Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
MAI

2018

www.twitter.com/TorfaenBiz

www.facebook.com/TorfaenEnterprise

Torfaen Economy & Enterprise

AD BUSNES

DIGWYDDIAD NESAF

Dydd Iau 21 Mehefin 2018

5:00PM

Gwneud i Eiddo Weithio yn Nhorfaen
Nodiadau’r

Cadeirydd

Mae busnes bob amser yn her, p'un a yw'n delio â'r eira neu

fod dan luwch o waith. Wrth i'r tywydd cynhesach nesáu, mae

llawer o fusnesau yn gofidio am y cwmwl tywyll sef gweithredu'r

Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol ar 25 Mai 2018 a'r

bygythiad o ddirwy o 4% o gyfanswm y trosiant am beidio â

chydymffurfio neu dorri cyfrinachedd data.

O gofio pwysigrwydd TG, cyfryngau cymdeithasol a marchnata

digidol, mae hwn yn fater sy'n effeithio arnom ni i gyd.

Bydd yn rhaid i fusnesau sydd dal i ddibynnu ar gofnodion

papur mewn cabinet ffeilio gydymffurfio gan fod y rheoliadau

hefyd yn rheoli'r data a gedwir am staff, cwsmeriaid neu

gleientiaid, waeth pa fformat y caiff ei gadw.

Nid yw unrhyw un am gnoc ar y drws gan y Comisiynydd

Gwybodaeth ac felly yn ein cyfarfod nesaf, a noddir drwy

garedigrwydd Johnsey estates, bydd gennym gyflwyniad a

sesiwn Holi ac Ateb gan Dr Kerry Beynon, Acuity Legal, fydd yn

gallu (yn ôl y gobaith) darparu cyngor defnyddiol ar gydymffurfio

yn ogystal â'r siawns arferol i hyrwyddo'ch busnes yn ystod

sesiwn rhwydweithio.

Er mai thema'r cylchlythyr hwn yw llesiant, byddwch yn ymwybodol

na fydd unrhyw fath o ystyrlonrwydd, cerrig poeth neu

Yoga Carmig yn medru eich achub rhag canlyniadau torri

cyfrinachedd data felly rwy'n edrych ymlaen at eich gweld chi i

gyd yno.

Ashley Harkus

Cadeirydd, Llais Busnes

Torfaen

Dyddiad i’ch dyddiadur

20/09/18 - Llais Busnes Torfaen - 5pm

06/12/18 - Llais Busnes Torfaen - 5pm

Greenmeadow Golf and Country Club,

Cwmbran

Ddim yn aelod? Beth am ymuno

â ni a dod i’r digwyddiad?

Ffoniwch 01633 648644

E-bost: info@southwalesbusiness.co.uk

Cliciwch ar y ddolen ganlynol:

http://bit.ly/TBV-business-club-cy

Ein Digwyddiad Nesaf

Mae ein cyfarfod nesaf ar ddydd Iau 21 Mehefin am 5pm

yng Nghlwb Golff Greenmeadow, Ac mae’n bleser

gennym gyhoeddi mai Johnsey Estates sy’n noddi’r

cyfarfod.

Bydd y cyfarfod hwn yn canolbwyntio'n bennaf ar rwydweithio

wedi'i hwyluso i roi cyfle i aelodau newydd ac aelodau

presennol gwrdd â phawb mewn un noson.

Bydd yna hefyd sylw arbennig ar rhai aelodau o Theatr y

Congress a Awaken Coaching ynghyd â chyfle i holi'r

arbenigwyr am y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol

(GDPR).

Mae gan yr aelodau hawl i 2 le am ddim yn y digwyddiad hwn,

felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â chydweithiwr, cleient

neu gyswllt busnes fel y gallwn ddarparu cysylltiadau gwerthfawr

i fusnesau'r naill a'r llall.

