You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Mawrth 2021

AM DDIM!

WYT TI'N BAROD AM

Creu baner cennin pedr i

ddathlu'r gwanwyn!

Cystadleuaeth!

Cyfle i ti ennill wy Pasg

Seren a Sbarc arbennig!

Cylchgrawn Cymraeg

llawn o bethau cŵl!

urdd.cymru/cip
2

Hawlfraint Urdd Gobaith Cymru yw’r holl gylchgrawn oni nodir yn wahanol.

Golygydd: Branwen Rhys Dafydd Dylunydd: Meilyr Gwynn

Cysyllta â ni: cip@urdd.org neu beth am ymweld â gwefan urdd.cymru/cip

Croeso

Helo ffrindiau!

Gobeithio i ti fwynhau dy hanner tymor.

Diolch i’r darllenwyr sydd wedi gyrru

negeseuon ata i! Beth am i ti wneud yr un fath erbyn

y rhifyn nesaf o Cip? Os oes gen ti jôc neu ddau i’w

rhannu gyda mi hefyd, dos amdani!

Mae gymaint o hwyl i’w gael rhwng y cloriau yma

unwaith eto, gan gynnwys cylchgrawn ffantastig

Mellten - comic mwya’ gwallgo’ Cymru!

Beth am ddathlu ei bod hi'n wanwyn drwy addurno’r

tŷ gyda chennin pedr papur? Tro i dudalen 6 ar gyfer

y Gornel Gelf.

Wyt ti eisiau ennill wy Pasg?! Dos ati i dynnu llun

o Seren a Sbarc a’i yrru fewn ata i (cip@urdd.org)

erbyn 26 Mawrth, am y cyfle i ennill wy Pasg

arbennig gyda dy ddyluniad di arno!

Hwyl am y tro,

Mistar Urdd

Hwrê! Mae Eisteddfod T yn ei ôl.

Flwyddyn ddiwethaf, fe wnaeth 6,000 o blant a phobl

ifanc gystadlu yn Eisteddfod T. Tro yma mae hyd yn oed

MWY o gystadlaethau ar dy gyfer - dos draw i'r wefan

www.s4c.cymru/urdd i’w gweld!

Mae cymysgedd o gystadlaethau arferol Eisteddfod

yr Urdd a rhai newydd sbon - o ganu a dawnsio i

gystadleuaeth Dweud Jôc neu ddangos dy Anifail Anwes

Talentog.

Ddim yn mwynhau perfformio? Mae'n iawn! Mae digon o

gystadlaethau ysgrifennu a chelf a chrefft ar gael, hefyd.

Cer i dudalen 5 am fwy o wybodaeth.

Awê, a phob lwc!

Cofia yrru popeth i mewn erbyn 26 Mawrth!

Waw! Mae llond trol ohonoch chi wedi cysylltu ers mis

Ionawr. Diolch yn fawr! Methu gweld dy neges di? Paid â

phoeni - mi wnaf yn siŵr o'i chynnwys yn y rhifyn nesa.

Heb gysylltu o'r blaen? Mae'n hawdd - dyna'r oll sydd

angen ei wneud yw llenwi'r holiadur yma!

Nel Haf

Mared Wyn

Pentre’r Eglwys / 8 oed

Bryn Iwan / 10 oed

• Hoff fwyd? Pastabake Miss

LaVerne - cogyddes ein hysgol ni

• Hoff air Cymraeg? Ffrindiau

• Hoff le yn y byd? Ysbyty Glangwili

• Hoff bwnc yn yr ysgol? Ymarfer corff

• Hoff lyfr? Coblyn o broblem

• Hoff liw? Glas

• Pwy yw dy arwr neu arwres a pham? Elin Fflur,

oherwydd dwi'n hoffi hi'n canu

• Hoff raglen deledu? Pobol y Cwm

• Pwy hoffet ti fod am y diwrnod a pham? Elin Fflur achos

rydw i eisiau bod yn enwog am ddiwrnod

• Hoff fwyd? Pitsa

• Hoff air Cymraeg? Sbigoglys

• Hoff le yn y byd? Tenerife

• Hoff bwnc yn yr ysgol? Ymarfer Corff

• Hoff lyfr? Na Nel! Oherwydd yr un

enw ac mae hi yn ddireidus iawn

• Hoff liw? Coch

• Pwy yw dy arwr neu arwres a pham?

Gareth Bale am ei fod yn wych yn

chwarae pêl-droed

• Hoff gem gyfrifiadurol? Hello Neighbour

ar y Switch

• Pwy hoffet ti fod am y diwrnod a pham?

