Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Y Llusern

LLEWYRCHED FELLY EICH GOLEUNI

Eglwys Ebeneser Ionawr/ Chwefror 2016 Cyf 89 Rhif 1

Llawenydd

digymysg inni fel

eglwys oedd cael

derbyn tri aelod

newydd yng

Nghwrdd Nadolig

yr ieuenctid, sef

Branwen Jones,

Beca Hayes ac

Esyllt Rosser.

Mae’r tair wedi eu

magu yn ein plith

ond daeth yr

amser iddynt

wneud

penderfyniad

eu hunain i fod yn aelodau o

eglwys Iesu Grist. Nid oes neb yn cael eu geni yn

Gristion, rhaid i bob unigolyn gredu yn Iesu fel Arglwydd a Gwaredwr

ohonynt eu hunain.

Am gyfnod o dri mis bu’r tair yn dilyn cwrs derbyn gyda’r gweinidog - a

hynny yng nghaffi Bodlon, yr Eglwys Newydd - yn ystyried sylfaeni’r ffydd

a beth yw ystyr bod yn aelod o Eglwys Gristnogol. Ar ddiwedd y

cyfarfodydd gofynnwyd iddynt a oeddent yn credu yn Iesu ac am ddod yn

aelodau. Cafwyd ymateb cadarnhaol gan y tair. Daethant i’r Cwrdd

Gweddi paratoad lle y cawsant eu cymeradwyo’n unfrydol trwy bleidlais.

Yn y cwrdd gweddi hwn hefyd cawsom y fraint o fod yn dystion i fedydd

Esyllt Rosser.

Yn yr oedfa ieuenctid ar fore Sul y 11 o Ragfyr, fe siaradodd Branwen,

Beca ac Esyllt yn hyfryd yn mynegi eu ffydd a’u gwerthfawrogiad o fod yn

rhan o deulu Ebeneser. Yna gweddïodd Gwilym Jeffs gan eu cyflwyno i’r

Arglwydd. Yn dilyn yr oedfa i ddathlu eu derbyn fe gafwyd bwyd bys a

bawd hyfryd. Diolch i bawb gynorthwyodd wrth baratoi ac i Eynon

Williams am drefnu’r bwyd. Diolch i’w rhieni a’r athrawon ysgol Sul, ac

arweinyddion y Mob am eu gwaith yn eu meithrin yn y ffydd trwy’r

blynyddoedd yn eu dysgu am Dduw a’r Arglwydd Iesu. Ac wrth gwrs

diolch i’r Arglwydd am y fraint o gael derbyn tair gwraig ifanc yn aelodau

1

i’n plith.

DERBYN TAIR

Esyllt Rosser, Beca Hayes, Branwen Jones
Diolch o galon i chi i gyd fel aelodau am Nadolig

arbennig unwaith eto yn dathlu geni gwyrthiol yr

Arglwydd Iesu. Fe gymerodd llu ohonoch ran yn y

gwasanaethau a’r gweithgareddau atodol a braint yw cael

bod yn aelod o eglwys Ebeneser. Y mae’n bwysicach nac erioed

ein bod fel eglwysi yn cyhoeddi’r gwirioneddau Beiblaidd am Iesu

ac nid yn dilyn chwiwiau’r oes. Y mae cenedl y Cymry mewn

angen dybryd am Iesu Grist a’i iachawdwriaeth ac am gyfiawnder

a gobaith ei Efengyl. Y mae Duw wedi ymddiried y gwaith hwn i

bobl fel ni ac awn ati i dystio iddo.Hoffem fel teulu ddiolch o galon

i chi am eich cyfarchion, cardiau a rhoddion dros dymor y Nadolig.

Gwerthfawrogwn eich haelioni yn fawr iawn.

Ar ddechrau 2017 hoffwn ddymuno blwyddyn newydd dda i chi

a’ch teulu gan weddïo y bydd yn flwyddyn llawn bendithion a

iechyd. Gair rydym wedi ei golli mewn cyfieithiadau diweddar o’r

Beibl yw’r gair “rhodio”, sy’n golygu cerdded. Fel yn Colosiaid 2: 6,

lle y dywedir ”Megis gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr

Arglwydd, felly rhodiwch ynddo.” (William Morgan) Hoffwn eich

hannog i “rodio yn yr Arglwydd” yn ystod 2017. Cerddwch gydag

Ef pob rhan o’r daith ac ni chewch eich siomi na’ch trechu gan

unrhyw beth. Alun Tudur

Cofiwch y gallwch gael holl fanylion

Ebeneser drwy gofrestru i gael ein

hebost wythnosol anfonwch ebost at

ebeneser@btinternet.com neu dilynwch ni ar ein cyfrif

Trydar @ebencaerdydd, gweplyfr ac wrth gwrs cyfeiriad

ein gwefan yw www.ebeneser.org.