Gall Aelodau Llais Busnes Torfaen hefyd ddod â baner

arddangos - nodwch ar y ffurflen archebu electronig os

byddwch yn dod â'ch un chi. I gadw lle:

ARCHEBWCH EICH LLE yn y digwyddiad hwn:

http://bit.ly/tbv-june2018-cy

YN Y RHIFYN HWN:

TUDALEN 3

Lles

Pwyntiau allweddol i les yn y

gweithle

TUDALEN 6

Pensiynau

Gofynion newydd o ran pensiwn i

fusnesau

TUDALEN 7

GDPR

Ffurflen gofrestru newydd GDDC i

barhau i dderbyn ein gwasanaethau

cymorth busnes TEE Anfonwch nawr!

2

CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | MAI 2018
Llesiant Mewn Busnes Bach:

Sut y gallwch

chi helpu

Dewch i ni Gael Siarad Amdano

Mae pobl sy'n hunangyflogedig ac yn rhedeg eu busnesau

eu hunain yn hen gyfarwydd â bod yn hunan-ddibynnol.

Ond nid oes rhaid i hunanddibyniaeth olygu gwneud pethau

ar eich pen eich hun - yn aml y cam symlaf a'r cyntaf tuag at

wella llesiant yw siarad amdano, p'un a yw'n ymwneud â sut

rydych chi'n teimlo neu sut mae rhywun rydych chi'n ei

gyflogi yn teimlo. Mae'n bwysig i bobl deimlo'n gyfforddus

wrth drafod eu hiechyd meddwl, a bod pawb yn eich

sefydliad yn teimlo eu bod yn gallu siarad am straen y

maent yn ei wynebu, neu broblemau y maent yn teimlo eu

bod yn effeithio arnynt o ddydd i ddydd. Un peth y gallech ei

ystyried yw dod o hyd i fentor y gallwch chi siarad ag ef/hi

am broblemau yn eich busnes - ceisiwch ddod o hyd i rywun

yn eich cangen Ffederasiwn Busnesau Bach lleol.

Mae Arddull y Swydd yn Cyfri

Mae'n bwysig eich bod chi a'ch staff yn gallu cydbwyso

bywyd gwaith a chartref, rheoli pwysau gwaith a theimlo'n

galonogol a chymhellol yn y gwaith. Fel pobl hunangyflogedig

a pherchnogion busnesau bach, rydych yn gwybod

gwerth gwaith caled a bod ein swyddi'n cael effaith fawr ar

ein hiechyd a'n lles. Canfu Arolwg y Gweithlu yn 2007/08

fod tua 442,000 o unigolion ym Mhrydain yn credu eu bod

yn dioddef straen sy'n gysylltiedig â gwaith ar lefel a oedd

yn eu gwneud yn sâl. Gall cael polisi clir ar weithio hyblyg

gynyddu perfformiad gwaith ac ymgysylltiad y gweithwyr, ac

mae'n caniatáu i weithwyr reoli eu gwaith a'u bywyd cartref

yn well. Mae yna sawl math o ddulliau gweithio hyblyg, gan

gynnwys gweithio gartref, gweithio rhan amser, amserau

hyblyg neu rannu swydd. Mae gennych rwymedigaethau

cyfreithiol os yw gweithwyr yn gwneud cais i weithio'n

hyblyg, ond ceisiwch feddwl yn rhagweithiol am y ffyrdd y

gallai eich gweithwyr weithio'n fwy hyblyg. I ddarganfod

mwy am eich dyletswyddau cyfreithiol ar weithio hyblyg,

gallwch ddefnyddio Llinell Gymorth Gyfreithiol Ffederasiwn

Busnesau Bach (FSB).

