu

✔ Heriwch eich hun i ailgylchu mwy bob wythnos

✔ Anogwch eich ffrindiau, teulu, cymdogion a chydweithwyr i ailgylchu

Cyn taflu pethau i ffwrdd!

8

Wrecsam

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

SEFYLLFA BRESENNOL

Lleolir Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ardal ogledd-ddwyreiniol Cymru. Mae Bryniau Clwyd

i’r gorllewin a chefn gwlad Swydd Amwythig i’r de. Mae’n cwmpasu ardal o 50,500 hectar a

phoblogaeth o bron i 129,300 yn ôl tybidadau canol blwyddyn 2002.

1.1 Daearyddiaeth

Canol tref Wrecsam yw canolbwynt y Fwrdeistref Sirol; tua gogledd a gorllewin y dref, mae’r

tir yn codi tuag at Fryniau Clwyd, Mynydd Esclusham a Mynydd Rhiwabon. Mae’r tir i’r de

a’r dwyrain yn ffurfio rhan o Wastadedd Dyfrdwy. Mae’r dyffryn dwfn sy’n mynd o’r

dwyrain i’r gorllewin, o’r Waun i Glyn Ceiriog, tua de’r Fwrdeistref Sirol.

Mae gan yr ardal sawl safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SSSI), sy’n bodoli i ddiogelu

blodau, planhigion a nodweddion geolegol a chorfforol arbennig ac eithriadol.

Ffurfia’r Afon Dyfrdwy ffin naturiol i dde a dwyrain y Fwrdeistref Sirol. Mae sawl afon lai’n

llifo drwy’r ardal, sef Alun, Ceiriog, Clywedog a Gwenfro. Mae darn o Gamlas Undeb

Swydd Amwythig yn croesi rhan ddeheuol y Fwrdeistref Sirol.

Y siroedd cyfagos yw Sir Gaer i’r gogledd a’r dwyrain, Sir Ddinbych i’r gorllewin, Sir y

Fflint i’r gogledd a’r gorllewin, Powys i’r de-orllewin a Swydd Amwythig i’r de-ddwyrain.

1.2 Diwydiant ac Economi

Mae gan yr ardal draddodiad o ddiwydiant trwm a ddaeth i ben pan gaeodd Gwaith Glo’r bers

yn 1986 a Gwaith Dur Brymbo yn 1991.

Mae’r Awdurdod, ar y cyd ag Awdurdod Datblygu Cymru a chyrff tebyg, wedi bod yn

allweddol o ran denu diwydiant i’r ardal ers y chwedegau hwyr. Lleolir sawl gwneuthuriwr

rhyngwladol pwysig ar ystadau diwydiannol modern a adeiladwyd i’r pwrpas. Mae’r sectorau

gwneud yn cynnwys meteleg, peirianneg, cemegau, fferylleg, electroneg, peirianneg optegol,

plastig a phecynnu, tecstiliau a phrosesu bwyd. Mae amrywiaeth o fân-ddiwydiannau’n

cyflenwi’r cwmnïau mwy.

Adlewrycha economi’r ardal y newidiadau mewn tueddiadau cenedlaethol. Mae’r ardal yn

dal yn hyderus. Gwelir llawer o’r siopau stryd fawr ac archfarchnadoedd cyffredin yn

Wrecsam. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu cynnydd sylweddol yn nifer yr eiddo

preswyl a adeiladwyd.

Mae Wrecsam yn lle poblogaidd i fyw ynddo ac i ddiwydiant sefydlu oherwydd ei

hagosrwydd i’r traffyrdd a’i lleoliad fel porth i fynyddoedd a thraethau Gogledd Cymru.

Cyfradd cyflogaeth 1 Wrecsam yw 68.9%, sydd ychydig yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer

Cymru. (68.5%). Gellir cael gwybodaeth fanylach yn Nhabl A1 yn Atodiad A o’r adroddiad

hwn.

9

1.3 Poblogaeth

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Mae gan y Fwrdeistref Sirol boblogaeth o bron i 129,300 yn byw mewn mwy na 54,717 o dai

(Rhestr Brisio, Ebrill 2003). Prif ganolfan y boblogaeth yw tref Wrecsam ynghyd â nifer o

‘bentrefi trefol’, er enghraifft Brymbo, Cefn Mawr a Gwersyllt. Mae oddeutu 12% o’r

boblogaeth yn byw mewn ardaloedd gwledig.

Gellir cael gwybodaeth bellach am wybodaeth ddemograffig a thai yn y Fwrdeistref Sirol yn

Atodiad A, tablau A2-A3.

1.4 Trefniadaeth y Cyngor

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 52 cynghorydd yn cynrychioli 47 ward. Etholir

nhw’n ddemocrataidd bob pedair blynedd a nhw yw’r corff penderfynu yn y pen draw lle mae

holl elfennau eraill yn y strwythur yn cael eu hawdurdod.

Cyn Deddf Llywodraeth Leol 2000, cymeradwyodd y Cyngor strwythurau rheolaeth

wleidyddol newydd, yn cwmpasu:

• Y Cyngor

• Bwrdd Gweithredol

• Pwyllgor Gwasanaethau Cymdeithasol

• Pwyllgor Trwyddedu Amgylcheddol

• Pwyllgor Safonau

Fel awdurdod unedol, mae’r Cyngor yn darparu ystod lawn o wasanaethau awdurdod lleol.

Mae’n gweithredu drwy 16 adran, pob un â phrif swyddog. Mae’r Prif Weithredwr a 5

cyfarwyddwr strategol yn cymryd cyfrifoldeb am gyflawni gwasanaethau penodol i gefnogi

amcanion strategol a pholisïau corfforedig yr Awdurdod. Y meysydd cyfrifoldeb yw:

Prif Weithredwr - Diwylliant, arweiniad a gwerthoedd

Rheoli perfformiad

Cyfarwyddwr Strategol - Llywodraeth gorfforedig

Cymunedau

Diogelwch cymunedol

Cyfarwyddwr Strategol - Ffyniant economaidd

Dysgu gydol oes a sgiliau

Noddi prosiectau pwysig

Cyfarwyddwr Strategol - Plant a phobl ifanc

Cyfarwyddwr Strategol - Iechyd, gofal cymdeithasol a lles

Datblygiad cynaliadwy

Cyfarwyddwr Strategol - Mynediad i gwsmeriaid

Caffaeliad, cyllideb drosiannol a chynllunio corfforedig

10

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Mae casglu sbwriel, ailgylchu a rheoli gwastraff yn rhai o gyfrifoldebau’r Adran

Gwasanaethau Cymunedol dan arweiniad y Prif Swyddog Gwasanaethau Cymunedol.

11

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Rheolwyr Cyfarwyddiaethau

(er mwyn gwneud unrhyw gyfeiriad yn hawdd, dim ond y dyletswyddau hynny

sy’n berthnasol i’r Strategaeth hon a ddangosir)

Rheolwr

Datblygu

Busnes

Prif Swyddog Diogelu’r

Cyhoedd

Rheolwr

Gwastraff

Casglu Sbwriel

Safleoedd

Gwastraff

Domestig

Ailgylchu a

Chompostio

Cael Gwared ar

Wastraff

Cyfarwyddwr Strategol

12

Prif Swyddog Gwasanaethau

Cymunedol

Rheolwr Fflyd/

Trwyddedu

Rheolwr

Cynnal a

Chadw

Glanhau

Strydoedd

Cerbydau a

Adawyd

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Gall y Pwyllgor Archwiliadau Amgylcheddol ac Adfywiad drafod penderfyniadau sy’n

effeithio ar yr Adran Gwasanaethau Cymunedol cyn unrhyw benderfyniad gan Fwrdd

Gweithredol y Cyngor.

Bwrdd

Gweithredol

Rheolaeth Wleidyddol

Pwyllgor Archwilio

Materion Corfforedig

Pwyllgor

Archwilio Plant

a Phobl Ifanc

Pwyllgor

Archwilio

Amgylchedd ac

Adfywiad

Pwyllgor

Archwilio

Ariannol

Pwyllgor

Archwilio

Materion

Cymdeithasol,

Iechyd a Thai

13

CYNGOR

Pwyllgor

Cynllunio

Pwyllgor

Trwyddedu

Amgylcheddol

Pwyllgor

Safonau

Casglu Sbwriel

1.5 Gofynion Cyfreithiol

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Dan Adran 52 o Ddeddf Diogelwch Amgylcheddol (1990), mae gan awdurdodau sy’n casglu

sbwriel ddyletswydd i ddarparu nifer o wasanaethau:

� casglu gwastraff domestig;

� casglu gwastraff masnachol pan fo angen;

� datblygu cynllun ailgylchu;

� glanhau strydoedd.

Mae’r ddeddf yn eithrio awdurdodau lleol rhag codi tâl am gasglu sbwriel a roddir yn y

cynhwysydd a ddarperir. Fodd bynnag, gellir codi taliadau ‘rhesymol’ am gasglu gwastraff

annomestig neu wastraff sy’n fwy na’r hyn a ellir ei roi yn y cynhwysydd priodol. Nid yw’n

manylu ar ba mor aml y dylai awdurdod gasglu gwastraff na maint y cynhwysedd i’w

ddarparu.

Mae gan awdurdodau sy’n cael gwared ar wastraff ddyletswydd i ddarparu cyfleusterau i gael

gwared ar wastraff a gesglir gan yr awdurdodau casglu a lleoliadau lle gall pobl ddod â’u

gwastraff a chael gwared arno.

Yng Nghymru, mae awdurdodau lleol yn unedol ac yn awdurdodau sy’n casglu a chael

gwared ar sbwriel.

1.6 Arolygu’r trefniadau presennol

Mae mwy o wybodaeth ac ystadegau ynghylch gwasanaeth casglu a chael gwared yr

Awdurdod yn Atodiad B.

Gweithlu’r Awdurdod sy’n cyflawni’n gwasanaeth casglu sbwriel yn y Fwrdeistref Sirol.

Mae’r gwasanaeth yn cwmpasu casglu gwastraff domestig, masnachol a diwydiannol,

gwastraff ailgylchadwy, gwastraff clinigol, gwastraff marchnadoedd ac eitemau mawr o dai.

Mae’r holl wastraff a gesglir yn cael ei gludo a’i waredu’n unol â deddfwriaeth cludiant ac

amgylcheddol. Mae gwasanaethau ategol yn cynnwys cyflenwi, darparu a thrwsio biniau

gwastraff a darparu a chyhoeddi sachau gwastraff.

1.6.1 Gwastraff Domestig

Mae gan ran fwyaf o dai’r Fwrdeistref Sirol (98%) finiau 240 litr ag olwynion i gadw eu

sbwriel; cyflwynwyd y rhain yn 1983. Mae gan y gweddill sachau plastig neu finiau mawr ar

gyfer tai amlbreswyl, megis blociau o fflatiau.

Cesglir gwastraff o’r rhan fwyaf o dai unwaith yr wythnos, o gwrtil yr eiddo lle’n ymarferol.

Cyflwynwyd cynllun arbrofol ym mis Gorffennaf 2002 yn cwmpasu 6,000 o gartrefi lle

cesglir sbwriel am yn ail wythnos, ynghyd â sbwriel ailgylchadwy sych a gwastraff gwyrdd

i’w gompostio. Mae mwy o fanylion ar hyn yn Adran 5.2.2.

14

Gwastraff Swmpus

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Cesglir gwastraff domestig swmpus, megis dodrefn a nwyddau gwyn, drwy drefniant. Codir

tâl am hyd at bum eitem, er gall trigolion sy’n derbyn budd-daliadau penodol hawlio

casgliadau am ddim. Cesglir oergelloedd a rhewgelloedd domestig am ddim er mwyn sicrhau

y ceir gwared ar y sylweddau peryglus ynddynt yn ddiogel.

Canolfannau Gwastraff Domestig (Safleoedd Amwynderau Dinesig)

Ni fydd yr Awdurdod yn casglu gwastraff a roddir tu allan i’r biniau a ddarperir. Gellir mynd

ag unrhyw wastraff ychwanegol, megis gwastraff DIY a gardd, i un o ganolfannau penodedig

y Fwrdeistref Sirol. Lleolir y canolfannau hyn yn Acton, Brymbo, Plas Madoc a Queensway

ac maent ar y map sy’n ymddangos yn y tudalennau i ddod. Ym mis Gorffennaf 2004,

cyflwynir y newidiadau canlynol: bydd y ganolfan yn Acton yn cau a bydd canolfan fwy’n

agor ar Lôn Bryn, Ystad Ddiwydiannol Wrecsam. Bydd y ganolfan yn Queensway yn cael ei

hailfodelu i dderbyn deunyddiau ailgylchadau a chompost yn unig.

Ailgylchu

Golyga ailgylchu brosesu deunydd gwastraff i ailgynhyrchu’r un cynnyrch neu gynhyrchu

cynnyrch neu ddeunyddiau defnyddiol eraill. Mae’n bwysig cynyddu’r sbwriel a ailgylchir er

mwyn gwneud unrhyw system rheoli gwastraff yn fwy cynaliadwy a bodloni targedau’r

Llywodraeth.

Mae cynhwyswyr ar wahân ar gyfer ailgylchu ym mhob un o’n canolfannau ailgylchu yn y

Fwrdeistref Sirol. Cesglir, ailddefnyddir ac ailgylchir batris, gwydr, metel sgrap, olew

peiriannu, brethynnau, pren, cardfwrdd, rwbel a phridd yn y canolfannau hyn.

Yn ogystal â’r canolfannau uchod, mae nifer o ganolfannau ailgylchu cymdogaethol yn y

Fwrdeistref Sirol lle gall trigolion fynd â gwastraff i’w ailgylchu. Mae’r canolfannau’n

cynnwys banciau ar wahân i gasglu papur a gwydr lliw gwahanol. Hefyd, mae Byddin yr

Iachawdwriaeth yn cynnal nifer o ganolfannau ar gyfer casglu brethynnau. Gwelir y

canolfannau ailgylchu cymdogaethol mewn archfarchnadoedd a meysydd parcio’r dref.

Gweler y map am fanylion. Lleolir canolfannau llai sy’n defnyddio biniau Ewropeaidd 1100

litr mewn neu ger ardaloedd preswyl. Cesglir batris ceir, metel sgrap ac olew peiriannau i’w

hailgylchu o’r canolfannau ailgylchu cymdogaethol.

Cyflwynwyd cynllun ymyl ffordd i gasglu papur, gwydr, tuniau a phlastic, a gwastraff gwyrdd

yn uniongyrchol o dai pobl ym mis Gorffennaf 2002. Profodd yr arbrawf a gynhwysodd

6,000 o dai yn y Fwrdeistref Sirol i fod yn llwyddiannus iawn.

Compostio

Mae compostio’n broses lle torrir defnydd biolegol i lawr i gynhyrchu deunydd y gellir ei

ddefnyddio fel gwrteithiwr, i wella pridd neu i newid pridd.

Mae gwastraff cegin yn cwmpasu canran sylweddol o wastraff cartref ac mae’n bosibl

compostio’r rhan fwyaf ohono. I annog pobl i gompostio, mae’r Awdurdod yn cynnig biniau

compost am bris isel i drigolion y Fwrdeistref Sirol. Gwerthwyd oddeutu 2,500 ers blwyddyn

gyntaf yr hyrwyddiad (Gorffennaf 2001).

15

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

16

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

17

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

18

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

19

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Ers mis Hydref 2001, mae cynhwyswyr wedi bod ar gael yn y canolfannau ailgylchu

gwastraff y cartref ar gyfer gwastraff gwyrdd (gardd). Cymerir y gwastraff hwn i safle lle

mae’n cael ei drefnu, ei rwygo a’i gompostio. Rydym yn ymchwilio i ystod o ddewisiadau ar

gyfer y compost hwn. Yn y pen draw, gellid gwerthu’r compost i arddwyr pan fyddwn wedi

cyrraedd safon y Gymdeithas Compost (neu safon genedlaethol arall).

1.6.2 Gwastraff Masnachol

Mae’r Awdurdod yn casglu gwastraff masnach yn ôl y gofyn. Cesglir y gwastraff mewn

amrywiaeth o gynhwyswyr fel rhan o’r casgliad domestig; codir tâl yn unol â maint y

cynhwysydd ac amlder y casgliad. Mae pob contract yn dragwyddol ond gall y naill ochr eu

terfynu â mis o rybudd. Cyhoeddir tystysgrif dyletswydd gofal bob blwyddyn fel rhan o’r

contract. Mae’r Awdurdod yn annog busnesau lleol i leihau ac ailgylchu eu gwastraff.

Gall deunyddiau ailgylchadwy yn y gwastraff a gesglir gan yr Awdurdod gyfrif tuag at

dargedau ailgylchu. Mae gwydr, cardbwrdd a phapur yn cwmpasu canran fwr o wastraff

masnachol.

Cyflwynwyd cynllun arbrofol yn cynnig cynhwyswyr ar wahân, am bris da, ar gyfer tafarndai,

bwytai a gwestai i wahanu gwydr o weddill eu gwastraff. Ni wahanir y gwydr yn ôl lliw a

gwerthir y cwbl i fusnes gwydr i’w falu a’i ddefnyddio fel cymysgedd i roi ar wyneb ffyrdd.

Gellid ystyried cynllun tebyg i gasglu cardbwrdd a phapur o eiddo masnachol yn hwyrach.

Gallai cynllun fel hwn roi hwb mawr i’r cyfraddau ailgylchu. Y gobaith yw defnyddio

systemau casglu deunyddiau ailgylchadwy ar gyfer eiddo masnachol yn y dyfodol.

1.6.3 Gwastraff Arall

Mae nifer o fathau eraill o wastraff mwy anarferol y mae’n rhaid i’r Awdurdod eu rheoli.

Maent yn cynnwys gwastraff clinigol, a pheryglus a nwyddau trydanol peryglus.

Gwastraff Clinigol

Diffinnir gwastraff clinigol yn y Rheoliadau Gwastraff a Reolir 1992 fel:

a) unrhyw wastraff sy’n cynnwys meinwe dynol neu anifail, gwaed neu hylif corfforol arall,

ysgarthion, cyffuriau neu gynnyrch fferyllol eraill, swabiau neu rwymau, chwistrellau neu

offerynnau miniog eraill, sef gwastraff a allai fod yn beryglus i unrhyw un sy’n dod i

gysylltiad ag ef, heb iddo gael ei wneud yn ddiogel; ac

b) unrhyw wastraff arall sy’n deillio o ymarfer nyrsio, deintyddol, milfeddygol, fferyllol neu

ymarfer tebyg, ymchwiliadau, triniaeth, gofal, dysgu neu ymchwil neu gasglu gwaed ar

gyfer trallwysiad, sef gwastraff a allai achosi heintiad i unrhyw un sy’n dod i gysylltiad ag

ef.

20

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Ni ystyrir gwastraff secretiadau (clytiau, cadachau misglwyf, ayb)

yn glinigol pan ddaw o boblogaeth iach. Felly, gellid cael gwared

arno gyda’r sbwriel arferol, er bod hyn yn achosi problemau

canfyddiad ymysg rhai trigolion. Mae clytiau’n cwmpasu canran

sylweddol o’r math hwn o wastraff; mae Wrecsam yn cefnogi’r

Cynllun Clytiau Go Iawn ac anoga deuluoedd i ddefnyddio’r rhan

lle’n bosibl.

Mae’n debyg y bydd gwastraff clinigol o dai’n cynnwys rhwymau a chwistrellau.

Contractwyr arbenigol, â mynediad i gyfleusterau trin

blaengar, sy’n rheoli’r rhan fwyaf o wastraff ysbytai a

chyrff gofal mawr. Mae awdurdodau lleol yn fwy tebygol

o reoli gwastraff clinigol o dai a chyfleusterau gofal llai,

meddygon a milfeddygon. Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau

wedi gweld cynnydd yn y blynyddoedd diwethaf oherwydd

poblogaeth sy’n heneiddio a mwy o alw am ofal cartref.

Yn Wrecsam, gall trigolion ofyn am gasgliadau gwastraff clinigol gan yr Awdurdod. Rhoddir

sachau melyn i ddefnyddwyr y gwasanaeth a chesglir y gwastraff am ddim drwy ddefnyddio

cerbyd arbennig. Casglwyd oddeutu 61 tunnell o wastraff clinigol yn 2002/03. Llosgir

gwastraff clinigol mewn cyfleuster arbenigol yn y Fwrdeistref Sirol.

Gwastraff Peryglus

Gwastraff domestig peryglus yw unrhyw ddefnydd a deflir sy’n anodd cael gwared arno neu

sy’n peryglu iechyd dynol neu’r amgylchedd oherwydd ei natur gemegol neu fiolegol.

Mae nifer o fathau peryglus, y gellid dod o hyd iddynt mewn gwastraff domestig. Maent yn

cynnwys cemegau megis pla-laddwyr, paent ac inc, rhai batris, olew cerbydau a pheth offer

electronig.

Mae swyddogion y Cyngor yn falch i roi cyngor i ymholwyr am sut i gael gwared ar wastraff

peryglus yn ddiogel. Derbynnir y rhan fywaf o’r gwastraff domestig peryglus yng

nghanolfannau ailgylchu gwastraff y cartref y Fwrdeistref Sirol.

Cesglir cynhwyswyr amheus a gwastraff domestig peryglus am ddim a chedwir nhw’n

ddiogel. Mae cwmni gwaredu gwastraff arbenigol yn cael gwared ar y cwbl wedyn. Cyfeirir

cyrff masnachol â gwastraff peryglus yn uniongyrchol at gwmni arbenigol lleol.

Nwyddau Trydanol ac Electronig

Mae cyfnod bywyd llawer o nwyddau trydanol wedi dod yn fyrrach wrth i ddyfeisgarwch

technolegol gyflwyno newidiadau sylweddol yn fuan iawn ac wrth i gwsmeriaid ddymuno

newid ac uwchraddio cyfarpar.

Mae gwneud nwyddau electronig a thrydanol yn un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf ac

mae’r gwastraff cysylltiedig yn tyfu hefyd. Mae llawer o’r nwyddau hyn yn cynnwys

defnyddiau a all fod yn beryglus i’r amgylchedd os ydynt yn cael eu taflu, eu llosgi neu eu

claddu. Mae’r nwyddau hyn hefyd yn cynnwys symiau cymharol uchel o ddefnyddiau

21

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

ailgylchadwy/adferadwy. Mae deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd yn ceisio cynyddu nifer y

nwyddau hyn sy’n cael eu hailgylchu a lleihau effaith amgylcheddol eu gwarediad.

Ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, mae swyddogion rheoli gwastraff yr Awdurdod yn cynghori

o ran cael gwared ar offer cyfrifiadurol ac yn ceisio ailddefnyddio lle’n bosibl. Gwahanir

oergelloedd a rhewgelloedd yn y canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref cyn iddynt gael eu

gwaredu; rhaid cael gwared ar y rhain mewn safleoedd arbennig lle byddant yn cael eu trin yn

unol â deddfwriaeth UE o ran sylweddau sy’n peryglu’r osôn. Ceir gwared ar offer trydanol

arall ar sgipiau ar y safle.

1.6.4 Sbwriel, tipio heb ganiatâd a cherbydau a adawyd

Mae cynnal glendid ffyrdd a strydoedd Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gyfrifoldeb yr Adran

Gwasanaethau Cymunedol. Mae’r gwaith yn cynnwys brwsio strydoedd, clirio sbwriel a

daflwyd heb ganiatâd a symud cerbydau a adawyd.

YIn 2002/03, roedd 90% o’r tir perthnasol yn y Fwrdeistref Sirol o safon uchel neu

dderbyniol o lendid. Asesir y safonau gan swyddogion yr Awdurdod yn unol â’r Côd

Ymarfer ar Sbwriel a wirir gan swyddogion o’r ymgyrch Cadw Cymru’n Daclus. Mae mwy o

fanylion yn Atodiad C.

Cerbydau a Adawyd

Ymchwilir i bob cerbyd yr adroddir eu bod wedi eu gadael yn Wrecsam. Yn ystod 2001/02,

cymerodd Wrecsam ran mewn cynllun arbrofol a nodwydd gan y Swyddfa Gartref i leihau

llosgi ceir. Ers cyflwyniad y cynllun, mae nifer y cerbydau yr adroddir eu bod wedi eu gadael

tra bod yr amser a gymerir i ddelio â nhw wedi gostwng. Yn 2002/03, symudwyd a

sgrapiwyd 465 o geir a adawyd.

Mae’r cynllun hwn yn dilyn yr un system ar gyfer pob cerbyd, lle:

� mae manylion yr adroddiad (gan y cyhoedd, swyddog y cyngor, warden traffig,

ayb) yn cael eu gwirio;

� gwirir rhif cofrestru’r cerbyd wedyn yn erbyn cyfrifiadur cenedlaethol yr heddlu;

� gwneir ymholiadau yn yr ardal lle daethpwyd o hyd i’r cerbyd;

� os yw’r deiliad cofrestredig yn bwy’n lleol, rhoddir cynnig ar gyswllt personol;

� os yw’r deiliad yn byw tu allan i’r Fwrdeistref, anfonir llythyr i’r cyfeiriad a

restrir.

Gellir symud cerbydau drwy ddefnyddio pwerau a roddir gan Reoliadau Symud Cerbydau a

Chael Gwared Arnynt 1986. Mae swyddogion o’r Adran Gwasanaethau Cymunedol yn

gweithio ar y cyd â heddwas (mae angen llofnod y cwnstabl cyn y gellir symud cerbyd dan y

rheoliadau hyn).

Bydd cerbydau’n cael eu storio os ydynt mewn cyflwr rhesymol neu wedi eu trethu. Hysbysir

y deiliad cofrestredig bod y cerbyd wedi ei symud a gall adfer y cerbyd ar ôl talu ffi.

22

Tipio Heb Ganiatâd

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Golyga tipio heb ganiatâd taflu unrhyw wastraff ar dir nad oes ganddo drwydded i dderbyn

gwastraff. Ystyrir ei fod yn broblem gynyddol ledled y wlad sy’n perthyn i’r gost gynyddol o

gael gwared ar wastraff yn y ffordd gywir.

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gerbyd arbennig i symud a chasglu sbwriel a

daflwyd heb ganiatâd. Symudwyd bron i 350 tunnell o wastraff o amryw leoliadau yn y

Fwrdeistref Sirol yn y flwyddyn ariannol 2002/03. Adroddwyd am oddeutu 519 digwyddiad

yn ystod yr un cyfnod. Mae’r Awdurdod yn gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd i

leihau nifer yr achlysuron o dipio heb ganiatâd. Sefydlwyd cronfa ddata genedlaethol i

gofnodi achlysuron o dipio heb ganiatâd ledled Cymru.

1.6.5 Beth sy’n Digwydd i Sbwriel Wrecsam?

Yn 2002/03, casglodd yr Awdurdod mwy na 83,000 tunnell o wastraff dinesig. Daeth y rhan

fwyaf o gasgliadau sbwriel a chanolfannau ailgylchu gwastraff y cartref. Mae hyn yn cyfateb

i fwy na thunnell a hanner fesul cartref sy’n fwy na phwysau Mini Cooper newydd mewn

blwyddyn!

Dengys Ffigwr 1 yr hyn sydd wedi digwydd i’r sbwriel ers 1996. Gellir gweld twf sylweddol

yn y swm a gynhyrchwn a chladdir y rhan fwyaf ohono. Ar hyn o bryd, mae oddeutu 90% o’r

gwastraff yn cael ei gladdu. Wrth gladdu sbwriel, gofynnir i’r Awdurdod dalu ffi i

berchennog y safle a threth claddu sbwriel i’r Llywodraeth: cyfanswm cost cael gwared ar

sbwriel yn 2002/03, gan gynnwys y dreth claddu sbwriel, oedd £2,000,000+ (ac eithrio

gwastraff masnach). Gwelir manylion y costau rheoli gwastraff yn y Fwrdeistref Sirol yn

Adran 9.

23

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Ffigwr 1: Beth sy’n digwydd i sbwriel Bwrdeistref Sirol Wrecsam?

Tunnelli o wastraff

85,000

80,000

75,000

70,000

65,000

60,000

1.7 Dysgu am Wastraff

1996 1997 1998 1999 2000 2001 2002

Mae’r Awdurdod yn credu mewn annog y genhedlaeth iau i ystyried yr amgylchedd ac mae’n

gwneud cyflwyniadau i grwpiau ysgol ar y pwysigrwydd o leihau gwastraff ac ailgylchu.

Mae’r Cyngor hefyd yn cefnogi ysgolion sy’n cymryd rhan

yn y rhaglen Eco-Ysgolion. Mae’n rhaglen Ewropeaidd

sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth myfyrwyr o’r amgylchedd

a chynaladwyedd. Mae’r Cyngor yn aelod o ENCAMS

(Rhaglen Pobl a Lleoedd Ymgyrchoedd Amgylcheddol)

sy’n anelu at godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o faterion

amgylcheddol. Trafodir y rhaglenni hyn ymhellach yn

Rhan 6.

1.8 Beth sydd yn ein sbwriel?

Gall cyfansoddiad gwastraff amrywio’n sylweddol rhwng ardaloedd a grwpiau cymdeithasol

ac mae nifer o ffactorau’n effeithio arno, gan gynnwys amser y flwyddyn. Yn 2001,

comisiynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru astudiaeth. Y nod oedd dadansoddi

cyfansoddiad gwastraff yng Nghymru a darganfod y ffordd fwyaf priodol o’i ddadansoddi.

Cyflawnodd ymgynghorwyr ddadansoddiad gwastraff i Wrecsam rai blynyddoedd yn ôl.

Fodd bynnag, mae cyfansoddiad yn debygol o newid dros amser wrth i arferion defnyddwyr

newid. Felly, mae’r Cyngor wedi penderfynu defnyddio canlyniadau cyfansoddiad y

Cynulliad a chyflawni ei ddadansoddiad gwastraff ei hun yn ystod 2004-2005.

Dangosir cyfansoddiad gwastraff Cymru yn Ffigwr 2. Gellir gweld bod mwy na 60%

ohono’n bapur, cardbwrdd, gwydr, metel neu ddeunydd organig y mae’n bosibl ei ailgylchu

24

Compostiwyd

Ailgylchwyd

Illosgwyd heb

adfer

Claddwyd

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

neu ei gompostio. Mae’r dadansoddiad yn cynnwys sbwriel o ganolfannau ailgylchu

gwastraff y cartref, sy’n ffurfio canran sylweddol o wastraff Wrecsam.

Ffigwr 2: Cyfansoddiad Gwastraff Domestig Cymru ar Gyfartaledd

Metel

Ffynhonnell: AEA Technology, 2002.

1.9 Cymharu Perfformiad

Mae crynodeb o ddangosyddion perfformiad Wrecsam ar gyfer 2002/2003 yn Nhabl 2.

Mae’r Cyngor wedi cyrraedd y rhan fwyaf o’r targedau a osodwyd yn lleol a chenedlaethol.

Gwelir gwelliannau ym meysydd adfer gwastraff a chompstio’n bennaf.

Ceir mwy o wybodaeth ar y broses gwerth gorau yn Wrecsam yn Rhan 8.

Tabl 2: Dangosyddion Perfformiad Amgylcheddol

5.1a

(i)

5.1a

(ii)

Amrywiol

Gwastraff Organig

Dangosyddion Perfformiad

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

(mae eitemau a farciwyd â (�) yn

ddangosyddion cytundeb polisi

hefyd)

Cyfanswm y tunelli o wastraff

dinesig:

(i) y ganran a ailgylchir neu a

ailddefnyddir (�)

(ii) canran y gweddillion a

losgwyd, gwastraff glanhau

traethau, rwbel a cherbydau a

adawyd a ailgylchir

Cyfartaledd

Lloegr Gyfan

2001/02

Ddim ar

gael

Ddim ar

gael

25

Perfformiad

2001/02

Papur/Cardbwrdd

Targed

2002/03

3.22% 6%

Brethyn

Gwydr

Perfformiad

2002/03

Plastig

Targed

2003/04

6.23%(A) 6%

Ddim ar gael 0 0% 0%

Dangosyddion Perfformiad

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

(mae eitemau a farciwyd â (�) yn

ddangosyddion cytundeb polisi

hefyd)

5.1b Cyfanswm y tunelli o wastraff

dinesig:

y ganran a gompostir (�)

5.1c Cyfanswm y tunnelli o wastraff

dinesig:

y ganran a ddefnyddiwyd i adfer

ffynhonellau gwres, pŵer ac ynni

eraill

5.1d Cyfanswm y tunelli o wastraff

dinesig:

y ganran a gladdir

5.5 Canran y ffyrdd a’r tir perthnasol

a archwilir sydd o safon uchel

neu dderbyniol o lendid.

5.6 Nifer y casgliadau a gollir fesul

100,000 casgliad o wastraff

domestig

* mae’r ffigwr mewn

cromfachau’n cynnwys

gweithredu diwydiannol Gorff

2002

5.7 Canran poblogaeth yr awdurdod

gwerth gorau a wasanaethir gan

gasgliad ymyl ffordd o bethau

ailgylchadwy.

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Cyfartaledd

Lloegr Gyfan

2001/02

Ddim ar

gael

Ddim ar

gael

Ddim ar

gael

Ddim ar

gael

26

Perfformiad

2001/02

Targed

2002/03

Perfformiad

2002/03

Targed

2003/04

0.53% 2% 3.78%(A) 2%

0% 0% 0% 0%

96.25% 92% 89.99%(A) 92%

96% 92% 96% 92%

150 29 30 20.8

(*404)

91% 0% 11% 11% 11%

30

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Crynodeb o’r Sefyllfa Bresennol

Mae gan ganran sylweddol o’r Fwrdeistref Sirol finiau ag olwynion. Mae hyn yn

gwella effeithiolrwydd ein system gasglu ac yn lleihau swm y sbwriel a welir ar ein

strydoedd.

Mae pob cartref yn Wrecsam yn cynhyrchu mwy na 1.5 tunnell o wastraff bob

blwyddyn! Ar hyn o bryd, claddir y rhan fwyaf ohono; ond ystyriwn fod hyn yn

wastraff adnoddau gan y gellid ailgylchu neu gompostio oddeutu 60% ohono.

Llynedd, adferodd yr Awdurdod 6.8% o’r gwastraff dinesig i’w ailgylchu a 3.8% i’w

gompostio. Rhaid gwella’r ffigyrau hyn yn sylweddol er mwyn gwneud ein system yn

fwy cynaliadwy a chyrraedd targedau’r Llywodraeth. Bydd y cynllun ailgylchu o 6,000

o gartrefi a ddechreuodd ym mis Gorffennaf 2002 yn cael ei estyn i gynnwys 24,000 o

gartrefi yn ystod 2004/2005.

Mae’r Awdurdod yn arbrofi gwasanaeth casglu ar wahân ar gyfer gwastraff masnach

ailgylchadwy. Gallai fod budd sylweddol i gynnig gwell gwasanaeth o ganlyniad i’r

swm uchel o ddefnyddiau ailgylchadwy sy’n cael eu taflu i ffwrdd gan fusnesau e.e.

gwydr, papur a chardfwrdd.

Er bod safon glendid y rhan fwyaf o strydoedd y Fwrdeistref Sirol yn uchel neu’n

dderbyniol, gallwn wella ar hyn eto. Gallwn wella drwy barhau i beidio â goddef

cerbydau a adawyd, tipio heb ganiatâd a thaflu sbwriel.

Cyflogir wardeiniaid cymunedol i orfodi deddfwriaeth. Mae ganddynt bwerau i

gyhoeddi dirwyon yn y man a’r lle am daflu sbwriel dan Adran 88 o Ddeddf Diogelu’r

Amgylchedd 1990 a chŵn yn baeddu dan is-ddeddf Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

27

Pam newid?

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

NODAU’R DYFODOL

Mae’n rhaid i ni newid y ffordd y rheolwn ein sbwriel; mae nifer o resymau

dros hyn:

• Yr angen i fod yn fwy cynaliadwy

• Y twf cynyddol yn y gwastraff a gynhyrchwn

• Costau amgylcheddol ac economaidd claddu tir

• Gweithredu deddfwriaeth

• Gweithredu polisïau cynllunio

• Cyflawni targedau’r Llywodraeth

1.10 Cynaladwyedd

Cysyniad cynaladwyedd yw bodloni anghenion y genhedlaeth hon heb rwystro

cenedlaethau eraill rhag bodloni eu hanghenion nhw. Mae’n cynnwys

ystyried pam a sut ydym yn defnydio mwy o adnoddau a pha ddewisiadau

sydd ar gael i ni.

Mae rheoli gwastraff yn chwarae rôl allweddol mewn hybu cynaladwyedd ac

yn cynnwys hybu atal a lleihau gwastraff fel blaenoriaeth, ynghyd ag

ailddefnyddio ac ailgylchu i fwyhau’r defnydd o nwyddau a wnaed. Dyma

ben yr hierarchaeth gwastraff traddodiadol a dilynir ef gan adfer ynni a chael

gwared ar y gweddill mewn ffordd ddiogel. Nid yw hwn yn fformiwla

cyfarwyddol a dylid ystyried pob sefyllfa’n unigol o ran dewisiadau

amgylcheddol ymarferol gorau.

Anelir deddfwriaeth Ewropeaidd a’r Llywodraeth at leihau’r gwastraff a

gladdir yn sylweddol. Mae’r polisi’n gofyn am dalu sylw penodol i’r elfennau

hynny o’r llif gwastraff a allai lygru’r amgylchedd neu niweidio iechyd dynol,

er enghraifft gwastraff pydradwy a pheryglus. Ystyriwn wastraff yn adnodd a

dylid ystyried y potensial ar gyfer ei adfer.

1.11 Creu Gwastraff

Rhwng 1996 a 2003, cynyddodd y gwastraff a gynhyrchasom yn Wrecsam o

71,499 tunnell i 83,205 tunnell, sef twf o oddeutu 3% y flwyddyn. Yn yr un

cyfnod, mae nifer y tai yn y Fwrdeistref Sirol wedi cynyddu ond nid ar yr un

cyflymdra, sy’n golygu bod y gwastraff fesul cartref wedi codi o oddeutu 1.36

tunnell y flwyddyn i 1.55 tunnell y flwyddyn. Mae’r cynnydd oherwydd

28

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

dymuniadau pobl fel defnyddwyr a newidiadau mewn pecynnu. Dangosir y

gwastraff a daflwn i ffwrdd yn Ffigwr 3.

Gall gwastraff gael ei symud o gladdfeydd a’i ailddefnyddio, ailgylchu ac

adfer. Fodd bynnag, er mwyn datblygu dyfodol mwy cynaliadwy, rhaid

cyfyngu’n sylweddol ar ein gwastraff. Bydd hyn yn golygu newid yn ein

ffyrdd o fyw o ran defnyddio a chael gwared ar bethau. Mae’n bwysig cofio

bod ailgylchu deunyddiau’n defnyddio adnoddau ac ynni ac nad yw’n

rhywbeth diddiwedd. Y nod yn y pen draw yw creu llai o wastraff yn y lle

cyntaf. Ystyriwn ei bod yn bwysig helpu’r cyhoedd ddatgysylltu cyfranogiad

mewn ailgylchu a chompostio (fel dulliau adfer) o’u cyfrifoldeb am leihau

gwastraff.

Ffigwr 3: Twf yn y Gwastraff a Gynhyrchir fesul Cartref

1.12 Costau Amgylcheddol ac Economaidd Claddu Sbwriel

Yn hanesyddol, claddu sbwriel oedd y ffordd rataf, hawsaf o gael gwared ar

wastraff yn y DU; mae hyn yn arbennig o wir yng Nghymru lle mae mwy o le i

gladdu sbwriel nag unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig.

Ar hyn o bryd, mae oddeutu 95% o

wastraff dinesig Cymru’n cael ei

29

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

gladdu. Nid yw’r lefel hon yn gynaliadwy oherwydd y problemau amgylcheddol

cysylltiedig a’r ffaith amlwg ein bod yn rhedeg allan o le. Mae risg o lygru dŵr

bob amser, gallai lygru’r tir a’i wneud yn anaddas ar gyfer defnyddiau eraill; gall

nwyon claddu fod yn beryglus ac mae’r methan sy’n dod o safleoedd claddu

sbwriel yn brif nwy ‘tŷ gwydr’.

Cyflwynwyd y Dreth Claddu Sbwriel yn 1996 a hon oedd ‘eco-dreth’ gyntaf y

Llywodraeth. Ei phwrpas yw gosod tâl economaidd ar y costau amgylcheddol sy’n

deillio o gladdu sbwriel ac mae felly’n peri i ddewisiadau mwy cyfeillgar i’r

amgylchedd yn fwy ffafriol, yn enwedig i’r sectorau masnachol a diwydiannol sydd

â diddordeb economaidd yn y gost o gael gwared ar wastraff.

Sefydlwyd y dreth hon yn £10 y tunnell yng nghyllideb 1999, ag ychwanegiad o £1

y flwyddyn i’w gwneud yn £15 y tunnell erbyn 2004. Gosodwyd y cynnydd

blynyddol yn o leiaf £3 y tunnell erbyn hyn i ddod â’r dreth i £35 yn y tymor

canolig. Os yw arferion claddu cyfredol yn parhau, byddant yn cael goblygiadau

ariannol mawr i’r Awdurdod; dangosir y gost dybiedig o gladdu sbwriel am y 25

mlynedd nesaf yn Ffigwr 4. Gellir gweld y byddai’r costau’n enfawr, pe baem yn

parhau i gladdu ar yr un cyflymdra ag y gwnawn nawr.

Costau claddu sbwriel £'au

10,000,000

9,000,000

8,000,000

7,000,000

6,000,000

5,000,000

4,000,000

3,000,000

2,000,000

1,000,000

Cyfradd claddu presennol

Bodloni targedau ailgylchu/

compostio

2001 2006 2011 2016 2021

Ffigwr 4: Cost Claddu Sbwriel

30

1.13 Deddfwriaeth

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Penderfynir ar y rhan fwyaf o ddeddfwriaeth gwastraff y DU mewn ymateb i

gyfarwyddiadau a rheoliadau’r Gymuned Ewropeaidd. Dan gyfraith yr UE,

gall gwledydd unigol ddehongli cyfarwyddiadau tra bod rhaid gweithredu

rheoliadau heb ddehongliad.

Ffurfia Deddf Diogelwch Amgylcheddol 1990 sail cyfraith amgylcheddol yn y

DU. Mae’n cynnwys darpariaethau ar gyfer gwastraff ac yn gofyn i

awdurdodau lleol gasglu a chael gwared ar wastraff dinesig. Mae’r ddeddf yn

ei gwneud yn drosedd trin neu gael gwared ar wastraff ar dir nad yw wedi ei

drwyddedu i’r pwrpas hwnnw. Mae nifer o reoliadau wedi dilyn y ddeddf

sy’n pennu sut ddylai gael ei gweithredu.

Mae nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth a weithredwyd neu a fydd yn cael eu

gweithredu yn y blynyddoedd nesaf a bydd y rhain yn cael effaith sylwddol ar

reolaeth gwastraff domestig yn y DU. Manylir ar y rhain yn Atodiad D a

chrynhoir nhw isod:

� Y Rheoliadau Claddu Sbwriel (1999/31/EC). Cyflwynwyd y

rhain i leihau’r effaith amgylcheddol negyddol o gladdu sbwriel yn

Ewrop. Gweithredir nhw yn y DU drwy’r Rheoliadau Claddu

Sbwriel (2002) a ddaeth i rym ar 15 Mehefin 2002. Mae’r

rheoliadau’n dosbarthu safleoedd ar gyfer claddu gwastraff

peryglus, gwastraff nad yw’n beryglus a gwastraff segur a bydd yn

cyfyngu’n sylweddol swm y gwastraff dinesig pydradwy a gladdir.

Bydd Deddf Masnachu Gwastraff a Gollyngiadau 2003 yn helpu’r

DU i gwrdd â’i rhwymedigaethau dan y Cyfarwyddyd Claddu

Ewropeaidd drwy ddatblygu’r fframwaith statudol am gynlluniau

masnachu gollygiadau ymhellach. Dan y system newydd, bydd

gan awdurdodau drwyddedau i fanylu ar swm y gwastraff

pydradwy y gallant ei gladdu. Bydd gofyn compostio neu

ailgylchu neu adfer y gweddill. Bydd raid i awdurdodau ddarparu

ar gyfer casglu deunyddiau peryglus ar wahân hefyd.

� Y Rheoliadau Is-Gynnyrch Anifeiliaid (2003). Cymerodd y

rhain le Gorchymyn Is-Gynnyrch Anifeiliaid (Diwygiad) 2001.

Maent yn gorfodi rheolaeth gaeth ar gompostio gwastraff cegin ac

arlwyo a defnyddio compost a gafwyd o’r gwastraff hwn.

� Y Rheoliadau Sylweddau sy’n Gwaethygu’r Osôn (2000).

Dyma reoliadau’r Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer cyfarpar

domestig yn effeithiol o fis Ionawr 2002. Maent yn gofyn am

adfer yr holl sylweddau sy’n gwaethygu’r osôn (megis

clorofflworocarbonau – CFCs) wrth drin a chynnal a chadw

cyfarpar a cyn datod neu gael gwared ar gyfarpar. Nid oedd

31

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

cyfleusterau prosesu arbenigol ar gael yn gyffredinol pan

estynnwyd y rheoliadau hyn i gynnwys oergelloedd domestig ym

mis Ionawr 2002 ac arweiniodd hyn at ‘fynyddoedd oergelloedd’.

