Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Gŵyl y Geni 2016

Bu tymor yr Adfent yn gyfnod prysur i Eglwys

Ebeneser gyda llu o gyfrafodydd yn dathlu’r

ymgnawdoliad a geni Iesu Grist. Hoffem ddiolch i’r

holl aelodau fu wrthi’n cymryd rhan ac yn trefnu’r

gweithgareddau.

Cychwynwyd ar y gweithgareddau Nadolig

gydag oedfa fendithiol gan Gymdeithas y

4/12 Chwiorydd yn Eglwys y Ddinas ar nos Sul

4ydd o Ragfyr. Agorwyd gyda darlleniad o

lyfr Genesis oedd yn cynnwys yr adnod, “Gosodaf

elyniaeth hefyd rhyngot ti a'r wraig, a rhwng dy had di

a'i had hithau; bydd ef yn ysigo dy ben di, a thithau'n

ysigo'i sawdl ef." (Gen 3:15)” Ystyrir yr adnodau hyn

fel y broffwydoliaeth gyntaf yn y Beibl am y Meseias

Iesu. Mae adlais o’r adnod ym mhennill bendigedig

William Williams, Pantycelyn,

“y ddraig a ‘sigwyd gan yr Un,

cans clwyfwyd dau, concwerodd un,

a Iesu oedd efe.”

Diolch i’r chwiorydd am ein harwain yn ein haddoliad

wrth gychwyn dathlu geni Gwaredwr y byd a diolch i

Freda Evans am gydlynu’r gwasanaeth

11/12

Ar fore Sul 11eg o Ragfyr cafwyd oedfa

gofiadwy o dan arweiniad ein pobl ifanc.

Ceir hanes derbyn Beca, Branwen ac

Esyllt ar y dudalem flaen. Cymerwyd rhan gan Ryan,

Cian, Beca, Seren, Gruffydd, Branwen, ac Esyllt. Yn

ystod yr oedfa cyflwynwyd hanes y geni a’r ffaith

syfrdanol bod Duw wedi dod i’r byd fel baban bach.

Hefyd fe gyfeiriwyd at waith elusen Operation

Christmas Child a Nadolig yn Uganda. Un cyfraniad

annisgywl oedd rap gan Seren a Cynan. Ni wyddom

fod Seren yn gallu “beatbocsio” mor wych. Diolch i’r

athrawon ysgol Sul am eu gwaith ac i Rachel Jones

am baratoi’r sgript.

10