Mae’r Amgylchedd Ffisegol yn Cyfri

Gall yr adeiladau yr ydym yn gweithio ynddynt wneud

gwahaniaeth enfawr - mewn ffordd gadarnhaol a negyddol -

i'r ffordd yr ydym yn teimlo o ddydd i ddydd. Mae 85 y cant o

bobl yn Lloegr yn cytuno bod ansawdd yr amgylchedd

adeiledig yn dylanwadu ar y ffordd y maent yn teimlo. Gall

gwella'r amgylchedd rydych chi'n gweithio ynddo fod yn un

o'r pethau hawsaf i'w wneud - ond gallai hefyd wneud y

gwahaniaeth mwyaf. Gall ansawdd aer da arwain at well

iechyd a lles.

Gall ansawdd aer gwael yn y gweithle arwain at broblemau

iechyd fel cur pen, blinder, a diffyg canolbwyntio. Ceisiwch

ddod â rhai planhigion ychwanegol i'ch gweithle. I fusnesau

sydd wedi'u lleoli mewn swyddfa, mae cylchdroi lleoliadau

eistedd JULY fel - AUGUST bod gweithwyr yn gallu rhannu desgiau ger ffenestri

a chael cyfarfodydd ar gerdded yn ddwy strategaeth hawdd a

all SEPTEMBER

gynyddu'r golau. Mae ymchwil gan ymgyrch Ar Eich Traed

Prydain yn tynnu sylw at y ffaith ein bod yn eistedd am

gyfartaledd o 8.9 awr y dydd. Gall eistedd am fwy na phedair

awr Manufacturing

y dydd arwain at anystwythder, poen cefn, problemau â'r

cyhyrau a gall gynyddu lefelau siwgr yn y gwaed.

Corff Iach, Meddwl Iach

Gorau po iachach yr ydych chi, yr hawsaf y gallech ei chael hi

i gadw i weithio pan fydd angen. Gall gofalu am eich corff

OCTOBER

gefnogi eich iechyd corfforol a meddyliol. Gall ymarfer corff

leihau eich risg o salwch mawr, fel clefyd y galon, strôc,

diabetes math 2 a chanser, a hynny o hyd at 50 y cant. Bwyd

a chwsg yw blociau adeiladu corff iach, felly mae'n bwysig ein

bod ni'n bwyta'n iach a chael y maint cywir o gwsg. Dylai pawb

geisio bwyta pum dogn o ffrwythau a llysiau'r dydd ac yfed

digon o ddŵr. Mae gan wefan Dewisiadau'r GIG ystod o offer,

apiau a phodlediadau rhyngweithiol efallai yr hoffech chi

edrych arnynt ac efallai eu rhannu gyda staff.

Cefnogaeth i chi a’ch staff pan fydd

ei angen

Mae cadw eich hun a'ch staff yn iach yn hynod bwysig - mae

hefyd yr un mor bwysig i gael gafael ar y cymorth sydd ei

angen arnoch chi neu'ch staff os yw un ohonoch yn datblygu

anabledd neu gyflwr iechyd wrth weithio. Os yw rhywun yn

syrthio allan o fyd gwaith, gall hyn nid yn unig arwain at golli

aelod gwerthfawr o staff o safbwynt y busnes, ond gall arwain

at ganlyniadau iechyd gwaeth iddynt a chyfrannu at ganlyniadau

negyddol ar draws yr economi. Mae busnesau hunangyflogedig

a busnesau bach yn gymharol lwyddiannus o'u

cymharu â gweddill y sector preifat o ran cyflogi pobl ag

anableddau - mae'n wych i chi, eich busnes ac yn wir eich

staff, os gallwch chi feddwl am gamau ychwanegol y gallwch

eu dilyn i ddatblygu gweithle cynhwysol a chefnogol. Os ydych

chi'n creu swydd newydd, gan gymryd aelod newydd o staff,

neu'n ystyried pa newidiadau y gallwch chi eu gwneud i

swyddi sy'n bodoli eisoes, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n

ystyried sut y gallwch helpu i sicrhau nad yw cyflyrau cyhyrysgerbydol

yn eich rhwystro rhag cael y staff gorau.