Tim Golygyddol y Llusern

Petra Bennett, Tudur Jones, Helen Thomas, Alun Tudur. Os am gynnwys

rhywbeth yn y Llusern cysylltwch hefo unrhyw un o'r tim neu anfonwch

neges at ebeneser@btinternet.com.

Cysylltu gydag Ebeneser

Gweinidog - Alun Tudur - 029 20490582 - aluntudur@btinternet.com

Ysgrifennydd - Malcolm Thomas - 029 20627398 -

mthomasrugby@hotmail.co.uk

2
digwyddiadau.

Diolch i bob un sydd wedi cytuno i fod

ar bwyllgor codi arian ein helusen am

eleni sef Lisa Thomas Ayres, Lorenza

Thomas, Glesni Whettleton, Gill Lewis

ac Alice Jeffs. Byddwn yn mynd ati i

drefnu gweithgareddau amrywiol er

budd Neuro Foundation. Hoffem eich

hannog fel aelodau i fynd ati i drefnu

Eisoes y mae blychau ar gael er mwyn i chi gynilo eich harian mân

tuag at yr achos. Hoffem awgrymu eich bod yn rhoi punt yr

wythnos ynddynt fel ein bod unwaith eto yn codi cyfanswm teilwng

erbyn diwedd y flwyddyn.

Y mae croeso i unrhyw un arall i ymuno gyda ni ar y pwyllgor.

Cysylltwch gydag Alun.

Mae beibl.net wedi cynnal mis cariad

ym mis Ionawr. Fel rhan o’r prosiect

mae nifer o fideos

byrion wedi eu cynhyrchu lle mae pobl yn dewis eu hoff

adnod sy’n cynnwys y gair cariad. Os am eu gweld ewch

i www.youtube.com a theipio “cariad beibl.net”

Hefyd y mae fersiynau print bras o beibl.net wedi

ymddangos o’r wasg. Os hoffech gael gafael ar gopi

mynnwch air gydag Arfon Jones.

Unwaith pob mis y mae Ebeneser

yn bwydo’r digartref ar nos Sul ar

Heol Siarl. Os yr hoffech fod yn

rhan o’r tîm rhowch wybod i Eynon,

Delyth, John, Bethan, Gethin neu

Gill. Neu gallwch gyfrannu yn

ariannol tuag at y prosiect.

Hefyd rydym yn gwneud te unwaith

pob tri mis i’r digartref yn y

Tabernacl yr Ais. Os hoffech helpu

cysylltwch gydag Enfys -

enfysharding@hotmail.co.uk

Pob bore dydd Iau rydym yn

helpu elusen Enfys Gobaith i

roi pecynnau bwyd i ymgeiswyr

lloches sydd wedi eu lleoli yng

Nghaerdydd. Os yr hoffech

helpu cysylltwch un ai gyda

Tudur neu Alun. Ar y Sul cyntaf

o bob mis rydym yn casglu

bwydydd sych tuag (reis, pasta,

tuniau bwyd) at y prosiect hwn.

3
Aeth criw da ohonom yn ddisgwylgar i

Neuadd Dewi Sant ar 9/12 ar gyfer

Noson yn y Ffilmiau. Ond nid oedd ffilm

yno i’w gwylio! Noson o gerddoriaeth ffilm

oedd hon gyda Cherddorfa

Philharmonic Caerdydd.

Cafwyd gwledd i’r glust wrth

wrando ar themâu ffimiau

enwocaf Hollywood yn

cynnwys Superman, Indiana

Jones, Gladiator, Pirates of

the Caribbean,

Thunderbirds a Psycho. Yn

ogystal, cafwyd premiere

Cymreig o gerddoriaeth Star

Wars Episode VII: The Force

Awakens. Ar ben y cwbl roedd un o’n Diaconiaid yn serennu ar y ffidil,

sef Gwenda Lewis. Diolch i’r pwyllgor am drefnu noson wych.

