Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Adroddiad
Blynyddol
2019-20
22-23 Y Maes
Caernarfon LL552NA
www.gisda.org
gisda@gisda.co.uk
01286 671153
Sefydlwyd GISDA ym 1985 er mwyn cynnig lloches a
chefnogaeth i bobl ifanc digartref yn ardal Arfon. Ers hynny
mae GISDA wedi datblygu nifer o brosiectau gwahanol ac bellach
yn elusen sydd yn darparu cefnogaeth dwys a chyfleoedd i bobl
ifanc rhwng 14 a 25 sydd yn byw yng Ngwynedd.
Gair gan y Cadeirydd
Blwyddyn ddiwethaf yng nghyfarfod blynyddol Gisda
deuthum yn gadeirydd Bwrdd GISDA unwaith eto! Mae
sawl blwyddyn wedi mynd heibio ers i mi fod yn
gadeirydd ac mae’n drideg pum mlynedd eleni ers pan
ffurfiwyd Gisda. ‘Roeddwn yn un o’r criw bach ddaeth at
ei gilydd pryd hynny oedd yn poeni am bobl ifainc yng
Nghaernarfon oedd yn ddigartref. Pedair blynedd yn
Parch. J Ron Williams
ddiweddarach agorodd GISDA ei hostel cyntaf yn Lôn Parc,
Caernarfon ac yn ddiweddrach agorwyd hostel arall ym
Mlaenau Ffestiniog. Dros y trideg pum mlynedd cefais brofiadau
gwahanol fel aelod o’r bwrdd. ’Roedd rhai’n anodd, eraill yn gyffrous
ac yn heriol a’r hyn fu’n gyfrifol i ddal ati oedd ceisio bod o gymorth
i’n hieuenctid oedd yn gofyn am gymorth gan GISDA.
Hoffwn gydnabod gwasanaeth pawb sydd wedi gweithredu yn ddiflino ar Fwrdd GISDA ers
y cychwyn. Cofiwn yn annwyl am y rhai a hunodd yn rhy gynnar o lawer a hiraeth wrth
gofio am eu cyfraniad mawr i Gisda. Mae cael aelodau newydd ar fwrdd GISDA yn broses
sy’n mynd ymlaen drwy’r amser ac i aelodau presennol y bwrdd tanlinellaf fy
niolchgarwch o’u parodrwydd i wasanaethu’n wirfoddol. Rhyfeddaf at yr amser a roddir
gan aelodau’r bwrdd.
Diolch i holl weithwyr GISDA gan gydnabod ers cyfarfod blynyddol 2019 mae wedi bod yn
gyfnod gwahanol a’r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai heriol oherwydd y
Coronafeirws. Fel llawer i gwmni arall mae’r cyfnod wedi gorfodi newidiadau mawr a
heriol. Braf yw medru dweud fod gwasanaethau GISDA wedi parhau dros y cyfnod hwn a
sicrhawyd gwasanaeth da iawn dan yr amgylchiadau.- ni fuasai hyn wedi bod oni bai am
ymroddiad gweithwyr Gisda. Gwn fod y Prif Weithredwr a’r Rheolwyr wedi cadw cysylltiad
agos a rheolaidd efo’r staff a bod ymdrech arbennig wedi digwydd i gadw cysylltiad a
chefnogi ein pobol ifanc sy’n derbyn ac yn dibynnu ar wasanaeth Gisda. Croesawaf staff
newydd ddaeth i weithio yn ystod y flwyddyn. Mae Gisda wedi cyflawni llawer dros y
trideg pum mlynedd diwethaf. Edrychwn ymlaen at gefnogi ein hieuenctid i’r dyfodol.
