18.08.2017 Views

Torfaen Business Voice August 2017 Newsletter (Cymraeg)

Torfaen Business Voice August 2017 Newsletter (Cymraeg)

Torfaen Business Voice August 2017 Newsletter (Cymraeg)

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

MEDI

2017

GYFRAITH BUSNES

DIGWYDDIAD NESAF

Dydd Iau 21 Medi 2017

5:00PM

YN Y RHIFYN HWN:

TUDALEN 3

Materion cyfreithiol

ar gyfer busnesau

Archwilio rhai o’r materion cyfreithiol y

mae’r sawl sy;n berchen ar fusnes yn

eu hwynebu

TUDALEN 5

Cyfreithiau Diogelu

Data Newydd ar gyfer

Busnesau

Cyfreithiau Diogelu Data Newydd ar

gyfer Busnesau

TUDALEN 7

Merched mewn

Busnes Torfaen 2017

Cyfleoedd i rwydweithio

Siaradwyr ysbrydoledig

Mwynhewch de prynhawn blasus

www.twitter.com/TorfaenBiz

www.facebook.com/TorfaenEnterprise

Torfaen Economy & Enterprise

Gair gan y

Cadeirydd

Croeso i rifyn diweddaraf cylchlythyr Llais Busnes Torfaen, y

tro hwn yn canolbwyntio ar gyfraith busnes. Nid yw hwn yn

bwnc sydd bob amser yn uchel ar restr rhywun wrth ddechrau

busnes – yn sicr doedd o ddim yn uchel ar fy rhestr i – ond

mae’n deg dweud ei fod yn rhywbeth na ddylid ei anwybyddu.

Yn anffodus, nid yw diffyg gwybodaeth yn esgus mewn llys

barn! Dyma enghraifft arall wych o wybodaeth am ddim

diolch i’ch aelodaeth chi o Lais Busnes Torfaen.

Rwy’n falch o ddweud bod yr arddangosfa fusnes ddiweddar

yn llwyddiant mawr. Mynychodd mwy na 200, i ddatblygu

perthynas gyda mwy na 50 o stondinwyr. Mae’r adborth gan

y cynrychiolwyr wedi bod yn gadarnhaol iawn, gan ddefnyddio

geiriau fel ‘Gwych’, ‘Ardderchog’ a ‘Da Iawn’ - neu TBV

yn fyr!

3ydd Gyfarfod 2017

Dydd Iau 21ain Medi

Cofrestru am 5:00pm i gychwyn am 5:30pm

Dyddiad i’ch

dyddiadur

21/09/17 - Llais Busnes Torfaen - 5pm

23/11/17 - Digwyddiad Merched

Mewn Busnes Torfaen 2017 - 4:30pm

07/12/17 - Llais Busnes Torfaen - 5pm

Rydym nawr wedi lansio ein pecyn aelodaeth. Mae hwn yn

fargen i aelodau newydd ymuno hyd at fis Rhagfyr 2018 am ffi

unwaith ac am byth. Nid oes taliadau ychwanegol ac mae dau

le fesul cyfarfod, felly medrwch ddod â gwestai gyda chi i gael

y mwyaf allan o’ch aelodaeth, a rhoi cyfle i eraill i rwydweithio

gydag wynebau newydd.

Yn ein cyfarfod nesaf, bydd cyfle rhwydweithio wedi ei hwyluso

felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â digon o gardiau

busnes gyda chi. Wyddech chi ddim pwy fyddwch yn eu cyfarfod!

Peidiwch ag anghofio sicrhau bod eich aelodaeth yn dal yn

ddilys, i wneud yn siŵr eich bod yn elwa o’n digwyddiadau yn y

dyfodol.

Dennis

Ricketts

Cadeirydd, Llais

Busnes Torfaen

Ein Digwyddiad

Nesaf

Cynhelir digwyddiad chwarterol nesaf aelodau Llais Busnes

Torfaen ar ddydd Iau 21ain Medi 2017 yng Nghlwb Golff a Gwlad

Greenmeadow, Cwmbrân.

Prif ffocws y digwyddiad fydd dwy rownd o rwydweithio wedi ei

hwyluso, ond bydd hefyd dwy sgwrs bum munud gan aelodau o

Lightology a CMD International, ac yna rhwydweithio anffurfiol.

Mynychodd mwy na 65 o bobl y digwyddiad diwethaf, sy’n profi

na ddylech golli’r cyfleoedd hyn i rwydweithio!

Mae gan aelodau Llais Busnes Torfaen hawl i ddau le am ddim

yn y digwyddiad hwn, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â

chydweithiwr, cleient neu gyswllt busnes gyda chi i fanteisio’n

llawn ar eich lle.

Greenmeadow Golf and Country Club,

Cwmbran

Gall aelodau Llais Busnes Torfaen ddod â baner fflach gyda nhw

hefyd – nodwch ar eich ffurflen gofrestru electronig os ydych

chi’n dod ag un.

