Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Cyfarfod

yr Aelod

Helô! Braf eich cwrdd chi, Alexis ydw i - Sefydlydd a

Chyfarwyddwr Mila a Pheebs Ltd. Efallai eich bod wedi

siarad â mi o'r blaen lle rydw i'n or-gyffrous am fy musnes a

fy nghariad tuag at ddeunydd ysgrifennu. Mae'r cyffro hwn

yn angerdd pur am yr hyn rwy'n ei wneud ac ni allaf gredu fy

mod wedi creu cynnyrch y mae pobl yn ei garu cymaint, eu

bod yn ei brynu bob mis!!

Dwi wastad wedi caru deunydd ysgrifennu felly nid yw'n

syndod, ar ôl deng mlynedd mewn bancio a chael gefeilliaid

a gafodd eu geni cyn amser, fy mod i bellwch wedi dechrau

busnes a oedd yn golygu fy mod yn cael fy amgylchynu gan

ddeunydd ysgrifennu prydferth a rwberi y mae pawb yn hoffi

eu casglu; rwy'n difaru fy mod heb ddechrau arni'n gynt

oherwydd ei fod yn gymaint o hwyl! Er, gyda gefeilliaid a

busnes, mae'n fywyd prysur iawn! Mae fy nghwmni wedi'i

enwi ar ôl fy merched sydd bellach yn dair, Milena a

Phoebe, felly rwy'n gobeithio y byddant yn ymfalchïo’n fawr

pan fyddant yn ddigon hen i sylweddoli ei fod wedi ei enwi

ar eu hôl.

Rwyf wedi gorfod dysgu pethau'r ffordd anodd oherwydd

nad yw fy nheulu a'n ffrindiau yn entrepreneuriaid felly rwy'n

hynod falch fy mod wedi dod o hyd i Lais Busnes Torfaen lle

gallaf fod ymhlith pobl debyg ac uchelgeisiol.

Rwy'n credu mai'r rhan anoddaf o ddyfod yn entrepreneur

(yr wyf yn siŵr y bydd y mwyafrif ohonoch yn deall yn iawn) -

oedd yr unigrwydd. Dyna pam mai'r peth mwyaf gwerthfawr i

mi ar fy siwrnai hyd yma oedd dod o hyd i'm rhwydwaith o

gefnogaeth, oherwydd hebddo, mae'n bosib y buaswn wedi

rhoi'r gorau iddi.

Ychydig mwy am fy musnes - Mae ein blychau tanysgrifio

sy'n berffaith i flychau llythyrau, yn llawn deunyddiau cyffrous

a gweithgareddau difyr i blant, ac maent yn anrheg berffaith i

blant 5 oed a hŷn. Rwy'n ninja go iawn pan ddaw hi i bacio,

felly mae ein blychau dan eu sang, yn llawn papur lliwgar,

gweithgareddau crefft a phrosiectau difyr fydd yn diddori'r

bechgyn a merched am oriau. Rwyf wedi creu gwahanol

themâu, o Anifeiliaid Anwes Perffaith i Fôr-ladron, ac yn

ddiweddar, Creaduriaid Uncorn, am fod plant wedi gwirioni â

hwy y dyddiau yma. Creu'r themâu, heb os, yw'r peth gorau,

ynghyd â gweld lluniau a sylwadau'r cwsmer. Rydym yn

dosbarthu ledled y byd yn awr ac mae gennym danysgrifwyr

yn America, Awstralia a hyd yn oed Rwmania. Mae ein

gwefan newydd yn lansio yn fuan felly os nad ydych wedi

clicio arni eto, ewch ati i wneud hynny, a byddaf yn siŵr o'ch

gweld yn y digwyddiad nesaf!

Alexis Hughes

Mila & Pheebs

Pecynnau Noddi Cyfarfod

Llais Busnes Torfaen

Newydd ar gyfer 2018

• Logo eich cwmni ar ein holl ddeunyddiau marchnata

cyn ac ar ôl y digwyddiad h.y. Cylchlythyr,

e-negeseuon, datganiadau i’r wasg

• Cysylltiadau i’r wefan noddi trwy ein tudalen

bwcio digwyddiad ac e-negeseuon am y digwyddiad

• Hysbyseb troedyn ar du mewn clawr y cylchlythyr

lle caiff y digwyddiad ei hysbysebu

• Hysbyseb tudalen lawn ar ein sgrin hysbysebu yn

nhu blaen yr ystafell

• Stondin dros dro y tu ôl i’r siaradwr gwadd ac

wrth y fynedfa i’r digwyddiad

• Cyfle i siarad am eich busnes i’r ystafell am 5

munud cyn y prif ddigwyddiad

• Cyfle i ddarparu deunydd marchnata i bawb sy’n

mynychu ar y dydd

Aelodau newydd

The Cwtch Animal Homestay

edwards_cathy@icloud.com

Gateway Credit Union

www.gatewaycu.co.uk

Hoffem ddiolch i'n cyfranwyr:

Hyn i gyd am ddim ond

£250.00+TAW fesul cyfarfod

8

CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | MAI 2018