Estyn allan

Weithiau nid oes gennych yr holl atebion, ac os ydych chi'n

wynebu sefyllfa nad ydych chi'n ei deall yn iawn, peidiwch ag

ofni siarad â'r arbenigwyr. Dyma rai lleoedd i ddarganfod mwy:

Gofal Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB), sef y gwasanaeth

cyngor meddygol ac iechyd a gynigir i aelodau'r Ffederasiwn

Busnesau Bach (FSB). Gall gefnogi aelodau gydag amrywiaeth

o gyflyrau iechyd a rhoi cyngor ar les.

CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | MAI 2018

3
Y Tŵr Ifori

Nid yw’n syndod nad yw mwyafrif llethol y gweithwyr yn

gwybod beth y mae Adnoddau Dynol (AD) yn ‘ei wneud’. I

lawer, yr unig adeg maent yn gweld AD yw pan maent yn

dechrau, pan fo rhywbeth yn mynd o’i le, a phan maent yn

gadael.

Ystyrir AD yn aml fel ‘tŵr ifori’, ar wahân i realiti’r gweithlu

yn y maes. Ni allai’r syniad hwn fod ymhellach o’r

gwirionedd – os oes pobl dan sylw, yna mae AD yn rhan o’r

broses.

Felly, beth sy’n mynd ymlaen y tu ôl i’r drysau?

Agor y Drysau

AD strategol neu

‘weddnewidiol’

Mae hyn yn golygu pennu amcanion hirdymor trwy gyflawni

strategaeth a newid. Mae’n golygu edrych ar y darlun mwy

o ran anghenion eich busnes a thwf eich cyfundrefn fel y

mae’n ymwneud â’ch gweithwyr. Er enghraifft, gallai

gynnwys gweithio i arolygu a datblygu arbenigrwydd

gweithiwr a datblygu rhaglenni er mwyn cynyddu cynhyrchiant

gweithiwr neu gallai gynnwys opsiynau ailstrwythuro.

Nod AD strategol yw cael enillion ar eich buddsoddiad a

helpu i gadw eich cyfundrefn yn gystadleuol ac yn datblygu.

Os ydych chi angen brawddeg gwmpasog i ddisgrifio AD,

yna gellid dweud ‘delio gyda chylch bywyd cyfan gweithiwr,

o’r cyfnod cyn recriwtio i’r cyfnod ar ôl terfynu’. Ond nid yw

hyn yn disgrifio hanfod yr hyn y mae AD yn ei wneud. Bydd

rhannu swyddogaethau AD yn rhai ‘gweithredol’ a rhai

‘strategol’ yn rhoi mwy o syniad i chi, ond fel y gwelwn yn

nes ymlaen, nid yw hyn ‘chwaith yn cydnabod effaith

ehangach rheolaeth AD effeithiol a modern.

AD gweithredol neu

‘weithrediadol’

Mae hyn yn cyfeirio at y prosesau gweinyddol a gweithredol

– tasgau o ddydd i ddydd sydd angen eu cyflawni i ddiwallu

anghenion gweithwyr a chynnal swyddogaethau. Mae AD

gweithrediadol yn gweithredu’r amcanion sy’n caniatáu i’ch

cyfundrefn gyflawni ei amcanion hirdymor. Gall y prosesau

hyn gynnwys:

Amddiffyn:

sicrhau bod eich cyfundrefn yn aros o fewn ffiniau cyfraith cyflogaeth ac arferion gorau;

Caffael:

cynllunio, recriwtio, dethol a chyflwyno;

Datblygu:

hyfforddiant, hyfforddi, cynllunio gyrfa a rheoli perfformiad;

Budd-daliadau ac iawndal:

penderfynu ar gyflog, gweinyddu cyflogau a budd-daliadau gweithwyr;

Cynnal a chadw:

cynnal data-basau, paratoi contractau, darparu’r fframwaith ar gyfer polisi a gweithdrefnau a’r pecynnau i

drosi’r polisïau hynny yn weithredu, gan gynnal a gwella amodau gwaith, cadw staff, cyfathrebu â gweithwyr,

cysylltu â gweithwyr a dadansoddi ac adrodd;

Cysylltiadau gweithwyr:

er enghraifft, gwaith achos unigol megis disgyblu, cwynion a galluogrwydd.

