06.09.2014 Views

THE COLLEGE OF MEDICINE - Swansea University

THE COLLEGE OF MEDICINE - Swansea University

THE COLLEGE OF MEDICINE - Swansea University

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Sbotolau

Ben Rees

Myfyriwr PhD

Cwblhaodd Ben flwyddyn mewn lleoliad

diwydiannol yn GlaxoSmithKline R&D Ware

rhwng 2009 a 2010, lleoliad cystadleuol

lle cafodd ei gyfweld yn erbyn ymgeiswyr

o wahanol rannau o’r wlad. Yn ystod ei

gyfnod yno, fe’i gwahoddwyd i siarad yng

nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Mwtagenedd

Amgylcheddol y Deyrnas Unedig (UKEMS) yn

2010, a gofynnwyd iddo ddod yn ôl i siarad

â nhw eilwaith yn 2011. Cafodd dderbyniad

da iawn y ddau dro. Pan raddiodd Ben mewn

Geneteg Feddygol, dyfarnwyd iddo Wobr

Geneteg y Coleg Meddygaeth am y radd

anrhydedd dosbarth cyntaf uchaf. Wedi hynny,

bu’n llwyddiannus wrth i GlaxoSmithKline ac

EPSRC ddyfarnu ysgoloriaeth achos iddo ym

Mhrifysgol Abertawe.

Ar hyn o bryd mae Ben wedi cofrestru ar

weithdy entrepreneuraidd EPSRC, ac mae’n

parhau â’i waith ymchwil. Gan fod cewri

diwydiannol megis GlaxoSmith Kline eisoes yn

gwerthfawrogi ei waith yn fawr, bydd mawr alw

amdano fel ymchwilydd pan fydd yn cwblhau

ei PhD. Gwelwyd hyn eisoes gan fod y cwmni

deilliedig, Gentronix, a leolir ym Mhrifysgol

Manceinion, wedi cynnig PhD iddo.

Cyn dod i Brifysgol Abertawe doeddwn i

ddim yn siŵr pa lwybr i’w ddilyn yn y dyfodol

o ran gyrfa, ac roedd dewis Geneteg Feddygol

ynddo’i hun yn dipyn o fenter. Fodd bynnag,

fe ddes i ddeall yn fuan fod gan radd mewn

gwyddoniaeth gymaint i’w gynnig. Pa lwybr

gyrfa arall sy’n caniatáu i chi gwestiynu dogmâu

maes ag ymchwil gyffrous sy’n defnyddio’r

technegau diweddaraf a mwyaf newydd?! Yn

ystod fy ngradd israddedig, bu cynnydd mawr

yn fy hyder a’m galluoedd ysgrifenedig a llafar,

yn ogystal â’m diddordeb yn y maes ymchwil

penodol hwn. Datblygwyd hyn ymhellach yn

ystod fy mlwyddyn o leoliad diwydiannol yn

GlaxoSmithKline R&D, lle cychwynnodd fy

niddordeb personol mewn datblygu a dilysu

profion genotocsig.

MB BCh Meddygaeth Mynediad Graddedig

Defnyddiwyd nifer o strategaethau i sicrhau cyflogadwyedd ar gyfer meddygon dan

hyfforddiant y Coleg, gan gynnwys:

u Dethol ymgeiswyr yn ofalus sy’n arddangos yr agwedd a’r tueddfryd sy’n

ofynnol ar gyfer ymarfer meddygaeth

u Paru’r addysgu, y dysgu a’r asesu â ‘Tomorrow’s Doctors 2009’ y Cyngor

Meddygol Cyffredinol (GMC)

u Ymwneud cynnar ac ailadroddus ag arfer clinigol trwy Gyfleoedd Dysgu yn

y Cyd-destun Clinigol (LOCS), Dysgu yn y Gymuned, Prentisiaethau Clinigol ac

Atodynnau Arbenigedd

u Gweithio’n agos gyda Deoniaeth Ôl-raddedig Cymru i helpu’r pontio i

hyfforddiant ‘Sylfaen’

u Noson gyrfaoedd meddygol flynyddol gyda sgyrsiau gan Feddygon Teulu,

Meddygon Ymgynghorol ac Ymgynghorwyr Gyrfaoedd

u Lansio prosiect - ‘Olrhain hynt ein Graddedigion’ - i edrych ar uchelgais a

dyheadau hyfforddeion yn awr ac yn y gorffennol er mwyn gwella hyfforddiant y

dyfodol.

u Hybu eich defnydd o’r iaith Gymraeg ym mhob agwedd o’ch astudiaethau gan

fod gallu yn yr iaith yn sgil ddefnyddiol iawn wrth ddilyn gyrfa yng Nghymru

u I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Paul Jones ar p.k.jones@swansea.ac.uk