2

ARCHEBWCH EICH LLE yn y

digwyddiad hwn:

http://bit.ly/tbv-sep2017-welsh

CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | AWST 2017

Ddim yn aelod? Beth am ymuno

â ni a dod i’r digwyddiad?

Ffoniwch 01633 648644

E-bost: info@southwalesbusiness.co.uk

Cliciwch ar y ddolen ganlynol:

http://bit.ly/TBV-business-club-cy

Problemau

cyfreithiol i fusnesau

Mae’r erthygl yma’n ceisio edrych ar rai o’r problemau cyfreithiol

y mae busnesau’n wynebu. Mae nifer o fusnesau bach yn

dechrau gweithredu heb ystyried mewn gwirionedd y materion

a ddylai gael eu trafod. Yn aml byddan nhw’n cymryd Tenantiaeth

neu Brydles heb gymryd cyngor cyfreithiol a chyflogi staff

(yn dechrau weithiau yn rhan amser) heb sylweddoli’r cyfrifoldebau

sydd ynghlwm wrth benderfyniad o’r fath. Mae llwyddiant

busnes newydd yn aml yn dibynnu ar y camau cynllunio

sy’n digwydd cyn bod y busnes yn ystyried agor ei ddrysau i’r

cyhoedd neu gynnig gwasanaeth a gall diffyg cynllunio arwain

at fethiant y busnes.

Dyma rhai o’r

materion i’w hystyried:

1. Materion rheoleiddio

Mae angen i chi ystyried a ydy’r math o fusnes sydd gyda chi

angen rhyw fath o ganiatâd gan yr Awdurdod Lleol neu gorff

Rheoleiddio cyn i chi gychwyn. Er enghraifft , os ydych chi’n

meddwl agor caffi neu siop prydiau parod byddai angen i chi

ystyried a ydy’r caniatâd cynllunio angenrheidiol mewn lle ar

gyfer yr adeilad yr ydych chi am ddefnyddio. Os ydych chi’n

bwriadu gwneud cynnyrch mae angen i chi wirio a oes

lleiafswm safonau diogelwch sy’n berthnasol. Mae’n aml yn

werth cysylltu â’ch Awdurdod Lleol, corff masnachol neu gyfreithiwr

busnes arbenigol er mwyn sefydlu pa fath o gyngor sydd

angen arnoch chi.

2. Enwi eich busnes

Mae enwi’ch busnes yn bwysig iawn ac mae cryn dipyn o

amser yn cael ei dreulio yn meddwl am enwau bachog a fydd

yn aros yn y cof. Serch hynny, dyw nifer o fusnesau ddim yn

edrych i weld a oes modd prynu enw parth gwefan i gyd-fynd

gyda’u henw neu ddim yn gwirio a fydd yr enw yn pechu

busnes cyfredol sy’n defnyddio’r un enw neu enw tebyg. Mae

hyn yn arwain yn aml at lythyr Peidiwch a Rhowch Gorau gan

gyfreithwyr drud o Lundain. Mewn achos diweddar defnyddiodd

siop leol yr enw Singhsburies a chafodd ei herio gan yr

archfarchnad fawr. Efallai bod gan y perchennog synnwyr

digrifwch gan ei fod nawr wedi newid yr enw i Morrisinghs ond,

a bod o ddifri os ydych chi wedi gwario llawer o arian ar

arwyddion a marchnata ar gyfer eich busnes dydych chi ddim

am fod mewn sefyllfa o orfod newid yr enw ymhen rhai

misoedd i osgoi achos cyfreithiol. Mae’n werth cael cyngor gan

arbenigwr ar eiddo deallusol na ddylai gostio’n ddrud ac a all

arbed trafferthion posibl yn y dyfodol.

JANUARY

3. Cyflogi staff

Mae nifer o fusnesau bach yn cyflogi ffrindiau neu aelodau o’r

Business teulu fel staff finance a dydyn nhw ddim yn ystyried goblygiadau cael

MAY staff. Mae’n - JUNE bwysig eich bod yn siarad â chyfreithiwr ar

gyflogaeth cyn cyflogi staff, gan fod hawl gan bob aelod o

JULY staff i gael - AUGUST Amodau a Thelerau ysgrifenedig ac mae lleiafswm

safonau mewn perthynas â thâl, taliadau pensiwn a hawliau

SEPTEMBER

eraill y mae’n rhaid cadw atynt. Mae’n werth cael cyfarfod â

chyfreithiwr ar gyflogaeth er mwyn trafod y dull gorau o

gyflogi’ch staff gan fod nifer o opsiynau yn amrywio o gael

Manufacturing

staff o asiantaeth, contractwyr hunangyflogedig, staff lawn

amser neu staff achlysurol. Mae yna oblygiadau gwahanol ar

gyfer pob math o weithiwr neu gyflogai ac er bod deddfwriaeth

ar gyflogaeth yn anhygoel o gymhleth dylai fod modd i

arbenigwr yn y maes weld pethau’n ddigon eglur. Gall methu

cydymffurfio â’r rheolau arwain at ganlyniadau difrifol gan

gynnwys, mewn rhai achosion, atebolrwydd troseddol am

OCTOBER

fethu a thalu’r isafswm cyflog cenedlaethol.