Y Gymdeithas

Cyfle i feithrin cyfeillgarwch

Ar nos Fawrth 10fed o Ionawr

cawsom glywed am antur un o’n

pobol ifanc fu’n ymweld â Malawi

am dri mis, rhwng mis Hydref a Rhagfyr. Aeth Cai Hayes yno, nid ar

wyliau, ond i weithio’n wirfoddol gydag elusen ryngwladol Progressio

sy’n teithio i rai o wledydd tlota’r byd i helpu pobol

dlawd ar gyrion cymdeithas

i newid eu bywydau er

gwell, gan weithio tuag at

ddileu tlodi a gwella eu

hiechyd. Drwy weithio gyda

sefydliadau lleol, gobaith yr

elusen yw fod y gwaith

ddechreuwyd ganddynt yn

parhau unwaith maent wedi

gadael y wlad. Roedd yn

amlwg o’i brofiadau fod y

cyfnod yn Malawi wedi

gadael cryn argraff ar Cai. Diolch iddo am sgwrs ddiddorol a

dymunwn yn dda iddo i’r dyfodol. Gallwch ddysgu mwy am yr elusen

trwy fynd i www.progressio.org.uk

4
Eleni rydym yn dathlu tri chan mlwyddiant geni un o emynwyr mwyaf

Cymru ac Ewrop sef William Williams. Roedd ei emynau yn un o

nodweddion mwyaf dylanwadol y Diwygiad Methodistaidd yn y 18 ganrif

ac y mae eu dylanwad yn parhau hyd heddiw. Byddwn yn nodi hyn yn

ystod y flwyddyn hon gan roi sylw arbennig i’w emynau bendigedig. Ar

nos Sul 26ain Chwefror byddwn yn cynnal oedfa nodwedd arbennig yn

Eglwys y Ddinas am 5.30 i ddathlu gyda’n gilydd un o arwyr ffydd ein

cenedl. Dyma grynodeb o’i hanes.

Ganwyd ef yn y Cefncoed, Llanfair-ar-y-bryn,

Caerfyrddin, yn un o chwech o blant i John a Dorothea

Williams. Ef oedd yr unig un o blith tri o feibion a gafodd

fyw i fod yn oedolyn. Yr oedd ei dad yn henadur yn

eglwys Annibynnol Cefnarthen hyd nes i Arminiaeth

rwygo’r achos yn ddwy. O ganlyniad ymneilltuodd y

teulu gan gychwyn achos a gyfarfyddai yn fferm

Clinpentan. Yn ddiweddarach adeiladwyd capel

Pentre-ty-gwyn ar dir Pantycelyn. Fe gafodd ei

addysg gynnar yn Athrofa Llwyn-llwyd gyda’r

bwriad o fynd yn feddyg a hynny o dan arweiniad

y Parch David Price, gweinidog eglwys

Annibynnol Maesyronen ond yn ystod ei dymor yno fe gafodd dröedigaeth.

Ym mynwent Eglwys Talgarth y digwyddodd hynny ym 1738 wrth wrando

ar Howell Harris yn pregethu. Fel hyn y canodd Pantycelyn am y profiad

yn ddiweddarach

Dyma’r boreu, fyth mi gofia,

Clywais innau lais y nef;

Daliwyd fi wrth wÿs oddi uchod

Gan ei sŵn dychrynllyd ef;

Dyma’r fan, trwy byw mi gofiaf,

Gwelais i di gynta erioed,

O flaen porth yr Eglwys eang,

Heb un twmpath dan dy droed.

Ymunodd gyda’r Eglwys Sefydledig ac fe’i hordeiniwyd yn ddiacon ym

1740 ym Mhlas Abergwili gan Nicholas Claget a bu’n gurad yn Llanwrtyd,

Llanfihangel a Llanddewi Abergwesyn hyd 1743. Bu mewn helbul hefo

llys yr esgob oherwydd ei gydymdeimlad gyda’r Methodistiaid ac o’r

5
herwydd gwrthododd esgob Tyddewi ei ordeinio’n offeiriad. Canlyniad

hyn oedd iddo ymroi yn llwyr i’r mudiad Methodistaidd gan ddod yn un o’r

prif arweinyddion yng Nghymru. W. Williams oedd prif emynydd y

diwygiad Methodistaidd yng Nghymru ac ni ellir gor-bwysleisio dylanwad

ei emynau ar y Methodistiaid ac yn wir ar Ymneilltuaeth yn gyffredinol

wedi hynny. Cynhaliwyd Cwrdd Misol yn nhÿ Jethro Dafydd Ifan oddeutu

1743. Un o’r materion gododd oedd yr angen am emynau Cymraeg

addas i’w defnyddio. Anogodd Howell Harris y sawl oedd yn bresennol i

gyfansoddi emyn erbyn y Cwrdd dilynol. Gwnaed felly, ac wedi i bawb

adrodd ei waith dywedodd Harris, “Williams biau’r emyn,” ac felly y bu.