Unrhyw un o chwaraewyr tîm pêldroed

merched Cymru oherwydd

maen nhw’n dalentog iawn
Freya

Llantrisant / 8 oed

• Hoff fwyd? Pitsa

• Hoff air Cymraeg? Ysgol

• Hoff le yn y byd? Cymru

• Hoff bwnc yn yr ysgol? Celf a Iaith

• Hoff lyfr? Hyd Yr Enfys a Magic

Ballerina

• Hoff liw? Teal

• Pwy yw dy arwr neu arwres a pham? Y ffermwyr achos maen nhw'n

rhoi bwyd i bawb

• Hoff raglen deledu? Strictly Come Dancing

• Pwy hoffet ti fod am y diwrnod a pham? Oti Mabuse achos mae hi

wedi ennill Strictly Come Dancing ddwywaith!

• Hoff fwyd? Siocled

Beca Mair

Chwilog / 10 oed

• Hoff air cymraeg? Pam

• Hoff le yn y byd? Telford

• Hoff bwnc yn yr ysgol? Celf

• Hoff lyfr? The Ice Monster

• Hoff liw? Gwyn a llwyd

• Pwy yw dy arwr neu arwres a pham? Joseph Tribbiani oherwydd

fo yw fy ffefryn o Friends

• Hoff raglen deledu? Friends

• Pwy hoffet ti fod am y diwrnod a pham? Fy ffrind gorau Nanw

oherwydd mae hi yn gallu rhedeg ac mae hi'n chwerthing lot

efo fi

Guto

Y Barri /

7 oed

• Hoff fwyd?

Cyri

• Hoff air Cymraeg? Cachgibwm

• Hoff le yn y byd? Dolgellau

• Hoff bwnc yn yr ysgol?

Mathemateg

• Hoff lyfr? The Twits

• Hoff liw? Glas

• Pwy yw dy arwr neu arwres a

pham? Guto Nyth Brân, dwi

wedi fy enwi ar ei ôl a dwi’n

gallu rhedeg yn gyflym fel o

• Hoff gem gyfrifiadurol? Fortnite

• Pwy hoffet ti fod am y diwrnod a

pham? Mo Salah, dwi’n cefnogi

Lerpwl ac wrth fy modd yn

sgorio llawer o gôls

Gwenny

Rhydaman / 6 oed

• Hoff fwyd? Pitsa

• Hoff air cymraeg? Adre

• Hoff le yn y byd? Cymru

• Hoff bwnc yn yr ysgol? Mathamateg

• Hoff lyfr? Tom Gates

• Hoff liw? Glas

Daniel

Llundain / 9 oed

• Pwy yw dy arwr neu arwres a pham? Sam Warburton achos fod

e'n dda yn rygbi

• Hoff raglen deledu? Scooby Doo a Tom a Jerry

• Pwy hoffet ti fod am y diwrnod a pham? Capten America, achos

mae e yn gyflym ac yn gryf

• Hoff fwyd? Sglodion a selsig

• Hoff air Cymraeg? Diolch!

• Hoff le yn y byd? Majorca

• Hoff bwnc yn yr ysgol?

Mathemateg

• Hoff lyfr? Cloc Cae Berllan

• Hoff liw? Porffor

• Pwy yw dy arwr neu arwres

a pham? Alys fy chwaer

fach oherwydd mae hi’n

Haredim

• Hoff raglen deledu? Amser

maith yn ol

• Pwy hoffet ti fod am y diwrnod

a pham? Mrs Williams er

mwyn dysgu fy ffrindiau

3
Gethin

Pwllheli / 7 oed

Gwenllian rhys

Llanilar / 11 oed

• Hoff fwyd? Pasta a cinio dydd Sul

• Hoff air Cymraeg? Dim hoff air

• Hoff le yn y byd? Sbaen

• Hoff bwnc yn yr ysgol? Mathemateg

• Hoff lyfr? Llyfr tryciau a thractors

• Hoff liw? Coch

• Pwy yw dy arwr neu arwres a pham? Mam -

achos dwi yn hoffi cael gwneud pethau

efo hi fel pobi cacen, kayakio, paddle

boardio, beicio a mynd i gerdded fyny

mynyddoedd

• Hoff raglen deledu? Sonic, Top Gear a

C'mon Midffild

• Pwy hoffet ti fod am y diwrnod a pham?

Robyn partner Mam, mae o yn trwsio

peririannau

• Hoff fwyd? Byrgyr cyw a salad

- iym, iym!

• Hoff air Cymraeg? Cwcw, mae'n

swnio'n od ac yn gwneud i mi

wenu

• Hoff le yn y byd? Ynys Môn, oherwydd fanna mae Nain

yn byw ac mae llwyth o bethau gwych i wneud yno

• Hoff bwnc yn yr ysgol? Celf, dwi wrth fy modd yn

paentio a thynnu lluniau

• Hoff lyfr? Unrhyw lyfr Asterix, mae'r storïau yn hwyl

a hudolus. Dwi wedi darllen llawer ohonynt, ac rwyf

wastad yn menthyg rhai o lyfrgell y dre

• Hoff liw? Mae gen i dri hoff liw: pinc a glas - dyna

liwiau f'ystafell wely, ond dwi'n hoffi coch hefyd

• Pwy yw dy arwr neu arwres a pham? Huw Aaron achos

mae'n arluniwr ffab a liciwn i fod yn gartwnydd.

