You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Aeth criw da ohonom yn ddisgwylgar i

Neuadd Dewi Sant ar 9/12 ar gyfer

Noson yn y Ffilmiau. Ond nid oedd ffilm

yno i’w gwylio! Noson o gerddoriaeth ffilm

oedd hon gyda Cherddorfa

Philharmonic Caerdydd.

Cafwyd gwledd i’r glust wrth

wrando ar themâu ffimiau

enwocaf Hollywood yn

cynnwys Superman, Indiana

Jones, Gladiator, Pirates of

the Caribbean,

Thunderbirds a Psycho. Yn

ogystal, cafwyd premiere

Cymreig o gerddoriaeth Star

Wars Episode VII: The Force

Awakens. Ar ben y cwbl roedd un o’n Diaconiaid yn serennu ar y ffidil,

sef Gwenda Lewis. Diolch i’r pwyllgor am drefnu noson wych.

Y Gymdeithas

Cyfle i feithrin cyfeillgarwch

Ar nos Fawrth 10fed o Ionawr

cawsom glywed am antur un o’n

pobol ifanc fu’n ymweld â Malawi

am dri mis, rhwng mis Hydref a Rhagfyr. Aeth Cai Hayes yno, nid ar

wyliau, ond i weithio’n wirfoddol gydag elusen ryngwladol Progressio

sy’n teithio i rai o wledydd tlota’r byd i helpu pobol

dlawd ar gyrion cymdeithas

i newid eu bywydau er

gwell, gan weithio tuag at

ddileu tlodi a gwella eu

hiechyd. Drwy weithio gyda

sefydliadau lleol, gobaith yr

elusen yw fod y gwaith

ddechreuwyd ganddynt yn

parhau unwaith maent wedi

gadael y wlad. Roedd yn

amlwg o’i brofiadau fod y

cyfnod yn Malawi wedi

gadael cryn argraff ar Cai. Diolch iddo am sgwrs ddiddorol a

dymunwn yn dda iddo i’r dyfodol. Gallwch ddysgu mwy am yr elusen

trwy fynd i www.progressio.org.uk

4