4. Cael gafael ar eiddo

P’un ai a ydych chi’n cymryd tenantiaeth busnes dros y tymor

byr neu brydles hirach, mae’n werth bob amser cymryd

cyngor. Mae prydlesi yn ddogfennau cymhleth a gallant

gynnwys cymalau sy’n ymddangos yn ddiniwed ar y cychwyn

ond sy’n gallu achosi trafferthion yn nes ymlaen. Hefyd gall

gyfreithiwr profiadol ar eiddo masnachol eich cynghori ynglŷn

â’r anogaethau gall landlord gynnig os ydych chi am wella’r

eiddo. Mae’n bwysig i chi amddiffyn eich hun os ydych chi’n

bwriadu gwario arian ar addasu eiddo masnachol ac mae

cyngor yn angenrheidiol.

5. Strwythur eich busnes

Mae yna ddigon o ddewisiadau ar sut i strwythuro’ch busnes.

Gallwch fod yn unig fasnachwr, yn bartneriaeth neu’n gwmni

atebolrwydd cyfyngedig ynghyd â nifer o opsiynau eraill. Gall

gyfreithiwr busnes profiadol eich cynghori ar ba gyfrwng

masnachu sy’n gweddu orau i chi. Tra gall fod yn unig

fasnachwr yn syml, mae hefyd yn golygu atebolrwydd llawn y

byddwch efallai am osgoi. Mae’n gymharol hawdd sefydlu

cwmni newydd trwy gymorth cyfreithiwr busnes a chyfrifydd ac

mae nifer o fusnesau newydd yn synnu pa mor gost-effeithiol y

mae’r cyngor yna’n gallu bod. Mae nifer o sefydliadau sy’n

cael eu hariannu gan y llywodraeth sy’n rhoi cyngor am ddim i

fusnesau newydd a dylech chi sicrhau eich bod chi’n achub ar

y cyfle a chofiwch o hyd os nad ydych chi’n gofyn, yna chewch

chi ddim.

Yn olaf, er eich bod chi o bosibl yn ardderchog wrth gynhyrchu’r

cynnyrch yr ydych yn ei werthu neu’n darparu’r gwasanaeth yr ydych yn

ei gynnig, mae’r rhan fwyaf o bobl lwyddiannus yn canolbwyntio ar yr

hyn y maen nhw’n gwneud orau ac y defnyddio arbenigedd pobl eraill er

mwyn gwneud yn siŵr bod fframwaith cyfreithiol eu busnesau yn gywir.

Mae gwaith cyfreithiol yn debyg i waith deintyddol, gallwch chi ei wneud

eich hunan, ond mae’n debygol o fod yn boenus os wnewch chi.

CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | AWST 2017

3

Hawlio arian ychwanegol

am daliadau hwyr o anfonebau

Mae’n anffodus bod symiau sylweddol o arian yn ddyledus i’r

rhan fwyaf o fusnesau gan gwsmeriaid nad sy’n talu ar amser

ac yn hwyr iawn. Gall rheoli credyd gostio’n sylweddol i fusnesau

ac mae yna effaith ar lif arian.

Yn aml dyw’r busnes ddim am fod yn rhy galed ar y cwsmer

rhag ofn iddyn nhw golli’r cwsmer. Serch hynny os nad yw’r

cwsmer yn talu, dyw’r cwsmer ddim yn un da.

Pan fo cwsmer heb dalu ac mae’r cwsmer yn endid masnachol,

yna gallwch godi tal penodedig ar y busnes yna am gost casglu

tâl masnachol hwyr ar ben hawlio llog.

Mae taliad yn hwyr – oni bai eich bod chi eisoes wedi cytuno

pryd fydd yr arian yn cael ei dalu – ar ôl 30 diwrnod ar gyfer

awdurdodau lleol a thrafodion busnes, neu naill ai ar ôl i’r

cwsmer gael yr anfoneb neu yr ydych yn cyflenwi’r nwyddau

neu wasanaethau (os yw hyn yn ddiweddarach).

Gallwch hefyd godi llog (a elwir yn llog statudol) os yw busnes

arall yn hwyr yn talu am nwyddau neu wasanaethau. Y gyfradd

yw 8% yn ogystal â chyfradd sylfaenol Banc Lloegr ar gyfer

trafodion busnes i fusnes. Mae hyn yn gyfradd llog sylweddol

tra bod cyfraddau sylfaenol mor isel ar hyn o bryd. Mae

cyfraddau llog yn isel hyd at y pwynt ble y byddwch yn cael

dyfarniad gan y llys. Bydd Barnwr ond yn caniatáu cyfradd

dyfarniad o rhwng ½ a 2%.