Mae cwmnïau rheoli gwastraff mawr yn cynnig cyfleusterau

ailbrosesu oergelloedd erbyn hyn ac yn defnyddio offer fan eithaf

y grefft i gael gwared ar oergelloedd yn unol â’r Rheoliadau

Sylweddau sy’n Peryglu’r Osôn.

� Bydd y Cyfarwyddyd Diwedd Bywydau Cerbydau yn cael ei

weithredu’n llawn yn y DU’n fuan. Nid yw’n glir eto beth fydd

goblygiadau hyn i awdurdodau leol er ei fod yn debygol y bydd y

gost o gael gwared ar geir yn codi ac, os bydd defnyddwyr olaf

cerbydau’n gyfrifol am y gost (yn ôl un o’r dewisiadau), bydd cae;

gwared ar geir yn anghyfreithlon yn cynyddu, gan ychwanegu at

nifer y cerbydau a adawir y mae’n rhaid i’r Cyngor ddelio â nhw.

Bydd nifer gynyddol y cerbydau’n cynyddu costau rheoli

gwastraff y Cyngor felly.

� Mae Cyfarwyddyd Cyfarpar Trydanol ac Electronig

Gwastraff yn gofyn am gynyddiadau sylweddol mewn cyfraddau

ailgylchu a bydd hyn yn gymwys ar gyfer cyfarpar domestig a

thargedau ailgylchu o oddeutu 4 kg fesul cartref y flwyddyn.

Bydd gofyn i awdurdodau lleol gyflwyno systemau casglu ar

wahân er mwyn cyrraedd y nod hwn.

� Y Rheoliadau Pecynnu (1998): Mae’r rheoliadau hyn yn

gweithredu Erthygl II o Gyfarwyddyd Ewropeaidd 94/62/EC ar

becynnu a phecynnu gwastraff. Lluniwyd nhw i:

o leihau symiau pecynnu’n unol â safonau diogelwch,

glanweithdra a derbyniad cynnyrch/cwsmeriaid;

o ailystyried cynllun pecynnau i ganiatáu ailddefnyddio a/neu

adfer a lleihau effaith y gwastraff hwn ar yr amgylchedd;

o annog gwneuthurwyr pecynnu i leihau presenoldeb sylweddau

peryglus mewn pecynnau a’u cynnyrch er mwyn gostwng

llygredd (gollygiadau, llwch neu drwtholch) wrth losgi neu

gladdu gwastraff pecynnu.

o Os gorfodir hi’n effeithiol, dylai’r ddeddfwriaeth wneud

gwahaniaeth sylweddol mewn gostwng lefel y pecynnu

diangen a gwneud y gweddill yn fwy agored i ailbrosesu neu

adfer ynni. Mae gan adrannau safonau masnach awdurdodau

lleol bwerau i orfodi’r rheoliadau.

32

1.14 Polisïau Cynllunio

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Bolisi Cynllunio Cymru, Nodyn

Cyngor Technegol 21: Gwastraff ym mis Tachwedd 2001. Disgrifia’r ddogfen sut

ddylai’r system cynllunio defnydd tir yng Nghymru gyfrannu at reoli gwastraff

mewn ffordd gynaliadwy. Mae’n nodi y dylid gwneud trefniadau ar y cyd ag

awdurdodau lleol cyfagos er mwyn creu cyd-gynlluniau rhanbarthol a chydddefnyddio

cyfleusterau.

Cynhaliwyd Fforwm Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru ym mis

Gorffennaf 2002 gyda’r nod penodol o lunio strategaeth gwastraff ranbarthol.

Mae’r fforwm yn cynnwys cynrychiolwyr o’r saith sir yng ngogledd Cymru a

budd-ddeiliaid allweddol eraill e.e. Parc Cenedlaethol Eryri. Nod cyntaf y

Fforwm oedd asesu’r gwastraff rhanbarthol sy’n dod o’r pum prif lif gwastraff.

Bydd y cynllun gwastraff rhanbarthol yn penderfynu ar yr adnoddau sydd eu

hangen i ddelio â’r gwastraff hwn a rhaid iddo fod yn unol â chynlluniau datblygu

unedol pob awdurdod. Y dyddiad targed ar gyfer cwblhau’r cynllun, yn dilyn

cyfnod o ymgynghori, oedd mis Tachwedd 2003.

Noda’r Nodyn Cyngor mai’r materion cynllunio allweddol y dylid ymdrin â nhw

yw’r dewis amgylcheddol ymarferol gorau (BPEO), dewis rheolaeth gwastraff

cynaliadwy (SWMO), asesiad cylch bywyd (LCA), egwyddor agosrwydd, ecogynllun

ac asesiadau effaith iechyd. Disgrifir yr egwyddorion hyn yn fras isod:

Dewis Amgylcheddol Ymarferol Gorau

Canlyniad gweithdrefn systemategi o ymgynghori a phenderfynu, sy’n pwysleisio

diogelu a gwarched yr amgylchedd o ran tir, awyr a dŵr. Mae’r weithdrefn yn

penderfynu ar y dewis sy’n rhoi’r budd mwyaf neu sy’n difrodi lleiaf, am gost

dderbyniol, yn y tymor hir a byr 1

Dewis Rheolaeth Gwastraff Cynaliadwy

Bwriad y Dewis Rheolaeth Gwastraff Cynaliadwy yw helpu cyrff cynllunio

gwastraff i ddiffinio eu nodau gwneud penderfyniadau, creu a gwerthuso

dewisiadau rheoli gwastraff ac yna nodi a datblygu’r dewis terfynol. Mae’r

materion amgylcheddol allweddol y mae’n rhaid i awdurdodau cynllunio lleol eu

hystyried fel a ganlyn:

♦ Defnydd effeithiol a chall o adnoddau cynradd;

♦ Lleihau gollyngiadau sy’n cael effaith yn lleol ac ymhellach;

� Lleihau effeithiau ar ansawdd awyr lleol;

� Gwarchod tirluniau a threfluniau pwysig;

1 Deuddegfed Adroddiad y Comisiwn Brenhinol ar Lygredd Amgylcheddol

33

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

� Diogelu amwynderau lleol;

� Diogelu cynefinoedd a rhywogaethau;

� Lleihau effeithiau cludiant.

Asesiad Cylch Bywyd

Ffordd o werthuso mewnbynnau a gollyngiadau sy’n perthyn i bywyd cyfan

cynnyrch, o gael y defnyddiau craidd hyd at wneud, dosbarthu, gwerthu,

defnyddio, ailddefnyddio, cynnal a chadw, ailgylchu a rheoli’r gwastraff yn y pen

draw. Gellir ystyried effeithiau amgylcheddol a chostau. Mae dadansoddiad

cylch bywyd yn cyfeirio at gasglu data i greu rhestr ar gyfer asesiad cylch bywyd.

Egwyddor Agosrwydd

Golyga’r egwyddor hon (o ran gwastraff) y dylid trin neu gael gwared ar wastraff

mor agos i’r lle y cynhyrchwyd ef â phosibl er mwyn lleihau’r pellter y mae’r

gwastraff yn cael ei symud.

Eco Gynllun

Mae’r diwydiant adeiladu wedi bwrw ati i ddatblygu defnyddiau a dulliau sy’n

lleihau’r defnydd o adnoddau a mwyhau’r cyfle i ailddefnyddio ac ailgylchu

defnyddiau adeiladu. Rhaid i ddiwydiannau eraill ystyried y defnyddiau a

ddefnyddir wrth ddatblygu eu cynnyrch er mwyn gostwng nifer y defnyddiau

sydd eu hangen i wneud y cynnyrch. Dylai gwneuthurwyr sicrhau bod y

defnyddiau a ddefnyddir yn hawdd eu hadnabod a bod modd eu hadfer yn hawdd.

Dylai dulliau gwneud sicrhau bod mwy o ddefnyddiau’n cael eu hadfer.

Asesiad Effaith ar Iechyd

Mae’r asesiad hwn yn ffactor pwysig wrth benderfynu ar effeithiau positif a

negyddol ar iechyd wrth weithredu polisïau, strategaethau neu ddatblygiadau

eraill. Gallai goblygiad iechyd gael effaith ar y boblogaeth gyfan neu gyfran

benodol ohoni.

Mae asesiad effaith ar iechyd yn ffordd o adnabod ffyrdd o ddiogelu a/neu wella

iechyd pobl. Cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru gyfarwyddyd ym mis

Tachwedd 1999 o’r enw, “Datblygu Effaith ar Iechyd Yng Nghymru”. Mae’r

Cynulliad yn ymroddedig i wella iechyd y wlad ac mae’n annog cyrff eraill i

wneud yr un peth.

Mae’r asesiad hwn yn defnyddio cyfuniad o ddulliau i wneud barn am effaith

bosibl ar iechyd oherwydd proses neu benderfyniad penodol. Rhaid i awdurdodau

lleol sicrhau nad ydynt yn anwybyddu goblygiadau iechyd. Mae iechyd a lles yn

rhan annatod o ddatblygiad cynaliadwy.

34

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Hierarchaeth Gwastraff

Gellir gweld blaenoriaethau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cynulliad

Cymru ar gyfer gwastraff yn y diagram isod. Maent yn dechrau gyda lleihau

ar y pen, wedyn ailddefnyddio, adfer (ailgylchu, compostio neu adfer ynni) ac

yna cael gwared. Mae’r hierarchaeth gwastraff yn ein galluogi i archwilio ac

ystyried amrywiaeth o ddewisiadau economaidd ac amgylcheddol.

Lleihau

Ailddefnyddio

Ailgylchu/

Compostio

Adfer

Cael Gwared

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ymroddedig i ddefnyddio’r

egwyddorion hyn o fewn ei bwysau cyllidebol er mwyn darparu safon uchel o

wasanaeth i drethdalwyr y Cyngor.

35

1.15 Targedau

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

1.15 Cyfarwyddyd Claddu Tir

Mae’r cyfarwyddyd yn gofyn am leihau swm y gwastraff dinesig pydradwy 2

(GDP) yn sylweddol:

� erbyn 2010 lleihau’r GDP a gladdir i 75% (yn ôl pwysau) o’r hyn

a gynhyrchwyd yn 1995

� erbyn 2013 lleihau’r GDP a gladdir i 50% (yn ôl pwysau) o’r hyn

a gynhyrchwyd yn 1995

� erbyn 2020 lleihau’r GDP a gladdir i 35% (yn ôl pwysau) o’r hyn

a gynhyrchwyd yn 1995

Er bod y targedau hyn i weld ymhell i ffwrdd, mae’n debygol y bydd y CE yn

eu gorfodi’n gaeth ac mae’n hanfodol ymchwilio i fesurau i leihau GDP a’u

cynllunio cyn gynted â phosibl. Unwaith iddi fynd drwy’r Senedd, bydd

Deddf Masnachu Gwastraff a Gollyngiadau 2003 yn cyflwyno lwfansau

claddu sbwriel i bob rhanbarth; mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi

penderfynu ar lwfansau pob awdurdod lleol yng Nghymru.

1.14.1 Polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru

Yn y Strategaeth Gwastraff ar gyfer Cymru 3 , mae gan y Cynulliad nifer o

bolisïau strategol ar gyfer gwastraff ac mae’r rhain yn cynnwys:

� Polisi ar ddiogelu iechyd a’r amgylchedd drwy ddefnyddio’r holl

fesurau hanfodol i ddiogelu yn erbyn effeithiau niweidiol a achosir

gan gynhyrchu, casglu, cludo, trin, storio, adfer a chael gwared ar

wastraff.

� Strategaeth cael gwared ar wastraff – dylai prif flaenoriaeth Cymru

fod i atal twf pellach a lleihau swm y gwastraff a gynhyrchir, yn

enwedig gwastraff peryglus.

� Ymagwedd ddyfeisgar at gynllunio cynnyrch. Dylai busnesau yng

Nghymru geisio mantais gystadleuol drwy anelu at wneud

nwyddau sy’n para mwy, sy’n haws eu hailddefnyddio a’u

2 Mae gwastraff pydradwy’n wastraff a fydd yn pydru naill ai ym mhresenoldeb aer neu heb aer. Mae’n cwmpasu

gwastraff megis card, papur, bwyd a gwastraff gwyrdd a brethyn naturiol. Wrth iddo bydru, mae’n cynhyrchu methan

sy’n nwy tŷ gwydr pwerus.

3 “Wise about Waste,” is-deitl, “Learning to Live Differently,” Mehefin 2002

36

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

hailgylchu ac yn llai tafladwy. Rhaid i ni symud tuag at ecogynllunio

a pholisi cynnyrch integredig.

� Anogir ailddefnyddio defnyddiau. Anogir mwy o ddefnydd o

nwyddau ailddefnyddiadwy er mwyn eu hatal rhag dod yn

wastraff.

� Anogir gwahanu gwastraff lle crëir ef.

� Dylid defnyddio ynni o wastraff fel rhan o ymagwedd integredig

yn unig. Dylid symud defnyddiau ailgylchadwy ac

ailddefnyddiadwy’n gyntaf.

Yn ogystal, mae polisïau ar gyfer:

• ailgylchu fel elfen allweddol o reoli gwastraff

• atebion lleol

• rheolaeth gynaliadwy o wastraff pydradwy

• cludo gwastraff cymysg mewn ffordd gynaliadwy

• datblygu marchnadoedd compostio ac ailgylchu

• lleihau sbwriel a chael gwared ar wastraff yn anghyfreithlon

• caffaeliad sector cyhoeddus

• addysg ac ymwybyddiaeth

• llai o alw am gladdu sbwriel

• rhannu arfer da

• dulliau dyfeisgar o reoli gwastraff

• gwell data gwastraff, cynllunio i greu isadeiledd rheoli gwastraff

• cyllid ar gyfer gweithredu

• cynnwys y gymuned

Yn ogystal â thargedau’r DU sy’n berthnasol er mwyn bodloni amryw o gyfarwyddiadau

Ewropeaidd, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gosod allan targedau penodol i

Gymru. Mae’n gosod allan targedau cynradd lle mae gan y Cynulliad a’i bartneriaid

allweddol (awdurdodau lleol) ddylanwad uniongyrchol ar eu canlyniad a thargedau eilradd

lle mae’r dylanwad yn llai.

37

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Y targedau cynradd ar gyfer Cymru yw:

1. Cyrff cyhoeddus i leihau eu gwastraff eu hunain:

• erbyn 2005, cyflawni gostyngiad sy’n gyfystyr ag o leiaf 5% o’r ffigwr a

gafwyd yn 1998;

• erbyn 2010, cyflawni gostyngiad sy’n gyfystyr ag o leiaf 10% o’r ffigwr a

gafwyd yn 1998.

2. Isafswm targedau ailgylchu a chompostio ar gyfer pob awdurdod lleol:

• erbyn 2003/04 ailgylchu/compostio o leiaf 15% o’r gwastraff dinesig a

lleiafswm o 5% o hyn yn gompostio (cyfrif compost a geir o ddefnyddiau a

wahanir lle crëir nhw’n unig) a 5% yn ailgylchu

• erbyn 2006/07 ailgylchu/compostio o leiaf 25% o’r gwastraff dinesig a

lleiafswm o 10% o hyn yn gompostio (cyfrif compost a geir o ddefnyddiau a

wahanir lle crëir nhw’n unig) a 10% yn ailgylchu

• erbyn 2009/10 ailgylchu/compostio o leiaf 40% o’r gwastraff dinesig a

lleiafswm o 15% o hyn yn gompostio (cyfrif compost a geir o ddefnyddiau a

wahanir lle crëir nhw’n unig) a 15% yn ailgylchu

3. Gwell gwahanu o wastraff cartref peryglus:

• erbyn 2003/04, dylai pob safle amwynderau dinesig gael cyfleusterau i

dderbyn a storio asbestos wedi ei fondio. Dylai safleoedd gael

cyfleusterau ar gyfer derbyn a storio olew, paent, toddyddion a bylbiau

golau fflworoleuol, er mwyn eu hailgylchu’n hwyrach.

Gweithia Llywodraeth Cynulliad Cymru’n agos gyda llywodraeth leol ac nid yw’n ystyried

bod angen cyflwyno’r targedau ailgylchu a chompostio gwastraff dinesig arfaethedig fel

safonau perfformiad gwerth gorau. Fodd bynnag, os yw perfformiad awdurdodau lleol o ran

y targedau anstatudol ar gyfer 2003/4 yn dangos na fydd goblygiadau’r Undeb Ewropeaidd

yn cael eu cyflawni, mae gan y Cynulliad yr hawl i gyflwyno safonau perfformiad gwerth

gorau a gofyn i awdurdodau lleol eu bodloni.

Mae’r Cynulliad yn benderfynol y bydd Cymru’n diwallu ei rhwymedigaeth i leihau’r

gwastraff dinesig pydradwy y ceir gwared arno drwy ei gladdu. O ganlyniad i’r ymatebion a

gafwyd i’r papur ymgynghori “Cyfyngu ar Gladdu Sbwriel”, cyhoeddir trwyddedau i

awdurdodau lleol a chyrff eraill i alluuogi awdurdodau lleol i gael gwared ar swm penodol

o’r gwastraff hwn o fewn blwyddyn. Mae’r tunnelli a ganiateir gan y trwyddedau’n gyfystyr

â chyfanswm y GDP y mae modd ei gladdu bob blwyddyn. Yn wahanol i’r cynigion yn

Lloegr, ni ellir cyfnewid y trwyddedau hyn.

38

1.14.2 Gwastraff Pecynnu

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Mae’r Deyrnas Unedig yn ymroddedig i’r targedau a’r nodau a osodir allan yng

Nghyfarwyddyd y Comisiwn Ewropeaidd ar Becynnu a Gwastraff Pecynnu (94/62/EC).

Mae’r targedau, a oedd yn orfodol ar ddiwedd Mehefin 2001, fel a ganlyn:

� Adfer rhwng 50% a 65% o wastraff pecynnu

� Ailgylchu rhwng 25% a 45% o wastraff pecynnu

� Ailgylchu o leiaf 15% o bob defnydd (papur, gwydr, ayb)

Gorfodir y rhain yn y DU drwy Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr

(Gwastraff Pecynnu) 1997. Gosododd Llywodraeth y DU a’r Cynulliad darged adfer 2001

yn 58% a’r targed ailgylchu’n 18% ar gyfer busnesau sy’n gaeth i’r rheoliadau hyn. Nid

yw’r busnesau hyn yn cynnwys busnesau llai y mae’n annhebygol y byddent yn gallu

bodloni’r targedau hyn.

Mae’r cyfrifoldeb cyfreithiol yn gorwedd gyda chwmnïau sydd wedi eu rhwymo a

chynlluniau cydymffurfio. Rhaid i’r sefydliadau hyn gynhyrchu tystiolaeth o dunnellau a

adferir ac a ailgylchir. Mae’r rhan fwyaf o wastraff peycnnu’n dod o’r sector manwerthu ar

hyn o bryd, sy’n cynhyrchu symiau mawr o gardbord rhychog a ffilm plastig. Er mwyn

bodloni targedau, bydd gofyn i gwmnïau adfer ac ailgylchu gwastraff o’r sector domestig

hefyd. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r sector preifat fynd i gytundebau gydag awdurdodau lleol i

estyn casglu defnyddiau ailgylchadwy. Ar gyfer awdurdodau lleol, gallai hyn fod yn

ffynhonnell bwysig o gyllid ar gyfer rhaglenni ailgylchu ac adfer. Disgwylir i dargedau

barhau i godi yn y dyfodol.

1.14.3 Beth mae hyn yn ei olygu i Fwrdeistref Sirol Wrecsam?

O Ffigwr 5, mae’n glir bod angen i’r Cyngor gwrdd â rhai targedau llym iawn yn y 5

mlynedd nesaf. Bydd gweddill y ddogfen hon yn manylu ar sut y gellir diwallu’r targedau

hyn.

1.15 Cyfyngiadau Cyllidebol a Chytundebol

Cyflwynodd Deddf Llywodraeth Leol 1999 y cysyniad o werth gorau. Mae awdurdodau lleol

yn atebol am ddarparu gwasanaethau i’r gymuned a darparu gwerth gorau. Mae pedair elfen

i werth gorau: herio, cymharu, ymgynghori a chystadlu. Maent yn gofyn i awdurdodau:

� herio pam a sut y darperir gwasanaeth; ac yn cynnwys awdurdodau lleol yn

gwerthuso pob gwasanaeth

� cymharu perfformiad eraill (gan gynnwys cyrff yn y sectorau preifat a

gwirfoddol) ar draws ystod o ddangosyddion gwahanol, gan ystyried barn

defnyddwyr a darpar gyflenwyr

� ymgynghori â phobl sy’n talu Treth y Cyngor, defnyddwyr gwasanaethau a’r

gymuned fusnes ehangach o ran sefydlu targedau perfformiad newydd

� rhaid i awdurdodau groesawu cystadleuaeth fel ffordd o gael gwasanaethau

effeithiol ac effeithlon

39

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Ffigwr 5: Tunnelli o’n gwastraff i’w ailgylchu neu ei gompostio er mwyn bodloni

targedau’r Llywodraeth

Ar gyfer awdurdodau gwastraff, noda DEFRA y dylai fod pumed elfen mewn arolygon

gwerth gorau, sef:

� Cydweithredu gydag amryw grwpiau masnachu, cymunedol a gwirfoddol.

Adlewyrcha’r dangosyddion gwerth gorau’r diddordeb cenedlaethol mewn darparu

gwasanaethau lleol. Cynlluniwyd y dangosyddion hyn i alluogi cymariaethau rhwng

perfformiad gwahanol awdurdodau, gan gynnwys gwahanol fathau o awdurdodau ac o fewn

un awdurdod, ymhen amser.

Dylai’r Cyngor geisio darparu gwerth gorau ar draws ei holl wasanaethau, gan gynnwys

casglu a chael gwared ar wastraff. Gall wneud hyn drwy broses tendro contractau effeithiol.

O ran rheoli gwastraff, gall gwasanaethau gael eu rhannu rhwng casglu gwastraff a chael

gwared ar wastraff neu eu gosod fel un gwasanaeth integredig.

Dechreuodd contract casglu sbwriel y Cyngor yn 1997. Ar ôl proses dendro, rhoddwyd y

contract i weithlu’r Cyngor. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi mynd i gytundeb

Grant Gwella Perfformiad gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru lle mae’r Cyngor wedi cytuno

i ailgylchu/gompostio10% o’i wastraff yn 2003/04. Fodd bynnag, ers cyrraedd y cytundeb,

mae’r Cynulliad wedi cynnig cyllid pellach i’w wario ar wella rheolaeth gwastraff

gynaliadwy, gan gynnwys cynyddu swm y gwastraff dinesig a ailgylchir ac a gompostir.

Felly, mae’r Cyngor yn bwriadu defnyddio’r cyllid i gyrraedd cyfradd ailgylchu/compostio

uwch o 15% fel a nodwyd yn y Strategaeth Gwastraff i Gymru. Mae’r grant y cytunwyd arno

gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel a ganlyn:

40

Grant Rheolaeth

Gwastraff Gynaliadwy

Cytundeb Credyd

Atodol

Sylwer: Mae’r symiau ar gyfer 2005/06 a 2006/07 yn arwyddol.

1.16 Gobeithion y Gymuned

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

2001/02 2002/03 2003/04 2004/05 2005/06 2006/07

£59,302 £435,928 £871,856 £860,032 £860,032 £860,032

dim £118,889 £198,149 dim dim dim

Comisiynwyd ymarferion ymgynghori gan y Fwrdeistref Sirol i benderfynu ar lefel

bodlonrwydd trigolion gyda’r gwasanaethau a ddarperir gan yr amryw adrannau. Mae’r

Adran Gwasanaethau Cymunedol wedi ymgynghori ar gasglu a chael gwared ar sbwriel drwy

ddefnyddio grwpiau ffocws a Phanel y Dinasyddion ac mae wedi anfon holiaduron at

gynghorau cymuned i gael barn ar y lefel honno.

Mae’r syniadau a fynegir yn delio ag agweddau o gasglu sbwriel, ailgylchu a defnyddio

safleoedd gwastraff cartref/ailgylchu. Mae arolygon Panel y Dinasyddion wedi dangos

canlyniadau calonogol:

Tabl 0-1: Lefel bodlonrwydd trigolion gydag agweddau o’r Gwasanaeth Casglu

Gwastraff Cartref a ddarperir gan y Cyngor

Barn am

41

Nifer yr ymatebwyr

Bodlon

iawn/Gweddol

fodlon (%)

Anfodlon

iawn/Gweddol

anfodlon (%)

Dibynadwyedd y gwasanaeth casglu sbwriel 85 7

Y cynhwysydd a ddarperir i gasglu gwastraff domestig 82 10

Lefel glendid y stryd yn dilyn casgliad 67 19

Y man lle gofynnir i’r ymatebydd adael ei wastraff ar gyfer

y casgliad

62 23

Casglu gwastraff cartref swmpus 29 19

Y gwasanaeth casglu sbwriel yn gyffredinol 79 8

Yn gyffredinol, dengys y canlyniadau fod y cyhoedd yr ymgynghorwyd â nhw’n fodlon iawn

neu’n weddol fodlon â’r gwasanaeth, yn enwedig dibynadwyedd y gwasanaeth casglu sbwriel

a’r cynhwysydd a ddarperir. O ran gwella gwasanaeth, mae’n amlwg y bydd angen i’r

Cyngor ystyried ei gasgliad o wastraff domestig swmpus.

Ym mis Rhagfyr 2002, rhoddwyd cyfle i 6,000 o drigolion roi atborth am eu profiadau o fod

yn rhan o’r cynllun ‘Ailgylchu gyda Michael’ wedi chwe mis. Ymatebodd oddeutu 30% o’r

trigolion i’r holiadur, sef 2,000 ymateb.

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

� Dywedodd 67% o’r trigolion eu bod yn rhoi llai o wastraff yn y bin du.

� Roedd dau o bob dri’n fodlon â’r gwasanaeth newydd. O’r 21% a fynegodd

anfodlonrwydd, roedd gan y rhan fwyaf deuluoedd mawr.

� Dywedodd 72% o’r ymatebwyr yr hoffent weld gwydr yn cael ei gynnwys yn y

casgliad ymyl ffordd. Nid yw hyn yn bosibl ar hyn o bryd oherwydd y math o

system gasglu a ddefnyddir; fel mesur dros dro, cyflwynwyd mwy o fanciau

poteli yn y canolfannau ailgylchu cymdogaeth.

Cydnabyddir bod ymgynghori â’r cyhoedd yn rhan annatod o gynhyrchu strategaeth

gwastraff a nodwyd hyn felly gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn y Strategaeth Gwastraff

Genedlaethol i Gymru “Bod yn Gall am Wastraff” a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2002.

Lluniwyd holiadur i’w anfon i bob cartref yn y Fwrdeistref Sirol.

Anfonwyd yr holiadur o’r enw “Delio â’n Sbwriel” i oddeutu 55,000 o gartref ym mis

Mai/Mehefin 2003. Rhoddodd y ddogfen wybodaeth am faterion gwastraff ac roedd gan bob

dogfen holiadur i roi cyfle i drigolion roi eu barn am sut mae’r Cyngor yn rheoli ein

gwastraff. Dychwelwyd 8,591 holiadur erbyn y dyddiad cau o 31 Gorffennaf 2003, sy’n

cynrychioli cyfradd ymateb o 16%. Dadansoddwyd y data gan gwmni prosesu data

annibynnol.

Cyhoeddwyd sawl hysbyseb yn y wasg leol a rhoddwyd hysbysiadua ar wefan y Cyngor i

atgoffa ac annog trigolion i gwblhau’r holiaduron a’u dychwelyd erbyn y dyddiad cau.

Trefnwyd Panel y Dinasyddion i drafod y cwestiynau a gafwyd yn yr arolwg ym mis Awst

2003. Cymharwyd canlyniad trafodaethau’r Panel â chanlyniadau’r prif arolwg. Dengys y

gymhariaeth gyswllt agos rhwng y data yn y prif arolwg a’r atebion a roddwyd gan Banel y

Dinasyddion. Mae’r cyswllt agos yn brawf bod canlyniadau’r prif arolwg yn adlewyrchiad

gwir o farn y rhai a ymatebodd i’r prif arolwg.

Crynhoir pwyntiau allweddol canlyniadau’r holiadur “Delio â’n Sbwriel” fel a ganlyn: -

Casgliad Ailgylchu

• Byddai 95% o’r ymatebwyr yn fodlon gwahanu defnyddiau ailgylchadwy sych o wastraff

arall.

• Teimlodd 95% y dylai’r Cyngor gasglu defnyddiau ailgylchadwy sych o ymyl y ffordd.

• Byddai 93% o’r trigolion yn cynyddu swm eu gwastraff ailgylchadwy pe byddai’r

Cyngor yn casglu o’u cartrefi.

Casgliad Gwastraff Gardd

• Byddai 89% â gardd yn fodlon gwahanu defnyddiau ailgylchadwy sych o’r gwastraff

arall.

42

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

• Byddai 92% yn cynyddu swm eu gwastraff ailgylchadwy pe bai’r Cyngor yn casglu

gwastraff gardd o’u cartrefi.

• Credodd 82% y dylai’r Cyngor gynnig casgliad gwastraff gardd.

Compostio Gartref

• Cytunodd 77% o gartrefi y dylai’r Cyngor annog pobl i ddefnyddio biniau compostio

gartref.

• Byddai gwerthu biniau compostio’n annog 41% i gompostio mwy gartref.

Canolfannau Ailgylchu

• Teimlodd 85% y dylai’r Cyngor ddarparu cyfleusterau ailgylchu gymdogaethol.

Dywedodd 72% y byddent yn ailgylchu mwy petai’r canolfannau hyn yn agosach i’w

cartrefi.

Addysg

• Cytunodd 93% y dylai’r Cyngor godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran ailgylchu a

gwastraff.

• Dywedodd 57% y byddai gwybodaeth am faterion gwastraff yn eu hannog i ailgylchu

mwy.

Cynhwyswyr

• O ran cynhwyswyr ar gyfer casglu defnyddiau ailgylchadwy, dangosodd y canlyniadau

fod trigolion yn ffafrio biniau ag olwynion ar gyfer defnyddiau sych (50%) a gwastraff

gardd (59%).

O Wastraff i Ynni

• Cytunodd 69% gyda’r strategaeth arfaethedig i gynhyrchu ynni drwy broses trin thermol

wedi ailgylchu a chompostio cymaint o sbwriel â phosibl o’i gymharu â’r 14% a

anghytunodd â’r strategaeth hon.

Canolfannau Ailgylchu (Safleoedd Amwynderau Dinesig)

• Cytunodd 89% y dylai’r Cyngor wella canolfannau ailgylchu (safleoedd amwynderau

dinesig).

• Dywedodd 88% y byddai cael cyfleusterau ailgylchu yn y canolfannau hyn yn eu hannog

i gynyddu swm y gwastraff y maent yn ei ailgylchu.

43

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

1.16.1 Data a Gasglwyd o Holiadur y Strategaeth Gwastraff “Delio â’n Sbwriel”

Cwestiwn 1 – Pa mor fodlon fyddech i wneud y canlynol er mwyn cynyddu swm y sbwriel a

ailgylchir neu a gompostir?

A fyddech yn barod i wahanu eich papurau newydd, poteli plastig a thuniau o weddill eich

sbwriel?

Bodlon iawn 83.2%

Gweddol bodlon 12.0%

Gweddol anfodlon 1.4%

Anfodlon iawn 2.2%

Gwag 1.2%

Os oes gennych ardd, a fyddech yn barod i wahanu eich sbwriel gardd o weddill eich

sbwriel?

Bodlon iawn 77.8%

Gweddol bodlon 10.8%

Gweddol anfodlon 1.3%

Anfodlon iawn 2.2%

Gwag 7.9%

Cwestiwn 2– A fyddai unrhyw un o’r gwasanaethau canlynol yn dylanwadu arnoch i

gynyddu swm y sbwriel a ailgylchwch neu a gompostiwch?

Y Cyngor yn casglu sbwriel rydych chi wedi ei wahanu er mwyn ei ailgylchu o’ch cartref (er

enghraifft, papurau newydd, poteli plastig a thuniau)

Byddai 92.8%

Na fyddai 4.6%

Gwag 2.5%

Y Cyngor yn casglu gwastraff gardd rydych wedi ei wahanu i’w gompostio o’ch gartref

Byddai 78.5%

Na fyddai 13.3%

Gwag 8.3%

Gallu prynu compostiwr cartref oddi wrth y Cyngor

44

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Byddai 41.0%

Na fyddai 44.2%

Gwag 14.9%

Cyfleusterau ailgylchu ar gael mewn canolfannau gwastraff domestig (safleoedd

amwynderau dinesig)

Byddai 61.1%

Na fyddai 26.9%

Gwag 12.0%

Cyfleusterau ailgylchu (e.e. papur, gwydr neu ddillad) ger eich cartref

Byddai 72.3%

Na fyddai 18.3%

Gwag 9.4%

Gwybodaeth am faterion gwastraff

Byddai 56.7%

Na fyddai 27.0%

Gwag 16.3%

Cwestiwn 3 Pe baech yn gwahanu sbwriel sych i’w ailgylchu gartref, er enghraifft, papurau

newydd, poteli plastig a thuniau, sut fyddech yn dewis storio pob math o sbwriel yn barod

i’w gasglu?

Sachau plastig 30.0%

Blychau 18.0%

Biniau ag olwynion 49.8%

Gwag 2.2%

Cwestiwn 4 Pe baech yn gwahanu sbwriel gardd i’w gompostio, sut fyddech yn dewis ei

storio?

Compostiwr cartref 34.4%

Bin ag olwynion 59.4%

Gwag 6.2%

Cwestiwn 5 – I ba raddau a gytunwch neu a anghytunwch â’r elfennau canlynol o ffordd y

Cyngor o ddelio â’n sbwriel?

45

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Ar ôl ailgylchu a chompostio cymaint o sbwriel â phosibl

Defnyddio’r sbwriel sy’n weddill i gynhyrchu ynni drwy broses trin thermol megis llosgydd

gwastraff modern neu system losgi a nwyo cyn claddu unrhyw sbwriel

Cytuno’n gryf 43.2%

Tueddu i gytuno 25.6%

Tueddu i anghytuno 5.5%

Anghytuno’n gryf 8.8%

Ddim yn gwybod 10.0%

Gwag 6.9%

Addysg Dylai’r Cyngor godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch ailgylchu a chreu llai o

wastraff

Cytuno’n gryf 71.9%

Tueddu i gytuno 21.2%

Tueddu i anghytuno 1.0%

Anghytuno’n gryf 0.7%

Ddim yn gwybod 1.0%

Gwag 4.4%

Compostio Gartref – Dylai’r Cyngor annog pobl i ddefnyddio compostwyr gartref

Cytuno’n gryf 45.9%

Tueddu i gytuno 31.4%

Tueddu i anghytuno 8.6%

Anghytuno’n gryf 2.2%

Ddim yn gwybod 5.5%

Gwag 6.4%

Casglu o Ymyl y Ffordd – Dylai’r Cyngor gasglu sbwriel ailgylchadwy rwyf i wedi ei

wahanu gartref (e.e. papurau newydd, plastig a thuniau)

Cytuno’n gryf 83.5%

Tueddu i gytuno 11.1%

Tueddu i anghytuno 1.1%

Anghytuno’n gryf 1.0%

Ddim yn gwybod 0.6%

Gwag 2.7%

Casglu Gwastraff Gardd – Dylai’r Cyngor gasglu gwastraff gwyrdd rwyf wedi ei wahanu

er mwyn ei gompostio

46

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Cytuno’n gryf 61.3%

Tueddu i gytuno 20.5%

Tueddu i anghytuno 6.2%

Anghytuno’n gryf 2.5%

Ddim yn gwybod 1.9%

Gwag 7.5%

Darpariaeth – Dylai’r Cyngor ddarparu canolfannau ailgylchu cymdogaethol

Cytuno’n gryf 61.6

Tueddu i gytuno 23.8

Tueddu i anghytuno 4.6%

Anghytuno’n gryf 1.8%

Ddim yn gwybod 2.8%

Gwag 5.4%

Gwelliannau – Dylai’r Cyngor wella canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref (safleoedd

amwynderau dinesig), gan gynnwys mynediad, oriau agor ac ystod y sbwriel y gellir ei

ailgylchu

Cytuno’n gryf 65.0%

Tueddu i gytuno 23.9%

Tueddu i anghytuno 2.2%

Anghytuno’n gryf 0.7%

Ddim yn gwybod 2.7%

Gwag 5.5%

1.16.2 Arolwg Panel y Dinasyddion 10 Awst 2003

Crynodeb o’r Canlyniadau

B1 A ydych chi wedi gweld cwestiynau

fel hyn o’r blaen?

b) I’r rhai a atebodd ie i B1

A ydych wedi cael cyfle i’w hateb?

47

Ydw Nac ydw

75% 25%

88% 12%

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

B2 Pa mor fodlon fyddech i wneud y canlynol? Mae’r ddau’n cynyddu faint o sbwriel a

ailgylchir neu a gompostir.

A fyddech yn barod i wahanu eich papurau

newydd, poteli plastig a thuniau o weddill

eich gwastraff?

Os oes gennych ardd, a fyddech yn fodlon

gwahanu eich sbwriel gardd o weddill eich

sbwriel?

48

Bodlon

iawn

Gweddol

bodlon

Ddim

yn

fodlon

75% 21% 3% 1%

76% 17% 5% 2%

Ddim

yn

fodlon

o gwbl

B3 A fyddai unrhyw un o’r gwasanaethau canlynol yn dylanwadu arnoch i gynyddu’r

sbwriel rydych yn ei ailgylchu neu ei gompostio?

Y Cyngor yn casglu sbwriel rydych chi wedi ei wahanu

i’w ailgylchu’n uniongyrchol o’ch cartref (e.e. papurau

newydd, poteli plastig, tuniau)

Y Cyngor yn casglu gwastraff gardd o’ch cartref rydych

wedi ei wahanu er mwyn ei gompostio

Byddent

yn

dylanwadu

arnaf

Ni fyddent

yn

dylanwadu

arnaf

95% 5%

87% 13%

Gallu prynu compostiwr oddi wrth y Cyngor 46% 54%

Cyfleusterau ailgylchu ar gael mewn canolfannau

gwastraff domestig (safleoedd amwynderau dinesig)

Cyfleusterau ailgylchu (e.e. banciau papur, gwydr a

dillad) ger eich cartref

68% 32%

78% 22%

Gwybodaeth am faterion gwastraff 71% 29%

B4 Pe baech yn gwahanu sbwriel sych i’w ailgylchu gartref, er enghraifft, papurau newydd,

poteli plastig a thuniau, sut fyddech yn dewis storio’r sbwriel cyn iddo gael ei gasglu?

Sachau plastig 19%

Blychau 16%

Biniau ag olwynion 65%

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

B5 Pe baech yn gwahanu sbwriel gardd i’w gompostio, sut fyddech yn dewis ei storio?

Compostiwr (ailddefnyddio yn eich gardd

eich hun)

Bin ag olwynion (i’w gasglu gan y

Cyngor)

49

27%

73%

B6 I ba raddau a gytunwch neu a anghytunwch â’r elfennau canlynol o ffordd y Cyngor o

ddelio â’n sbwriel?

Defnyddio’r sbwriel sy’n

weddill i gynhyrchu ynni drwy

broses trin thermol megis

llosgydd modern neu system

llosgi a nwyo cyn claddu

unrhyw sbwriel

Addysg – dylai’r Cyngor godi

ymwybyddiaeth y cyhoedd am

ailgylchu a lleihau gwastraff

Compostio gartref – dylai’r

Cyngor annog pobl i

ddefnyddio compostwyr

Casglu o ymyl y ffordd –

dylai’r Cyngor gasglu pethau

ailgylchadwy rwyf wedi eu

gwahanu gartref e.e. papur,

plastig a thuniau

Casglu gwastraff gardd –

dylai’r Cyngor gasglu’r

gwastraff gwyrdd rwyf wedi ei

wahanu er mwyn ei gompostio

Dylai’r Cyngor ddarparu

canolfannau ailgylchu

cymdogaethol

Dylai’r Cyngor wella

canolfannau ailgylchu

gwastraff y cartref (safleoedd

amwynderau dinesig) gan

Cytuno’n

gryf

Tueddu

i gytuno

Tueddu i

anghytuno

Anghytun

o’n gryf

Dim

barn

34% 34% 7% 15% 9%

75% 22% 1% 2% 1%

48% 34% 10% 2% 6%

79% 20% 1% 0% 1%

65% 25% 7% 1% 2%

57% 30% 6% 1% 7%

74% 21% 3% 1% 1%

gynnwys mynediad, oriau agor

ac ystod y gwastraff y gellir ei

ailgylchu

1.17 Galw yn y Farchnad

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Bydd holl awdurdodau lleol y DU yn ceisio cyrraedd eu targedau ailgylchu a bydd hyn yn

golygu llwyth o ddefnyddiau ar gael i’w prosesu ymhellach. Rhaid cael isadeiledd mewn lle

i gludo, ailbrosesu a marchnata’r cynnyrch a grëir. Rhaid datblygu marchnadoedd a dylai fod

mwy o ymwybyddiaeth o’r buddion o brynu pethau sydd â defnydd ailgylchadwy ynddynt.

Mae Cynulliad Cymru wedi buddsoddi mewn nifer o fentrau a anelir at wella marchnadoedd

ar gyfer defnyddiau ailgylchadwy. Maent yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer:

� CWMre (Creating Welsh Markets for recyclate), sef rhaglen ddatblygu Marchnad

Cymru ar gyfer defnyddiau ailgylchadwy. Rheolir hi gan Ymddiriedolaeth

Amgylchedd Cymru ac mae’r rhaglen yn darparu dau brif wasanaeth:

o Ymchwilio i wybodaeth am ailgylchu yng Nghymru a darparu gwybodaeth

o Cyngor a chefnogaeth am ddim i fusnesau Cymru sydd â’r potensial i

ddefnyddio pethau ailgylchadwy mewn proses ailbrosesu neu wneud ynghyd

â’r sy’n gallu cynnig marchnad gyflenwi neu farchnad yn y pen draw.

� Y prosiectau High Diversion Exemplars sy’n ceisio gwyro o leiaf 50% o wastraff

dinesig o safleoedd claddu sbwriel ym 5 o siroedd Cymru gyda chymaint o

ddefnydd a ailgylchwyd ac a gompostiwyd yn mynd i farchnadoedd lleol â

phosibl.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r cyn Gyngor Bwrdeistref Maelor Wrecsam wedi

bod yn aelodau o’r Grŵp Ailgylchu Rhanbarthol ers mwy na 10 mlynedd. Mae’r grŵp wedi

annog contractwyr ailgylchu i ddarparu isadeiledd ar gyfer casglu defnyddiau ailgylchadwy

ledled y rhanbarth. Darparwyd y rhan fwyaf o’r cyfleusterau heb fawr o gost neu heb gost o

gwbl i’r awdurdodau lleol dan sylw. Ni ellir gwireddu cyfraddau ailgylchu uchel drwy

ddibynnu ar ganolfanau ailgylchu gymdogaethol yn unig ac mae mwyafrif awdurdodau lleol

y rhanbarth wedi datblygu dulliau casglu eraill i gyd-fynd â’r canolfannau ailgylchu hyn.

Prosesir papur gwastraff ym Melin Papur Shotton, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint a Cheshire

Recycling yn Ellesmere Port, sydd oddeutu 16 ac 20 milltir o Wrecsam. Cludir dur a thuniau

aliminiwm i Corus yn Queensferry, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, oddeutu 16 milltir o

Wrecsam cyn cael eu hanfon i’w hailgylchu. Anfonir gwydr lliw ymhellach i UK Glass yn

Barnsley. Ailbrosesir gwydr cymysg yn St Helens, Glannau Merswy. Anfonir gwastraff

gwyrdd i Safle Claddu Sbwriel Gowy, ger Caer, oddeutu 17 milltir i ffwrdd, i’w gompostio.

Enillodd Melin Papur Shotton grant gan y Rhaglen Weithredu Gwastraff ac Adnoddau a

Llywodraeth Cynulliad Cymru i adeiladu trydydd prosesydd i gynhyrchu papurau newydd

ailgylchedig i’r DU, yn amodol ar gliriad cymorth gwladol gan y Comisiwn Ewropeaidd

(Ebrill 2003).

50

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

51

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Nodau Rheoli Gwastraff Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

1.18 Yr hyn a gyflawnwyd mor belled

Ers Cynllun Rheoli Gwastraff 1996, mae’r Cyngor wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran

adeiladu sylfaen ar gyfer rheolaeth fwy cynaliadwy. Yn gyffredinol, mae mwy o gyfle ar

gael i’r cyhoedd ailgylchu a chompostio ac mae cynlluniau ar gyfer gwelliannau ychwanegol

yn y dyfodol.

� Rydym wedi gweithredu cynllun ymyl ffordd llwyddiannus ar gyfer 6,000 o

gartrefi i gasglu defnyddiau ailgylchadwy sych a gwastraff gardd. Bwriadwn

estyn y cynllun hwn ledled y Fwrdeistref yn y 5 mlynedd nesaf.