Roedd y sesiynnau Criw Celf dros y cyfnod clo yn

hollol wych

• Hoff raglen deledu? Y Dyfnfor, mae'n llawn antur

annisgwyl a dwi'n hoffi'r chwedlau

• Pwy hoffet ti fod am y diwrnod a pham? Hoffwn i fod y

dywysoges Gwenllian yn arwain y frwydr i'r gâd.

Roedd hi'n ddynes ddewr a mentrus

Heledd Mair

Bryn Iwan / 7 oed

• Hoff fwyd? Cacen

siocled

• Hoff air Cymraeg?

enfys

• Hoff le yn y byd?

Llangrannog

• Hoff bwnc yn yr ysgol? Ymarfer corff -

Gymnasteg

• Hoff lyfr? Bwystfil yn yr Oergell

• Hoff liw? Pinc

• Pwy yw dy arwr neu arwres a pham? Ninja

Kids oherwydd maen nhw'n cael

gwared o bobl drwg ac yn achub y

byd

• Hoff gem gyfrifiadurol? Minecraft

• Pwy hoffet ti fod am y diwrnod a pham?

Miss Meleri - aelod o staff artistig

yn fy ysgol oherwydd rwy'n hoffi bod

yn greadigol

Sebastian

Y Rhyl / 10 oed

• Hoff fwyd? Mango a Melon Dwr

• Hoff air cymraeg? Draig

• Hoff le yn y byd? Adref

• Hoff bwnc yn yr ysgol? Gwyddoniaeth

• Hoff lyfr? Harry Potter and the Prisoner of Azkhaban

• Hoff liw? Oren

• Pwy yw dy arwr neu arwres a pham? Mam a Dad

oherwydd mae nhw’n helpu fi efo pob dim a mae

nhw mor neis

• Hoff gem gyfrifiadurol? Animal Jam- Play Wild

• Pwy hoffet ti fod am y diwrnod a pham? Hoffai bod yn

Conservationist oherwydd hoffai helpu anifeiliad o

gwmpas y byd
5

Mae Eisteddfod T yn ei ôl!

Mae mwy i Eisteddfod T na chystadlaethau canu, llefaru,

dawnsio neu sgwennu!

Mae llwyth o bethau gwahanol y medri di wneud ar gyfer

Eisteddfod T – adref ar ben dy hun, gyda’r teulu neu hyd

yn oed gyda dy anifail anwes!

Dyma rai o’r cystadlaethau, i ti gael blas:

youtu.be/2C33v2WYxhs

Dawns Ystafell Fyw

Dawnsio ar lawr y gegin neu yn yr

ardd ar ben dy hun neu efo aelod

o’r teulu.

Mynd Am Dro

Cofnoda daith gerdded

gan greu llun neu ddelwedd

diddorol ar Strava

Cogurdd: Gornest y Gacen

Addurna gacen ar gyfer

achlysur neu berson

arbennig ac anfon y llun i

mewn!

Trêl Ffilm

Creu trêl o dy hoff ffilm ond yn y

cartref.

youtu.be/IjGyyusw23I

Dweud Jôc

Dyweda dy jôc mwyaf doniol.

Lip-Sync

Lip-sync-ia am dy fywyd!

Cofia ddewis cân Gymraeg.

Fideo TikTok

Dipyn o giamstar ar y TikTok?

Anfon fideo draw!

Tric Hud a Lledrith

Wyt ti’n dipyn o gonsuriwr? Cyflwyna dy hoff dric hud a lledrith!

Os wyt ti am gystadlu yna cofia

gofrestru cyn 26 Mawrth 2021

drwy wefan s4c.urdd.cymru

Anifail Anwes

Talentog

Ci sy’n

canu neu

ddraenog

sy’n dawnsio?

Gawn ni weld

talentau

cudd dy

anifail anwes!

Sgets Deuluol

Cer amdani i greu sgets

ddoniol gan gynnwys y teulu

cyfan!
Mae’n fis Mawrth ac mae’r gwanwyn

yn dod! Addurna dy ystafell wely neu

dy ddosbarth gyda’r addurniadau

hyfryd a hawdd yma. Mae rhain yn

berffaith fel addurniadau Dydd G∑yl

Dewi hefyd!