Diolch yn fawr iawn i aleodau bwrdd GISDA:
Parch . J Ron Williams (Cadeirydd) Dewi Owen Jones
W. Tudor Owen Rhys Davies
Gilly Harradence
Sian Williams
Peter Harlech Jones
Elen Owen
Carys Thomas
Dr Elin Walker Jones
Ffion Jon Williams
Adroddiad Blynyddol GISDA 2
Gair gan y Brifweithredwraig
Dechreuodd cyfnod y cloi mawr rhyw wythnos cyn diwedd
ein blwyddyn ariannol eleni. Wrth weithio o adref mae’r
cyswllt wyneb i wyneb gyda phartneriaid a phobl ifanc
wedi bod yn llai ond llwyddwyd i addasu ffordd o weithio
yn hynod effeithiol mewn amser byr. Daeth pawb at eu
gilydd i sicrhau nad oedd ansawdd ein gwasanaeth yn
cael ei amharu.
Dilynwyd canllawiau Llywodraeth Cymru er mwyn
sicrhau diogelwch staff a phobl ifanc ar hyd y daith.
Siân Elen Tomos
Canolbwyntiwyd a blaenoriaethwyd ar iechyd a lles staff
yn 2019. Sicrhawyd hefyd bod Bwrdd Rheoli GISDA yn
cymryd rhan blaenllaw wrth arwain y cwmni a’u
presenoldeb yn amlwg yn y diwrnodau tîm a diwrnodau
cynllunio busnes. Bydd GISDA wedi bod yn darparu gwasanaethau
am 35 o flynyddoedd yn 2020 ac rydym yn hynod o falch ein bod yn
parhau i allu cefnogi ein pobl ifanc mwyaf bregus a chwarae ein rhan i’w galluogi i sicrhau
dyfodol gwell ar eu cyfer. Yr un yw ein blaenoriaeth heddiw sef ceisio darparu cartref a
chefnogaeth i bobl ifanc digartref a bregus a’u galluogi i deimlo’n hyderus i symud ymlaen i
fyw yn ddinasyddion annibynnol. Rydym yn parhau i wneud hyn drwy weithio’n agos a mewn
partneriaeth gyda’r Awdurdod Lleol sef Cyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
, Mantell Gwynedd a Chymdeithasau Tai Lleol. Rydym hefyd yn cydweithio gydag amryw o
fentrau cymdeithasol ac elusennau lleol i gyd yn rhannu’r un gwerthoedd a gweledigaeth
tebyg. Fel welwch o’n hystadegau mae’r galw am ein gwasanaeth yn parhau i gynyddu ac
felly gobeithiwn ganolbwyntio ar sicrhau bod ein hadnoddau yn cael eu huchafu er budd
pobl ifanc.
Hoffem gydnabod a diolch i’n harianwyr am eu ffydd a’u cefnogaeth ynom yn ystod y
flwyddyn. Rydym yn falch ein bod yn bodloni eu hanghenion fel comisiynwyr ac yn gobeithio
y gallwn barhau i gydweithio dros y blynyddoedd nesaf.
Mae’r diolch mwyaf ni i’r staff. Rydym yn eithriadol o ffodus a diolchgar o’n staff hynod
ymroddgar a gweithgar sydd wastad yn mynd y filltir ychwanegol er budd y bobl ifanc. Ni
fyddai GISDA yn bodoli heb ein staff felly diolch o waelod calon iddynt am eu gwaith caled.
Mae’r bobl ifanc hefyd wedi bod yn bleser mawr eu cefnogi a hoffwn ddiolch a talu
teyrnged arbennig iddynt am y ffordd maent wedi addasu a derbyn y ffordd newydd o’u
cefnogi yn ddigidol yn ystod cyfnod cloi. Maent wedi cydweithio’n arbennig o dda a bod yn
hynod o amyneddgar gyda nifer o newidiadau. Wrth reswm rydym yn bryderus am effaith
economaidd y feirws ar ddyfodol ein pobl ifanc a byddwn yn gwneud bob ymdrech i wneud
bob dim sydd yn bosibl i leihau yr effaith hyn arnynt. Dyma pam bod Bwrdd Rheoli GISDA
wedi cefnogi prosiect Academi Cyfleon i ganolbwyntio ar gynnig a darparu cyfleon newydd i
bobl ifanc boed hynny yn wirfoddoli, profiadau gwaith neu sgiliau chwilio am waith.