� Mae’r Cyngor wedi cyflogi dau swyddog addysg ac ailgylchu i ddarparu cyngor

ymarferol ar leihau gwastraff ac annog cymunedau i ailgylchu mwy.

� Darperir 30 canolfan ailgylchu ychwanegol mewn cymdogaethau.

� Mae’r Cyngor wedi gweithio’n agos gydag awdurdodau eraill yn y rhanbarth i

ddatblygu cynllun gwastraff rhanbarthol.

� Darparwyd cyfleusterau ailgylchu ychwanegol yng nghanolfannau ailgylchu

gwastraff y cartref y Cyngor.

� Mae’r Cyngor wedi cyflwyno cynllun i werthu compostwyr i breswylwyr am bris

isel er mwyn annog llai o wastraff yn y biniau arferol.

1.19 Yr hyn sydd heb ei gyflawni

Rhaid i’r Cyngor:

� wneud mwy o gynnydd ar arafu’r twf mewn gwastraff yn y Fwrdeistref Sirol ac

annog holl sectorau’r gymuned i greu llai o wastraff.

� gwella ei gyfraddau ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio’n sylweddol;

� adfer gwerth o fwy o’r sbwriel sy’n weddill.

Rydym wedi bodloni ein cytundeb polisi 2003/04 gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae’n hanfodol bod y systemau a osodir i gwrdd â thargedau tymor byr yn gallu datblygu a

gwella er mwyn cyrraedd targedau tymor canolig a hwy.

1.20 Beth yw’r blaenoriaethau?

Nid oes gan y Cyngor yr adnoddau i ymdrin â’r holl heriau sy’n gysylltiedig â holl rannau o’r

llif gwastraff dinesig yn y Fwrdeistref Sirol ar unwaith. Mae wedi nodi nifer o

flaenoriaethau. Cydnabyddwyd y blaenoriaethau oherwydd eu cyswllt â difrod

amgylcheddol, deddfwriaeth sydd i ddod neu gyfredol a chyrraedd targedau cenedlaethol a

lleol.

Mae elfennau o’r rheolaeth gwastraff dinesig a nodwyd fel blaenoriaethau ar gyfer bywyd y

strategaeth hon fel a ganlyn:

� compostio gwastraff organig;

52

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

� casglu defnyddiau ailgylchadwy o gartrefi a chwsmeriaid masnachol;

� rheoli gwastraff domestig peryglus;

� rheoli unrhyw wastraff sy’n weddill.

1.21 Nodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Er mwyn cael atebion rheoli llwyddiannus i’r materion sy’n gysylltiedig â’r elfennau hyn,

mae’r Cyngor wedi nodi nifer o nodau allweddol:

1. Cydymffurfio ag egwyddorion yr hierarchaeth gwastraff a rheoli gwastraff yn

gynaliadwy a defnyddio’r egwyddor agosrwydd a’r dewis amgylcheddol ymarferol

gorau wrth gynllunio systemau a chyfleusterau newydd.

2. Cydymffurfio â deddfwriaeth rheoli gwastraff ac amgylcheddol gyfredol a dyfodol a

cheisio cwrdd â phob targed cenedlaethol a lleol.

3. Parhau i gynnig y gwasanaeth cwsmer gorau posibl a pharhau i wella a darparu

gwerth gorau i drigolion Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

4. Cynnig gwell gyfleoedd i drigolion gymryd rhan mewn rheolaeth gynaliadwy o

wastraff.

1.22 Polisïau Rheoli Gwastraff Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Er mwyn symleiddio’r nodau uchod, mae’r Cyngor wedi nodi nifer o bolisïau strategol

allweddol er mwyn nodi dewisiadau ar gyfer strategaeth rheoli gwastraff integredig:

WMP. 1. Bydd y Cyngor yn parhau i ymroi i werth gorau a gwasanaeth cyhoeddus wrth

ddarparu ei swyddogaeth rheoli gwastraff.

WMP. 2. Bydd y Cyngor yn ceisio lleihau’r twf mewn gwastraff yn Wrecsam a bydd yn

ceisio leihau gwastraff yn ei ffynhonnell yn y dyfodol.

WMP. 3. Bydd y Cyngor yn sefydlu cynlluniau a chyfleusterau ailgylchu ac ailddefnyddio

yn y Fwrdeistref Sirol a fydd yn rhoi cyfle i drigolion reoli eu gwastraff yn

gynaliadwy.

WMP. 4. Bydd y Cyngor yn ceisio darparu cynlluniau ymwybyddiaeth o wastraff er mwyn

ysgogi ac annog y defnydd mwyaf o raglenni gostwng, ailddefnyddio ac

ailgylchu.

WMP. 5. Bydd y Cyngor yn anelu at leihau swm y gwastraff pydradwy a anfonir i’w

gladdu o’r Fwrdeistref Sirol yn sylweddol.

WMP. 6. Bydd y Cyngor yn archwilio’r holl ddewisiadau posibl i adfer y gwerth mwyaf o

wastraff sy’n weddill.

WMP. 7. Bydd y Cyngor yn ceisio arwain drwy brynu defnyddiau a gynhyrchwyd o

gynnyrch ailgylchadwy lle bo hwn yn ddewis amgylcheddol ymarferol gorau.

WMP. 8. Bydd y Cyngor arolygu’r dewisiadau sydd ar gael i atal gwastraff domestig

peryglus yn y llif gwastraff sy’n weddill.

53

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

WMP. 9. Bydd y Cyngor yn parhau i gydymffurfio â’r Côd Ymarfer ar Sbwriel a Gwastraff

a gyhoeddwyd dan Ddeddf Diogelwch Amgylcheddol 1990.

WMP. 10. Bydd y Cyngor yn parhau i orfodi gwrthwynebiad llwyr i daflu sbwriel, tipio heb

ganiatâd a gadael cerbydau.

54

Sut allwn gyflawni ein nodau?

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

CYYFLAWNI EIN NODAU

Er mwyn cyrraedd ein nodau a chadw at bolisïau’r Cyngor, rhaid i ni ystyried yr holl faterion

rheoli gwastraff sydd gennym, archwilio’r problemau a’r atebion posibl a gwneud rhai

cynlluniau cyson ar gyfer y dyfodol.

Rhaid i ni ystyried:

� y dewis amgylcheddol ymarferol gorau a’r dechnoleg sydd ar gael;

� deddfwriaeth gyfredol ac sydd i ddod;

� targedau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol;

� gobeithion, anghenion a barn y cyhoedd;

� costau ac amrywiaethau economaidd eraill.

Dosberthir rhai dewisiadau fel rhai anaddas ar gyfer Wrecsam ac mae nifer o’r rhain wedi eu

trafod yn y cynllun rheoli gwastraff blaenorol ar gyfer 1996/2000 ac yn y papurau pwyllgor a

gyflwynwyd i’r Cyngor yn y 5 mlynedd ddiwethaf. Mae’r Strategaeth Gwastraff yn rhoi

cyfle i’r Cyngor ddisgrifio’r dewisiadau hyn.

1.23 Lleihau Gwastraff

Mae lleihau gwastraff ar ben hierarchaeth gwastraff y Llywodraeth. Daw lleihau CYN i

ddefnyddiau ddod yn wastraff. Bydd lleihau’r gwastraff a gynhyrchir yn gostwng swm y

gwastraff a gesglir a’r swm y mae’n rhaid cael gwared arno felly neu ei anfon i’w ailbrosesu.

Bydd hyn yn cael buddion amgylcheddol ac economaidd sylweddol:

� Gwarchod adnoddau naturiol a defnyddiau crai;

� Arbed ynni mewn cynhyrchu a chludo;

� Lleihau risgiau llygredd;

� Arbed costau trin a chael gwared ar wastraff ac ailbrosesu defnyddiau

ailgylchadwy;

� Lleihau’r angen am gyfleusterau cael gwared ar wastraff a chaffael tir.

Y DU sy’n cynhyrchu’r lefel uchaf o sbwriel fesul cartref yn Ewrop, ac â chyfartaledd o 3%

o dwf, mae’n dal i fyny â chartrefi yn Unol Daleithiau America. Gosododd yr UE darged i

gyfyngu twf i 300kg fesul cartref fesul blwyddyn erbyn 2000. Methodd y DU y targed hwn a

chynhyrchwyd 450 kg fesul cartref yn 1998/99.

Gellir lleihau gwastraff drwy gyfrwng nifer o ddulliau marchnata i gynyddu ymwybyddiaeth

y cyhoedd ac annog pobl i leihau gwastraff. Bydd y rhain yn cynnwys hysbysu, addysgu,

55

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

cysylltu, ysgogi a chynnal rôl y cyhoedd mewn gweithgareddau gostwng gwastraff ym mhob

rhan o’r gymuned (e.e. gartref, yn yr ysgol, yn y gwaith ac ym maes hamdden).

Dylai’r rhaglenni hyn gydnabod llwyddiannau’r cyhoedd. Felly, dylid cael ffordd o fesur

llwyddiant a chyfleu storïau llwyddinnus i’r cyhoedd. Gellir cyflwyno rhai o’r rhaglenni

lleihau gwastraff mwyaf effeithiol drwy’r cwricwlwm ysgol lle gall myfyrwyr annog yr ysgol

i leihau ei gwastraff ac annog rhieni hefyd. Mae papurau newydd, llyfrynnau ac eitemau ar y

teledu hefyd yn ffyrdd effeithiol o gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd.

Gallai mesur perfformiad rhaglenni lleihau gwastraff fod yn un o’r dewisiadau rheoli

gwastraff mwyaf anodd i’w fesur. Byddai sail unrhyw fesur yn dibynnu ar y gwastraff a

gynhyrchwyd gan bob cartref. Fodd bynnag, yn ystod blwyddyn benodol, gallai fod nifer o

ffactorau allanol ynghlwm e.e. yr economi, gwyliau a’r tywydd. Felly, byddai angen

monitro’r gwastraff yn flynyddol, ar raddfa facro (y Cyngor) a’r meicro (yr unigolyn) er

mwyn cael llinell sylfaen gall.

1.23.1 Pa opsiynau sydd ar gael i ni?

Mae nifer o gynlluniau mewn lle i gynorthwyo busnesau i lunio cynllun gwastraff a

gweithredu cynlluniau lleihau gwastraff. Gellir defnyddio archwiliadau gwastraff masnach

fel ffordd o asesu natur llif gwastraff a dangos sut y gellir arbed symiau sylweddol o ran cael

gwared ar wastraff drwy newid polisi a newid ymddygiad staff. Mae sawl cwmni’n gweld

bod modd arbed costau cynhyrchu hefyd drwy ailddefnyddio defnyddiau gwastraff a defnydd

callach o ddefnyddiau crai.

Gwelir bod y rhan fwyaf o gwmnïau’n fodlon archwilio dewisiadau lleihau gwastraff yn

seiliedig ar synnwyr economaidd. Mae cynlluniau fel y rhai a ddisgrifir uchod wedi bod yn

llwyddiannus. Yn ogystal, gellir gorfodi rhai cwmnïau i leihau gwastraff drwy’r Rheoliadau

Gwastraff Pecynnu.

Mae dylanwadu ymddygiad y cyhoedd yn anoddach gan eu bod yn unigolion ac nid oes fawr

o anogaeth gyfreithiol nac ariannol i newid. Mae lleihau gwastraff o fewn eiddo domestig yn

golygu newid mewn arferion prynu, defnyddio a chael gwared. Yn y DU, nid oes unrhyw

anogaeth economaidd na chyfreithiol i leihau gwastraff; mae’r bwriad yn seiliedig ar

gydwybod amgylcheddol yr unigolyn a’i ymdeimlad o gymuned. Mae’r bwriad yn bodoli

eisoes mewn rhai cartrefi; bydd angen codi ymwybyddiaeth rhai pobl ac, i eraill, bydd angen

llawer mwy o anogaeth.

Mae nifer o ddewisiadau ar gael i hybu llai o wastraff, gan gynnwys gweithgareddau

cymunedol a pholisïau corfforedig a chymunedol yr Awdurdod Lleol. Mae’r holl

ddewisiadau’n cynnwys elfen o addysg er mwyn annog pobl i:

� atal gwastraff h.y. peidio â chreu’r gwastraff yn y lle cyntaf drwy brynu nwyddau

â llai o becynnu, ayb;

� ailddefnyddio h.y. dod o hyd i ddefnydd arall i’r gwastraff.

56

1.23.2 Gwerthuso dewisiadau

Tabl 0-1: Mentrau Lleihau Gwastraff

Cynllun Sylw

ATAL GWASTRAFF

Gwastraff masnach a diwydiant

Gwastraff domestig

Ymgyrchoedd ymwybyddiaeth/

addysg

Gall ymgyrchoedd addysg godi

ymwybyddiaeth o faterion gwastraff. Anelir

ymgyrchoedd addysg at ddeiliaid tai a phlant

ysgol fel arfer er mwyn cyflwyno ffyrdd o

leihau gwastraff ac annog pobl i ailgylchu.

Mae addysg yn hanfodol er mwyn lleihau

gwastraff.

Arferion prynu:

Annog deiliaid tai i brynu nwyddau nad ydynt

wedi eu pecynnu (llysiau rhydd, cynhwyswyr

y gellir eu hail-lenwi, dychwelyd pecynnau –

Bodyshop, Ecover), prynu nwyddau bywyd

hwy ac ailgylchadwy neu ailddefnyddiadwy,

atal prynu gormod (defnyddiau DIY, ayb) a

llai o ddefnydd o ddefnyddiau pecynnu.

Compostio gartref:

Hybu compostwyr/abwydfeydd: darperir y

rhain i ddeiliaid tai am bris isel ynghyd â

nodiadau cyfarwyddyd. Mae hyrwyddiadau’n

cynnwys hysbysebion a digwyddiadau

arbennig mewn canolfannau garddio, ayb.

Cynlluniau bag am fywyd:

Mae archfarchnadoedd yn cynnig bagiau

ailddefnyddiadwy yn lle bagiau tafladwy.

Unwaith iddynt ddod i ddiwedd eu bywyd,

cânt eu hailgylchu a’u hamnewid. Mae rhai

awdurdodau’n hybu lleihau gwastraff drwy

ddarparu defnydd addysgol mewn bag siopa

cotwm.

Lleihau post papurach:

Hybu’r Gwasanaeth Dewis Post er mwyn

lleihau post papurach a sticeri drws yn nodi

nad oes croeso i bost papurach.

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Dyma rai enghreifftiau o fentrau lleihau gwastraff yn yr amgylchedd masnachol;

• archwiliadau gwastraff a llunio cynllun rheoli gwastraff;

• ymuno â chlybiau gwastraff, rhannu syniadau ac arfer gorau’n lleol;

• annog cyfathrebiad electronig, yn enwedig ar gyfer newyddlenni staff a phethau

tebyg;

• defnyddio dwy ochr darnau o bapur wrth argraffu a llungopïo;

• ailddefnyddio papur ar gyfer gwaith bras, argraffiadau drafft, ayb;

• defnyddio tywelion brethyn golchadwy yn lle tywelion papur;

• defnyddio eich cwpan eich hun yn lle defnyddio cwpanau plastig tafladwy.

• gellir eu cydlynu â phartneriaid i gyfleu neges gyson;

• codi ymwybyddiaeth o faterion gwastraff ac amgylcheddol;

• gall annog a chychwyn newid mewn arferion;

• angen targedu’r gynulleidfa iawn, yn y cyd-destun iawn er mwyn cael canlyniad;

• rhaid i ymgyrch fod yn gyfredol gan fod newidiadau’n debygol o fod yn y tymor

byr i ddechrau;

• gall fod yn ddrud o ran amser ac adnoddau.

• gall newid arferion yn barhaol os dewisir cynnyrch newydd ac y gwireddir

buddion economaidd;

• yn y pen draw, mae’n gofyn am newid mewn gwneuthuriad a phecynnu gan nad

yw llawer o nwyddau hanfodol ar gael mewn pecynnau cynaliadwy.

• annog compostio gartref;

• lleihau gwastraff yn ei ffynhonell.

• gallai newid arferion yn barhaol;

• nid yw’n arwain at leihad mawr mewn gwastraff;

• mae’n debygol y bydd pobl yn ei weld yn anghyfleus.

• Yn weddol syml a rhad i’w wneud.

57

Cynllun Sylw

Gwobrau perfformiad:

Rhoddir arian yn ôl neu docynnau rhodd i

ddeiliaid tai’n dibynnu ar faint o wastraff

maent yn ei adfer. Mae cynlluniau eraill yn

cynnwys partneriaethau gyda manwerthwyr.

Cynnig nwyddau neu wasanaethau am ddim i

gwsmeriaid sy’n lleihau eu gwastraff.

Cosbi perfformiad gwael:

Mae rhai awdurdodau’n cosbi pobl sy’n creu

gormod o wastraff drwy wrthod casglu biniau

sy’n orlawn. Ar hyn o bryd, nid oes

darpariaeth ddeddfwriaethol yn y wlad i godi

tâl ar ddeiliaid tai ond mae rhai gwledydd yn

Ewrop a rhannu o’r UDA a Chanada’n

gweithredu cynlluniau tebyg.

AILDDEFNYDDIO GWASTRAFF

Clytiau go iawn:

Mae clytiau tafladwy’n cwmpasu oddeutu 4%

o wastraff domestig y DU ac yn broblem

gwastraff sylweddol i awdurdodau lleol.

Anogir deiliaid tai i newid i glytiau

ailddefnyddiadwy. Gellir cynnig arian neu

docynnau rhodd er mwyn annog pobl i gymryd

rhan, megis pecyn cychwyn neu wasanaeth

golchi clytiau. Mae rhai awdurdodau’n

cynnwys rhagor o anogaethau wrth i fabanod

dyfu.

Cynlluniau trwsio

(yn enwedig offer garddio, dodrefn dan do ac

awyr agored, offer TG, defnyddiau adeiladu,

ffitiadau a chyfarpar domestig). Cesglir

eitemau o gartrefi neu fan canolog, adferir

nhw a’u gwerthu neu eu dosbarthu i aelodau

anghenus yn y gymuned. Mae grwpiau

cymunedol yn rhedeg y cynlluniau hyn fel

arfer.

Siopau elusen

(yn arbennig ar gyfer dillad). Eir â dillad

diangen i siopau elusen. Mae rhai

awdurdodau lleol yn cynnig banciau dillad ac

mae grwpiau’n casglu o ymyl y ffordd mewn

rhai ardaloedd.

Hysbysebion am ddim/

gwerthiannau cist ceir

Mae rhwydwaith anffurfiol mawr o

werthiannau a chyfnewidfeydd. Gweithredir y

rhain gan y sector preifat neu grwpiau

cymunedol ac maent yn ffordd ddefnyddiol o

wneud defnydd o nwyddau diangen.

Siopau sgrap cymunedol

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

• deiliaid tai’n gweld anogaeth ‘go iawn’ i weithredu;

• yn debygol o arwain at gyfraddau cyfranogi da;

• byddai’n rhaid parhau â’r anogaethau er mwyn cynnal cyfranogiad;

• yn ymarferol anodd a drud i’w weithredu.

• cynlluniau sbwriel gormodol yn debygol o annog deiliaid tai i ystyried faint o

wastraff sy’n cael ei daflu;

• yn debygol o gynyddu cyfraddau ailgylchu os gweithredir ef ochr yn ochr â

chynllun ymyl ffordd;

• gallai arwain at dipio heb ganiatâd wrth i drigolion diegwyddor geisio atal

cosbau;

• mae’n bosibl na fydd yn arwain at ostyngiad mewn gwastraff wrth i wastraff dros

ben fynd i ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref.

• gallai newid arfer pobl, plant pellach a chenedlaethau i ddod yn eu defnyddio;

• yn debygol o greu problemau canfyddiad i sector mawr o’r gymuned;

• wedi ei anelu at un sector o’r gymuned sydd â babanod.

• gostwng y gwastraff swmpus yn y llif gwastraff;

• buddion cymunedol drwy ailddosbarthu defnyddiau;

• aelodau grwpiau’n cael hyfforddiant yn y gweithle’n aml;

• costus os yw cyngor yn ei gynnal.

• buddion cymunedol drwy ailddosbarthu defnyddiau;

• buddion elusennol drwy ailwerthu nwyddau;

• ni ystyrir hyn yn weithgaredd lleihau gwastraff fel arfer;

• dim ystadegau ar gael yn gyffredinol.

• buddion cymunedol drwy ailddosbarthu defnyddiau;

• elusen neu grŵp cymunedol yn cael budd o ailwerthu nwyddau, ayb;

• ni ystyrir hwn yn weithgaredd lleihau gwastraff fel arfer;

• dim ystadegau ar gael fel arfer.

• buddion cymunedol oherwydd rôl ysgolion;

58

Cynllun Sylw

Cesglir nwyddau diangen ar gyfer prosiectau

ysgol. Mae diwydiannau gwneud yn rhoi

llawer. Mae defnyddwyr yn talu tâl blynyddol

i dalu am gostau cynnal y prosiect.

Ailbaentio cymunedol:

Ceisiau prosiect ailbaenio wyro paint dros ben

o’r llif gwastraff a’i ailddosbarthu’n rhad ac

am ddim yn y gymuned.

Mae pob cynllun yn canolbwyntio ar y

gymuned ac ymagwedd o bartneriaeth.

Defnyddir y paent er budd amgylcheddol,

cymdeithasol ac addysgol.

1.23.3 Beth fwriadwn ei wneud?

Addysg

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

• mae pawb dan sylw’n dysgu am leihau gwastraff yn anuniongyrchol;

• angen cyhoeddusrwydd sylweddol a pharhaus i sicrhau digon o danysgrifiadau.

• Gostwng gwastraff domestig peryglus yn y llif gwastraff;

• Buddion cymunedol pwysig.

Er mwyn arafu’r twf presennol mewn gwastraff a lleihau gwastraff yn y dyfodol, teimla’r

Cyngor fod angen gweithredu ymgyrch addysg ac ymwybyddiaeth gyd-drefnedig. Mae

ymchwil wedi dangos bod marchnata cyhoeddus yn fwyaf effeithiol pan fo enw enwog yn

gysylltiedig. Mae’r Cyngor yn bwriadu cymryd rhan yn Ymgyrch Ymwybyddiaeth

Gwastraff Cymu (Ymgyrchoedd Cenedlaethol Adran 6.1) ynghyd â hybu prosiectau lleol ar y

cyd ag ‘Ailgylchu gyda Michael’ (gweler Adran 6.2.2).

Targedir cyflwyniadau addysg ac ymwybyddiaeth at grwpiau penodol a chynhwysir pob rhan

o’r gymuned. Mae ymweliadau ysgol yn rhan annatod o ymgyrch ymwybyddiaeth. Plant

yw’r genhedlaeth nesaf o gynhyrchwyr gwastraff a gallant ddylanwadu ar arferion gwastraff

eu rhieni. Mae’r Adran Gwasanaethau Cymunedol yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth

Addysg i sicrhau bod unrhyw gyflwyniadau ysgol yn cyd-fynd â chwricwlwm ysgolion.

Mae’r Gwasanaethau Cymunedol yn cysylltu ag asiantaethau lleol eraill hefyd (Groundwork,

ayb) i osgoi dyblygu pynciau.

Penodwyd dau swyddog addysg ac ailgylchu i roi cyflwyniadau, cynghori a chynorthwyo’r

gymuned i gymryd rhan ym mentrau lleihau gwastraff y Cyngor.

Compostio gartref

Elfen hanfodol o leihau gwastraff yw lleihau’r gwastraff a gesglir bob wythnos. Mae gan

fwyafrif cartrefi’r Fwrdeistref Sirol erddi. Mae gan y Cyngor bolisi y gellir cael gwared ar

wastraff gardd yn y bin ag olwynion os nad yw’n arwain at wastraff yn cael ei adael ger y bin

ar ddiwrnod y casgliad. Gall hyn fod yn swm sylweddol o wastraff gardd, yn enwedig yn y

gwanwyn, haf a hydref. Mae’r Cyngor wedi cydnabod y potensial o leihau gwastraff drwy

annog deiliaid tai i gompostio gartref a gwna hyn drwy:

� roi cyngor ar y syniad o gompostio gartref, beth mae’n ei olygu a’i fuddion i’r

cartref a’r gymuned ehangach;

� parhau i brynu a chyflenwi compostwyr am bris isel;

� trefnu a hybu ‘diwrnodau gwerthu’ pan fydd gwneuthurwr compostwyr cartrefyn

ceisio gwerthu nifer fawr o gompostwyr i’r cyhoedd yn uniongyrchol.

59

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Yn ystod y flwyddyn, mae cyflwyniadau a thaflenni ar gael i gynyddu ymwybyddiaeth o

gompostio gartref. Mae swyddogion yn cynghori’r cyhoedd ar y ffordd o gael y canlyniadau

mwyaf effeithiol o gompostwyr.

Casglu gwastraff dros ben

Mae cyflwyniad cynlluniau ailgylchu a chompostio newydd yn debygol o newid

gwasanaethau casglu sbwriel y Fwrdeistref Sirol. Trafodir y manylion hyn yn hwyrach yn y

ddogfen. Bydd y Cyngor yn cadw ei bolisi caeth ar wastraff dros ben..

Nid yw bellach yn amgylcheddol gall na’n ariannol ddichonol i awdurdod lleol dderbyn yr

holl wastraff a gynigir ar gyfer y casgliad wythnosol. Gall awdurdod casglu sbwriel

benderfynu’n gyfreithiol ar ddull a symiau gwastraff i’w casglu o bob cartref. Felly, ni fydd

y Cyngor yn casglu gwastraff nad yw wedi ei roi yn y cynhwysydd (bin ag olwynion fel

arfer) a ddarperir. Mae system casglu sbwriel sir Wrecsam yn defnyddio biniau ag olwynion.

Mae gan gerbydau sbwriel lifftiau i godi’r biniau a gollwng y cynnwys i mewn i gefn y

cerbyd. Am resymau iechyd a diogelwch, ni chaniateir i weithwyr lwytho’r cerbyd â llaw.

Dylai preswylwyr fynd â gwastraff dros ben i un o ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref

yr ardal. Felly, maent yn gorfod meddwl mwy am reoli eu gwastraff a defnyddiau

ailgylchadwy y mae’n hawdd eu gwahanu.

Ar gyfer trigolion na allant fynd i ganolfan gwastraff, mae gan y Cyngor gasgliad gwastraff

swmpus drwy drefniant. Y tâl presennol yw £16.50 (2004/2005) am hyd at 5 peth er y gall

trigolion sy’n derbyn rhai budd-daliadau gael y casgliad am ddim.

Cynlluniau Ailddefnyddio Cymunedol

Mae’r Cyngor yn sylweddoli’r buddion o weithio’n agos gyda grwpiau cymunedol a’r sector

gwirfoddol i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff. Mae’r swyddogion

addysg/ailgylchu’n gweithio gyda grwpiau cymunedol ac yn cysylltu â’r prif sefydliad,

Cymdeithasol Grwpiau Gwirfoddol Wrecsam neu AVOW.

Gall y Cyngor weithredu i alluogi, cynorthwyo ac annog gwahanol gynlluniau sydd â’r

potensial i estyn bywyd defnyddiol cynnyrch a buasai’n falch o glywed gan drefnwyr unrhyw

gynlluniau tebyg.

Lleihau gwastraff yn adeiladau’r Cyngor

Sylweddolwn y pwysigrwydd o gael trefn yn y Cyngor hefyd ac rydym yn ymroddedig i

gyflawni targedau’r Cynulliad ar gyfer lleihau gwastraff mewn adeiladau cyhoeddus. Mae

rhai o’r dulliau a ddefnyddir ar hyn o bryd yn cynnwys:

• defnyddio dwy ochr y papur wrth argraffu a llungopïo dogfennau, lle’n bosibl;

� ailddefnyddio papur gwastraff a ddefnyddir ar gyfer gwaith bras;

� annog pobl i ddefnyddio eu cwpanau eu hunain yn lle rhai plastig/tafladwy;

� estyn y cynllun ailgylchu papur swyddfa.

Mae’r Cynulliad yn gweithio ar ddogfen newydd ar hyn o bryd sy’n cynnig cyngor ar leihau

gwastraff yn y sector cyhoeddus. Unwaith i’r ddogfen fod yn barod, bwriadwn ei dosbarthu i

bob adran ac annog staff i weithredu’r cyngor ynddi.

60

1.24 Ailgylchu

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Cyfeiria ailgylchu at adfer defnyddiau o’r llif gwastraff sy’n addas i’w hailbrosesu ar gyfer

cynnyrch newydd. Mae ailgylchu’n elfen allweddol o reolaeth gynaliadwy o’n gwastraff.

Yn y Strategaeth Gwastraff i Gymru, ailgylchu yw’r dewis ddull o reoli gwastraff a geir o

adnoddau naturiol na ellir eu hadnewyddu. At ddibenion y strategaeth hon, ymdrinnir â

chompostio ar wahân yn Adran 5.3.

Dylid nodi bod gan ailgylchu ei effeithiau amgylcheddol ei hun a dylid ystyried lleihau

gwastraff fel y prif flaenoriaeth. Dosberthir cyfleusterau ailbrosesu ledled y wlad ac mae hyn

yn gofyn am isadeiledd cludiant. Mae gan bob cyfleuster ei effeithiau hefyd, megis

defnyddio ynni a gollyngiadau i’r awyr. Fodd bynnag, mae’r rhain yn cael llai o effaith na

phrosesu deunyddiau crai.

1.24.1 Beth yw ein opsiynau ar gyfer cyrraedd ein targedau ailgylchu?

Nid oes un cynllun ailgylchu unigol sy’n ddelfrydol i bob rhan o’r DU. Rhaid i’r Cyngor

ddewis pa ddefnyddiau i’w casglu a sut i’w casglu.

Mae pedwar prif ddull ar gael i awdurdodau casglu gwastraff i gasglu a phrosesu defnyddiau

ailgylchadwy, sef:

� Casgliad glân: casglu’n uniongyrchol o ymyl y ffordd (neu stepen drws) a

gwahanu defnyddiau i gynhwyswyr ar wahân ar gerbyd casglu a gynlluniwyd i’r

pwrpas.

� Cyfleusterau adfer defnyddiau: trefnu, cydosod a storio defnyddiau ailgylchadwy

a gasglwyd ac a wahanwyd gan gynhyrchydd y gwastraff h.y. deiliaid tai.

� Mannau prosesu gwastraff cymysg: trefnu gwastraff yn fecanyddol ac â llaw i

gael gwared ar ddefnyddiau ailgylchadwy a gwahanu pethau eraill er mwyn eu

trin yn fiolegol a/neu eu prosesu. Y mantais yw nad oes raid gwahanu’r gwastraff

yn ei ffynhonell ond mae rhai pryderon ynghylch ansawdd y defnyddiau a grëir

yn y pen draw.

� Banciau ailgylchu: y dull mwyaf poblogaidd yw defnyddio banciau y gellir eu

hintegreiddio i mewn i gynlluniau ailgylchu eraill a darparu mwy o gyfle i

ailgylchu.

Defnyddiau

Gellir gwahanu gwastraff domestig yn nifer o gategorïau y gellir eu casglu a’u hailgylchu neu

eu hailddefnyddio mewn theori:

• Papurau newydd/cylchgronau

• Cardbwrdd

• Poteli/bagiau plastig

• Tuniau diod/bwyd

• Gwydr

61

• Tecstiliau/esgidiau

• Gwastraff gardd gwyrdd

• Gwastraff cegin a gompostir

• Ffonau symudol

• Ffoil

• Arfau

• Llyfrau

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

62

• Cyfrifiaduron/nwyddau gwyn

• Dodrefn

Gallai rhai o’r defnyddiau hyn cael eu hailgylchu ac mae rhai yn cael eu hailgylchu bob dydd

yn Wrecsam ond mae angen cynyddu’r ganran yn sylweddol.

Rhaid i’r Cyngor ddewis defnyddiau i’w casglu’n unol â therfynau ymarferol, megis lle storio

a ffactorau economaidd, megis presenoldeb marchnad leol ar gyfer y defnyddiau.

Er mwyn ailgylchu, rhaid gwahanu a chasglu defnyddiau a rhaid iddynt fod mewn cyflwr sy’n

dderbyniol ar gyfer ailbrosesu. Nid yw gwahanu a chasglu’r holl ddefnyddiau hyn o’u

ffynhonnell (o gartrefi) yn economaidd ac ymarferol ddichonol fel arfer. Yr unig ffordd o’u

hailgylchu yw drwy fannau prosesu gwastraff. Gall hyn gael effaith ar ansawdd rhai o’r

defnyddiau ailgylchadwy sych; felly bydd gofyn ailgylchu rhai pethau yn eu ffynhonnell er

mwyn cyrraedd y cyfraddau ailgylchu gorau.

Mae gwahanu’n dibynnu ar breswylwyr tai’n cymryd rhan. Mewn rhai gwledydd

Ewropeaidd, lle mae trefniadau deddfwriaethol yn wahanol, mae cyfraddau cyfranogi 4 wedi

cyrraedd 95% (Cymdeithas Adfer ac Ailgylchu Ewropeaidd) ond nid yw’r DU wedi cyrraedd

cyfraddau tebyg yn y DU o gwbl.

Mae ailgylchu a gwahanu’n mynnu newid arfer a gallai hyn gymryd blynyddoedd o addysg

i’w gyflawni. Ynghyd â chymryd rhan, bydd raid i ddeiliaid tai gydnabod bod modd

ailgylchu defnyddiau a bod yn barod i’w gwahanu a’u storio. Yn ymarferol, mae’n debyg

mai’r pethau hynny sy’n hawdd eu gwahanu a’u storio, megis tuniau a phapurau newydd,

fydd yn cael eu hailgylchu’n rheolaidd.

Crynhoir y prif ffactorau ymarferol sy’n dylanwadu a ddylid casglu defnydd ailgylchadwy

mewn system ymyl ffordd yn y tabl isod. Dylid nodi bod amodau marchnad yn berthnasol

ond pwysleisir y mater hwn yn arbennig lle mae amodau marchnad ansefydlog yn peri i

farchnata defnyddiau fod yn anoddach.

Roedd cyn Cyngor Bwrdeistref Maelor Wrecsam yn un o sefydlwyr Grŵp Ailgylchu Gogledd

Cymru a sefydlwyd i wneud ailgylchu’n ddewis mwy dichonol yng Ngogledd Cymru i

gwmnïau ailgylchu a chynnig economïau graddfa gwell iddynt.

4 o’r holl gartrefi sy’n cael cynnig y cynllun, y nifer sy’n cymryd rhan yn rheolaidd.

Tabl 0-2: Defnyddiau Ailgylchadwy

DEFNYDD SYLWADAU

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Gwydr ✔ Gwydr yw un o’r defnyddiau dwysaf yn y llif gwastraff ac mae’n ychwanegu pwysau sylweddol

at y llif ailgylchu

✔ Yn gyffredinol gyfleus i bobl ailgylchu ac yn syml i’w adnabod a gwahanu

✔ Datblygir marchnadoedd newydd i ddefnyddio gwydr ailgylchadwy a symudir symiau cynyddol

i’r diwydiant adeiladu i’w ddefnyddio fel cymysgedd, defnydd hidlo, insiwleiddiad a sgwriwr

✘ Mewnforir llawer o wydr lliw i’r DU ac mae marchnadoedd ar gyfer gwydr cymysg yn gyfyng

✘ Mae gwydr yn swmpus a gall achosi problemau storio

✘ Rhaid datblygu marchnadoedd ymhellach gyda phwyslais ar ddarpariaethau lleol

✘ Adfer cyffredinol gwael yn y DU o’i gymharu â gweddill Ewrop – mae hyn yn gysylltiedig â

diffyg mannau i bobl fynd â’r gwydr i’w ailgylchu

Papur ✔ Ffurfio’r ganran fywaf o wastraff domestig a gall gynyddu pwysau’r defnyddiau a ailgylchir yn

sylweddol

Tuniau bwyd/

diod

✔ Syml a chyfleus i’w adnabod a’i wahanu o wastraff arall

✔ Glân a chyfleus i’w storio

✔ Mae ailgylchu’n gwrthbwyso’r angen am greu rhagor o bapur a thorri coed felly

✔ Cymru yw perfformiwr gorau’r DU o ran mynd â phapur i’w ailgylchu

✔ Mae gan Wrecsam farchnad leol i bapur ym Melin Bapur Shotton, XXX milltir i ffwrdd

✘ Mae gan y rhan fwyaf o felinau yn y DU digon o dunnelli o bapurau newydd a chylchgronau

sy’n gwthio prisiau i lawr

✘ Angen creu mwy o le/allu er mwyn bodloni gofynion y Cyfarwyddyd Pecynnu

✔ Mae tuniau a wnaed o ddur ac aliminiwm yn cynnwys canran sylweddol o’r llif gwastraff

domestig

✔ Os gwahanir nhwy’n effeithiol, gellir cael pris da amdanynt

✔ Hawdd i bobl eu hadnabod

✔ Marchnad leol?

✘ Angen offer arbenigol i wahanu metelau mewn cyfleuster gwahanu. Gall llifau gael eu llygru

pan nad yw pobl yn adnabod gwahanol fetelau ar unwaith

✘ Ddim yn gyfleus storio ac ailgylchu bob amser; angen mwy o ymdrech i olchi tuniau, ayb

63

DEFNYDD SYLWADAU

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Plastig ✔ Marchnadoedd da am ddefnyddiau a wahanwyd yn dda

Gwastraff

organig

domestig

(cegin a gardd)

✔ Pwysau ysgafn

✔ Ailgylchu’n lleihau’r angen i ddefnyddio adnoddau mwnol yn y defnydd crai

✔ Sector ailbrosesu plastig yn ehangu

✔ Tynnu canran fawr o’r llif gwastraff

✔ Gellir ei gompostio’n ganolog â buddion i’r tir (gweler Adran 5.3)

✔ Hawdd i gompostio gartref

O ystyried yr uchod, mae pedwar llinyn ‘sych’ o wastraff domestig a gesglir o ymyl y ffordd

yn y DU; gwydr, papur, metel a phlastig. Yn ychwanegol, ailddefnyddir ac ailgylchir pethau

fel dillad, llyfrau, sbectol, ffonau symudol a dodrefn; cysylltir y defnyddiau hyn gyda

‘banciau dod’ fel arfer a safleoedd amwynderau dinesig, grwpiau cymunedol ac elusennau.

Bydd deddfwriaeth newydd yn gofyn am ailgylchu cyfarpar trydanol ac electronig hefyd

ynghyd â pheth gwastraff domestig peryglus fel batris. Trafodir y rhain ymhellach yn Adran

5.6. Trafodir casglu ac ailgylchu gwastraff organig yn hwyrach yn yr adran nesaf.

Casglu o ymyl y ffordd

Mae system casglu o ymyl y ffordd yn cynnwys darparu cynhwyswyr ychwanegol ar gyfer

gwahanu a storio defnyddiau ailgylachadwy yn y cartref. Defnyddir cerbydau arbenigol i

gasglu’r defnyddiau. Mae’r math o gerbyd a ddefnyddir yn dibynnu ar pa un a gludir y

defnyddiau ar wahân mewn cerbyd ag adranau arbennig neu’n cael eu cludo gyda’i gilydd i’w

gwahanu mewn cyfleuster adfer defnyddiau.

Mae dewis system gasglu’n dibynnu ar nifer o ffactorau:

� yr ateb ymarferol amgylcheddol gorau i’r ardal i’w chwmpasu;

� y defnyddiau i’w casglu;

� y system caslgu sbwriel bresennol a statws y contract;

64

� y gyllideb sydd ar gael;

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

� canlyniadau treialon blaenorol (dewis cwsmeriaid);

� arfer gorau mewn ardaloedd tebyg rhywle arall yn y wlad.

Tra dymuna’r Cyngor fwyhau ei ymdrechion ailgylchu, rhaid cofio y bydd raid i’r cynllun a

ddewisir yn y pen draw fod yn gost-effeithiol a rhaid ei fesur o ran tunnelli o ddefnyddiau a

ailgylchir a bodlonrwydd cwsmeriaid â’r cynllun. Rhaid i’r cynllun gyd-fynd â’r system

casglu sbwriel bresennol hefyd.

Rhoddwyd biniau ag olwynion i drigolion ar gyfer storio gwastraff cyffredinol. Cesglir y

gwastraff gan y Cyngor mewn cerbydau gwastraff un adran confensiynol â lifftiau bin yng

nghefn y cerbyd. Nodir diwrnod y casgliad ar sticer ar ochr y bin. Mae’r cerbyda ar les 5

mlynedd ar hyn o bryd ac ni fyddai’n hawdd eu newid cyn diwedd y cyfnod hwn. Byddai

cynllun ailgylchu sy’n cynnwys rôl i’r cerbydau presennol yn haws ei gyflwyno na chynllun

sy’n dibynnu ar newid y cerbydau presennol.

Cynhwyswyr

Ar gyfer cynllun ailgylchu ymyl ffordd, mae angen cynhwyswyr at ddau bwrpas – defnydd

ailgylchadwy sych a gwastraff cyffredinol. Gall y cynhwyswyr fod yn finiau ag olwynion,

blychau a sachau ac mae amrywiaeth eang o gyfuniadau ar gael.

Mae’r dewis yn dibynnu ar feini prawf unigol yr awdurdod casglu. Seilir meini prawf ar:

� argaeledd cynhwyswyr a wneir i ddefnydd lleol, ailgylchadwy neu sydd ar gael yn

hawdd;

� cynllun y cynhwysydd o ran ei adnabod a pha mor ddymunol yw;

� nodau casglu, math o gerbyd i’w ddefnyddio, amlder casgliadau, dull trefnu

defnyddiau;

� caledi’r cynhwyswyr a pha mor hawdd yw eu trwsio/amnewid;

� pris y cynhwyswyr;

� deunyddiau i’w casglu; a

� dewis cwsmeriaid.

Yn Wrecsam, y dewisiadau a ystyriwyd ar gyfer y Fwrdeistref Sirol oedd sach fawr, blwch

plastig 55 litr a bin olwynion 140 litr ar y cyd â 120 litr yr wythnos am wastraff.

Cerbydau

Gellir defnyddio gwahanol ddulliau i gasglu a chludo defnyddiau ailgylchadwy i gyfleusterau

prosesu. Mae enghreifftiau o rai o’r dulliau a ddefnyddir fel a ganlyn:

� gwahanu gwahanol ddefnyddiau (megis gwydr, papur, cardbwrdd, metel a

phlastig) a’u rhoi mewn gwahanol adrannau ar gerbyd arbenigol;

� cymysgu defnyddiau tebyg yn ddau grŵp megis holl gynhwyswyr a holl bapur i

gerbyd â dwy adran;

65

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

� cymysgu’r holl ddefnyddiau ailgylchadwy mewn cerbyd un adran;

� defnyddio ‘sachau goroesi’ ar gyfer defnydd ailgylchadwy i’w casglu yn yr un

cerbyd â’r gwastraff a’i wahanu’n hwyrach mewn cyfleuster arbenigol;

� casglu gwahanol ddefnyddiau ar wahanol ddiwrnodau mewn cerbyd un adran.

Rhaid i’r cerbyd casglu fod yn briodol i’r mathau o ddefnyddiau a gesglir, y ffyrdd a

ddefnyddir, y staff a fydd yn gweithio gydag ef a sut mae’r llwyth yn cael ei dynnu i ffwrdd.

O ystyried yr adnoddau ar gael, mae gan Wrecsam y dewisiadau canlynol o ran casglu

defnyddiau ailgylchadwy o ymyl y ffordd;

� Defnyddio’r cerbydau presennol ar wahanol ddiwrnodau i’r casgliad sbwriel;

� Prynu cerbydau amlbwrpas newydd i’w defnyddio i gasglu defnyddiau

ailgylchadwy a pherfformio swyddogaethau eraill yn yr Adran Gwasanaethau

Cymunedol;

� Trefnu ar ymyl y ffordd drwy ddefnyddio cerbyd â chaetsys i wahanu defnyddiau

neu gerbydau trydan bach;

� Cerbyd arbenigol ag adrannau i gasglu defnyddiau ailgylchadwy.

Mae cerbydau arbenigol ag adrannau ar wahân yn costio degau o filoedd o bunnoedd. Mae

ganddynt y mantais o allu casglu nifer o ddefnyddiau o’u ffynhonnell a darparu cynnyrch

gymharol dda o ran ailgylchu.

Mae gan y Cyngor bolisi o ddefnyddio cerbydau sy’n cael yr effaith isaf bosibl ar yr

amgylchedd. Amnewidir y cerbydau presennol yn unol â rhaglen raddol. Mae cerbydau llai a

ddefnyddir gan y Cyngor yn rhai dau danwydd, a bwerir gan danwydd di-blwm a nwy

petroliwm hylifol. Pwerir cerbydau mwy gan danwydd diesel sylffwr isel.

Mae defnyddio cludiant yn effeithiol yn rhan annatod o leihau effaith amgylcheddol ddrwg.

Bwriad y Cyngor yw adeiladu gorsaf lle gellir storio llwythi unigol o ddefnyddiau

ailgylchadwy a gesglir yn lleol. Bydd y defnyddiau’n cael eu trosglwyddo i drelars 40

troedfedd a’u cludo i werthwyr ailgylchu. Bydd hyn yn gostwng nifer y teithiau a wneir yn

cludo llwythi bach, sef yr arfer ar hyn o bryd.