Cyhoeddodd ei emynau ar ffurf llyfrynnau ac ymddangosodd y cyntaf ym

1744 yn dwyn y teitl Aleluia ac erbyn 1787 yr oedd 27 llyfryn o’i emynau

wedi eu cyhoeddi. Nid emynau yn unig a gyfansoddodd oherwydd

cyhoeddodd hefyd ddwy gân fawr sef Golwg ar Deyrnas Crist, 1756 a

Theomemphus, 1764. Y mae’r cyntaf yn ceisio cloriannu bwriadau Duw

yn y greadigaeth a’r ail yn olrhain taith ysbrydol Cristion a’r profiadau

ddaeth i’w ran. Cyfansoddodd hefyd oddeutu 28 o farwnadau i bobl fel

Howell Harris a Daniel Rowlands ac ysgrifennodd nifer o lyfrau

rhyddieithol. Ceir ei enw ar dros 90 o lyfrau rhwng 1744 a 1791. Erbyn

hyn, cofir amdano’n bennaf oherwydd ei emynau sydd yn parhau i

ysbrydoli Cristnogion. Meddai ar y ddawn anghyffredin i gyfleu teimladau

mewnol Cristnogion mewn geiriau ac idiomau dealladwy fel bod llawer o’i

emynau yn mynegi profiadau

dwysaf yr addolwr. Fel yn y

pennill hwn,

“Iesu ei hunan yw fy mywyd,

Iesu’n marw ar y groes:

y trysorau mwyaf feddaf

yw ei chwerw angau loes;

gwacter annherfynol ydyw

meddu daear, da na dyn;

colled ennill popeth arall

oni enillir di dy hun.”

Oddeutu 1748 priododd gyda May Francis o Lansawel ac aeth i fyw i hen

gartref ei fam ym Mhantycelyn. Cawsant ddau fab sef William a fu yn

gurad yng Nghernyw a John William. Trwy gydol ei oes teithiodd trwy

Gymru yn arolygu seiadau a phregethu. Bu farw’n dangnefeddus 11

Ionawr 1791 a rhoddwyd ei weddillion i orffwys ym mynwent eglwys

Llanfair-ar-y-bryn gerllaw Llanymddyfri.

6
Yn ystod 2017 byddwn yn

dathlu o leiaf tri

digwyddiad hanesyddol.

Y dathliad cyntaf y byddwn yn ei nodi fydd 300 mlwyddiant geni y

Pêr Ganiedydd, William Williams, Pantycelyn ar yr 11eg Chwefror

1717 yn fferm Cefn-coed, Llanymddyfri.

Hefyd byddwn yn dathlu 450 mlynedd ers argraffu Testament

Newydd William Salesbury ar y 7ed Hydref 1567. Hwn oedd y

cyfieithiad cyntaf o’r Testament Newydd i’r Gymraeg a fu’n sylfaen

i waith mawr William Morgan.

Yn drydydd, byddwn yn cofio ar Hydref 31ain, Gŵyl yr Holl Saint,

gychwyn y Diwygiad Protestannaidd pan hoeliodd y mynach dinod

Martin Luther ei 95 erthygl ar ddrws Eglwys y Castell yn nhref

Wittenberg, yn yr Almaen. Digwyddiad a gafodd effaith enfawr ar

Ewrop ac yma yng Nghymru.

Penderfynodd CWM (Cyngor y Genhadaeth Fydeang) i gomisiynu

naw fideo byr er mwyn adlewyrch’r gweithgareddu sy’n digwydd o

fewn i rai o eglwysi teulu CWM. Gwahoddwyd tair eglwys

Gymraeg i fod yn rhan o’r cynllun sef Noddfa, Caernarfon,

Eglwysi Bro Penllyn ac Ebeneser, Caerdydd.

Am gyfnod o wythnosau bu Rhodri Darcy draw yn ffilmio tri o

weithgareddau Ebeneser sef, y gwaith gyda’r digartref a’r

ymgeiswyr lloches a’r cynllun gyda’r myfyrwyr yn y colegau.

Diolch i bawb roddodd amser i gael eu ffilmio. Os am weld y fideo

un ai ewch i wefan Ebeneser www.ebeneser.org neu i

www.youtube.org a theipio “10 Cardiff”.

7
Myfyrdod - o’r gair i’r galon

Eilunod - Trysor dy Galon

“Peidiwch casglu trysorau i chi'ch hunain yn y

byd yma. Mae gwyfyn a rhwd yn gallu eu

difetha, ac mae lladron yn gallu dod â'u

dwyn. Casglwch drysorau i chi'ch hunain yn y

nefoedd – all gwyfyn a rhwd ddifetha dim byd

yno, a does dim lladron yno i ddwyn dim

byd. Lle bynnag mae dy drysor di y bydd dy

galon di. (Mat 6:19-21)

Ers erioed un o’n problemau mawr fel pobl yw ein bod yn barod

iawn i blygu glin i eilunod. Mae pawb ohonom yn beiriant canfod

eilunod. (Tarddiad y gair eilun yw “ail lun”, sef copi neu efelychiad

o rhywbeth gwreiddiol, fel llungopi. Nid y gwreiddiol mohono ond

y mae’n cymryd lle y gwreiddiol.)

