You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Prifysgol De Cymru yn cefnogi

entrepreneuriaeth

Ymhlith y graddedigion di-rif sy'n cymryd eu camau cyntaf i

fyd cyflogaeth, mae niferoedd cynyddol yn symud i ffwrdd o

chwilio am waith ac yn ystyried sefydlu eu busnesau bach eu

hunain.

Er mwyn cefnogi myfyrwyr a graddedigion sydd ag uchelgeisiau

entrepreneuraidd ym Mhrifysgol De Cymru, mae'r

Gwasanaeth Gyrfaoedd yn cynnig cefnogaeth arbenigol

drwy'r Tîm Mentrau Myfyrwyr. P'un a ydych yn ystyried gwaith

llawrydd neu ddatblygu cynnyrch neu wasanaeth newydd,

gall myfyrwyr gael mynediad at fentora un i un, gweithdai

rhyngweithiol, rhwydweithio, cystadlaethau a chyfleoedd

ariannu.

Gwahoddir egin entrepreneuriaid i'r cyfarfod cychwynnol i

drafod syniadau, y broses gychwyn, a'u cyflwyno ar yr amser

cywir i ddarparwyr cymorth allanol, sy'n aml yn cynnwys

Syniadau Mawr Cymru, sy'n cynnig cefnogaeth i'r rhai dan 25

oed ac unedau hybu busnes fel Welsh Ice ac Entrepreneurial

spark.

I ddathlu'r graddedigion sydd wedi dechrau busnesau llwyddiannus

ac yn eu rhedeg yn llwyddiannus erbyn hyn, mae gan

Wobrau Alumni PDC gategorïau sy'n cydnabod ac yn proffilio'r

amrywiaeth o Entrepreneuriaid Cychwynnol a Llwyddiannus ar

draws y byd..

Mae Mentrau Myfyrwyr yn canolbwyntio ar drawsnewid

yr unigolyn o ran gwybodaeth, sgiliau, rhwydwaith,

ac efallai'r pwysicaf oll - hyder! Mae'r Brifysgol yn

amser gwych i brofi syniad mewn amgylchedd diogel a

chefnogol. Y neges i unrhyw un a hoffai ddarganfod

mwy i gefnogi ein graddedigion sy'n entrepreneuriaid

yw 'cysylltwch'.

Meddai Emma Forouzan, Rheolwr Mentrau Myfyrwyr

Maent hefyd yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y BID

(Bright Ideas Den), a gynhelir bob chwarter, ac sydd wedi

caniatáu i gannoedd o fyfyrwyr gyflwyno eu syniadau, ennill

adborth gwerthfawr a chyllid gwerth £40,000 yn ystod yr wyth

mlynedd diwethaf. Gall myfyrwyr wneud cais am unrhyw beth

rhwng £100 a £1,000 i banel o feirniaid allanol sy'n cynnig eu

hamser a'u harbenigedd, yn eu plith, Geraint John a Rhiannon

Jones o Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd, cynhelir Academi

Gweithwyr Llawrydd PDC, gwersyll wythnos o hyd a gynlluniwyd

i helpu myfyrwyr i drawsnewid eu syniadau i greu eu

busnesau eu hunain. Cefnogir hyn gan entrepreneuriaid lleol,

y mae llawer ohonynt yn gyn-raddedigion PDC. Mae'r pynciau'n

cynnwys cynllunio busnes, prisio, gwerthu ar-lein,

rhwydweithio ar gyfryngau cymdeithasol, IP a chontractau.

Mae'r wythnos yn dod i'w therfyn gyda chyfle i wneud cais am

gyllid. Eleni, dyfarnwyd arian i ddeuddeg allan o'r wyth ar

ugain a gymerodd ran, felly'n rhoi cyfle iddynt rannu £2,300

rhyngddynt.

Mae'r Brifysgol hefyd yn estyn allan i gefnogi busnesau bach

a chanolig a sefydliadau trydydd sector yn Ne Cymru drwy

Gyfnewidfa PDC a lansiwyd yn ddiweddar. Mae hwn yn ofod

cydweithredol newydd, wedi'i noddi gan Barclays ac wedi'i

leoli yng Ngampws y Brifysgol ym Mhontypridd.

Mae'r Gyfnewidfa yn siop un stop ar gyfer busnesau sy'n

dymuno manteisio ar y dalent yn y Brifysgol, gan ddarparu

cyngor ar gymorth busnes a'r cyfle i fod yn rhan o rwydwaith

cymorth ehangach. Mae hefyd yn galluogi myfyrwyr i ennill

profiad gwerthfawr ym mywyd go iawn drwy weithio ar

brosiectau byw yn y diwydiant.

Mae nifer o lwybrau i ymgysylltu â Chyfnewidfa PDC, gan

gynnwys Clinig Busnes, sy'n darparu mynediad i fyfyrwyr ac

arbenigedd academaidd, yn ogystal â lle i gydweithio a

rhyngweithio. O'r fan honno bydd cyfle i fusnesau archwilio

opsiynau ar gyfer prosiectau byw, lleoliadau graddedig,

ymchwil, hyfforddiant ymgynghorol, a mynediad i arbenigedd

yn y diwydiant, trwy noddwyr lleol.

I gael gwybod mwy ynghylch sut y gallai eich busnes chi

elwa ar gael mynediad i Gyfnewidfa PDC, ewch i

www.uswexchange.co.uk.

Gallwch hefyd e-bostio uswexchange@southwales.ac.uk

neu ffonio 01443 482 266.

CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | TACHWEDD 2017

5