Rydym yn ffyddiog drwy gydweithio gyda phobl ifanc a’n partneriaid y gallwn leihau effaith a
gwneud gwahaniaeth.
Yn olaf hoffwn ddiolch i’r Tim Rheoli a Bwrdd Rheoli GISDA am eu hamser, cefnogaeth
a’u brwdfrydedd drwy’r flwyddyn. Mae gweithio mewn tîm yn hanfodol i lwyddiant unrhyw
gwmni ac rwyf yn eithriadol o falch a ffodus o bob un sydd yn chwarae eu rôl hanfodol i
rediad llyfn GISDA.
Edrychaf ymlaen yn fawr i gydweithio gyda chi yn ystod y flwyddyn hon.
Adroddiad Blynyddol GISDA 3
1186
o bobl ifanc wedi
derbyn
gwasanaeth
ar draws y
prosiectau!
“
Fodd bynnag,
mae fy mywyd
wedi gwella
llawer ac fe
helpodd GISDA
fi i gyrraedd fy
mhotensial ac
wedi fy
nghefnogi i fod
yn y fersiwn
orau ohonof fy
hun.”
Adroddiad Blynyddol GISDA 4
“
Rwyf bob
amser yn
ddiolchgar i’r staff yn
GISDA am y
gefnogaeth a gefais.
Rydw i nawr yn byw’n
annibynnol mewn
fflat un ystafell wely
ac yn edrych ymlaen
at y dyfodol.”
“
Mae Gisda wedi fy helpu i
ddod dros petha’ nad oeddwn i’n
meddwl y byddwn i’n gallu’u
gwella trwy fy helpu gyda’m
problem tymer ddrwg a
chyffuriau. Fy helpu i weld bod
yna ffordd arall bob amser, a fy
helpu i ailgysylltu â mam gan fod
gennym berthynas ofnadwy a
nawr dwi ddim diolch i help
GISDA. Nid oeddwn yn ddigartref
mwyach a gallwn weld dyfodol
gwell. Diolch i GISDA roedd hyn i
gyd yn bosibl.”
Adroddiad Blynyddol GISDA 5
59 172
o bobl ifanc
wedi derbyn
cefnogaeth gan
y prosiect dros y
flwyddyn
Cefnogi Pobl
Mae’r prosiect cefnogi pobl yn darparu cefnogaeth i bobl ifanc sydd mewn perygl o fod
yn ddigartref neu sy’n bresennol yn ddigartref. Dyma brosiect mwyaf GISDA sydd yn
darparu cefnogaeth i 62 o bobl ifanc ymhob ardal o Wynedd ar unrhyw un adeg. O fewn
y tîm mae gweithwyr allweddol, gweithwyr cefnogol a gweithwyr cysgu mewn sydd yn
darparu cefnogaeth ddwys a therapiwtig i’r bobl ifanc.
Ar hyn o bryd mae gennym unedau llety yn...
Caernarfon, Y Felinheli, Llanrug, Blaenau Ffestiniog, Dolgellau
31 gwely - 26 uned sengl - 5 tŷ i deulu
Mae ein holl staff yn darparu pecyn cymorth wedi’i deilwra’n uniongyrchol ar gyfer pob
unigolyn, a ddarperir trwy ein model cymorth therapiwtig ein hunain (model FI).
Gobeithiwn y bydd y gefnogaeth yma yn helpu pob unigolyn i ddod i ddeall eu hawliau a’u
cyfrifoldebau a fydd yn eu cefnogi i gyrraedd annibyniaeth.