Cerfluniau

Wrth glywed y gair eilun tueddwn i feddwl am

gerflun mae pobl yn ei addoli fel y cerfluniau

carreg ar yr Easter Island. Ond eilun yw

unrhywbeth a roddwn yn lle Duw. Y mae eilun yn mynd â’n bryd,

yn tynnu ein sylw, yn cael ein hamser, ein hadnoddau a’n

haddoliad. Gall fod yn rhywbeth dilys. Ond pan mae rhywbeth

dilys yn mynd a’n holl fryd, eilun yw. Rhoddir blaenoriaeth i eilun

yn ein bywyd a hynny ar drael rhoi sylw, amser, adnoddau ac

addoliad i Dduw.Wrth gwrs mae pawb sydd ddim yn credu yn

Iesu Grist yn byw bywyd eilunaddolgar – er na fyddent byth

bythoedd yn fodlon cydnabod hynny – oherwydd nid ydynt yn

ystyried Duw o gwbl. Ond mae eilun yn slei ac yn llechwraidd ac

yn aml yn llithro i mewn i fywyd Cristion fel ei fod yn fwy parod i

roi blaenoriaeth iddo nac i Dduw. Gofynnaf felly, beth yw fy

eilunod i? Beth yw dy eilun di? Pa bethau y dylwn un ai gael

gwared ohonynt o’m bywyd, neu eu gwastrodi, er mwyn caru a

gwasanaethu’r Arglwydd yn well?

Chwyn

Y mae rhai ohonoch, rwy’n siwr, wedi bod yn brwydro yn

eich gerddi yn erbyn “Japanese knotweed”. Dyma

8
ddywedir amdano ar wefan The Royal Horticultural Society.

“Although rather attractive, Japanese knotweed (Fallopia

japonica) is a real thug as it spreads rapidly. In winter the

plant dies back beneath ground but by early summer the

bamboo-like stems shoot to over 2.1m (7ft), suppressing all

other growth. Eradication requires steely determination as it is

very hard to remove by hand or with chemicals.”

Fel hyn mae eilunaddoliaeth yn ein

calonnau ni. Gallwn aralleirio y

dyfyniad uchod fel hyn. “Although

rather attractive, idol worship (idolum

adorare) is a real thug as it

spreads rapidly, suppressing all

other growth. Eradication requires

faith in Jesus Christ.”

Mae eilun yn cymryd lle Duw ac yn cynnig gobaith

ffug. Rhoddir ffug bwysigrwydd i bethau neu i bobl

sydd wedi eu creu. Mae’n digwydd o’n cwmpas yn

ddyddiol ac yn effeithio’n niweidiol ar ein calonnau .

E.e., er ein bod wedi cael llond bol arno, cymrwch

D. Trump. Mae o wedi gaddo pethau mawr, na fydd

yn gallu eu cyflawni, ac mae miliynau o bobl America wedi

pleidleisio iddo yn y gobaith y bydd yn gweddnewid America. Ef

yw Mesia mawr America, (yn ôl rhai!) ac y mae pobl yn rhoi eu

ffydd ynddo.

Nawr mae Duw yn galw arnom i roi ein ffydd a’n gobaith ynddo

Ef trwy Iesu Grist. Gall ef gyflawni ei addewidion ac Ef yn unig

sydd yn haeddu ein mawl a’n hufudd-dod. Rydym wedi ein creu i

fyw mewn perthynas gyda’r Duw byw. Dyma pam y siaradodd

Iesu am drysor ein calonnau. Beth ydy ein trysor? Duw neu’r

byd? Beth yw’r sylfaen?

“Oherwydd lle mae dy drysor,

yno hefyd y bydd dy galon. (Mat 6:21)

Ffug

Obaith

9
Gŵyl y Geni 2016

Bu tymor yr Adfent yn gyfnod prysur i Eglwys

Ebeneser gyda llu o gyfrafodydd yn dathlu’r

ymgnawdoliad a geni Iesu Grist. Hoffem ddiolch i’r

holl aelodau fu wrthi’n cymryd rhan ac yn trefnu’r

gweithgareddau.

Cychwynwyd ar y gweithgareddau Nadolig

gydag oedfa fendithiol gan Gymdeithas y

4/12 Chwiorydd yn Eglwys y Ddinas ar nos Sul

4ydd o Ragfyr. Agorwyd gyda darlleniad o

lyfr Genesis oedd yn cynnwys yr adnod, “Gosodaf

elyniaeth hefyd rhyngot ti a'r wraig, a rhwng dy had di

a'i had hithau; bydd ef yn ysigo dy ben di, a thithau'n

ysigo'i sawdl ef." (Gen 3:15)” Ystyrir yr adnodau hyn

fel y broffwydoliaeth gyntaf yn y Beibl am y Meseias

Iesu. Mae adlais o’r adnod ym mhennill bendigedig

William Williams, Pantycelyn,

“y ddraig a ‘sigwyd gan yr Un,

cans clwyfwyd dau, concwerodd un,

a Iesu oedd efe.”

