LLENYDDIAETH GYMRAEG - WJEC
LLENYDDIAETH GYMRAEG - WJEC
LLENYDDIAETH GYMRAEG - WJEC
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG Deunyddiau Asesu Enghreifftiol 59

(b) Gellir sôn am nodweddion megis:

• defnydd o gwestiwn rhethregol i gyfleu rhagfarn Gladys

• brawddegau byrion i gyfleu ei brys i gyrraedd adref

• defnydd o frawddegau byrion i gyfleu’r tensiwn yn y tŷ wrth iddi aros am y

newyddion

• ailadrodd i gyfleu ei sioc

• ansoddeiriau

• darn ymsonol ei naws i gyfleu rhagfarn Gladys am yr achos llys ac am

gymeriadau’r pentref e.e. Now Tan Ceris a Gwilym Siop Gig / gweld meddyliau

Gladys yn neidio o un peth i’r llall - sôn am y “Gwilym wirion ’na’i hen gig diflas”.

Y frawddeg nesaf yn sôn mai crogi “fyddai haeddiant yr hen hogyn Wil

Parri ’na”.

• cyferbyniad rhwng diffyg amynedd Gladys i glywed cadarnhad am euogrwydd -

Meredydd (brawddegau byr / cwestiwn rhethregol) a naws safonol diduedd y

person sy’n cyflwyno’r newyddion. Hefyd hyn yn cyferbynnu gydag ymateb

Gladys wedi hynny.

• disgrifiad graffig o geg Gladys ar ôl iddi glywed y newyddion - yn cynnwys

ymadrodd trosiadol – glafoer “yn ffos i lawr ei gên”.

• rhwystredigaeth Gladys yn cael ei gyfleu wrth i’r awdur fanylu ar daith hir ac

anodd Gladys i gyrraedd ei chartref – y daith yn dreth arni o ran ei hiechyd (yr

allt) ac anodd cyrraedd yn ôl erbyn dechrau’r newyddion

Gellir cyfeirio at nodweddion perthnasol eraill. [10]

8-10 • dadansoddi’n dreiddgar nodweddion megis ffurf, cynllun a mynegi barn am

eu priodoldeb gan gynnwys rhesymau perthnasol

• ymdrin yn dreiddgar ag addasrwydd arddull / techneg / defnydd o iaith gan

ystyried eu heffeithiolrwydd

• defnyddio termau beirniadaeth lenyddol yn dreiddgar

5-7 • trafod nodweddion megis ffurf, cynllun a mynegi barn am eu priodoldeb gan

roi rhai rhesymau

• trafod addasrwydd arddull/techneg a'r defnydd o iaith gan wneud sylwadau

pwrpasol

• defnyddio termau beirniadaeth lenyddol yn dda

2-4 • disgrifio nodweddion ffurf a chynllun ac ymgeisio i fynegi barn am eu

priodoldeb

• dangos dealltwriaeth o arddull/techneg a'r defnydd o iaith

• defnyddio rhai termau beirniadaeth lenyddol

0-1 • ymgais i ddisgrifio rhai nodweddion megis ffurf, cynllun

• cyfeirio at rai elfennau yn yr arddull, techneg a defnydd o iaith

• defnyddio ambell derm beirniadaeth lenyddol