MSc a Diploma ôl-raddedig mewn Sbectrometreg Más Cromatograffaeth Hylif

a Thystysgrif ôl-raddedig mewn Sbectrometreg Más Cromatograffaeth Hylif

Gymwysedig

Defnyddiwyd nifer o strategaethau i sicrhau cyflogadwyedd myfyrwyr meistr

sbectrometreg más cromatograffaeth hylif (LCMS) y Coleg, gan gynnwys y canlynol:

u Datblygu tri chynllun ymarferol (MSc, Diploma ôl-raddedig a Thystysgrif ôlraddedig)

ar y cyd â phartneriaid diwydiannol pwysig yn y DU

u Lluniwyd cynnwys y cwrs gyda diwydiant, ar gyfer diwydiant ac er mwyn

cynnal rhaglenni datblygiad proffesiynol

u Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant ‘ymarferol’ mewn Athrofa ymchwil sydd â

chyfarpar helaeth yn fewnol i wella sgiliau gwyddoniaeth dadansoddol

u Gwahodd darlithwyr gwadd arbenigol o fyd diwydiant

u Annog sgiliau datrys problemau mewn modiwlau er mwyn datblygu sgiliau

meddwl dadansoddiadol, proffesiynol ac academaidd sy’n berthnasol i ystod eang

o ddiwydiannau, gwasanaethau cyhoeddus ac academia

u Datblygu asesiadau sy’n ceisio annog y sgiliau trosglwyddadwy sy’n hanfodol

ar gyfer cyflogaeth, gan gynnwys astudiaethau achos, cyflwyniadau, prosesu data

ac ymarferiadau hysbyseg

u I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Dr Ruth Godfrey ar

a.r.godfrey@swansea.ac.uk

MSc a Diploma ôl-raddedig mewn Llawfeddygaeth Trawma a Llawfeddygaeth

Trawma (Milwrol)

Defnyddiwyd nifer o strategaethau i sicrhau cyflogadwyedd ar gyfer hyfforddeion meistr

y Coleg mewn llawfeddygaeth trawma, yn cynnwys y canlynol:

u Datblygu dwy raglen arloesol, ymarferol (Llawfeddygaeth Trawma a

Llawfeddygaeth Trawma (Milwrol)) ar y cyd â’r GIG, yn ogystal ag Adran

Academaidd Llawfeddygaeth a Thrawma Milwrol (ADMST), y Ganolfan Frenhinol ar

gyfer Meddygaeth Amddiffyn, Birmingham a chyfleusterau milwrol cysylltiedig

u Dethol ymgeiswyr yn ofalus sydd yn arddangos tueddfryd ac agwedd addas ar

gyfer llawfeddygaeth trawma

u Canolbwyntio’r sesiynau addysgol ar sefyllfaoedd moulage ac efelychiadau

sgiliau llawfeddygol er mwyn atgyfnerthu profiad a gwybodaeth ffeithiol â

chymhwysiad clinigol

u Darparu profiad uniongyrchol o sgiliau ymarferol, yn cynnwys cynllunio,

cyflawni a chyfleu strategaethau triniaeth a thactegau llawfeddygol

u Gweithio gyda hyfforddeion i gynllunio datblygiad proffesiynol pellach

u I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Ceri Davies ar c.l.davies@swansea.ac.uk

Graddau Ymchwil i Ôl-raddedigion

Defnyddiwyd nifer o strategaethau i sicrhau cyflogadwyedd ymchwilwyr ôl-raddedig y

Coleg, yn cynnwys y canlynol:

u Mynediad at fodiwlau israddedig a meistr a addysgir er mwyn ehangu gwybodaeth

u Presenoldeb gorfodol ar gwrs “ystadegau ar gyfer biofeddygaeth” ac mewn

seminarau ymchwil biofeddygol a iechyd wythnosol gyda siaradwyr amlwg o fyd

academia a diwydiant

u Estyn cysylltiadau â’r sectorau diwydiannol a fferyllol

u Hwyluso ymweliadau gan gyrff diwydiannol a chyfleoedd i ryngweithio â hwy

u Viva blwyddyn 1af gan academyddion annibynnol

u Diwrnod ymchwil blynyddol i ôl-raddedigion er mwyn datblygu sgiliau

trosglwyddadwy, yn cynnwys cyflwyno, datblygu posteri a rhwydweithio

u Anogaeth i fynychu cyrsiau cysylltiedig â gyrfaoedd a gynigir gan wasanaeth

gyrfaoedd y Brifysgol yn ogystal â noddwyr ysgoloriaethau, megis BBSRC

u Hybu eich defnydd o’r iaith Gymraeg ym mhob agwedd o’ch astudiaethau gan fod

gallu yn yr iaith yn sgil ddefnyddiol iawn wrth ddilyn gyrfa yng Nghymru

u I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Dr Vivienne Jenkins ar

v.e.jenkins@swansea.ac.uk

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!