Diolch i’r chwiorydd am ein harwain yn ein haddoliad

wrth gychwyn dathlu geni Gwaredwr y byd a diolch i

Freda Evans am gydlynu’r gwasanaeth

11/12

Ar fore Sul 11eg o Ragfyr cafwyd oedfa

gofiadwy o dan arweiniad ein pobl ifanc.

Ceir hanes derbyn Beca, Branwen ac

Esyllt ar y dudalem flaen. Cymerwyd rhan gan Ryan,

Cian, Beca, Seren, Gruffydd, Branwen, ac Esyllt. Yn

ystod yr oedfa cyflwynwyd hanes y geni a’r ffaith

syfrdanol bod Duw wedi dod i’r byd fel baban bach.

Hefyd fe gyfeiriwyd at waith elusen Operation

Christmas Child a Nadolig yn Uganda. Un cyfraniad

annisgywl oedd rap gan Seren a Cynan. Ni wyddom

fod Seren yn gallu “beatbocsio” mor wych. Diolch i’r

athrawon ysgol Sul am eu gwaith ac i Rachel Jones

am baratoi’r sgript.

10
Gyda’r nos fe gafwyd oedfa Nadolig yng Nghapel yr Eglwys

Fethodistaidd yn yr Eglwys Newydd. Yr oedd naws hyfryd i’r

gwasanaeth hwn gyda darlleniadau Beiblaidd gan Val Scott,

Brenda Jones, Eynon Williams ac Idwal Hughes, myfyrdodau

byrion gan y gweinidog a charolau i gyfeiliant medrus Cedric

Jones ar yr organ.

Bore Sul y

18/12

18fed yr

oedd naws o

lawenydd yn

llenwi CEN i’r ymylon.

Cafwyd cyflwyniad hapus

gan y plant bychan am eni

Iesu Grist, gyda chymorth

rhieni a ieuenctid. Yn dilyn

yr oedfa cafwyd parti

Nadolig ac ymweliad gan

Siôn Corn. Diolch yn fawr

iawn i’r athrawon ysgol Sul a’r rhieni am eu holl waith ardderchog.

Oedfa Carol a Channwyll ar y cyd oedd gyda’r nos a hynny gydag

Eglwys y Ddinas yn Windsor Place. Cymerwyd rhan ar ran

Ebeneser gan Helen Thomas, Catrin Evans,ac Elin Harding, a

chafwyd oedfa o fawl fendithiol. Diolch yn fawr iawn i Cedric

Jones am gydlynu’r cwbl yn ddeheuig.

I gloi’r dathliadau,

cafwyd oedfa deuluol

fore’r Nadolig yn Eglwys

y Ddinas gyda

25/12

chynulleidfa dda wedi

dod ynghyd. Cymerwyd

rhan gan Esyllt Jones,

Carys Mair Jones, Cai

Hayes, Gwilym a Lowri

Tudur. Yn yr oedfa

hefyd roedd Owain

Doull a ddaeth â’i fedal

aur Olympaidd a enillodd yn Brasil i ddangos i’r plant. Roedd hwn

yn Nadolig i’w gofio.

11
Ar y Sul cyn y Nadolig fe gafwyd oedfa hyfryd yn

dathlu geni Iesu Grist o dan arweiniad yr Ysgol

Ysgol Sul

Sul. Cyflwynwyd hanes geni’r Arglwydd trwy

ddarlleniadau ac ar air ac mewn cân. Ychydig o

Ebeneser amser mae’r athrawon yn ei gael gyda’r plant i

baratoi ac mewn gwirionedd y maent yn cyflawni

gwyrthiau wrth i’r cwbl ddod at ei gilydd.

Wedi’r oedfa fe gafwyd parti Nadolig

yn CEN gyda bwyd blasus a

llawer iawn o hwyl. I gloi

gweithgareddau bywiog y

bore daeth Siôn Corn ar

dramp gyda llond sach o

anrhegion i’r plant. Diolch i

bawb wnaeth y bore hwn yn

un cofiadwy yn enwedig yr

Athrawon ysgol Sul a’r rhieni.

Yn ystod tymor yr Adfent fe

gafodd y plant ddau rodd gan

Ebeneser sef Calendr Adfent Masnach deg a Chomic Arwyr Ancora.

Cymorth

Cristnogol

Ar ôl oedfa Nadolig yr Ieuenctid fe gafwyd cyfle i godi arian

tuag at apêl Nadolig Cymorth Cristnogol. Cafwyd

stondinau teisennau, sgarffiau a phwyso’r deisen. Diolch i

Rachel Jones, Petra Bennett, Gwenda Hopkins, Gwenda

Spriggs, Gill Lewis a Rachel Llwyd am eu cymorth.