Felly, trwy ddefnyddio’r fframwaith statudol o dan Ddeddf

Taliad Hwyr o Ddyled Fasnachol (Llog) 1998 i hawlio tâl penodedig

a llog fe gewch eich digolledu’n rhannol o leiaf am effaith

unrhyw daliad hwyr ar eich busnes a llif eich arian.

Mae’r swm y gallwch godi mewn perthynas â’r sŵn penodedig yn dibynnu ar swm y ddyled.

Am ddyledion hyd at £999, y tâl yw £40; am ddyledion o £1,000 at £9999.99

y tâl yw £70, ac am unrhyw ddyled o £10,000 neu fwy, £100.

Taliadau am wasanaeth

mewn prydlesi masnachol

Mae taliadau am wasanaeth yn galluogi landlordiaid i adennill

oddi wrth denantiaid costau atgyweiriadau a darparu rhai

gwasanaethau. Maen nhw hefyd yn gallu darparu ar gyfer

gwariant annisgwyl yn y dyfodol. Mae taliadau am wasanaeth

yn digwydd fel arfer pan fo angen cynnal a chadw parthau

cyffredin neu wedi eu rhannu, fel cyfadeiladau siopa neu

ystadau diwydiannol.

Termau’r brydles fydd y ffactor mwyaf arwyddocaol wrth benderfynu

beth sy’n cael ei gynnwys yn y tâl am wasanaeth a’r

swm sy’n daladwy. Y dull gorau o ddiogelu, er mwyn i landlordiaid

sicrhau eu bod yn gallu adennill costau cynnal a chadw

safle, ac i denantiaid i osgoi costau gormodol neu annisgwyl,

yw cymryd gofal wrth drafod a drafftio’r brydles.

Tra bod taliadau am wasanaeth ar brydlesi preswyl yn cael eu

rheoli gan ddeddfwriaeth sylweddol, sy’n gosod terfynau statudol

ar adennill, does dim diogelwch tebyg i denantiaid

masnachol. Mae yna rywfaint o gymorth, serch hynny, gan God

Ymarfer ar gyfer Taliadau am Wasanaeth mewn Eiddo

Masnachol Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig.

Er mai dim ond cod ymarfer ydyw, ac felly yn wirfoddol, mae’r

cod yn cynrychioli’r ymarfer gorau ar gyfer pobl sy’n

ymwneud ag eiddo yn broffesiynol a landlordiaid a thenantiaid,

ac mae’n gyfeirnod defnyddiol wrth drafod taliadau am

wasanaeth mewn prydles. Hefyd, os bydd unrhyw anghydfod

am natur ac effaith y taliadau rheiny, mae’n debygol y byddai

cyfeiriad at y Cod mewn unrhyw achos llys neu ddull arall o

ddatrys anghydfod.

Elfennau allweddol y Cod yw y dylid cae :

gwasanaethau ar sail gwerth am arian

dylai landlordiaid ddim elwa o’r taliadau

bod ffioedd rheoli yn rhesymol,

bod y taliadau am wasanaeth yn amlwg yn deg ac yn rhesymol,

bod costau’n dryloyw

a dylai bod modd adnabod eitemau, ei dyrannu a’u dosrannu

dylai tystio costau cyfrifon fod yn ddiduedd a chan arbenigwyr

sicrhau bod costau wedi codi ac mae modd eu hadennill o

fewn termau’r brydles

bod esboniad o gyllidebau a’u bod yn cael eu cyflwyno o leiaf

un mis cyn dechrau pob blwyddyn,

a bod datganiad o wir wariant yn cael ei gyhoeddi o fewn

pedwar mis i ddiwedd y flwyddyn honno.

4

CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | AWST 2017

Cyfreithiau Diogelu Data

Newydd ar gyfer Busnesau

1.

Ni waeth ar ba gam datblygu y mae eich busnes erbyn hyn -

boed newydd gychwyn, yn tyfu neu'n mynd yn ei flaen yn

hwylus - gallwch fod yn siŵr y byddwch yn trin gwybodaeth am

eich cwsmeriaid a'ch partneriaid.

Felly beth yw hyn i gyd?

Mae'r ddeddfwriaeth newydd, Rheoliadau Diogelu Data

Cyffredinol (RhDDC) yn ôl ei enw ffurfiol, yn dirymu cyfarwyddeb

blaenorol gan yr UE a Deddf Diogelu Data 1998 a daw

i rym yn llawn ar 25 Mai, 2018.

Mae’r RhDDC yn nodi'r rheolau ar gyfer prosesu data unigolyn

gyda'r bwriad o ddiogelu eu hawliau a'u rhyddid, yn ogystal â

gosod y gofynion ar gyfer symud y data hwn. Swyddfa'r Comisiynydd

Gwybodaeth (SCG) sy'n goruchwylio'r RhDDC.

Felly, beth yw’r rheolau?

Yn gryno, mae gan y RhDDC chwe egwyddor, sef rhaid

bod data personol yn:

2.