115
sydd
Cyfeiriad i’r prosiect hwn
yn golygu bod 115 o bobl ifanc yng Ngwynedd yn
ddigartref neu mewn risg o fod yn ddigartref ac angen
cymorth yn ystod y flwyddyn
Adroddiad Blynyddol GISDA 6
Anghenion ar bwynt cyfeirio:
79%
mewn llety
anaddas
30%
yn “sofa
surfing”
6%
yn cysgu
ar y stryd
61%
ddim mewn
cyflogaeth nag
addysg
36%
gyda anghenion
iechyd meddwl
67%
Fflatiau
o’r bobl ifanc yn ein
hosteli a fflatiau dros
dro wedi symud
ymlaen i lety addas
yn ystod y flwyddyn
wedi symud ymlaen i:
symud ymlaen GISDA
Tenantiaeth preifat
Tenantiaeth cymdeithas tai
Llety rhannu
Dychwelyd adref at deulu
14%
16%
47%
16%
7%
Gwasanaeth galw mewn
Rydym hefyd yn cynnig nifer o wahanol wasanaethau gyda’r prosiect
hwn fel gwasanaeth galw mewn sy’n cynnig cyngor ac arweiniad i
unigolion ar y pynciau isod:
• Cyngor tai a Chyfeirio
• Cyngor budd-daliadau a llenwi ffurflenni
• Cyngor ar ddyledion a Chyfeirio
• Ceisiadau grant
• Llythyrau cefnogol
• Cyfathrebu a chysylltu
• Gwaith a gwirfoddoli
117
unigolyn wedi
galw mewn i’r
sesiynau
Adroddiad Blynyddol GISDA 7
Atal Digartrefedd
Mae’r prosiect hwn ag ariennir gan Lywodraeth Cymru yn
cefnogi pobl ifanc sydd mewn risg uchel o ddod yn ddigartref.
Cefnogir y bobl ifanc hyn i gadw eu tenantiaeth, dod o hyd i
denantiaeth newydd a chynnal sesiynau cymodi gyda theuluoedd sydd
wedi galluogi rhai o’r defnyddwyr gwasanaeth i ddychwelyd
gartref. Mae’r gweithiwr hefyd yn cyfeirio rhai pobl ifanc at
wasanaethau eraill sydd yn fwy cymwys i gwrdd
gyda’u anghenion. Mae’r aelod staff yn gweithio yn
agos iawn gydag adran digartref yng Nghyngor
Gwynedd i gefnogi rhai sydd yn ddigartref yn
ogystal â’r rhai sydd mewn perygl o fod.
Math o gefnogaeth a ddarperir:
Incwm, arian a chyllidebu
Llety - tai fforddiadwy
Hawliau ac eiriolaeth
Iechyd a lles
63
o bobl ifanc yn ddigartref neu wedi cael eu hadnabod fel eu bod
mewn risg o ddod yn ddigartref ac wedi derbyn cefnogaeth y prosiect
49 yn bobl ifanc sengl - 14 o deuleuoedd ifanc
75%
56% 37%
75% wedi’u hatal
rhag ddod yn
ddigartref
Adroddiad Blynyddol GISDA 8
56% wedi derbyn
cefnogaeth i symud
mewn i lety
37% wedi symud
ymlaen i gyflogaeth,
hyfforddiant neu
addysg
Sesiynau codi ymwybyddiaeth
Comisiynwyd GISDA gan Wasanaethau Ieuenctid Gwynedd i wella dealltwriaeth a chodi
ymwybyddiaeth ar faterion llety, tai a digartrefedd ymysg pobl ifanc.
Gwnaethom hyn trwy:
Ymweld ag amryw o ysgolion, clybiau ieuenctid a chlybiau lleol ar draws
Gwynedd i ddarparu gweithdy codi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd.
Cynnal sesiynau galw mewn lle gall bobl ifanc dderbyn cyngor neu
gwybodaeth ar amryw o faterion megis digartrefedd, llety, cyllidebu,
budd-daliadau, mynediad i wasanaethau a mwy.
Ymgyrch cyfryngau cymdeithasol. Roedd angen cwblhau’r prosiect mewn llai
nag pum mis felly welsom y gallai’r dull hwn gyrraedd nifer fawr o bobl ifanc
yn gyflym ac yn effeithiol.
28
gweithdy codi
ymwybyddiaeth
wedi cyrraedd
561
o bobl ifanc!
44
sesiwn galw
mewn
Erthyglau ar 11 o argraffiadau newyddion lleol a rhanbarthol.
