Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Eleni rydym yn dathlu tri chan mlwyddiant geni un o emynwyr mwyaf

Cymru ac Ewrop sef William Williams. Roedd ei emynau yn un o

nodweddion mwyaf dylanwadol y Diwygiad Methodistaidd yn y 18 ganrif

ac y mae eu dylanwad yn parhau hyd heddiw. Byddwn yn nodi hyn yn

ystod y flwyddyn hon gan roi sylw arbennig i’w emynau bendigedig. Ar

nos Sul 26ain Chwefror byddwn yn cynnal oedfa nodwedd arbennig yn

Eglwys y Ddinas am 5.30 i ddathlu gyda’n gilydd un o arwyr ffydd ein

cenedl. Dyma grynodeb o’i hanes.

Ganwyd ef yn y Cefncoed, Llanfair-ar-y-bryn,

Caerfyrddin, yn un o chwech o blant i John a Dorothea

Williams. Ef oedd yr unig un o blith tri o feibion a gafodd

fyw i fod yn oedolyn. Yr oedd ei dad yn henadur yn

eglwys Annibynnol Cefnarthen hyd nes i Arminiaeth

rwygo’r achos yn ddwy. O ganlyniad ymneilltuodd y

teulu gan gychwyn achos a gyfarfyddai yn fferm

Clinpentan. Yn ddiweddarach adeiladwyd capel

Pentre-ty-gwyn ar dir Pantycelyn. Fe gafodd ei

addysg gynnar yn Athrofa Llwyn-llwyd gyda’r

bwriad o fynd yn feddyg a hynny o dan arweiniad

y Parch David Price, gweinidog eglwys

Annibynnol Maesyronen ond yn ystod ei dymor yno fe gafodd dröedigaeth.

Ym mynwent Eglwys Talgarth y digwyddodd hynny ym 1738 wrth wrando

ar Howell Harris yn pregethu. Fel hyn y canodd Pantycelyn am y profiad

yn ddiweddarach

Dyma’r boreu, fyth mi gofia,

Clywais innau lais y nef;

Daliwyd fi wrth wÿs oddi uchod

Gan ei sŵn dychrynllyd ef;

Dyma’r fan, trwy byw mi gofiaf,

Gwelais i di gynta erioed,

O flaen porth yr Eglwys eang,

Heb un twmpath dan dy droed.

Ymunodd gyda’r Eglwys Sefydledig ac fe’i hordeiniwyd yn ddiacon ym

1740 ym Mhlas Abergwili gan Nicholas Claget a bu’n gurad yn Llanwrtyd,

Llanfihangel a Llanddewi Abergwesyn hyd 1743. Bu mewn helbul hefo

llys yr esgob oherwydd ei gydymdeimlad gyda’r Methodistiaid ac o’r

5