4

CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | MAI 2018
Nid oes llinell glir bob amser rhwng gweithredol a strategol.

Er enghraifft, gallai hyfforddiant ddod o fewn y categori

gweithredol ond mae bwriad strategol iddo. Mae AD

gweithredol a strategol yn plethu a bydd swyddogaeth

weithredol aneffeithiol yn llesteirio’r swyddogaeth strategol,

ac i’r gwrthwyneb. Mewn byd delfrydol, dylai AD

gweithredol weithio yn y cefndir tra dod AD strategol yn

symud eich busnes ymlaen. Fodd bynnag, mewn

gwirionedd yn y rhan fwyaf o achosion, mae materion

gweithredol yn medru mynd yn oruchaf, yn enwedig pan fo

rhywbeth yn mynd o’i le. Gall hyn fod oherwydd systemau a

phrosesau aneffeithiol neu ddiffyg adnoddau (gwybodaeth,

ariannol neu ddynol), ond pan aiff rhywbeth o’i le, mae’n

galw am eich sylw a’ch amser ar unwaith. Ymhellach, mae’r

materion hyn yn llywodraethu nes cânt eu datrys. Yn yr un

modd, mae amcanion strategol nad ydynt wedi eu gweithio

allan yn iawn neu nad ydynt yn cyd-fynd ag amcanion eich

cyfundrefn yn llesteirio swyddogaethau gweithredol

ymarferol beunyddiol.

Y Gymuned Ehangach

JANUARY

Mae gan AD modern, yn weithredol ac yn strategol, rôl

bwysig i’w chwarae o ran llwyddiant eich busnes. Mae’n

cael effaith ar sut mae’r gymuned leol, y gymuned ehangach

a sector eich diwydiant yn gweld eich cyfundrefn. Ar

wahân i’r amlwg, bod AD yn gweithio i gadw eich busnes o

fewn y ffiniau cyfreithiol a’r tu allan i dribiwnlys cyflogaeth,

mae angen hefyd ystyried eich enw da.

Mae eich enw da yn elfen hanfodol os yw eich

busnes i aros yn gystadleuol a llwyddiannus. Mae

eich enw fel cyflogwr yn effeithio eich enw da fel busnes.

Mae hyn yn cychwyn yn gynnar yn y broses recriwtio ac yn

parhau ar ôl i’r berthynas waith ddod i ben. O sut rydych

chi yn ymateb (neu ddim yn ymateb!) i ddarparwyr

weithwyr i sut mae eich gweithwyr yn teimlo amdanoch chi

fel cyflogwr. Bydd gan y rhan fwyaf ohonoch gymalau

contract neu bolisïau i amddiffyn eich hun rhag niwed i’ch

enw da tra bod y person yn cael ei gyflogi gennych (neu

am gyfnod byr ar ôl iddynt adael).

Ond beth am ymgeiswyr posibl nad ydynt wedi clywed

gennych ar ôl gwneud cais am swydd (neu, yn waeth, rhai

a gyfwelwyd ac na fu i chi gysylltu â nhw wedyn), yn

defnyddio cyfryngau cymdeithasol i leisio barn? Mae’r

wybodaeth hon allan yn y parth cyhoeddus i bawb, gan

gynnwys eich cleientiaid a’ch cystadleuwyr, ei darllen. Yn

yr un modd, mae amrywiol wefannau lle gall cyn-weithwyr

roddi eu barn am gyn-gyflogwyr a thra nad oes sylwedd i

rai sylwadau, mae mwd yn glynu, a mwd sy’n cael ei daflu

gan gyn-weithwyr anfodlon yw hwn. Mae llawer o bethau a

all fod wedi arwain at hyn, megis diffyg sgiliau rheoli,

cyfathrebu aneffeithiol, systemau gwaith anfoddhaol neu

ddiwylliant neu ethos annifyr yn y cwmni. Tra nad yw AD yn

medru datrys popeth, mae yn gweithio tuag at liniaru

pethau fel hyn.