233,188 o argraffiadau ar Snapchat
130,868 argraff gan bobl 13 i 25 oed ar Facebook ac Instagram
Adroddiad Blynyddol GISDA 9
Prosiect LHDT+
Cynhelir Clwb Ieuenctid ar gyfer pobl ifanc LHDT bob yn ail nos Lun yng
Nghaffi GISDA, Caernarfon. Mae wedi profi i fod yn eithriadol o boblogaidd
a llwyddiannus a bellach mae dros 80 o bobl ifanc yn aelodau o’r clwb.
Ar hyn o bryd mae GISDA yn cynnig platfform i bobl ifanc
gymdeithasu mewn amgylchedd a gofod saff. Yn ddelfrydol mae angen
rhagor o adnoddau i gynnig cefnogaeth a chyngor pan fo’r angen. Byddwn
yn parhau i geisio cynnig y gwasanaeth gorau o fewn yr ychydig adnoddau sydd
gennym. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r gwirfoddolwyr ymroddedig sydd yn rhoi eu
hamser o’u gwirfodd i gynnal a rhedeg y clwb. Byddwn yn parhau i geisio denu
arian i gryfhau’r ddarpariaeth. Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol mewn
pobl ifanc yn dod yn ddigartref a hynny yn deillio oherwydd eu rhywioldeb a’r
tensiynau o fewn y cartref.
Credwn yn gryf o fewn GISDA fod gan bob person ifanc yr hawl i deimlo’n gyfforddus a
hapus heb wynebu unrhyw orthrwm na gwahaniaethu yn sgil eu rhywioldeb o fewn ein
cymunedau a mi fyddem yn parhau i weithio ar hyn.
89%
yn nodi fod y clwb yn hanfodol neu bwysig iawn iddynt
“
Mae’r clwb
wedi gwella fy
iechyd meddwl
yn ddramatig, ac
wedi gwneud i mi
ennill llawer mwy
o ffrindiau.”
Adroddiad Blynyddol GISDA 10
“
Mae gallu bod
ynof i fy hun wedi
helpu, gan wybod
hefyd fod ‘na phobl
o gwmpas sy’n
gofalu amdanai,
mae hyn yn bwysig
iawn i mi.”
Prosiect Ôl Ofal
Ariennir y gwasanaeth hwn gan Wasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Gwynedd. Mae’r prosiect yn cynnig cefnogaeth i unigolion
rhwng 16 a 25 mlwydd oed sydd wedi bod dan ofal yr Awdurdod Lleol
a ble mae cyfrifoldeb i barhau i’w cefnogi wedi iddynt adael eu lleoliad
gofal. Rydym yn cyflogi uwch gynghorydd personol therapiwtig, cynghorydd
personol therapiwtig a gweithiwr addysg a chyflogaeth rhan amser. Mae’r cynghorwyr
personol yn cynnig cefnogaeth, cyngor ac arweiniad i baratoi’r person ifanc ar gyfer
y eu taith i fod yn oedolion annibynnol. Bydd bob person ifanc yn derbyn cynllun
llwybr sydd yn ffocysu ar . llety, addysg, hyfforddiant, iechyd, teulu, perthnasoedd
cymdeithasol a’u hawliau.
Mae’r gweithiwr addysg a chyflogaeth yn sicrhau fod yr pobl ifanc yma sydd yn gadael
gofal yn cael y gefnogaeth ychwannegol i’w cefnogi i barhau i gadw eu gwaith,
mynychu coleg neu unrhyw hyfforddiant
81
o bobl ifanc ôl ofal wedi cael eu cefnogi
Rhwystrau mae’r bobl ifanc wedi profi dros y flwyddyn
LLETY
• Mynediad i lety sydd ar gael ac
yn fforddiadwy
• Rhent a blaendal uchel
• Llety symud ymlaen addas
IECHYD MEDDWL
• Unigolion yn profi anawsterau
iechyd meddwl
• Pobl ifanc yn profi problemau
hunan-barch a hyder isel.
CYFLEON
• Gwaith cyflogedig yn dymhorol a
chytundebau byr
• Anodd i unigolion ganolbwyntio a
chynnal cyrsiau pan fo ganddynt
anghenion cymorth cymhleth.