I Ŵyl y Gaeaf yr aeth Y Mob wrth gychwyn ar eu dathliadau

Nadolig. Buom yn sglefrio am awr yng nghysgod yr

amgueddfa cyn mynd i Eglwys y Ddinas. Yno cafwyd parti

Nadolig gyda gemau a bwyd. Diolch i bawb gyfrannodd ac

a ddaeth i helpu.

Nadolig

Y MOB

Lapio’r

Nadolig

Cynhaliwyd gweithgaredd Lapio’r Nadolig yng Nghanolfan

Gristnogol Siloh Ystrad Mynach cyn y Nadolig. Daeth

disgyblion ysgol Gymraeg Bro Allta i fwynhau’r

cyflwyniadau a’r gwaith llaw wrth glywed hanes geni’r Iesu.

12
Aeth rhai o aelodau Ebeneser i helpu ac fe gyflwynwyd comics

Nadoligaidd Arwyr Ancora gennym fel eglwys i’r plant.

Swper Mawreddog

Pob blwyddyn y mae’r Clinc -

bwyty carchar Caerdydd - yn

cynnal swper mawreddog er

mwyn codi arian tuag at

elusen. Y mae bellach

gadwyn o fwytai Clinc sy’n

gysylltiedig â charchardai'r

Deyrnas Gyfunol a chynhelir

y swper hwn mewn

cydweithrediad â’r holl fwytai hyn. Er llawenydd mawr i ni

penderfynodd y trefnwyr y byddent yn rhoi pob elw tuag at waith

Ebeneser gyda’r digartref yng Nghaerdydd. Diolchwn o waelod

calon iddynt am hyn.

Cynhelir y swper yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, ar nos

Iau 9fed Mawrth 2017. Y pris yw £75.00 y pen ac y mae lle i 150.

Os oes gennych ddiddordeb mynd rhowch wybod i Gill Lewis cyn

gynted ag y bo modd.

Agor Canolfan Conglfaen

Ar ddydd Gwener 16eg

Rhagfyr fe ail agorwyd ein

hen gapel ar Heol Siarl gan y tywysog Charles Windsor. Tros

gyfnod o ddwy flynedd fe wariwyd 3.5 miliwn yn adnewyddu’r

adeilad gan ei weddnewid i fod yn ganolfan weithgareddau

amlbwrpas. Mae'r capel wedi ei droi yn fwyty/ theatr, y festri fawr

oddi isod yn gaffi a’r neuadd fawr yn y cefn

yn ofod amlbwrpas.

Dymunwn bob llwyddiant

yn y dyfodol i’r Gadeirlan

Gatholig Fetropolaidd yn ei

menter wrth ddatblygu

Canolfan Conglfaen. Y

mae’r bwyty yn agored i’r

cyhoedd ac mae croeos i

unrhyw un fynd i ymweld â’r

adeilad.

13
Newyddion Cleifion

Cydymdeimlo

Cydymdeimlwn gyda Beti Wyn a

Denzil Davies yn eu

profedigaeth. Bu farw Gareth,

brawd Beti, yn dilyn damwain

ddifrifol ar y fferm. Gweddiwn y

bydd buddugoliaeth yr Arglwydd

dros angau yn oleuni ar eich

llwybr.

Llifogydd

Fe gafodd Mair a Petra Bennett

amser heriol dros y Nadolig

oherwydd i bibell ddŵr dorri yn

eu cartref a llifo drwy’r llawr isaf

gan greu cryn ddifrod. Dymunwn

yn dda iddynt wrth adenwyddu’r

cwbl.

Fideo Ebeneser

Penderfynodd CWM (Cyngor y

Genhadaeth Fydeang) i gomisiynu

deg fideo byr er mwyn

adlewyrchu’r gweithgareddu oedd

yn digwydd o fewn i rai o eglwysi

teulu CWM. Gwahoddwyd tair

eglwys Gymraeg i fod yn rhan o’r

cynllun sef Noddfa, Caernarfon,

Eglwysi Bro Penllyn ac Ebeneser,

Caerdydd. Am gyfnod o wythnosau

bu Rhodri Darcey draw yn ffilmio tri

o weithgareddau Ebeneser sef, y

gwaith gyda’r digartref a’r

ymgeiswyr lloches a’r cynllun

gyda’r myfyrwyr yn y colegau.

Diolch i bawb roddodd amser i gael

eu ffilmio. Mae’r fideo ar

www.ebeneser.org neu teipiwch

“10 Cardiff” yn youtube.

Bu Mary Lewis, Y Rhath, yn yr

Ysbyty am dair wythnos ar ôl y

Nadolig. Y mae bellach gartref

yn ymadfer.