Nid yw busnesau bellach yn ystyried AD fel

rhywbeth cwbl weithredol a swyddogaeth ystafell

gefn yn unig. Mae cyfundrefnau modern sy’n

meddwl am y dyfodol yn gwybod bod rheolaeth

AD effeithiol yn agor drysau’r tŵr ifori ac yn

mentro i’r gymuned ehangach – gan amddiffyn a

thyfu busnesau.

CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | MAI 2018

5
JANUARY

Cyflogwyr: a ydych chi’n barod am y

gofynion cofrestru awtomatig?

Yn ddiweddar, datgelodd y Rheoleiddiwr Pensiynau

(TPR) fod dros wyth miliwn o weithwyr bellach wedi

cofrestru ar gynllun pensiwn yn y gweithle. Fodd bynnag,

gyda newidiadau pellach ar y gweill, dylai cyflogwyr

sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o'r datblygiadau

diweddaraf.

Dyletswyddau cofrestru

awtomatig i gyflogwyr newydd

O dan cofrestru awtomatig i bensiynau, mae dyletswydd

ar gyflogwyr i gofrestru gweithwyr cymwys ar bensiwn yn

y gweithle a thalu isafswm fel cyfraniad i'r gronfa. Y

gweithwyr cymwys yw'r rheini sydd rhwng 22 oed ac

oedran pensiwn y wladwriaeth, ac sydd ag enillion

cymwys dros y sbardun enillion cofrestru awtomatig o

£10,000.

Daeth y gyfraith i rym i gyflogwyr mawr ar 1 Hydref 2012

a chafodd ei chyflwyno'n raddol gyda 'dyddiadau llwyfannu'

ar wahanol adegau. Fodd bynnag, o 1 Hydref 2017,

rhaid i gyflogwyr newydd gydymffurfio â'u dyletswyddau

cofrestru awtomatig ar unwaith trwy gofrestru unrhyw

weithwyr cymwys ar gynllun pensiwn yn y gweithle, o'r

diwrnod cyntaf y bydd aelod o staff yn dechrau gweithio.

Cyfeirir at hyn fel y dyddiad cychwyn ar ddyletswyddau.

Bydd cyflogwyr dal i fod yn gallu gohirio rhai o'u

dyletswyddau am hyd at dri mis.

Swm sylfaenol cyfraddau

cyfraniadau ar fin codi

Mae'n ofynnol i bob busnes gyfrannu isafswm tuag at bensiynau

gweithwyr. Mae gweithwyr hefyd yn cyfrannu swm

sylfaenol. Bwriedir i'r cyfraddau hyn godi o 6 Ebrill 2018.

O 6 Ebrill 2018, bydd cyfradd y cyfraniad

sylfaenol gan y cyflogwr yn cynyddu o'r

lefel bresennol o 1% i 2%. Yna bydd yn

codi eto ar 6 Ebrill 2019, gan gyrraedd 3%.

Yn y cyfamser, bydd isafswm cyfraddau

cyfraniadau gweithwyr yn cynyddu o'r lefel

bresennol o 1% i 3% erbyn 6 Ebrill 2018,

gan godi eto wedi hynny i gyrraedd 5%

erbyn 6 Ebrill 2019.

Felly erbyn Ebrill 2018, bydd cyfanswm isafswm y gyfradd

cyfraniadau ar y cyd yn cyrraedd 5%, gan godi i 8% o 6 Ebrill

2019 ymlaen. Er y bydd angen i'r gweithiwr gyfrannu yn y rhan

fwyaf o achosion, gall y cyflogwr ddewis talu'r 8% llawn neu

hyd yn oed swm uwch.