GWASANAETHAU
• Unigolion yn gweld hi’n anodd
derbyn help
• Anodd cael mynediad i
• gefnogaeth - gwasanaethau
wedi ymestyn
“Rydych yn ateb yn gyflym a bob amser yn rhoi 110% dim ots beth
yw'r amgylchiadau. Rydych chi'n ddibynadwy ac fel rhywun sy'n
gadael gofal, rwy'n gwybod y gallaf bob amser yrru neges ac
ymddiriedaeth y byddwch yno i fy helpu. "
DYFYNIAD GAN BERSON IFANC SYDD YN DERBYN
CEFNOGAETH CYNGHORYDD PERSONOL
Adroddiad Blynyddol GISDA 11
Rhieni Ifanc
Ariannwyd y prosiect yma gan Blant Mewn Angen i gefnogi rhieni sydd yn 18
oed neu lai. Mae’r prosiect yn cynnig cefnogaeth ddwys 1:1 i’r rhieni ar greu
perthnasau iach, fod yn rhan o gymuned, cynnal a chadw tenantiaeth,
cyllidebu, codi hyder a mwy!
20
40% 70%
o rieni ifanc wedi
derbyn
cefnogaeth
40% wedi cael eu
cyfeirio gan
ymwelwyr iechyd
70% yn NEET
(ddim mewn cyflogaeth,
addysg, hyffforddiant)
Stori Manon*- y math o gefnogaeth cynigwyd gan y prosiect
Daeth Manon i GISDA am gefnogaeth gan ei bod wedi disgyn yn feichiog a doedd
dim lle yn y tŷ teulu. Roedd y ffaith ei bod yn feichiog yn ifanc hefyd wedi achosi
perthynas hi a’i mam i dorri lawr. Oherwydd ffraeo cyson a diffyg lle roedd rhaid
i Manon sofa syrfio rhwng y tŷ teuluol, tŷ dad y babi a thŷ ei anti a oedd hefyd yn
achosi ffraeo rhwng y teulu. Gafodd Manon ei chyfeirio i Rhieni Ifanc ac i gychwyn
roedd y gweithiwr yn cyfarfod gyda hi yn aml i greu perthynas drwy fel arfer mynd
am dro neu gyfarfod mewn caffi. Penderfynwyd rhoi enw Manon ar restr tai, i roi
cefnogaeth reolaidd a hefyd ceisio gweithio ar y perthynas gyda’i mam.
Roedd Manon yn llwyddiannus yn derbyn tŷ cyn i’r babi gael ei eni. Ceiswyd am
grantiau am offer i gael y tŷ yn barod fel carpedi a deunyddiau gwyn gegin - roedd
yn llwyddiannus ac yn help mawr! Aeth y gweithiwr gyda Manon i
ddosbarthiadau mam a babi i godi ei hyder oherwydd ei bod
yn wyliadwrus yn mynd gan ei bod yn ifanc. Gweithiwyd gyda
Manon hefyd ar sefydlu ei biliau, cyllidebu, sgiliau coginio a hyd
yn oed edrych ar opsiynau dychwelyd i’r coleg pan fydd ei mab
digon hen. Wrth weithio yn agos iawn gyda Manon welwyd ei hyder
yn codi yn sylweddol, y bond gyda’r babi yn grêt ynghyd a’i
pherthynas gyda’i mam a gweddill y teulu wedi gwella.
O ganlyniad y gefnogaeth ddwys yma roedd ganddi dŷ ei hun,
y sgiliau sydd ei angen i fyw yn annibynnol a magu ei mab ac yn bwysicach
wedi adeiladu rhwydwaith o gefnogaeth a help pan fo’r angen gan ei theulu!
Adroddiad Blynyddol GISDA 12
*enw wedi cael ei newid
CAFFI GISDA
Mae CAFFI GISDA yn ganolfan hyfforddiant a chaffi i’r gymuned leol. Ein nod
yw datblygu sgiliau newydd, magu hyder a chynnig hyfforddiant yn y maes
arlwyo i alluogi’r unigolyn i symud ymlaen i gyflogaeth neu addysg bellach.