3.

4.

5.

6.

Cael ei brosesu mewn ffordd gyfreithiol, deg a thryloyw

Cael ei gasglu at ddibenion penodol, pendant a chyfreithlon

Addas, perthnasol a’i gyfyngu i’r hyn sydd ei angen at

ddibenion prosesu

Cywir ac yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf

Peidio â chael ei gadw am gyfnod hirach nag sy’n

angenrheidiol

Cael ei gadw’n ddiogel

Pam mae hyn yn bwysig?

Er nad yw'n ymddangos fod hyn yn dipyn o beth, mae'r newidiadau

hyn yn y ddeddfwriaeth sy'n rheoli sut mae busnesau yn

gofalu am y data hwnnw yn golygu bod goblygiadau difrifol os

yw'n cael ei wneud yn anghywir: gallech gael dirwy o hyd at 4%

o'ch trosiant, a gallai hyn fod yn drychinebus.

Yn ogystal, bydd unigolion yr effeithir arnynt gan dorri'r RhDDC

yn gallu hawlio iawndal am golledion niweidiol, yn ogystal ag

iawndal am golledion diriaethol. Felly, mewn gwirionedd, pe bai

rhywun yn colli £1,000 oherwydd twyll a achoswyd am eich bod

wedi mynd yn groes i'r RhDDC, fe allech gael dirwy gan SCG;

a'ch gorfodi i ad-dalu'r swm a gafwyd drwy dwyll (sef colled

diriaethol yn yr enghraifft hon) ac yna wynebu achos sifil yn

eich erbyn am iawndal ychwanegol.

Beth sydd angen i mi wneud am y mater?

Mae gwybodaeth ar wefan y SCG, yma https://ico.org.uk/-

for-organisations/business/ a fydd yn eich helpu i baratoi ar

gyfer y newid mewn deddfwriaeth ond maen nhw hefyd wedi

llunio papur sy’n awgrymu bod pob sefydliad yn dilyn 12 cam er

mwyn bod yn barod am y rheoliad newydd.

Ymwybyddiaeth: mae angen i’r bobl allweddol yn eich

busnes fod yn ymwybodol o’r gyfraith newydd.

Y wybodaeth yr ydych yn ei chadw: bydd angen i chi

ddogfennu’ch defnydd o ddata personol, a hynny’n glir.

Cyfathrebu: bydd angen i chi ddiweddaru rhybuddion 3.

Cyfathrebu: bydd angen i chi ddiweddaru rhybuddion preifatrwydd

ar eich dogfennau cytundeb er mwyn rhoi ystyriaeth

i’r RhDDC.

Hawliau unigolion: bydd angen i chi sicrhau bod eich

gweithdrefnau yn cwmpasu hawliau pob unigolyn.

Ceisiadau Gwrthrych am Wybodaeth: am fod gan unigolion

hawl i weld y wybodaeth yr ydych yn ei chadw

amdanynt, bydd angen i chi sicrhau bod gennych ffordd sy’n

cydymffurfio â’r RhDDC i adalw a rhannu’r wybodaeth am

ddim.

Sail gyfreithiol: bydd angen i chi sicrhau eich bod yn

dogfennu ar ba sail gyfreithiol yr ydych yn prosesu’r data.

Caniatâd: bydd angen i chi sicrhau bod eich cwsmeriaid yn

gwybod yn union pam y maen nhw’n rhoi’r wybodaeth i chi.

Rhaid gwneud hyn drwy ffordd ‘dewisol’, positif.

Plant: mae’r RhDDC yn benodol iawn o ran trin data plant

(unrhyw un dan 13 yn eu byd hwy) felly os yw eich busnes yn

delio â’r fath ddata, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn hwn

yn agos.

Torri amodau data: mae angen arnoch gamau gweithredu

pendant ar gyfer canfod, adrodd ac ymchwilio i achosion o

dorri amodau i’ch helpu i osgoi’r dirwyon y crybwyllir uchod.

Diogelu data trwy ddylunio: os ydych yn cyflwyno cynnyrch

neu wasanaeth newydd, meddyliwch sut y bydd yn

effeithio ar ddata unigolyn, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn

ei gael yn iawn o’r cychwyn!

Swyddog Diogelu Data: mae angen swyddog dynodedig ar

bob busnes. Os ydych yn unig fasnachwr, chi yw’r person

hwnnw.

Rhyngwladol: os yw eich busnes yn allforio data (ac os

ydych chi’n allforio cynnyrch neu wasanaeth, mae’n debyg y

byddwch) bydd angen i chi wneud yn siŵr bod eich prosesau

Gallai hyn i gyd fod yn gostus iawn ond diolch i'r drefn, mae'n

gymharol hawdd ei osgoi. Mae'r SCG wedi cyhoeddi canllawiau

i'ch helpu i baratoi ar gyfer y ddeddfwriaeth newydd. Ac mae

'na amser o hyd!