Yn gyffredinol, mae cyfraniadau'n daladwy ar enillion cymwys

rhwng y trothwy is o £5,876 a'r trothwy uwch o £45,000 yn

2017/18.

Bydd cyflogwyr sy'n methu â chydymffurfio â'u dyletswyddau

cofrestru awtomatig yn destun cosbau sylweddol. Mae'r

dirwyon yn amrywio o gosb benodedig o £400, i gosb sy'n

cynyddu'n ddyddiol, a hynny'n amrywio o rhwng £50 a

£10,000, yn dibynnu ar nifer y gweithwyr.

6

CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | MAI 2018
Hoffech chi hyrwyddo eich busnes i

staff yr awdurdod lleol?

Mae Cyngor Torfaen wedi cyflwyno cynllun buddion i

staff, sy'n hyrwyddo busnesau trwy ysgogi pobl i

ddefnyddio eu gwasanaethau neu brynu eu nwyddau.

Gall y fath gymhellion gymryd nifer o ffurfiau, er

enghraifft gostyngiad o ganran neu goffi am ddim pan

fyddwch yn prynu pryd o fwyd.

Bydd eich busnes yn elwa ar gyfleoedd marchnata 24/7,

365 diwrnod y flwyddyn. Mae’r holl hyrwyddo a’r

cyfathrebu yn cael ei wneud ar eich rhan ac mae’r

gwasanaeth am ddim.

Gellir cael hyd i wybodaeth bellach ar wefan Cerdyn

Vectis http://www.vectiscard.co.uk.

OCTOBER

Os oes gennych ddiddordeb mewn hyrwyddo eich

busnes, cysylltwch â Tina Hulme

tina.hulme@torfaen.gov.uk

GDPR - Ymunwch a daliwch i fod yn rhan o’n

rhwydwaith yn Economi a Mentergarwch Torfaen

Rydym yn gwerthfawrogi ein busnesau, cleientiaid a’n haelodau ac rydym am ddal ymlaen i’ch cadw chi mewn cysylltiad â’n

gwybodaeth ar gefnogi busnes, digwyddiadau a chyfleoedd.

O 25ain Mai 2018 daw’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) i rym.

Mae hyn yn golygu bod angen eich caniatâd arnom ni i ddal ac i brosesu eich gwybodaeth bersonol ac i ddanfon diweddariadau

atoch chi.

ymunwch neu ewch i’n gwefan

http://www.southwalesbusiness.co.uk/cy/Subscribe.aspx

Gallwch weld ein polisi preifatrwydd ar wefan Economi a Mentergarwch Torfaen.

http://www.southwalesbusiness.co.uk/cy/Privacy-Notice.aspx

CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | MAI 2018

7
Cyfarfod

yr Aelod

Helô! Braf eich cwrdd chi, Alexis ydw i - Sefydlydd a

Chyfarwyddwr Mila a Pheebs Ltd. Efallai eich bod wedi

siarad â mi o'r blaen lle rydw i'n or-gyffrous am fy musnes a

fy nghariad tuag at ddeunydd ysgrifennu. Mae'r cyffro hwn

yn angerdd pur am yr hyn rwy'n ei wneud ac ni allaf gredu fy

mod wedi creu cynnyrch y mae pobl yn ei garu cymaint, eu

bod yn ei brynu bob mis!!

Dwi wastad wedi caru deunydd ysgrifennu felly nid yw'n

syndod, ar ôl deng mlynedd mewn bancio a chael gefeilliaid

a gafodd eu geni cyn amser, fy mod i bellwch wedi dechrau

busnes a oedd yn golygu fy mod yn cael fy amgylchynu gan

ddeunydd ysgrifennu prydferth a rwberi y mae pawb yn hoffi

eu casglu; rwy'n difaru fy mod heb ddechrau arni'n gynt

oherwydd ei fod yn gymaint o hwyl! Er, gyda gefeilliaid a

busnes, mae'n fywyd prysur iawn! Mae fy nghwmni wedi'i

enwi ar ôl fy merched sydd bellach yn dair, Milena a

Phoebe, felly rwy'n gobeithio y byddant yn ymfalchïo’n fawr

pan fyddant yn ddigon hen i sylweddoli ei fod wedi ei enwi

ar eu hôl.