1

2

Mi fyddi di angen:

Tynna lun o genhinen Bedr ar

y cerdyn, a’i dorri yn ofalus i’w

ddefnyddio fel patrwm

Cer o amgylch y patrwm gyda

phensil ar y papur melyn, a’i

dorri yn ofalus

Darn o hen gerdyn

Papur melyn

Papurau pobi melyn

Siswrn

Glud

Pensil

Rhuban, cortyn neu

darn o wlân

Tâp

3

4

Rho lud ar waelod y papur

cacennau, a’i ludo i ganol y

genhinen Bedr.

Ailadrodd cam 2 a 3 nes mae gen

ti ddigon o flodau. Mae 9 cenhinen

Bedr yn gwneud baner fer, a 18

cenhinen Bedr yn gwneud baner hir

5

Defnyddia’r tâp i lynu’r

rhuban i gefn y blodau, a

gofyn i oedolyn dy helpu i’w

rhoi ar y wal

6

Gyrra lun o dy faner cennin Pedr

i Bore Da ar boreda@urdd.org

i ni gael gweld dy addurniadau

hyfryd di!
Diwrnod y Llyfr

Mae hi’n Ddiwrnod y Llyfr ar ddydd Iau, 4 Mawrth. I ddathlu, mae’r

cartwnydd a’r darlunydd o fri, Huw Aaron, wedi mynd ati i greu llyfr o’r enw

Ha Ha Cnec! i chi ei fwynhau – ac mae ar werth nawr, am £1 yn unig!

Llyfr llawn jôcs, cartwnau doniol ag ambell i gymeriad unigryw yw Ha Ha Cnec!

Dyma ni’n cael y cyfle i ofyn ambell gwestiwn i Huw ar achlysur

cyhoeddi ei lyfr newydd.

Pam dewis Ha Ha Cnec! fel teitl?

Gan mai dyna oedd y teitl mwyaf twp odd yn dod i’r meddwl! Teitl

addas ar gyfer llyfr llawn o jôcs twp!

Beth yw dy hoff joc?

Pa liw sy'n arogli gwaethaf? Smelyn.

Beth yw dy hoff lyfr i rannu a gyda phwy?

Fydda i wastad yn sôn am faint dwi'n caru llyfrau Calvin & Hobbes i

unrhyw un sy'n gofyn.

Beth wyt ti wedi mwynhau fwyaf dros y cyfnodau clo?

Joio byd natur yn yr ardd ac ar droeon i'r gamlas leol, a

nosweithiau sinema pob nos Wener gyda'r teulu - mynd

trwy'r hen glasuron ar Disney+ gyda popcorn a siocled!

Pwy yw dy hoff gymeriad cartŵn, a pham?

Mae Sgerbwd, o gyfres SuperTed, wastad wedi fy nrysu

a'n cyfareddu. Sut mae e'n sgerbwd sy'n fyw? Pam

nad oes neb arall yn cwestiynu ei fodolaeth? Pam

nad yw ei esgyrn i gyd wedi cysylltu? Pam fod e'n

helpu Dai Tecsas, er nad yw e i weld yn ddrwg ei

hun? Pam fod e'n gwisgo sliperi?

Mae gymaint o gwestiynau...

7
8

Mae’n hwyl cael wy

Neu ddau – neu fwy!

Faint o wyau sydd gen i?

Llond dwy dudalen. Rhifa di!

ATEBION AR

DUDALEN 27

1.

Dyma gerdyn post ges i gan ffrind.

Alli di ei ddarllen?

Ann

l Syr Cip.

Dwi ar fy ng liau yng Ng nedd.

Dwi wedi g lio dring r ar yr ddfa a b do g lanod ger Con .

H l,

D

nwen

Beth am i ti ysgrifennu neges

sy’n llawn wyau?

2.

Ar y grid mae enwau 8 creadur sy’n dodwy wyau.

I ddarganfod beth ydyn nhw, chwilia am y llythrennau

sydd yn y blychau hyn:

1 2 3 4

A a f g r

B b c e m

C a p o i

Ch n w y l

A 2C - 4A - 3Ch - 2A - 3Ch - 1Ch

B 4B - 1C - 4Ch - 2Ch - 3B - 1Ch

C 1Ch - 3B - 4C - 1A - 4A

Ch 2B - 4A - 3C - 2B - 3C - 1A - 3B - 4C - 4Ch

D 1B - 4A - 3C - 3A - 1C

Dd 2B - 4A - 1C - 1Ch - 2B

E 2C - 4C - 4Ch - 4C - 2C - 1C - 4Ch - 1C

F 2B - 4A - 2Ch - 1B - 1C - 1Ch
3.

Alli di ddyfalu beth mae’r wyau hyn yn ei wneud?

Gorffen y geiriau

C. _ _ wy _ _ _

A. ll w y th o

B. _ wy _ _

D. _ _ wy _ _ _

Ch. _wy_ _ _ _

4.

Dyma olwyn liwiau.

