THE COLLEGE OF MEDICINE - Swansea University
THE COLLEGE OF MEDICINE - Swansea University
THE COLLEGE OF MEDICINE - Swansea University
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Astudiaethau Achos

Cyflogadwyedd

Dr Anthony Lynch

Cyfarwyddwr Byd-eang Tocsicoleg

Genetig, GlaxoSmithKline

Ennynwyd fy niddordeb mewn bod yn

wyddonydd proffesiynol gan fy ngradd

israddedig mewn Geneteg ym Mhrifysgol

Abertawe. Roedd yn darparu sylfaen ar

gyfer gradd ôl-raddedig (eto yn Abertawe)

a sefydlu gyrfa ymchwil mewn mwtagenedd

molecwlaidd a charsinogenedd yng Ngholeg

Imperial, Llundain, cyn ymuno â’r diwydiant

fferyllol fel tocsicolegydd genetig. Bellach

fi yw pennaeth yr uned tocsicoleg genetig

i GlaxoSmithKline, rôl sy’n cyfrannu at

ddatblygu meddyginiaethau newydd i ymateb

i anghenion meddygol cleifion nad ymatebir

iddynt ar hyn o bryd, a hynny ym maes llawer

o afiechydon.

Coleg Meddygaeth

Coleg Meddygaeth

Andrew Phillips

Myfyriwr MB BCh Meddygaeth

Fe glywais i rywbeth ar y newyddion am y

llywodraeth yn caniatáu cyrsiau meddygaeth

pedair blynedd ar gyfer myfyrwyr aeddfed, ac

fe daniodd hynny rywbeth yn fy meddwl oedd

yn gwrthod diffodd, felly fe wnes i gyflwyno

cais. Mae’n anodd cael lle ar y cwrs, ac

mae’n ymrwymiad amser llawn, ond mae pob

darlith wedi bod yn eithriadol o ddiddorol.

Rydych yn cael eich trochi yn glinigol o’r

cychwyn; rydych chi’n mynd i weld yr adran

Damweiniau ac Argyfwng, yn bresennol ar gyfer

ymgynghoriadau gyda Meddygon Teulu, yn

gwneud rowndiau cyffuriau yn y carchar, ac yn

mynd allan gyda pharafeddygon ar nos Wener

er mwyn i chi gael cipolwg gwirioneddol ar

feddygaeth o bob ongl, sydd o gymorth mawr

wrth ddewis y llwybr mwyaf diddorol i chi.

Mae’r Coleg Meddygaeth yn cynnig ystod o gyrsiau amser llawn a rhan amser, ac

mae pob un ohonynt wedi eu dylunio ar y cyd â diwydiant a chyrff llywodraethu i

sicrhau’r mynediad gorau posib i lwybrau gyrfa eitha pendant.

Mae cyrsiau ar gyfer pob lefel astudio, ac maent i gyd yn ymgorffori cyfleoedd gorfodol

ac allgyrsiol i baratoi myfyrwyr ar gyfer eu cam nesaf, boed hynny’n astudio pellach, yn

lleoliad diwydiannol neu chwilio am waith yn annibynnol. Mae’r Coleg hefyd yn sicrhau

bod gan yr holl fyfyrwyr fynediad at alumni, cysylltiadau diwydiannol a chyfleoedd yn y

Athrofa Gwyddor Bywyd, menter ymchwil y Coleg, a gydnabyddir fel cyfleuster ymchwil

ar lefel ryngwladol.

Dangosodd Arolwg Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch 2009/10 (DLHE) fod 82%

o’r myfyrwyr amser llawn, gradd gyntaf, oedd yn dod o’r wlad hon, ac a oedd wedi

gadael y Coleg Meddygaeth, mewn swyddi a/neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl

graddio, ac mae rhai cyrsiau unigol yn ymffrostio mewn cyfradd gyflogaeth o 100% o

fewn yr un cyfnod, gyda 90% mewn swyddi oedd yn ymwneud yn benodol â’u gradd.

BSc Geneteg, Geneteg Meddygol, Biocemeg a Biocemeg Meddygol

Defnyddiwyd nifer o strategaethau i sicrhau cyflogadwyedd myfyrwyr BSc y Coleg, yn

cynnwys y canlynol:

u Gwefan gyrfaoedd, prynhawn gyrfaoedd a chyngor gyrfaoedd, y mae Alumni

yn ymwneud â hwy

u Lleoliadau diwydiannol gyda GlaxoSmithKline a labordai’r GIG

u Estyn cysylltiadau â phrif gyflogwyr yn y diwydiant fferyllol, yn cynnwys Pfizer,

Astra Zeneca a GlaxoSmithKline

u Sgiliau trosglwyddadwy sy’n canolbwyntio ar gyfathrebu mewn modiwlau,

gan gynnwys cyflwyno, ysgrifennu crynodebau, asesu cymheiriaid, asesu

llenyddiaeth wyddonol yn feirniadol ac ysgrifennu CV

u Sgiliau trosglwyddadwy sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth mewn modiwlau, gan

gynnwys elfen “dragons’ den”

u Cysylltiadau agos â chwmnïau recriwtio, gan gynnwys MatchTech, sy’n cynnal

gweithdai CV yn rheolaidd

u Darparu prosiectau blwyddyn olaf o fewn yr Athrofa Gwyddor Bywyd, gan arwain

yn aml at gyfleoedd PhD yn y dyfodol

u I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Dr George Johnson ar

g.johnson@swansea.ac.uk

Cysylltwch â’r Coleg Meddygaeth

i gael rhagor o wybodaeth

www.swansea.ac.uk/medicine | +44 (0)1792 513400