Os ydych am wybod mwy, porwch drwy wefan SCG.

https://ico.org.uk/for-organisations/business/

CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | AWST 2017

5

Eiddo Deallusol a’r hyn y mae’n ei

olygu i chi

Mae Eiddo Deallusol (ED) yn un o'r termau yr ydych siŵr o fod

wedi clywed sôn amdanynt mewn cylchoedd busnes, ond beth

yw e ac a yw'n berthnasol i chi? Mae ED yn swnio'n wych, ond

mewn gwirionedd mae'n derm cyfreithiol am grŵp o hawliau

sy'n diogelu "creadigaethau'r meddwl". O safbwynt busnes

dydd i ddydd gallai'r rhain gynnwys hawlfraint, patent, hawl

dylunio a marc masnach.

Mae hawlfraint yn ei ffurf symlaf yn amddiffyn darnau o waith

artistig a llenyddol. Efallai na fyddwch yn meddwl bod hyn yn

berthnasol os nad ydych yn cyhoeddi llyfrau neu'n gwerthu

darluniau, ond mewn gwirionedd gall gwaith artistig gynnwys

eich logo busnes, a ffotograffau yr ydych yn eu defnyddio ar

eich gwefan a'ch deunydd marchnata, tra bo gwaith llenyddol

yn cynnwys eich gwefan a chynnwys ysgrifenedig yr ydych yn

ei ddefnyddio i farchnata . Mae hawlfraint yn hawl awtomatig

ac mae'n cychwyn o'r cyfnod creu, felly nid oes system gofrestru

swyddogol. Mae angen i chi gadw cofnodion clir o ba bryd y

caiff deunydd ei greu a phwy a greodd y deunydd hwnnw, rhag

ofn y bydd angen i chi brofi hyn yn nes ymlaen. Os ydych wedi

comisiynu rhywun arall i gynhyrchu gwaith, fel ffotograffydd

neu ddylunydd, yna bydd angen i chi wirio'r telerau a'r amodau

a ddefnyddiwyd. Y sefyllfa ddiofyn yn ôl y gyfraith yw y bydd y

person yr ydych yn ei gomisiynu yn berchen ar yr hawliau oni

bai bod y contract yn nodi'n wahanol. Nid yw llawer o bobl sy'n

berchen ar fusnes yn sylweddoli na ydynt, o bosib, yn berchen

ar yr hawliau i'w logo, gwefan neu ddeunydd marchnata.

Mae patentau yn diogelu mentrau newydd yn y byd technegol

ac felly ni fyddant yn berthnasol i bob busnes. Mae'r rheolau ar

batentau yn llym, ac os ydych eisoes wedi datgelu'ch menter/newyddbeth,

fel ei arddangos mewn arddangosfa, byddwch

wedi dileu'r gallu i wneud cais dilys i ddiogelu patent. Mae yna

rai gwaharddiadau cyffredinol hefyd, megis dulliau busnes,

meddalwedd ac ati, a gweithdrefnau llawfeddygol.

Mae hawliau dylunio yn diogelu sut mae eich cynnyrch yn

edrych. Bydd dyluniad cofrestredig yn diogelu nodweddion fel

siâp, ffurfwedd, patrwm neu addurn. Er mwyn bod yn ddilys,

rhaid i ddyluniad fod yn newydd a rhoi argraff sy'n wahanol i

unrhyw ddyluniad sydd eisoes yn bodoli. Mae hon yn ffordd

gyflym a chost-effeithiol i ddiogelu cynnyrch, ond nid yw'n

diogelu unrhyw swyddogaeth dechnegol, y gellir ei ddiogelu

gyda phatent yn unig. Mewn marchnad lle gall edrychiad fod yn

bopeth, gall y rhain fod yn hawliau gwerthfawr iawn. Mae hawliau

anghofrestredig hefyd, gyda rheolau a chwmpas gwahanol

i'r DU a'r UE, ond fel gyda hawlfraint, mae gallu i ddangos pwy

a greodd y dyluniad a phryd, yn hanfodol.

Nodau masnach yw'r ffordd gyfreithiol o ddiogelu elfennau

gweledol o hunaniaeth brand, fel cynnyrch, enw gwasanaeth

neu fusnes, logo neu is-bennawd. Gellir eu defnyddio hefyd i

ddiogelu elfennau o frand megis siâp, sain a hyd yn oed arogl!

Yn gyffredinol, nid yw termau disgrifiadol a generig wedi'u

heithrio rhag cael eu diogelu. Mae nod masnach cofrestredig

yn ffordd bwerus iawn o ddiogelu elfennau eich brand, ac

mae'n bosib y gall yr hawliau hyn barhau am byth.

Mae nifer o bobl sy’n berchen ar fusnesau bach yn credu,

a hynny’n anghywir, nad yw ED yn berthnasol iddynt hwy.

