You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Cenhedlaeth y cynnydd yn trawsnewid tirwedd

busnes y DU, meddai Barclays Business

Mae nifer y busnesau sy’n cael eu rhedeg gan bobl dros 55

oed wedi cynyddu 63 y cant yn y ddegawd ddiwethaf

Y grŵp oedran perchnogion busnes sy’n tyfu gyflymaf yw rhai

dros 65 oed, gyda chynnydd anferth o 140 y cant

Mae Liz Earle, MBE, wedi dod i helpu i gynghori’r banc ar sut

orau i wasanaethu anghenion y farchnad o entrepreneuriaid

aeddfed yma

21 Awst 2017, Llundain: Mae Barclays Business wedi canfod,

ymhell o fod yn barod i ymddeol, bod llawer o bobl dros 50 a 60

yn profi nad yw byth yn rhy hwyr i wireddu breuddwydion o fod

yn fos arnyn nhw eu hunain. Mae data Barclays yn datgelu bod

cynnydd o 140 y cant wedi bod yn nifer y perchnogion busnes

65 oed a throsodd yn y ddegawd ddiwethaf - y grŵp oedran

sydd wedi cynyddu gyflymaf.

Dros yr un deng mlynedd, cynyddodd nifer busnesau a redir

gan bobl 25-34 oed 23 y cant, cyfradd lawer is, sy’n herio’r

dybiaeth bod y byd busnesau newydd yn cael ei lywodraethu

gan bobl yn eu hugeiniau. Yn wir, mae’r data’n awgrymu bod yr

ysbryd entrepreneuraidd yn cynyddu gydag oedran;

cynyddodd entrepreneuriaid dros 55 oed 63 y cant dros yr un

cyfnod.

At hyn, mae busnesau newydd sy’n cael eu sefydlu gan bobl

dros 55 oed yn cael effaith arwyddocaol - mae Barclays yn

amcan bod busnesau newydd a sefydlwyd gan bobl 55+ yn

2015, wedi cyfrannu mwy na £7 biliwn2 i economi’r DU y

flwyddyn ganlynol.

Mae Barclays wedi adnabod cyfle i’r diwydiant ddiwallu anghenion

yr entrepreneuriaid hŷn yma yn well, felly mae’r banc wedi

gwahodd Liz Earle i fod yn Gynghorydd Busnes Entrepreneuraidd.

Gyda’i chymwysterau busnes eang, a’i phrofiad o

sefydlu mentrau yn ifanc ac yn ddiweddarach yn ei bywyd,

gofynnodd Barclays i Liz ymuno â nhw i gynghori sut y gallai

gefnogi yn well ei entrepreneuriaid hŷn, gyda ffocws penodol ar

y cyfleoedd a’r heriau a wynebir gan berchnogion busnes yn y

grŵp oedran 50+.

Mae’r genhedlaeth hŷn yn ychwanegu cymaint o

werth i’r gweithle mewn unrhyw gyd-destun - gan ddod â

chyfoeth o brofiad a chysylltiadau at y bwrdd. Nid wyf yn

synnu o weld cymaint o entrepreneuriaid newydd o

‘nghenhedlaeth i, ond mae’n wych eu gweld yn cymryd y

cam hwn yn ddiweddarach yn eu hoes, yn hytrach na

theimlo ei bod yn rhy hwyr

6

CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | TACHWEDD 2017

Nododd Deb Reader, Rheolwr Bancio Busnes Barclays:

Mae’n hynod gweld y duedd newydd hon o entrepreneuriaid

‘hŷn’. Ar adeg pan allent fod yn cynllunio ar gyfer ymddeol,

mae pobl dros 55 yn defnyddio eu sgiliau trwy roddi eu

cyfoeth o brofiad a gwybodaeth fusnes ar waith, gan chwalu

stereoteipiau yn y broses.

“Rydym yn frwd o blaid cefnogi cwmnïau o bob maint, siâp ac

oedran, lle bynnag y maent ar eu taith. Wedi dweud hynny,

rydym yn awyddus i ganolbwyntio ar y garfan gynyddol hon o

entrepreneuriaid a rhoi’r gefnogaeth y maent ei hangen i

wneud eu syniadau busnes yn realiti. Mae gweithio gyda Liz

yn dod â phersbectif ffres i anghenion pobl dros 50 oed mewn

busnes, gan ein helpu i roddi gwasanaeth o’r radd flaenaf.”

Yn seiliedig ar ei chyfoeth o brofiad yn ystod ei gyrfa, mae Liz

Earle wedi rhannu ei chynghorion pwysicaf hi ar gyfer y sawl

sydd eisiau cychwyn busnes yn ddiweddarach yn eu hoes.

Cynghorion busnes gorau Liz Earle ar gyfer entrepreneuriaid

aeddfed

1. Bod â hyder yn eich gallu - boed yn mynd â’ch gyrfa

mewn cyfeiriad newydd, neu’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl

Manufacturing

cyfnod i ffwrdd, credwch yn y gwerthoedd sydd gennych i’w

cynnig. Bydd eich doethineb, eich profiad a’ch gallu i weld y

darlun mwy yn asedau gwych i unrhyw fusnes, ac yn

cyd-fynd â’r sgiliau a gynigir gan y genhedlaeth iau

2. Mae gwybodaeth o’ch pwnc yn allweddol – peidiwch

byth â rhoi’r gorau i darllen ac ymchwilio eich busnes (mewn

OCTOBER

llyfrgelloedd, nid Google yn unig!) i sicrhau bod gennych

wybodaeth fanwl, ddwfn o’r pwnc

3. Gwybod eich strategaeth fusnes fel cefn eich llaw–

Unwaith rydych wedi meddwl yn fanwl am y syniad, mae

angen i chi wybod, a medru esbonio i eraill, sut mae hyn yn

troi’n fusnes. Mae hyn yn sylfaenol o ran sicrhau cymorth a

chyllid. Ymarferwch gyda’ch teulu a’ch ffrindiau; wedyn pan

fo’n bwysig, medrwch gyflwyno eich syniad mewn modd clir a

chryno

4. Dysgwch am dechnoleg – mae technoleg a’r cyfryngau

cymdeithasol yn hanfodol i’r busnes modern, ac nid oes yn

rhaid iddynt beri dychryn. Mae digon o gymorth ar gael i

entrepreneuriaid hyn ar y pynciau hyn; medrwch hyd yn oed

ymweld â changen Barclays i gael cymorth am ddim gan y

Digital Eagles ar sut i ddefnyddio technoleg yn eich busnes

5. Cymerwch eich amser, hyd yn oed os ydych chi’n

meddwl ei fod yn brin – Rwyf wastad wedi dweud “os oes

yn rhaid iddo fod nawr, yna na yw’r ateb”. Peidiwch byth â

gadael i neb eich rhuthro i gymryd penderfyniad; gall pob un

a gymerwch gael effaith hirdymor arnoch chi a’ch busnes,

felly rhaid i’r penderfyniad fod yr un iawn.