Amlder y Casgliad

Mae amlder casgliad yn gysylltiedig yn y pen draw â ffactorau eraill, gan gynnwys y math o

ddefnyddiau i’w casglu, maint y cynhwysydd a math y cerbyd. Mae’r dewisiadau sydd ar

gael i Wrecsam o ran casglu defnydd ailgylchadwy a gwastraff fel a ganlyn:

� Casgliad cymysg (sbwriel a phethau ailgylchadwy) ar un cerbyd – bagiau

goroesi’n cael eu gwahanu mewn cyfleuster arbennig;

� Dau gerbyd yn casglu sbwriel a phethau ailgylchadwy ar wahân ar yr un diwrnod;

� Un cerbyd yn casglu am yr ail wythnos ac yn amrywio rhwng sbwriel a phethau

ailgylchadwy.

66

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Pan gychwynnwyd ar raglenni ymyl y ffordd, ystyriwyd bod angen casglu’r pethau

ailgylchadwy ar yr un diwrnod â’r sbwriel er mwyn annog pobl i gymryd rhan. Yn

ddiweddar, mae nifer o awdurdodau lleol wedi cyflwyno casgliadau bob pythefnos i leihau

costau ac mae’n debyg nad oes unrhyw ostyngiad amlwg yn y swm o bethau ailgylchadwy a

gesglir. Un anfantais yw bod angen cynhwyswyr cadarn ychwanegol ar y cyhoedd er mwyn

storio pethau am bythefnos ynghyd â chalendr yn dangos casgliadau.

Mae nifer o awdurdodau lleol ledled y DU yn casglu

sbwriel am yn ail wythnos. Mae un system yn defnyddio

dau fin olwyn ac un plastig. Defnyddir un bin olwynion

ar gyfer gwastraff gwyrdd a’r llall ar gyfer gwastraff

cyffredinol, defnyddir y blwch ar gyfer pethau

ailgylchadwy sych. Mae nifer o amrywiaethau posibl i’r

system hon. Mae’r math hwn o gynllun yn golygu

ymdrech sylweddol ar ran swyddogion addysg gwastraff i

helpu i annog preswylwyr i newid eu harferion. Mae

awdurdodau sy’n gweithredu’r cynllun wedi clywed am bryderon ynghylch y problem

ganfyddedig o aroglau drwg, risgiau iechyd a lle storio. Mae’r mwyafrif wedi gweld bod y

problemau hyn yn diflannu wrth i’r system ddatblygu ac wrth i’r cyhoedd sylweddoli nad

oedd raid iddynt ofidio mewn gwirionedd.

Cyfleusterau dod

Mae banciau dod yn ffordd arall o gasglu defnyddiau ailgylchadwy ‘glân’. Gall banciau

amrywio mewn maint o finiau ag olwynion bach i’r banciau mawr a welir mewn meysydd

parcio archfarchnadoedd a chanolfannau ailgylchu gwastraff y cartref.

Mae’r defnyddiau a gesglir o fanciau dod yn tueddu i fod yn ddefnyddiau ‘ailgylchadwy sych’

megis plastig, tuniau a dillad. Bydd awdurdodau’n monitro perfformiad casgliadau gwahanol

ddefnyddiau ac addasu nifer y biniau’n unol â hynny. Er enghraifft, mae rhai awdurdodau’n

gweld nad oes angen biniau gwydr, tuniau a phlastig mewn ardaloedd lle mae casgliadau o’r

defnyddiau hyn o ymyl y ffordd. Mae eraill yn gweld bod defnydd yn cynyddu wrth i

unigolion ddod i arfer ag ailgylchu ac mae’n well ganddynt fynd i gynlluniau banciau dod yn

lle cadw pethau gartref. Mae hyn yn dibynnu ar nodweddion y boblogaeth breswyl, lleoliad y

biniau a’r mathau o gynlluniau.

Mae canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref yn fwy diogel na’r rhan fwyaf o fanciau dod;

felly bydd yr amrywiaeth o ddefnyddiau a gasglant yn ehangach. Yn gynyddol, mae

awdurdodau’n darparu banciau ar gyfer gwastraff gwyrdd, pren, dodrefn, deunyddiau DIY,

cyfarpar trydanol ac electronig a pheth gwastraff peryglus.

Mae rhwydwaith o ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref wedi datblygu ledled y

Fwrdeistref. Lleolir nhw mewn mannau strategol er cyfleustra preswylwyr – mewn meysydd

parcio archfarchnadoedd, meysydd parcio dinesig a chanolfannau ailgylchu dinesig. Darperir

a thrinnir y rhain gan ailbroseswyr a ddefnyddir gan Grŵp Ailgylchu Gogledd Cymru.

1.24.2 Beth fwriadwn ei wneud?

Mae swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi bod yn astudio arfer gorau mewn

cynlluniau ailgylchu mewn rhannau eraill o’r DU i weld pa mor addas fyddai eu cyflwyno yn

Wrecsam. Ystyriwyd y rhain drwy gyfres o gyfarfodydd pwyllgor gydag aelodau etholedig.

67

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Mae’r Cyngor wedi penderfynu ar ystod o ddewisiadau erbyn hyn i’w cyflwyno yn y

Fwrdeistref Sirol. Seilir y strategaeth hon ar weithredu’r dewisiadau hyn a gellir ei newid os

yw ymgynghoriadau cyhoeddus neu ganlyniadau arbrofion yn mynnu hynny.

Er mwyn cynyddu cyfraddau ailgylchu, mae’r Cyngor yn datblygu ei rwydwaith o fanciau

dod ac wedi cyflwyno cynllun casglu o ymyl y ffordd arbrofol. Mae hyn yn gofyn am gryn

dipyn o fuddsoddiad, o ran cyfalaf ac amser, i ddatblygu a gweithredu cynllun newydd. Nid

oes math o gynllun ailgylchu a gydnabyddir yn genedlaethol fel yr un gorau, gan fod bob

ardal yn wahanol. Felly, addasir cynlluniau cyn belled ag sy’n bosibl i ystyried anghenion

unigol ardal ac fe’u haddasir wrth i ofynion ychwanegol ddod yn amlwg.

Mae system arbrofol yn ymarfer defnyddiol gan iddi gynnig:

� profiad i swyddogion a staff casglu o wahanol fathau o gyfarpar;

� data lleol am gyfranogiad a chyfraddau gwyro, a chostau cynlluniau;

� materion o ran derbynioldeb cynllun, canolbwynt taflenni addysgol, rhwystrau i

ailgylchu;

� cyhoeddusrwydd ac ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd.

Casgliadau ymyl y ffordd

Er mwyn annog preswylwyr i ailgylchu, credwn fod yn rhaid ei gwneud mor hawdd â

phosibl; felly, bu i gynllun casgliad ymyl y ffordd gychwyn ym mis Gorffennaf 2002, yn

cynnig gwasanaeth casglu newydd i 6,000 o gartrefi ledled y Fwrdeistref Sirol. Cynhwyswyd

ardaloedd Y Waun, Gresffordd, Garden Village, Broughton, Offa, Gwersyllt, Sydallt a

Summerhill. Anogwyd cyfranogwyr i leisio eu barn ac awgrymu gwelliannau i’r gwasanaeth.

Mae swyddogion y Cyngor yn monitro effeithiolrwydd y cynllun, costau ac effeithlonrwydd y

gwasanaeth. Yn dilyn yr arbrawf, rhoddwyd adroddiad i gynghorwyr yn rhoi canlyniadau

arolwg cwsmeriaid iddynt a ffyrdd o estyn y cynllun ailgylchu ymyl y ffordd. Bydd cynllun

diwygiedig ar gael i breswylwyr hanner y Fwrdeistref Sirol erbyn mis Mawrth 2005. Mae

cyflwyniad y cynllun ailgylchu’n dechrau ym mis Mehefin 2004. Newidiwyd y gwasanaeth a

gynigir i drigolion. Bydd y cynhwysydd gwastraff dros ben du 240 litr yn parhau i gael ei

gasglu bob pythefnos a bydd cynhwysydd gwyrdd 240 litr ar gyfer gwastraff gardd yn cael ei

gasglu ar yr wythnosau pan na gesglir y bin du. Defnyddir blwch plastig yn lle’r sach binc a

bydd trigolion yn gallu ailgylchu eu poteli gwydr a’u poteli plastig a thuniau. Cesglir papurau

newydd a chylchgronau mewn sach werdd ail-ddefnyddiadwy fel rhan o gydweithrediad

gyda’r Shotton Paper Company. Cesglir y blwch plast a’r sach werdd bob wythnos i roi

dwywaith y cyfle i drigolion ailgylchu.

Adeiladwyd cyfleuster yn nepo sbwriel newydd yr Awdurdod ar Ystad Ddiwydiannol

Wrecsam i gynyddu effeithlonrwydd y gwaith ailgylchu yn Wrecsam. Cludir llwythi mawr o

ddefnyddiau ailgylchadwy a wahanwyd o’r Fwrdeistref Sirol i ailbroseswyr, gan wneud yr

elfen gludo o’r broses ailgylchu’n fwy effeithlon o ran tanwydd.

Nid oes gorfodaeth ar drigolion i ddefnyddio’r gwasanaeth ond, os penderfynant i beidio â

chymryd rhan, bydd y bin gwastraff dros ben yn dal i gael ei gasglu bob pythefnos yn unig.

68

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Cesglir defnyddiau ailgylchadwy a gwastraff dros ben ar wahân mewn cerbydau a addaswyd

yn arbennig. Bob wythnos, mae dau gerbyd yn ymweld ag eiddo yn yr ardal ailgylchu.

Cesglir cynnwys y blychau mewn adrannau ar wahân o gerbyd arbennig a chludir ef i’r

cyfleuster arbennig i’w storio cyn iddo gael ei gludo i ailbrosesydd priodol. Bydd papur a

cylchgronau’n cael eu storio a’u cludo i Felin Papur Shotton. Ni all cynllun ailgylchu lwyddo

heb gyfranogiad llwyddiannus trigolion. I helpu gydag annog trigolion i gymryd rhan,

cychwynnodd y Cyngor ar ymgyrch cyhoeddusrwydd ac addysg fawr.

Monitrir nifer y cartrefi sy’n cymryd rhan yn yr arbrawf yn agos, o ran nifer y cyfranogwyr ac

effeithiolrwydd y gwahanu defnyddiau. Ymgynghori â phawb i gael sylwadau am y system

ac adnabod unrhyw broblemau. Rhoddir cyngor a chefnogaeth i breswylwyr sy’n cael

anawsterau wrth ddefnyddio’r system.

Mae swm a math y defnydd a gesglir yn cael eu monitro hefyd. Gellir cymharu’r data hwn â

data cenedlaethol a bydd yn ein helpu i amlygu unrhyw ddiffygion. Gellir cychwyn ar

ymgyrchoedd ymwybyddiaeth penodol i dargedu’r defnyddiau hynny. Trosglwyddir holl

ddata rheoli gwastraff y Fwrdeistref Sirol i gronfa ddata genedlaethol “Wastedateflow”.

Cymharir data o awdurdodau lleol ledled y DU. “Wastedataflow” yw’r gronfa ddata

gwastraff genedlaethol gyntaf a bydd yn asesu gwastraff y DU ac effeithlonrwydd mentrau

ailgylchu lleol.

Canolfannau ailgylchu cymdogaethol

Mae’r Cyngor yn cynnig mwy o gyfle i ailgylchu drwy agor 30 o ganolfannau ailgylchu

gymdogaethol yn raddol; lleolir y canolfannau bach hyn ger ardaloedd preswyl i wneud

ailgylchu’n haws i breswylwyr.

Mae’r canolfannau ailgylchu cymdogaethol yn cynnwys biniau mawr ar olwynion a addaswyd

i dderbyn gwahanol ddefnyddiau. Bydd gan ganolfan arferol gynhwyswyr ar gyfer gwydr

(clir, gwyrdd a brown), cardbwrdd, papur a chylchgronau, brethynnau, poteli plastig a

thuniau. Bydd ffensys o gwmpas i ddal unrhyw sbwriel rhag chwythu i ffwrdd a gellir

addasu’r ffens i gydweddu ag ymddangosiad yr ardal.

Yn hanesyddol, mae wedi bod yn anodd dod o hyd i leoliadau priodol ar gyfer canolfannau

dod oherwydd canfyddiadau negyddol pobl am y sŵn a’r annibendod sy’n deillio ohonynt.

Gan fod staff y Cyngor yn trin y canolfannau hyn yn rheolaidd, mae’n llai tebygol y bydd

sbwriel o gwmpas a bydd llai o oedi mewn gwacáu’r biniau. Pan fydd y cyhoedd yn gweld

69

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

nad oes problemau’n codi oherwydd y banciau hyn, mae’r Cyngor yn gobeithio y bydd galw i

osod mwy o ganolfannau ailgylchu gymdogaethol ledled y Fwrdeistref Sirol.

Canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n nodi bod potensial i

gyrraedd cyfradd adfer o 80% mewn canolfannau ailgylchu

gwastraff y cartref. Mae swm y defnyddiau ailgylchadwy y

gellir eu prosesu mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y

cartref yn dibynnu ar faint o ddefnyddiau sy’n eu cyrraedd a

sut y gellir eu gwahanu ar y safle.

Mae gan ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref y

Fwrdeistref Sirol ystod o gynhwyswyr ailgylchu; ceir

cynhwyswyr ar gyfer gwydr, papur, brethyn, batris, olew

gwastraff, gwastraff gardd, cardbwrdd, pren, rwbel a phridd a metel. Gwahanir teiars

cerbydau a hen oergelloedd hefyd. Mae’r canolfannau a oedd yn ddigonol pan adeiladwyd

nhw nawr yn rhy fach i ymdopi â nifer y bobl sy’n eu defnyddio a’r gwastraff y mae angen

cael gwared arno a’i wahanu er mwyn ei ailgylchu. Bydd angen estyn ac addasu’n sylweddol

os ydynt yn mynd i gyrraedd y cyfraddau adfer y mae’r Cynulliad yn eu hawgrymu.

Bydd lleoliad y safleoedd presennol yn peri i unrhyw estyniad tu hwnt i’r ffiniau presennol yn

arbennig o anodd. Mae darpariaeth y canolfannau hyn yn y Fwrdeistref Sirol yn cael ei

hailfodelu yn ystod 2004. Bydd y safleoedd ym Mrymbo a Phlas Madoc yn cael eu newid i

gynnig ystod fwy o gyfleusterau ailgylchu a gwaredu. Bydd y ganolfan yn Acton yn cau ym

mis Gorffennaf 2004 a bydd canolfan newydd yn cymryd ei lle ar Lôn Bryn ar Ystad

Ddiwydiannol Wrecsam. Bydd gan y ganolfan newydd ystod fwy o gyfleusterau. Bydd yn

adeilad ar ddwy lefel a bydd y mannau cyhoeddus a’r mannau gwaith yn cael eu gwahanu er

mwyn eu gwneud yn ddiogelach i’r cyhoedd. Ni fydd raid i’r ganolfan gau pan fydd y

cynhwyswyr gwastraff yn cael eu gwacáu.

Mae’r Cyngor yn gobeithio y bydd y canolfannau newydd yn annog y cyhoedd i wneud mwy

o ddefnydd ohonynt. Byddai hyn yn rhoi llai o faich ar wasanaeth casglu gwastraff swmpus y

Cyngor ac yn gostwng lefelau tipio heb ganiatâd, ynghyd â helpu i godi cyfraddau ailgylchu.

Bydd y ganolfan yn Queensway yn newid i greu canolfan ailgylchu gymdogaethol sy’n

derbyn defnyddiau ailgylchadwy’n unig.

1.25 Compostio

Mae compost yn wastraff organig naturiol (e.e. glaswellt, planhigion, brigau coed a bwyd) a

dorrir i lawr i greu defnydd sefydlog sy’n debyg i bridd neu fawn. Yn dibynnu ar yr ansawdd,

gellir defnyddio’r cynnyrch fel cyflyrwr pridd mewn gerddi, ar gyfer tirlunio, amaethyddiaeth

a garddwriaeth ac er mwyn adfer tir diffaith.

70

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Er mwyn bodloni targedau’r Cynulliad, rhaid i gompost ddeillio o ddefnydd a wahanir yn eu

ffynhonnel ac mae hyn yn gofyn am gasgliad ar wahân. Gellir cael compost rhesymol o

wastraff cymysg lle mae defnyddiau nad ydynt yn troi’n gompost, megis gwydr, plastig, metel

a sylweddau peryglus, yn cael eu tynnu o’r gwastraff â llaw neu’n fecanyddol. Gwneir hyn

mewn cyfleuster trin mecanyddol a biolegol fel arfer. Yn dibynnu ar y marchnadoedd sydd ar

gael, gellir compostio defnyddiau ffeibrog (e.e. papurau newydd a phecynnau ysgafn) mewn

symiau cyfyng os ydynt wedi eu rhwygo.

Gellir defnyddio’r compost hwn ar gyfer

adfer tir neu i orchuddio tir a byddai’n cyfrif

tuag at dargedau’r cyfarwyddyd claddu

sbwriel fel defnydd biolegol ddiogel.

Bydd y Rheoliadau Is-Gynnyrch Anifeiliaid

newydd yn datgan bod angen compostio

gwastraff a ddaw o ffynonellau arlwyo (gan

gynnwys ceginau domestig) dan amodau a

reolir yn gaeth. Bydd goblygiadau cost

sylweddol i hyn.

1.25.1 Beth yw ein hopsiynau ar gyfer

cyrraedd ein targedau compostio?

Mae gan y Cyngor darged tymor byr i

gompostio o leiaf 5% o’i wastraff dinesig

erbyn 2003/04. Dengys dadansoddiad o

wastraff Cymru fod rhyw 10% o wastraff

dinesig yn wastraff gwyrdd neu ardd, felly ni

ddylai fod yn anodd cyrraedd y targed hwn.

Compostio Gartref

Gellir dadlau mai compostio gartref yw’r dull

mwyaf cynaliadwy o ddelio â gwastraff cegin,

megis crafion llysiau a bagiau te, a gwastraff gwyrdd o’r ardd.

Mae hyn yn atal gwastraff rhag mynd i’r llif gwastraff yn y lle cyntaf. Dangosodd gwaith

ymchwil a wnaed gan Rwydwaith Gweithredu Gwastraff Strathspey (SWAN) y gallai

compostio gartref wyro o leiaf 15% o’r ganran gwastraff domestig.

Ymdrinnir â’r gwastraff yn y cartref, felly nid oes problemau cludo na gollyngiadau oherwydd

clud. Mae hefyd yn atal dwysedd defnyddiau a all arwain at aroglau drwg a chynhyrchu

symiau mawr o sborau ffyngaidd a bacteria. Gan fod y compost a grëir yn cael ei ddefnyddio

yn yr ardd wedyn, nid oes trafferthion o ran cludo’r cynnyrch i farchnadoedd nac anawsterau

mewn dod o hyd i farchnadoedd.

Mae cynhwyswyr compostio arbennig ar gael sy’n gwneud y broses yn daclusach a haws i’w

rheoli na’r dulliau ‘pentyrru’ traddodiadol.

71

Astudiaeth Achos Arfer Gorau

Mae ‘Slim Your Bin’ yn ymgyrch ymwybyddiaeth gwastraff ar gyfer East

Anglia. Mae’n bartneriaeth rhwng Anglia Television, cynghorau lleol, y

cyfryngau lleol a chyrff cenedlaethol, gan gynnwys Going for Green a’r

Flaengaredd Ymwybyddiaeth Gwastraff Genedlaethol. Dyma drydedd

flwyddyn yr ymgyrch.

Canolbwyntiodd ymgyrch 2001 ar wahanu defnydd organig o’r gwastraff

domestig, drwy gompostio.

Lansiwyd hi ar ddechrau mis Mai 2001 i gyd-fynd â’r Wythnos

Ymwybyddiaeth Compost Genedlaethol a pharhaodd drwy Fehefin a

Gorffennaf. Cynhaliwyd sioeau teithiol (a rhoddion am ddim) mewn

digwyddiadau cymunedol, canolfannau garddio poblogaidd a

chanolfannau siopa. Defnyddiwyd Anglia TV, radio a phapurau newydd

lleol i hybu’r sioeau hyn a chynnal cystadleuthau ac ati a chyfleu’r neges

i gynulleidfa ehangach.

Cafwyd arolwg ffôn wedi’r ymgyrch. Cyfwelwyd â bron i 1500 o bobl.

Dywedodd 51% eu bod yn compostio gartref. Glaswellt, dail a chrafion

llysiau oedd y pethau a gompostiwyd fwyaf. Pan ofynnwyd i’r

ymatebwyr pan y bu iddynt ddechrau compostio, dywedodd 34% ei fod

yn well i’w gerddi a dywedodd 31% ei fod yn well i’r amgylchedd.

Dylanwadwyd 3% gan yr ymgyrch i ddechrau compostio.

Mae 31% wedi peidio â chompostio oherwydd prinder lle yn eu gerddi.

Dywedodd 35% o’r rhain na fyddent yn ailgychwyn compostio a

dywedodd mwy na 15% y byddent yn ailgychwyn pe byddent yn cael bin

am ddim.

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Mae preswylwyr yn nodi ystod o anawsterau o ran compostio gartref, gan gynnwys prinder

lle, diffyg gwybodaeth neu ostyngiad mewn ysgogiad sy’n golygu nad yw compostio gartref

yn debygol o ddelio â gwastraff mwy na 50% o gartrefi.

Ar hyn o bryd, eithrir compostio gartref o’r Safonau Perfformiad Gwerth Gorau. Ni fydd

unrhyw adnoddau a fuddsoddir mewn annog compostio gartref yn helpu i gyrraedd y rhain na

thargedau ailgylchu/compostio presennol. Fodd bynnag, gall compostio gartref helpu i leihau

gwastraff yn gyffredinol sy’n cyfrif tuag at nodau lleol a chenedlaethol. Mae Llywodraeth

Cynulliad Cymru’n gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd ar hyn o bryd i greu mesur

priodol o berfformiad i gyfrif tuag at dargedau.

1.25.2 Compostio Cymunedol

Mae’r cyfarwyddyd drafft newydd ar drin gwastraff yn fiolegol yn datgan y bydd aelod

wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn annog y sefydliad o gynlluniau compostio cymunedol fel

ffordd o leihau cludiant a chynyddu ymwybyddiaeth o arferion ailgylchu.

Diffinnir ‘compostio cymunedol’ fel compostio gwastraff biolegol gan grŵp o bobl mewn

ardal gyda’r nod o gompostio eu gwastraff nhw a gwastraff pobl eraill er mwyn rheoli’r

gwastraff mor agos â phosibl i’r man lle cynhyrchir ef. Â gweithrediad y Rheoliadau Is-

Gynnyrch Anifeiliaid, mae’n debygol y bydd yn ymarferol ac economaidd i grwpiau

cymunedol yn unig gompostio gwastraff gardd. Fodd bynnag, mae potensial i brosiectau

wyro symiau mawr o wastraff i ffwrdd o safleoedd claddu sbwriel.

Mae gweithredu cynllun mewn partneriaeth â’r gymuned leol yn helpu i fwyhau swm y

gwastraff gwyrdd a gesglir ac mae’n helpu i annog marchnadoedd lleol ar gyfer y compost a

grëir. Gallai’r rhain fod yn erddi gosod lleol, canolfannau garddio neu gallai gael ei werthu

i’r cyhoedd. Gall cynlluniau cymunedol gynnwys prynu rhwygwr a gwaith compostio lleol ar

raddfa fechan ar ffermydd neu erddi ar osod.

1.25.3 Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Y dull mwyaf cyffredin o gasglu gwastraff gwyrdd

yw drwy ddarparu sgipiau gwastraff gwyrdd ar wahân

mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref. Gall

preswylwyr fynd â’u dail, glaswellt, brigau

gwrychoedd, ayb i’r ganolfan yn rhad ac am ddim.

Mae’r gwastraff yn cael ei rwygo a’i gompostio

mewn safle awdurdodedig. Yn Wrecsam, defnyddir

compost a ddaw o ganolfannau ailgylchu gwastraff y

cartref fel gorchudd dyddiol ar safle claddu sbwriel

lleol. Bwriadwn wneud defnydd gwell o’r adnodd hwn yn y dyfodol a cheisiwn wella

ansawdd y defnydd a gynhyrchwn; defnyddir compost o Wrecsam gan Is-Adran Parciau’r

Cyngor ac, yn y pen draw, byddwn yn gwerthu bagiau o gompost i’r cyhoedd.

72

1.25.4 Casgliad Ymyl Ffordd

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Er mwyn cynyddu swm y gwastraff a gompostiwn,

mae’n bosibl y bydd angen casgliad ychwanegol o

gartrefi na allant neu na ydynt yn mynd â’u

gwastraff gwyrdd i safle gwastraff y cartref. Gellir

gwneud hyn yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf

yn unig pan fo mwyafrif y gwastraff gwyrdd yn

cael ei gynhyrchu. Mae hyn yn debygol o wella

ansawdd y compost hefyd, gan fod y defnydd a

gesglir yn debygol o gael cynnwys nitrogen uwch

na’r defnydd pren a adawir mewn canolfannau

ailgylchu gwastraff y cartref. Amlinellir rhai

dewisiadau ar gyfer casglu isod.

Yn debyg i ddefnydd ailgylchadwy sych, gwelir bod mwy o breswylwyr yn cymryd rhan yn

amlach pan fyddant yn cael cynnig casgliad ymyl ffordd; er mwyn cyrraedd lefelau compostio

uwch, mae’n debygol y bydd raid casglu gwastraff organig ar wahân o ymyl y ffordd.

Golyga’r Rheoliadau Is-Gynnyrch Anifeiliaid a weithredwyd yn ddiweddar fod angen proses

gompostio ddwysach ar unrhyw wastraff sy’n dod o geginau neu sefydliadau arlwyo, ynghyd

â rheolaeth ansawdd gaethach na’r hyn sy’n ofynnol ar gyfer gwastraff gardd a geir o erddi

neu barciau.

Mae hyn yn wir hefyd am wastraff gwyrdd a gesglir gyda gwastraff cegin. Mae compostio

gwastraff cymysg (cegin a gwyrdd) i’r safon ofynnol yn debygol o fod yn rhy ddrud

oherwydd y swm uchel o wastraff gardd. Oherwydd hyn, os bydd gwastraff cegin yn cael ei

gasglu, mae’n debyg y byddai angen casgliad ar wahân; mae rhai awdurdodau’n gwneud hyn

drwy roi ‘bwced’ cegin i bobl a defnyddio cerbyd ag adrannau gwahanol. Oherwydd yr arian

y mae ei angen er mwyn sefydlu a chynnal y system hon, nid yw’n debygol y bydd Wrecsam

yn ystyried casglu gwastraff cegin ar wahân oni bai bod deddfwriaeth yn mynnu hyn neu os

datblygir targedau ar ei gyfer yn y dyfodol.

Mae yna ddewis yn parhau i gasglu gwastraff gwyrdd a defnyddiau eraill y gellir eu

compostio, fel cardbwrdd a rwygwyd, tyweli papur a thecstiliau di-synthetig, megis cotwn.

Mae biniau Wrecsam yn cynnwys canran uchel o wastraff gardd; byddai casglu hyn ar wahân

yn rhoi hwb sylweddol i gyfraddau compostio.

Os cesglir defnyddiau sych hefyd, bydd gofyn am gerbyd arall neu gerbyd ag adrannau

gwahanol. Dylid cofio y gall gwastraff gwyrdd fod yn swmpus iawn a gallai fynnu man

casglu mawr.

Un o’r pryderon mwyaf cyffredin gyda gweithredu casgliad pythefnos yw bod y gwastraff

organig yn aros yn y bin am gyfnod digon hir i bydriad gychwyn a gallai hyn arwain at

aroglau drwg. Nid yw’r awdurdodau lleol sydd wedi gweithredu’r math hwn o system wedi

datgan bod hwn yn bryder mawr.

73

1.25.5 Marchnadoedd

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Â’r twf parhaus mewn cynhyrchu compost yn y DU (mae’r Gymdeithas Compost yn datgan

cymaint â 22% y flwyddyn yn y 3 blynedd nesaf), bydd sefydlu marchnadoedd yn hanfodol i

lwyddiant unrhyw gynlluniau compostio.

Mae nifer o wahanol ddefnyddiau ar gyfer compost a geir o wastraff:

• gwella pridd;

• compost plannu;

• gwneud pridd gorchudd;

• cymysgeddau wyneb;

• glaswellt;

• cyfrwng tyfu;

• gwrtaith organig (sy’n gofyn am ychwanegion megis gwrtaith anifeiliaid).

Mae’r defnyddiau hyn yn gofyn am gompost o wahanol ansawdd. Er enghraifft, mae rhai

gweithgareddau adfer tir claddu sbwriel yn gallu defnyddio compost â chynnwys maethlon

gwael a lefel uwch o bethau amhur (gwydr, ayb), tra bod pridd yn mynnu defnydd o ansawdd

uwch.

Gallai amaethyddiaeth fod yn un o’r prif feysydd ar gyfer compost a geir o wastraff gardd.

Golyga’r Rheoliadau Is-Gynnyrch Anifeiliaid y bydd angen trin gwastraff cegin ac arlwyo’n

arbennig a’i storio am gyfnod penodol cyn y gellir ei ddefnyddio ar dir amaethyddol.

Mae’r Cynulliad wedi nodi mai dim ond compost a geir o wastraff a wahanir yn ei

ffynhonnell (gwastraff a wahanir gan y preswylydd) a fydd yn cael ei gyfrif tuag at dargedau

compostio. Mae hyn yn eithrio defnydd a wahanir mewn cyfleuster trin arbennig. Fodd

bynnag, os yw’r defnydd hwn yn cael ei drin yn effeithiol, nid yw’n fygythiad mawr i’r

amgylchedd pan ddefnyddir ef i adfer tir neu os y’i gladdir a’i gyfrif tuag at dargedau adfer.

Pwysleisiwyd defnydd defnyddiau ailgylchadwy yng ngweithgareddau awdurdodau lleol yn y

Strategaeth Gwastraff i Gymru. Gallai gwasanaethau tirlunio awdurdod lleol fod yn farchnad

bwysig ar gyfer y compost hwn gan y byddai’n gwella llwyddiant gwyrdd yr awdurdod lleol.

1.25.6 Mathau o Gompostio

Mae nifer o ddulliau o gompostio ar raddfa fawr; trafodir y mwyaf cyffredin o’r rhain yn

nhabl 3.

Tabl 3: Crynodeb o’r dulliau compostio presennol

Dull compostio Sylw

Carfanio (agored)

Dyma’r math mwyaf cyffredin o system a

ddefnyddir yn y DU. Ailbrosesir y gwastraff a

rhwygir a threfnir ef cyn ei ychwanegu i’r

compost. Ffurfir ef i mewn i ‘garfan’ wedyn i

ganiatáu’r gwastraff i gael ei droi a’i gymysgu.

• Gellir mecaneiddio’r system ac mewn cyfleuster arferol, mae’r garfan yn

cael ei ffurfio’n yn unol â’r gwastraff yn cael ei ychwanegu un pen a’r

defnydd compost yn cael ei dynnu ar y pen arall.

• Bydd yn cael ei droi a’i gymysgu o leiaf yn wythnosol ac mewn rhai

achosion yn ddyddiol. Mae hyn yn sicrhau cynnydd y gwastraff yn y garfan.

• Defnyddir dyfeisiau rhawio i drin y gwastraff.

74

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Dull compostio Sylw

Mae hyn yn sicrhau digon o fandylledd a

dargludiad naturiol yn y pentwr.

Carfan (gaeëdig)

Mae’r dull hwn yr un fath â system ‘agored’ ac

eithrio’r to a osodir i ddiogelu’r system rhag y

tywydd.

Mewn llestr (erobig)

Defnyddir y dull hwn pan fo angen mwy o

reolaeth o’r broses gompostio. Dan reoliadau

newydd, bydd gofyn compostio gwastraff

cegin sy’n cynnwys bwyd mewn llestr. Mae’r

technolegau hyn yn cynnwys compostio

pethau organig o fewn adeilad neu o fewn

cynhwysydd, yn dibynnu ar y dechnoleg

benodol.

Mewn llestr (anerobig)

Yn debyg i gompostio erobig, mae nifer o

dechnolegau anerobig ar gael. Yn y

cyfleusterau hyn, mae llifau gwastraff organig

yn cael eu malu a’u cymysgu gyda dŵr.

Rhoddir y mathriad hwn i mewn i

gynhwysydd sy’n debyg i’r rhai a ddefnyddir

ar gyfer carthffosiaeth. Crëir nwy methan yn y

cynhwysydd hwn (gellir defnyddio’r nwy i

greu trydan). Tynnir pethau solet o’r

cynhwysydd yn achlysurol. Cymysgir y

mathriad sych gyda defnyddiau a chwythir aer

iddo i greu compost sefydlog.

Drwm Troi

Mae’r system yn cynnwys drwm troi. Mae

gan y drwm adrannau fel arfer ac mae’r

gwastraff yn symud drwy’r system ymhen

rhyw drid diwrnod, yn compostio wrth wneud

hyn. Gall y tymheredd gyrraedd 60 o C ac

ychwanegir dŵr yn aml o fewn y broses

linellol.

Compostio llynghyraidd

Gall defnyddio pryfed genwair fod yn

effeithiol o ran creu compost.

• Mae carfanau awyr agoredd yn tueddu i sychu allan felly gosodir systemau

chwistrellu dŵr yn aml – a defnyddir trwytholch ar adegau.

• Wrth fod yn agred, gallai’r tywydd ddylanwadu ar y garfan ond nid yw hyn

yn debygol o stopio’r broses rhag digwydd.

• Dan y Rheoliadau Is-Gynnyrch Anifeiliaid, nid yw carfanau awyr agored yn

ddull cymeradwyedig ar gyfer compostio gwastraff bwyd na chymysgedd o

wastraff bwyd a gardd.

• Gwell reolaeth o’r compostio ac felly cynnyrch gwell yn y pen draw.

• Cyfradd anweddu’n lai, felly angen llai o ddŵr.

• Gostyngir aroglau a gwasgariad erosol bio o gymharu â system agored.

• Mae’r cyfleusterau hyn yn gallu rheoli tymheredd, lleithder a llif aer er

mwyn gostwng aroglau.

• Mae nifer o dechnolegau compostio mewn llestr ar gael yn fasnachol.

• Mae tri phrif grŵp o dechnolegau: compostwyr twnnel, compostwyr bin a

chompostwyr mewn sianel. Yn y tri math, rheolir y cyflenwad aer, y

gollyngiadau, lleithder a thymheredd drwy ffaniau aer, systemau chwistrellu

dŵr a systemau offeru.

• Mae’r holl dechnolegau’n lleihau aroglau drwy’r rheolaethau uchod a gellir

gosod systemau trin gollyngiadau ar bob un, megis hidlwyr bio, i drin neu

gael gwared ar arolglau sy’n deillio o’r broses.

• Mae’r holl systemau’n mynnu cyfansoddiad gwastraff fel bod digon o

ddefnyddiau llenwi neu ddiwygio.

• Mae’r safleoedd yn mynnu man cyn-prosesu i baratoi’r gwastraff cyn ei

gopmostio a man storio ar gyfer sgrinio’r cynnyrch yn y pen draw.

• Bydd prosesau erobig yn creu compost sefydlog o fewn 6-8 wythnos ac yna

mae gofyn 4 wythnos ar gyfer caledu. Bydd angen sgrinio’r compost cyn ei

werthu ac, os gwahanwyd y pethau organig yn eu ffynhonnell, gall y

compost fodloni safonau ansawdd compost caeth.

• Mae’r broses anerobig yn cymryd 10-15 diwrnod i gwblhau a 2-3 wythnos

arall i sefydlogi’r compost.

• Y budd o ddefnyddio’r system hon i fathru pethau organig yw y gall brosesu

pethau organig eraill (megis papur a chardbwrdd) yn ogystal â gwastraff

cegin a gwyrdd.

• Cynhwysir y broses yn llawn mewn tanciau a phibellau ac, wrth losgi’r nwy

a grëir, mae’r broses yn dal a chael gwared ar unrhyw aroglau.

• Mae’r lle sydd ei angen ar gyfer cyfleuster anerobig yn sylweddol llai na’r

lle ar gyfer cyfleuster erobig.

• Increase in odour control

• Very short process time – therefore attractive where high throughputs are

required

• The sorting of size fractions takes place after the composting process

therefore making it easier.

• Gweithredant ar dymheredd isel (yn debyg i’r aer).

• Mae’r gwastraff yn torri i lawr yn gymharol araf o gymharu â’r broses a

drafodir uchod.

• Ynghyd â chreu compost, gall greu ffurf o brotein hefyd.

75

1.25.7 Beth fwriadwn ei wneud?

Compostio gartref

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Mae’r Cynulliad a’r Cyngor yn credu mai compostio gartref yw’r dull mwyaf cynaliadwy o

reoli gwastraff ar gael i’r preswylydd a bydd yn annog pobl i ddefnyddio compostwyr gartref

drwy:

� ddarparu cyngor i breswylwyr ar y syniad o gompostio gartref, ei fuddion i’r

preswylydd a’r gymuned ehangach;

� parhau i brynu compostwyr a’u gwerthu i breswylwyr am bris isel;

� trefnu a hybu ‘diwrnodau gwerthu’ arbennig pan fydd gwneuthuriwr compostwyr

yn ceisio gwerthu nifer fawr o gompostwyr yn uniongyrchol i’r cyhoedd.

Casgliad domestig

Dechreuodd cynllun i gasglu gwastraff gwyrdd o ymyl y ffordd ym mis Gorffennaf 2002 i

gwmpasu 6,000 o gartrefi. Rhoddwyd bin olwynion 140 litr i breswylwyr â gerddi er mwyn

storio gwastraff gwyrdd. Dan y cynllun mae’r bin yn cael ei wacáu bob pythefnos ar y cyd â’r

bin gwastraff cyffredinol. Bydd y profiad a gafwyd o’r arbrawf ac atborth preswylwyr wedi

cael eu gwerthuso a’u hystyried pan fyddwn yn paratoi manylion terfynol cynllun ar gyfer y

Fwrdeistref Sirol gyfan.

Eir â gwastraff gwyrdd i safle penodedig a drwyddedwyd i brosesu gwastraff gwyrdd i greu

compost defnyddiol. Trefnir y gwastraff i dynnu eitemau mawr a allai ddifrodi’r offer

rhwygo, rhwygir yr hyn sy’n weddill a phentyrrir ef i mewn i garfanau. Caiff y defnydd ei

droi a’i awyru i helpu gyda’r broses gompostio. Gwirir y defnydd ar ddiwedd y broses ac

asesir ansawdd y compost. Mae’r Cyngor yn annog ei gontracwyr i greu’r compost gorau ag

y gallant.

Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Mae’r Cyngor yn bwriadu i barhau â’r arfer presennol o ddarparu cynhwyswyr ar gyfer

gwastraff gwyrdd yn ei ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref a gwella’r gwasanaeth lle’n

bosibl. Bydd gweithwyr yn y canolfannau’n ceisio sicrhau bod maint a nifer y cynhwyswyr

gwastraff gwyrdd yn ddigon i gwrdd â’r galw.

Defnyddio’r Compost a Gynhyrchir

Mae’r Cyngor yn gwybod nad oes fawr o fudd mewn cynhyrchu compost os nad oes

marchnad briodol ar gyfer y cynnyrch yn weddol agos. Ystyriwyd bod tri ateb o bwys ar

gyfer compost yn y Fwrdeistref Sirol..

1. Gall y Cyngor ddefnyddio’r compost yn ei gynlluniau cynnal a chadw a thirlunio

amgylcheddol ei hun, megis parciau, gerddi a thir ysgol.

76

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

2. Gobeithia’r contractwr werthu’r compost i ddechrau yn haf/hydref 2003.

1.26 Rheoli Gwastraff Dros Ben

Hyd yn oed pe baem yn ailgylchu popeth posibl yn y llif gwastraff, byddai gennym nifer fawr

o bethau y byddai’n rhaid cael gwared arnynt. Mae hyn yn cynnwys eitemau a wneir o

ddefnyddiau lle nad oes technoleg ailbrosesu’n bodoli i ymdrin ag neu nad yw ar gael yn

hawdd. Ar adegau eraill, ni fydd yn economaidd ymarferol ailgylchu rhai defnyddiau, megis

rhai mathau o blastig a defnyddiau cyfansoddol (mwy nag un defnydd wedi eu rhoi at ei

gilydd) sydd â defnydd ailbrosesu cyfyng ac felly gwerth isel.

Nid yw cyfranogiad y cyhoedd mewn cynlluniau gwahanu (ymyl y ffordd a banciau dod) yn

gwarantu y bydd y defnydd ailgylchadwy a grëir yn rhydd o lygrwyr. Cymysgir defnyddiau

ailgylchadwy at ei gilydd fel arfer ac felly mae gofyn i waith sy’n trin y defnyddiau hyn fod

yn gallu gwahanu a threfnu difwynwyr a gwahanu’r cymysgedd yn briodol.

Yn draddodiadol, claddwyd unrhyw ddefnydd dros ben nad yw’n cael ei gompostio neu ei

ailgylchu. Golyga deddfwriaeth ac angen cynyddol am systemau mwy cynaliadwy fod angen

edrych ar dewisiadau eraill yn ofalus.

Fel a nodwyd yn yr adrannau blaenorol, mae’r Cyngor yn wynebu’r her o fodloni nifer o

dargedau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn yr 20 mlynedd nesaf. Gan dybio y byddwn yn

cyrraedd ein targedau ailgylchu a chompostio, bydd canran uchel o wastraff yn dal i fodoli.

Yn ôl targedau’r Cynulliad a Llywodraeth y DU, dylai’r Cyngor fod yn ystyried adfer gwerth

o 5-15% arall o’n gwastraff. Er mwyn cydymffurfio â gofynion y Cyfarwyddyd Claddu

Sbwriel, bydd angen trin gwastraff dros ben mewn rhyw ffordd i leihau ei gynnwys pydradwy

ymhellach.

Er budd cynaladwyedd, mae gan y Cyngor bolisi o adfer y gwerth mwyaf posibl o wastraff

cyn cael gwared arno.

1.26.1 Beth yw ein hopsiynau?

Mewn rheolaeth gwastraff fodern, mae’n hanfodol i ni edrych ar y darlun cyflawn er mwyn

llunio cynlluniau rheoli gwastraff hollol integredig ar gyfer y dyfodol:

Yn Ffigwr 6, ceir pedwar opsiwn integredig sylfaenol sydd ar gael i reolwyr gwastraff er

mwyn delio â gwastraff dinesig. Mae gan bob un ofynion technolegol gwahanol ac effeithiau

amgylcheddol ac economaidd. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ymroddedig i’r

dewis amgylcheddol ymarferol gorau ar gyfer rheoli gwastraff yn y Fwrdeistref Sirol yn y

dyfodol.

Yn yr holl opsiynau, mae lleihau gwastraff wrth y blaen a chesglir pethau ailgylchadwy sych

a pheth gwastraff y gellir ei gompostio (gwastraff gardd, mae’n debyg) o ymyl y ffordd,

canolfannau ailgylchu cymdogaethol a chanolfannau ailgylchu gwastraff y cartref.

Gobeithiwn fod y tared o adfer 30% yn y 5-10 mlynedd nesaf yn amcangyfrifiad ceidwadol a

gellid gwneud yn well os yw’r cyhoedd yn cyfranogi’n effeithlon.

� Dewis 1: Wed gwahanu gwastraff ailgylchadwy a chompostiadwy yn eu

ffynhonnell, claddir y sbwriel sydd dros ben.

77

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

� Dewis 2: Wedi ei wahanu yn ei ffynhonell, eir â’r gwastraff dros ben i ganolfan

drin sy’n tynnu rhagor o ddefnyddiau ailgylchadwy o’r gwastraff, megis metel, ac

adfer mwy drwy leihau lleithder a sefydlogi pethau organig. Claddir yr holl

sbwriel sydd dros ben wedyn.

� Dewis 3: Wedi ei wahanu yn ei ffynhonnell, defnyddir yr holl sbwriel sy’n

weddill i greu ynni. Ailgylchir elfennau o’r gwastraff nad ydynt yn llosgi, megis

metel; adferir peth i greu cymysgeddau, adferir ynni a chladdir symiau bach o’r

hyn sy’n weddill.

� Dewis 4: Wedi ei wahanu yn ei ffynhonnell, trinnir y sbwriel i dynnu’r swm uchaf

o ddefnyddiau ailgylchadwy/compostiadwy; defnyddir y gweddill i greu ynni a

chladdir swm isel iawn o’r hyn sy’n weddill.

Dengys y tabl isod y gwahanol ddewisiadau o ran bodloni targedau cenedlaethol ac

Ewropeaidd. Dylid cofio bod y cyfraddau adfer ac ailgylchu/compostio a ddefnyddir yn

amcangyfrifon ar hyn o bryd. Bydd y cyfraddau terfynol yn dibynnu ar fanylion y dewisiadau

a ddewisir, cyfansoddiad y gwastraff a lefel cyfranogiad y cyhoedd. Ar hyn o bryd, mae

hefyd yn fater dadleuol o ran pa elfennau y gellir eu dosbarthu fel elfennau

ailgylchu/compostio/adfer. Gobeithiwn y bydd hyn yn gliriach wrth i fwy o gyfarwyddyd fod

ar gael yn y dyfodol.