Ond mae yna lawer o fanteision i’w cael wrth ystyried yr

hawliau hyn:

Rheoli risg - Gall ymwybyddiaeth o hawliau sydd eisoes

yn bodoli (mae hawliau cofrestredig yn gofnodion

cyhoeddus a gellir chwilio amdanynt), help i osgoi gwrthdaro

amlwg a lleihau’r risg o ymgyfreitha.

Perchnogaeth – I nifer o fusnesau bach mae’r sicrwydd

eu bod yn berchen ar yr hawl hwnnw yn gallu rhoi cysur

a balchder.

Ataliad – Gan fod yr hawliau yn gyhoeddus, gall eraill eu

gweld a chael eu hatal rhag eu copïo.

Clod diwydiant - Mae’n helpu os yw eich marchnad yn

eich cymryd o ddifri o’ch cymharu yn erbyn cwmnïau

mwy.

Gwerthfawr - Mae hawliau ED wedi’u cofrestru yn

asedau busnes gwerthfawr, a gallant helpu gyda gwerth

y busnes os ydych am ddenu buddsoddiad neu’n ystyried

eich strategaeth i ymadael.

Arf Masnachol - Os bydd rhywun yn eich copïo fe allwch

wneud rhywbeth amdano a diogelu eich busnes.

Gyda dealltwriaeth o hanfodion o ba hawliau ED allai fod yn berthnasol i'ch busnes, gallwch ddefnyddio'r rhain i helpu i

hyrwyddo twf eich busnes gan wybod bod gennych hawliau yn eu lle i herio'r rhai sy'n ceisio elwa ar eich holl waith caled.

Bydd Atwrnai Marc Masnach Siartredig neu Atwrnai Patent Siartredig yn gallu helpu i sicrhau eich bod yn manteisio i'r eithaf

ar y system ED ar gyfer eich busnes.

6

CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | AWST 2017

Dydd Iau 23 Tachwedd 2017

4:30pm – 8:00pm

Parkway Hotel & Spa, Cwmbran Drive, Cwmbran NP44 3UW

Ferched...

Ydych chi’n rhedeg eich busnes eich hun?

A oes gennych swydd rheoli o fewn sefydliad?

A ydych yn ystyried sefydlu eich menter eich hun?

Ydych? Yna beth am ymuno â ni ar gyfer yr hyn sy'n argoeli i fod yn noson

‘Menywod mewn Busnes’ hynod lwyddiannus unwaith eto yn Nhorfaen.

P'un ai ydych yn gweithio yn Nhorfaen neu ardaloedd cyfagos, fe gewch

groeso cynnes yn y digwyddiad hwn sydd eleni yn cefnogi Ty Hafan.

Peidiwch ag anghofio gofyn i’ch cysylltiadau, cydweithwyr a chleientiaid i

archebu lle hefyd!

gael mwy o wybodaeth ac i gadw lle ewch i

www.southwalesbusiness.co.uk

@TorfaenBiz

/ TorfaenEnterprise

Torfaen Economy & Enterprise

Paham y dylech fynychu?

Gwneud cysylltiadau newydd trwy

gyfleoedd rhwydweithio

Mwynhau cerddoriaeth ac adloniant

dros De Prynhawn blasus

Cael eich ysbrydoli gan brif siaradwr

Cael cyfle i ymweld â’r byrddau

arddangos a’r masnachwyr

Cael gwerth gwych am arian am

£10 y cynrychiolydd yn unig

Siaradwr gwadd - Jean Church,

Cadeirydd Cenedlaethol

– Sefydliad y

Cyfarwyddwyr

Cyfle i arddangos eich busnes

Codwch faner dros dro

am £20*

Nifer gyfyngedig o fyrddau

masnachu ar gael

£30 yr un*

*Prisiau heb gynnwys TAW. Yr holl elw yn mynd i Dŷ Hafan

Sesiwn galw-i-mewn Chwarae Teg

Ydych chi eisiau datblygu'r

arweinydd ynoch, a bod yn fwy

tebygol o gael dyfodol disglair

Ydych chi eisiau i’ch busnes a’ch

staff lwyddo, tyfu a ffynnu?

Os ydych chi’n arweinydd tim uchelgeisiol

sy’n awyddus i feithrin eich sgiliau, eich

gwybodaeth a’ch hyder, yna nawr yw'r

adeg ddelfrydol i’ch gwneud eich hun yn

fwy amlwg na phawb arall.

#GWNEUDEICHHUN

Mae merched a busnesau ledled Cymru

yn edrych tua’r dyfodol

Sicrhau eich bod yn fwy amlwg na

phawb arall.

Bydd y Rhaglen Menywod yn datblygu’r arweinydd tim ynddoch.

Cyfle i elwa ar Raglen Datblygu Gyrfa wedi ei hariannu’n llawn.

Mae’r Rhaglen Cyflogwyr yn cynnig cymorth busnes wedi ei

deilwra, a’i ariannu’n llawn i gael y mwyaf gan eich tim.