Mae’r olwyn yn dangos pa liwiau sy’n groes i’w gilydd. Mae coch a gwyrdd

yn groes i’w gilydd, mae piws a melyn yn groes, ac mae glas ac oren yn groes.

Edrych ar yr wyau ar y chwith, yna chwilia am yr wy sydd â lliwiau

croes – lle mae pob coch wedi troi’n wyrdd, ac yn y blaen.

a b c ch

1

2

3

9
Amser Lliwio!

sy' nesa!

Cystadleuaeth

Dylunio wy Pasg siocled Seren a Sbarc!

Dyma gyfle i ti ennill wy Pasg siocled

gyda dy ddyluniad di arno!

Diolch i gwmni Cathryn Cariad am

noddi’r gystadleuaeth.

Dyddiad cau:

26 Mawrth

2021

Am y cyfle i ennill, bydd angen i ti:

1. Dynnu llun o’r cymeriadau Seren a Sbarc

2. Gwneud yn siŵr fod y dyluniad yn ffitio tu fewn i’r siâp wy!

3. Gyrru dy ddyluniad at cip@urdd.org erbyn 26 Mawrth 2021

Os oes angen help arnat ti, CLICIA YMA i lawrlwytho

amlinelliad o siâp wy!

Ewch draw i www.cathryncariad.com

i weld llond trol o siocledi anhygoel!

10
Mellten
Mellten
Mellten
Mellten
Mellten
Mellten
17
HYSBYSFWRDD

SYR CIP

ATEBION AR DUDALEN 27

STOPIWCH

SAM SBWRIEL!

1.

O NA! Mae Sam wedi taflu sbwriel yn y parc.

Edrych ar y gwahanol fathau o sbwriel a dyfala pa mor hir y gall pob un bara heb bydru.

Cysyllta bob darn o sbwriel â’r dyddiad cywir.

2

1

10

1. tun ffa

mis

3

2. papur newydd

3. potel wydr

6 wythnos

2-3 mis

4. bag plastig

6 mis

5. croen banana

10-20 mlynedd

9

6. pecyn creision

30-40 mlynedd

7. cewyn parod

50 mlynedd

8

4

8. potel blastig

75-80 mlynedd

9. carton sudd

500 mlynedd

10. het gotwm

Miliwn o flynyddoedd

7

5

6

18
2.

Dyw’r pethau hyn ddim wedi cael eu taflu. Maen nhw wedi cael eu

hailgylchu i wneud un o’r pethau yn y rhes oddi tanyn nhw.

Alli di eu rhoi mewn parau?

1

3

2

4

3.

Dyma logo ailgylchu. Mae’r logo’n seiliedig ar

stribed Möbius, sy’n stribed clyfar iawn.

Dere i wneud un o’r stribedi hyn

a) Torra stribed o bapur tua’r un hyd a’r un lled â

ffon fesur, sef 30 cm x 4cm.

1

3

Ysgrifenna ar un pen a ar y pen arall.

2

4

Hefyd tynna linell ar hyd canol y stribed ar y ddwy

ochr.

Rho hanner tro i’r stribed, fel bod y rhif 4 ar ben

y rhif 1, a’r 3 ar ben rhif 2, a sticia’r ddau ben at ei

gilydd â glud neu selotep.

Nawr torra ar hyd y llinell.

Beth sy’n digwydd?

b) Gwna stribed arall yn union yr un maint,

ond y tro hwn, tynna linell tua 1cm o’r top sef

rhwng yr 1 a’r 3. Tro’r stribed drosodd a thynna

linell arall 1 cm o’r top, sef rhwng y 2 a’r 4.

Ar ôl sticio’r stribed, torra ar hyd y llinell eto.

Waw! Beth sy’n digwydd nawr?

19
Yn glir fel crisial

Gel!” gwaeddodd Nanw gan sgrialu

am y drws i geisio dal y parsel oedd

“Na,

yn cael ei stwffio drwy’r blwch post.

Cyrhaeddodd o fewn trwch blewyn cyn i Gel allu

neidio i fyny a’i gipio yn ei ddannedd. Hoff gêm

y sbaniel direidus oedd dwyn y llythyrau wrth i’r

postmon eu poeri drwy’r drws.

“Da iawn ti,” gwenodd Mam wrth i Nanw

ddychwelyd at yr ynys frecwast a dringo i fyny

ar y stôl. “Dos i dy fasged Gel, y ci bach drwg!”

gwgodd, cyn rhoi winc slei ar ei merch.

“Be’ sydd gen ti, llwyth o filiau i mi mae’n siŵr?”

cellweiriodd Mam wrth sipian ei choffi.

“Na, dim ond un parsel bach heddiw . . . ac mae

o i mi,” atebodd Nanw yn syn gan weld ei henw

mewn llawysgrifen dwt ar flaen y parsel bach

melyn.