Mae’r staff wedi cefnogi 27 o wirfoddolwyr dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r
gwirfoddolwyr wedi dysgu amryw o sgiliau yn cynnwys gweini bwyd, coginio,
defnyddio til, gofal cwsmer a mwy! Rydym yn andros o ddiolchgar i’n
cwsmeriaid ffyddlon a rheolaidd am ein cefnogi ac am eu parodrwydd i fod yn
amyneddgar ar adegau tra mae pobl ifanc yn datblygu sgiliau newydd.
Bu’n flwyddyn brysur iawn gyda bwydlen newydd, llawer o alw am bwffes ac
wedi mynychu gŵyl fwyd Caernarfon! Yn y flwyddyn nesaf mi fydd y caffi yn
ffocysu mwy ar yr ochr hyfforddi pobl ifanc ac yn cryfhau’r gefnogaeth yma.
Gwirfoddoli
Rydym yn cynnig hyfforddiant a phrofiadau i bobl ifanc
ond hefyd cyfleoedd gwirfoddoli i bawb o bob oed a
chefndir. Ariannwyd y Cydlynydd Gwirfoddoli gan grant
CIST, Cyngor Gwynedd a grant Gwirfoddoli Cymru, WCVA .
94
unigolyn wedi
gwirfoddoli
75
ymholiad
newydd
4008 awr wedi ei wirfoddoli! Adroddiad Blynyddol GISDA 14
Adroddiad Blynyddol GISDA 13
Byw’n Iach
Prosiect cynnal a chadw a ariannwyd gan fanc
Nationwide oedd Byw’n Iach.
Nod y prosiect oedd dysgu sgiliau DIY a
garddio i bobl ifanc i alluogi nhw allu byw’n
annibynnol. Roedd gan y gweithiwr brofiad a
chymwysterau mewn gwaith adeiladu ac mae
ganddo ddiddordeb mewn DIY ac ail
ddefnyddio dodrefn.
Rhai esiamplau o weithdai oedd:
peintio, newid bwlb, gosod
fframiau, adeiladu mainc a bocsys
yn defnyddio sgiliau gwaith coed,
garddio, creu addurniadau cartref
a mwy!
Yn anffodus daeth y prosiect i ben ym mis
Medi 2019 ond mae nifer fawr o bobl ifanc wedi
cael budd ohono ac wedi dysgu sgiliau bydd gyda nhw
am byth! Gobeithio gallwn gael grant i wneud prosiect
tebyg eto.
EMPYRE
Prosiect cyffrous iawn wedi cael ei ariannu gan gronfa gymdeithasol
Ewropeaidd drwy gynllun enwog Erasmus + yw Empyre. Mae GISDA yn
un o 8 partner o 4 Gwlad. Mae Prifysgol o’r 4 Gwlad sef Gwlad Pwyl,
Cymru, Ffindir ac Awstria wedi cyfeillio gydag elusen gwaith ieuenctid
o fewn eu gwlad a’r syniad ydy astudio a dysgu am wahanol ymarfer
ieuenctid ar draws Ewrop. Tuag at y diwedd, y nod ydy gwerthuso’r
gwahanol ymarfer gan ddewis yr ymarfer sydd yn rhoi’r
canlyniadau gorau i bobl ifanc. Byddem yn creu modiwl
e-ddysgu i’w rannu a’i ddosbarthu gydag eraill ar y
diwedd. Cyflwynodd GISDA a Phrifysgol Bangor ein
canfyddiadau yng ngwlad Pwyl flwyddyn yma a
cafodd prosiect LHDT+ GISDA ei dewis i gael ei
ymchwilio ymhellach.
Mae hi’n fraint fawr cael cyfle i fod yn rhan o brosiect
fel hyn lle gallwn gyfarfod a dysgu gan brosiectau eraill
ond hefyd cyfrannu at ddatblygiad dyfodol
gwaith ieuenctid a gwaith cymdeithasol.