Tabl 0-4: Dewisiadau Rheoli Gwastraff Integredig Sylfaenol

Dewis 1 �

Targed y Strategaeth Cyfarwyddyd Claddu

Sbwriel

2006/07 2009/10 2010 2013 2020

Dewis 2 � � �

Dewis 3 � � � � �

Dewis 4 � � � � �

78

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

79

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Ffigwr 6: Dewisiadau Rheoli Gwastraff Integredig

Gan dybio cyfradd uchel o gyfranogiad gan y cyhoedd, mae’n debygol y gellid bodloni

targedau tymor byr gan yr holl ddewisiadau. Fodd bynnag, yn y tymor canolig a hir, byddai

gofyn am dechnoleg ychwanegol. Rhaid cynllunio hyn ymhell ymlaen llaw i sicrhau bod

systemau mewn lle i gyflawni’r targedau. Mae hyn yn gyson â pholisi gwastraff y Cyngor i

gymryd ymagwedd ragweithiol lle’n bosibl.

Ar gyfer pob elfen o’r system integredig, mae nifer o ddewisiadau technolegol ar gael.

Trafodwyd dewisiadau ar gyfer ailgylchu a chompostio yn yr adrannau blaenorol. Trafodir

dewisiadau ar gyfer trin a chreu ynni isod.

Trin

System Triniaeth Fiolegol Fecanyddol

I fwyhau’r buddion economaidd ac amgylcheddol o wahanu yn y ffynhonnell a lleihau maint,

cost a chymhlethdod y gwaith TFF (triniaeth fiolegol fecanyddol) sydd ei angen dylai

systemau TFF dderbyn y gweddillion sydd ar ôl wedi i’r gwaith o wahanu yn y ffynhonnell

gael ei wneud.

I ddechrau, eir â sbwriel dros ben i waith tra fecanyddol i dynnu metel, plastig a defnyddiau

eraill. Mae hyn yn mwyhau gwyriad defnyddiau ailgylchadwy, yn gwahanu’r elfennau y

gellir eu compostio ac yn sicrhau’r canlyniad glanaf posibl ar gyfer y cam nesaf.

Mae’r cam biolegol sy’n dilyn yn system gompostio mewn llestr fel arfer a fwriedir i leihau

pwysau ac atal unrhyw ddefnyddiau organig sy’n fiolegol weithredol (h.y. sefydlogi’r

gweddill). Bydd y defnyddiau a dorrir i lawr ac a gompostir nawr yn cynnwys papur a

chardbwrdd, defnyddiau gwyrdd/cegin a chynnwys organig a geir o glytiau, pecynnu,

tecstiliau, ayb.

Gostyngir pwysau’r gweddill yn fawr a sefydlogir ef. Gellir ei gladdu, a fydd yn lleihau’r risg

o gynhyrchu methan, anawsterau gyda thrwytholch a thanau ar safleoedd claddu sbwriel,

gellir ei ddefnyddio i orchuddio safle claddu sbwriel neu, os yw’r llygredd yn ddigon isel, fel

comopst ansawdd isel.

Gellir defnyddio’r system triniaeth fiolegol fecanyddol (TFF) i gynhyrchu tanwydd a geir o

sbwriel (TS).

Tanwydd a Geir o Sbwriel (TS)

Mae hyn yn cynnwys prosesu gwastraff solet dinesig cyn ei drin yn thermol. Mae hyn yn

tynnu’r elfennau nad ydynt yn llosgi megis metel a gwydr ac yn creu defnydd crai, naill ai ar

ffurf ‘clystyrau’ neu beli rhydd; mae’r ddau’n addas ar gyfer llosgi neu fathau eraill o

driniaeth thermol. Mae cynhyrchu a llosgi clystyrau neu beli ar yr un safle’n ddull rheoli

gwastraff sefydlog dramor ac mae’n dechrau ymsefydlu ei hun yn y DU.

Marchnadoedd posibl ar gyfer TS:

� gwaith ynni o wastraff;

� gorsafoedd creu pŵer eraill;

80

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

� prosesau diwydiannol eraill megis gwneud sment (odynnau tanio sment).

Traul Anerobig

Gelwir pydriad defnyddiau organig drwy facteria yn absenoldeb ocsygen (o fewn

cynhwysydd caeëdig) yn draul anerobig. Prif gynnyrch y broses hon yw nwy bio sy’n llawn

methan y gellir ei losgi fel tanwydd. Cynhyrchir defnydd treuliol hefyd y gellir ei gompostio i

greu cyflyrwr pridd.

Gellir prosesu defnyddiau fel papur a chardbwrdd ochr yn ochr â gwastraff cegin a gardd ac

mae’r costau gweithredu’n rhesymol isel.

Yn y DU, nid yw’r dechnoleg wedi ei phrofi ag unrhyw ddefnyddiau heblaw am

garthffosiaeth a charthion eraill ac mae’r broses yn creu dŵr gwastraff sy’n gallu bod yn

llawn metel, nitrogen a doddwyd a chyfansoddion organig.

Ynni o Wastraff

Mae cyfleusterau ynni o wastraff (YoW) yn cynnwys adfer ynni wrth drin gwastraff diynni.

Mae nifer o dechnolegau ar gael, rhai ohonynt yn fwy blaengar yn eu datblygiad a

gweithrediad nag eraill. Mae’r dulliau’n cynnwys:

� llosgi swmpus;

� llosgi tanwydd a geir o sbwriel (TS);

� dulliau thermol blaengar megis nwyo a llosgi;

� creu nwy drwy draul anerobig.

Mae nwyon yn cael eu cynhyrchu mewn safleoedd claddu sbwriel neu safleoedd arwynebol

diynni wrth i wastraff pydradwy bydru, er bod creu’r nwyon hyn yn debygol o ostwng wrth i

wastraff nad yw wedi ei drin cymaint yn cael ei waredu i’r tir. Trafodir rhai o’r materin sy’n

gysylltiedig ag YoW isod a disgrifir y mathau gwahanol o gyfleusterau yn Atodiad E.

Materion

Dal ynni: mae adfer ynni o’r gweithrediadau hyn yn gwrthbwyso’r angen i ddefnyddio

adnoddau ynni nad ydynt yn adewyddadwy megis tanwydd ffosiledig. Mae

effeithlonrwydd y gweithrediad o ran dal ynni’n amrywio rhwng y mathau gwahanol o

gyfleuster ac mae hefyd yn dibynnu ar natur y gwastraff. Gellir cynyddu

effeithlonrwydd y cynhyrchiant yn fawr os yw gwres yn cael ei ddal hefyd. Gall hyn roi

budd uniongyrchol i’r gymuned ar ffurf gwres lleol os yw tai neu fusnesau gerllaw.

Gollyngiadau: Mae’r mater o ollyngiadau’n codi’n aml gydag YoW; fodd bynnag,

gofynnir i gyfleusterau modern fodloni safonau gollwng caeth a arolygir ac a

ddiweddarir gan y Comisiwn Ewropeaidd. Pennir y safonau diweddaraf yn y

Cyfarwyddyd ar Losgi Gwaastraff (2000) a’r cyfarwyddyd ar derfynau gollwng

81

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

cenedlaethol ar lygwyr amgylched penodol (2001) a weithredir yn y DU drwy Ddeddf

Atal a Rheoli Llygredd 1999 (ac yn dilyn gorchmynion, rheoliadau a diwygiadau).

Mae pob gwaith YoW yn mynnu Asesiad Effaith Amgylcheddol fel rhan o’r cais

cynllunio. Mae hyn yn cynnwys asesiad risg cynhwysfawr, gan gynnwys astudiaeth

fanwl o amodau lleol, safleoedd eraill a aseswyd gan yr ymgeisydd, effeithiau

amgylcheddol tebyogl y datblygiad a mesurau lliniaru posibl i’w mabwysiadu i

wrthbwyso unrhyw effeithiau a welwyd. Bydd yr awdurdodau cynllunio gwastraff yn

ymgynghori’n agos ag Asiantaeth yr Amgylchedd ar y ceisiadau cynllunio hyn. Dylid

pwysleisio y bydd gofyn AEA ar geisiadau cynllunio gwastraffe eraill hefyd, nid

cynigion YoW yn unig.

Unwaith iddynt fod yn weithredol, bydd gofyn i’r holl gyfleusterau gadw at gyfyngiadau

gollwng caeth a bennir yn eu trwydded a gyhoeddir gan Asiantaeth yr Amgylchedd, yn

unol â Deddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 a Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru

a Lloegr) (SI 2000 Rhif 1973).

Gweddillion: Bydd pob proses YoW yn cynhyrchu gweddillion solet y bydd gofyn eu

rheoli ymhellach. Mae’n bosibl y gellir defnyddio rhai ymhellach, ar gyfer cymysgedd

ffyrdd, ond gellir dosbarthu eraill fel gwastraff peryglus sydd angen gwarediad arbennig.

Bydd natur y gweddillion a gynhyrchir yn dibynnuar ar y math o dechnoleg a ddewisir.

Claddu Sbwriel

Mae cael gwared ar wastraff yn y tir yn cael ei wneud ar safle claddu. Mae hyn yn cynnwys

llanw ‘twll yn y ddaear’ – a grëwyd wrth dynnu mwnau fel arfer – ac adferiad y twll yn y pen

draw a rhoi defnydd buddiol iddo. Mae codi tir yn golygu codi lefelau presennol y tir drwy

adael gwastraff, fel arfer ar safleoedd ‘tir glas’ ac yn aml mewn pant naturiol yn y tir. Fodd

bynnag, defnyddir y dull hwn ar adegau i adfer tir sydd wedi ei ddifwyno eisoes. Mae’r

ddau’n cyfeirio at gael gwared ar wastraff yn y tir ac, o ganlyniad, maent yn debyg o ran

effaith amgylcheddol, paratoi’r safle a’r prosesau gwaith.

Mae cael gwared ar wastraff yn y tir yn hanfodol ar gyfer y dyfodol rhagweladwy er mwyn

delio â gweddillion gwastraff na ellir ymdrin â nhw gan ddulliau eraill ymhellach i fyny’r

hierarchaeth gwastraff.

Mae goblygiadau amgylcheddol cael gwared ar wastaff fel hyn yn dibynnu i raddau mawr ar y

math o wastraff. Gall gwaredu gwastraff pydradwy heb ei drin achosi llygredd pan fo’r

gwastraff yn dechrau pydru a chynhyrchu sylweddau a allai fod yn niweidiol, megis

trwytholch a nwyon claddu. Nid yw gwaredu gwastraff anweithiol, y mwyafrif ohono’n

wastraff adeiladu a dymchwel, yn cynhyrchu cymaint o lygrwyr ac mae’n amgylcheddol llai

niweidiol. Mae safleoedd claddu’n destun trefn drwyddedu gaeth iawn a rheoleiddir nhw gan

Asiantaeth yr Amgylchedd er mwyn lleihau eu heffaith amgylcheddol. Rheoleiddir rhai

safleoedd mwy gan y Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd erbyn hyn, sy’n gorfodi rheolaeth

gaethach ar ollyngiadau.

82

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Cynhyrchir nwy gan wastraff yn bydru. Gellir dal a llosgi’r rhan fwyaf o’r nwy fel tanwydd

i’w ddefnyddio’n lleol fel gwres neu bŵer neu i gynhyrchu trydan i’w ddosbarthu i’r grid

cenedlaethol. Gall peth nwy ddianc, gan ryddhau deuocsid carbon a methan i’r awyr.

Gwyddom fod hyn yn cyfrannu at gynhesu byd-eang.

Mae claddu sbwriel yn ffordd rad o gael gwared ar wastraff. Mae’n dod yn raddol mwy drud

wrth i le fynd yn bryn, wrth i reolaeth amgylcheddol ddod yn gaethach ac wrth i dreth claddu

sbwriel barhau i godi. Dylai’r tuedd helpu i wneud dulliau eraill megis ailgylchu a

chomopstio’n fwy cost-effeithiol o’u cymharu â chladdu gwastraff.

1.26.2 Beth fwriadwn ei wneud?

Daw contract gwaredu gwastraff presennol y Cyngor i ben ar 31 Mawrth 2004. Bydd tendro

am gontract newydd yn gyfle pellach i’r Fwrdeistref Sirol godi proffil rheoli gwastraff.

Cred y Cyngor nad yw claddu sbwriel yn gynaliadwy ac mae’n awyddus i archwilio dulliau

trin eraill. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r sector preifat wedi gwneud cynnydd sylweddol

mewn datblygu dulliau amgen. Mae’r broses dendro’n caniatáu i’r Cyngor archwilio’r holl

atebion ar y farchnad a dewis yr un sydd fwyaf addas i Wrecsam.

Mae’r Cyngor yn ystyried caffael contrac tymor hir (25 mlynedd) felly ar gyfer darparu

cyfleuster rheoli gwastraff hollol integredig. Rhoddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru statws

Pathfinder i’r broses gaffael yn 1997.

Byddai’r cyfleuster yn gallu trin gwastraff cymysg ac a wahanwyd yn ei ffynhonnell a

byddai’n cynnwys man i adfer defnyddiau ailgylchadwy o’r llif gwastraff, compostio canran

uchel o’r defnydd organig yn y gwastraff a throsi’r gwastraff dros ben i belenni tanwyd cyn

claddu’r gweddill. Byddai’r peli tanwydd yn cael eu llosgi i greu ynni.

Mae’r Cyngor wedi dewis cwmni i gyflenwi’r cyfleuster ac mae trafodaethau’n mynd yn eu

blaen. Cyflwynwyd cais cynllunio ond mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dal i’w

ystyried. Trefnwyd ymchwiliad cyhoeddus i’r cais cynllunio ym mis Mehefin 2003. Fodd

bynnag, cyflwynodd y cwmni gais cynllunio diwygiedig yn cynnwys llosgi a nwyo yn lle

llosgi cyn y dyddiad dechrau. Canslwyd yr ymchwiliad cyhoeddus wedyn ac arhoswn i’r

Cynulliad archwilio’r cais cynllunio diwygiedig.

1.27 Gwastraff Domestig Arall

Mae’r Cyngor yn gyfrifol am reoli swm llai o wastraff arbenigol a gynhyrchir gan rai cartrefi

hefyd. Mae’n cynnwys:

• gwastraff peryglus;

• cyfarpar electronig a thrydanol;

• gwastraff clinigol.

Gallai’r gwastraff hwn niweidio iechyd dynol neu’r amgylchedd felly mae’n hanfodol rheoli

eu gwarediad yn gywir.

83

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

1.27.1 Beth yw ein hopsiynau a beth allwn ei wneud?

Gwastraff domestig peryglus

Dywed deddfwriaeth ddiweddar y dylid cael gwared ar wastraff peryglus mewn cyfleusterau

gwaredu trwyddedig priodol.

Gall peryglon ddeillio o nifer o gynhyrchion domestig, megis:

� batris y mae modd eu haildrydanu;

� cemegau – glanhawyr, pla-laddwyr a rhai nwyddau DIY;

� olew moduron;

� asbestos;

� nwyddau fferyllol.

Gellir cael mwy o enghreifftiau a ffynonellau o wastraff domestig peryglus ar wefan y

Fforwm Gwastraff Domestig Peryglus Cenedlaethol (http://www.nhhwf.org.uk) sy’n cynnig

rhithdaith o gwmpas tŷ ac yn nodi ffynonellau o wastraff peryglus.

Os yn bosibl, ni ddylid rhoi’r pethau hyn yn y bin sbwriel cyffredinol. Unwaith iddynt

gymysgu â’r sbwriel cyffredinol, ni fydd y Cyngor yn gallu eu gwahanu.

Yn debyg i fathau eraill o wastraff, gall y Cyngor gasglu’r math hwn o wastraff ar wahân o

ymyl y ffordd a darparu cynhwyswyr ar wahân yn y canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref.

Mae casgliad ymyl ffordd yn debygol o fod yn anymarferol a drud o ystyried yr amrywiaeth o

ddefnyddiau a’u prinder yn y llif gwastraff. Mae natur y defnyddiau hyn yn cyflwyno

materion iechyd a diogelwch posibl o ran y gweithwyr sy’n eu casglu hefyd. Mae

cyfleusterau dod yn dal i fod y dewis mwyaf ffafriol felly.

Mae’r Cyngor yn bwriadu gwella’r cyfleusterau yn ei ganolfannau ailgylchu gwastraff y

cartref a darparu cynhwyswyr ar wahân i gasglu pla-laddwyr domestig, cemegau, sylweddau,

olew, batris sych, paent a thiwbiau fflworoleuol. Bydd yn cadw unrhyw wastraff peryglus a

gludir i’r safleoedd hyn cyn cael gwared arno, neu ei ailgylchu, a defnyddio contractwr a

awdurdodir i drin defnyddiau fel hyn.

Gwastraff clinigol

Mae gwastraff clinigol yn cynnwys unrhyw wastraff sy’n cynnwys, naill ai’n rhannol neu’n

gyfan gwbl:

� cnodweoedd dynol neu anifail;

� gwaed neu hylif corff arall;

� carthion;

� cyffuriau neu nwyddau fferyllol eraill;

� swabiau neu rwymau; neu

� chwistrellau neu nodwyddau neu offerynnau miniog eraill;

84

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

� unrhyw wastraff arall sy’n deillio o arferion nyrsio, deintyddol, milfeddygol,

fferyllol neu arferion tebyg 5

Categoreiddir gwastraff clinigol yn ôl ei berygl potensial neu risg heintiad. Yn gyffredinol,

mae awdurdodau lleol yn delio â gwastraff clinigol heb fawr o berygl o heintiaid sy’n dod o

gartrefi, cartrefi nyrsio, cyfleusterau goral llai, meddygon a milfeddygon. Oherwydd y

boblogaeth sy’n heneiddio a mwy o alw am ofal yn y cartref, mae’r rhan fwyaf o awdurdodau,

gan gynnwys Wrecsam, wedi gweld cynnydd mewn gwasatraff clinigol.

Oherwydd natur y defnydd, yr unig ateb ymarferol yw casgliad ar wahân o stepen drws

trigolion. Gan fod y gwastraff yn cael ei gyflwyno mewn cynhwyswyr bach (bagiau 60 litr

neu finiau pethau miniog 0.6-1 litr), nid oes angen cerbyd casglu mawr. Gallai’r awdurdod

benderfynu ei bod yn fwy economaidd defnyddio contractwr preifat i ddarparu’r gwasanaeth

hwn.

Mae’r Cyngor yn cynnig gwasanaeth am ddim i gasglu gwastraff clinigol o gartrefi. Eir â’r

gwastraff i losgydd gwastraff clinigol ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam. Mae’r Cyngor yn

bwriadu parhau â’r gwasanaeth hwn ac mae’n hapus i dderbyn sylwadau gan gwsmeriaid o

ran sut y gellid gwella’r gwasanaeth hwn.

Cyfarpar trydanol ac electronig

Mae’r Cyngor yn gwybod bod angen darpariaeth i wahanu cyfarpar trydanol ac electronig

gwastraff yn barod ar gyfer gweithrediad y Cyfarwyddyd Cyfarpar Trydanol ac Electronig

Gwastraff ym mis Medi 2005. Ar hyn o bryd, derbynnir cyfarpar trydanol ac electronig

mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref ond ni wahanir ac ni ailgylchir y rhan fwyaf

ohono.

Cesglir oergelloedd a rhewgelloedd o ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref ac ar y

casgliad gwastraff swmpus. Cedwir nhw cyn iddynt gael eu symud i’w dinistrio yn unol â

Rheoliad y Cyngor Ewropeaidd ar Sylweddau sy’n Gwaethygu’r Oson (Ionawr 2002). Yn

ystod y broses hon, mae clorofflorocarbonau’n cael eu tynnu a’u hailbrosesu.

Mae nifer o opsiynau ar gael i’r Cyngor ar gyfer cynyddu swm y cyfarpar trydanol ac

electronig gwastraff a ailgylchir yn y Fwrdeistref Sirol ac maent yn cynnwys:

� broses well o wahanu cyfarpar trydanol ac electronig mewn canolfannau ailgylchu

gwastraff y cartref;

� darparu cynhwysydd ymyl y ffordd i gasglu cyfarpar trydanol ac electronig

gwastraff;

� gweithio gyda grŵp cymunedol lleol ar gynllun ailwampio, ailddefnyddio ac

ailgylchu cyfarpar trydanol ac electronig.

Gwerthusir y dewisiadau hyn yn ofalus cyn gwneud y dewis terfynol. Rhaid cofio bod angen

marchnad ar gyfer y defnyddiau hyn yn y pen draw. Bydd y Cyngor yn gweithio gyda

grwpiau rhanbarthol i helpu i adeiladu marchnadoedd ar gyfer y defnyddiau hyn.

5 Rheoliadau Gwastraff Rheoledig 1992

85

1.28 Gwastraff dinesig arall

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Mae nifer o fathau o wastraff, heblaw am wastraff y cartref, y mae’r Cyngor yn gyfrifol am

ddelio ag eg. Mae hyn yn cynnwys gwastraff masnachol, tipio heb ganiatâd, sbwriel a

daflwyd a cherbydau a adawyd.

Dan Adran 45 y Ddeddf Diogelwch Amgylcheddol 1990, gorfodir yr awdurdod lleol i gasglu

a chael gwared ar wastraff masnachol os yw preswylydd eiddo’n gofyn am hynny. Gall y

Cyngor godi tâl rhesymol am y gwasanaethau hyn. Mae sawl eiddo masnachol yn dewis

contractwr preifat i gasglu eu gwastraff ond mae’r Cyngor yn dal i wasanaethu mwy na 900 o

eiddo yn y Fwrdeistref Sirol.

Mae gan Wrecsam gefndir da mewn glendid strydoedd. Fodd bynnag, ceir problemau gyda

throseddwyr cyson yn tipio gwastraff yn anghyfreithlon – mae hyn yn cynnwys tipio heb

ganiatâd a gadael cerbydau.

Golyga tipio heb ganiatâd gadael gwastraff ar dir nad yw wedi ei bennu i’r pwrpas hwnnw.

Mae hon yn broblem gynyddol yn genedlaethol oherwydd y costau o waredu gwastraff yn

gyfreithlon, anwybyddiaeth a diogi cyffredinol. Y prif ffactor sy’n gyfrifol am y cynnydd

diweddar mewn ceir a adawir yw’r dirywiad mewn prisiau sgrap sy’n golygu y bydd gofyn i

lawer o berchnogion dalu i gael gwared ar eu ceir.

1.28.1 Beth yw ein hopsiynau a beth allwn ei wneud?

Cynllun Her Busnes ac Amgylchedd

Sefydlwyd hwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’n

targedu trydydd partïon sy’n helpu busnesau bach a chanolig i

wella eu perfformiad amgylcheddol.

Cynigia’r cynllun fwyafswm o £10 000 ar ôl gweld tystiolaeth o

arian cyfatebol. Gallai prosiectau gynnwys y rhai sy’n:

• codi ymwybyddiaeth busnesau o faterion

amgylcheddol;

• helpu i sicrhau bod materion amgylcheddol yn dod

yn rhan o’r agenda fusnes;

• caniatáu i gwmnïau sy’n dymuno gwella eu

perfformiad amgylcheddol gyfle i gymryd rhan

mewn prosiectau.

Mae prosiectau blaenorol a ariannwyd wedi cynnwys:

• Groundwork Cymru i alluogi’r cwmni i gynnal

cynhadledd deuddydd i fusnesau er mwyn trafod

hybu perfformiad amgylcheddol busnesau bach a

chanolig;

• Asiantaeth Ynni Abertawe’n cynhyrchu canllaw o

gyflenwyr a gosodwyr technolegau ynni effeithiol ac

ynni adnewyddadwy.

Gwastraff masnachol

Mae llawer o’r defnyddiau a geir o eiddo

masnachol yn ailgylchadwy, gan gynnwys poteli,

papur, blychau cardbwrddm paledau a phecynnu

arall.

Byddai budd sylweddol mewn cynnig casgliad ar

wahân o ddefnyddiau ailgylchadwy i eiddo

masnachol. Mae sawl ffordd o wneud hyn:

1. Cynigir yr un gwasanaeth i gwsmeriaid

masnachol ag a gynigir i breswylwyr h.y.

cynhwyswyr ar wahân ar gyfer papur,

tuniau metel a photeli plastig a bin ar gyfer

gwastraff gwyrdd, lle’n briodol. Ni fyddai

tâl ychwanegol am y gwasanaeth hwn.

2. Gallai’r Cyngor gynnig casgliad ar wahân

ar gyfer papur a chardbwrdd i’w ailgylchu.

Byddai’r cwsmer yn manteisio ar drethi

llai pe bai swm eu gwastraff yn gostwng.

3. Gallai’r Cyngor gynnig casgliad ar wahân

i dafarndai, clybiau a gwestai a chasglu gwydr cymysg i’w ailgylchu. Byddai’r

cwsmer yn manteisio ar drethi llai pe bai swm y gwastraff yn gostwng.

86

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Gellir dewis un neu bob un o’r dewisiadau hyn neu gellid dod o hyd i ateb arall. Bwriada’r

Cyngor ymgynghori â’i gwsmeriaid masnach ynghylch hyn.

Yn ogystal, mae’r Cyngor yn awyddus i annog busnesau i reoli gwastraff yn fwy cynaliadwy

a bydd yn hwyluso hyn lle’n bosibl.

Ar y cyd â thafarndai, gwestai a bwytai lleol, cychwynnodd y Cyngor ar arbrawf o gasgliad ar

wahân o wydr cymysg o eiddo a oedd yn fodlon cymryd rhan. Asesir dichonoldeb yr arbrawf

gyda golwg ar estyn y casgliad o wydr ledled y Fwrdeistref Sirol.

Cerbydau a Adawyd

Mae’r Cyngor yn cydnabod bod yn rhaid symud cerbydau a adawyd yn gyflym. Mae ganddo

bolisi ar hyn o bryd o symud cerbydau sydd wedi dod i ddiwedd eu bywyd yn rhad ac am

ddim er mwyn cael gwared ar unrhyw bwysau ariannol. Bwriada’r Cyngor barhau â’r polisi

hwn, ynghyd ag erlyn pobl sy’n gadael cerbydau, lle mae digon o dystiolaeth i wneud hyn.

Mae cerbydau a adawyd yn denu plant a gallai hyn arwain at anafiadau. Maent hefyd yn cael

eu llosgi, sy’n arwain at ryddhau gwenwynau a difwynwyr eraill i’r awyr, sy’n berygl pellach.

Dangosodd archwiliad diweddar o ystadegau fod mwy na 300 o geir yn cael eu llosgi’n

fwriadol bob blwyddyn yn ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Er mwyn taclo hyn, cymerodd y

Cyngor ran ym Menter Gostwng Llosgi Cerbydau’n Fwriadol yn 2001/02, ar y cyd â

Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru. Nod y fenter oedd symud

cerbydau cyn y gellid eu llosgi. Mae’r cydweithrediad agos hwn wedi arwain at nifer

gynyddol o gerbydau’n cael eu symud yn gyflym. Mae’r gostyngiad hwn mewn amser wedi

lleihau’r risg o fandaliaeth a llosgi bwriadol.

Taflu sbwriel a thipio heb ganiatâd

Cydnabyddir bod taflu sbwriel a thipio heb ganiatâd yn ddrwg i werth amwynderau ardal ac

yn berygl posibl. I raddau, gellir rheoli’r broblem o daflu sbwriel drwy ddarparu digon o

finiau sbwriel a chodi unrhyw sbwriel a daflwyd yn fuan. Cydnabyddodd y Llywodraeth yr

angen am safonau ar gyfer delio â sbwriel a chyhoeddodd Gôd Ymarfer ar Sbwriel dan

ddarpariaethau a gafwyd yn Neddf Diogelwch Amgylcheddol 19909. Manylodd y côd ar

amserau ymateb a safonau manwl ar gyfer delio â sbwriel mewn mannau gwahanol.

Yn debyg i’r broblem o daflu sbwriel, gellir rheoli tipio heb ganiatâd i raddau drwy gael

gwared arno’n gyflym. Yr athroniaeth sylfaenol yw bod peidio â symud sbwriel a adawyd

heb ganiatâd yn arwain eraill i feddwl bod hyn yn dderbyniol yn y lleoliad hwnnw, ac felly

annog mwy o sbwriel.

Mae’r Cyngor yn cydnabod y gellir cael gwelliannau sylweddol dim ond drwy newid agwedd

y cyhoedd. Yn y tymor hir, rhaid i’r cyhoedd ystyried bod taflu sbwriel a thipio heb ganiatâd

yn gymdeithasol annerbyniol. Gwelir cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r problemau o

sbwriel a thipio heb ganiatâd a gweithrediadau gorfodi llymach yn erbyn troseddwyr fel

camau i’w cymryd yn y tymor byr i helpu i ddelio â’r broblem.

Mae’r Cyngor wedi cyflogi pedwar swyddog addysg ac ailgylchu sy’n codi ymwybyddiaeth y

cyhoedd o’r problemau sy’n codi pan na ymdrinnir â gwastraff yn gywir.

87

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Er mwyn cynyddu effeithlonrwydd ei rôl gorfodaeth amgylcheddol, mae’r Cyngor wedi

penodi dau warden cymunedol/swyddog gorfodi a fydd yn casglu tystiolaeth er mwyn

galluogi’r Cyngor i erlyn pobl sy’n taflu sbwriel neu sy’n tipio heb ganiatâd.

Bwriada’r Cyngor ymgynghori â’r cyhoedd ynghylch oriau agor ei ganolfannau ailgylchu

gwastraff y cartref er mwyn gweld a oes modd eu gwella o fewn cyfyngiadau ariannol

cyfredol. Y nod yw sicrhau eu bod ar agor pan fo mwyafrif y cyhoedd yn dymuno eu

defnyddio.

Mae’r Cyngor yn bwriadu sicrhau yr hysbysebir y mesurau uchod yn llawn er mwyn cynyddu

eu heffeithiolrwydd.

Gellir cael manylion pellach am gynlluniau’r Cyngor o ran rheoli sbwriel yn y Cynllun

Sbwriel yn Adran 11.

Crynodeb – Beth ydym yn ei wneud a beth fyddwn yn ei wneud?

Cafwyd y dewisiadau a awgrymwyd yn Adran 5 i gyflawni nodau Wrecsam o enghreifftiau o

arfer gorau ledled y DU ac o ffynonellau gwybodaeth y gellir eu gweld yn y cyfeiriadau yn Adran

12.

Amlinellir crynodeb isod:

� Cyflogi dau swyddog addysg ailgylchu i hybu lleihau gwastraff, ac ailgylchu a

chompostio yn y Fwrdeistref Sirol;

� Darparu biniau compost i unrhyw un sy’n gofyn amdanynt.

� Mwyhau cyfleustra i breswylwyr drwy ddarparu gwasanaeth casglu o ymyl y ffordd.

� Dechreuodd arbrawf ym mis Gorffennaf 2002 lle casglwyd defnyddiau ailgylchadwy

a gwastraff gwyrdd am yr ail wythnos i’r gwastraff arferol. Estynnir y cynllun ledled

y Fwrdeistref Sirol yn y 5 mlynedd nesaf, yn amodol ar gymeradwyaeth aelodau a

chyllid.

� Un ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref newydd yn y Fwrdeistref Sirol yn ystod y 5

blynedd nesaf i gynnig cyfle i ailgylchu llawer o wastraff y cartref a darparu

cyfleusterau casglu ar gyfer gwastraff domestig peryglus. Disgwylir canolfan bellach

yn y dyfodol.

� 30 canolfan ailgylchu cymdogaethol ledled y Fwrdeistref Sirol i gynnig cyfleusterau

ailgylchu cyfleus.

� Adfer mwy o wastraff sy’n weddill yn unol â hierarchaeth gwastraff Llywodraeth

Cynulliad Cymru.

88

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

PERI IDDO DDIGWYDD

Er mwyn gweithredu’r Strategaeth Gwastraff Dinesig Integrdig hwn yn effeithiol, rhaid i’r

Cyngor ystyried yr elfennau sy’n hanfodol er mwyn iddo ddigwydd. Mae’r rhain yn

cynnwys:

� codi ymwybyddiaeth y boblogaeth o faterion gwastraff a’r hyn allant ei wneud i

helpu i adeiladu dyfodol cynaliadwy;

� asesu’r isadeiledd sydd ar gael o ran yr hyn fydd ei angen yn y dyfodol a sut mae

hyn yn cydweddu â Chynllun Datblygu Unedol y Cyngor a Chynllun Gwastraff

Rhanbarthol Gogledd Cymru;

� asesu’r cyllid sydd ar gael a sut y gallwn gael mwy o gyllid;

� sefydlu cynlluniau ailgylchu a sbwriel statudol.

YMWYBYDDIAETH O WASTRAFF

Mae ymwybyddiaeth amgylcheddol yn y Fwrdeistref Sirol wedi mynd o nerth i nerth yn y 10

mlynedd ddiwethaf. Mae’r Cyngor wedi ymgymryd â’r her o fodloni a mynd tu hwnt i

dargedau cenedlaethol drwy ystyried a gweithredu cyfres o fentrau ymwybyddiaeth.

Y cyhoedd yw’r prif fudd-ddeiliaid o ran llwyddiant mentrau Strategaeth Gwastraff Wrecsam;

heb eu cefnogaeth a’u cyfranogiad, ni all a ni fydd cynlluniau’n llwyddo.

Mae’n rhesymol tybio nad yw’r cyhoedd yn gyffredinol yn meddwl am reoli gwastraff yn

gyson ac mae’n annhebygol y bydd y rhan fwyaf yn ystyried effaith eu gwastraff ar yr

amgylchedd. Drwy ymgyrchoedd amgylcheddol a sylw yn y cyfryngau’n ddiweddar, mae’r

cyhoedd yn dechrau bod yn fwy ymwybodol o’r problemau ond mae gofyn i’r Cyngor

ddatblygu hyn a chysylltu’r darlun byd-eang i sefyllfa’r Fwrdeistref Sirol.

Mae’r ymgyrchoedd addysg mwyaf llwyddiannus yn darparu cydbwysedd rhwng dosbarthu

gwybodaeth i’r cyhoedd, gofyn am gyngor a rhoi atborth. Dangosodd astudiaethau diweddar

y dylai gwybodaeth fod yn gryno, yn syml a chyfeirio at gyd-destun y cynllun o fewn y

materion ehangach o reolaeth amgylcheddol a gwastraff yn lleol a chenedlaethol. O’r

dechrau, dylid gofyn am farn y cyhoedd, er mwyn rhoi ymdeimlad o berchnogaeth iddynt.

Dylid rhoi atborth rheolaidd ar ffurf newyddlenni neu erthyglau rheolaidd yn y wasg. Mae

hyn yn bwysig o ran cynnal y momentwm drwy gyflwyno canlyniadau lleol, a dylid

cyflwyno’r rhain mewn cyd-destun cenedlaethol, lle’n bosibl.

1.29 Ymgyrchoedd Cenedlaethol

Yn y Strategaeth Gwastraff i Gymru, amlinellodd y Cynulliad y prif nodau ar gyfer rhaglen

addysg am wastraff:

� newid ymddygiad cwsmeriaid a gwneuthurwyr gyda’r nod o symud i ffwrdd o

gymdeithas sy’n taflu pethau i ffwrdd;

89

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

� cynyddu ymwybyddiaeth o’r cynhyrchydd gwastraff (e.e. beth sy’n digwydd i

wastraff ar ôl iddo gael ei roi yn y bin);

� cynyddu cyfranogiad mewn mentrau lleihau gwastraff (e.e. cynlluniau ailgylchu);

� newid barn (e.e. rhoi effaith amgylcheddol cyfleusterau rheoli gwastraff mewn

cyd-destun â datblygiadau eraill);

� gweld gwastraff fel adnodd gwerthfawr.

Mae sawl menter ledled y DU a gefnogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r rhain yn

cynnwys y Fenter Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Wastraff (NWAI), sefydliad a sefydlwyd

gan lywodraeth y DU i annog y cyhoedd i fabwysiadu agwedd fwy cyfrifol tuag at wastraff a

delio ag ef mewn ffordd sy’n fwy cynaliadwy. Mae Waste Watch yn cyflawni gwaith

rheoli/ysgrifenyddol ar gyfer NWAI yng Nghymru a Lloegr. Mae’n gweithio gyda grwpiau

cymunedol, awdurdodau lleol a diwydiannau i addysgu, hysbysu a chodi ymwybyddiaeth o

leihau gwastraff, ailddefnyddio ac ailgylchu.

Ymwybyddiaeth o Wastraff Cymru

Mewn crynodeb o’r Strategaeth Gwastraff i Gymru, nodir gwastraff fel y broblem

amgylcheddol bwysicaf yn wynebu Cymru heddiw. Mae Ymwybyddiaeth o Wastraff

Cymru’n fenter sy’n dod o’r NWAI. Noddir hi gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a

Chadwch Gymru’n Daclus ac ariannir hi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Lansiwyd y

rhaglen yn swyddogol ym mis Chwefror 2003 a chyfeirir hi at bob sector o’r gymuned a bydd

yn annog pobl i gymryd rhan. Amcanion penodol y prosiect yw:

� Annog pobl i feddwl a gweithredu’n wahanol o ran cynhyrchu gwastraff a’i reoli.

� Hybu perchnogaeth a chyfrifoldeb am wastraff drwy ganolbwyntio ar fuddion

lleihau gwastraff, ailddefnyddio, ailgylchu, compostio a phrynu cynnyrch

ailgylchedig.

� Datblygu gweithgareddau, negeseuon a phrosiectau sy’n helpu ac sy’n cydweddu

ymgyrchoedd a gwasanaethau lleol.

� Cefnogi gwaith sefydliadau eraill sydd â nodau tebyg.

Mae manwerthwyr, y diwydiant gwastraff, y cyfryngau, y maes academaidd, llywodraeth leol

a chanolog a sefydliadau nad ydynt yn rhan o’r llywodraeth yn cefnogi Ymwybyddiaeth o

Wastraff Cymru. Sefydlwyd cysylltiadau â sefydliadau tebyg yn Yr Alban a Gogledd

Iwerddon hefyd.

Mae “Rethink Rubbish,” ymgyrch y DU i hybu llai o wastraff, ailgylchu ac ailddefnyddio’n

gysylltiedig i Ymwybyddiaeth o Wastraff Cymru. Mae’n rhan o’r NWAI sydd â’r un

amcanion ag Ymwybyddiaeth o Wastraff Cymru.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn awyddus i ddefnyddio cyhoeddusrwydd

cenedlaethol lle’n bosibl a lle mae’n debygol o ychwanegu gwerth at ymgyrchoedd lleol.

90

1.29.1 Eco-Ysgolion

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Mae’r rhaglen eco-ysgolion yn gynllun Ewropeaidd a gynlluniwyd i arwain disgyblion i

ddysgu mwy am eu hamgylchedd. Mae’n gysylltiedig â’r Cwricwlwm Cenedlaethol;

lluniwyd y pynciau blynyddol er mwyn eu cwblhau yn y flwyddyn academaidd. Mae’r ysgol

gyfan yn rhan ohoni, disgyblion, athrawon, staff ategol a rhieni.

Mae’r rhaglen yn cynnwys astudio yn y dosbarth ynghyd ag ymarferion ymarferol gyda’r

myfyrwyr yn creu system rheolaeth amgylcheddol yn yr ysgol. Mae’n cwmpasu ynni, dŵr, tir

ysgol, lleihau ac adfer gwastraff, cludiant a byw’n iach. Mae prosiectau’n cynnwys

archwiliadau gwastraff, cynlluniau lleihau gwastraff a mentrau ailgylchu.

Archwilir cyflawniadau’r ysgol a rhoddir Baner Werdd iddi os yw’r archwilwyr yn fodlon y

diwallwyd yr holl feini prawf gofynnol, sy’n safon debyg i’r ISO 14001 ar gyfer busnesau.

Rhoddwyd y Faner Werdd i sawl ysgol yn y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys Ysgol Sant

Christopher, a ddefnyddir fel model i ysgolion eraill sy’n cofrestru ar gyfer y rhaglen ecoysgolion.

Mae grantiau bach ar gael nawr i helpu ysgolion wneud gwir argraff ar wastraff: gall ysgolion

ymgeisio am nwyddau i helpu lleihau gwastraff, megis biniau compost a rhwygwyr papur,

neu gallant ymgeisio am gyllid ar gyfer syniadau mwy dyfeisgar.

EnCams

Mae’r Cyngor wedi ail-ymuno ag EnCams (Environmental Campaigns limited), y rhaglen

Pobl a Lleoedd. Mae EnCams yn elusen a noddir gan y Llywodraeth sy’n rhedeg yr ymgyrch

Cadwch Brydain yn Daclus a Going for Green.

Mae gan y rhaglen Pobl a Lleoedd fwy na 130 o sefydliadau partner. Awdurdodau lleol yw’r

rhain yn bennaf, ond mae hefyd yn cynnwys cyrff preifat a chyrff sy’n gyfrifol am dir y mae

gan y cyhoedd fynediad iddo, megis Railtrack a Dyfrffyrdd Prydain.

Datblygwyd y rhaglen o brosiectau arbrofol helaeth EnCams a wnaed yn y 1980au hwyr.

Targedodd y prosiectau hyn ardaloedd lle ystyriwyd sbwriel yn broblem ac archwiliodd

ffyrdd o ymdrin ag ef. Datblygwyd ymagwedd systematig wedyn yn seiliedig ar elfennau

gwreiddiol y darn ymgynghorol a gafwyd yn y Côd Ymarfer ar Sbwriel. Mae’n galluogi

darpariaeth dull cyflawni ar gyfer ansawdd amgylcheddol lleol gwell drwy:

� werthuso

� datblygu

� gweithredu

� gorfodi

� addysg

Mae elfennau allweddol yn cynnwys bwletinau gwybodaeth rheolaidd, y newyddlen, y

gynhadledd flynyddol a gwobrau.

91

1.30 Ymgyrchoedd Lleol

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Er mwyn codi ymwybyddiaeth o wastraff yn y Fwrdeistref Sirol ac annog pobl i gymryd rhan

yn ein mentrau, mae’r Cyngor yn buddsoddi mewn rhaglen addysg gynhwysfawr. Bydd hyn

yn rhoi cefnogaeth a hyrwyddiad i fentrau lleihau gwastraff ac ailgylchu ynghyd â chefnogi

rheolaeth gynaliadwy yn y Fwrdeistref Sirol.

1.30.1 Swyddogion Addysg

Mae’r Cyngor wedi cyflogi dau swyddog addysg/ailgylchu a fydd yn canolbwyntio ar godi

ymwybyddiaeth o wastraff a chynnig cyswllt rhwng y cyhoedd a’r Cyngor wrth weithredu’r

strategaeth hon.

� Byddant yn fan cyswllt wrth ymgynghori’n gyhoeddus ar y ddogfen hon.

� Maent wedi cynorthwyo â hybu’r cynllun ymyl y ffordd arbrofol ac maent yn rhoi

cefnogaeth a chyngor i’r cyhoedd.

� Maent yn hybu’r defnydd o ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref a

chanolfannau ailgylchu cymdogaethol.

Yn fwy cyffredinol, byddant yn ystyried darparu cyngor a chyfarwyddyd i breswylwyr a

phlant ysgol ar y materion canlynol:

� Cynaladwyedd a rheoli gwastraff;

� Lleihau gwastraff;

� Compostio gartref;

� Y targedau y mae’n rhaid i’r Cyngor eu bodloni er mwyn cydymffurfio â

deddfwriaeth ryngwladol a chenedlaethol;

� Sut all preswylwyr helpu’r Cyngor yn ei ymdrechion i gwrdd â’r targedau hyn;

� Y problemau sy’n codi pan nad yw gwastraff yn cael ei drin yn gywir, er

enghraifft, sbwriel a thipio heb ganiatâd.

Bodlonir y nodau uchod drwy:

� baratoi a dosbarthu cyngor a gwybodaeth i breswylwyr ar ffurf taflenni,

arddangosfeydd ac erthyglau yn y wasg leol;

� cyflwyniadau i rai â diddordeb, gan gynnwys cynghorau cymunedol, plant ysgol,

clybiau a chyrff eraill;

� cael atborth gan breswylwyr ynghylch eu canfyddiadau o faterion gwastraff, gan

gynnwys lleihau, ailgylchu a chompostio, ynghyd ag awgrymiadau i wella’r

gwasanaeth.

92

1.30.2 Ailgylchu gyda Michael!

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Dengys ymchwil fod rhoi enw neu frand ar gynnyrch neu wasanaeth wrth wraidd ei

lwyddiant. Mae’r brandiau mwyaf llwyddiannus y rhai y gall y cwsmer eu deall ac sy’n

hawdd eu cofio.