Teimlodd Nanw y parsel i geisio dyfalu beth oedd

y tu mewn. Doedd hi ddim yn ben-blwydd arni

hi, felly pam y byddai rhywun yn anfon parsel

ati? Gallai deimlo rhywbeth caled y tu mewn.

Brysiodd i’w agor ac roedd yn anodd cuddio'r

olwg ddryslyd ar ei hwyneb. Carreg liwgar, tua

10 centimetr mewn maint oedd yna. Crisial oedd

y garreg gydag ymylon garw ond a deimlai

mor llyfn a chynnes yng nghledr ei llaw. Daliodd

Nanw'r grisial at ddrysau Ffrengig y gegin a

gadael i’r golau dreiddio yn donnau o liw pinc

golau bendigedig.

Roedd nodyn bach y tu mewn i’r amlen.

Annwyl Nanw, Dyma grisial yn arbennig i ti. Cofia

ofalu amdano ac fe wnaiff ofalu amdanat ti,

Cofion anwylaf, Anti Lois.

Ffrind ei mam oedd Lois. Roedd hi wedi symud

i fyw i’r Dwyrain Pell ers rhai misoedd i ddysgu

mwy am y crisialau a’u pwerau. Roedd gan ei

Mam hiraeth mawr am ei ffrind. Doedd pethau

heb fod yn hawdd ar deulu Nanw yn ddiweddar

ac roedd Anti Lois yn gallu gwneud i’r byd deimlo

yn well. Ac er bod ei mam yn siarad gyda hi o

hyd dros facetime, doedd o ddim yr un peth.

Edrychodd Nanw ar ei Mam a gweld deigryn yn

llithro dros y bagiau du blinedig oedd o dan ei

llygaid.

Meddyg oedd mam Nanw yn yr ysbyty lleol. Ers

misoedd roedd hi wedi bod yn gweithio yn y ward

argyfwng yn gofalu am gleifion oedd yn sâl iawn

gyda’r Coronafirws. Yn ystod y cyfnod clo cyntaf,

prin yr oedd Nanw a’i thad wedi gweld ei Mam.

Byddai’n gweithio shifftiau hir, yna yn dod gartref

ac yn mynd yn syth i’r gawod cyn cau ei hun yn

ystafell sbâr. Gwyddai Nanw ei bod yn gwneud

hyn er mwyn trio ei chadw hi a’i thad yn ddiogel.

Ond gyda’r nos, gallai glywed ei mam yn crio yn

dawel, ac roedd Nanw yn pryderu’n fawr amdani.

Roedd Nanw yn gwylio adroddiadau newyddion

ar y teledu ac yn gwybod pa mor ddifrifol

oedd pethau. Roedd hi’n gwybod fod staff y

Gwasanaeth Iechyd yn gwneud popeth o fewn

eu gallu i helpu a gwella pobl a’u bod dan straen

enfawr, er na fyddai Nanw fyth yn clywed ei Mam

yn cwyno. Roedd hi yn ceisio ei gorau glas i daflu

llwch i’w llygaid a rhoi'r argraff fod popeth yn

iawn. Ond roedd Nanw wedi sylwi ers tro fod ei

Mam wedi mynd i edrych yn denau ac yn welw.

“Paid â phoeni Nanw fach, daw haul ar fryn. Ac

wrth gwrs mae gennym ni'r brechlyn erbyn hyn yn

does,” gwenodd yn garedig.

Ond roedd Nanw wedi blino aros am yr ‘haul’ i

ymddangos dros y ‘bryn’. Doedd hi ddim yn cysgu

yn dda, nac yn gallu canolbwyntio. Ac wrth gwrs

oherwydd y cyfyngiadau doedd dim modd iddi

siarad efo unrhyw yn iawn, yn enwedig ers...

20
Edrychodd Nanw ar draws y gegin fawr tuag at

ddrws stydi fach ei thad. Gallai weld ei liniadur

agored ar ei ddesg. Y gliniadur y bu ei thad yn

eistedd wrtho yn selog bob dydd dros y cyfnod

clo i wneud ei waith tra ei bod hithau yn eistedd

gyferbyn ag o yn gwneud ei gwaith ysgol hithau.

A’r ddau ohonyn nhw yn helpu ei gilydd. Dad yn

edrych allan drwy’r

ffenest ar yr adar

bach yn yr ardd a

Nanw yn dysgu eu

henwau iddo. A hithau

wrth gwrs yn ei holi

am help hefo’i gwaith

Mathemateg, hoff

bwnc cyfrifydd!

Roedd o wedi bod yn

yr ysbyty ers wythnos

erbyn hyn.

Gwyddai Nanw fod

ei Mam yn beio ei

hun ac yn credu

mai hi ddaeth a’r

Coronofirws gartref.

A bob tro byddai ei

ffôn symudol yn canu

byddai’n neidio allan

o’i chroen. Pingiodd y

ffôn bach a rhuthrodd

i ddarllen y neges.