Adroddiad Blynyddol GISDA 14
Llesiant Staff
Rydym yn gwerthfawrogi gwaith caled y staff pob dydd ac yn deall gall y gwaith fod yn
heriol ar adegau. Fel cwmni rydym wedi penderfynu buddsoddi yn llesiant ein staff i
roi rhywbeth yn ôl, dod a phawb at ei gilydd, codi ysbryd a chael hwyl!
Mae’r staff wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau ac ar draws
y flwyddyn rydym wedi cael diwrnod tîm gyda chyfle i caiacio, padl fyrddio, golf a
chinio neis ar y traeth, wedi cael sesiynau blasu Yoga, cymryd rhan mewn taith
gerdded “Llwybr Llechi”, beicio a mwy! Mae ein cynllun llesiant yn cynnwys:
Gweithio’n
hyblyg megis:
TOIL a FLEXI
Sesiynau
ymarferol adlewyrchol
i staff
rheng flaen
Diwrnodau
tim a
gweithgareddau
Polisi
absenoldebau
eraill
Mi fydd llesiant staff yn parhau i fod yn flaenoriaeth yn
ystod 2020-2021 yn arbennig ar ôl cyfnod y Firws a’r Cloi
Mawr. Rydym wedi derbyn grant bach gan y Loteri i gynnal
sesiynau ffitrwydd a llesiant ac i ddod a’r cwmni at ei gilydd
yn dilyn y cyfnod anodd.
Adroddiad Blynyddol GISDA 15
Crynodeb Cyfrifon GISDA
Blwyddyn hyd at Mawrth 31 2020
Adroddiad yr Archwiliwr Annibynnol i Ymddiriedolwyr GISDA CYFYNGEDIG
Rydym wedi astudio datganiad o weithredoedd ariannol (yn cynnwys cyfrif incwm a gwariant) GISDA
Cyfyngedig am y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2020.
Priod gyfrifoldebau yr ymddiriedolwyr a’r archwiliwr
Yr ymddiriedolwyr sydd yn gyfrifol am baratoi y datganiad ariannol crynodedig yn unol a
chyfraith perthnasol y Deyrnas Unedig ac argymhellion y SORP elusennau. Ein cyfrifoldeb
ni yw i ymadrodd i chwi ein barn ar gysondeb y datganiad ariannol crynodedig gyda’r datganiadau
ariannol llawn ar Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr. Yr ydym hefyd wedi darllen
y gwybodaeth ychwanegol a cynhwysir yn y datganiadau ariannol crynodedig a chysidro’r
ymhlygiadau i’n adroddiad os y down yn ymwybodol o unrhyw gamosodiad a ymddengys neu
anghysondeb sylweddol gyda’r datganiad ariannol crynodedig.Cynhaliwyd ein gwaith yn unol
a Bwletin 2008/3 a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Ymarferion Archwilio. Mae ein adroddiad ar
ddatganiadau ariannol llawn y cwmni yn disgrifio sail ein barn ar y datganiadau
ariannol ac Adroddiad yr Ymddiriedolwyr.
Datganiad o weithredoedd ariannol (yn cynnwys cyfrif incwm a
gwariant) am y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2020
INCWM
Incwm gwirfoddol
Rhoddion a grantiau
2020 2019
£8,699
£11,851
INCWM O WEITHGAREDDAU ELUSENNOL
Grantiau, cytundebau rhenti ac ati
Elw ar werthu asedau sefydlog
Llog banc
Incwm arall
CYFANSWM INCWM
GWARIANT
Gweithgareddau elusennol
(GWARIANT) / INCWM NET A SYMUDIAD
NET MEWN CRONFEYDD AM Y FLWYDDYN
Cronfeydd ar 1 Ebrill 2019
Cronfeydd ar 31 Mawrth 2020
Adroddiad Blynyddol GISDA 16
£1,283,601
-
£283
£21,734
£1,314,317
£1,219,614
£94,676
£1,143,376
£1,238,052
£1,447,079
£4,075
£118
£1,886
£1,465,009
£1,482,781
(£17,722)
£1,161,148
£1,143,376