You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Dyma ein chwe gair i gall ni ar gyfer

llwyddo gyda busnes newydd::

Agor cyfrif banc ar wahân ar gyfer eich busnes a chadw

cofnodion o’r holl incwm a gwariant o’r dechrau un.

Ystyried sut medrwch wella pob agwedd ar eich busnes drwy’r

amser, yn enwedig trwy wrando ar eich cwsmeriaid. Byddwch

yn synnu pa mor onest yw pobl pan fyddwch yn gofyn sut

medrwch wella eich gwasanaeth.

Meithrin eich rhwydwaith – cael hyd i ffrindiau, aelodau

o’ch teulu a chysylltiadau a fedr eich helpu mewn agweddau

penodol o’r busnes, megis cadw’r llyfrau, ffotograffiaeth,

dylunio gwe a chysylltiadau â’r wasg.

Arloesi drwy’r amser – rhoi cynnig ar syniadau newydd,

manteisio ar gyfleoedd, cael pobl greadigol o’ch cwmpas i

barhau i ddatblygu a meithrin eich busnes.

Peidiwch byth â stopio gwneud ymchwil i’ch marchnad. A yw

eich Pwynt Gwerthu Unigryw chi yn unigryw o hyd? Mae eich

USP yn eich gosod chi a’ch busnes ar wahân. Yn syml, dyma

pam y mae cwsmeriaid yn prynu gennych chi yn hytrach na

chan eraill.

Darparu’r gwasanaeth cwsmeriaid gorau posibl. Dylech bob

amser drin cwynion gan gwsmeriaid o ddifrif – a datrys unrhyw

broblem.

Ymunwch â BeTheSpark

i greu ecosystem weladwy, syml a chysylltiedig i ennyn

entrepreneuriaeth sy’n cael ei ennyn gan arloesedd yng Nghymru

Mae BeTheSpark yn gynnyrch Rhaglen Cyflymu Entrepreneuriaeth

Ranbarthol Sefydliad Technoleg Massachusetts, yr

ymunodd Cymru â hi yn 2015. Mae’n fenter fyd-eang sydd â’r

nod o helpu rhanbarthau i sbarduno twf economaidd a chreu

swyddi drwy entrepreneuriaeth sy’n cael ei sbarduno drwy

arloesedd.

Mae naw o ffigurau amlycaf Cymru o fyd busnes a’r byd academaidd

wedi ymuno â'i gilydd i ddechrau'r mudiad hwn, gan

anelu i adeiladu cymuned fydd yn helpu i drawsnewid Cymru,

ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf ac yn y pen draw sbarduno mwy

o fusnesau newydd, mwy o arloesi a masnacheiddio, mwy o

gyfleoedd a mwy o swyddi.

Dyma’r naw: Ashley Cooper, Catalyst Growth Partners; Yr

Athro Simon J. Gibson, Wesley Clover Corporation; Yr Athro

Dylan Jones-Evans, Prifysgol De Cymru; Yr Athro Hilary

Lappin-Scott, Prifysgol Abertawe; Daniel Mines, Grŵp Admiral;

Dr Drew Nelson, IQE plc; Hayley Parsons, sylfaenydd GoCompare.com;

a James Taylor, sylfaenydd SuperStars.

Lansiwyd mudiad BeTheSpark ar ddiwedd Mehefin 2017, a’i

nod yw cysylltu pobl sydd â’r un meddylfryd gan ddod ag arloesi

ac entrepreneuriaeth at ei gilydd.

Y weledigaeth yw:

“Ymwreiddio ymrwymiad cenedlaethol yr holl rhanddeiliaid i

entrepreneuriaeth ac arloesi ledled Cymru, i greu mwy o

gwmnïau proffidiol, brodorol, sy'n creu cyfoeth”

SEPTEMBER

Gan drafod ei rôl fel Prif Weithredwr

BeTheSpark, meddai Caroline Thompson :

Manufacturing

“Dechreuais yn fy rôl yn ffurfiol ar 4 Medi a phleser o’r mwyaf

ydyw i arwain y mudiad hwn. Rwyf wedi cael fy secondio gan

NatWest i gymryd y rôl. Bûm yn arwain hybiau Cyflymu Spark

ym Mryste a Chaerdydd yn ffurfiol, fel rhan o dîm Entrepreneuriaeth

NatWest dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae

NatWest wedi gwneud addewid sylweddol ar ffurf fy nghostau

OCTOBER

cyflog ac felly hwythau yw Partner Corfforaethol cyntaf

BeTheSpark.

Ers y digwyddiad lansio ym Mehefin 2017 rydym wedi bod yn

gweithio’n ddyfal ar y nifer o ymrwymiadau a wnaed gan y

300 a fynychodd, a hynny ar ffurf addewidion a Brwydrau y

Mae Angen Eu Hennill. Gall bawb helpu - o agor eu

swyddfeydd i gynnig i gynorthwyo cwmnïau newydd i

sesiynau mentora neu gefnogi sesiynau rhwydweithio.”

Play your part:

Cofrestrwch nawr ar www.BeTheSpark.Wales

Hyrwyddwch #BeTheSpark i eraill

Cysylltwch eich digwyddiadau i #BeTheSpark

Cydnabyddwch nad oes unrhyw gystadlu mewn

adeiladu cymunedau

Byddwch yn hyrwyddwr #BeTheSpark

@BeTheSpark

Cysylltwch â Caroline yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw gwestiynau Caroline.Thompson@BeTheSpark.info

4 CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | TACHWEDD 2017