Llithrodd deigryn

tawel arall i lawr ei

boch.

“Neges gan Anti Lois

yn holi a ydi’r crisial

wedi cyrraedd,”

esboniodd. “Dwed

wrth Nanw bod y

grisial yn hoffi golau.

Dyma fydd yn ei helpu

i greu egni bositif. Mae

angen ei rhoi mewn

lle arbennig i agor ei

bwerau. Bydd Nanw

yn gwybod ble i’w rhoi.”

Ac mi roedd yn gwybod yr union le! Neidiodd

oddi ar y stôl uchel a cherdded tuag at y stydi.

Gosododd y grisial wrth ymyl gliniadur agored

ei thad. Yn syth bin, daliodd y garreg y golau a

dreiddiai drwy’r hollt yn y cyrtens. Edrychodd ar

draws y gegin fawr agored at ei mam a gwenodd

y ddwy mewn dealltwriaeth.

Llwyddodd Nanw i gysgu fel babi y noson honno,

heb droi a throsi a deffro ganol nos. Drannoeth,

aeth i lawr y grisiau i gael brecwast. Roedd Mam

yn eistedd wrth yr ynys frecwast yn aros amdani.

Doedd hi ddim yn

gweithio heddiw

ac yn hytrach na’i

sgrybs glas arferol,

gwisgai ffrog

flodeuog. Roedd

ei gwallt melyn yn

fodrwyau aur dros

ei hysgwyddau ac

yn sgleinio yn haul y

gwanwyn a ffrydiai

drwy’r ffenest.

Edrychai mor hardd.

“Mae’n fore braf

Nanw fach, ac mae

gen i newyddion

da,” gwenodd. “Mae

meddyg o’r ysbyty

newydd ffonio ac

mae Dad yn cael

dod adra ddiwedd yr

wythnos. Tyrd yma...”

Rhedodd Nanw at

ei Mam i gael cwtsh

enfawr. Wrth i’w

dagrau hallt wlychu

ffrog ei Mam, cafodd

ei dallu am eiliad

wrth i hollt o olau

ddod o gyfeiriad

y stydi. Cerddodd

draw a sylwi fod y

crisial oedd wrth

liniadur ei thad wedi

dal pelydrau yr haul

cynnar ac yn eu taflu

i bob twll a chornel.

Llanwyd yr ystafell,

a’i chalon, gydag egni positif. A gwyddai Nanw

fod popeth yn mynd i fod yn iawn. Roedd hynny

yn glir fel crisial.

Stori: Eurgain Haf

21
22

Dewch i adnabod cyflwynydd

Stwnsh Sadwrn, Leah!

O le wyt ti’n dod?

Porthmadog

Hoff gân?

Pob cân gan Beyonce a dwi wrth fy modd

efo Mirores gan Ani Glas!

Hoff fwyd?

Bwyd Eidaleg!

PASTA PIZZA PASTA PIZZA...

hefo lot o gaws..!

Hoff ffilm?

Nes i wylio Soul ar Disney Plus ychydig

wythnosau yn nôl a nes i fwynhau gymaint!

Cas gân?

Fast Food Song!

Cas fwyd?

Burger King

Cas ffilm?

Unrhyw beth sgeri!
Oes ‘na rywbeth amdana ti does

‘na ddim lot o bobl yn gwybod?

Dwi ddim yn dda iawn yn edrych ar ôl fy

mhlanhigion tŷ.

23

Beth wyt ti’n mwynhau gwneud yn dy

amser sbâr?

Ymarfer corff neu os dwi’n ymlacio dwi’n

hoffi gwylio teledu, darllen neu gwrando

ar gerddoriaeth!

Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am fod yn

rhan o dîm cyflwyno Stwnsh Sadwrn?

Yr hwyl ‘da ni’n ei gael a chwerthin ar jôcs

doniol Owain a Jack! Mae nhw’n gwneud i

fi chwerthin LOT.

Oes ‘na rywbeth yn arbennig wyt

ti’n edrych ymlaen ato gyda

Stwnsh Sadwrn?

Dwi’n edrych ymlaen at yr holl sialensau

Owain V Leah sydd i ddod... dwi’n

gobeithio gawn ni wneud sialens cwrs

antur heriol!

Pam ddylai pawb wylio

Stwnsh Sadwrn yn 2021?!

Achos pa ffordd well sydd

yna i ddechrau dy ddydd

Sadwrn ‘di na gweld fi,

Owain a Jack yn bod yn

hollol sili ar dy sgrîn di?

Ac mae ‘na wobrau gwych

ar gael i ennill a lot o

gemau i chwarae!

