LLENYDDIAETH GYMRAEG - WJEC
LLENYDDIAETH GYMRAEG - WJEC
LLENYDDIAETH GYMRAEG - WJEC
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG Deunyddiau Asesu Enghreifftiol 25

Yr oedd moto Now Tan Ceris o flaen drws Yr Wylan Wen. Hen beth gwirion, yn

yfed a meddwi. Clywodd lais Gwilym Siop Gig yn chwerthin yn y dafarn wrth iddi

basio'r drws. Hy! Mi fyddai'n well iddo godi llai am ei gig nad oedd ddim gwerth ei

gael pa'r un bynnag na robio pensiwnïars tlawd er mwyn iddo gael pres i slotian.

Tybed faint o garchar mewn gwirionedd . . . ? Fe gâi glywed mewn dau funud.

Dau dŷ a chapel Hebron wedyn ac yr oedd Gladys Davies wedi cyrraedd y

sgwâr. Yma deuai y briffordd o Benerddig, o'r chwith ac o'r dde. I'r chwith, heibio i

dai Stryd Erddig, Gwesty Sant Aron a Garej Wil Drofa Isaf, yr oedd Penerddig

ddeuddeng milltir i ffwrdd ar hyd lôn wastad, lydan a âi drwy bentref Llanaron bum

milltir o Hirfaen. Yr oedd milltiroedd o’r ffordd hon wedi’u lledu a’u sythu’n ddiweddar,

a filltir union o sgwâr Hirfaen, lle croesai Afon Aron o dan y ffordd, codwyd pont

newydd sbon.

Wyth milltir oedd i Benerddig ar hyd y ffordd i'r dde o'r sgwâr, ond yr oedd hon

yn ffordd gulach a mwy troellog na'r ffordd arall, gyda llawer o elltydd ar ei hyd, a'r allt

gyntaf yn cychwyn o'r sgwâr ei hun. Ar ôl cyrraedd pen yr allt hon, yr oedd tir

gwastad am tua hanner milltir, ond wedyn yr oedd yr allt fawr ar ochr Mynydd Ceris

yn cario'r ffordd i grombil y bryniau. Hon oedd y Lôn Ucha, ond ar ôl lledu a gwella'r

Lôn Isa, ni ddefnyddid llawer arni gan y drafnidiaeth leol er bod y siwrnai i Benerddig

yn fyrrach.

Yr oedd Drofa Ganol, hen gartref Gladys Davies, filltir i fyny'r ffordd fach arall a

ddeuai i'r sgwâr gyferbyn â Ffordd y Môr. Ar hyd hon oedd yr Eglwys a'r fynwent a

Thai'r Eglwys. Yna âi'r ffordd gul i fyny'r llethrau heibio'r Maen Hir a dwy neu dair o

ffermydd a dod i gyfarfod y Lôn Ucha ar ben Allt Ceris.

I'r dde aeth Gladys. Yr oedd yn rhaid iddi gymryd mwy o bwyll yn awr oherwydd

yr oedd yn cwyno gan ei brest ac nid oedd wiw brysio i fyny allt o unrhyw fath. Yr

oedd y llythyrdy a siop Hari Jôs wedi cau a cherddodd Gladys ar hyd y palmant cul

nes cyrraedd Siop Pen Stryd, lle cadwai'r Gwilym wirion 'na'i hen gig di-flas. Peth

rhyfedd iddyn nhw wneud i ffwrdd â chrogi hefyd, dyna fyddai haeddiant yr hen

hogyn Wil Parri 'na. Diolch i Dduw na welai mohono eto, fyth, gobeithio.

Yr oedd Gladys Davies yn chwythu cryn dipyn erbyn iddi gyrraedd pen yr allt.

Dyna oedd unig ddrwg y tai newydd 'ma, heblaw gorfod byw y drws nesaf i'r dihiryn

hogyn 'na, sef bod yr allt o'r pentref yn ei lladd braidd. Trodd Gladys Davies o'r

ffordd fawr i ffordd y stad, ac ymhen munud yr oedd yn agor drws Arwelfa, 23 Maes

Ceris.

Edrychodd ar gloc y gegin. Tri munud yn sbâr. Taniodd ei theledu lliw newydd,

anrheg iddi hi ei hun o arian yswiriant bywyd Wil druan, ac eisteddodd ar flaen ei

chadair i rythu'n ddisgwylgar ar y sgrin. Nid oedd amser i dynnu ei chôt.

Pam aflwydd oedd yn rhaid i fiwsig y rhaglen newyddion fod mor hir? Eisiau

newyddion roedd pobl, siŵr, nid eisiau clywed hen ganu gwirion. Petai yna gyngerdd

yn rhywle, fyddai 'na neb yn deud newyddion ar ddechrau hwnnw debyg iawn . . . o'r

diwedd.

"Noswaith dda. Yn Llys y Goron Penerddig brynhawn heddiw cafwyd Meredydd

Parri, pump ar hugain oed o Hirfaen, ger Penerddig, yn ddieuog o dreisio Bethan

Hefina Hughes o'r un pentref. Bu cryn gythrwfl yn y Llys pan gyhoeddwyd y

dyfarniad. Am fwy o fanylion, drosodd at ein gohebydd ym Mhenerddig, Meirion

Gwyn.

Yr Arglwydd Mawr. Yr oedd ei cheg yn agored led y pen a'r glafoer heb iddi sylwi

yn ffos i lawr ei gên. Yr Arglwydd Mawr. Eisteddodd yn ôl yn ei chadair yn hollol

ddiymadferth. Yr Arglwydd Mawr.

5

10

15

20

25

30

35

40

45