Tendrodd y Cyngor am wasanaethau

ymgynghorydd hysbysebu i roi brand i

wasanaethau rheoli gwastraff yn Wrecsam. Bu

i’r ymgynghorydd llwyddiannus greu

‘Ailgylchu gyda Michael’. Dewiswyd y

cymeriad gan fod y Cyngor yn teimlo bod y

cysyniad yn ddymunol i bobl o bob oed. Mae

Michael ynr han annatod o’r cynllun ymyl y

ffordd ac, os bydd yn llwyddiannus, bydd yn

cael ei ddefnyddio ledled y Fwrdeistref Sirol ar

ddefnydd hybu a hysbysebion.

1.30.3 Gorfodaeth

Er y byddai’n well gan y Cyngor hybu addysg am wastraff mewn ffordd ragweithiol, mae’n

sylweddoli y bydd rhan o’r gymuned a fydd yn parhau i weithredu’n anghyfrifol o ran rheoli

gwastraff.

Dylid cosbi’r rhai sy’n parhau i dipio gwastraff yn anghyfreithlon, gadael cerbydau, taflu

sbwriel a gadael i’w cŵn faeddu. Mae’r Cyngor yn ymroddedig i helpu i wneud Wrecsam yn

lle glân a dymuno i fyw ynddo ac ni fydd yn goddef unrhyw un o’r gweithgareddau uchod.

Yn y gorffennol, mae’r Cyngor wedi erlyn nifer o droseddwyr yn llwyddiannus ond mae

cannodd o achosion heb eu datrys. Mewn ymdrech i unioni hyn ac atal troseddwyr, mae’r

Cyngor wedi penodi dau warden cymunedol/swyddog gorfodi a fydd yn gyfrifol am orfodi

polisi’r Cyngor a chefnogi’r heddlu ac Asiantaeth yr Amgylchedd wrth atal gweithgareddau

gwastraff anghyfreithlon.

93

1.31 Cynllun Gweithredu

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Mae’r Cyngor wedi llunio cynllun gweithredu sy’n manylu ar y mentrau i’w gweithredu ar y

cyd â gweithredu’r strategaeth hon.

Ffigwr 7: Cynllun Gweithredu Gwastraff

Blaengaredd Gwnaed yn

2003/04

Dau swyddog addysg ailgylchu i hybu rheolaeth gynaliadwy o wastraff.

Dau warden cymunedol/swyddog gorfodi i gynorthwyo â dyletswyddau

gorfodi, gan gynnwys cael tystiolaeth er mwyn erlyn pobl sy’n taflu

sbwriel a thipio heb ganiatâd.

Cynnal cyswllt â mentrau ymwybyddiaeth gwastraff rhanbarthol,

cenedlaethol a rhyngwladol eraill. ●

Blaengaredd Gwnaed yn

2003/04

Canolfannau ailgylchu cymdogaethol: hyrwyddo m wy o safleoedd.

Ymgynghori â’r cyhoedd ar faterion rheoli gwastraff.

Darparu adeilad ar gyfer casglu defnyddiau ailgylchadwy sych a gesglir

cyn eu cludo i fasnachwyr ailgylchu. ●

Darparu canolfan ailgylchu gwastraff y cartref newydd gyda gwell

ddarpariaeth ar gyfer defnyddiau ailgylchadwy. ●

Lansio’r Strategaeth Rheoli Gwastraff Integredig.

94

Bwriedir ar

gyfer 2004/05

Bwriedir ar

gyfer 2004/05

Casgliad ymyl y ffordd o ddefnyddiau ailgylchadwy sych – estyn y

cynllun yn raddol. ●

Bwriedir ar

gyfer 2005/06

Bwriedir ar

gyfer 2005/06

Bwriedir ar

gyfer 2006/07

Bwriedir ar

gyfer 2006/07

Isadeiledd

1.32 Yr angen am gyfleusterau newydd

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Y prif hwb tu ôl i’r Strategaeth Rheoli Gwastraff Integredig hon yw annog symud tuag at

reolaeth fwy cynaliadwy o wastraff yn y Fwrdeistref Sirol. Yn hanesyddol, mae’r ardal wedi

gweld twf sylweddol mewn gwastraff ac mae wedi dibynnu ar gladdu sbwriel. Yn y

blynyddoedd diwethaf, mae’r Cyngor wedi gweld gwelliant yn y cyfraddau ailgylchu ond

rhaid i hyn gyflymu tipyn er mwyn cwrdd â thargedau cenedlaethol.

Er mwyn cynyddu cyfraddau ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio yn y Fwrdeistref Sirol,

rhaid cyflwyno systemau rheoli gwastraff newydd ynghyd ag isadeiledd i’w cefnogi.

Mae’r Cyngor wedi nodi angen am gyfleusterau newydd i helpu preswylwyr i ailgylchu eu

gwastraff. Rhaid i gyfleusterau fod yn hawdd i’w defnyddio ac mewn man cyfleus yn y

gymuned.

Unwaith mae defnyddiau ailgylchadwy’n cael eu casglu, mae angen eu trefnu a’u cydosod i

raddau cyn iddynt gael eu cludo i’w hailbrosesu. Nid oes gan y Cyngor gyfleuster priodol ar

hyn o bryd ac mae’n cydnabod bod angen cyfleuster adfer defnyddiau yn y Fwrdeistref Sirol.

Ar gyfer y casgliad ymyl ffordd, cludir defnyddiau i Gaer, Shotton a St Helens i’w prosesu.

Nid yw’r Cyngor yn ystyried bod hon yn ffordd gynaliadwy gan ei bod yn groes i’r egwyddor

o agosrwydd a’r dewis amgylcheddol ymarferol gorau.

Mae’n rhaid i’r Cyngor fodloni targedau compostio anodd hefyd a fydd yn gofyn am brosesu

swm sylweddol o ddefnyddiau organig yn lleol. Nid oes modd i gyfleusterau compostio’r

Fwrdeistref Sirol drin â’r symiau hyn ac mae angen cryn dipyn mwy o allu. Byddai raid

darparu hyn ar safle newydd.

Mae’r Cyngor wedi cydnabod yr angen i archwilio opsiynau heblaw am gladdu sbwriel sy’n

weddill hefyd.

1.32.1 Llywodraeth Cynulliad Cymru

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi nodi amcangyfrifon o ofynion cyfleusterau rheoli

gwastraff dinesig Cymru er mwyn cyrraedd targedau ailgylchu/compostio’r Cyfarwyddyd

Claddu Sbwriel o 40% o 2010 ymlaen. Gellir gweld y rhain yn Nhabl 4; mae’r ystod a roddir

ar gyfer cyfraddau twf o 0% a 3%.

95

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Tabl 4: Gofynion cyfleusterau rheoli gwastraff dinesig yng Nghymru

Math o Gyfleuster

96

Gofynion ar gyfer bob blwyddyn

(1000 tunnell)

2010 2013 2020

A. Ailgylchu defnyddiau 406-561 406-613 406-754

B. Compostio 243-337 243-368 243-453

C. Ynni o wastraff* 60 60 60

D. Cyfleusterau eraill i fodloni’r Cyfarwyddyd Claddu Sbwriel os nad yw’r

targedau ailgylchu/compostio’n mynd y tu hwnt i 40%

E. Cyfleusterau’n ychwanegol i C a D i reoli gwastraff sy’n weddill e.e.

claddu, ynni o wastraff

0 123-594 334-1125

913-1287 790-818 579-625

* Cynrychiola hyn y cyfleuster yn Crymlyn Burrows ger Abertawe

Ffynhonnell – “Callio am Wastraff – Strategaeth Genedlaethol i Gymru”, Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2002

1.33 Cynllunio ar gyfer cyfleusterau newydd

1.33.1 Canolfannau ailgylchu cymdogaethol

Er mwyn estyn yr ystod o gyfleoedd ailgylchu ar gael i’r preswylydd, dymuna’r Cyngor

ddarparu 16 o ganolfannau ailgylchu cymdogaethol eraill (tu hwnt i’r 14 a adeiladwyd yn

2002/03). Bydd y swyddogion addysg ailgylchu’n gweithio gyda chymunedau lleol i ddod o

hyd i fannau priodol i’r cyfleusterau ailgylchu.

1.33.2 Canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref

Mae’r Awdurdod wedi ailfodedlu darpariaeth canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref a

gynlluniwyd i hwyluso rheolaeth fwy cynaliadwy o wastraff a chynnig mynediad mwy

cyfleus i breswylwyr.

Lle’n bosibl, bydd y canolfannau newydd yn hawdd eu cyrraedd ac i ffwrdd o fannau sy’n

denu llawer o draffig. Bydd digon o le i barcio a dadlwytho ac i drin defnyddiau. Archwilir a

diwygir oriau agor er mwyn ymdrin â gofynion y cyhoedd.

Bydd gan bob ganolfan ystod fwy o gynhwyswyr i hwyluso gwahanu gwastraf i’w ailgylchu.

Darperir cynhwyswyr arbennig i gadw gwastraff domestig peryglus hefyd.

Bwriada’r Cyngor ymchwilio i’r posibilrwydd o ddarparu man i wahanu defnyddiau y gellir

eu hailddefnyddio; gallai gynnwys pren, nwyddau DIY, dodrefn a nwyddau gwyn. Mae rhai

awdurdodau lleol yn gweithredu cynlluniau lle gall y cyhoedd symud nwyddau am ffi isel,

mae eraill yn gweithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol lleol sy’n dosbarthu nwyddau

i aelodau anghenus yn y gymuned neu’n ailwampio nwyddau i’w hail-werthu.

1.33.3 Trin a Chael Gwared ar Wastraff

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Nid yw’n ymarferol na’n economaidd bosibl i ailgylchu neu gompostio ein holl wastraff:

pwysleisia adran 5 y ddogfen hon yr angen am ddewisiadau eraill i drin a chael gwared ar y

gwastraff sy’n weddill. Mae sawl dewis am gyfleusterau i drin a chael gwared ar wastraff

sy’n weddill; ar hyn o bryd, nid oes cyfleusterau tebyg yn y Fwrdeistref Sirol – nac yng

Ngogledd Cymru.

Fel a drafodir yn Adran 5, rydym wedi cyrraedd cyfnod o drafodaeth gyda chwmni rheoli

gwastraff yn y sector preifat sy’n bwriadu adeiladu cyfleuster integredig yn y Fwrdeistref.

Mae’r cwmni’n trafod math a maint y cyfleuster gyda’r awdurdod cynllunio a’r Cynulliad ar

hyn o bryd.

1.34 Rheoleiddio a chyfleusterau gwastraff

Gofynnir i unrhyw un sy’n cadw, trin neu gael gwared ar wastraff ar dir ddal trwydded neu

ddal trwydded atal a rheoli llygredd a chael caniatâd cynllunio i gyflawni’r gweithgareddau

hyn ar y safle. Ni phrosesir cais am drwyddedau rheoli gwastraff na rheoli ac atal llygredd

heb y caniatâd cynllunio perthnasol.

Ni awdurdodir caniatâd cynllunio oni bai yr ystyried bod y datblygiad yn briodol i’r ardal a’r

safle’n addas ar gyfer y gweithgaredd arfaethedig. Seilir penderfyniadau cynllunio ar bolisïau

a amlinellir mewn cyfarwyddyd cynllunio cenedlaethol, y Cynllun Gwastraff Rhanbarth a’r

Cynllun Datblygu Unedol (gweler Adran 7.4).

Daeth y drefn trwyddedu rheolaeth gwastraff gyfredol yn gyfreithiol dan Ddeddf Diogelwch

Amgylcheddol 1990 a gweithredir hi gan Reoliadau Trwyddedau Rheolaeth Gwastraff 1994.

Dywed y rheoliadau na fydd gwastraff yn cael ei gadw, ei drin na’i waredu mewn ffordd a

fydd yn achosi llygredd i’r amgylchedd, yn niweidio iechyd pethau byw neu’n tarfu ar

systemau ecolegol y maent yn rhan ohonynt ac, yn achos iechyd dynol, na fydd yn niweidio

synhwyrau nac eiddo nac yn niweidio iechyd dynol. Trwyddedir cyfleusterau a rheoleiddir

amodau trwyddedu gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Mewn ymateb i’r Cyfarwyddyd CE 96/61 ar Atal a Rheoli Llygredd, daeth y Ddeddf Atal a

Rheoli Llygredd yn gyfreithiol yn y DU yn 1999; gweithredir y ddeddf hon gan y Rheoliadau

Atal a Rheoli Llygredd (2000). Maent yn gymwys i weithgareddau rheoli gwastraff penodol

megis safleoedd claddu o faint penodol a chyfleusterau sy’n ymwneud â phrosesu llosgi.

Gofynnir i’r cyfleusterau hyn gael trwyddedau atal a rheoli llygredd arbennig.

Mae gan y trwyddedau hyn broses ymgeisio fwy cymhleth ac mae’r amodau’n gaethach na

thrwyddedau rheoli gwastraff o ran gollyngiadau i’r awyr, dŵr a’r tir ac maent yn cael eu

monitro’n ofalus er mwyn cadw at derfynau penodol. Unwaith eto, Asiantaeth yr

Amgylchedd sy’n gyfrifol am reoleiddio gweithgareddau.

1.35 Perthynas â’r Cynllun Datblygu Unedol

Arweinir polisïau gwastraff yng Nghymru gan y dogfennau canlynol o Lywodraeth Cynulliad

Cymru, y Strategaeth Gwastraff i Gymru, Polisi Cynllunio Cymru (Mawrth 2000) a Nodyn

Technegol 21 Gwastraff (Tachwedd 2001).

97

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Mae cyfarwyddyd cyfredol yn pwysleisio’r angen am benderfyniadau rheoli gwastraff i

ystyried:

� cynaladwyedd

� yr hierarchaeth gwastraff

� yr egwyddor agosrwydd

� hunanddigonedd rhanbarthol

� y dewis amgylcheddol ymarferol gorau (dewis rheolaeth gynaliadwy o wastraff)

Trafodir yr egwyddorion hyn yn fanylach yn Adran 3.5.

Mae Wrecsam yn rhan o grŵp rhanbarthol awdurdodau lleol Gogledd Cymru fel a ddiffinnir

gan TAN 21 at ddibenion cynllunio gwastraff. Roedd y Cynulliad yn disgwyl i’r tri grŵp

gwastraff rhanbarthol gynhyrchu cynlluniau gwastraff rhanbarthol erbyn Tachwedd 2003. Ar

ôl cymeradwyaeth y Cynulliad, bydd y cynlluniau rhanbarthol yn cael eu rhoi i awdurdodau

lleol unigol i’w cynnwys yn eu cynllun datblygu unedol.

Mae gan awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru nod statudol i ddarparu ar gyfer sefydlu

rhwydwaith integredig a digonol o osodiadau cael gwared ar wastraff. Mae cyfarwyddyd

presennol yn diwygio hyn i rwydwaith o gyfleusterau rheoli gwastraff.

Bydd cynlluniau gwastraff rhanbarthol yn asesu’r angen am fedr rheoli gwastraff newydd ar

sail ranbarthol a disgwylir i awdurdodau cynllunio lleol gytuno ar ddyrannu’r medr newydd

hwnnw i bob awdurdod unigol.

Adlewyrcha’r cynllun datblygu presennol y ddibyniaeth hanesyddol ar gladdu sbwriel. Mae

bron i holl wastraff y Fwrdeistref Sirol yn cael ei gladdu. Mae’r cyfarwyddyd cenedlaethol

newydd yn mynnu symud i ffwrdd o’r dull hwn a’r dull o losgi, tuag at leihau gwastraff ac

adfer gwerth o wastraff drwy ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu driniaeth arall, gan gynnwys

adfer ynni. Mae datblygu cyfleusterau rheoli gwastraff newydd yn rhan annatod o’r

strategaeth hon.

Gofynnir i’r Cyngor fel awdurdod cynllunio gwastraff i sicrhau yr adferir neu y gwaredir

gwastraff heb beryglu iechyd dynol a heb ddefnyddio prosesau neu ddulliau a allai niweidio’r

amgylchedd. Yn benodol, ni ddylai beryglu dŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid nac

achosi niwsans oherwydd sŵn neu aroglau nac effeithio ar gefn gwlad neu leoedd o

ddiddordeb arbennig.

1.36 Cludo gwastraff

Cludir yr holl wastraff a gesglir gan y Cyngor ar y ffordd gan nad oes digon o isadeiledd i allu

cludo mewn unrhyw ffordd arall. Ystyrir teithiau cerbydau casglu sbwriel a’r pellter rhwng

lleoliad y casgliad a’r man gwaredu’n ofalus er mwyn sicrhau pellter teithio lleiaf. Cesglir a

gwaredir sbwriel mor agos â phosibl i ethos yr egwyddor agosrwydd sy’n datgan y dylid cael

gwared ar wastraff mor agos â phosibl i’r man y cynhyrchir ef.

Mae cludo defnyddiau ailgylchadwy i’w hailbrosesu’n achosi mwy o broblem gan nad oes

llawer o gyfleusterau ailbrosesu yng Ngogledd Cymru. Nid yw hyn yn gynaliadwy gan fod y

defnyddiau’n cael eu cludo’n bell, sy’n negyddu effeithiau amgylcheddol positif ailgylchu.

98

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Bydd cyfleuster trefnu a storio yn ardal Wrecsam (yn debyg i’r un sy’n cael ei gynllunio) yn

gostwng pellterau cludo’n sylweddol.

Bydd y Cyngor yn ymdrechu i ddod o hyd i farchnadoedd i ddefnyddiau’n lleol. Lle nad yw

hyn yn bosibl, bydd yn chwilio am ddull mwy cynaliadwy o gludo.

99

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella (Gwerth Gorau)

Gwerth gorau yw’r term cyffredinol sy’n cwmpasu canllawiau statudol y Llywodraeth ar

gyfer moderneiddio’r ffordd y rheolir ac y darperir gwasanaethau lleol. Mae’r Llywodraeth

wedi diffinio gwerth gorau fel ‘dyletswydd i ddarparu gwasanaethau i safonau clir – gan

gynnwys cost ac ansawdd – yn y ffordd fwyaf economaidd, effeithlon ac effeithiol bosibl’.

Gwelir gwerth gorau fel dyletswydd i gael gwelliant parhaus wrth ddarparu gwasanaethau.

Bwriedir gwerth gorau i hybu gwelliant parhaus. Wrth ddatblygu arolygon gwerth gorau,

rhaid i gynghorau ystyried y canlynol: herio cyfiawnder swyddogaeth; cymharu perfformiad

ag eraill; ymgynghori â budd-ddeiliaid perthnasol; ac asesu cystadleuaeth wrth ymarfer y

swyddogaeth.

Yn flaenorol, arolygwyd holl wasanaethau’r Cyngor gan y Comisiwn Archwilio. Lluniwyd

Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a chyflwynwyd hi ym mis

Mehefin 2002. Gofynnir i awdurdodau lleol Cymru gyflawni eu dadansoddiad o berfformiad

eu hunain drwy ddefnyddio dangoswyr perfformiad a sefydlir gan awdurdodau unigol yn eu

cynlluniau perfformiad a gymeradwywyd gan y Comisiwn Archwilio (Cymru).

1.37 Targedau Perfformiad Gwerth Gorau

Gofynnir i awdurdodau lleol gyflawni arolygon gwerth gorau o’u holl wasanaethau dros

gyfnod 5 mlynedd. Cyflawnwyd arolygon casglu sbwriel, ailgylchu, glanhau strydoedd a

chynnal a chadw tir yn Wrecsam ym mis Hydref 2001. Archwiliodd arolygwyr gofnodion yr

Adran Gwasanaethau Cymunedol i brofi cadernid y dangosyddion perfformiad blaenorol.

Archwiliasant gynlluniau’r Adran i sicrhau bod swyddogion wedi gosod targedau anodd a

realistig i ddangos gwelliannau mewn perfformiad. Cyfwelwyd â chroesdoriad o staff er

mwyn i’r arolygwyr fesur canfyddiad y cyhoedd o wasanaethau casglu sbwriel, glanhau

strydoedd a chynnal a chadw tir y Cyngor. Cyfwelwyd â swyddogion ac aelodau etholedig

hefyd.

Cyhoeddwyd canlyniadau’r arolwg ym mis Rhagfyr 2001. Aseswyd y gwasanaeth casglu

sbwriel fel ‘gwasanaeth teg ac addawol a fyddai’n gwella’ ac aseswyd y gwasanaeth cynnal a

chadw tir, sy’n cynnwys glanhau strydoedd, fel ‘gwasanaeth da a fydd yn gwella’.

Datblygwyd cyfres o ddangoswyr ansawdd a gofynnir i gynghorau anelu at y chwarter uchaf.

Rhaid i ddogfennau arolygu gwerth gorau ddangos y cafwyd arolwg trylwyr. Bydd y

Comisiwn Archwilio’n ymgymryd ag arolygon achlysurol ac mae ganddo bwerau gorfodi ar

gyfer gwasanaethau sy’n methu.

Mae’r Cynulliad wedi symleiddio’r dangoswyr perfformiad perthnasol yn ddiweddar a fydd

yn cael eu mesur dan y broses. Yr amcan oedd cyflwyno darlun cywir ar gyfer cymharu ac

annog awdurdodau lleol i gyflwyno eu dangoswyr eu hunain i fesur perfformiad ac ymuno â

chlybiau meincnodi er mwyn cymharu ag awdurdodau eraill.

Bodola dangoswyr ar gyfer holl swyddogaethau awdurdodau lleol, gan gynnwys iechyd,

gwasanaethau cymdeithasol, addysg, tai a gwasanaethau amgylcheddol. Dangosir y rhai ar

gyfer gwasanaethau amgylcheddol yn Nhabl 5.

100

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn aelod o glybiau meincnodi a sefydlwyd dan y

broses gwerth gorau i ganiatáu i gynghorau gymharu perfformiad a rhannu arfer gorau. Mae

Wrecsam yn aelod o Glwb Meincnodi Cymru Gyfan, y Gymdeithas o Ragoriaeth mewn

Gwasanaeth Cyhoeddus a’r rhwydwaith Gwasanaeth Cyhoeddus.

Tabl 5: Safonau Perfformiad Llywodraeth Cynulliad Cymru

Gwastraff dinesig % a ailgylchwyd NAWPI 5.1 a

% a gompostiwyd NAWPI 5.1 b

% a ddefnyddiwyd i adfer gwres, ayb NAWPI 5.1 c

% a gladdwyd NAWPI 5.1 d

Glanhau strydoedd Canran y ffyrdd a thir perthnasol a archwiliwyd a oedd o safon uchel neu

dderbyniol o lendid

101

NAWPI 5.5

Casgliadau domestig Nifer y casgliadau a gollwyd fesul 100,000 casgliad o wastraff domestig NAWPI 5.6

Canran y boblogaeth sy’n derbyn gwasanaeth ailgylchu ymyl y ffordd neu sy’n

byw o fewn milltir o ganolfan ailgylchu

NAWPI 5.7

Adnoddau

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Bydd gweithredu’r strategaeth rheoli gwastraff hon yn golygu costau sylweddol or an cyfalaf

ar gyfer offer a chyfleusterau newydd, costau cynnal cynlluniau a chyfleusterau newydd a

chostau staff.

1.38 Cyfalaf

Dangosir y costau cyfalaf tybiedig ar gyfer gwella cyfleusterau ailgylchu a chanolfannau

ailgylchu gwastraff y cartref yn y Fwrdeistref Sirol yn Nhabl 6 isod.

Tabl 6: Costau cyfalaf go iawn a thybiedig ar gyfer cyfleusterau ailgylchu a

chanolfannau ailgylchu gwastraff y cartref

Canolfan ailgylchu

gwastraff y cartref

newydd

Adeilad storio defnyddiau

ailgylchadwy sych

Costau estyn

Cynllun ymyl ffordd –

biniau gwastraff gardd

Canolfannau ailgylchu

cymdogaethol pellach

2003/04 2004/05 2005/06 2006/07 2007/08

328,430 922,600

261,000

50,000 93,200

102

322,000 108,680 105,030 116,440

Cyfanswm costau cyfalaf 639,430 1,337,800 108,680 105,030 116,440

Mae’r Cyngor yn bwriadu diwallu’r costau hyn drwy gyllid ychwanegol gan y Cynulliad a

darpariaethau cyllidebol y Cyngor (gweler Adran 9.4 am yr opsiynau).

1.39 Costau cynnal

Gwelir y costau cynnal tybiedig ar gyfer gwella cyfleusterau ailgylchu a chanolfannau

gwastraff y cartref yn y Fwrdeistref Sirol yn Nhabl 7. Mae’r Cyngor yn trafod darparu

cyfleuster rheoli gwastraff integredig ar hyn o bryd. Byddai’r cyfleuster integredig yn

cynyddu gallu’r Cyngor i ailgylchu a chompostio’r gwastraff. Byddai’n galluogi’r Cyngor i

gael mwy o werth o’i wastraff drwy broses ynni o wastraff hefyd. Effaith gyfunedig y

mesurau hyn fyddai lleihau swm y gwastraff a gladdir. Fodd bynnag, nid yw’n bosibl darparu

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

manylion costau cynnal ar hyn o bryd gan nad yw’r contract ar gyfer darparu’r cyfleuster hwn

wedi ei orffen hyd yn hyn.

Tabl 7: Costau cynnal tybiedig ar gyfer rheoli gwastraff

Swyddogion addysg

ailgylchu

Gwybodaeth/

cyhoeddusrwydd

Cynllun ymyl ffordd –

defnyddiau sych

Canolfannau ailgylchu

cymdogaethol

Adeilad cadw – costau

gwaith

Paratoi dogfen Strategaeth

Gwastraff

2003/04 2004/05 2005/06 2006/07 2007/08

72,000 74,200 76,400 78,700 81,100

30,200 65,100 86,200 101,500 118,200

144,300 450,100 803,400 981,800 1,190,000

100,300 103,800 109,270 113,100 117,000

7,400 60,000 62,100 64,300 66,500

50,000 70,000

Casglu 2,021,800 1,937,800 1,995,900 2,080,700 2,145,500

Cael gwared ar wastraff 2,440,300 2,482,200 2,556,600 2,857,200 2,964,300

Glanhau strydoedd 1,217,200 1,421,200 1,463,800 1,507,800 1,553,000

Costau prosesu ailgylchu 90,500 153,400 187,800 223,300

Incwm ailgylchu -83,000 -134,900 -160,200 -188,200

Canolfannau ailgylchu

gwastraff y cartref

538,500 636,100 655,200 674,900 695,100

Costau ailgylchu eraill 61,200 218,100 224,600 253,000 261,200

Cerbydau diwedd bywyd 14,000 74,000 76,200 78,500 80,900

Cael gwared ar

oergelloedd

163,100 94,100 96,900 99,800 102,800

Hybu compostio gartref 3,000 3,100 3,200 3,300

Cyfanswm y costau 6,860,300 7,627,200 8,228,170 8,992,100 9,414,000

103

cynnal

1.40 Amser staff y Cyngor

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Mae’r Cyngor yn cyflogi dau swyddog addysg ailgylchu llawn amser i hybu lleihau gwastraff,

ailddefnyddio, ailgylchu, compostio ac adfer. Ategir at y swyddogion hyn a chefnogir nhw

gan staff eraill yn yr Adran Gwasanaethau Cymunedol yn ôl y gofyn.

Disgwylir i weithredu’r cynlluniau cyfalaf arfaethedig ar gyfer cyfleusterau ailgylchu a

chanolfannau gwastraff y cartref yn costio oddeutu £65,000 y flwyddyn o ran amser staff y

Cyngor.

1.41 Pwy fydd yn talu am hyn?

Mae’r prif ffynonellau o gyllid ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol fel a ganlyn:

1.41.1 Llywodraeth Cynulliad Cymru

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cydosod pecyn o gyllid ychwanegol i weithredu’r

Strategaeth Gwastraff i Gymru. Rhoddir grantiau i bob awdurdod lleol i hybu mwy o

ailgylchu a chompostio. Gall awdurdodau lleol ddefnyddio’r grantiau i ddatblygu ffyrdd mwy

cynaliadwy o reoli gwastraff, megis:

� gweithredu cynlluniau ailgylchu a chompostio ar gyfer gwastraff dinesig, gan

gynnwys datblygu a gwella canolfannau gwastraff y cartref;

� darparu rhaglenni addysg i gynyddu ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd a

diwydiant;

� datblygu partneriaethau rhwng awdurdodau lleol ynghyd â’r sectorau cyhoeddus,

preifat a gwirfoddol i gynnwys datblygu prosesau a marchnadoedd ar gyfer

ailgylchu a chompostio.

Gwerthusir cynnydd awdurdodau lleol o ran y grant penodol gan archwilwyr allanol. ac

adferir unrhyw gyllid na ddefnyddiwyd ef yn briodol y flwyddyn ddilynol. Ar ôl tair blynedd,

bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru’n arolygu’r cynigion hyn ac yn penderfynu ar gamau

gweithredu pellach fel sy’n briodol.

1.41.2 Treth y Cyngor

Ffynhonnell arall o gyllid yw cynnydd mewn Treth y Cyngor. Ar hyn o bryd, nid yw’r

Cyngor yn bwriadu dilyn y llwybr hwn.

104

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

1.41.3 Taliadau uniongyrchol am gasglu gwastraff

Mae codi tâl ar breswylwyr am gasglu gwastraff wedi denu llawer o sylw yn y cyfryngau yn

ddiweddar. Nid yw’r arfer yn bosibl dan ddeddfwriaeth y DU ar hyn o bryd ond mae’n cael ei

wneud mewn sawl rhanbarth arall o Ewrop lle codir tâl yn unol â swm y gwastraff a gesglir o

gartref. Yn yr achlysuron hyn, codir tâl yn debyg i unrhyw wasanaeth cyhoeddus arall megis

nwy neu drydan yn dibynnu ar faint y defnyddiwyd.

Mae astudiaethau wedi dangos bod codi tâl yn annog pobl i leihau eu gwastraff a chychwyn ar

ailgylchu. Mae’r refeniw’n dod â chyllid pwysig ar gyfer casgliadau ymyl ffordd wedyn.

Mae llywodraeth y DU yn ystyried gweithredu newid mewn deddfwriaeth i ganiatáu i

awdurdodau lleol godi tâl am gasglu sbwriel y cartref ond nid yw’n debyg o ddigwydd am

sawl blwyddyn eto.

105

Cynllun Ailgylchu

1.42 Strategaeth Ailgylchu

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Amlinella adran 5.2 o’r Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig hwn y dewisiadau ar gael i

Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gyflawni ei dargedau ailgylchu. Dewiswyd y

dewisiadau mwyaf addas i ffurfio cynllun gweithredu. Mae gweithrediad y cynllun

gweithredu’n amdol ar ganlyniad arbrofion a chytundebau contract ond bydd y sail yn dal yr

un fath:

• Mae’r Cyngor yn bwriadu bodloni neu fynd y tu hwnt i dargedau’r Llywodraeth am

ailgylchu, compostio ac adfer.

• Mae’r Cyngor yn bwriadu:

i. gweithio gyda chynghorau cyfagos i gynhyrchu strategaeth ranbarthol yn unol â

Nodyn Cyngor Technegol (Gwastraff) 21 Cymru TAN 21,

ii. hybu, annog a chynorthwyo grwpiau Agenda 21 leol a

iii. monitro ei berfformiad amgylcheddol drwy ddefnyddio’r system EMAS fewnol.

• Bydd swyddogion addysg gwastraff/ailgylchu’r Cyngor yn hybu rheolaeth gynaliadwy

o wastraff er mwyn annog pobl i leihau gwastraff a chynyddu’r symiau maent yn eu

hailddefnyddio, ailgylchu ac adfer.

• Bwriada’r Cyngor estyn casgliadau ymyl ffordd ar gyfer gwastraff gardd a phethau

sych i gwmpasu 24,000 o gartrefi erbyn 2004/05. Mae cynllun yn cwmpasu 6,000 o

gartrefi’n cael ei arbrofi ar hyn o bryd. Ystyrir y profiadau a geir o’r cynllun arbrofol

ynghyd â barn preswylwyr cyn penderfynu sut i estyn y cynllun.

• Mae’r Cyngor hefyd yn bwriadu dilyn a gweithredu unrhyw gynllun cost effeithiol

arall o ran casglu defnyddiau ailgylchadwy a allai godi yn ystod bywyd y strategaeth

hon a diwygio’r strategaeth yn unol â hynny.

• Bwriada’r Cyngor sefydlu 10 canolfan ailgylchu cymdogaethol yn ystod 2002/03 a 10

arall yn 2003/04 a 10 yn 2004/05. Bydd gan y safleoedd gynhwyswyr gwydr, papur,

tuniau a brethyn. Ychwanegir cynhwyswyr eraill yn ôl yr angen.

• Lle’n ddichonol, bwriedir cael cyfleusterau ailgylchu gwell yn y canolfannau

ailgylchu gwastraff y cartref ar gyfer gwahanu mwy o ddefnyddiau, yn benodol

gwastraff domestig peryglus.

Mae adran 5.3 yn ymdrin â dewisiadau a chamau gweithredu ar gyfer bodloni targedau

compostio.

106

1.42.1 Review

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Arolygir a diweddarir y strategaeth gwastraff gyfan, gan gynnwys y cynllun ailgylchu, bob

tair blynedd o ran y dewisiadau sydd ar gael yn sgil technoleg, deddfwriaeth a chyfle i greu

partneriaethau. Mae’n bosibl y bydd newidiadau mewn contractau’n mynnu newidiadau i’r

strategaeth a’r cynllun ailgylchu. Bydd y rhain yn cael eu hystyried a’u dogfennu’n briodol.

1.42.2 Gofynion Cyfreithiol Hanfodol

Cyflwyniad

Cynhwysir y rhan fwyaf o’r gofynion cyfreithiol hanfodol o ran Adran 49 o Ddeddf

Diogelwch Amgylcheddol 1990 yn y strategaeth hon. Pwrpas y darn hwn yw nodi lle gellir

dod o hyd i’r wybodaeth berthnasol a rhoi gwybodaeth ychwanegol lle bo angen.

Gwastraff rheoledig y disgwylir iddo gael ei gasglu yn ystod 2003-2008

Amcangyfrifwyd gwastraff rheoledig ar gyfer y pum mlynedd ariannol nesaf yn seiliedig ar

batrymau twf presennol a’r twf disgwyliedig mewn tai/poblogaeth yn ystod y cyfnod hwn

(Tabl 10-1). Amcangyfrifon yw’r ffigyrau a byddant yn cael eu harolygu ochr yn ochr â’r

gwir wastraff bob blwyddyn ariannol a bydd y tybiadau’n cael eu haddasu’n unol â hyn.

Tabl 0-1: Gwastraff tybiedig 2003-2008

Blwyddyn 2003/2004 2004/2005 2005/2006 2006/2007 2007/2008

Cyfanswm y gwastraff dinesig

(tunnell) 84,393 85,854 87,327 88,812 90,345

Amcangyfrifwyd cyfansoddiad y gwastraff hefyd er mwyn tybio ei gynnwys ailgylchadwy

(Tabl 10-2). Defnyddiwyd gwybodaeth o’r rhaglen Dadansoddi Gwastraff Cymru ddiweddar.

Bwriada’r Cyngor gyflawni ei ddadansoddiad gwastraff ei hun o fewn amserlenni’r

strategaeth hon er mwyn pennu cyfansoddiad gwastraff y Fwrdeistref Sirol.

107

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Tabl 0-2: Cyfansoddiad tybiedig y gwastraff 2003-2008 (tunnelli)

Cyfansoddiad y Gwastraff 2003/2004 2004/2005 2005/2006 2006/2007 2007/2008

Papurau newydd a chylchgronau 7,342 7,469 7,597 7,727 7,860

Papur ailgylchadwy arall 3,460 3,520 3,580 3,641 3,704

Pecynnu cardbwrdd 6,583 6,697 6,812 6,927 7,047

Papur arall 4,220 4,293 4,366 4,441 4,517

Ffilm plastig 2,701 2,747 2,794 2,842 2,891

Pecynnu plastig trwchus 2,701 2,747 2,794 2,842 2,891

Plastig trwchus arall 675 687 699 710 723

Brethyn 1,857 1,889 1,921 1,954 1,988

Pethau llosgadwy eraill 10,212 10,388 10,567 10,746 10,932

Gwydr 5,232 5,323 5,414 5,506 5,601

Gwastraff cegin a gompostir 6,751 6,868 6,986 7,105 7,228

Gwastraff gardd 8,692 8,843 8,995 9,148 9,305

Pridd a phethau pydradwy eraill 9,030 9,186 9,344 9,503 9,667

Caniau fferus 1,435 1,460 1,485 1,510 1,536

Metelau fferus eraill 2,363 2,404 2,445 2,487 2,530

Metelau di-fferus 760 773 786 799 813

Offer trydanol ac electronig 2,532 2,576 2,620 2,664 2,710

Pethau peryglus posibl 422 429 437 444 452

fines 3,123 3,177 3,231 3,286 3,343

DIY a phethau eraill nad ydynt yn

llosgi 4,304 4,379 4,454 4,529 4,608

Gwastraff rheoledig y disgwylir iddo gael ei brynu yn ystod 2003-2008

Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn bwriadu prynu unrhyw wastraff rheoledig yn

ystod y cyfnod hwn.

Gwastraff rheoledig y disgwylir iddo gael ei drin drwy ei wahanu neu ei becynnu at

ddibenion ailgylchu yn ystod 2003-2008

Amcangyfrifwyd y defnyddiau y disgwylir iddynt gael eu hailgylchu (Tabl 9) drwy

ddefnyddio:

• cyfansoddiad tybiedig y gwastraff;

• y systemau ailgylchu y disgwylir iddynt fod mewn lle bob blwyddyn;

• lefel ddisgwyliedig cyfranogiad y cyhoedd bob blwyddyn;.

• effeithiolrwydd gwahanu defnyddiau ar ymyl y ffordd.

108

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Tabl 9: Y defnyddiau sy’n debygol o gael eu casglu i’w hailgylchu (tunnell)

Defnydd 2003/2004 2004/2005 2005/2006 2006/2007 2007/2008

Papur/cardbwrdd 3,634 5,425 6,716 7,670 8,672

Plastig trwchus 111 266 615 826 1,068

Brethyn 343 513 569 627 687

Gwydr 966 1,446 1,605 1,768 1,937

Pethau pydradwy 491 1,289 2,731 3,649 4,695

Metel fferus 788 1,132 1,349 1,522 1,703

Metel nad yw’n fferus 316 463 563 640 720

Gwastraff gardd 4,823 4,434 4,066 3,556 2,964

Pethau ailgylchadwy 1,489 2,006 2,226 2,452 2,687

Cyfanswm a ailgylchir neu a gompostir 12,962 16,975 20,441 22,711 25,133

% a ailgylchir neu a gompostir 15% 20% 23% 26% 28%

% a ailgylchir 9% 13% 16% 17% 19%

% a gompostir 6% 7% 8% 8% 8%

Arolygir hyn yn flynyddol wrth i’r systemau ailgylchu sydd mewn lle newid o ran math ac

amserlen yn unol â chanlyniad arbrofion a chontractau. Seiliwyd lefel ac effeithiolrwydd

cyfranogiad y cyhoedd ar ganlyniadau astudiaethau mewn ardaloedd eraill yn y wlad.

Dewiswyd cyfraddau gweddol uchel er mwyn dangos yr hyn sydd ei angen er mwyn cwrdd

â’n targedau. Mae’r Cyngor yn sylweddoli y bydd angen ymgyrch ymwybyddiaeth ddwys er

mwyn cyrraedd y cyfraddau hyn. Pan fydd arbrofion ailgylchu’n gyflawn, bydd Wrecsam yn

gallu defnyddio ei data ei hun a gellir addasu ffigyrau i adlewyrchu canlyniad sy’n agosach i’r

gwir ganlyniadau.

Bydd newidiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â rheoli gwastraff peryglus ac offer trydanol

ac electronig (adrannau 3.4). Mae’n debygol y bydd hyn yn arwain at gynnydd yn y

cyfraddau ailgylchu o’r pethau hyn. Fodd bynnag, nid oes gwybodaeth ar gael ar hyn o bryd i

fesur y lefelau tebygol yn y llif gwastraff dinesig, felly nid ydym wedi eu tybio. Arolygir y

sefyllfa hon wrth i ni gael mwy o wybodaeth.

Trefniadau y disgwylir iddynt gael eu gwneyd gyda chontractwyr gwaredu gwastraff

2002-2007

Gweler adran 5.4 am fanylion.

Costau a buddion tybiedig a geir o’r camau arfaethedig a amlinellir yn y cynllun hwn yn

ystod 2002-2007

Gweler adran 9 am fanylion.

109

Cynllun Sbwriel

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ymroddedig i wneud yr ardal yn lle dymunol i

drigolion. Mae’r Cyngor yn cydnabod y dylai twristiaid ac ymwelwyr i’r Fwrdeistref Sirol

adael â’r argraff fod y dref a’r ardaloedd cyfagos yn lân, heb sbwriel ac yn ardaloedd y

dymunat ddychwelyd iddynt. Mae presenoldeb sbwriel a daflwyd neu a dipiwyd heb

ganiatâd:

• yn gwaethygu amwynderau ardal;

• yn gallu arwain at golli refeniw wrth i fusnesau wrthod symud i’r ardal;

• yn gallu atal twristiaid rhag ymweld â’r atyniadau.

Mae angen ymdrech bendant ar draws pob sector o’r gymuned. Mae taflu a thipio sbwriel yn

cael effaith debyg o ran rhwystredigaeth gyhoeddus.

1.43 Gwerthuso

Mae gan awdurdod lleol ddyletswydd i gadw strydoedd a thir penodedig yn rhydd o sbwriel

i’r safonau a ddiffinnir yn y Côd Ymarfer ar Sbwriel a gyhoeddwyd dan Adran 89 (7) o

Ddeddf Diogelwch Amgylcheddol 1990. Mae gan yr Adran Gwasanaethau Cymunedol

gyfrifoldeb uniongyrchol am lanhau’r strydoedd a chael gwared ar wastraff a daflwyd.

Lluniwyd strategaeth sbwriel i sicrhau bod y Cyngor yn parhau i gydymffurfio â’r safonau a

geir yn y Côd Ymarfer uchod. Mae mesurau ychwanegol yn cael eu cyflwyno i wella’r

systemau presennol o ran lleihau gwastraff a glanhau strydoedd. Byddant yn cynnwys

defnydd gwell o adnoddau, hyfforddiant, addysg a gorfodaeth.

Gellir rhannu’r Fwrdeistref Sirol yn dair ardal:

� tref Wrecsam

� cefn gwlad Wrecsam

� pentrefi trefol Wrecsam

Mae’r Cyngor yn gyfrifol am lendid rhan fwyaf o ffyrdd y Fwrdeistref Sirol. Rhoddwyd parth

i bob un yn unol â’u defnydd a chanllawiau’r Côd Ymarfer.

Monitrir glendid strydoedd drwy ddefnyddio’r system ENCAMS (Grŵp Cadwch Brydain yn

Daclus) sef y dull monitro safon a dderbynnir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r

Comisiwn Archwilio. Asesir glendid yn ôl y safon ganlynol:

A. rhydd o sbwriel

B. rhai pethau bach yn unig

C. ychydig o sbwriel

Ch. llawer o sbwriel

110

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Mae’r Cyngor wedi mabwysiadu’r dull canlynol o ddewis ardaloedd ar hap i sicrhau bod y

gwaith o fonitro glendid strydoedd yn gyson.

Sefydlwyd cronfa ddata’n rhestru holl strydoedd y Fwrdeistref Sirol sydd mewn categorïau 1,

2 neu 3. Is-rennir strydoedd yn 12 sector sy’n cyfateb i ardaloedd cyfagos y Fwrdeistref Sirol

a sectorau a arolygir yn eu tro. Caiff strydoedd dethol eu marcio ar fap i hwyluso’r cynllunio.

Asesir rhannau o’r strydoedd targed ar hap drwy ddefnyddio’r canllawiau a geir yn y Côd

Ymarfer Sbwriel. Tynnir llun o’r strydoedd a archwilir er mwyn cyfeirio atynt yn y dyfodol.

Cydosodir a chofnodir y data. Cofnodir data perthynol ychwanegol ar y daflen a nodir

gwybodaeth am faw cŵn, graffitti a chyflwr biniau sbwriel. Os oes llawer o sbwriel mewn

ardal, rhoddir gwybod i’r Is-Adran Glanhau Strydoedd er mwyn adfer y sefyllfa’n brydlon.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cydymffurfio â’r canllawiau ar ddangoswyr

perfformiad sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Cyflawnir arolygon ar sampl ar

hap o 2% o strydoedd y Fwrdeistref Sirol yn y parthau 1, 2 neu 3.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn aelod o raglen Pobl a Lleoedd ENCAMS ac wedi

cael gwiriad annibynnol o ganlyniadau’r arolwg glanhau strydoedd fel rhan o’r system

archwilio a rheoli amgylcheddau lleol (LEAMS). Cymharodd yr arolwg annibynnol yn dda â

chanlyniadau’r Cyngor. Cyflawnwyd arolwg annibynnol ym mis Gorffennaf 2003 gan staff

Cadwch Gymru’n Daclus. Ceir manylion yr arolwg hwn yn Atodiad C.

Dengys y graff isod (ffigwr 8) gymhariaeth o fynegai glendid awdurdodau lleol yng Nghymru

o’i gymharu â mynegai glendid Wrecsam. Mae cymhariaeth o ganlyniadau blynyddoedd

eraill yn dangos gwelliant cyson.