Stwnsh Sadwrn

8.00 yn fyw

bob bore Sadwrn
24

Chwilair Mawr Nel

Nel yw seren llyfrau stori Na, Nel! Mae Nel yn ferch fach

brysur iawn, yn llawn hwyl a direidi. Dyma rai pethau

mae hi’n hoffi eu gwneud. Alli di ffeindio’r geiriau hyn?

busnesu

chwerthin

canu coginio crefftio

dychmygu

dawnsio darllen cuddio neidio

siarad

tynnu coes

strancio ysgrifennu

Mae’r geiriau’n mynd ar draws, i lawr ac yn lletraws.

chwarae

Un

llythyren

ydy ch, dd,

ff, ll a th

e b d y ch m y g u m u p t m b

y l a d w r ll e g n o w r o g

s n r ch e b ch w a r a e f m y

g c ll y r c p c o g i n i o m

£4.99

r r e m th n e n d s e i b dd o

i a n e i d i o ll i ll g d i dd

f n r d n h r l th r r a t o h

e s i a r a d ff e i d i y n s

£1 yn

unig!

n l e r a b u s n e s u n u t

n i n ll d w g ll l m e th n w r

u c r e ff t i o m i o e u y a

£4.99

w d y n ch a r r th i n m c c n

a d a s n i b e dd d a d o w c

i g a rh g g w u ll t s n e o i

th t w a u u c i d a w n s i o

£4.95

Mae llyfrau Na, Nel! ar werth mewn siopau llyfrau ac ar ylolfa.com
25

Gweld y gwahaniaeth

Edrycha ar y lluniau hyn

o Nel, Mister Fflwff y

gath a Bogel y corrach.

Mae’r llun cyntaf yn

wahanol i’r ail. Alli di

ffeindio 10 peth sy’n

wahanol yn yr ail lun?

£4.99

yr un

Mae llyfrau Na, Nel!

ar werth mewn

siopau llyfrau ac

arlein: www.ylolfa.com
26

Seren a Sbarc
Seren a Sbarc

27
POS PWY?

3

Mae enw rhywun yn cuddio yn y grid.

I’w ddarganfod, edrych ar y lluniau a chroesa allan

lythyren gyntaf pob un.

Bydd y llythrennau sydd ar ôl ar y grid, yn eu trefn,

yn sillafu’r enw.

Anfon yr enw at cip@urdd.org

4

1

2

5

6

B Ff O D

E Ll W P

Ch I S C

A H L M

F N G T

8

7

ATEB

9

11

10

12
Beth wyt ti'n galw

Jac Codi Baw

cyfeillgar?

Jac Codi Llaw!

JÔCS !

Tŷ Bach Mistar Urdd

Beth wyt ti’n

galw 2 ddarn o

fara gyda bîns

yn y canol?

Beth wyt ti’n galw

heddwas o Ynys Môn?

Plîs-Môn!

Rhechdan!

Pam fod y cyfrifiadur yn

gwichian?

Ti’n gafael yn y llygoden!

Beth wyt ti’n

galw heddwas o

Lanberis?

Copa’r Wyddfa!

Lle yw’r pentre

mwyaf swnllyd?

BANG-or!

Diolch i Anna Sion am

rannu'r jôc yma!

BANG-or!

Noc noc.

Pwy sy na?

Tudur!

Tudur pwy?

Wel tyd i’r drws a

chei di weld!

Beth yw enw

mwy nag un

dyn?

Dai!

Beth sydd â 100

o goesau, ond

methu cerdded?

50 pâr o drowsus!

Beth mae tarw yn

gwisgo o dan ei

drwyn?

Mwww-stash

Dyma’r atebion i fy holl

bosau yn y rhifyn yma.

Sawl un ges ti’n gywir?

ATEBION

SYR CIP

1. Annwyl Syr Cip,

Dwi ar fy ngwyliau yng Ngwynedd. Dwi wedi gwylio

dringwyr ar yr Wyddfa a bwydo gwylanod ger Conwy.

Hwyl, Dwynwen

2. a) pryfyn b) malwen c) neidr ch) crocodeil

d) broga dd) cranc e) pilipala f) crwban

3. a) llwytho b) rhwyfo c) crwydro ch) mwynhau d)

brwydro

1. 1) 50 mlynedd 2) Mis 3) Miliwn o flynyddoedd

4) 10-20 mlynedd 5) 6 wythnos 6) 75-80 mlynedd

7) 30-40 mlynedd 8) 500 mlynedd 9) 2-3 mis 10) 6 mis

2. 1) bocs wyau 2) beic (rhan ohono)

3) carped 4) seddi stadiwm

3. a) Ar ôl torri, mae gen ti un cylch mawr.

b) Ar ôl torri, mae gen ti 2 gylch yn sownd wrth ei

gilydd, un mawr ac un hanner ei faint.

Tudalennau 8-9 Tudalennau 20-21

4. 1-ch 2-ch 3-c

29