You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Dysgu fel Teulu

Addysg Gymuned i Oedolion

Rhaid wrth ymarfer eich medrau. Ydych chi erioed wedi teimlo braidd wedi

rhydu pa fo’ch plentyn yn dod adref o’r ysgol a dydych chi ddim yn deall

eu gwaith cartref, ac sy’n ei gwneud hi’n anodd ichi i roi help llaw

Dewch i ymuno yn un o’n rhaglenni Dysgu fel Teulu i roi cymorth

i’ch plentyn a chaboli’ch medrau Rhifedd, Darllen ac Ysgrifennu a

gwaith ar y cyfrifiadur ar yr un pryd. Bydd cyfle i ddysgu rhai

cynghorion byw bywyd iach yn ogystal.

Mae rhaglenni Dysgu fel Teulu wedi bod o gymorth i nifer o rieni i

feithrin medrau newydd a chaboli hen fedrau rydych chi wedi’u

hanghofio. Mae dysgu yng nghwmni’ch plentyn yn ffordd ddelfrydol i

ddod i ddeall sut mae’ch plentyn yn gwneud yn yr ysgol a dod i ddeall pa

mor wahanol yw byd ysgol heddiw, yn ogystal â magu’ch hyder ar yr un pryd.

I gael rhagor o fanylion am gyfleoedd Dysgu fel Teulu yn eich ardal chi,

ffoniwch 01443 743967

Roedd rhaglen Dysgu fel Teulu wedi bod o gymorth i ni ddysgu sut i weithio gyda’n

gilydd fel mam a mab, dysgu sut i wneud pethau yng nghwmni’n gilydd a

chyfathrebu. Mae e wedi dysgu sut mae rhannu, a sut i chwarae gyda phlant eraill.

Mae wedi bod o gymorth i wella’i fedrau lleferydd yn ogystal. Cyn Dysgu fel Teulu

doeddwn i ddim yn gallu mynd allan trwy’r drws ar fy mhen fy hun, roedd rhaid bod

rhywun yn gwmni i mi. Bellach, dw i braidd byth yn cael pwl o banig. Mae Jack yn 6

oed a dim ond nawr rydw i’n mynd ag e i lawr i’r parc ar fy mhen fy hun. Mae wedi

bod o gymorth mawr i mi.

Anna

Dysgu fel Teulu

Dilynwch Gwrs yn Rhondda Cynon Taf 2010/11

31