Fe gafodd Tom Wedlake,

Croescwrlwys glun newydd yn

ddiweddar. Dymunwn wellhad

buan a llwyr iddo.

Cafodd Janette Jones

driniaeth ar ei llygad a nawr

mae’n gwella’n dda.

Mae Glan a Bethan Roberts,

wedi symud i fyw yng

Nghartref Sunrise, Cyncoed.

Mae Beti Jones, Cyncoed,

wedi symud am y tro i fyw

gyda’r mab Gareth a’r teulu yn

Southhampton. Dymunwn pob

bendith iddi.

Cofiwn am ein haelodau sydd

mewn cartrefi gofal, neu’n gaeth

i’w cartrefi: Rosalene Bowen,

Brenda Bowen, Mary Lewis,

Tegwen Hughes, Catherine

Wallace, Mair Thomas, Mair

Bennett.

Os gwyddoch am unrhyw un sydd

angen ymweliad, cysylltwch

gyda’r gweinidog neu un o’r

diaconiaid.

14
Calendr ion/Chwefror

5 Dydd Sul. 10.00 Cwrdd plant yn CEN. Paned. 17.30 – Oedfa Gymun yn

Eglwys y Ddinas. Dishgled. Bydd yr oedfaon o dan arweiniad y

gweinidog. Bwyd sych i’r ymgeiswyr lloches.

6 Cwrdd gweddi cenhadol yn Eglwys y Ddinas am 7.00

7 Cyfarfod diaconiaid yn Eglwys y Ddinas am 7.15

9 Cymdeithas y Chwiorydd yn Eglwys y Ddinas 2.00. Pnawn gyda’r Parch

Rosa Hunt.

12 Dydd Sul. 10.00 Oedfa o fawl yn CEN. Ysgol Sul plant, ieuenctid ac

oedolion. Paned. 17.30 – Oedfa Gymun yn Eglwys y Ddinas. Dishgled.

Bydd yr oedfaon o dan arweiniad y gweinidog. 20.00 – Paradise Run.

Ebeneser yn bwydo’r digartref ar Heol Siarl.

13 Cwrdd Gweddi 7.00 yn Eglwys y Ddinas

14 Y Gymdeithas, 7.30. Darlith Goffa y Parch. Emlyn Jenkins. Traddodir

gan Dr. Sioned Davies ar “Pregethwyr.”

15 Aelwyd Hamdden 2.00 yn Minny Street. Pnawn gyda Huw Roberts,

“Cyngor ymarferol gan Gyfrifydd.”

16 Cymdeithas y Chwiorydd yn Eglwys y Ddinas 2.00. Pnawn gyda Beth

Charles.

17 Y MOB 7.00 – 8.30 yn y Gospel Hall, Ystum Taf.

19 Dydd Sul. 10.00 Oedfa o fawl yn CEN. Ysgol Sul plant, ieuenctid ac

oedolion. Paned. 14.00 – Ymarfer band Mawl. 17.30 – Oedfa Gymun yn

Eglwys y Ddinas. Dishgled. Bydd yr oedfaon o dan arweiniad Dr Carys

Moseley.

20 Cwrdd Gweddi 7.00 yn Eglwys y Ddinas.

23 Cymdeithas y Chwiorydd yn Eglwys y Ddinas 2.00. Pnawn gyda Carys

Tudor Williams.

23 Cyngor Eglwysi Cymraeg 7.30 Myfyrdod Cyntaf y Garawys yn y Crwys.

26 Dydd Sul. 10.00 Oedfa o fawl yn CEN. Ysgol Sul plant ac ieuenctid.

Paned. 17.30 - Oedfa arbennig i nodi trichanmlwyddiant geni William

Williams, Pantycelyn, yn Eglwys y Ddinas. Dishgled. Bydd yr oedfaon o

dan arweiniad y gweinidog.

27 Cwrdd gweddi paratoad 7.00 yn Eglwys y Ddinas.

1 Y Gymdeithas. Cinio Gŵyl Ddewi yng Nghlwb Golff yr Eglwys Newydd.

3 Cymdeithas y Chwiorydd. Dydd Gweddi Chwiorydd y Byd.

3 Y MOB 7.00 – 8.30 yn y Gospel Hall, Ystum Taf.

5 Dydd Sul. 10.00 Cwrdd plant Gŵyl Ddewi yn CEN. Paned. 17.30 –

Oedfa Gymun yn Eglwys y Ddinas. Dishgled. Bydd yr oedfaon o dan

arweiniad y gweinidog. Bwyd sych i’r ymgeiswyr lloches.

15
Owain Doull a’r Fedal Aur

Cai Hayes ym Malawi

Ryan Jones yn sglefrio gyda’r MOB

Cinio dechrau’r flwyddyn y chwiorydd

16