LLENYDDIAETH GYMRAEG - WJEC
LLENYDDIAETH GYMRAEG - WJEC
LLENYDDIAETH GYMRAEG - WJEC
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG Deunyddiau Asesu Enghreifftiol 62

(b) Gellir sôn am nodweddion megis:

• llawer o frawddegau byr mewn paragraff (ll.5- 9) i gyfleu cyflwr meddwl

cymysglyd Haul y Bore.

• rhestru berfenwau – ceryddu, canmol, cymell, cydymdeimlo - dangos meddwl

Haul y Bore yn ceisio atgoffa ei hun pwy oedd y llais – yn crynhoi perthynas ei

thad a hi.

• ailadrodd – er mwyn cyfleu ei chynnwrf wrth adnabod llais ei thad

• dangos ei hemosiwn yn crio – “agorodd y llifddorau” – ymadrodd trosiadol

• gwendid – cyffelybiaeth – “fel cadach”

• ofn - “crynu fel ebol newydd-anedig” - gwasgu’r “flanced yn dynnach amdani”

• ymateb tyner Manuelito ati - “llais yn dyner a chysurlon”

• gwrthgyferbynnu rhwng cryfder Manuelito “pâr o ddwylo cryfion”/ “cymryd ei

ferch yn ei gôl fel baban” a Haul y Bore yn ei gwendid

• darn yn y trydydd person ond gwelwn y digwyddiad trwy lif ymwybod Haul y

Bore yn y rhan gyntaf – darllenydd yn medru teimlo gwewyr a phoen y cymeriad

Gellir cyfeirio at nodweddion perthnasol eraill. [10]

8-10 • dadansoddi’n dreiddgar nodweddion megis ffurf, cynllun a mynegi barn am

eu priodoldeb gan gynnwys rhesymau perthnasol

• ymdrin yn dreiddgar ag addasrwydd arddull / techneg / defnydd o iaith gan

ystyried eu heffeithiolrwydd

• defnyddio termau beirniadaeth lenyddol yn dreiddgar

5-7 • trafod nodweddion megis ffurf, cynllun a mynegi barn am eu priodoldeb gan

roi rhai rhesymau

• trafod addasrwydd arddull/techneg a'r defnydd o iaith gan wneud sylwadau

pwrpasol

• defnyddio termau beirniadaeth lenyddol yn dda

2-4 • disgrifio nodweddion ffurf a chynllun ac ymgeisio i fynegi barn am eu

priodoldeb

• dangos dealltwriaeth o arddull/techneg a'r defnydd o iaith

• defnyddio rhai termau beirniadaeth lenyddol

0-1 • ymgais i ddisgrifio rhai nodweddion megis ffurf, cynllun

• cyfeirio at rai elfennau yn yr arddull, techneg a defnydd o iaith

• defnyddio ambell derm beirniadaeth lenyddol