Rwyf wedi gorfod dysgu pethau'r ffordd anodd oherwydd

nad yw fy nheulu a'n ffrindiau yn entrepreneuriaid felly rwy'n

hynod falch fy mod wedi dod o hyd i Lais Busnes Torfaen lle

gallaf fod ymhlith pobl debyg ac uchelgeisiol.

Rwy'n credu mai'r rhan anoddaf o ddyfod yn entrepreneur

(yr wyf yn siŵr y bydd y mwyafrif ohonoch yn deall yn iawn) -

oedd yr unigrwydd. Dyna pam mai'r peth mwyaf gwerthfawr i

mi ar fy siwrnai hyd yma oedd dod o hyd i'm rhwydwaith o

gefnogaeth, oherwydd hebddo, mae'n bosib y buaswn wedi

rhoi'r gorau iddi.

Ychydig mwy am fy musnes - Mae ein blychau tanysgrifio

sy'n berffaith i flychau llythyrau, yn llawn deunyddiau cyffrous

a gweithgareddau difyr i blant, ac maent yn anrheg berffaith i

blant 5 oed a hŷn. Rwy'n ninja go iawn pan ddaw hi i bacio,

felly mae ein blychau dan eu sang, yn llawn papur lliwgar,

gweithgareddau crefft a phrosiectau difyr fydd yn diddori'r

bechgyn a merched am oriau. Rwyf wedi creu gwahanol

themâu, o Anifeiliaid Anwes Perffaith i Fôr-ladron, ac yn

ddiweddar, Creaduriaid Uncorn, am fod plant wedi gwirioni â

hwy y dyddiau yma. Creu'r themâu, heb os, yw'r peth gorau,

ynghyd â gweld lluniau a sylwadau'r cwsmer. Rydym yn

dosbarthu ledled y byd yn awr ac mae gennym danysgrifwyr

yn America, Awstralia a hyd yn oed Rwmania. Mae ein

gwefan newydd yn lansio yn fuan felly os nad ydych wedi

clicio arni eto, ewch ati i wneud hynny, a byddaf yn siŵr o'ch

gweld yn y digwyddiad nesaf!

Alexis Hughes

Mila & Pheebs

Pecynnau Noddi Cyfarfod

Llais Busnes Torfaen

Newydd ar gyfer 2018

• Logo eich cwmni ar ein holl ddeunyddiau marchnata

cyn ac ar ôl y digwyddiad h.y. Cylchlythyr,

e-negeseuon, datganiadau i’r wasg

• Cysylltiadau i’r wefan noddi trwy ein tudalen

bwcio digwyddiad ac e-negeseuon am y digwyddiad

• Hysbyseb troedyn ar du mewn clawr y cylchlythyr

lle caiff y digwyddiad ei hysbysebu

• Hysbyseb tudalen lawn ar ein sgrin hysbysebu yn

nhu blaen yr ystafell

• Stondin dros dro y tu ôl i’r siaradwr gwadd ac

wrth y fynedfa i’r digwyddiad

• Cyfle i siarad am eich busnes i’r ystafell am 5

munud cyn y prif ddigwyddiad

• Cyfle i ddarparu deunydd marchnata i bawb sy’n

mynychu ar y dydd

Aelodau newydd

The Cwtch Animal Homestay

edwards_cathy@icloud.com

Gateway Credit Union

www.gatewaycu.co.uk

Hoffem ddiolch i'n cyfranwyr:

Hyn i gyd am ddim ond

£250.00+TAW fesul cyfarfod

8

CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | MAI 2018