Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Byw’n Iach
Prosiect cynnal a chadw a ariannwyd gan fanc
Nationwide oedd Byw’n Iach.
Nod y prosiect oedd dysgu sgiliau DIY a
garddio i bobl ifanc i alluogi nhw allu byw’n
annibynnol. Roedd gan y gweithiwr brofiad a
chymwysterau mewn gwaith adeiladu ac mae
ganddo ddiddordeb mewn DIY ac ail
ddefnyddio dodrefn.
Rhai esiamplau o weithdai oedd:
peintio, newid bwlb, gosod
fframiau, adeiladu mainc a bocsys
yn defnyddio sgiliau gwaith coed,
garddio, creu addurniadau cartref
a mwy!
Yn anffodus daeth y prosiect i ben ym mis
Medi 2019 ond mae nifer fawr o bobl ifanc wedi
cael budd ohono ac wedi dysgu sgiliau bydd gyda nhw
am byth! Gobeithio gallwn gael grant i wneud prosiect
tebyg eto.
EMPYRE
Prosiect cyffrous iawn wedi cael ei ariannu gan gronfa gymdeithasol
Ewropeaidd drwy gynllun enwog Erasmus + yw Empyre. Mae GISDA yn
un o 8 partner o 4 Gwlad. Mae Prifysgol o’r 4 Gwlad sef Gwlad Pwyl,
Cymru, Ffindir ac Awstria wedi cyfeillio gydag elusen gwaith ieuenctid
o fewn eu gwlad a’r syniad ydy astudio a dysgu am wahanol ymarfer
ieuenctid ar draws Ewrop. Tuag at y diwedd, y nod ydy gwerthuso’r
gwahanol ymarfer gan ddewis yr ymarfer sydd yn rhoi’r
canlyniadau gorau i bobl ifanc. Byddem yn creu modiwl
e-ddysgu i’w rannu a’i ddosbarthu gydag eraill ar y
diwedd. Cyflwynodd GISDA a Phrifysgol Bangor ein
canfyddiadau yng ngwlad Pwyl flwyddyn yma a
cafodd prosiect LHDT+ GISDA ei dewis i gael ei
ymchwilio ymhellach.
Mae hi’n fraint fawr cael cyfle i fod yn rhan o brosiect
fel hyn lle gallwn gyfarfod a dysgu gan brosiectau eraill
ond hefyd cyfrannu at ddatblygiad dyfodol
gwaith ieuenctid a gwaith cymdeithasol.
Adroddiad Blynyddol GISDA 14