Ffigwr 8: Cymharu’r Mynegai Glendid

Mynegai glendid

74

72

70

68

66

64

62

60

A B C D E F G Wrecsam

Awdurdodau Lleol Cymru

D.S. Cynrychiola’r llinell gyfartaledd yr arolwg KWT (ac eithrio Wrecsam).

111

Dangosydd Perfformiad y Comisiwn

Archwilio

Dangosydd J1 y Comisiwn Archwilio

% y priffyrdd â safon uchel o lendid

Dangosydd J2 y Comisiwn Archwilio

Amser ar gyfartaledd a gymerir i gael

gwared ar sbwriel a daflwyd

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

112

Perfformiad

Wrecsam

1999 – 2000

Targed

2000 - 2001

Perfformiad

Wrecsam

2000 - 2001

83 85 96

5 diwrnod 4 diwrnod 3 diwrnod

Gellir gwella’r canlyniadau drwy asesu adroddiadau a chanlyniadau monitro’n gyson.

1.44 Gwaith

Mae ‘ysgubwyr’ sydd â’u hardaloedd eu hunain i lanhau bob dydd yn glanhau strydoedd.

Mae tîm o ysgubwyr yn gweithio sifftiau i gwmpasu’r ardal o 05:00 y bore tan 21:00 y nos

yng nghanol y dref, sef ardal proffil uchaf y Fwrdeistref Sirol.

Mae dadansoddiad o’r arolygon a phrofiad y tîm glanhau strydoedd wedi nodi ardaloedd

penodol sy’n gweld mwy o sbwriel ar adeg benodol o’r dydd. Mae ysgubwyr yn diwygio eu

patrymau gwaith i sicrhau y caiff yr ardaloedd hyn eu clirio cyn gynted â phosibl ar ôl i’r

sbwriel gael ei daflu.

Caiff ardaloedd mwy anghysbell eu clirio gan griw glanhau symudol sydd hefyd wedi nodi

mannau lle ceir mwy o sbwriel. Mae’r timau hyn yn defnyddio ysgubwyr pwerus a

mecanyddol i lanhau strydoedd. Ategir gan yr ysgubwyr llaw gan ysgubwyr mecanyddol;

mae’r math mwy yn glanhau sianeli ar hyd ymylon ffyrdd ac yn cwmpasu’r holl Fwrdeistref

Sirol. Defnyddir unedau mecanyddol llai ar ystadeau llai lle mae angen mwy o hygyrchedd.

Defnyddir yr ysgubwyr a cherbydau a addaswyd yn arbennig i glirio dail yn yr hydref hefyd.

Mae gan yr ysgubwyr mecanyddol gyfarpar chwistrellu chwyn.

Mae tipio heb ganiatâd yn broblem sy’n gwaethygu ymddangosiad ardal. Defnyddir cerbyd

penoodl i glirio’r sbwriel hwn ar gasgliad wythnosol sy’n dibynnu ar brofiad blaenorol o

ardaloedd problemus. Ymdrinnir â digwyddiadau eraill wrth i’r Adran gael gwybod

amdanynt. Ymdrinnir â hyn o fewn 3 diwrnod fel arfer. Monitrir yr amser a gymerir i symud

gwastraff a dipiwyd yn barhaus.

Mae hyfforddiant ac adnoddau’n hanfodl i sicrhau casgliad effeithiol. Mae’r staff yn cael

copïau o fapiau, rhestr o strydoedd yn eu hardal a thaflen gofnodi ddyddiol i nodi’r gwaith a

gwblheir ac unrhyw ddigwyddiadau. Hyfforddir staff i drin â phethau miniogyn ddiogel

hefyd. Bydd atborth oddi wrth bobl sy’n gweithio yn y maes yn ein galluogi i ddefnyddio

adnoddau’n well ac anogir staff i gael mewnbwn i’w trefniadau beunyddiol.

Mesurir canfyddiadau’r cyhoedd o ran glanhau strydoedd a symud sbwriel a dipiwyd drwy

Banel y Dinasyddion. Rhoddir gwybodaeth am farn y cyhoedd i’r staff fel eitem yn y

cyfarfodydd tîm.

Nid yw glendid strydoedd yn ymwneud â rhoi peiriant i ysgubwr bellach a gadael iddo

lanhau’r un stryd bob dydd. Arweinir glendied gan ansawdd, amlder glanhau a newidir ffyrdd

er mwyn rhoi mwy o sylw i ardal benodol os oes mwy o angen glanhau yn y man hwnnw.

Asesir glendid stryd yn rheolaidd ac ystyrir sylwadau’r cyhoedd hefyd.

1.45 Addysg

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Addysg a mwy o ymwybyddiaeth o’r problemau a achosir gan sbwriel yw’r ffordd fwyaf sicr

o newid arferion y boblogaeth a chael bwrdeistref sirol heb sbwriel. Bydd cyfuniad o addysg,

gorfodaeth a gofyn i bobl gydweithredu’n helpu i leihau sbwriel a helpu staff y Gwasanaethau

Cymunedol i amlygu ardaloedd problemus yn y Fwrdeistref Sirol.

Yng ngwanwyn 2002, penodwyd dau swyddog addysg ac ailgylchu gan yr Adran

Gwasanaethau Cymunedol i gyfarfod â grwpiau yn y gymuned i gynyddu ymwybyddiaeth o

atal sbwriel. Bydd yr Adran Gwasanaethau Cymunedol yn gweithio’n agos gyda swyddogion

gorfodi’r Adran Diogelu’r Cyhoedd hefyd. Mae eu pwerau’n eu galluogi i gyhoeddi

hysbysiadau cosbau penodedig dan Adran 88 o Ddeddf Diogelwch Amgylcheddol 1990.

113

Casgliad

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Mae Polisi Amgylcheddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a gyhoeddwyd yn 2000 yn

diffinio ymroddiad y Cyngor i reoli gwastraff yn gynaliadwy yn y dyfodol. Bydd yr

Awdurdod yn ymdrechu i leihau swm y gwastraff a gynhyrchir yn y Fwrdeistref Sirol a hybu

lleihau gwastraff a chynyddu ailgylchu. Bydd polisi rheolaeth gynaliadwy o wastraff yn

ceisio cyrraedd y targedau gwyro a lleihau gwastraff a bennwyd gan Lywodraeth Cynulliad

Cymru.

Cynaladwyedd yw’r cyswllt allweddol rhwng gwelliant amgylcheddol ac ecolegol a iechyd,

lles a thwf economaidd y Fwrdeistref Sirol. Bydd defnyddio safleoedd claddu i gael gwared

ar wastraff yn dod yn ddrutach a bydd y pwyslais ar leihau ac adfer gwastraff.

Addysg a mwy o ymwybyddiaeth yw cerrig milltir bodloni targedau gwastraff a bydd yr

Awdurdod yn gweithio’n galed i godi proffil gwastraff mewn ysgolion ac ymysg y cyhoedd

yn gyffredinol.

Bydd lleihau’r defnydd o gladdu sbwriel fel dull gwaredu’n rhoi mwy o gyfle i’r cyhoedd

ailgylchu eu defnyddiau. Yn ystod bywyd y strategaeth gwastraff, bydd y Cyngor yn

cynyddu nifer y cartrefi sy’n cael budd o gasgliad ymyl ffordd a chasgliad ar wahân ar gyfer

gwastraff gardd i’w gompostio. Bydd cyfleusterau ailgylchu’n cael eu gwella yng

nghanolfannau ailgylchu gwastraff cartref yr Awdurdod a bydd mwy o ganolfannau ailgylchu

cymdogaethol yn cael eu hadeiladu i wneud ailgylchu’n fwy cyfleus i fwy o bobl.

Prosesir gwastraff cyffredinol o’r gasgliad gwastraff dros ben mewn cyfleuster trin gwastraff

arbenigol. Bydd peth o’r gwastraff sy’n weddill yn cael ei droi i mewn i belenni i’w

ddefnyddio fel tanwydd i gael ynni o wastraff a chreu trydan. Bydd y system rheoli gwastraff

integredig yn sicrhau y gwyrir y symiau mwyaf o wastraff o safleoedd claddu sbwriel, bydd

yn sicrhau yr adferir defnyddiau gwerthfawr a llai o ddibyniaeth ar adnoddau megis tanwydd

ffosiledig drwy gynhyrchu ynni o wastraff.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn parhau i wella ei wasanaeth rheoli gwastraff a

darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i drigolion a system rheoli gwastraff sy’n dechnolegol

gadarn er mwyn bodloni targedau gwastraff Llywodraeth Cynulliad Cymru.

114

CYFEIRIADAU

1.46 Deddfwriaeth Ewropeaidd

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

GWYBODAETH GEFNOGOL

Gellir cael rhestr o’r ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy’n weithredol ar hyn o bryd ar:

http://europa.eu.int/eur-lex/en/lif/reg/en_register_15103030.html

Mae’r rhan fwyaf ar ffurf gorchmynion sy’n gosod nodau a therfynau amser i aelodau

wledydd eu gweithredu drwy orfodi’r ddeddfwriaeth genedlaethol briodol. Gellir gorfodi

rheoliadau’n uniongyrchol h.y. nid oes raid eu trosi i gyfraith ddomestig.

1.46.1 Gorchmynion y cyfeirir atynt yn Atodiad D

Gellir gweld y gorchmynion y cyfeirir atynt yn Atodiad D ar:

http://europa.eu.int/eur-lex/en/lif/dat/1999/en_399L0031.html

1.47 Deddfwriaeth y DU

Gellir cael copïau o ddeddfwriaeth y DU o’r:

Swyddfa Bapur

http://www.thestationeryoffice.com/

The Stationery Office

123 Kingsway

Llundain

WC2B 6PQ

Ffôn: 020 7242 6393 or 020 7242 6410

Ffacs: 020 7242 6394

e-bost: Llundain.bookshop@theso.co.uk

Gellir gweld peth deddfwriaeth ar-lein:

Swyddfa Bapur Ei Mawrhydi

http://www.legislation.hmso.gov.uk/

1.48 Dogfennau Llywodraeth Cynulliad Cymru

Llywodraeth Cynulliad Cymru, Polisi Cynllunio Cymru, Nodyn Technegol Rhif 21:

Gwastraff, Tachwedd 2001

115

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Llywodraeth Cynulliad Cymru ‘Callio am Wastraff’, Strategeth Gwastraff Genedlaethol

Cymru, Mehefin 2002

Welsh Assembly Government a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyfarwyddyd am

Strategaethau Rheoli Gwastraff Dinesig yng Nghymru, Awst 2002

1.49 Cyffredinol

ACBE, Resource Productivity, Awst 2001: Waste Minimisation and Landfill Tax.

AEA Technology, 2002, Pilot Study on the Composition of Municipal Solid Waste in Wales.

ENVIROSRIS, 2001, The Waste Diversion Impacts of Bag Limits and PAYT (Pay-As-You-

Throw) Systems in North America. Ontario, Canada.

Hunt, L. 1997. The Little Green Book, A Waste Management and Recycling Reference

Book. LGB Environmental Publications Ltd. Middlesex

1.50 Llyfryddiaeth

Aylesford Newsprint, 2000, Achieving Recycling Targets (Best Practice in Materials

Recycling), Aylesford, Kent.

Department for Environment Food and Rural Affairs, Draft Climate Change Programme 2001

Strategaeth DETR (Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig nawr) 2000: Cymru a

Lloegr. Mai 2000.

http://www.defra.gov.uk/environment/waste/strategy/cm4693/pdf/wastvol1.pdf

Adran Masnach a Diwydiant, Ynni o Wastraff 1995 Adran Masnach a Diwydiant – Canllaw

Arfer Gorau

Asiantaeth yr Amgylchedd, cyfarwyddyd technegol drafft ar gyfleusterau rheoli gwastraff

clinigol (Fersiwn 2.2, Medi 2001)

Canllaw Arfer Da Lleihau Gwastraff Asiantaeth yr Amgylchedd (Mehefin 2001)

“Tackling Fly Tipping: Guidance for Landowners, managers and members of public”, Flytipping

Stakeholders Forum. http://www.environment

agency.gov.uk/business/wasteman/flytip/?version=1

Y Cyngor Amgylchedd, The Stakeholders’ Guide Sustainable Waste Management, 2000

Y Comisiwn Brenhinol ar Lygredd Amgylcheddol - Seventeenth Report on Incineration of

Waste, 1983

Adran yr Amgylchedd, Cludiant a’r Rhanbarthau, “The use of combined heat and power in

community heating schemes”, 1999

Cymdeithas Ynni o Wastraff - Dispelling the Myths, Hydref 2000

116

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

George Tchobanoglous, et. al., Integrated Solid Waste Management: Engineering Principles

and Management Issue, McGraw-Hill, 1993

Cymru Gynaliadwy, Adroddiad yr Ymgyrch Clytiau Go Iawn 2001

Cafwyd gwybodaeth bellach o’r wasg fasnach, peiriannau chwilio’r rhyngrwyd a

chyfathrebiadau personol gyda chyrff perthnasol.

117

CYSYLLTIADAU

1.51 Llywodraeth Cynulliad Cymru

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd CF99 1NA

Ffôn: 029 20 825111

Gwefan: http://www.wales.gov.uk/

1.52 Llywodraeth y DU

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a

Materion Gwledig

Cyfeiriad post ar gyfer ymholiadau

cychwynnol:

Llinell Gymorth DEFRA

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion

Gwledig

3-8 Whitehall Place

Llundain SW1A 2HH

Rhif ffôn: 08459 33 55 77

Gwefan: http://www.defra.gov.uk/

Adran Cludiant, Llywodraeth Leol a’r

Rhanbarthau

Pencadlys a Swyddfeydd Gweinidogion

Eland House

Bressenden Place

LLUNDAIN SW1E 5DU

Gwefan: www.dtlr.gov.uk

Gwasanaeth ymholi (8.30am - 5.30pm) :

Ffôn: 020 7944 3000

Adran Masnach a Diwydiant

Uned Ymholiadau

1 Victoria Street

Llundain SW1H 0ET

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

118

Uned ymholiadau 020 7215 5000

Gwefan: http://www.dti.gov.uk/

1.53 Asiantaethau’r Llywodraeth

Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a

Lloegr

Gwefan: http://www.environmentagency.gov.uk/?lang=_e

Ebost: enquiries@environmentagency.gov.uk

Llinell ymholi: 0845 9333111

Llinell frys 0800 807060.

Swyddfa leol:

Ffordd Penian

Park Menai

Bangor

Gwynedd

LL57 4DE

Ffôn: 01248 670770

Ffacs: 01248 670561

1.54 Elusennau, Grwpiau a Chyrff

Cymunedol

Envirowise

Llinell gymorth amgylchedd ac ynni: 0800

585794

Gwefan: http://www.envirowise.gov.uk/

Eco-Ysgolion

Cyswllt:

Ms Sue Rigby

EnCams – Ymgyrchoedd Amgylcheddol

Elizabeth House

The Pier

Wigan WN3 4EX

Ffôn: +44 1942 824 620

Ffacs: +44 1942 824 778

e-bost: sue.rigby@encams.org

Gwefan: http://www.eco-schools.org/

Women’s Environmental Network

(WEN)

(Real Nappies)

Blwch SP 306 26

Llundain E1 1TZ

Ffôn: 020 7481 9004

Cymru Gynaliadwy

Llawr 1af

41 John Street

Porthcawl, CF36 3AP

Ffôn: 01656 783 405

Gwefan:

http://www.sustainablewales.org.uk/

WRAP

Jennie Price, Prif Weithredwr

The Old Academy

21 Horse Fair

Banbury

Oxon, OX16 0AH

Ffôn: 01295 819900

Ffacs: 01295 819911

E-bost: info@wrap.org.uk

Gwefan: http://www.wrap.org.uk/

CYLCH – Rhwydwaith Ailgylchu

Cymunedol Cymru

Mal Williams – Prif Weithredwr

Dewi Smith – Rheolwr Busnes a

Hyfforddiant

Cylch

Canolfan Technoleg Busnes Caerfydd

Ffordd Senghennydd

Cathays

Caerdydd, CF24 4AY

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

119

Gwefan: http://www.cylch.org.uk/

Ffôn: 029 2064 7000

Ffacs: 029 2064 7009

Cymdeithas Compostio

Avon House

Tithe Barn Road

Wellingborough

Northamptonshire NN8 1DH

Ffôn: 01933 227777

Gwefan: http://www.compost.org.uk/

Cymdeithas Gwres a Phŵer Cyfunedig

David Green, Cyfarwyddwr

Cymdeithas Gwres a Phŵer Cyfunedig

Grosvenor Gardens House

35/37 Grosvenor Gardens

Llundain SW1W 0BS

Ffôn: 44 020 7828 4077

Ffacs: 44 020 7828 0310

Gwefan: http://www.chpa.co.uk/

Ynni o Wastraff

26 Spring Street

Llundain W2 1JA

Ffôn: +44 020 7402 7110

Ffacs: +44 020 7402 7115

Gwefan: http://www.efw.org.uk/

Ailbeintio Cymunedol

Gwefan:

http://www.communityrepaint.org.uk/

Ymddiriedolaeth Amgylchedd Cymru

Pencadlys (De Cymru) – ymholiadau

cyffredinol

Ebost: info@walesenvtrust.org.uk

Ffôn: 01443 866 300

Ffacs: 01443 866 301

Ymddiriedolaeth Amgylchedd Cymru

Canolfan Busnes a Thechnoleg Tredomen

Ystrad Mynach

Caerffili

De Cymru

CF82 7FN

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

120

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

121

Rhestr Termau

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Traul Anerobig

Proses lle anogir defnydd pydradwy i dorri i lawr heb ocsigen mewn cynhwysydd caeëdig.

Mae’n cynhyrchu deuocsid carbon, methan a soletion/hylif o’r enw traul y gellir ei

ddefnyddio fel compost a gwrtaith.

Dulliau Gorau sydd ar Gael

Sef y cam mwyaf effeithiol a blaengar yn natblygiad gweithgareddau a’u dull gweithredu sy’n

dangos cynaladwyedd ymarferol dulliau penodol o ran darparu sail ar gyfer gwerthoedd

gollyngiadau a gynlluniwyd i atal a, lle nad yw hyn yn ymarferol, lleihau gollyngiadau’n

gyffredinol a’r effaith ar yr amgylchedd. (Gorchymyn Rheoli Llygredd Integredig y CE

(96/61/EC)) *

Dewis Amgylcheddol Ymarferol Gorau (BPEO)

Canlyniad gweithdrefn systematig, ymgynghorol a phenderfynol sy’n pwysleisio diogelu a

gwarchod yr amgylchedd ar draws tir, awyr a dŵr. Mae’r weithdrefn yn penderfynu ar y

dewis sy’n rhoi’r budd gorau neu sy’n creu’r niwed lleiaf i’r amgylchedd am bris rhesymol yn

y tymor hir a’r tymor byr. (12fed adroddiad y Comisiwn Llygredd Amgylcheddol)

Gwerth Gorau

Y ddyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau (gan gynnwys casglu sbwriel a

rheoli gwastraff) i safonau clir – i gwmpasu cost ac ansawdd – yn y ffordd fwyaf costeffeithiol,

economaidd ac effeithlon.

Gwastraff Dinesig Pydradwy (BMW)

Mae defnydd pydradwy’n ddefnydd sy’n gallu cael ei dorri i lawr gan blanhigion (gan

gynnwys ffwng) ac anifeiliaid (gan gynnwys pryfed genwair a meicro-organyddion). O ran

gwastraff dinesig, rhennir y defnyddiau fel a ganlyn: papur a chardbwrdd, bwyd a gwastraff

gardd a chanran o frethynnau, gwastraff llosgadwy amrywiol, gan gynnwys clytiau tafladwy.*

Bio-nwy

Y nwy a gynhyrchir wrth i ddefnydd organig bydru heb ocsigen ac y gellir ei ddefnyddio fel

tanwydd.

Banciau dod

Cynlluniau ailgylchu lle mae’r cyhoedd yn dod â defnyddiau i’w hailgylchu i fannau casglu

penodol (e.e. banciau poteli) i ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref, meysydd parcio

archfarchnadoedd a mannau tebyg.

Lludw Gwaelod

Y lludw na ellir ei losgi sy’n weddill mewn llosgydd neu gyfleuster adfer ynni ar ôl llosgi

defnyddiau llosgadwy.

Diffiniad o’r Cyfarwyddyd Strategaethau Rheoli Gwastraff Dinesig yng Nghymru a gyhoeddwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cynulliad

Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Awst 2002

122

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Compostio canolog

Cynlluniau ar raddfa fawr sy’n trin gwastraff gardd a chegin o gartrefi ac a allai dderbyn

gwastraff priodol o barciau a gerddi hefyd.*

Safle Amwynder Dinesig

Gweler canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref

Gwastraff Clinigol

Gwastraff a allai achosi heintiad i unrhyw un sy’n cyffwrdd ag ef. Mae’n cynnwys gwastraff

o feddygfeydd, hylifau’r corff a gwastraff anifeiliaid (heblaw am wastraff amaethyddol).

Cyd-gasglu

Is-gyfres o gasliad ymyl ffordd. Mae casgliad integredig neu gyd-gasgliad yn un lle cesglir

defnyddiau i’w hailgylchu gan yr un cerbyd ac ar yr un pryd â’r casgliad gwastraff arferol.

Gwres a Phŵer Cyfunedig (CHP)

Cynhyrchu gwres (ar ffurf ager fel arfer) a phŵer (ar ffurf trydan fel arfer) ar y cyd. Mewn

cyfleusterau sy’n cael eu tanio gan wastraff, defnyddir y gwres wedyn fel dŵr poeth i

wasanaethu cynllun gwresogi ardal fel arfer.

Pethau ailgylchadwy a gymysgwyd

Defnyddiau ailgylchadwy a gesglir o gartrefi, gan gynnwys papur, gwydr, metel a phlastig,

nad ydynt wedi cael eu gwahanu.

Gwastraff Masnachol

Gwastraff o eiddo a ddefnyddir yn hollol neu’n rhannol at ddibenion masnach neu fusnes neu

ar gyfer chwaraeon, hamdden ac adloniant (Adran 75(7) o’r Ddeddf Diogelwch

Amgylcheddol).

Sector Cymunedol

Mae’r sector yn cynnwys elusennau, sefydliadau ymgyrch a chwmnïau nid-er-elw.*

Compost

Defnydd sefydlog a gynhyrchir drwy bydru defnydd pydradwy yn yr aer, megis gwastraff

gardd a chegin, y gellir ei ddefnyddio i wella strwythur pridd a gwella cynnwys maethlon

pridd.

Cyfleuster Compost

Cyfleuster sy’n compostio.

Compostio

Y broses o bydru a sefydlogi defnyddiau organig (e.e. gwastraff gardd a chegin) dan amodau

sy’n bennaf erobig ac sy’n caniatáu datblygiad tymheredd thermoffilig o ganlyniad i wres a

gynhyrchir yn fiolegol. Mae’n creu cynnyrch a lanweithiwyd ac a sefydlogwyd, sy’n llawn

sylweddau hwmig ac o ansawdd sy’n ddigon da i wella pridd, y gellir ei ddefnyddio i dyfu

planhigion, neu ei gymysgu i greu cynnyrch arall (sy’n bodloni safonau diwydiannol). Yn

achos compostio gyda phryfed genwair, gellir rhoi’r gorau i’r tymheredd thermoffilig pan

gyflwynir y pryfed genwair.*

123

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Difwynwyr

Defnyddiau sy’n cael eu rhoi mewn cyfleusterau casglu gan bobl mewn camgymeriad e.e.

cynlluniau ailgylchu dod neu ymyl ffordd. Gall difwynwyr fod o ganlyniad i fethiant i

wahanu defnyddiau yn ystod y camau casglu a phrosesu.

Gwastraff Adeiladu

Gwastraff a ddaw o waith tir cyn adeiladu adeiladau, ffyrdd neu waith arall, yn bennaf yn

cynnwys pridd a defnyddiau disymud eraill.

Gwastraff a Reolir

Gwastraff cartref, diwydiannol, masnachol a chlinigol sy’n gofyn am drwydded rheoli

gwastraff er mwyn ei drin, trosglwyddo a’i waredu. Mae’r prif gategorïu’n cynnwys

gwastraff cloddio, chwareli a ffermio.

Gwydrach

Gwydr wedi ei falu.

Gwastraff Anodd

Gwastraff a reolir sy’n mynnu sylw neu ddulliau arbennig oherwydd ei gyfansoddiad i atal

problemau wrth ei waredu’n hwyrach. Gallai ddod o eiddo domestig, diwydiannol neu

fasnachol.

Gwresogi Ardal

Defnyddio dŵr poeth a gynhyrchir o gyfleusterau creu ynni i wresogi eiddo cyfagos drwy

ddefnyddio pibellau lleol.

Deuocsin

Grŵp o gemegau o bwysigrwydd amgylcheddol neu wenwynol uchel. Cynhyrchir deuocsin

drwy losgi defnyddiau lle mae clorin yn bresennol (e.e. tân gwyllt, barbeciws, gorsafoedd

pŵer, sigarets, ffwrneisi tanio, llosgwyr gwastraff, cyfleusterau llosgi a nwyo, ayb). Mewn

llosgwyr modern, mae gollyngiadau deuocsin yn cael eu pennu, eu monitro a’u rheoli’n

ofalus. *

Gorchymyn

Gweler Gorchymyn CE.

Cael Gwared

Y cam olaf o reoli gwastraff, o ddewis mewn ffordd a reolir a chynliadwy. Y dulliau mwyaf

cyffredin yw claddu a llosgi.

Cyfradd gwyro

Swm y gwastraff a wyrir o’r llif gwastraff domestig drwy ailgylchu a chompostio ac a fynegir

fel canran o’r cyfanswm gwastraff a gynhyrchir.

Dyletswydd o Ofal

Cysyniad deddfwriaethol yn sicrhau y cedwir, y trinnir ac y cludir gwastraff gan gwmnïau

awdurdodedig ac sy’n gofyn i gynhyrchwyr gwastraff anfon gwastraff i’r cwmnïau hyn.

Diffiniad o’r Cyfarwyddyd ar Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig yng Nghymru a gyhoeddwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cynulliad

Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Awst 2002

124

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Gorchymyn y CE

Cyfarwyddyd cyfreithol gan Gyngor yr Undeb Ewropeaidd sy’n orfodol yn yr holl wledydd

aelodau ond a weithredir drwy ddeddfwriaeth llywodraethau cenedlaethol o fewn amserlen

benodol.*

Rheoliad y CE

Cyfarwyddyd cyfreithiol gan Gyngor yr Undeb Ewropeaidd sy’n gwbl orfodol ac sy’n

uniongyrchol gymwys (h.y. nid oes angen deddfwriaeth genedlaethol).*

Ynni o Wastraff (YoW)

Proses trin gwastraff sy’n cynnwys llosgi gwastraff. Defnyddir y gwres i wneud ager a

chynhyrchu trydan a fwydir i mewn i’r grid cenedlaethol. Mae’n bosibl gwresogi ardal hefyd.

Byddai cyfarpar rheoli gollyngiadau ar gael mewn cyfleuster fel hwn er mwyn lleihau

llygredd.

Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Lloegr

Sefydlwyd hi yn Ebrill 1996, i gyfuno swyddogaethau cyn awdurdodau rheoli gwastraff lleol,

yr Awdurdod Afonydd Cenedlaethol ac Arolygiaeth Llygredd ei Mawrhydi. Yng Ngymru,

mae’r asiantaeth yn gweithredu fel Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.

Comisiwn Ewropeaidd

Corff gweithredol yr Undeb Ewropeaidd (UE), mae’n cwmpasu ac yn cynnal buddiant

cyffredinol yr UE. Mae’n cyflwyno cynigion deddfwriaethol i’r Senedd Ewropeaidd a

Chyngor yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n gyfrifol am weithredu deddfwriaeth, gorchmynion,

rheoliadau a phenderfyniadau Ewropeaidd.*

Cyngor Ewropeaidd

Yn cynnwys penaethiaid gwledydd neu lywodraethau aelodau wledydd yr Undeb Ewropeaidd

ac ni ddylid drysu rhwng y Cyngor hwn a Chyngor yr Undeb Ewropeaidd.*

Undeb Ewropeaidd

Yn cynnwys 15 aelod wlad ac yn paratoi am gyflwyniad 13 o wledydd eraill o ddwyrain a de

Ewrop. Cyngor yr Undeb Ewropeaidd, sy’n cynnwys un cynrychiolydd o lefel gweinidog o

bob aelod wlad ac a elwir yn Gyngor Gweinidigion hefyd ar adegau, yw prif gorff

deddfwriaethol y gymuned ac mae’n gweithredu pŵer deddfwriaethol ar y cyd â’r Senedd

Ewropeaidd.*

Gwely Hylifol

Chwistrellir y defnyd i mewn i wely hylifol o ddefnydd gro poeth (tywod fel arfer). Mae llif o

aer o blât mandyllog yn ehangu ac yn hylifo’r gwely. Gellir cyflwyno tanwydd a gafwyd o

sbwriel, hylif neu nwyon i’r gwely a’u llosgi. Tynnir llwch o waelod y siambr lle mae’n

casglu’n naturiol.

Lludw Rhydd

Gronynnau sy’n weddill o’r broses llosgi sy’n cael eu cario gan nwy ffliw.

Tipio heb Ganiatâd

Taflu gwastraff ar dir nad yw wedi ei drwyddedu i ddal, storio na thrin gwastraff.

125

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Nwyo

Cynhesu defnyddiau organig ag aer, ager neu ocsigen i gynhyrchu tanwydd nwy, lludw a

thar.*

Gwastraff gwyrdd

Gwastraff gerddi a pharciau, sy’n cynnwys brigau, glaswellt, hen blanhigion a phrysg.

Nwy Tŷ Gwydr

Nwyon sy’n gollwng o amrywiaeth o ffynonellau sy’n dal gwres o’r haul a fyddai’n cael eu

colli yn y gofod fel arall. Mynegwyd pryderon y byddai cynyddu’r nwyon hyn yn yr

awyrgylch yn arwain at gynnydd yn nhymheredd y byd a newid yr hinsawdd ar raddfa fydeang.

Enw hyn yw’r ‘effaith tŷ gwydr’.

Dŵr Daear

Dŵr ffres dan wyneb y ddaear ym mharth y pridd neu’r graig. Yn gyffredinol, unrhyw ddŵr

dan wyneb y ddaear yn hytrach nag ar yr wyneb.

Gwastraff Peryglus

Y gwastraff mwyaf peryglus i bobl a’r amgylchedd ac a ddiffiniwyd yn unol â’r nodweddion

a restrir yn Atodiad III i’r Gorchymyn Cyngor 91/689/EEC ar gyfer gwastraff peryglus.*

Gwastraff Cartref Peryglus

Diffinnir hyn gan y Fforwm Gwastraff Cartref Peryglus Cenedlaethol fel defnyddiau sy’n cael

eu taflu gan gartref y mae’n anodd cael gwared arnynt, sy’n peryglu iechyd dynol neu’r

amgylchedd oherwydd eu natur gemegol neu fiolegol.*

Metel Trwm

Metel â phwysau atomig sy’n fwy na sodiwm (22.9) sy’n ffurfio sebon wrth gyffwrdd ag asid

saimllyd, e.e. aluminiwm, plwm, cobalt.

Gwastraff Cartref

Gwastraff o eiddo domestig, carafannau, cartrefi preswyl, adeiladau addysg neu eiddo sy’n

ffurfio rhan o ysbyty neu gartref nyrsio (Adran 75(5) o’r Ddeddf Diogelwch Amgylcheddol).

Mae’n cynnwys gwastraff a gesglir gan awdurdod casglu gwastraff, gwastraff a gludir i

ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref a gwastraff a gludir i gyfleusterau ailgylchu.

Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Cyfleuster a ddarperir gan yr awdurdod lleol sy’n agored i’r cyhoedd lleol i adael gwastraff

nad yw’n cael ei gasglu gan y casgliad gwastraff domestig arferol.

Hydrocarbon

Cyfansawdd organig yn cynnwys carbon a hydrogen. Daw’n bennaf o betroliwm, tar glo a

phlanhigion.

Gwastraff Dinewid

Gwastraff nad yw’n newid yn gorfforol, yn gemegol na’n fiolegol yn sylweddol. Fel a

ddiffiniwyd gan Orchymyn Treth Claddu Sbwriel 1995.

Llosgi

Proses o losgi gwastraff dan amodau rheoledig, gan adfer gwres a phŵer fel arfer, pan y

gelwir ef yn ynni o wastraff.

126

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Gwastraff Diwydiannol

Gwastraff o unrhyw ffatri neu eiddo a ddarperir cludiant cyhoeddus, gwasanaeth cyhoeddus

neu wasanaeth post (Adran 75(6) o’r Ddeddf Diogelwch Amgylcheddol).

Gwastraff Disymud

Gwastraff nad yw’n newid yn gorfforol, yn gemegol na’n fiolegol yn sylweddol ac eithrio

gwastraff arbennig (e.e. clai, concrid, tywod). Daw o waith dymchwel ac adeiladau’n bennaf.

Atal a Rheoli Llygredd

Atal neu lle nad yw hyn yn bosibl lleihau llygredd o ystod o waith diwydiannol ac eraill, gan

gynnwys rhai cyfleusterau rheoli gwastraff, drwy brosesau integredig sy’n seiliedig ar

ddefnyddio’r dulliau gorau sydd ar gael.*

Rheolaeth Integredig o Wastraff

Nifer o elfennau allweddol, gan gynnwys adnabod pob cam yn y broses rheoli gwastraff fel

rhan o’r cyfan, cynnwys pawb yn y broses benderfynu a defnyddio cymysgedd o ddewisiadau

rheoli gwastraff yn y system rheoli gwastraff yn gynaliadwy y penderfynwyd arni’n lleol.

Cyfleuster Compostio mewn Cynhwysydd (IVCF)

Grŵp amrywiol o ddulliau compostio lle cedwir y defnyddiau mewn adeilad, adweithydd neu

gynhwysydd.

Casgliad Ymyl Ffordd

Unrhyw gasgliad rheolaidd o wastraff neu bethau ailgylchadwy o eiddo, gan gynnwys

casgliadau o eiddo masnachol neu ddiwydiannol, ynghyd â chartrefi. Eithrir gwasanaethau a

gynigir yn ôl y galw.

Safle Claddu Sbwriel

Wedi ei ddiffinio yn y Gorchymyn Cyngor 1999/31/EC fel safle cael gwared ar wastraff lle

rhoddir y gwastraff yn neu ar y tir. Mae’r diffiniad yn cynnwys safleoedd lle mae

cynhyrchydd y gwastraff yn claddu yn yr un man lle cynhyrchir y gwastraff ac unrhyw safle

lle cedwir gwastraff dros dro a sefydlwyd fwy na blwyddyn yn ôl. Lleolir safleoedd claddu

sbwriel mewn hen chwareli neu byllau glo’n aml. Mewn ardaloedd lle nid oes llawer o le i

gladdu sbwriel, mae’r gwastraff yn cael ei adael ar wyneb y tir ac mae’r tirlun yn cael ei

newid i guddio hyn.*

Nwy Claddu Sbwriel

Cymysgedd o nwyon (methan a deuocsid carbon yn bennaf sy’n nwyon tŷ gwydr) a

gynhyrchir gan wastraff pydradwy sy’n cael eu rhoi ar safleoedd claddu sbwriel.

Treth Claddu Sbwriel

Cyflwynwyd hon yn y Gorchymyn Treth Claddu Sbwriel yn 1995. Codir treth safonol ar bob

tunnell o wastraff newidiol a dinewid a anfonwyd i’w gladdu. Anela’r dreth at annog

systemau mwy cynaliadwy a disgwylir iddi godi yn y blynyddoedd i ddod er mwyn gwneud

claddu sbwriel yn ddewis drud iawn. Gellir talu hyd at 20% o’r dreth fel credydau i gorff

ymddiriedolaeth amgylcheddol er mwyn cefnogi prosiectau sy’n gwella’r amgylchedd.

Trwytholch

Hylif a gynhyrchir ar safleoedd claddu sbwriel drwy doddi elfennau cemegol sy’n bresennol

yn y gwastraff neu sy’n cael eu creu wrth i’r gwastraff bydru â dŵr (neu hylifon eraill).

127

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Asesiad Cylch Bywyd (LCA)

Y dull o werthuso mewnbwn a gollyngiadau defnydd o ran bywyd cyfan cynnyrch, o gaffael y

defnydd crai, gwneud, dosbarthu, gwerthu, defnyddio, ailddefnyddio, cynnal a chadw,

ailgylchu a rheoli gwastraff. Gellir ystyried effaith amgylcheddol a chostau hefyd. Cyfeiria

dadansoddiad cylch bywyd at gasglu data i gynhyrchu rhestr ar gyfer asesiad cylch bywyd.

Cyfleuster Adfer Defnyddiau

Safle lle mae gwastraff ailgylchadwy adferedig yn cael ei wahanu’n fecanyddol neu â llaw

cyn ei ailbrosesu.

Triniaeth Fiolegol Fecanyddol

Cyn-driniaeth i sefydlogi gwastraff sy’n weddill cyn ei gladdu. Defnyddir cyfuniad o

brosesau mecanyddol a biolegol i sefydlogi’r gwastraffs.*

Lleihau

Lleihau swm y gwastraff lle caiff ei greu.

Gwastraff Dinesig Solet

Y llif gwastraff domestig, gwastraff o waith cynnal a chadw’r awdurdod lleol a gwastraff o rai

sefydliadau diwydiannol a masnachol a gesglir gan yr awdurdod casglu gwastraff.

Gwastraff Dinesig

Yn cynnwys gwastraff a gesglir gan yr awdurdod casglu gwastraff, megis gwastraff cartref,

sy’n dod o waith cynnal a chadw awdurdod lleol a gwastraff o rai sefydliadau masnachol.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Gweinyddiaeth ddatganoledig sydd â phwerau statudol yng Nghymru. Mae’n cynwys 60

aelod etholedig.*

Organig

Defnydd sy’n cynnwys carbon wedi ei gymysgu â hydrogen e.e. llysiau a phapur ond yn

gyffredinol sy’n cyfeirio at wastraff sy’n pydru neu’n torri i lawr yn gyflym.

Oson

Nwy y mae ei foleciwlau’n cynnwys tri atom ocsigen (O3). Mae haen o oson yn ffurfio’n

naturiol yn awyrgylch uchaf y Ddaear i rwystro ymbelydriad UVB a diogelwch’r biosffer.

Sylwedd sy’n Niweidio’r Oson

Sylwedd sy’n niweidio’r haen oson oherwydd atomau halogen rhydd. Rheolir y sylweddau

hyn gan Reoliad Cyngor 2037/2000 ar sylweddau sy’n niweidio’r haen oson.*

Gwastraff Pecynnu

Gwastraff a ddefnyddir i gwmpasu, diogelu, cludo a chyflwyno nwyddau. Cwmpasir hyn gan

Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb (Gwastraff Pecynnu) 1997. Mae’n orfodol i sawl

cwmni mawr gynorthwyo i ailgylchu ac adfer gwastraff pecynnu nawr er mwyn bodloni

targedau llym. Mae hyn yn arwain at ddiddordeb cynyddol mewn gwaith ailgylchu preifat.

Cyfranogiad

Cyfrannu at raglen ailgylchu neu rai neu bob un o’r defnyddiau a dargedir – gall gwmpasu

preswylwyr tai neu unrhyw un arall sy’n cynhyrchu gwastraff – o leiaf unwaith bob pedair

wythnos.

128

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Dangoswyr Perfformiad

Ffordd o fesur perfformiad mewn meysydd penodol at ddibenion monitro cynnydd tuag at

welliannau parhaus a galluogi asesu perfformiad cymharol.*

Llygredd/Difwynwr

Ychwanegu defnyddiau neu ynni at system amgylcheddol bresennol lle cynhyrchir effaith

amgylcheddol annymunol yn union neu’n anuniongyrchol.

Egwyddor Rhagofalon

Mae’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau’n defnyddio hon wrth reoli risgiau. Dylid cael

rhagofalon lle nad oes digon o dystiolaeth wyddonol neu lle bo hyn yn amwys neu’n ansicr a

lle mae arwyddion bod sail resymol i boeni am yr effaith ar yr amgylchedd, iechyd dynol,

anifeiliaid a phlanhigion ac nad oes digon o ddiogelwch yn bodoli.*

Cyfrifoldeb cynhyrchwyr

Gofynnir i gynhyrchwyr sy’n rhoi nwyddau neu ddefnyddiau ar y farchnad fod yn fwy

cyfrifol am y defnyddiau hyn pan fyddant yn dod yn wastraff. Mewn rhai achosion, gofynnir

i gynhyrchwyr leihau lefel y sylweddau peryglus yn eu cynnyrch a chynyddu’r defnydd o

ddefnyddiau ailgylchadwy a chynllunio cynnyrch y gellid ei ailgylchu.*

Egwyddor Agosrwydd

Dylid trin neu gael gwared ar wastraff mor agos â phosibl i’r man lle crëwyd y gwastraff yn y

lle cyntaf er mwyn gostwng y pellter y symudir y gwastraff.

Gwastraff Pydradwy

Gwastraff sy’n pydru ac sy’n creu is-gynnyrch sy’n gallu difwyno felly, ar ffurf hylif neu nwy

fel arfer.

Llosgi

Sef troi gwastraff i mewn i danwydd nwy neu hylif yn absenoldeb ocsigen ac ar dymheredd

cymharol isel, rhwng 400-800 °C. Gellir cynhyrchu’r tanwydd drwy newid amodau’r broses.

Ailddefnyddio

Defnyddio defnyddiau at ei bwrpas gwreiddiol neu bwrpas arall heb ailbrosesu.

Adfer

Tynnu defnyddiau â gwerth o lif gwastraff.

Adfer

Adfer gwerth adnodd o’r gwastraff naill ar ffurf defnyddiau crai neu ei werth ynni.

Ailgylchu

Ailbrosesu defnyddiau adferedig megis papur a gwydr i gyflwr lle gellir eu hailddefnyddio.

Cyfradd Ailgylchu

Canran cyfanswm y llif gwastraff a ailgylchir. Cyfradd cyfranogi a dal a swm y defnydd a

gesglir nad yw wedi ei ddifwyno.

Lleihau

Lleihau swm y gwastraff a gynhyrchir.

129

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Tanwydd a Geir o Wastraff (RDF)

Cynnyrch o brosesu gwastraff i belenni i’w llosgi mewn boileri diwydiannol. Mae’n cynnwys

tynnu elfennau nad ydynt yn llosgi o’r gwastraff – gwydr a defnydd disymud – tynnu’r

defnydd llosgadwy a’i drosi i belenni ac adfer metel cyn cael gwared ar y gwastraff sy’n

weddill.

Ailbrosesu

Trin defnyddiau ailgylchadwy neu gompostiadwy yn dilyn casgliad a phrosesu i baratoi

defnydd eilaidd sy’n cwrdd â manylion marchnad. Er enghraifft, creu pelenni plastig a

ailgylchwyd, papur ailgylchedig neu wydr glân neu gompostio gwastraff pydradwy.

Gweddill

Y gwastraff sy’n weddill, megis lludw, y mae angen cael gwared arno ar ôl iddi gael ei drin.

Cymysgedd Eilaidd

Defnyddiau a adferir o’r llif gwastraff y gellir eu hailddefnyddio ar ôl neu heb eu prosesu fel

cymysgeddau adeiladu yn lle defnyddiau crai fel gro neu greigiau o chwareli.

Hunangynaladwyedd

Delio â gwastraff yn y rhanbarth neu’r wlad lle crëwyd ef.

Gwahanu yn y ffynhonnell

Gwahanu defnyddiau ailgylchadwy o’r llif gwastraff cyffredinol lle cynhyrchir y gwastraff

(h.y. yn y cartref).

Gwastraff Arbennig

Gwastraff sydd ag elfennau peryglus penodol, a allai fod yn beryglus ac sy’n bodloni un o

nifer o brofion a amlinellwyd yn y Rheoliadau Gwastraff Arbennig 1996. Ni ellir cludo

gwastraff arbennig heb hysbysu Asiantaeth yr Amgylchedd ymlaen llaw.

Bag Goroesi

Sach blastig drwchus i gasglu defnyddiau ailgylchadwy. Mae preswylwyr yn llenwi’r bag, ei

roi yn y bin a chaiff ei gasglu gyda’r gwastraff cyffredinol. Tynnir y bagiau o’r gwastraff yn

fecanyddol neu â llaw mewn gorsaf drosglwyddo neu gyfleuster tebyg.

Datblygiad Cynaliadwy

Cwrdd ag anghenion y genhedlaeth hon heb niweidio’r amgylchedd nac atal cenedlaethau i

ddod rhag bodloni eu hanghenion a gobeithion eu hunain.

Gorsaf Drosglwyddo

Cyfleuster lle gosodir y gwastraff a gasglwyd mewn cerbydau mwy i’w cludo i gyfleusterau

rheoli gwastraff (megis safleoedd claddu). Defnyddir nhw er mwyn gostwng costau cludo a’u

heffeithiau. Maent yn adeiladau dan do ac yn gyfarpar codi fel arfer.