Os ho ech wybod rhagor am Chwarae Teg a’r rhaglenni sydd ar

gael, ewch draw i’r sesiwn galw heibio am ddim ar :

Dydd Iau 28 Medi 2017

9:00—13:00

Canolfan Arloesi Busnes Springboard,

Cwmbrân, NP44 3AW

Lluniaeth : Te/Coffi a Bisgedi

www.gwneudeichhun.cymru

CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | AWST 2017

7

Cyfarfod

yr Aelod

Michael Wright yw partner rhanbarthol De Cymru o fewn y

Bartneriaeth Busnes.

Mae gan Michael gefndir sy’n deillio o ddod o hyd i gontractau

busnes-i-fusnes mawr a'u rheoli, a hynny o fewn amrywiaeth

eang o ddiwydiannau, sydd wedi rhoi iddo'r wybodaeth

fasnachol ardderchog, a chynnau fflam reddfol yn y maes

gwerthu, marchnata a thrafodaethau.

Sefydlodd Michael fusnes ochr yn ochr â'i wraig Rebecca,

sy'n gyfrifydd ACCA cymwys gyda'r nod o helpu perchnogion

i baratoi eu busnesau i'w gwerthu, gan gynyddu eu gwerth, a

darparu strategaeth ymadael gadarn a diogel ar gyfer y sawl

sy’n berchen ar fusnes. Ymunodd Michael â'r rhwydwaith

Partneriaeth Busnes a daeth yn bartner rhanbarthol ar gyfer

De Cymru.

felly'n cynnig gwybodaeth fanwl am y farchnad leol, o

fanwerthwyr a busnesau bach i gwmnïau mwy, hyd at werth

£5 miliwn.

Cenhadaeth Michael yw gweithio gyda pherchnogion

cwmnïau bach a chanolig i gynyddu eu gwerth cyn iddynt

werthu. Does dim amheuaeth, ar ryw adeg, y byddwch yn

clywed Michael yn dweud "Nid yw byth yn rhy gynnar i baratoi

ar gyfer gwerthu busnes"

Ar ôl bod yn frocer i nifer o werthiannau busnes dros y blynyddoedd,

mae Michael yn deall yr hyn y mae prynwyr yn chwilio

amdano a gall eich cynrychioli'n arbenigol trwy'r broses

werthu, gan roi cyngor clir a gonest, a'r cyfan oll i sicrhau'r

pris gwerthu uchaf posibl i chi.

Mae'r gwasanaeth a gynigir yn ymestyn o brisiadau busnes

heb rwymedigaeth am ddim hyd at gwblhau gwerthiant yn

llwyddiannus, gyda Michael bob amser wrth law i reoli'r holl

drafodaethau yn bersonol.

Mae'r Bartneriaeth Busnes yn un o'r Broceriaid Busnes

mwyaf yn y wlad, gyda 25 o swyddfeydd rhanbarthol ledled y

DU. Trwy'r rhwydwaith cenedlaethol unigryw hwn sy'n

cysylltu gwerthwyr busnes gyda phrynwyr busnes, gall

Michael gynnig budd deuol, sef gwybodaeth leol a sylw

cenedlaethol wrth helpu perchnogion i werthu eu busnes,

Michael Wright

The Business Partnership

Ddim yn Aelod?

Ni allai fod gwell

amser i ymuno!

Fe gewch groeso cynnes iawn fel aelod newydd o Lais Busnes

Torfaen ac fe gewch fanteisio'n llawn ar ein digwyddiadau

chwarterol a'r cyfleoedd cyhoeddusrwydd sydd ar gael trwy ein

gwefan. Ac yn ogystal â hynny, mae'n hawdd ymuno ag un o

glybiau busnes mwyaf poblogaidd a ffyniannus yr ardal.

Cyfleoedd Hysbysebu

yn 2017

Erbyn hyn mae gennym sgrin hysbysebu y maen

siŵr y byddwch wedi ei gweld yn ein cyfarfod ym mis

Mehefin a bydd yn cael ei harddangos yn ein

digwyddiad ym mis Medi. Mae hwn yn gyfle gwych i

chi arddangos eich busnes yn ein pedwar digwyddiad

gyda neges sydd wedi'i deilwra i'r gynulleidfa, a'r

cyfan oll am £25.

Gofynnwch i ni ei ddangos i chi yn ein cyfarfod nesaf

ac fe wnawn ddangos i chi sut y gallwch ledaenu'r

gair am eich cynnyrch a'ch gwasanaethau!

Aelodau newydd

Accretion Accountancy Ltd - www.accretionaccountancy.co.uk

Ajuda Ltd - www.ajuda.org.uk

Odddot - www.odddot.co.uk

Tea 4 Two Befriending Service - tea4twoweb.co.uk

Mila and Pheebs Ltd - www.milaandpheebs.com

Simply Factoring Brokers - www.simplyfactoringbrokers.co.uk

Hoffem ddiolch i'n cyfranwyr

8

CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | AWST 2017

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!