Triniaeth

Prosesau corfforol, thermol, cemegol neu fiolegol, gan gynnwys trefnu, sy’n newid

nodweddion y gwastraff er mwyn lleihau ei faint neu natur beryglus, hwyluso sut yr

ymdrinnir ag ef neu sy’n gwella ei adferiad.*

Cynllun Datblygu Unedol

Yn gosod allan polisïau defnydd tir yr ardal, gan gynnwys polisïau datblygiadau gwastraff.

130

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Lle Gwag

Lle sydd ar gael ar safle claddu sbwriel.

Gwastraff

Unrhyw sylwedd neu wrthrych y mae’r cynhyrchydd neu’r sawl sy’n ei ddal yn cael gwared

arno neu y gofynnir iddynt gael gwared arno.

Awdurdod Casglu Sbwriel (WCA)

Yn gyfrifol am gasglu gwastraff y cartref, ynghyd â gwastraff masnachol yn ôl y gofyn.

Cynghorau dosbarth, prifddinesig neu unedol yn Lloegr fel arfer.

Awdurdod Gwaredu Sbwriel (WDA)

Yn gyfrifol am osod contractau i gael gwared ar wastraff a gesglir gan awdurdodau casglu

gwastraff, darparu safleoedd amwynderau dinesig a thalu credydau ailgylchu. Cyngorau

dosbarth, prifddinesig neu unedol yn Lloegr fel arfer.

Twf Gwastraff

Twf yn swm y gwastraff a welir ledled y DU. Y twf cyfartalog yw 3% sy’n cyfateb â’r twf yn

y nifer o dai, economi ffyniannus a newidiadau mewn ffyrdd o fyw.

Hierarchaeth Gwastraff

Blaenoriaethau Llywodraeth y DU o ran gwastraff, gan ddechrau gyda lleihau, wedyn

ailddefnyddio, adfer (ailgylchu, compostio neu adfer ynni) ac ar y diwedd cael gwared. Mae’r

hierarchaeth yn ein galluogi i ystyried ac archwilio dewisiadau amgylcheddol ac economaidd.

Trwyddedu Rheolaeth Gwastraff

Y drefn reoleiddio sy’n ymwneud â chyflawni gweithgareddau rheoli gwastraff ar safleoedd

penodol a gyflwnwyd gan y Ddeddf Diogelwch Amgylcheddol y mae gan y ddau gyngor

gyfrifoldeb am ei gorfodi. Mae’n cynnwys gofynion yn ymwneud â chodi tâl am ddal

trwydded rheoli gwastraff ac atal dileu trwyddedau oni bai y cafwyd awdurdod gan

Asiantaeth yr Amgylchedd.

Llif Gwastraff

Sianelu’r gwastraff cartref i system o brosesu. Dechreua’r llif gwastraff yn y bin domestig a

daw i ben pan gaiff gwastraff ei gladdu, ei ailgylchu neu ei losgi.

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyfeirir ati’n aml fel y ‘Cynulliad’ yn y ddogfen hon. Mae’n cynnwys cabinet, gweinidogion

a gweithwyr sifil yn gweithio er mwyn gweinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru.*

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Yn cynrychioli holl awdurdodau lleol Cymru a bodola i wasanaethu ei haelodau a hybu

democratiaeth leol.

Rhenc

Pentwr hir o ddefnydd compostiadwy.

Dull WISARD

Meddalwedd dadansoddi cylch bywyd Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer rheoli gwastraff.

131

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

ATODIADAU

ATODIAD A: Sefyllfa Bresennol: Ystadegau Wrecsam

ATODIAD B: Arolwg Sbwriel Annibynnol

ATODIAD C: Gwerthuso Opsiynau – Cyfleusterau Ynni o Wastraff

132

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

STRATEGAETH RHEOLI GWASTRAFF

DINESIG

ATODIAD A

Sefyllfa Bresennol: Ystadegau Wrecsam

133

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Tabl A 1: Marchnad Lafur yn Wrecsam (%)

Economaidd weithredol

1999-2000 1

Cyfradd cyflogaeth 1999-

2000 1,2

134

Cyfradd diweithdra ILO

1999-2000 1,2

Deyrnas Unedig 78.5 73.8 6.0

Cymru 73.8 68.5 7.2

Wrecsam 73.9 68.9

Gwybodaeth o dueddiadau rhanbarthol 36. Swyddfa Ystadegau Genedlaethol 2001

1

Ar gyfer y rhai o oed gweithio. Daw’r data o’r arolwg gweithlu ac mae’n perthyn i’r cyfnod

Mawrth 1999 i Chwefror 2000

2

Fel canran o’r rhai sy’n economaidd weithredol

Tabl A 2: Data Poblogaeth Cyffredinol

Poblogaeth 129,300 (tybiaeth canol blwyddyn 2002)

Cartrefi 53,226 (rhestr brisio) 1

Canolfannau o Boblogaeth

Canol tref Wrecsam

“Pentrefi trefol” – Gresffordd/Merffordd, Llai,

Gwersyllt, Broughton, Brymbo, Brynteg,

Coedpoeth, Y Mwynglawdd, Bwlchgwyn/

Gwynfryn, Rhostyllen, Johnstown, Rhos/Penycae,

Rhiwabon, Cefn Mawr, Trefor, Froncysyllte, Y

Waun, Dyffryn Ceiriog, Bangor Is-coed, Owrtyn,

Holt, Marchwiel a’r Orsedd

Ardal 50,330 hectar neu 170 milltir sgwâr

1 Ffigwr gan y Swyddogion Prisio, Rhestr o Newidiadau. Canllawiau’r Comisiwn Archwilio

Tabl A 3: Manylion Data Tai

Cyfanswm yr anheddau 49,971

Nifer y cartrefi 48,200

Maint tŷ ar gyfartaledd 2.52

Deiliadaeth tŷ 48,017

Perchennog preswyl 29,070 60.5%

Rhentu’n breifat 2,238 4.7%

Rhentu ac yn gweithio 925 1.9%

Cymdeithas tai 979 2.0%

Awdurdod lleol 14,809 30.8%

Data o’r Cyfrifiad Poblogaeth 1991, nid oes gwybodaeth fwy diweddar ar gael ar hyn o bryd

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

STRATEGAETH RHEOLI GWASTRAFF

DINESIG

ATODIAD B

Arolwg Sbwriel Annibynnol

135

1 Cyflwyniad

Cefndir

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canlyniadau arolwg gwirio system archwilio a rheoli

amgylchedd lleol (LEAMS) a wnaed gan Cadwch Gymru’n Daclus ym Mwrdeistref Sirol

Wrecsam ar 15/16 Gorffennaf 2003.

Ardal yr Arolwg

Arolygwyd sampl ar hap o 6% o strydoedd a safleoedd gweithredol yn y categorïau 1, 2 a 3

(fel a ddiffiniwyd gan y côd ymarfer ar sbwriel) ledled Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dim ond yr ardaloedd y mae gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb uniongyrchol am eu glanhau a

arolygwyd. Eithriwyd ardaloedd megis meysydd parcio preifat a thir y mae cyrff eraill yn

gyfrifol amdano o’r arolwg.

2 Arolwg Glendid

Amcan yr Arolwg

Anelodd yr arolwg at nodi a chofnodi’r sbwriel a welwyd a’i ffynonellau ym mhob un o’r

strydoedd. Caniataodd y wybodaeth hon i ni gyfrif mynegai glendid sylfaenol ar gyfer yr

ardal i’w ail-aesu’n achlysurol a chanran y strydoedd o safon uchel neu dderbyniol. Mae’r

ffigwr olaf hwn yn ddangosydd perfformiad sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Yn ogystal, sylwyd ar nifer o ddangoswyr ansawdd amgylcheddol drwg ac adroddwyd arnynt.

Methodoleg yr Arolwg

Arolygwyd un darn 50 metr o bob stryd ar hap. Lle roedd cyfanswm hyd stryd yn fwy na 500

metr, cynyddwyd y darnau a arolygwyd. Aseswyd pob darn drwy ddefnyddio’r meini prawf

canlynol:

• Gradd glendid

• Dangoswyr ansawdd amgylcheddol drwg (AEQI) (absenoldeb/presenoldeb)

Baw cŵn

Graffiti

Fandaliaeth

Gosod posteri

Chwyn

• Biniau sbwriel (cyfrif)

Cyfanswm y biniau a’r nifer sy’n orlawn

136

• Ffynhonnell sbwriel:

Cerddwyr/unigolion

Gwastraff busnes

Gwastraff domestig

Gwastraff adeiladu

Baw anifeiliaid

Arall

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Arolygwyd safleoedd gweithredol (prysur) yn ôl yr un meini prawf. Mae’r safleoedd hyn yn

cynnwys meysydd parcio, mannau chwarae i blant a mannau agored cyhoeddus, lle maent dan

reolaeth uniongyrchol yr awdurdod lleol. Mae’r cyfrifoldeb am lanhau’r ardaloedd hyn yn

nwylo adran arall o’r awdurdod lleol yn hytrach na’r adran sy’n gyfrifol am lanhau strydoedd

a ffyrdd.

Graddau Glendid

Graddiwyd pob darn yn unol â’r system a amlinellwyd yn y côd ymarfer ar sbwriel. Mae’r

graddau glendid fel a ganlyn:

Gradd A Dim sbwriel

Gradd B Yn bennaf rydd o sbwriel – ar wahân i eitemau bach

Gradd C Dosbarthiad helaeth o sbwriel â rhai mân-bentyrrau

Gradd D Llawer iawn o sbwriel a phentyrrau sylweddol

Mae gradd A yn safon y dylai system ysgubo/casglu sbwriel gonfensiynol ei gyflawni.

Dangoswyr Ansawdd Amgylcheddol Drwg

Nodwyd absenoldeb neu bresenoldeb a maint y dangoswyr ansawdd amgylcheddol drwg

canlynol yn ystod yr arolwg:

• Baw cŵn

• Graffiti

• Gosod posteri heb ganiatâd

• Fandaliaeth

• Chwyn

137

Biniau Sbwriel

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Biniau sbwriel yw’r rhai a ddefnyddir gan y cyhoedd. Nid ydynt yn finiau domestig nac yn

finiau ag olwynion neu fagiau sbwriel a roddir ar ymyl ffordd ar gyfer y casgliad arferol.

Cyfrifwyd yr holl finiau sbwriel a oedd yn bresennol ar y darnau a arolygwyd a nifer y rhai a

oedd yn orlawn.

Ffynonellau Sbwriel

Nodwyd ffynonellau sbwriel ar bob darn o stryd a arolygwyd fel a ganlyn:

• Cerddwyr/unigolion

• Gwastraff busnes

• Gwastraff domestig

• Gwastraff adeiladu

• Baw anifeiliaid

• Arall

Lluniau

Tynnwyd lluniau fel tystiolaeth o’r AEQI a oedd yn bresennol ac i gynrychioli pob gradd a

gofnodwyd. Tynnwyd lluniau o’r nifer o nodweddion diddorol yn yr ardaloedd cyfagos

hefyd.

Sylwadau

Cwblhawyd y darn sylwadau yn y ffurflen arolwg er mwyn cael gwell fewnwelediad i unrhyw

broblemau penodol mewn ardal. Cofnodwyd manylion pellach am y math o wastraff a

welwyd yn y darn hwn e.e. natur y sbwriel a ddiffiniwyd fel ‘sbwriel arall’.

Mynegai Glendid

Mae mynegai glendid yn caniatáu i ni barhau i gymharu asesiadau o arolygon dilynol.

Cyfrifwyd mynegai glendid o’r graddau glendid (A-D) a gafwyd ar gyfer pob darn a

arolygwyd.

138

3 Canlyniadau

Mynegai Glendid

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Y sgôr mynegai glendid cyffredinol ar gyfer strydoedd a mannau prysur ym Mwrdeistref Sirol

Wrecsam ar adeg yr arolwg hwn oedd 71.8 ynghyd â mynegeion unigol o 72.1 a 66.7 ar gyfer

strydoedd a mannau prysur yn eu tro. Gellir defnyddio’r ffigyrau hyn i gymharu â gweddill y

Fwrdeistref Sirol.

Graddau Glendid

Gosodir dosbarthiad y graddau a gofnodwyd ar draws yr arolwg yn Nhabl 1 a 2 a

chynrychiolir nhw yn Ffigwr 1 isod:

Tabl 1

Gradd Nifer y

darnau stryd

A 21 16.3

B 108 83.7

C 0 0

D 0 0

139

% y darnau stryd a

arolygwyd

Nodwyd bod 50 o’r darnau stryd a gafodd radd B yn lân iawn er nid heb sbwriel yn gyfan

gwbl. Ni chofnodwyd unrhyw strydoedd fel graddau C neu D. Ni welwyd llawer o fannau

prysur yn ystod yr arolwg ond cofnodwyd pob un a welwyd yn radd B.

Roedd canran y strydoedd a gofnodwyd fel safon uchel neu dderbyniol o lendid, fel sy’n

ofynnol gan ddangosydd perfformiad Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn 100%.

Tabl 2

Gradd Nifer y

mannau

prysur

A 0 0

B 7 0

C 0 0

D 0 0

% y mannau prysur a

arolygwyd

Ffigwr 1

%age of transects

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

100

90

80

70

60

50

40

30

20

10

0

Percentage split of cleanliness grades in streets and

functional sites

16.3

83.7

Dangoswyr Ansawdd Amgylcheddol Drwg (AEQI)

Mae’r dangoswyr hyn yn nodi gostyngiad cyffredinol mewn ansawdd amgylchedd lleol. Mae

canfyddiad y cyhoedd o ansawdd yr amgylchedd yn gostwng ar y cyd â’r ffactorau hyn hefyd.

Nodwyd y dangoswyr hyn fel bod yn bresennol neu’n absennol yn ystod yr arolwg. Yn

wahanol i sbwriel, ni roddwyd gradd i’r eitemau hyn ac felly nid yw eu presenoldeb yn rhoi

arwydd mesuradwy o faint y broblem. Mae Tabl 3 a Ffigwr 2 isod yn crynhoi’r dangoswyr

drwg a welwyd yn yn ystod yr arolwg.

Tabl 3 Dangoswyr ansawdd amgylcheddol drwg a welwyd ar strydoedd

AEQI Nifer y

darnau

Baw cŵn 11 8.5

Fandaliaeth 0 0

Graffiti 1 0.8

Gosod posteri 1 0.8

Chwyn 37 28.7

0

0

140

0

100

Streets Functional Sites

0

% y darnau stryd a

arolygwyd

0

A

B

C

D

Ffigwr 2

Baw Cŵn

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Gwelwyd baw cŵn ar 8.5% (11 tro) o’r darnau stryd a arolygwyd.

Fandaliaeth

Ni welwyd fandaliaeth ar y darnau a arolygwyd. Cynhwyswyd hyn er gwybodaeth yn unig ac

nid oedd yn rhan o’r arolwg.

Graffiti

Gwelwyd graffiti ar 0.8% o’r darnau stryd, sef un achlysur.

Gosod Posteri

Gwelwyd posteri wedi eu gosod heb ganiatâd ar 0.8% o’r strydoedd ond ni welwyd hyn yn y

mannau gweithredol/prysur a arolygwyd. Yr unig achlysur oedd sticer yn hysbysebu

gwasanaethau band eang.

Chwyn

100%

80%

60%

40%

20%

0%

Dosbarthiad AEQI ar gyfer Strydoedd a Mannau Prysur

Street Functional Sites

Gwelwyd chwyn ar ychydig llai na 30% o’r strydoedd. Mae chwyn mawr yn gallu dal

sbwriel a rhwystro glanhau.

141

Weeds

Fly-posting

Graffiti

Vandalism

Dog Fouling

100

90

80

70

60

50

40

30

20

10

0

Biniau Sbwriel

Tabl 4

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Strydoedd Mannau Prysur

Nifer y biniau % o’r biniau Nifer y biniau % o’r

biniau

Biniau sbwriel 7 - 0 -

Biniau oedd yn orlawn 0 0 0 0

Gwelwyd y rhan fwyaf o’r biniau sbwriel a gofnodwyd yn yr arolwg yng nghanol tref

Wrecsam. Yn ogystal, cofnodwyd 2 fin sigarets yng nghanol tref Wrecsam.

Ffynonellau Sbwriel

Mae Tabl 5 a Ffigwr 3 isod yn crynhoi’r ffynonellau a welwyd yn ystod yr arolwg.

Tabl 5

Ffynhonnell Nifer y

darnau

Strydoedd Mannau prysur

% o’r darnau a

arolygwyd

142

Nifer y

darnau

Cerddwyr/unigolion 98 76.0 7 100

Gwastraff busnes 14 10.9 0 0

Gwastraff domestig 3 2.3 0 0

Gwastraff adeiladu 1 0.8 0 0

Baw anifeiliaid 11 8.5 0 0

Arall 4 3.1 0 0

Ffigwr 3

76

10.9

2.3 0.8

8.5

3.1

100

% o’r darnau

a arolygwyd

Ffynonellau Sbwriel a Welwyd ar Strydoedd a Mannau Prysur

0 0 0 0 0

Streets Functional Sites

Pedestrian/Individual Business Waste Domestic Waste

Construction Waste Animal Faeces Other

Gwastraff cerddwyr

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Roedd gwastraff cerddwyr yn ganran fawr o’r gwastraff a welwyd.

Gwastraff Domestig

Sylwyd ar wastraff domestig ar ychydig mwy na 2% o’r strydoedd.

Gwastraff Adeiladu

Gwelwyd gwastraff adeiladu ar un ddarn ac roedd o ganlyniad i waith adeiladu heb ei glirio’n

gyfan gwbl.

Baw Anifeiliaid

Mae’r baw a gofnodwyd yn ymwneud â baw cŵn yn unig. Ni welwyd unrhyw fathau eraill.

Gwelwyd hyn ar 8.5% o’r darnau stryd.

Arall

Gwelwyd gwastraff arall ar ychydig mwy na 3% o’r strydoedd a chynwysodd fatri car a cês a

daflwyd i ffwrdd gan y perchnogion.

4 Casgliadau a Sylwadau

• Y mynegai glendid cyffrediol ar gyfer strydoedd a mannau prysur ym Mwrdeistref Sirol

Wrecsam ar adeg yr arolwg oedd 71.8 gyda sgorau unigol o 72.1 ar gyfer strydoedd a 66.7

ar gyfer mannau prysur.

• Roedd canran y strydoedd a gofnodwyd â safon uchel neu dderbyniol o lendid, fel sy’n

ofynnol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 100%.

• Gwelwyd bod y rhan fwyaf o’r darnau stryd (83.7%) yn radd B. Nodwyd bod hanner o’r

rhain yn lân iawn ond heb gyrraedd gradd A.

• Daw’r rhan fwyaf o’r gwastraff a welwyd yn ystod yr arolwg o unigolion nad oeddent

wedi cael gwared ar eu gwastraff yn y ffordd iawn.

Nodwyd sylwadau cyffredinol yn ystod yr arolwg er mwyn rheoli gwastraff yn yr ardal.

Mae’r canlynol yn grynodeb o’r pethau a nodwyd.

143

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

• Gostyngwyd graddau sawl stryd a gofnodwyd yn radd B oherwydd stympiau sigarets.

Mae’n bosibl y byddai ymgyrch a dargedir at bobl sy’n ysmygu i ddangos iddynt bod

stympiau sigarets yn sbwriel, ynghyd â rhaglen gorfodaeth, yn helpu i ymdrin â’r broblem

hon.

• Nodwyd bod malurion yn datblygu ar rai darnau o strydoedd a oedd yn arwain at chwyn.

Heb reolaeth, gallai hyn arwain at fwy o chwyn. Er nad yw malurion yn ffurfio rhan o

ofynion presennol y côd ymarfer ar sbwriel na dangosydd perfformiad Llywodraeth

Cynulliad Cymru, mae’n ofynnol dan ddangosydd perfformiad Gwerth Gorau Lloegr 199

ac mae’n bosibl y caiff hwn ei fabwysiadu yng Nghymru yn y dyfodol.

• Ar adegau, mae gwahanol dimau a gwahanol adrannau’n gyfrifol am lanhau ardaloedd

cyfagos a dylai cydweithrediad effeithiol rhwng adrannau’r Cyngor ein galluogi i ddelio

â’r problemau hyn.

• Nodwyd bod sbwriel yn cael ei ddal mewn mannau o gwmpas yr arolwg megis:

� yn a dan gratiau coed

� o gwmpas pyst golau

• Mae cyflwr y darn o’r ffordd i’r palmant ac o’r palmant i strwythurau cyfagos yn profi fod

yn broblem o ran sbwriel mewn rhai ardaloedd.

• Mewn arolwg ar hap fel hwn, er y gwelwn raddau A a B ar ddarnau penodol, gall

ddigwydd bod darnau cyfagos yn raddau C a D. Yn yr arolwg penodol hwn, ni

ddigwyddodd hyn.

144

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

STRATEGAETH RHEOLI GWASTRAFF

DINESIG

ATODIAD C

Gwerthuso Opsiynau –

Cyfleusterau Ynni o Wastraff

145

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Gwerthuso opsiynau ar gyfer technolegau ynni o wastraff

Daw technolegau ynni o wastraff i mewn i sawl categori eang. Cynlluniwyd un i broses

gwastraff “fel a dderbyniwyd ef” ac un i broses gwastraff a baratowyd neu danwydd a

gafwyd o sbwriel. Yn ychwanegol, mae technolegau traul anerobig yn prosesu wastraff

pydradwy a wahanwyd yn unig. Gall pob technoleg drosi gwastraff i ynni i greu dŵr

poeth, stêm neu drydan.

Traul Anerobig

Mae traul anerobig yn cynnwys bacteria’n pydru defnydd organig cymhleth yn

absenoldeb ocsigen mewn cynhwysydd caeëdig. Prif allbwn traul anerobig yw bionwy

sy’n llawn methan.

Mae gweddill cymharol sefydlog neu draul yn cael ei greu hefyd. Gellir defnyddio traul i

wella pridd er y bydd angen ei sefydlogi drwy ei gompostio cyn creu cynnyrch y gellir ei

werthu.

Defnyddir dau fath o facteria ar gyfer traul anerobig, mesoffilig a thermoffilig, sy’n

gweithredu ar wahanol dymheredd. Yr ystod dymheredd ar gyfer bacteria mesoffilig yw

35-37 o C a’r ystod ar gyfer bacteria thermoffilig yw 55-57 o C.

Mae prosesau thermoffilig yn ddrutach i’w sefydlu a’u cynnal oherwydd y tymheredd

gweithredu uwch. Mae mantais i brosesau thermoffilig gan eu bod yn sterileiddio

gweddillion ac yn creu mwy o fethan.

Un o brif allbynnau traul anerobig yw bio-nwy a ellir ei ddefnyddio mewn proses losgi i

gynhyrchu gwres a/neu bŵer. Y prif beth sy’n penderfynu swm y bio-nwy yw swm y

carbon yn y defnydd organig a brosesir. Pan fo’r defnydd hwn yn pydru, mae peth o’r

carbon yn dod yn rhan o ddefnydd cellog y microbau ac mae gweddill y carbon yn ffurfio

methan a deuocsid carbon. Po fwyaf anerobig y broses, y mwyaf o garbon sy’n cael ei

droi i mewn i fethan.

Defnyddiau sy’n Addas ar gyfer Traul Anerobig

I ddefnyddiau i fod yn addas ar gyfer traul anerobig, mae gofyn am fwy o ddŵr nag ar

gyfer defnyddiau i’w compostio. Felly, mae is-gynnyrch o fagu moch yn briodol.

Mae’r rhan fwyaf o draul anerobig a wneir yn y DU ar hyn o bryd ar gyfer llaid carthion.

Defnyddir y bio-nwy a gynhyrchir i gynhyrchu gwres a thrydan a ddefnyddir gan y

gwaith trin carthffosiaeth fel arfer. Gellir defnyddio’r defnydd organig sy’n weddill

wedyn i gompostio.

Gall rhai prosesau anerobig ddefnyddio gwastraff dinesig soled, fel arfer fel rhan o’r

gwaith traul anerobig. Bydd y math hwn o broses yn manteisio o beidio â gwahanu’r

gwastraff gwyrdd ymlaen llaw.

146

Manteision

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

✔ gellir prosesu defnyddiau organig eraill (megis papur a chardbwrdd) yn ogystal â

gwastraff gardd a gwyrdd: mae hyn yn ei gwneud yn haws rheoli safleoedd claddu

sbwriel drwy dynnu defnyddiau organig a allai fod yn broblemus.

✔ mae system gaeëdig yn galluogi’r holl nwy a gynhyrchir i gael ei gasglu i’w

ddefnyddio.

✔ gellir defnyddio’r bio-nwy fel tanwydd neu ffynhonnell pŵer yn dibynnu ar y

symiau a gynhyrchir.

✔ gellir defnyddio’r compost sy’n weddill i wella pridd neu fel rhan o broses

gompostio.

✔ mae llai o aroglau niwsans.

✔ costau gweithredu cymharol isel er bod angen tipyn o gyfalaf ar y cyfleusterau.

Anfanteision

✘ heb sefydlu hanes o drin unrhyw beth heblaw am garthffosiaeth a llaid perthynol.

✘ gall dŵr gwastraff gynnwys lefeleau uchel o fetel, nitrogen a doddwyd a

chymysgeddau organig.

Llosgi

Cynlluniwyd llosgwyr modern i gynhyrchu pŵer (ar ffurf trydan fel arfer) a gwres (ar

ffurf stêm) o’r broses losgi. Defnyddir boiler i gyflawni dwy brif dasg mewn cyfleusterau

ynni o wastraff, yn gyntaf oeri nwyon i leihau rhydu, pwysau thermol a ffurfio

cymysgeddau niweidiol fel deuocsin, a defnyddio’r ynni a gedwir fel gwres mewn nwyon

gwastraff. Mae dau brif fath o losgydd ar gael ar gyfer gwastraff dinesig – grât symud

neu wely hylifol.

Grât symud

Â’r dull hwn, bwydir y defnydd ar grât sy’n symud drwy’r siambr losgi. Mae’r defnydd

yn sychu i ddechrau ac yna mae’r defnyddiau anweddol yn cael eu llosgi. Mae

chwistrellu aer eilaidd yn helpu i losgi’r nwyon sy’n dianc sy’n cael eu trin cyn eu

gollwng. Cesglir y lludw sy’n weddill ar ddiwedd y grât a cheir gwared arno.

Mae’r grât symud yn system gyffredin ledled y byd ar gyfer trin â gwastraff dinesig

soled. Y tri math mwyaf cyffredin yw’r grât sy’n rholio, y gogwydd neu’r grât

dychweliadol sy’n amrywio yn ôl y ffordd y cymysgir y defnydd ac y llosgir y defnydd

yn ystod y broses felly.

Manteision

✔ dull profedig sy’n gallu derbyn pethau swmpus.

147

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

✔ llai o gronynnau yn y nwyon gollwng.

✔ nid oes angen trin y defnydd ymlaen llaw.

✔ gall prosesu symiau mawr o ddefnyddiau.

Anfanteision

✘ costau cynnal a chadw’r sawl darn symud.

✘ gall yr haen o olosg atal llosgi gwrthrychau mwy os nad yw’r defnyddiau’n cael eu

cymysgu’n iawn.

Gwely hylifol

Gyda’r dull hwn, chwistrellir y defnydd i mewn i wely hylif o ddefnydd poeth (tywod fel

arfer). Mae llif o aer o blât mandyllog yn ehangu a hylifo’r gwely. Gellir cyflwyno

tanwydd a geir o sbwriel, hylif neu nwy i’r gwely a’u llosgi. Mae’r llif aer yn tynnu’r

cynhyrchion llosgi i’w trin cyn cael gwared arnynt. Tynnir lludw i ffwrdd o waelod y

siambr.

Mae’r mathau sydd ar gael fel a ganlyn: byrlymol (system symlaf), troi (cynllun siambr

gwahanol) a chylchredeg (tynnir y gwely tywod o’r siambr ac ailgyflwynir ef drwy

seiclon).

Manteision

✔ yn ddigon hyblyg i dderbyn defnyddiau soled, hylif a nwy (gan gynnwys llaid

carthffosiaeth).

✔ syniad syml heb lawer o ddarnau symud.

✔ wyneb gwresogi effeithiol mawr oherwydd wyneb mawr y gwely.

✔ mae’r gwely’n storio llawer o wres i ymdopi ag amrywiaethau yn y cyfraddau

bwydo a’r cymysgeddau.

✔ mae tywod yn torri defnyddiau i lawr sy’n eu helpu i losgi.

✔ gall y seiclon ailgylchu defnyddiau hyd nes iddynt losgi i ronynnau bach iawn.

✔ gall effeithiolrwydd llosgi uchel a’r amser yn y parth tymheredd cymharol isel

leihau lefel y deuocsin sy’n ffurfio.

✔ mae tymheredd is yn gostwng ffurfiad ocsid nitrogen.

Anfanteision

✘ absenoldeb profiad gwaith tymor hir – dull cymharol newydd ar gyfer gwastraff

dinesig, yn fwy cyffredin ar gyfer defnyddiau arbenigol.

148

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

✘ angen bod yn ofalus wrth fwydo i atal torri’r siambr drwy rydiad neu adweithiau.

Er enghraifft, gall gormod o wydr neu aliminiwm doddi a ffurfio crynoadau yn y

gwely. Gall gormod o ddŵr mewn defnyddiau’n fod yn broblem hefyd.

✘ gall tywod dreulio leinin y siambr os na rheolir patrymau llifo.

✘ angen paratoi (2 ddiwrnod i gychwyn) a chynnal a chadw’r gwely.

✘ costau pŵer mewnol uchel.

Mewnbynnu Defnyddiau

Mae cynllun penodol cyfleuster ynni o wastraff neu losgi’n dibynnu ar fath a nifer y

defnyddiau y mae’n eu prosesu. Mae enghreifftiau’n cynnwys gwastraff dinesig soled

cymysg a defnyddiau unigol gan gynnwys teiars, cemegau hylifol, cyrff meirw, plastig,

pren neu belenni tanwydd a geir o sbwriel.

Wrth gynllunio cyfleuster, mae’n bwysig cael tybiaeth resymol o gyfansoddiad

defnyddiau, ynghyd â gollyngiadau disgwyliedig, a gynhyrchir drwy’r dull llosgi (yn

seiliedig ar enghreifftiau cymharol). Mae’n bwysig mesur y defnyddiau sydd ar gael ar

gyfer y cyfleuster er mwyn cael y defnydd gorau ohono.

Adfer Ynni

O ganlyniad i’r tymheredd is y gall y boiler ei oddef (oddeutu 400 o C), mae’n llai

effeithlon o ran creu trydan na chynhyrchiant sy’n cael ei danio gan lo; defnyddia

llosgwyr oddeutu 25% o’r allbwn gwres o’i gymharu â 40-50% mewn gwaith pŵer

arferol. Gellir cynyddu effeithlonrwydd y gwaith os defnyddir y gwres gwastraff mewn

cynllun gwres a phŵer cyfunedig yn ogystal â chynhyrchu trydan. Gellir defnyddio’r

pŵer a’r gwres mewn systemau ‘gwres dosbarth’ gan ddiwydiannau, masnach neu

gartrefi. O ran yr amgylchedd, mae’n ddymunol defnyddio cymaint o wres â phosibl yn

hytrach na’i ryddhau i’r aer (fel nwy poeth) neu i ddyfrffyrdd (ar ffurf oeri dŵr).

Cynnych sy’n weddill

Mae llosgi’n creu cyfuniad o gynhyrchion soled a nwy ac mae gan gyfleusterau llosgi

modern amrywiaeth o ddyfeisiau rheoli (neu leddfu) llygredd sy’n ceisio lleihau swm y

cynnyrch a ryddheir i’r awyr.

Defnyddir amrywiaeth o dechnolegau i ‘lanhau’ y nwyon gollwng a’r gronynnau soled

cyn eu rhyddhau i’r awyr o’r simnai tal. Cynhyrchir lludw fel is-gynnyrch llosgi hefyd –

gellir defnyddio lludw fel cymysgedd eilaidd yn hytrach na’i gladdu. Gall y dyfeisiau

rheoli llygredd fod cymaint â 50% o gost cyfleuster newydd. Dyma lle mae economïau

graddfa’n fwyaf perthnasol gyda’r gost o reoli llygredd yn atal sefydlu cyfleusterau llai.

149

Nwyo/Llosgi

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Mae nifer o ffurfiau eraill o ynni o wastraff lle nad oes angen llosgi gwastraff yn

uniongyrchol. Yn wahanol i losgi ar raddfa fawr, nid yw’r dulliau hyn wedi cael eu profi

ar gyfer rheoli gwastraff dinesig yn y DU. Fodd bynnag, gallai rhai o’r prosesau hyn

helpu i leihau’r gollyngiadau a’r gweddillion sy’n gysylltiedig â thrin gwastraff yn

thermol a gallent ddechrau chwarae rôl bwysicach yn y broses rheoli gwastraff yn y

dyfodol.

Mae defnyddio technolegau nwyo a llosgi i drin gwastraff wedi denu cryn dipyn o sylw’n

ddiweddar. Mae llosgi’n golygu dadelfennu defnyddiau i mewn i danwydd nwy neu

hylif heb ocsigen ar dymheredd gweddol isel. Mae nwyo’n golygu dadelennu defnyddiau

heb ocsigen ar dymheredd uwch. Nwyo awyr yw’r dechnoleg fwyaf poblogaidd gan ei

fod yn creu cynnyrch nwy unigol yn effeithiol iawn. Mae nwyo’n cynhyrchu nwy sydd â

gwerth gwresogi is na llosgi ond mae’r broses yn gofyn am fewnbwn o ynni.

Mae llawer o brosesau’n cyfuno nwyo a llosgi i gynhyrchu nwy â gwerth gwresogi uwch

dan amodau mwy rheoledig. Cynhyrchir cymysgedd o danwydd nwy, hylif a soled. Yn

y ddwy broses, cynhyrchir gweddillion a gellir llosgi cynnyrch tanwydd i gynhyrchu

gwres a phŵer neu gellir defnyddio’r nwy ar gyfer peiriannau nwy.

Manteision

✔ potensial ar gyfer gollyngiadau isel.

✔ mae creu tanwydd nwy neu hylif yn helpu i drosi’r cynnyrch i drydan.

✔ mae potensial i drosi’r cynnyrch i ddefnyddiau gwerth uwch e.e. tanwydd cludiant

a defnyddiau crai cemegol.

✔ yn gymwys ar gyfer ardystiad rhwymedigaeth adnewyddu (‘technoleg flaengar’).

Anfanteision

✘ mae angen system glanhau nwy s’n debyg i gyfleuster ynni o wastraff er ar raddfa

lai oherwydd y gollyngiadau llai.

✘ technoleg gymharol newydd ac nid oes gwaith ar raddfa lawn ar gael yn y DU er

mwyn sefydlu costau cysylltiedig.

✘ gall tar a sylweddau eraill achosi problemau i’r pibellau; gwneud drwg i wynebau

trosglwyddo gwres neu achosi problemau i systemau glanhau nwy. Ychydig iawn

o weithfeydd sy’n gweithredu i 100% o’u gallu llawn.

Gan mai nifer fach o weithfeydd bach sydd yn y DU ar hyn o bryd, bydd raid ystyried

gweithfeydd yn Ewrop. Fodd bynnag, mae’r amodau gwleidyddol a deddfwriaethol yn

wahanol iawn ac mae’n anodd cymharu costau felly.

150

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Defnyddiau sy’n addas ar gyfer Cynhyrchu Ynni

Mae gwahaniaethau sylweddol yn y mathau o ddefnyddiau a ellir eu defnyddio gan

losgydd yn hytrach na chyfleuster nwyo. Mae’r cyfleuster nwyo’n gofyn am broses

gwahanu a pharatoi’n gyntaf (yn debyg i losgwyr gwely hylif) ac yn gofyn i ddefnyddiau

fod o faint penodol.

Gellir llosgi neu nwyo llaid carthffosiaeth er y bydd gofyn tynnu’r dŵr ohono cyn

dechrau er mwyn cynyddu gwerth calorïau’r carthffosiaeth.

Os eir â gwastaff dinesig soled heb ei wahanu i gyfleuster llosgi, mae’n debygol o

fanteisio o dynnu’r gwastraff gwyrdd cyn dechrau gan fod llawer o ddŵr yn y math hwn

o wastraff.

Mathau Eraill o Ynni o Wastraff:

Mae nwy claddu’n digwydd yn naturiol lle ceir gwared ar wastraff domestig a masnachol

ar safleoedd sbwriel penodol. Wrth i’r defnydd organig bydru, mae’n creu bio-nwy sy’n

llawn methan. Mae’n cynnwys oddeutu 55% o fethan a 45% o ddeuocsid carbon. Y

methan sy’n werthfawr fel ffynhonnell ynni ar gyfer gwres a phŵer.

Cesglir y nwy hwn o safleoedd claddu drwy drilio tyllau i mewn i’r safleoedd a chasglu’r

nwy drwy bibellau. Cynhyrchir y nwy o fewn blwyddyn o’i gladdu a gellir parhau i’w

gasglu am sawl blwyddyn wedi hynny.

Y defnydd amlaf o nwy claddu yw cynhyrchu trydan. Mae hyn yn cynnwys llosgi’r nwy

mewn peiriant tanio fel arfer. Gellir defnyddio twrbinau nwy hefyd ond mae’r rhain yn

llai poblogaidd oherwydd eu bod yn gofyn am gyflenwad pwysedd uchel.

Ac eithrio cynhyrchu trydan, gellir defnyddio’r nwy o danio llosgwyr, ffwrneisi ac

odynnau. Gall ddarparu gwres uniongyrchol e.e. mewn tai gwydr. Mewn rhai achosion,

defnyddir ef fel tanwydd i’r cerbydau sy’n gweithio ar safleoedd cladd sbwriel.

Adfer Nwy Claddu

Manteision

✔ llai o ollyngiadau o nwy tŷ gwydr.

✔ ffordd llai costus o gael gwared ar wastraff.

✔ gellir defnyddio’r nwy ar gyfer creu pŵer neu fel tanwydd domestig (gan gynnwys

y potensial am CHP).

Anfanteision

✘ proses adfer ynni aneffeithiol sy’n cael dim ond 30-40% o gyfanswm y nwy a

gynhyrchir. Mae nwy’n dianc i’r awyr (ffynhonnell bwysig o ddau nwy tŷ gwydr

– deuocsid carbon a methan).

151

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

✘ nid yw defnyddio methan yn ddefnyddiol ar gyfer safleoedd ynysig.

✘ gall y gost o drin y nwy er mwyn ei uwchraddio fod yn uchel.

✘ gall y nwy ffrwydro oherwydd datblygiad crynoadau o fethan yn yr awyr.

Defnyddiau Ynni:

Gwres a Phŵer Cyfunedig (CHP)

Mae gwres a phŵer cyfunedig yn wahanol i ynni o wastraff confenisynol gan ei fod yn

defnyddio ynni i gynhyrchu trydan a dŵr poeth. Mae’n sicrhau cynhyrchiad gwres a

thrydan yn yr un broses ac mae’n ddull effeithiol iawn o gynhyrchu trydan a gwres yn y

man defnydd. Mae’r cynyddiadau effeithlonrwydd yn digwydd drwy adfer gwres ac atal

colli ynni. Gellir harneisio’r gwres a adferir ar gyfer amrywiaeth o ddibenion megis

gwresogi prosesau diwydiannol ynghyd â chynlluniau gwresogi cymunedol a gwresogi

gofod gwag.

Mae’r Llywodraeth wedi gosod targed ar gyfer CHP erbyn 2010 yn ei “Strategy for

Combined Heat and Power to 2010” (drafft ymgynghorol cyhoeddus, 15 Mai 2002) sef:

� gosod gallu o 10,000 MWe o CHP o ansawdd uchel o leiaf.

Buddion CHP

Gwresogi cymunedol yw un o’r dulliau mwyaf cost-effeithol ac amgylcheddol gyfeillgar

o ddarparu gwres. Golyga gwell effeithlonrwydd lai o ollyngiadau o ddeuocsid carbon ac

mae hyn yn helpu awdurdodau lleol i gwrdd â’u hymroddiadau Agenda 21 Leol a’r

Ddeddf Gwarchod Ynni yn y Cartref. Mae’r buddion i awdurdodau lleol (o gymharu â

defnyddio boileri unigol) fel a ganlyn:

✔ Gostwng costau cyfalaf a chynnal a chadw – golyga symlrwydd y cyfnewidwyr

gwres a osodir ym mhob un o’r adeiladau cysylltiedig fod llai o gostau cynnal a

chadw a gweithredu.

✔ Arbed lle – nid oes angen cymaint o le ar y cyfnewidwyr gwres o’u cymharu â

boileri arferol. Mae hyn yn caniatáu i le gwerthfawr gael ei ddefnyddio’n fwy

effeithiol.

✔ Cynyddu effeithlonrwydd – golyga effeithlonrwydd da’r cyfnewidwyr nad yw’r

colledion a geir gan foileri arferol yn digwydd. Felly, telir am yr ynni defnyddiol

yn unig.

Golyga tanwydd rhatach y gall tenantiaid fforddio i gadw eu cartrefi’n gynnesy sy’n

gostwng y difrod a achosir gan anwedd a lleithder. Mae hyn yn arwain at lai o gwynion

a lefel uwch o fodlonrwydd ymysg tenantiaid.

152

CHP a’i Effaith ar y Gymuned Leol

Strategaeth Rheoli Gwastraff Dinesig

Gellid cynnwys gwresogi cymunedol mewn ardaloedd difreintiedig i sicrhau gwres rhad

i’r preswylwyr.

Mae gwresogi cymunedol yn gweithio orau lle mae digon o dai ac felly llwyth gwres

uchel. Mae’r Llywodraeth wedi cydnabod y bydd raid rhoi peth cefnogaeth i gynlluniau

gwresogi yn y tymor byr. Mae wedi darparu ychydig o arian felly i ddatblygu,

adnewyddu ac estyn systemau gwresogi cymunedol drwy ei rhaglenni tai (ar gyfer

awdurdodau lleol) a rhai mentrau eraill megis yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a’r

Gronfa Ynni Cymunedol sydd wedi bod ar gael ers Ebrill 2002.

Fel canllaw, gall 15MW o ynni thermol gyflenwi gwres i 7,500 annedd. Dosbarthir dŵr

poeth drwy bympiau a rhwydwaith o bibellau, sef y rhwydwaith dosbarthu. Mae gosod

rhwydwaith dosbarthu’n gostus. Fodd bynnag, mae modd gostwng y costau hyn drwy

gyfuno’r rhaglen gosod ac ailddatblygu a defnyddio’r lle i leihau costau tarfu.

Crynodeb

Mae gan bob un o’r technolegau ei fanteision ac anfanteision a bydd raid ystyried sawl

ffactor wrth werthuso. Y prif ffactor yw gofynion y farchnad ynni am yr ynni i’w brynu.

Dylid cydnabod hefyd nad yw prosesau nwyo a llosgi wedi datblygu eto ac nad oes

llawer o gyfleusterau ar raddfa fasnachol. Mae technolegau llosgi ar raddfa fawr wedi eu

sefydlu ers blynyddoedd ac mae ganddynt sawl blwyddyn o brofiad gweithredu.

Mae cyfleusterau YoW yn mynnu llawer o gyfalaf a dyma’r broses rheoli gwastraff

ddrutaf o ran costau cyfalaf – a fesurir fel £ y tunnell. Mae’r costau cyfalaf hyn yn

gostwng wrth i allu cyffredinol y cyfleuster gynyddu. Mae hyn yn arwain at ddatblygiad

cyfleusterau mawr sy’n cael gwastraff nifer o gymunedau. Ni roddir costau’r gwahanol

brosesau gan fod cyfrif costau’n dibynnu ar sawl peth. Bydd costau gwahanol

weithfeydd sy’n defnyddio’r un prosesau’n amrywio yn ôl maint a manylion.

Nid yw cyfleusterau YoW yn arbennig o sensitif i newidiadau mewn cyfansoddiad

gwastraff. Fodd bynnag, mae cost cyfalaf uchel y cyfleusterau’n arbennig o sensitif i

ostyngiadau yn swm y gwastraff a brosesir. Gall y cyfleuster YoW geisio ymdrin â hyn

drwy leihau, ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio. O ganlyniad, mae rhai taleithiau yn

UDA wedi gwahardd rhai defnyddiau rhag cael eu llosgi, megis gwastraff gardd, papurau

newydd, cardbwrdd, cynhwyswyr, batris, ayb. Mae cyfuno YoW ag ailgylchu a/neu

gompostio’n sefyllfa effeithiol gan fod gwastraff â gwerth gwresogi isel, megis gwastraff

cegin a defnyddiau nad ydynt yn llosgi megis metel a gwydr, wedi cael eu tynnu o’r llif

gwastraff, i greu tanwydd glanach a mwy cyson.

Mae gallu proses benodol i ddefnyddio defnydd fel defnydd crai’n dibynnu ar fanylion y

cyfarpar a ddefnyddir gan fod ystod eang iawn o gyfarpar ar gael ar gyfer traul anerobig a

chynhyrchu ynni. Gallai ddibynnu hefyd ar natur y defnydd a ddefnyddir gan fod gan rai

defnyddiau gyfansoddiad gwahanol iawn. Gall yr amrywiaeth hon ddigwydd rhwng

ffynonellau neu o un ffynhonnell dros amser.

153

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!